Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
www.geography.org.uk

furthering the learning and

teaching of geography

30 newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 www.ordnancesurvey.co.uk/addysg

Annual Conference

and Exhibition

GEOGRAPHICAL

FUTURES

University of Derby • 12-14 April 2007

• Value for money CPD

• Extensive programme of topical

lectures

• Hands-on workshops for all phases

• Teacher-to-Teacher GIS series

• Forums to voice your opinions on

current issues

• Keynote address on ‘Lessons for

the Future’

• UK’s largest geography resources

exhibition

• Evening and daytime social events

Visit

www.geography.org.uk/events/annualconference

for further details

San Francisco:

delweddu dinas fwy diogel

(Mae’r lluniau sgrîn o Google Earth 4 beta)

CYFLWYNIAD A CHEFNDIR

Disgrifia’r erthygl hon ymarfer penderfynu

profedig sy’n gofyn i fyfyrwyr ddewis lleoliad ar

gyfer adeilad newydd yn San Francisco. Maen

nhw’n defnyddio amrywiaeth o wybodaeth

ofodol i leihau risg daeargryn i’r safle a

ddewiswyd. Dangosaf innau sut y gellir defnyddio

Google ® Earth (http://earth.google.com/) fel sail i’r

broses penderfynu, sef system gwybodaeth

ddaearyddol (GIS) gynhwysfawr sy’n caniatáu

i fyfyrwyr o bob gallu ddadansoddi data

gofodol go iawn yn rhwydd. Bydd troshaenau’n

darparu gwybodaeth fanwl ynghylch dwysedd y

boblogaeth, incwm aelwydydd, potensial hylifiad

a thirlithriad yn ogystal â daeareg waelodol.

Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar haenau cynhenid

Google Earth megis adeiladau 3-D, ffyrdd,

rheilffyrdd, tir ac adeiladau cyhoeddus i ddarparu

gwybodaeth ar gyfer eu penderfyniadau. Ceir

digon o gyfle ar gyfer ymchwil annibynnol ac fe

ddylai myfyrwyr allu cyrraedd y safonau uchaf

mewn daearyddiaeth ac mewn TGCh.

Mae’r gweithgaredd hwn yn dipyn o Greal

Sanctaidd bersonol i mi. Bûm yn rhoi gwaith

ymarfer cynllunio i fyfyrwyr ers sawl blwyddyn ar

gyfer gwneud San Francisco yn lle mwy diogel yn

ystod daeargrynfeydd mawr. Defnyddiais adnodd

ardderchog gan John Widdowson yng ngwerslyfr

Earthworks 3 (t19, John Widdowson, 2000, John

Murray (Publishers) Ltd) sydd, yn y bôn, yn gofyn

i fyfyrwyr gymharu mapiau o beryglon seismig a

phriffyrdd ac adeiladau. Byddan nhw’n defnyddio

papur dargopïo i gynllunio rhai adeiladau newydd,

gan ystyried yr isadeiledd sy’n bodoli a pheryglon

seismig posibl. Bûm yn gweithio’n betrus am

gyfnod ar ddefnyddio TGCh yn lle papur dargopïo

a bûm yn fforio’r gwahanol wylwyr GIS ar-lein

sy’n gwasanaethu data ar gyfer rhanbarth San

Francisco, er enghraifft, Shaking Maps ar safle

ABAG (Association of Bay Area Governments http://

gis.abag.ca.gov/website/Shaking-Maps/viewer.htm).

Gwelais fod y gwefannau rhyngweithiol hyn, er yn

ddiddorol, yn aml yn rhy araf neu’n anrhagweladwy

yn yr ystafell ddosbarth ac ni fydden nhw’n hoelio

sylw’r myfyrwyr yn ddigonol. Golygodd dyfodiad

Google Earth y gellid trawsnewid yr ymarfer i greu

ymarfer penderfynu syml ond hynod ddiddorol.

Mae amrywiadau posibl diddiwedd i’r wers hon,

sydd wedi’i hysbrydoli gan y syniadau gwreiddiol

yn nhestun Earthworks 3.

Y GWEITHGAREDD DYSGU

Ystyriaethau

Byddwn yn awgrymu y dylai myfyrwyr weithio

mewn grwpiau bach, pob un yn gallu defnyddio

cyfrifiadur â chysylltiad Google Earth.

Bydd angen lawrlwytho ffeil fechan (2.6 Mb) o

wefan Juicy Geography

(www.juicygeography.co.uk.googleearthsanfran.htm)

a’i hagor yn Google Earth.

Rhaid dysgu rhai sgiliau Google Earth sylfaenol

i’r myfyrwyr. Rwyf wedi paratoi canllawiau

defnyddwyr gweledol a lliwgar y gellir eu

hargraffu a’u lamineiddio. Mae’r rhain ar gael

o’r blog Digital Geography.

(Canllawiau defnyddwyr Google Earth: Fersiwn 4 yn

Digital Geography

www.digitalgeography.co.uk/archives/2006/08/

simple-guides-to-google-earth-version-4/.

Fersiwn 3 yn Digital Geography

www.digitalgeography.co.uk/archives/2006/03/

google-earth-visual-guide/)

Yn y bôn, rhaid

i fyfyrwyr allu

trefnu cynnwys

My Places a

Layers panels, a

hefyd gwybod sut

i greu a golygu, yn

sylfaenol, marciau

lleoedd.

Noel Jenkins

Athro Uwch-Sgiliau ar gyfer

Daearyddiaeth a TGCh,

Ysgol Gymunedol Court Fields,

WELLINGTON, Gwlad yr Haf.

Gwefan: www.juicygeography.co.uk;

Blog: www.digitalgeography.co.uk

newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 31

www.ordnancesurvey.co.uk/addysg