Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Yn flaenorol ar Lost...

neu feddyliau i’r perwyl hwnnw

Pat Frean

Athrawes Uwch-sgiliau Daearyddiaeth

Yr Ysgol Uwchradd i Ferched, Plymouth

Addewais, yn y rhifyn blaenorol o newyddion mapio,

y byddai pob mathau o bethau’n cael eu cyflawni trwy

ddefnyddio meddalwedd GIS syml yn ystod ein taith

maes ddaearyddiaeth i Ghana fis Mehefin eleni. Yn awr, gyda synnwyr trannoeth, sylweddolaf fy

mod yn rhy uchelgeisiol yn yr hyn roeddwn yn ceisio’i gyflawni mewn un wythnos yn Affrica.

Daeth y rhwystr cyntaf wrth i ni archebu’r meddalwedd Astudiaethau Lleol oddi wrth Soft Teach

Educational. Oherwydd newidiadau staffio hwyr, ni osodwyd cyllideb ein hysgol tan lawer yn

ddiweddarach yn y flwyddyn nag arfer, felly nid oedd yn bosib i ni archebu’r meddalwedd nes ein

bod yn anghysurus o agos at y dyddiad gadael. Er hynny, roedd Soft Teach Educational yn wych

ac atebon nhw ein cais frys trwy sicrhau bod y CDs yn ein cyrraedd trannoeth. Roedd llwytho’r

disgiau yn syml ac mae’n bosib argraffu llawlyfr ardderchog unwaith y mae wedi popeth wedi’i

lwytho. Ychydig o amser a gafwyd i chwarae â’r pecyn cyn inni adael, felly sganiais fap o farchnad

Sekondi-Takoradi a’r cyffiniau. Roedd yn rhaid imi roi sawl cynnig ar hyn oherwydd, unwaith y

mae wedi llwytho, yr hyn a welwch yw’r hyn a gewch ar y map. Allwch chi ddim symud i lawr nac

ar hyd y map os fyddwch chi wedi sganio darn sy’n fwy na’r sgrîn. Llwyddais i gael y maint roedd

ei angen arna’ i yn y diwedd, wedi’i ganoli ar gylch y farchnad yn Sekondi-Takoradi.

Y pryder nesaf oedd bod yn rhaid cofrestru’r meddalwedd i’ch ysgol. Beth fydden nhw’n ei ddweud

pe byddem yn cofrestru’r un meddalwedd i Ahantaman, yr ysgol sy’n bartner i ni yn Ghana?

Fyddai hyn yn gweithio? Felly, ffoniais Soft Teach Educational ac eglurais y broblem. Dywedodd

Soft Teach Educational wrthym am fynd â’n disgiau i Ghana, eu harsefydlu ar y cyfrifiaduron yn

Ahantaman, eu cofrestru i’r ysgol a’u gadael yno. Yna, byddai Soft Teach Educational yn anfon

set newydd i Ysgol Uwchradd Plymouth yn rhad ac ddim a dyna fyddai eu cyfraniad nhw at y

cyswllt. Cyflwynon ni’r meddalwedd i’r ysgol yn y gwasanaeth croeso pan gyrhaeddon ni, ac fe

ffrwydrodd y neuadd! Allai’r Brif Athrawes ddim credu’i lwc, na ninnau ychwaith.

Wrth gwrs, doedd pethau ddim yn ddidrafferth wedi hynny. Roedden ni yn Affrica ac roedd yn

rhaid bod yn barod am yr annisgwyl. Ein bwriad oedd tynnu lluniau, recordio darnau o ffilm fideo

a recordio seiniau yn ystod y dydd, dychwelyd â hyn i’r ysgol min nos a llwytho popeth ar liniadur

ein rheolwr cyfrifiaduron. Yna, gallen ni drosglwyddo ffeiliau drwy’r CD-ROMs i gyfrifiaduron

yr ysgol, sef y cyfrifiaduron yr oedd ef yno i’w harsefydlu. Ond, roedd yna broblem, gan fod y

cyfrifiaduron roedden ni wedi’u hanfon i’r ysgol yn gaeth yn y porthladd yn Accra, oherwydd

sawl rhwystr biwrocrataidd. O’r diwedd, fe gyrhaeddon nhw Ahantaman bedwar diwrnod wedi

inni gychwyn am adref. Golygodd hynny na wnaethon ni ddefnyddio’r meddalwedd Astudiaethau

Lleol o gwbl yn ystod ein hymweliad. Gadawon ni’r disgiau yno a’r gobaith yw y gallwn ddod â

rheolwr y rhwydwaith, sydd newydd ei benodi, ac athro yn Ahantaman draw i Ysgol Uwchradd

Plymouth i gael hyfforddiant rywbryd yn yr hydref. Yna, gallan nhw arsefydlu popeth wedi iddyn

nhw ddychwelyd, a dangos i’r disgyblion sut i’w ddefnyddio.

Y broblem fawr arall wrth weithio yn Affrica yw problem logisteg. Roedd wyth myfyriwr o

Plymouth, wyth o Ahantaman, ac o leiaf dau aelod o staff o’r ddwy ysgol i’w cludo bob dydd...

mewn bws mini 17 sedd. Bu oedi hir bob dydd tra byddai cludiant ychwanegol yn cael ei drefnu.

O’r herwydd, roedden ni’n hwyr iawn ac yn aml ni fyddai amser ar ôl i gwblhau casglu data.

Roedden ni hefyd yn cael ein trin fel gwesteion anrhydeddus ac roedd pawb am ein croesawu’n

swyddogol. Roedd y seremonïau hyn yn faith ac, yn aml, yn torri ar draws ein teithlen arfaethedig,

ond roedden nhw’n fraint fawr ac roedd yn bwysig ein bod yn bresennol.

Yn wreiddiol, roeddwn wedi ceisio dwyn perswâd ar awyrlu Ghana i’n cludo i fyny yn un o’u

hawyrennau er mwyn tynnu awyrluniau o’r ddinas. Wedi inni ofyn i aelod o Rotary ® yn Sekondi-

Takoradi edrych ar y posibilrwydd inni, dywedwyd wrthym y gellid bod problemau gan fod newid

8 newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006

www.ordnancesurvey.co.uk/addysg

ar ddod i reolaeth gorsaf yr awyrlu. Gallai hyn achosi rhai problemau o ran sicrhau yswiriant. Gan nad oedd yno adeiladau

uchel i’w dringo, rhoddwyd y gorau i’r syniad o awyrlun.

Rhywbeth oedd yn tynnu sylw, nad oedden ni wedi’i ragweld, oedd llwyddiant Ghana yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd.

Roedd y diwrnod y gwnaethon ni ei ddewis i fynd i gylch y farchnad a thynnu ein lluniau digidol yn digwydd bod y diwrnod

roedd Ghana’n chwarae yn erbyn UDA. O fod wedi gweld yr ymateb pan enillodd Ghana eu gemau blaenorol yn ystod

ein taith awyren i Accra, pan ofynnodd y capten i bawb ymuno i ganu anthem genedlaethol Ghana, fe ddylen ni fod wedi

sylweddoli faint o frwdfrydedd ynghylch y gêm fyddai’n ein cyfarch wrth inni gyrraedd y farchnad.

Fe wnaethon ni recordio holl seiniau’r farchnad wrth inni gerdded trwodd, ac roedd baner Ghana wedi’i phaentio ar ein

hwynebau i’n dynodi’n gefnogwyr. Roedd y sŵn yn anhygoel, gyda phawb yn canu caneuon gwladgarol ac yn gweiddi

arnon ni i ymuno. Bydd y ffeiliau sain hyn yn ychwanegiad diddorol at ein map GIS. Nid ydyn nhw’n hollol nodweddiadol

o’r farchnad, ond efallai fod hynny’n eu gwneud yn fwy unigryw fyth. Roedd fy nghydweithiwr, Leon, wedi mynd â’i

gamera Polaroid ® ac wedi cymryd lluniau o’r stondinwyr a’u cyflwyno iddyn nhw. Yna, roedd y bobl hyn yn fodlon i mi

dynnu lluniau digidol ohonyn nhw a’u stondinau. Felly, mae gennym rai lluniau bywiog iawn o du mewn y farchnad, na

fydden ni fel arall wedi cael caniatâd i’w tynnu. Gresyn nad oes gennym ni hefyd gopïau o’r lluniau Polaroid. Efallai y

byddai rhywun yn gallu gweithio ar ddatblygu Polaroid fyddai hefyd yn gallu storio’r lluniau.

Rhannwyd y myfyrwyr yn grwpiau o bedwar, sef dau o fyfyrwyr Ahantaman gyda dau o fyfyrwyr Ysgol Uwchradd Plymouth.

Rhoddwyd adran o gwmpas min cylch y farchnad i bob grŵp dynnu lluniau ynddi gyda chamerâu digidol. Gofynnwyd iddyn

nhw dynnu lluniau i bedwar cyfeiriad ym mhob lleoliad. Fe wnaethon nhw hyn ond roedd peth anrhefn yn y sŵn aflafar a rhaid

oedd inni ymadael braidd yn sydyn, pan ddechreuodd rhai pobl gwffio. Teimlem nad oedd y myfyrwyr bellach yn ddiogel.

Tasg hir oedd rhoi trefn ar y ffotograffau ac, yn rhy hwyr, fe sylweddolais fod angen i’r map sylfaen roeddwn i’n ei ddefnyddio

fod hyd yn oed yn fwy ei faint, a chanolbwyntio fwy fyth ar gylch y farchnad, oherwydd y nifer fawr o ffeiliau lluniau roeddwn

angen eu hatodi. Rydyn ni wedi ceisio dylunio pictogramau Affricanaidd nodweddiadol, gan nad yw’r rhai Prydeinig yn hollol

addas i’n diben. Mae’r rhain yn hawdd i’w dylunio gan ddefnyddio’r meddalwedd, oherwydd eich bod yn eu creu ar raddfa

fawr iawn. Felly, pan fyddan nhw’n cael eu lleihau i’w defnyddio, byddan nhw’n edrych yn llawer mwy soffistigedig.

Mae angen gwneud cryn dipyn i’n map o hyd i’w wneud yn ddefnyddiol. Rydyn ni am ychwanegu sawl anodiad, a bydd

angen amser, ond credaf y byddwn wedi creu adnodd diddorol dros ben yn y pen draw. Yn bwysicaf oll, mae gan y

myfyrwyr a gyfrannodd ato ymdeimlad o berchnogaeth go iawn ac maen nhw’n falch iawn ohono.

www.ordnancesurvey.co.uk/addysg

newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 9