You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
8

BARN:

Mi oedd hi bron yn amhosib i Steddfod

ym Mhen Llŷn (ac Eifionydd) i fod yn un

gwael - ac yn wir ni gafwyd siom.

Er ei fod yn ymddangos mai dim ond tua un

tŷ sydd ym Moduan, pa ots am hynny pan fo

dinas newydd sbon Gymraeg yn cael ei chreu

dros nos ar y llethrau gwyrdd o’i gwmpas.

Heidiodd arbenigwyr trafaelio, campio,

carafanio a fanio gorau’r byd yno yn eu degau

o filoedd i godi muriau’r ddinas newydd o

amgylch y maes.

Roedd y ‘ddadl iaith’ syrffedus wedi hen

basio erbyn dechrau’r ŵyl.

Mae gan bawb hawl i’w farn wrth gwrs

- digon teg. Ond roedd rhai wedi gwneud

honiadau am hiliaeth a gwahaniaethu yn

ymwneud â’r rheol iaith.

Ac mi oedd elfennau o’r cyfryngau yng

Nghymru wedi bod yn

rhan o fwydo a chynnal yr

ymosodiad yma heb os.

I ategu unwaith eto - nid

oes gan y rheol iaith ddim

i wneud gyda hil, mae o

am iaith.

Ac os ydych yn ceisio

honni erledigaeth tra’n

ceisio gwthio iaith fyd eang

fwyafrifol ar ddiwylliant brodorol lleiafrifol,

dwi’n ofni eich bod angen checio eich pen. Mi

ddeliodd y Steddfod gyda’r mater yn bwyllog,

yn gwrtais ac yn amyneddgar.

Mae yna ryw ymdeimlad yma hefyd o

shenanigans Maciafelaidd ehangach posib

i geisio tanseilio a Seisnigeiddio sefydliad

Cymreig a Chymraeg arall. Byddwch yn

barod am fwy o’r math yma o beth a daliwch

y lein - mae’r rhyfeloedd diwylliant yn mynd i

fod yma am dipyn go lew beryg.

Roedd y maes yn fawr ac eto yn edrych

yn llawn - roedd yn edrych fel petai nifer yr

ymwelwyr yn fwy na’r arfer - mi fysa’n dda

petai’r Eisteddfod yn ail ddechrau rhannu’r

ffigyrau ymwelwyr fel oedd y norm arferol.

Mae wastad yn bleser gweld pobl yn siarad

a sgwrsio yn y gwahanol bebyll ar faes y

Steddfod. Dwi’n credu weithiau fod y farn

wleidyddol a fynegir gan siaradwyr ychydig

yn unochrog a hunan gyfiawn ar adegau

efallai, a bod lle i fwy o amrywiaeth barnau

gwleidyddol aeddfed - mwy o geidwadaeth

(‘g’ fach) Gymreig yn y mics rhyddfrydol/

blaengar/sosialaidd, er enghraifft.

A mwy o amrywiaeth pan yn trafod pynciau

llosg - mae clywed dim ond un ochr chwith

flaengar di-ddiwedd ar ‘newid hinsawdd’,

Brexit ayyb yn gallu bod yn ormesol o

syrffedus a rolio-llygedaidd, a ni ddylse

siaradwyr gymryd yn ganiataol fod pawb yn y

gynulleidfa yn gytûn â nhw ar eu holl farnau

gwleidyddol ayyb.

‘...mae angen creu pabell Tŷ Gwerin fwy a pharhaol rywle

yng Nghymru yn fy marn i - ar gaeau castell Caerdydd, Harlech

neu Gaernarfon o bosib?’

Eisteddfod wych ym Mhen Llŷn...

ond ambell beth bach hefyd os

ga’i ddeud - gan Gruffydd Meredith

Roedd darlith Eurig Salisbury ar ddylanwad

y Gymraeg ar Tolkien yn hynod ddiddorol.

Diolch hefyd i gaffi y dysgwyr Maes D am

baned rhad!

Mae’r amrywiaeth o gerddoriaeth ar y

maes yn gwella bob blwyddyn - mae angen

creu pabell Tŷ Gwerin fwy a pharhaol rywle

yng Nghymru yn fy marn i - ar gaeau castell

Caerdydd, Harlech neu Gaernarfon o bosib?

Dwi’n falch fod y felin wynt anferth ger y

meysydd gwersylla wedi aros mewn un darn

yn y gwynt sylweddol - nid pob un sydd yn

gallu gwrthsefyll gwyntoedd mawr.

Un o’r uchafbwyntiau eraill oedd clywed pâr

canol oed yn cael dadl uchel am jelly babies

yn eu pabell am dri y bore yn y maes pebyll

- adloniant rhad ac am ddim - diolch i chi

gwpwl pwy bynnag ydych!

‘Roedd y maes yn fawr ac eto yn edrych

yn llawn - roedd yn edrych fel petai nifer

yr ymwelwyr yn fwy na’r arfer’

(Uwchben) Y tri ffigwr yn croesawu pobl yn

Llithfaen ac (islaw) Darlith boblogaidd Eurig

Salisbury ar ddylanwad y Gymraeg ar yr awdur

Tolkien

Ambell bwynt/sylwad/beirniadaeth

adeiladol i orffen:

Be am ddod â baneri Cymru nol ar y maes?

Os na allwn chwifio baner ein gwlad gyda

balchder ar y tir cysegredig yma, yn lle yfflon

y gallwn?

Ynglŷn â’r bobl hynny sydd yn edrych

ar ôl agor a chau drysau’r gwahanol

bebyll/pafiliynau - oes rhaid bod cweit mor

filitaraidd a passive aggressive pan mae’n dod

at reoli’r drysau?

Sut goblyn ydyn ni byntyrs diniwed fod i

wybod pryd mae’n dderbyniol i drio agor

y drysau yma neu ddim, ac osgoi cael ein

cystwyo gan orchmynion uchel o’r tywyllwch

a chlep drws yn ein hwyneb bob tro rydym yn

trio mynd mewn neu allan o babell/pafiliwn?

Onid oes posib cael ryw system arwyddion

neu oleuadau neu rywbeth i ni gael gwybod

pryd y gallwn drio mentro mewn neu allan o’r

amrywiol bebyll/pafiliynau?

Un peth arall a phwynt dwi wedi ei wneud

o’r blaen (gan fôrio fy hun yn y broses)

- be am gael enwau’r gwahanol bebyll a

phafiliynau yn fawr ar dop bob un fel bod

posib eu gweld o bell?

Mae gorfod trio eich lwc ym mhob un a

gorfod gofyn ‘be ydi’r babell yma plîs?’ yn

gallu mynd yn flinedig ac yn gwneud i rywun

swnio fel ynfytyn ar ôl y degfed tro.

Cysylltu gyda’r

Eisteddfod - mae

wedi mynd bron

yn amhosib cael

gafael ag unrhyw

un o’r Steddfod,

yn arbennig ar

ffôn.

Credaf y

dyle’r Steddfod

gael swyddfa

barhaol mewn un

lleoliad penodol

ble mae posib

cael gafael ar

holl dîm rheoli’r

Steddfod.

Mi ddyle hyn

fod o help i’r Eisteddfod ei

hun hefyd - dydi cyfarfodydd

Zoom ac ambell e-bost bob yn

hyn a hyn jest ddim yn griced.

Yn olaf, hoffwn

gynnig y syniad yma i’r

Eisteddfod: be am greu fforwm

economaidd a busnes yn y

Steddfod bob blwyddyn ble

mae’n bosib i holl fusnesau

bach, canolig a mawr (ddim

yn rhy fawr o bosib) ddod at ei

gilydd yn flynyddol (o flaen cynulleidfa o

bosib hefyd) er mwyn trafod sut y gallent

gyd-weithio neu gynyddu masnachu a

Diolch i bawb fu’n brysur yn gwerthu’r

Cymro yn y Steddfod ym Mhen Llŷn -

cafwyd llwyddiant yn yr haul a’r gwynt.

Gweler un o’n gwerthwyr, Gwydion

Davies, gydag ambell seleb

busnes yng Nghymru yn gyffredinol?

Hyn yn ogystal â chael fforymau ble mae’n

bosib i holl ymwelwyr i’r Steddfod drafod

a phitsio syniadau busnes a chreu llewyrch

ymysg ei gilydd.

Hefyd pam ddim cael sesiwn prynu a

gwerthu blynyddol, ac o bosib ocsiwn ble

y gall cyd-Gymry brynu a gwerthu tai, tir

neu hyd yn oed ceir ac eiddo cyffredinol i’w

gilydd?

Mae angen dod at ein gilydd i greu a

rhannu cyfoeth yn ogystal a diwylliant. Mae

annibyniaeth ar y gorwel ac mae creu economi

wirioneddol gryf a hunan-gynhaliol yn mynd i

fod yn chwarae rhan hollbwysig.

Mae cyfle i bawb rannu syniadau a sylwadau

am beth yr hoffent weld yn y Steddfod dros y

blynyddoedd nesaf. Os oes gennych chi farn

am unrhyw beth sy’n ymwneud â’r Eisteddfod

ewch i wefan yr Eisteddfod a chlicio ar y linc

‘Y Sgwrs’ i rannu eich barn.

Glampio yn y Sdeddfod