You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Ap yr Wyddor

Gymraeg

Ewch o A i Y gyda’r

Ffrindiau Bach!

Mae ‘Ffrindiau Bach’ yn ap Cymraeg

addysgiadol arloesol ar gyfer dysgwyr

ifanc 3-5 oed. Wedi’i greu gan Atebol

a’i ariannu’n rhannol gan Cymru

Greadigol, mae’n ffordd hwyliog a

lliwgar o ddysgu llythrennau’r wyddor

Gymraeg.

Wedi’i gynhyrchu mewn

cydweithrediad ag ymarferwyr

addysg yng Nghymru, mae ‘Ffrindiau

Bach’ yn ategu’r Cwricwlwm gan helpu

i ddatblygu sgiliau iaith, llythrennedd

a chyfathrebu Cymraeg. Mae’r ap

hefyd yn cefnogi ‘Cymraeg 2050’,

strategaeth Llywodraeth Cymru i gael

miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn

2050.

Yn addas ar gyfer lleoliadau cartref

a dysgu cynnar, mae yna gymeriad

‘Ffrindiau Bach’ i bawb. Mae’r ap amlhaenog

hwn, y gellir ei brynu am 99c

ar bob prif siop apiau, yn cynnwys ...

1

2

3

4

Straeon difyr yn cyflwyno

llythrennau gwahanol yr wyddor

Gymraeg gyda chymeriad

‘Ffrindiau Bach’ unigryw yn

cynrychioli pob llythyren.

Troslais cynhwysfawr Cymraeg

i helpu dysgwyr i ddatblygu eu

sgiliau dealltwriaeth.

Ymarferion argopïo ar gyfer

pob llythyren i ddatblygu sgiliau

ysgrifennu.

Gemau hwylus cysylltiedig i

ddatblygu’r cof gweledol.

Enillodd yr ap wobr ‘Canmoliaeth

Uchel’ mewn seremoni wobrwyo

‘Dyfarniadau Rhyngwladol Bett 2024’

yn ddiweddar. Dyma’r unig adnodd

o Gymru wnaeth gyrraedd y brig

mewn rhestr fer o saith yn y categori,

‘Adnodd Addysgol ar gyfer Rhieni neu

Dysgu’n y Cartref 2024’. Mae Gwobrau

Bett yn dathlu creadigrwydd ac

arloesedd mewn technoleg ar gyfer

addysg.

Gallwch ddarganfod mwy am yr ap

‘Ffrindiau Bach’ drwy ymweld â’r

wefan ddwyieithog. I drefnu sgwrs am

Ffrindiau Bach, cysylltwch ag Alexa:

alexa@atebol.com neu 07470 428 279

neu Joanna: joanna@atebol.com

07599 862 998.