Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Ffigur 1

Llwybr ‘briwsion bara’ GPS

‘Cymrwch y troad cyntaf oddi ar y cylchfan nesaf.’

‘Cadwch i’r dde.’

‘Trowch yn ôl pan fo’n bosibl.’

Rydw i’n dyfalu y gallai’r geiriau hyn godi gwrychyn rhai ohonom gan eu

bod yn gysylltiedig â’r systemau cyfeiriannu lloeren ‘holl-wybodus’, sy’n

declyn fwyfwy cyffredin mewn ceir i gael gwybod y ffordd i rywle.

Bu cyfeiriannu lloeren a defnyddio technoleg GPS (System Lleoli Byd-eang) gan

rai nad ydynt yn ymwneud â’r fyddin, yn stori llwyddiant hynod. Ar un adeg, dim

ond pobl oedd yn dwlu ar ddyfeisiau a gyrwyr proffesiynol oedd yn eu defnyddio.

Erbyn hyn, maen nhw wedi dod yn rhywbeth llawer mwy cyffredin a rhagwelir

y bydd tua 6 miliwn uned yn cael eu gwerthu ledled Ewrop yn 2006. Eto, gall yr

un dechnoleg hon ddod â buddion pan fyddwn y tu allan i’r ystafell ddosbarth,

yn enwedig yng nghyd-destun gwaith mas. Mae’r erthygl hon yn ystyried rhai o

nodweddion dyfeisiadau llaw GPS (megis y rhai mae Garmin ® a Magellan ® yn eu

cynhyrchu) ac yn ystyried ffyrdd o’u defnyddio yng ngwaith maes daearyddiaeth.

GPS – yr elfennau sylfaenol

Dibynna GPS ar glwstwr o 24 o loerennau sy’n cylchdroi’r ddaear, ar

uchder o 10 900 milltir. Bydd yr uned GPS yn derbyn cod amser atomig

o’r lloerennau hyn ac yna’n defnyddio triongliant i gyfrifiannu lleoliad 3-

D, sy’n fanwl-gywir o fewn ychydig fetrau.

Gellir defnyddio’r GPS i gofnodi’r lleoliadau (cyfeirbwyntiau) a’r llwybrau

mae’r uned yn eu dilyn – fel llwybr ‘briwsion bara’ electronig (traciau yw’r enw

ar y rhain – gweler ffigur 1). Gall GPS hefyd gyfrifo hyd y daith o ran amser,

cyflymder symud cyfartalog, (yn ddefnyddiol ar gyfer arolygon trafnidiaeth),

uchderau a nifer o newidynnau eraill, gan ddibynnu ar y math o uned.

Mae gan Noel Jenkins yn www.juicygeography.co.uk adran fanwl

am unedau GPS a’u swyddogaethau, yn ogystal â dogfen ddefnyddiol

sy’n disgrifio’n fras sut maen nhw’n gweithio (ffigur 2).

Gwybod eich lle!

Un o’r rhesymau dros ddefnyddio dyfais GPS yw cael y gallu i fod yn

dra manwl-gywir yn nhermau cyfesurynnau X/Y ar y ddaear. Mewn

gwirionedd, mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr ddyfynnu cyfeirnodau

grid 8- neu hyd yn oed 10-ffigur (byddwn fel arfer yn defnyddio

cyfeirnodau 4- neu 6-ffigur tra’n defnyddio mapiau papur yn unig).

Cyfeirnod grid 4-ffigur 6-ffigur 8-ffigur 10-ffigur

Cydraniad 1 000 m x 1 000 m 100 m x 100 m 10 m x 10 m 1 m x 1 m

Gall hyn fod yn ddefnyddiol yng nghyd-destun gwaith maes, lle mae’n

bwysig casglu data o union leoliad. Mewn amgylchedd afon, er enghraifft,

Gwaith maes uwch-dechnoleg

– awgrymiadau ar gyfer

defnyddio dyfeisiadau llaw GPS

David Holmes

dave.holmes@telinco.co.uk

Ffigur 2 – Cyfarwyddiadau sylfaenol ar gyfer

defnyddio’r ddyfais GPS

Ffynhonnell: www.juicygeography.co.uk

Ffigur 3 – Defnyddio Memory Map i ddod o hyd i bwyntiau

samplo afonydd ymlaen llaw a’u dangos â baneri coch.

gellir bod angen samplau o bwyntiau i lawr

nant, lle mae’n anodd dod o hyd i’r union safle

gyda mapiau graddfa 1:50 000 neu 1:25 000

confensiynol. Mae GPS yn cael gwared â’r

angen i ddyfalu gan ei bod yn rhoi’r union

leoliad, a gellir hyd yn oed ei gosod i arwain y

defnyddiwr i’r lleoliad hwnnw. Gellir defnyddio

meddalwedd mapio megis Anquet Maps a

Memory-Map (ffigur 3) i gyfathrebu â GPS ac i

lwytho pwyntiau data o gyfrifiadur ymlaen llaw.

Sgiliau mapio syml

Gweddol hawdd yw dechrau defnyddio’r GPS fel offeryn mapio sylfaenol – yn

creu cyfeirbwyntiau ar gyfer gwrthrychau sy’n berthnasol i’r arolwg gwaith maes.

Gellid rhoi cynnig ar hyn yn nhiroedd yr ysgol, er enghraifft, creu mapiau data

‘pwyntiau’ (mae yna feddalwedd defnyddiol rhad ac am ddim – Quikmaps – sy’n

caniatáu i ddefnyddwyr greu eu mapiau lleol Google ® eu hunain: gweler ffigur 4).

Defnyddio GPS i wneud arolygon mwy manwl

Gall unedau GPS fod yn hynod ddefnyddiol ar gyfer tasgau gwneud

arolwg, er enghraifft:

• arolygon twyni tywod – proffilio adran o’r twyni tywod (gweler ffigur 5);

• mapio nodweddion rhewlifol ar raddfa micro, er enghraifft, craig

follt rewlifol;

• mapping micro-scale glacial features, for example, a glacial roche

moutonnée;

• mapio dosbarthiad rhywogaethau penodol o goed mewn coedwig

(er bod gan ddyfeisiau GPS enw drwg dan drwch o orchudd

coetir) neu fapio dosbarthiad rhywogaethau tegeirianau prin mewn

gwarchodfa natur;

• defnyddio’r GPS i bennu arwynebedd maes parcio’n fanwl-gywir

(creu cyfeirbwyntiau yng nghorneli’r maes parcio ac yna cyfrifo’r

arwynebedd); a

• mapio dosbarthiad siopau cornel, yn enwedig y rheiny y tu allan i

ganol dinas, nad yw mapiau math confensiynol yn null GOAD ® o

bosib yn eu cwmpasu.

Ar gyfer arolygon manwl yn ymwneud ag uchder, fe ddylech ddefnyddio

dyfais GPS sydd â baromedr yn rhan ohoni, fydd yn cynnig gwell

manwl-gywirdeb ar gyfer uchder.

Gweithio gyda data GPS ar y cyfrifiadur

Gellir trosglwyddo data o’r GPS i mewn i gyfrifiadur trwy ddefnyddio ystod

o feddalwedd. Er enghraifft, rhadwedd yw EasyGPS www.easygps.com,

sy’n caniatáu i ddefnyddwyr lanlwytho traciau a chyfeirbwyntiau o’u GPS i’r

cyfrifiadur. Fe fydd hyn yn creu ffeil ‘gpx’. Yna, gellir agor y data hyn trwy

ddefnyddio gwefan Magnalox www.magnalox.net, sy’n darparu ffordd

ragorol o arddangos y canlyniadau (gan gynnwys unrhyw ffotograffau). Hefyd,

mae gan y wefan gyfleuster i allforio i Google Maps a Google Earth. Dengys

Ffigur 6 a Ffigur 7 enghreifftiau o draciau GPS tra ar wyliau yng ngorllewin

Iwerddon yn ddiweddar.

Ffigur 6 – Sgrîn Easy GPS. Ffigur 7 – Yr un data, wedi’u rhoi i mewn i

Google Local o Magnalox (trwy ffeil ‘gpx’).

Pethau i’w hystyried ynglŷn â GPS

Gall bob offer a thechnoleg ddod ag anfanteision yn ogystal â

manteision. Nid yw GPS yn wahanol. Yn anad dim, edrychwch am:

• Fanwl-gywirdeb – i) yn enwedig yn nhermau uchder (os nad ydych chi wedi

graddnodi GPS o fath baromedr o flaen llaw); a ii) mae’n beth cyffredin colli signal

mewn ardaloedd trefol, coetiroedd neu ddyffrynnoedd ag ochrau serth.

• Cost y pecyn – beth sydd wirioneddol ei angen arnoch i gwblhau’r dasg? Gellir

prynu uned GPS am tua £100 ond fe allan nhw fod yn ddrutach o lawer os mai

unedau sydd eisoes wedi’u llwytho â meddalwedd map sydd arnoch eu heisiau

(tua £250-£350).

Ffigur 4 – gwefan Quikmaps.

Ffigur 5 – Myfyrwyr yn defnyddio GPS i bennu union

safle ac uchder pwyntiau ar hyd twyn tywod yn ystod

ymarfer proffilio yng ngorllewin Cymru.

• Hyd bywyd y batri. Mae sgriniau lliw LCD mawr

yn drwm iawn ar y batris. Gofalwch bob amser fod

gennych chi set sbâr o fatris ailwefradwy.

• Cadernid y cyfarpar a sut mae’n gwrthsefyll y

tywydd. Mae rhai dyfeisiau GPS yn wrth-ddŵr, felly

maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer gwaith maes ar afonydd.

Fodd bynnag, mae mwyafrif yr unedau’n eithaf cadarn

a gellir eu gollwng yn y maes heb achosi difrod.

• Cysylltu â Chyfrifiadur Personol – cysylltiad USB

neu gyfresol. Os mai’r ail yw’r cysylltiad, yna efallai

y bydd yn rhaid ichi fuddsoddi mewn addasydd

USB-i-gyfresol (cost tua £15), gan nad oes bellach

bwynt cyfresol ar lawer o gyfrifiaduron modern.

Y dyfodol?

Mae’n ymddangos nad oes unrhyw derfyn

ar ddyfodol GPS. Darpara’r system leoliad

newydd, unigryw sydd ar gael ar unwaith ar gyfer

pob metr sgwâr ar arwyneb y blaned – efallai

safon ryngwladol newydd ar gyfer lleoliadau a

phellteroedd. I gyfrifiaduron y byd, o leiaf, gellir

diffinio’n lleoliadau, nid trwy gyfeiriad stryd, dinas

neu wlad ond trwy hydred a lledred. Yn nhermau

gwaith maes, efallai y bydd gan bob un ohonom ein

dyfeisiau GPS ein hunain a gallwn nodi lleoliadau

unrhyw beth sy’n ymwneud â daearyddiaeth

arnyn nhw. Efallai y bydd rhai pethau anarferol

y gallwn eu gwneud mewn gwaith maes, megis

‘geoguddio’ www.geocacheuk.com neu

‘ysgrifennu’ ein henw ar y ddaear i greu trac-log

enfawr i’w lwytho i mewn i Google Earth. Beth

bynnag fo’r dyfodol, mae GPS yma i aros ac yn

sicr fe fydd yn rhaid inni ddod i arfer â defnyddio

cyfeirnod grid 10-ffigur i ddyfynnu ein lleoliadau!

18 newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 www.ordnancesurvey.co.uk/addysg www.ordnancesurvey.co.uk/addysg newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 19