10.01.2013 Views

Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...

Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...

Cynllun gweithredu daearyddiaeth - Arolwg Ordnans - Ordnance ...

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Mae hwn yn barc chwarae i ni hefyd!

Gwrandewch arnom ni Jeff Stansfield

Arolygwr Sir/Ymgynghorydd Daearyddiaeth

Adran Gwasanaethau Plant Hampshire

Yn rhinwedd fy swydd, rwy’n cael y fraint o gyfarfod a gweithio gyda phobl ifanc o oed cyn-ysgol hyd oed

chweched dosbarth, ac o gefndiroedd gwahanol iawn. Nodwedd gyffredin, na fydd bob amser yn cael

cyhoeddusrwydd, yw eu dyhead am ddealltwriaeth a gwybodaeth am bobl a lleoedd – am eu byd.

Mae’n ymddangos bod gwybodaeth a dealltwriaeth yn eiriau

sydd fwyfwy yn ‘eiriau brwnt’ yn y byd sydd ohoni lle mae

sgiliau’n hollbwysig. Os cynhelir yr hinsawdd o ddisgwyliad

sydd gennym nawr, mae gwir berygl y bydd pobl ifanc yn

cael eu ‘dinoethi’n ddeallusol’ mwy a mwy.

Sawl un ohonom sydd wedi ceisio bod yn fecanyddion amatur

a thrwsio’n ceir tra’n defnyddio’r llawlyfrau hawdd-eu-darllen

hynny ar injans, ac yna disgyn wrth y rhwystr cyntaf oherwydd

ein diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o natur injan ein car?

Mae plant yn mwynhau sgiliau mapio (defnyddio a chreu

mapiau fel ei gilydd) ac, yn aml, maen nhw’n hollol gymwys

i gyflawni’r tasgau sy’n eu datblygu. Fodd bynnag, bydd

llawer yn cael trafferth pan fydd angen rhoi’r sgiliau hyn

ar waith go iawn, er enghraifft, ceisio dilyn llwybr awyr

agored gan ddefnyddio map, neu ddod o hyd i union safle

nodweddion penodol ar fap.

Mae angen datblygu, gloywi a chymhwyso sgiliau daearyddol,

megis defnyddio a chreu mapiau, yng nghyd-destun lle neu

thema; y sgiliau hyn yw offer y daearyddwr/y ditectif lle.

Un o nodweddion mwyaf apelgar daearyddiaeth i blant oed Cyfnod

14 newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 www.ordnancesurvey.co.uk/addysg

Sylfaen neu fabanod yw’r cyfle mae’r pwnc yn ei roi iddyn nhw

fforio’u hamgylchedd a’u hamgylchoedd lleol eu hunain.

Nid yn unig yw hwn yn ofyniad yng ngorchymyn statudol y cwricwlwm

cenedlaethol ar gyfer daearyddiaeth ond mae hefyd yn ensyniedig

yn y fframwaith dinasyddiaeth. Gyda’i gilydd, mae’r dogfennau hyn

yn sicrhau bod yr hawl gan ddaearyddwyr ifanc iawn, trwy ymholi/

ymchwilio, penderfynu a datrys problemau, i fforio:

• nodweddion allweddol eu hardal leol;

• eu hoffterau personol – yr hyn maen nhw’n ei hoffi a’r

hyn nad ydyn nhw’n ei hoffi am eu lle;

• y dirgelwch ynghylch newidiadau i’w hardal leol;

• sut mae pobl yn niweidio’u hamgylchedd ac yn ei wella;

• materion yn ymwneud â datblygu cynaliadwy a

stiwardio’r amgylchedd; a

• dyfodol eu hamgylchedd.

Ble bynnag fo’r lleoliad, bydd archwiliad o’ch ardal leol

(sy’n angenrheidiol i gefnogi cynllunio darpariaeth) yn

dwyn sylw at ystod eang o wahanol nodweddion a

defnydd tir. Defnyddiwch yr awyrluniau sydd ar gael ar

www.multimap.co.uk i edrych ar eich ardal leol. Sut le,

mewn gwirionedd, ydy’r ardal leol o gwmpas eich ysgol?

Bydd gwaith datgelu syml, er enghraifft, yn caniatáu

ichi ddarganfod ystod o wahanol fathau o lecynnau

agored yn agos iawn at eich ysgol. Llecynnau go

iawn – amgylcheddau llawn hud, gyda materion

go iawn fydd yn effeithio ar eich plant chi gan mai

dyma’u llecynnau chwarae/ hamddena.

Nid oes angen yma am senarios ‘Mickey

Mouse’ megis – ‘Mae tiroedd yr ysgol

yn cael eu gwerthu ar unwaith i adeiladu

goruwcharchfarchnad newydd enfawr’ – er

y byddai maint y llecyn agored yn gwneud y

senario’n un cwbl amhosib! Beth yw’ch barn

chi? Mae daearyddiaeth yn ymwneud â lle,

gofod ac amgylchedd gwirioneddol – dyna

pam ei fod yn ddisgyblaeth mor gyffrous.

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn agos iawn

at ystod o lecynnau agored – yn amrywio o

ran maint, cymeriad, defnydd, perchnogaeth,

strategaethau rheoli ac ati. Mae gan bob

un o’r llecynnau hyn hierarchaeth eglur, yn

amrywio o lecynnau lleol iawn, er enghraifft

parciau chwarae, meysydd pentrefi a lleiniau

gwyrdd ystadau tai, i barciau gwledig (pa

barciau gwledig sy’n lleol i’ch ysgol chi?) ac

i Barciau Cenedlaethol, fel Parc Cenedlaethol

New Forest sydd newydd ei ddynodi. Byddai

rhai yn dadlau mai’r Arfordir Jwrasig (Dorset/

Dwyrain Dyfnaint) – Safle Treftadaeth y Byd

– yw’r llecyn agored pennaf yn y DU bellach.

Gweler www.jurassiccoast.com.

Yo, Persi!

Mae llecynnau lleol (gweler y ffotograffau) sydd

o fewn cyrraedd i’r ysgol ar droed, megis parciau

chwarae a meysydd pentrefi/trefi, yn darparu

adnodd cyfoethog i ddadl amgylcheddol frwd,

gan mai dyma’r llecynnau a’r lleoedd y bydd

y plant fel arfer yn eu defnyddio’n rheolaidd i

hamddena. Byddan nhw’n teimlo, mewn sawl

ffordd, eu bod yn eiddo iddyn nhw a’u ffrindiau.

Ceir gwir synnwyr o berchnogaeth.

Mae’r amgylcheddau hyn yn wynebu problemau

gwirioneddol, megis eu cau oherwydd

cwtogi ar wario, cyfarpar yn torri, problemau

fandaliaeth, llawer o faw cŵn, cyfarpar sydd

wedi’u dylunio’n wael, sbwriel ac ati. Mae

‘creadigrwydd yn y cwricwlwm’ a ‘rhagoriaeth a

mwynhad’ yn atgyfnerthu’r angen am gynllunio

a chyflawni’r cwricwlwm yn ddynamig. Mae’r

llecynnau’n darparu cyfle ymarferol/lleol gwych

ar gyfer dysgu ac addysgu trawsgwricwlaidd

o ansawdd uchel, wedi’i seilio ar destunau. Er

enghraifft, mae cysylltiadau clir iawn rhwng

ymchwilio i ddaearyddiaeth y llecynnau hyn ar

y cyd â dylunio a thechnoleg – ymchwilio i sut

y mae cyfarpar chwarae’n gweithio a dylunio/

creu eitemau newydd.

Maes chwaraeon/

parc chwarae

– Netley Abbey

ger Southampton,

Hampshire

www.ordnancesurvey.co.uk/addysg newyddion mapio Rhifyn 31 gaeaf 2006 15

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!