10.01.2013 Views

Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...

Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...

Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Mapiau rhad ac am ddim Mapiau rhad ac am ddimMapiau rhad ac am ddim Mapiau rhad ac am ddim

Mae dros 95% o athrawon o’r farn fod y cynllun mapiau rhad ac am ddim

‘yn fuddiol’ neu ‘yn fuddiol iawn’ wrth helpu plant i ddeall mapiau.

Ydw, dw i’n credu ei fod yn bendant yn helpu ...gallan nhw weld y lle

yn eu pen a dyna fo ar y map, yn hytrach na fel arall rownd.

Effaith ar fwynhad disgyblion o fapiau

– hunanganfyddiad disgyblion

Cyn y cynllun mapiau rhad ac am ddim, dywedodd bum gwaith cymaint

o ddisgyblion o’r ysgolion peilot nad oedden nhw’n mwynhau defnyddio

mapiau (53%) ag a ddywedodd eu bod yn mwynhau eu defnyddio (9%).

Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae nifer y disgyblion sy’n mwynhau

defnyddio mapiau wedi treblu (37% nawr) o’i gymharu â ffigyrau cyn y

cynllun. Felly hefyd, dywed hanner cymaint (26% nawr) o ddisgyblion

nad ydyn nhw’n mwynhau mapiau.

‘Wel, mae’n

fwy corfforol,

felly fe gewch

gyfle i wneud

rhywbeth...

fel arfer dim

ond eistedd

ac ysgrifennu

fyddwch chi.’

Bachgen

Mwynhau mapiau

– canfyddiad athrawon (arolwg e-bost cenedlaethol)

Mae dros 97% o athrawon yn gyson o’r farn fod y cynllun mapiau rhad

ac am ddim ‘yn fuddiol’ neu ‘yn fuddiol iawn’ wrth alluogi disgyblion i

fwynhau daearyddiaeth.

Pwysigrwydd mapio

– canfyddiad disgyblion

Cyn y cynllun mapiau rhad ac am ddim, dywedodd traean (36%) o

ddisgyblion yr ysgolion peilot fod mapiau’n bwysig. Bedair blynedd yn

ddiweddarach, mae nifer y disgyblion o’r garfan beilot sy’n ystyried bod

mapiau’n bwysig wedi dyblu (60% nawr).

‘Mae gallu

darllen

mapiau’n rhoi

rhyddid ichi...

yn eich helpu

i ddod o hyd

i wybodaeth

am leoedd, lle

rydych chi, yn

eich atal rhag

mynd ar goll...

yn agor y byd.’

Merch

Pa mor ddefnyddiol yw’r adnoddau a ddaw

gyda’r mapiau rhad ac am ddim?

Nododd tua 94% o’r athrawon a holwyd yn 2005 eu bod yn gweld y

deunyddiau a ddaw gyda’r mapiau rhad ac am ddim yn ‘ddefnyddiol’

neu’n ‘ddefnyddiol iawn’.

‘...roedd y daflen ‘heb drafferth yn y byd’ yn

wych ar gyfer gwaith cartref.’

Disgyblion anghenion arbennig a

mapiau rhad ac am ddim

Mae’r cynllun mapiau rhad ac am ddim yn

targedu disgyblion y brif ffrwd ond mae

niferoedd sylweddol o ysgolion arbennig

hefyd yn dewis cymryd rhan. Archebodd

483 o ysgolion arbennig 6 518 map yn 2005.

Cred 788 o ysgolion arbennig eraill na fyddai’r

cynllun o fudd iddyn nhw ac nid ydyn nhw’n

cymryd rhan ynddo.

‘... dywedodd un wrtha i “...pan fyddwn

ni’n mynd i rywle nawr, byddwn ni’n rhoi ei

fap ar fwrdd y gegin a byddwn ni’n dangos

iddo lle y mae ac yna i ble rydyn ni’n mynd.

Mae hyn yn golygu ei fod yn teimlo ei fod

yn berchen ar ei amgylchedd oherwydd

gall weld ar y map lle mae’n byw ac i ble

mae’n mynd.”’

Darllen map heb

drafferth

Canterbury

& the Isle of Thanet

Herne Bay, Deal & Whitstable

Showing part of the North Downs Way

The essential map for outdoor activities

1:25 000 scale 4 cm to 1 km – 2 1 /2 inches to 1 mile

4 newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 www.ordnancesurvey.co.uk/addysg

150

Ashdown Forest

Royal Tunbridge Wells, East Grinstead,

Haywards Heath & Crowborough

The essential map for outdoor activities

1:25 000 scale 4 cm to 1 km – 2 1 /2 inches to 1 mile

135

1:25 000 scale 4 cm to 1 km – 2 1 /2 inches to 1 mile

Torquay & Dawlish

Newton Abbot

Showing part of the South West Coast Path

The essential map for outdoor activities

110

Cynhelir arolwg trylwyr i edrych ar anghenion

ysgolion arbennig yn 2006-07.

Disgyblion buddugol

yn dysgu crefft

goroesi

Sharron Ward

yr Arolwg Ordnans

Mae dwsin o blant lwcus o ledled Prydain wedi graddio’r

wythnos hon yn arbenigwyr goroesi wrth i’w sgiliau darllen map

ennill diwrnod iddyn nhw yng nghwmni Ray Mears, y cyflwynydd

teledu a’r arbenigwr ar oroesi, yn dysgu sgiliau byw yn y gwyllt.

Yn ystod y dydd, dysgodd y disgyblion dechnegau cyfeiriannu a byw yn

y gwyllt gyda chyflwynydd World of Survival mewn lleoliad cyfrinachol

mewn coedwig yn Sussex.

Enillodd y plant eu diwrnod goroesi, sef y brif wobr, mewn cystadleuaeth

genedlaethol wedi’i chysylltu â chynllun Mapiau rhad ac am ddim i

ddisgyblion 11 oed yr Arolwg Ordnans. Dyma un o’r mentrau adnodd

addysgol fwyaf o’i bath, wrth i hyd at 750 000 o ddisgyblion elwa o

anrheg o fap manwl Explorer yr Arolwg Ordnans bob blwyddyn.

Roedd y diwrnod yn wobr addas i’r deuddeg disgybl a enillodd y

gystadleuaeth drwy ateb cwestiynau am ddarllen map a disgrifio sut y

maen nhw’n defnyddio’u map Arolwg Ordnans rhad ac am ddim. Mae’n

amlwg i’r cyfle hwn fod yn brofiad fyddai’n newid bywyd rhai o’r enillwyr,

wrth iddyn nhw gael eu hysbrydoli gan Ray Mears â’i angerdd dros

sgiliau darllen map a thros ddeall yr amgylchedd a gofalu amdano.

www.ordnancesurvey.co.uk/addysg

Dechreuodd cariad Ray at yr awyr agored yn

ystod ei fagwraeth yn ne Lloegr, ar y North

Downs, lle daeth o hyd i gefn gwlad llawn

bywyd gwyllt. Nawr mae am i blant a phobl

ifanc ddefnyddio’u mapiau rhad ac am ddim

oddi wrth yr Arolwg Ordnans i brofi’r un wefr

ag a wnaeth ef wrth fynd ati i fforio.

Meddai Ray Mears:

‘Yn wir, cychwynnodd fy nghariad

at yr awyr agored pan oeddwn

yn blentyn. Wrth chwilio am

antur, dw i’n cofio cychwyn allan

gyda’m cwmpawd a’m map

Arolwg Ordnans cyntaf erioed,

a mwynhau’r rhyddid roedd y

dyfeisiadau yma’n eu cynnig i

mi. Mae rhoi map o’u heiddo’u

hunain i blant a phobl ifanc yn

rhoi’r cyfle iddyn nhw wneud yr

hyn wnes i: mynd allan i’r awyr

agored a fforio, a dysgu sgiliau

cyfeiriannu hanfodol yr un pryd.’

Cynhaliwyd gweithdy sgiliau cyfeiriannu ar y

diwrnod, lle dangosodd Ray Mears i’r plant sut

i weithio gyda chyfeirnod grid ar fap. Dilynwyd

hyn gydag arddangosiad yn nyfnderoedd y

goedwig, lle dangosodd Ray sut i ddynwared

cri’r carw – denodd fwch carw i droi rownd i syllu

newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 5

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!