10.01.2013 Views

Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...

Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...

Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

SLN Geography yn cyrraedd ei ben-blwydd yn 8

oed: sut i fanteisio i’r eithaf ar y canolbwynt

deialog hwn am addysg ddaearyddol

Enillodd SLN Geography

– www.sln.org.uk/geography

– Wobr Aur y Gymdeithas

Ddaearyddol ym 1999

am arloesedd a’r effaith

bosibl ar addysgu a dysgu

daearyddiaeth. Nid oedd wir

wedi gadael ei ôl ar y pryd, ond

bu ei effaith yn arwyddocaol

dros y bedair blynedd

diwethaf, yn y DU ac, mae’n

debyg, ledled y byd. Saith

mlynedd yn ddiweddarach

ac mae wedi tyfu i fod yn fan

cychwyn o bwys erbyn hyn i’r

athro/athrawes daearyddiaeth

sydd ar flaen y gad. Mae

mwy na 35 000 o negeseuon

wedi’u rhoi ar y fforwm ers

ei ddechrau. Mae llawer yn

bryfoclyd; rhai yn ddoniol; y

rhan fwyaf yn ymarferol. Yma,

mae Chris Durbin, sydd erbyn

hyn yn Hong Kong ond a fu’n

arolygydd daearyddiaeth

Swydd Stafford, yn myfyrio

ar y wefan y sefydlodd ym

1998 gyda’i gydweithiwr Kate

Russell, sydd ar hyn o bryd yn

gynghorydd daearyddiaeth

Swydd Stafford. Wrth wneud

hyn, mae’n cynnig offeryn ar

gyfer myfyrio ar p’un a yw’ch

cwricwlwm daearyddiaeth chi

wedi cwrdd â her

cenhedlaeth y

Rhyngrwyd.

Ffigur 1 –

Logo Fforwm SLN Geography

Mae cenhedlaeth y

Rhyngrwyd bellach wedi

dod i’r fei

Mae rhai yn ei charu, eraill yn ei

chasáu, ond mae’r Rhyngrwyd

wedi newid am byth y ffordd y

byddwn yn meddwl am addysgu a

dysgu daearyddiaeth. Mae llawer

ohonom yn ansicr o hyd sut i’w

defnyddio i addysgu’n effeithiol.

Yn 2006, rydym yn sownd rhwng

dau fyd o ddysgu mewn ysgolion.

Roedd byd y 1970au a’r 1980au yn

un lle trosglwyddid gwybodaeth o

athro/athrawes i fyfyriwr y rhan

fwyaf o’r amser yn y gwersi,

gydag ambell fideo ac wrth gwrs,

map yr Arolwg Ordnans yn cael

ei ychwanegu i fywiogi dysgu

gyda gwerslyfrau digon diflas.

Drwy’r naw degau a’r ddegawd

hon, aethom i mewn i fyd lle

mae gwybodaeth ddaearyddol

gynyddol, gan gynnwys data

gweledol, rhifyddol a thestunol,

ar flaen ein bysedd. Ni all y rhan

fwyaf o’m cenhedlaeth i, sydd

yn ein pedwardegau, gofio

bywyd heb deledu. Nid yw pobl

ifanc heddiw’n cofio adeg heb y

Rhyngrwyd. Gadawa’r ffaith hon

ni mewn penbleth, sef sut i ennyn

diddordeb myfyrwyr gydag

adnodd nad ydyn nhw’n gwybod

sut beth yw bod hebddo. Nid yw’r

byrddau arholi wedi dal i fyny’n

gan Chris Durbin

iawn ag addysg ddaearyddol ar

gyfer cenhedlaeth y Rhyngrwyd.

Mae rhai athrawon yn amheus o

hyd ynghylch y Rhyngrwyd, tra bo

eraill wedi gwirioni â hi. Ni ddaw

budd o’r naill safbwynt na’r llall.

Pragmatig ac eto myfyriol

Heddiw, efallai y dylai’r dysgodron

daearyddol sydd wedi gwirioni

â’r Rhyngrwyd ledled y byd fod

yn llai brwdfrydig yn ei chylch

ac yn fwy pragmatig ynglŷn

â’i heffaith ar ddysgu. Dylai’r

athrawon hynny sy’n amheus fod

yn cwestiynu’r dulliau dysgu sydd

wedi esblygu, a hynny heb fod yn

sinigaidd. Fodd bynnag, does dim

amheuaeth y dylai’r Rhyngrwyd

fod wedi gorfodi’r holl athrawon

daearyddiaeth i gwestiynu eu

rôl, eu pwnc a’u methodoleg.

Dyma ffordd o feddwl am wneud

cynnydd go iawn yn eich addysg

daearyddiaeth, er mwyn diwallu

anghenion daearyddwyr ifanc

heddiw. Rhowch yr holl feysydd

llafur arholiadau a chwricwla

rhagnodol o’r neilltu am ennyd, a

dychwelwch i fod yn ddysgodron

beirniadol meddylgar sy’n gallu

gweld yr hyn sy’n angenrheidiol

i’r genhedlaeth nesaf. Chwiliwch

am syniadau a dyfeisiau gwersi, a

gadewch iddyn nhw ddylanwadu

ar eich cwricwla a’ch meysydd

llafur arholiadau.

Y saith bendigedig

Dyma saith cwestiwn y dylech eu

gofyn ynglŷn â’r cwricwlwm rydych

chi’n ei gynnig, i drawsnewid

daearyddiaeth ac i helpu ailgynnau’r angerdd am ddaearyddiaeth fodern.

Bydd pob cwestiwn yn eich cysylltu â lle ar wefan Learning Net Swydd

Stafford a allai eich helpu i newid y cwricwlwm daearyddiaeth er gwell.

1. Ydy’r ddaearyddiaeth rydych chi’n frwdfrydig yn ei

chylch yn weledol symbylol?

Does dim esgusodion yma. Mae camerâu digidol yn cael eu pwyntio ym

mhobman; mae lluniau llygad dystion o leoedd a digwyddiadau yn cael

eu lanlwytho a’u rhannu ar unwaith. Rydym yn byw mewn byd lle gall pobl

gyffredin, yn hytrach na newyddiadurwyr, gyfrannu at y newyddion trwy

ddelweddau gweledol. Gall troshaenu diagramau du a gwyn ar ffotograffau

fywiogi diwrnod diflas. Bydd defnyddio lluniau mwy mympwyol yn ysgogi ac

yn ychwanegu mwy o ddiben at ymholiadau daearyddol. Mae technegau fel

y rhain yn fwy tebygol o symbylu cwestiynu ac, yn y pen draw, ymholiadau.

Ffigur 2 – Pam fod cŵn yn gwisgo sbectol haul?

Llun apelgar mympwyol i archwilio rhanbarthau Japan.

Sut y gallwch chi ddefnyddio www.sln.org.uk/geography

Gallwch chi chwilio adran Geo-Images

www.sln.org.uk/geography/Images.htm

ac yn enwedig ymholiadau Geo-photo

www.sln.org.uk/geography/photoenquiry.htm

a fydd yn eich helpu i adeiladu syniadau i ddefnyddio dulliau mympwyol

i archwilio syniad.

Gall Geo-Irony – www.sln.org.uk/geography/geoirony.htm

ganiatáu ichi fod yn deimladwy gyda myfyrwyr.

2. Ydy’ch myfyrwyr yn ymgysylltu â phobl mewn gwahanol

leoedd?

Ble yn eich cwricwlwm fydd myfyrwyr yn cysylltu â phobl sydd â

phrofiadau go iawn? Fyddwch chi’n defnyddio tystiolaeth bersonol o’r

Rhyngrwyd neu o ffynonellau eraill? Mae stori yn parhau i fod yn arf

pwerus iawn i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn deall persbectifau o

wahanol leoedd. Dim esgusodion eto. Gall y Rhyngrwyd eich helpu i

ddod o hyd i’r straeon hyn; mae siopau llyfrau a llyfrgelloedd y byd ar

agor i chi. Fodd bynnag, gallai defnyddio’r Rhyngrwyd yn unig olygu

cynhyrchu tystiolaeth o ffynonellau sy’n siarad Saesneg yn bennaf,

fyddai o bosibl yn golygu rhagfarn yn eich ymholiadau – ac mae angen

ichi sicrhau bod cenhedlaeth y Rhyngrwyd yn ymwybodol o hyn.

Sut y gallwch chi ddefnyddio www.sln.org.uk/geography

Gallwch chi ddefnyddio 7–11 Weblinks www.sln.org.uk/geography/7-

11wl.htm i ddod o hyd i bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o amgylcheddau,

a sefydlu gwefan eich hunan. Gwnaeth Website of the Moment fy ngalluogi

i ddarllen am Ysgol Swanshurst, Birmingham, a sut y gwnaethan nhw

gysylltu ag ysgol yn Ne Affrica. Yn yr adran ar y fforestydd glaw, roedd yna

gysylltau â safleoedd Brasil, yn ogystal â safleoedd America a’r DU.

3. Ydy’r ddaearyddiaeth rydych chi’n ei chynnig yn annog

myfyrwyr i ymarfer sgiliau gwerthuso beirniadol?

Sawl gwaith wnaethoch chi’r gylchred ddŵr – efallai, yn gywilyddus, yn dweud

wrth y myfyrwyr bod y pwnc hwn yn sych ac yn ddiflas? Fe ddylai fod yn ddiddorol!

Disgrifiwch broses llethrau bryn wrth adrodd stori’n lliwgar, gyda lluniau, ond yna

dangos tri neu bedwar diagram i fyfyrwyr i werthuso pa un sy’n dangos model

prosesau llethrau bryn orau. Defnyddiwch gyfleuster chwilio delweddau Google ® i

weld beth allwch chi ddod o hyd iddo – a rhannu’r diagramau i gategorïau da neu

wael. Gallwch chi ddefnyddio categorïau ‘Maen nhw’n rhy hawdd i’w deall’ a ‘Pe

24 newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 www.ordnancesurvey.co.uk/addysg www.ordnancesurvey.co.uk/addysg

newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 25

1

2

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!