10.01.2013 Views

Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...

Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...

Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Mapio Papousta: defnyddio GPS i

fapio llwybr hanesyddol yn Ayios

Theodoros Agrou, Cyprus Dr Robert Barratt

barratter@aol.com

Cyflwyniad

Mae’r erthygl sy’n dilyn yn trafod her lleoli a mapio llwybr crefyddol a hanesyddol ym mhentref Ayios

Theodoros Agrou, yng Nghyprus (map 1, ffotograff 1), trwy ddefnyddio technoleg System Lleoli

Byd-eang (GPS). Menter addysg gymunedol oedd hon, a luniwyd gyda Chymdeithas Bentrefol

Ayios Theodoros Agrou fis Ionawr 2006. Y bwriad

oedd ceisio mapio llwybr crefyddol coll o eglwys

Uniongred Groeg y pentref, Panayia Kivotos, i

gopa Mynydd Papousta gerllaw (ffotograff 2). Yn yr

oesoedd a fu, fe gerddai pawb yn y pentref, gan

gynnwys y plant, ar hyd y llwybr hwn ar y dydd

Mawrth a ddilynai Sul y Pasg (ffotograff 3). Nid yw’n

hysbys pa bryd y cychwynnodd y seremoni hwn,

nac yn wir, y tro olaf y cerddwyd y llwybr. Mae’r

eglwys yn dyddio’n ôl i’r 16eg ganrif ac mae’n

berchen ar eicon crefyddol unigryw sy’n dyddio’n ôl

i’r 17eg ganrif; byddai’r pentrefwyr yn cludo’r eicon

i’r copa ar gyfer addoli (ffotograff 4).

Cwblhawyd y prosiect cyfranogol hwn

ym mis Awst 2006, gyda thri aelod hŷn o’r

pentref a dau fachgen yn eu harddegau

(y ddau ohonyn nhw â theidiau a neiniau

yn byw yn y pentref, ond rhieni oedd

wedi ei adael yn eu hieuenctid, fel llawer

o rai eraill). Roedd un o’r bechgyn wedi

clywed am y llwybr a’i arwyddocâd

i’w bentref ond nid oedd erioed wedi

cerdded y llwybr o’r blaen. Roedd Nikitas,

oedd yn eu tywys, yn un o aelodau hŷn y

pentref ac yn cofio’r llwybr o’i ieuenctid.

20 newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006

www.ordnancesurvey.co.uk/addysg

1

2

3

Gan y rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r llwybr ar

ddechrau’r 1970au, roeddem yn ansicr a fydden

ni’n gallu dod o hyd iddo, ac yn wir, a fyddai’n dal

i fod yn ddi-dor ac a fyddai’n bosib ei gerdded.

4

Dechreuodd y llwybr yn wreiddiol ger eglwys y

pentref (ffotograff 5) a dilynodd lwybrau’r pentref

i’r mynydd. Yna, croesodd ochr dde-ddwyrain y

mynydd i’r copa, gan ddychwelyd ar ochr ogleddddwyrain

y mynydd, yn ôl i’r pentref. Mae safle

hanner cylch o garreg ar y copa a adnabyddir fel

yr eglwys (ffotograff 3). Pe byddai’n bosib dod o

hyd i’r llwybr a’r eglwys ar y copa, y bwriad oedd

creu cyfeirbwynt digidol a chofnod ffotograffig

o’r llwybr. Yn ddiweddarach, byddai taith rithwir

annibynnol o’r llwybr yn cael ei chreu ar gyfer

canolfan ddiwylliannol newydd y pentref.

5

Ayios Theodoros Agrou

Mae pentref Ayios Theodoros Agrou yn rhanbarth Pitsilia y gadwyn

fynyddoedd Troodos. Mae yno boblogaeth barhaol o tua 100. Dyma pentref

uchaf Cyprus ond dau, tua 1 000 m uwchben lefel y môr. Mae’r pentref

yn swatio wrth droed Papousta, tua 1 552 m uwchben lefel y môr. Mae’r

mynydd yn un o saith copa uchel yn y gadwyn fynyddoedd. Gellir cyrraedd

y pentref ar ffyrdd da, ac mae tua 50 km o Lefkosia a 30 km o Limassol.

Dim ond tair eglwys sydd yng nghalon y pentref bellach, Sant Theodor,

Sant George a Panayia Kivotos; roedd saith yno yn y gorffennol.

Lleihau wnaeth poblogaeth y pentref dros y blynyddoedd, fel eraill

yng Nghyprus, wrth i bobl ifanc adael y pentref i ddod o hyd i waith yn

Lefkosia a Limassol. O ganlyniad, poblogaeth sy’n heneiddio ac economi

amaethyddol ar drai sydd yn y pentref nawr. Mae llawer o deuluoedd y

pentref bellach yn byw yn y dinasoedd ac yn dychwelyd yno yn yr haf

i’w hen gartref teuluol, llawer ohonyn nhw erbyn hyn yn gartrefi gwyliau.

Mae’r pentref heddiw’n wynebu’r her o gadw’i etifeddiaeth ddiwylliannol

a goroesi fel cymuned hyfyw. Ffurfiodd y pentref ei Gymdeithas Cyfeillion

Ayios Theodoros Agrou ar ddechrau’r 1980au. Mae’r Gymdeithas,

y mae ei haelodaeth yn cynnwys aelodau o deuluoedd y pentref yn

bennaf, llawer ohonyn nhw’n byw i ffwrdd erbyn hyn, yn weithgar mewn

prosiectau adfywio cymunedol a chodi arian. Er enghraifft, fe adeiladodd

siop goffi sy’n ffynnu a chanolfan ddiwylliannol newydd, yn ogystal â

phlannu coed a chynnal digwyddiadau cymdeithasol eraill. Mae’r pentref

yn awyddus i ddatblygu economi cynaliadwy wedi’i seilio ar dwristiaeth

o ryw fath. Mae rhai pentrefi gerllaw wedi sefydlu amaeth-dwristiaeth,

gydag anogaeth llywodraeth Cyprus. Mae llywodraeth Cyprus yn hybu

amaeth-dwristiaeth, sy’n rhoi profiad o ffordd o fyw traddodiadol y pentrefi

gwledig i dwristiaid (http://www.agrotourismcy.com/cyagro.htm). Ystyrir

y gallai’r prosiect hwn gefnogi’r pentref i ddatblygu ei economi twristaidd

ei hun, tra’n cadw ei etifeddiaeth ddiwylliannol. Er enghraifft, y gobaith

yw y bydd gwestai mewn pentrefi cyfagos yn ychwanegu’r llwybr hwn at

eu portffolio presennol o lwybrau cerdded ar gyfer ymwelwyr.

6

Ailddarganfod llwybr hanesyddol

Oherwydd natur y tir a’r tymereddau uchel (dros 34°C ym mis Awst weithiau),

dechreuodd y cerddwyr am 7 am, toc wedi’r wawr; cymeron nhw 2½ awr i

gwblhau’r llwybr. Rhoddwyd cyfrifoldeb gwahanol i bob unigolyn. Roedd y

rhain yn cynnwys cymorth cyntaf, mewnbynnu data cyfeirbwyntiau i’r GPS,

tynnu ffotograffau, dod o hyd i’r llwybr a bod yn ymwybodol o beryglon.

Roedden nhw hefyd yn cofnodi data megis uchder, cyfeiriad teithio, pellter

a deithiwyd a’r amser a gymerwyd i’w deithio. Mae yna lawer o nadroedd

gwenwynig yn yr ardal, felly roedd angen i bawb gario ffon. Roedd deunydd

www.ordnancesurvey.co.uk/addysg newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 21

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!