Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
(parth cyhoeddus Wikipedia)

Dylen nhw ddeall sut i addasu tryloywder y

troshaenau a sut i ddangos a chuddio’r haenau

hyn. Byddai’n ddefnyddiol pe baen nhw hefyd

yn gyfarwydd â defnyddio’r offeryn mesur. Yn

fy mhrofiad i, gellir addysgu’r sgiliau hyn yn

weddol hawdd mewn un wers. Rwyf yn argymell

defnyddio’r dref leol fel ardal enghreifftiol.

MAN CYCHWYN POSIBL

Gellid defnyddio nifer o weithgareddau i gyflwyno’r dasg.

1 Dangos llun o ddifrod daeargryn i’r

myfyrwyr. Trafod y syniad bod cynllunwyr

yn ceisio lleihau effeithiau gwaethaf

daeargrynfeydd trwy ddylunio dinasoedd

mwy diogel. Sut allen nhw wneud hyn?

Mae ffilm y BBC ® Tokyo Earthquake (gellir

archebu hon trwy www.bbcactive.com/

BroadCastLearning/asp/catalogue/productdetail.

asp?productcode=21714) (cyfres QED ) yn

gyflwyniad gwych hefyd.

2 Rwyf wedi paratoi tudalen am adeiladu

bwrdd ysgwyd daeargryn yma; byddai

hwn yn rhagflaenydd neu’n weithgaredd

dilynol da. (Juicy Geography Make a Shaker

Maker www.juicygeography.co.uk/shaker.htm).

3 Edrych ar y arddangosiadau seismograff

amser real a gynhyrchwyd gan yr USGS

(USGS data seismogram http://quake.usgs.

gov/recent/helicorders/index.html) neu ddata

daeargrynfeydd amser real ar glôb rhithwir

megis Earth Browser (Earth Browser Interactive

Earth Globe www.earthbrowser.com/),

World Wind (World Wind, sef glôb rhithwir gan

NASA http://worldwind.arc.nasa.gov) neu

Google Earth. (Cyswllt rhwydwaith Real-Time

Earthquakes Google Earth a gyhoeddir gan yr USGS

http://earthquake.usgs.gov/regional/nca/

virtualtour/global.php). Byddai cynnwys

un o’r adnoddau hyn yn y wers yn

ychwanegu hygrededd.

CYFLWYNIAD I FFEILIAU GOOGLE EARTH

Mae clicio ar ffolder prosiect San Francisco yn mynd â ffenestr Google

Earth i drosolwg o Ardal y Bae. Rwy’n argymell caniatáu i fyfyrwyr dreulio

amser yn fforio’r ddinas drwy ddefnyddio’r panoramas a’r gwegamerâu

ynghyd â nodweddion megis adeiladau 3-D a thir o ffenestr Layers.

Dylid arwain y

myfyrwyr i edrych ar

bob un o haenau’r

prosiect yn ei thro,

gan gychwyn, o

bosib, â’r un sy’n

dangos ffawtiau Ardal

y Bae. Gellir chwyddo

allan o’r map hwn yn

sylweddol er mwyn

dangos sefyllfa San

Francisco mewn

perthynas â’r prif

barthau o ffawtiau

yng Nghaliffornia.

Dylid archwilio’r

map sy’n dangos y

ddaeareg waelodol

a’r potensial

daeargrynol tra’n

edrych ar yr haenau

manwl iawn sy’n

dangos yr ardaloedd

mewn perygl o

hylifiad a thirlithriad.

Mae’r ddyfais lithro sy’n amrywio

tryloywder y troshaenau yn hynod

bwysig! Dylai’r athro arddangos hyn,

a hefyd y dechneg ar gyfer dangos a

chuddio haenau.

Mae cyswllt rhwydwaith ddynamig i

leoliadau daeargrynfeydd diweddar

a allai ddangos cydberthynas dda

â’r map o ffawtiau Ardal y Bae. Mae

angen i fyfyrwyr ddeall hefyd sut i

ddefnyddio’r data o’r panel haenau yn Google Earth.

Mae tiwtorial gydag animeiddiadau Flash ar gael o Juicy Geography, i

arddangos ffeil y prosiect (tiwtoriad wedi’i seilio ar Flash Juicy Geography

http://www.juicygeography.co.uk/sanfran%20tutorial.htm).

Y DASG: DELWEDDU DINAS FWY DIOGEL

Yna gellid cyfarwyddo’r myfyrwyr i feddwl am y gofynion ar gyfer adeilad

ysbyty newydd. Gallan nhw ddod o hyd i ysbytai sy’n bodoli eisoes trwy roi’r

haen briodol yn Google Earth ar waith, ac ystyried pa wybodaeth arall a allai

fod yn berthnasol, er enghraifft, dwysedd y boblogaeth ac isadeiledd megis

ffyrdd a rheilffyrdd. Byddan nhw’n ystyried y risg o beryglon sy’n deillio o

weithgaredd seismig ac, os oes modd iddyn nhw ddefnyddio fersiwn Pro o

Google Earth, gallen nhw luniadu polygonau syml i nodi ac i anodi ardaloedd

32 newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 www.ordnancesurvey.co.uk/addysg

o’r ddinas a fyddai’n addas ar gyfer yr ysbyty

newydd. Mae marciau lleoedd anodedig yr un

mor effeithiol yn y fersiwn rhad ac am ddim.

YMESTYN AC ASTUDIO’N

ANNIBYNNOL

Gellir ymestyn y dasg i roi her i’r ystod gallu

cyfan. Gellid gofyn i fyfyrwyr leoli amrywiaeth

o nodweddion eraill ag anghenion lleoliad

gwahanol, er enghraifft, stadiwm chwaraeon

newydd, neu ardal breswyl gyda marciau

lleoedd wedi’u hanodi’n ofalus. Gallai’r

marciau lleoedd, a’r testun gyda nhw sy’n eu

disgrifio, ffurfio sail ar gyfer asesiad.

Trwy ddefnyddio’r offer lluniadu yn Google Earth

Plus/Pro, gallan nhw ddylunio a lleoli nodweddion,

er enghraifft, ffyrdd neu reilffyrdd newydd,

ac fel y dangosaf ar blog Digital Geography,

gellir gwireddu gweledigaethau uchelgeisiol o

adeiladau 3-D gyda meddalwedd megis SketchUp

(meddalwedd SketchUp www.sketchup.com/), neu

gellid lawrlwytho adeiladau o 3-D Warehouse a’u

hychwanegu at Google Earth. (Digital Geography

yn defnyddio 3-D Warehouse yn yr ystafell ddosbarth

http://www.digitalgeography.co.uk/archives/2006/08/

using-3d-warehouse-in-the-classroom-short-notes/).

Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn cyrraedd y cam

lle byddan nhw’n ychwanegu eu troshaenau

eu hunain, er enghraifft, map i ddangos risg

sy’n deillio o orlifo argae. (Bay Area Dam Failure

Inundation Maps http://www.abag.ca.gov/bayarea/

eqmaps/damfailure/dfpickc.html).

ASESU

Dylid addysgu’r myfyrwyr i reoli a chadw eu

gwaith trwy ddefnyddio strwythur ffolder My

Places Google Earth. Mater syml yw cadw gwaith

ar ei ganol, gan gynnwys unrhyw bolygonau

newydd neu wybodaeth marciau lleoedd mewn

ffolder newydd. Yna, gellir ei allforio o My Places

i leoliad arall, er enghraifft, My Documents

neu i gyfrwng y gellir mynd ag ef adref ar

gyfer gwaith cartref. Gall fod o fudd defnyddio

asesiad cyfoedion unwaith y bydd y dasg wedi’i

chwblhau, yn enwedig os oes taflunydd digidol

ar gael. Gall y grwpiau gyflwyno’u cynlluniau i

weddill y dosbarth ac efallai y bydd yr athro am

fforio posibiliadau chwarae rôl.

CASGLIAD

Mae delweddu dinas fwy diogel yn cynnig y

cyfle i fyfyrwyr ddeall yr egwyddorion sydd y tu

cefn i GIS. Mae natur weledol y gweithgaredd

yn apelio at bob math o ddysgwyr ac fe fydd

y myfyrwyr yn gwerthfawrogi bod cynllunwyr

dinas yn San Francisco yn gwneud yr un dasg

yn union ac yn defnyddio setiau data tebyg.

Dengys y dasg botensial hynod cymwysiadau

megis Google Earth i gyflawni deilliannau

go iawn sy’n ystyrlon heb i’r ‘dechnoleg

danseilio’r addysgu’.

Adnoddau

Y dasg Gellir lawrlwytho ffeil prosiect San Francisco yma

(tua 2.7 Mb) –

www.juicygeography.co.uk/googleearthsanfran.htm

Mae’r USGS newydd gyhoeddi adnodd newydd gwych ar

berygl daeargrynfeydd yn San Francisco. Mae ystod eang

o ddata ar gael fel ffeiliau Google Earth, rhai ohonyn nhw’n

cyflenwi neu hyd yn oed yn disodli’r ffeiliau sydd wedi’u

cynnwys yn ffolder y prosiect –

http://earthquake.usgs.gov/regional/nca/virtualtour/global.php

San Francisco Tudalen daeargrynfeydd y San Francisco

Chronicle - www.sfgate.com/earthquakes/

Panoramas realiti rhithwir San Francisco o Zurdo Go -

www.zurdogo.com/panos/index.html

Google Earth yn yr ystafell ddosbarth Mae gan Juicy

Geography ganllaw ar Google Earth i’r athro daearyddiaeth -

www.juicygeography.co.uk/googleearth.htm

Mae Alan Parkinson wedi cynhyrchu canllaw gynhwysfawr i

ddefnyddwyr ar ei safle tudalennau daearyddiaeth -

http://www.geographypages.co.uk/googlearth.htm

newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 33

www.ordnancesurvey.co.uk/addysg