Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
7 8

rhydd hefyd ar y llethrau ac felly roedd yn rhaid

i’r cerddwyr lithro i lawr rhannau o’r llwybr.

Roedd rhai darnau o’r llwybr i’w gweld o hyd ond

roedd gordyfiant (ffotograff 7) a chreigiau rhydd

(ffotograff 8) yn gorchuddio mannau eraill, nes eu

bod yn anodd i’w gweld. Er hynny, llwyddodd y

tywysydd i ddilyn y llwybr hyd y copa a’r eglwys

garreg. Rhaid oedd gwyro ychydig o’r llwybr

gwreiddiol wrth ddod i lawr. Roedd y llwybr yn

ddigon anodd, gan gynnwys llwybrau serth heb

eu cyfnerthu (ffotograff 9).

Roedd yn dwyn sylw at yr her

flynyddol fyddai’r gymuned

bentrefol wedi’i hwynebu.

Roedd golygfeydd anhygoel

o fynyddoedd Troodos, y

pentrefi o gwmpas (ffotograff

10) a’r arfordir tua’r de.

Roedd y blodau a’r anifeiliaid

a welwyd yn cynnwys

rhai rhywogaethau prin o

blanhigion a welir yn y rhan

yma o’r ynys yn unig: aoratos

a latzia; mae’r pentrefwyr yn

ymfalchïo mai yng Nghyprus

yn unig y gellir dod o hyd i

latzia.

Defnyddiwyd uned GPS llaw, ynghyd â chwmpawd

magnetig, i gofnodi 140 cyfeirbwynt ar hyd y llwybr,

ar bob trofa arwyddocaol yn y llwybr, a rhoddwyd

rhif i bob un. Cofnodwyd uchder, cyfeiriad teithio,

amser teithio a’r pellter a deithiwyd yn achos pob

cyfeirbwynt. Defnyddiwyd camera i dynnu llun

golygfeydd o rai o’r cyfeirbwyntiau. Tua 8-km oedd

hyd y llwybr, sy’n cynnwys y llwybrau troed yn y

pentref, llwybrau a thraciau mynydd ac erbyn hyn

rhai ffyrdd â metlin. 554 m yw’r ddringfa o’r pentref

i’r copa; cymerodd y grŵp awr i’w chyflawni.

Roedd angen 1½ awr i ddod i lawr. Gan nad oes

mapiau digidol o Gyprus ar gael i’r cyhoedd,

lawrlwythwyd data’r cyfeirbwyntiau a’u troshaenu

ar ddelwedd Google ® Earth (delweddau 1, 2 a 3

Google Earth) a chyhoeddir hwn ar y Rhyngrwyd.

Defnyddiwyd meddalwedd Google Earth i gysylltu’r

ffotograffau â data’r cyfeirbwyntiau. Mae Google

Earth yn darparu delwedd 3-D eglur a gellir ei thrin i

ddarparu persbectifau diddiwedd o’r dopograffeg.

22 newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006

www.ordnancesurvey.co.uk/addysg

9

10

Sut i ddefnyddio Google Earth

1 Cysylltwch eich GPS (Garmin ® neu

Magellan ® ) i’ch cyfrifiadur personol.

2 Lanlwythwch eich data i Google Earth Plus.

Bydd angen ichi danysgrifio i opsiwn

‘plus’ Google Earth ($20 am y flwyddyn).

Dilynwch anogwyr dewislen Google.

3 Pennwch ddelweddau ar gyfer pob

cyfeirbwynt.

4 Gallwch gylchdroi llwybr y ddelwedd

360 gradd.

5 Cadwch wahanol olygfeydd o’ch llwybr

ar ffeil (gwelwch yr enghreifftiau).

Cynlluniau’r dyfodol

Mae’r llwybr hwn yn ddiwylliannol bwysig i’r

pentref ac mae iddo arwyddocâd ehangach

i ynys Cyprus ac Eglwys Uniongred Groeg.

Ymddengys bod diddordeb ar gynnydd

mewn cerdded gan arwain at sefydlu llwybrau

diwylliannol a llwybrau natur arwyddocaol yng

Nghyprus a ledled Ewrop, er enghraifft wrth

ddatblygu’r llwybr pellter hir Ewropeaidd E4

yng Nghyprus (Sefydliad Twristiaeth Cyprus,

2005). Mae Canolfan Ddiwylliannol y pentref

yn bwriadu cynhyrchu cyflwyniad rhithwir

annibynnol o’r llwybr a’r gobaith yw y bydd

twristiaid a phobl o deuluoedd y pentref

yn dilyn y llwybr yn y dyfodol ac efallai yn

ailsefydlu traddodiad y Pasg. Cyn hynny,

dymuna’r gymdeithas bentrefol gymryd rhan

mewn adnewyddu’r llwybr i’w wneud yn

ddiogel, darparu arwyddbyst ar hyd y ffordd

a chynhyrchu deunyddiau addysgol. Ers y

prosiect hwn, mae’r Gymdeithas wedi cyfarfod

â’r Gweinidog o’r Weinyddiaeth Amaeth ac

Adnoddau Naturiol i drafod goblygiadau adfer

y llwybr. Fe fydd y data GPS o’r prosiect hwn

ar gael i’r Weinyddiaeth.

Yng ngoleuni llwyddiant y prosiect hwn, mae

trafodaeth ar y gweill i greu map o strydoedd

y pentref, ac o lwybrau troed oedd yn cysylltu

Ayios Theodoros Agrou â phentrefi cyfagos

yn hanesyddol. Cyn dyfodiad y car i Gyprus,

byddai pentrefwyr yn cerdded yn rheolaidd

rhwng y pentrefi at ddibenion masnachol a

chymdeithasol, er enghraifft, mae yna lwybr

troed adnabyddus i Agros Ioannis.

Syniadau ar gyfer ysgolion

Gallai ysgolion sydd â diddordeb mewn cyfranogiad

cymuned leol ailadrodd y prosiect hwn. Efallai bod

gan athrawon ddiddordeb mewn gweithio gyda

disgyblion, teuluoedd ac aelodau eraill y gymuned

leol i ymchwilio i lwybrau hanesyddol a chrefyddol,

llwybrau natur a safleoedd o ddiddordeb

1

2

3

arwyddocaol i’r gymuned yma yn y DU, a’u lleoli. Mae’r fethodoleg yn weddol

syml; trwy ddefnyddio uned GPS llaw, camera digidol a map yr Arolwg Ordnans,

gallwch gofnodi a chreu eich llwybr eich hunan. Mae Google Earth yn ychwanegu

persbectif 3-D a’r gallu i weld y llwybr o wahanol gyfeiriadau ac o wahanol

uchderau. Byddai’r gwaith hwn yn cyfrannu’r canlynol yn achos y disgyblion:

• dinasyddiaeth leol trwy gymryd rhan yn y gymuned;

• gwybodaeth hanesyddol a daearyddol leol;

• sgiliau gofodol a sgiliau mapio; a

• sgiliau TGCh trwy ddefnyddio technoleg fapio.

Diolchiadau

Hoffwn ddiolch i:

• Gymdeithas Cyfeillion Ayios Theodoros Agrou

• Michaelis Sideris

• Nikitas Ioannou (tywysydd y llwybr), Panikos Komodromos, Kypros Danayiotoy,

Christos Christoforou

• Manolis Krousaniotaki

• Yr Arolwg Ordnans am gyngor technegol a chefnogaeth i gyhoeddi

• Constantinos Sideris yw cadeirydd Cymdeithas Cyfeillion Ayios Theodoros Agrou a

gellir cysylltu ag ef yn consider@spidernet.com.cy

Cyfeiriadau

Cyprus Tourism Organisation (2005) European Long Distance Path E4 and other Cyprus

Nature Trails, Sefydliad Twristiaeth Cyprus

www.agrotourismcy.com/cyagro.htm

www.ordnancesurvey.co.uk/addysg newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 23