Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Plant yn

mapio’r bydDavid Forrest

FBCart.S Cadeirydd

Pwyllgor Cartograffeg y Deyrnas Unedig

Y Gymdeithas Gartograffig Brydeinig

Crëwyd Cystadleuaeth Map y Byd Barbara Petchenik

i Blant ym 1993 gan y Gymdeithas Gartograffig

Ryngwladol (ICA) i goffáu Barbara Bartz Petchenik,

cartograffydd fu’n astudio sut mae plant yn amgyffred

mapiau. Nod y gystadleuaeth yw hybu portreadau

creadigol plant o’r byd ar ffurf graffig. Erbyn heddiw,

mae miloedd o blant o bum deg dwy o wledydd wedi

rhoi cynnig ar y gystadleuaeth.

Cynhelir y gystadleuaeth bob dwy flynedd, ar gyfer plant hyd at 16 oed.

Enwebir pum cynnig o bob gwlad sy’n cymryd rhan i’w harddangos mewn

arddangosfa arbennig yn ystod Cynhadledd Gartograffig Ryngwladol.

Bydd arbenigwyr cartograffig yn beirniadu’r cynigion rhyngwladol mewn

categorïau grwpiau oedran priodol. Anfonir y mapiau gorau at UNICEF

i’w hystyried ar gyfer cardiau cyfarch, yn ogystal â derbyn tystysgrif a

gwobr oddi wrth yr ICA.

Cyhoeddwyd llyfr yn cynnwys 100 o’r lluniadau mwyaf dychmygus

yn ddiweddar, i ddathlu 10 mlynedd o’r gystadleuaeth. Mae’r plant

wedi defnyddio amrywiaeth o gyfryngau i greu eu delweddau: cafodd

mapiau eu lluniadu, eu paentio, eu lliwio â chreonau, eu gwnïo a’u

gwau. Cafodd rhai eu gludo o glytiau o ddefnyddiau a chafodd un ei

baentio ar garreg! Defnyddiodd y plant amrywiaeth o arddulliau artistig

hefyd, gan adlewyrchu’r amgylchedd gweledol amryfath maen nhw’n

tyfu i fyny ynddo. Yn aml, dangosir y byd ‘yn ein dwylo ni’ a dangosir

pobl o lawer gwlad yn dal dwylo mewn cyfeillgarwch. Ystrydebau yw’r

rhain i oedolion, o bosib, ond i blant fe allan nhw fod yn gyfrwng cynnar

i ddeall cyfrifoldeb amgylcheddol a chydweithio rhyngwladol. Mae

tystiolaeth yn eu gwaith drwyddo draw o ffresni dychymyg y plant eu

hunain. Gwelir y Ddaear sfferig fel pêl pêl-fasged, fel balŵn aer poeth,

fel blodyn neu fel llygad ddynol. Mae’n siglo’n ansicr ar fin clogwyn

ac yn cael ei hachub mewn gwregys achub. Gwnaed pump o’r cant o

fapiau gan blant ysgol o Brydain, a gwelir rhai ohonyn nhw yma.

Anderson, Atwal, Wiegand a Wood (2005) Children Map the World:

Selections from the Barbara Petchenik Children’s World Map

Competition. ESRI Press, www.esri.com/esripress. Ar gael gan

Transatlantic Publishers, pris £16.50 Defnyddir yr enillion a ddaw o

werthu’r llyfr i hyrwyddo llythrennedd graffig gan dargedu gwledydd

sy’n datblygu a dysgwyr dan anfantais.

I gael mwy o wybodaeth am Gomisiwn ar Gartograffeg a Phlant yr ICA,

ewch i http://lazarus.elte.hu/ccc/ccc.htm.

Cystadleuaeth

map y byd

i blant

2007

Amcan y gystadleuaeth

Nodau’r gystadleuaeth yw hybu portread creadigol plant o’r byd,

ychwanegu at eu hymwybyddiaeth gartograffig a’u gwneud yn fwy

ymwybodol o’u hamgylchedd.

Rheolau’r gystadleuaeth

Bydd cenhedloedd sy’n aelodau o’r ICA yn casglu mapiau ar thema

‘Llawer cenedl, un byd’ wedi’u cynhyrchu gan blant dan 16 mlwydd oed.

Fe fydd y beirniadu rhyngwladol yn canolbwyntio ar dri maen prawf:

1) neges y gellir ei hadnabod,

2) cynnwys cartograffig, a

3) ansawdd y gwaith.

Mewn geiriau eraill, bydd y beirniaid yn chwilio am:

• Gysylltiad y gellir ei adnabod rhwng ffurf, siâp a’r defnydd o

elfennau cartograffig sy’n mynd i’r afael â thema’r gystadleuaeth yn

greadigol.

• Delwedd y gellir ei hadnabod o’r byd yn gyfan, neu rhan fawr ohono,

gyda ffurfiau a lleoliad cymharol tirfasau a chefnforoedd mor gywir

ag y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl o ystyried oedran y plentyn ac

yng nghyd-destun y ‘system tafluniad’ a ddefnyddir.

• Elfennau cartograffig priodol, megis symbolau, lliwiau, enwau a

labeli ac ati, sy’n helpu wrth fynd i’r afael â thema’r gystadleuaeth:

- eglurder a darllenadwyaeth y symbolau pwynt, llinell ac ardal

sy’n briodol i’r cyfrwng mynegi, p’un ai ar bapur neu ar arwynebau

eraill, wedi’u lluniadu neu wedi’u creu o ddeunyddiau cynhenid;

- datgan gyda mynegiant a defnydd priodol o ddimensiynau

canfyddiadol lliw; hynny yw newid y gwerth ar gyfer gwahaniaethu

meintiol a newid yr arlliw ar gyfer gwahaniaethu ansoddol; ac

- ansawdd esthetig cyffredinol mewn materion megis cydbwysedd

a chytgord ymysg elfennau’r ddelwedd.

• Ni ddylai map fod yn fwy nag A3 (420 mm wrth 297 mm neu 17

modfedd wrth 11 modfedd). Gellir defnyddio unrhyw nifer o ‘ddulliau

tafluniad’ i gynhyrchu’r forlin a deunydd sylfaenol arall (er enghraifft,

ffiniau rhyngwladol a rhwyllwaith). Gall y rhain gynnwys dargopïo

neu gopïo map o’r byd sy’n bodoli eisoes neu ddefnyddio rhaglen

gyfrifiadurol.

• Rhaid i bob map fod â’r wybodaeth ganlynol ar label sydd wedi’i atodi

at gefn y portread: enw, oed, cyfeiriad ysgol a gwlad ei awdur, a’r teitl,

naill ai yn Saesneg neu yn Ffrangeg a hefyd yn iaith yr awdur.

• Bydd Gweithrediaeth yr ICA yn cyflwyno’r

cynigion buddugol i Bwyllgor Celf Rhyngwladol

UNICEF i’w hystyried fel dyluniadau cardiau

cyfarch. Mae’n bosib y bydd ICA yn eu

defnyddio hefyd. Bydd unrhyw un sy’n

cymryd rhan yn cytuno y gall ICA neu UNICEF

atgynhyrchu ei bortread / ei phortread, neu

ei sganio er mwyn i Brifysgol Carleton ei

gyhoeddi ar y Rhyngrwyd, heb ymgynghori â

nhw a heb dalu ffioedd hawlfraint.

• Cedwir mapiau’r gystadleuaeth mewn

archif yn Llyfrgell Fapiau Prifysgol Carleton

a gellir eu gweld ar y we

(see http://children.library.carleton.ca/).

Rhennir y ceisiadau yn dri grŵp fesul oed: dan 9,

9–12 a 13–15, a dyfernir rhwng 5 a 15 o wobrau.

Bydd enillwyr y gystadleuaeth ryngwladol yn

derbyn tystysgrif a gwobr o $50.

Rheolau cystadleuaeth y

Gymdeithas Gartograffig

Brydeinig/HarperCollins ®

Rhaid i gynigion gan ysgolion ac unigolion yn

y DU gydymffurfio â rheolau ICA a rhaid eu

hanfon erbyn 31 Mawrth 2007 i:

British Cartographic Society Petchenik Competition

Department of Geographical & Earth Sciences

Gilbert Scott Building

University of Glasgow

Glasgow G12 8QQ

Bydd panel o arbenigwyr cartograffig a

benodwyd gan y Gymdeithas Gartograffig

Brydeinig (BCS) yn beirniadu cynigion o’r DU.

Bydd y pum cynnig gorau’n derbyn tystysgrif

yr un a gwobr wedi’i noddi gan Harper Collins

Cartographic. Yna, byddan nhw’n mynd ymlaen

i gystadlu yn y gystadleuaeth ryngwladol yn

y Gynhadledd Gartograffig Ryngwladol ym

Moscow fis Awst 2007.

Bydd unrhyw un sy’n cymryd rhan yn cytuno y

gall BCS atgynhyrchu ei bortread / ei phortread

mewn cyhoeddiadau priodol neu ei sganio er

mwyn ei gyhoeddi ar eu gwefan, heb ymgynghori

â nhw a heb dalu ffioedd hawlfraint.

Diolchiadau

Atgynhyrchir delweddau trwy garedigrwydd ICA ac ESRI

Press. Harper Collins Cartographic am noddi cystadleuaeth

y DU.

Patrick Wiegand, Cadeirydd Comisiwn ar Gartograffeg a

Phlant yr ICA

28 newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 www.ordnancesurvey.co.uk/addysg www.ordnancesurvey.co.uk/addysg newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 29