Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Parc chwarae

– Victoria Road,

Netley Abbey

Ardal chwarae Weston

Parade - Weston Shore,

Southampton

Sylwch y wybodaeth

ar yr arwydd croeso.

16 newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006

www.ordnancesurvey.co.uk/addysg

Gair o rybudd yma: rhaid inni beidio a

dychwelyd i ddyddiau ‘uwd o destunau’ ond

yn hytrach sicrhau ein bod yn creu ‘miwslis

o destunau’ gyda nodau, amcanion a

deilliannau ar gyfer pob maes pwnc mewn un

testun penodol. Anfarwolwyd Persi Ceidwad

y Parc, sy’n gymeriad dros ben llestri, gan

Nick Butterworth (gweler, er enghraifft, After

the Storm, ISBN 0-00-664252-7). Roedd fy

mhlant i’n ei ystyried yn arwr a bu’n flaenddelw

i minnau tra’n cynllunio Yo, Percy – it’s our

play park too - gweler fersiwn gryno iawn o

gynnwys daearyddol y testun hwn isod.

Mae cwestiynau allweddol yn wirioneddol bwysig

gan eu bod yn gyrru gwaith datgelu/ymchwilio.

Ble mae’r parc chwarae agosaf at ein

hysgol, Persi?

• Gweithgaredd gwaith maes yn dilyn

llwybrau lluniau/llwybrau llais i’r parc

chwarae lleol (llwybrau cerdded a siarad).

• Ymchwilio i’r hyn mae’r grŵp yn ei hoffi a’r hyn

nad ydyn nhw’n ei hoffi am yr ardal chwarae.

• Ailystyried y llwybr a’r darganfyddiadau gan

ddefnyddio map llawr mawr wedi’i lunio’n

benodol – yn ddigon mawr i’r plant eistedd

o’i amgylch a cherdded arno. (Cofiwch, ardal

fechan yw’r ardal leol i blant oed babanod –

rhyw 5-10 munud o amser cerdded o’r ysgol.

Mae yna lawer i’w weld ac i siarad amdano.)

Mae mapiau gradd 1:1250 a gradd 1:2500

yn wych i’w defnyddio’n batrymau ar gyfer

gwneud eich mapiau carped mawr eich hun.

Gallwch eu cael o adran gynllunio’ch awdurdod

lleol. Mae’r graddfeydd hyn yn wych ar gyfer

ditectifs lle sy’n ifanc iawn.

• Gwneud mapiau mawr – dyma gyfle i blant

wneud mapiau syml i ddangos llwybr – mapiau

wedi’u lluniadu, mapiau model, mapiau llais

(mae dictaffonau yn gyfarpar TGCh hudol i

fabanod), mapiau cyfrifiadur ac ati.

• Mae Astudiaethau Lleol Cynradd – Soft Teach

yn becyn mapio gweddol syml sy’n caniatáu i

blant greu teithiau rhithwir o’u llwybrau.

Daethon ni o hyd i’n parc chwarae lleol, Persi!

Sut le yw ein parc chwarae lleol mewn

gwirionedd?

• Amser stori – straeon parcdir – yn cyflwyno

nodweddion parcdir.

• Ymweliad gwaith maes, gyda llyfrau

‘Mi welaf i...’ wedi’u llunio’n benodol

– ymchwilio i nodweddion, arwyddion,

signalau a chyfarwyddiadau, defnyddiau

tir ac ati. Gallech ddyfarnu bathodynnau

ditectif parc chwarae i’r plant pan fyddan

nhw wedi cwblhau eu llyfrau ‘Mi welaf i…’.

Roeddwn i’n dditectif parc chwarae gwych, Persi!

Byddai llyfrau ‘I-Spy ® ’ yn fy swyno pan oeddwn

yn blentyn ifanc iawn, ac rwy’n dal i aros i’r Flying

Scotsman fynd trwy orsaf Southampton Central

er mwyn ennill 25 pwynt! Mae daearyddwyr oed

babanod yn eu gweld yr un mor gyffrous heddiw

– yn eu helpu i sylwi ar nodweddion a’u hadnabod.

(Gwelwch lyfrau I-Spy a gyhoeddir gan Michelin .)

• Gweithgareddau grŵp, er enghraifft:

- Creu llyfrau ‘Mi welaf i...’ ar gyfer plant y flwyddyn

nesaf, gan ddefnyddio camerâu digidol.

- Creu mapiau defnydd tir y parc ar bapur

siwgr – ar y safle (bydd arnoch angen dalen

sylfaen, blu tac a siapiau nodweddion y

parc wedi’u torri allan yn barod).

- Tynnu pum llun fydd yn dangos nodweddion

y parc chwarae orau. Arddangos lluniau ar

www.geograph.co.uk

- Lluniadu nodweddion maen nhw’n eu hoffi/

nad ydyn nhw’n eu hoffi yn y parc.

- Creu map o luniau o’r parc er mwyn dangos

y gosodiad/y prif nodweddion i ymwelwyr.

- Dylunio llun cerdyn post o’r parc – cardiau

post i’w gwerthu yn y siop leol.

Pwy sy’n defnyddio ein parc lleol?

• Darllenwch When We Went to the Park

gan Shirley Hughes - ISBN 0-7445-0301-9.

(Mae’r llyfr hwn yn edrych ar sut mae pobl

yn defnyddio parciau chwarae.)

• Gwaith maes – gweithgaredd byr yn gwylio

pobl. Yn dilyn trafodaeth, oedolion yn

helpu plant i greu siartiau cyfrif ar gyfer

defnyddio’r llecyn. (Yn yr ysgol – trefnu

data, eu harddangos a’u gwerthuso.)

• Creu llyfr siarad – gan ddefnyddio dictaffonau.

Y diwrnod yr aethon ni i’n parc lleol (yn

arddull Shirley Hughes). Persi, gwelon ni –

arwydd yn dweud ‘DIM CŴN’, 2 lithren loyw,

10 gwylan y môr a mwy o ‘hofrenyddion’ y

fasarnen na allem ni eu cyfrif.

Pa effaith mae pobl yn ei chael ar ein

parc chwarae?

• Defnyddio tiroedd yr ysgol, fel model, i ymchwilio

i sut mae pobl yn effeithio ar leoedd. Y positif

– llwybrau troed, gwelyau blodau ac ati – a’r

negyddol – sbwriel, corneli glaswellt mwdlyd (lle

nad yw pobl wedi aros ar y llwybrau troed) ac ati.

• Gwaith maes – mapio’r effaith yn y parc chwarae

lleol – creu arwyddion a symbolau personol ar

gyfer yr amryw effeithiau, er enghraifft, baw

cŵn, a’u cofnodi ar fapiau sylfaen wedi’u paratoi

ymlaen llaw. Rhoi allwedd i’r mapiau personol.

• Gwahodd cynghorydd lleol a’r papur newydd

lleol i adolygu’r darganfyddiadau – yn enwedig

os oes problemau arwyddocaol yn eu parc

chwarae. (Gadewch iddyn nhw argraffu beth

mae’r plant yn ei gredu go iawn.)

Edrycha be’ maen nhw wedi’i wneud i’n parc chwarae, Persi!

Llecyn gwyrdd ystad

– ystad Ingleside,

Netley Abbey

Pwy sy’n gofalu am (yn cynnal) ein parc chwarae?

‘Some people call this park Percy’s park, but it doesn’t actually belong

to me…’ o Everyone’s Friend Percy gan Nick Butterworth – ISBN 0-

00-711976-3. Am gychwyn da i’r dirgelwch!

• Defnyddio gwybodaeth sydd ar arwyddion yn y parc chwarae (gweler y

ffotograff uchod) i ddarganfod, gyda’r plant, pwy sy’n gyfrifol am y parc

chwarae – pwy sy’n rheoli’r llecyn hwn. Ditectifs arwyddion a signalau.

• Gwahodd ceidwad parc go iawn a’i dîm o’r cyngor lleol i ymweld, a’u

rhoi yn y ‘gadair boeth’ i’r plant eu holi – beth ydych chi’n ei wneud

i ofalu am ein llecyn chwarae?

• Ymchwiliadau ffotograffau a mapiau i weld sut mae llecynnau agored

eraill yn y plwyf/cylch wedi’u gwella. (Gweler y ffotograff o ‘welliant’

llecyn gwyrdd Ingleside – eich teimladau chi!) Sut aethpwyd ati i

gasglu barn y rhai oedd yn defnyddio’r llecyn?

Beth fydden ni’n ei wneud i ofalu am ein parc chwarae a’i wella?

• Adolygu hoff bethau a chas bethau’r grŵp o’r ymweliadau gwaith

maes â’r parc chwarae.

• Darllen After the Storm gan Nick Butterworth i adolygu camau i’w wella.

• Gweithio mewn grwpiau i greu modelau, mapiau mawr ac adrodd

ar sut y bydden nhw’n dymuno cynnal a gwella’u parc chwarae

lleol. Gosodiadau newydd, dyluniadau cyfarpar newydd, arwyddion

newydd, rheolau parc chwarae newydd ac ati.

• Cyflwyniadau grŵp ynghylch eu gwelliannau i rieni, i lywodraethwyr

ac i gynghorwyr lleol. Pe bydden ni’n cael y cyfle, Persi, dyma

fydden ni’n ei wneud i wella’n llecyn chwarae lleol!

• Cynrychiolwyr i fynd i gyfarfod o’r cyngor lleol i ddangos eu

darganfyddiadau – esgusodwch fi, beth allwch chi ei wneud i’n helpu ni?

Mae ymchwilio i barciau chwarae lleol a llecynnau agored eraill yn cefnogi

datblygu, gloywi a chymhwyso sgiliau daearyddol mewn cyd-destun lle

go iawn. Hefyd, mae’r ardal leol/amgylchedd lleol a’r materion sy’n cael eu

harchwilio’n cefnogi datblygu llythrennedd gwleidyddol a dinasyddiaeth

weithredol (gweler gofynion dinasyddiaeth Cyfnod Allweddol 1).

Rhowch gynnig ar Persi: ewch allan i ddatrys dirgelwch eich parc(iau)

lleol. Wrth wneud hyn, fe fyddwch hefyd yn cyfrannu at gyflawni nodau

ac amcanion Mae Pob Plentyn yn Bwysig y DfES. Er enghraifft:

• Yn emosiynol iach – emosiynau lle.

• Ffyrdd iach o fyw – pwysigrwydd chwarae/hamddena.

• Yn ddiogel rhag anaf – chwarae’n ddiogel – llecynnau diogel.

• Yn ddiogel rhag trosedd/ymddygiad gwrthgymdeithasol – amddiffyn

ardaloedd chwarae.

• Ymgysylltu â phenderfyniadau ar faterion lleol – dyma’n barn ni am

ein llecynnau chwarae, a’r hyn y bydden ni’n ei wneud â nhw!

• Ymddygiad positif – ymddwyn yn bositif tuag at yr amgylchedd/

tuag at lecynnau cyhoeddus sy’n cael eu rhannu.

• Byw mewn cymunedau gweddus a chynaliadwy – datblygu llecynnau

agored yn gynaliadwy.

www.ordnancesurvey.co.uk/addysg

newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 17