4 BARN: Un o’r heriau sy’n ein wynebu ni yng Nghymru, fel mewn gwledydd eraill, ydy cyfathrebu negeseuon. Mae’r obsesiwn sydd yn Lloegr gyda’u ‘straplines’ yn eu harwain i ddyfroedd dyfnion iawn, yn aml iawn. Felly faswn i ddim yn hyrwyddo hynny, ond mae cyfathrebu, yn rhyfedd iawn, i feidrolion sy’n medru siarad, yn her. O ran y maes tai, un peth dw i wedi sylwi arno ydy bod rhai yn cyfeirio at y broblem dai gwyliau fel y broblem ‘Airbnb’. I rai ohonom, rydyn ni’n deall bod y defnydd o’r gair ‘Airbnb’ weithiau yn gyfystyr â chyfeirio at bob math o dai gwyliau, ac y defnyddir ‘Airbnb’ weithiau i gynrychioli ‘tai gwyliau’. Ond i laweroedd nad sydd ynghlwm â thrafodaethau yn ymwneud â thai gwyliau (er efallai yn berchen ar un!), mae Airbnb yn golygu Airbnb. Hynny yw os yw eich tŷ gwyliau ar unrhyw wefan arall, ond ddim ar Airbnb, yna mae popeth yn iawn, mae’ch cyfraniad yn fawr. Hynny yw, mae camddealltwriaeth o amgylch bod rhai yn credu mai’r platfform yw’r broblem, ac nid y tai gwyliau - i gyd, ar ba bynnag blatfform maen nhw’n cael eu gwerthu. Mae dealltwriaeth ymysg rhai bod dweud Airbnb yn golygu tai gwyliau, ond rhaid i’r rhai sy’n deall hyn, ddeall nad dyma ddealltwriaeth pawb o’r ‘term’. Dw i’n nabod rhai sydd yn tynnu eu tai gwyliau oddi ar y platfform hwnnw, ond yn eu cadw ar blatfformau eraill, ac yn wirioneddol gredu nad yw eu tŷ gwyliau nhw yn y pentref yn broblem bellach. Gochelwn felly rhag cyfathrebu ‘tai gwyliau’ fel hyn. A thra ein bod yn faes chwarae i bobl ddwad, ry’n ni ar yr un pryd yn hollol amherthnasol fel endid, yn wir dydyn ni ddim yn cael ein gweld o gwbl. Wrth i mi sgwennu’r pwt bach hwn, y ‘newyddion’ ydy, yn ôl ystadegau o ‘swyddfa’r ystadegau’ (Lloegr) fod llai ‘Beth mae hyn oll yn ei wneud ydy ein glynu ymhellach wrth Loegr, gwanhau ein democratiaeth a’n analluogi i gynllunio’ Dewch bawb felly i fyw ‘yngnghymrualloegr’ mewn ‘Airbnb’ a bydd popeth yn iawn! ‘...ry’n ni ar yr un pryd yn hollol amherthnasol fel endid, yn wir dydyn ni ddim yn cael ein gweld o gwbl’ - gan Heledd Gwyndaf o blant wedi eu geni eleni yngnghymrualloegr. Nid yw hyn yn dweud DIM wrthym am niferoedd geni yng Nghymru. Gall fod y nifer wedi dyblu yng Nghymru, ond os y byddai wedi gostwng yn Lloegr, gall ei fod dal wedi gostwng yngnghymrualloegr. Nawr mae ffigyrau am bethau fel hyn, ac yn enwedig hefyd ym maes trosedd a chosb yn penderfynu ar sut mae gwlad yn mynd i’r afael â heriau sy’n debygol o godi yn sgil y ffigyrau hyn, a beth ddylsai blaenoriaeth gwlad fod. Tra fod pobl Cymru yn cael ffeithiau anghywir, mi fyddwn ni’n cynllunio yn anghywir. Mae hi’n anodd iawn, os nad yn amhosibl cael ffigyrau cywir am Gymru yn unig ar wefan y swyddfa ystadegau (nid ydym hyd yn oed yn atodiad), ac yn sicr mae’n hen bryd i newyddion Radio Cymru (BBC) roi’r gorau i adrodd ffigyrau yngnghymrualloegr a chreu trafodaethau o amgylch rhywbeth na wyddwn os yw hyd yn oed yn berthnasol i ni. Beth mae hyn oll yn ei wneud ydy ein glynu ymhellach wrth Loegr, gwanhau ein democratiaeth a’n analluogi i gynllunio. Tan ein bod yn wlad annibynnol, yngnghymrualloegr fyddwn ni, ond tan hynny, rhaid i’n Llywodraeth ni roi’r gorau i ymwneud ag unrhywbeth sydd yngnghymrualloegr - ac mae yn sicr angen i staff y BBC yng Nghymru wneud hefyd. ‘Roedd cyngor R Alun wastad yn werth ei gael’ - teyrngedau i’r darlledwr Bu farw’r darlledwr, awdur a gweinidog gyda’r Annibynwyr, y Parchedig R Alun Evans yn dilyn salwch byr fis diwethaf. Roedd yn 86 oed. Mewn gyrfa amrywiol gyda’r BBC roedd yn un o wynebau a lleisiau mwyaf cyfarwydd y byd darlledu Cymraeg. Bu’n gyflwynydd y rhaglen gylchgrawn Heddiw yn y 1970au, yn sylwebydd ar gemau pêl-droed a digwyddiadau mawr y BBC yn y Gymraeg. Yn ogystal a’i waith darlledu daeth yn ffigwr amlwg yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ymgymryd â sawl rôl allweddol, cyn cael ei anrhydeddu’n Gymrawd am oes o wasanaeth i’r Brifwyl. Bu hefyd yn Llywydd ar yr Annibynwyr Cymraeg. Mewn teyrnged iddo dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: “Bu’n rhan o lywodraethiant y Brifwyl am flynyddoedd lawer, ac roedd ei ffyniant a’i datblygiad yn agos iawn at ei galon. “Roedd yn arweinydd naturiol a gofalus yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, ac roedd ein perthynas gydag R Alun yr un mor gryf ac agos heddiw ag y bu erioed. “Cwta dair wythnos yn ôl roedden ni’n cydweithio er mwyn cwblhau’r argraffiad newydd o’i gyfrol ar hanes Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn, ac rydyn ni mor falch o fod wedi cael y cyfle i gwblhau’r prosiect hwn a oedd mor agos at ei galon. “Roedd cyngor R Alun wastad yn werth ei gael. Roedd yn fodern ei weledigaeth, yn gweld dyfodol yr Eisteddfod yn glir, ac yn rhannu o’i brofiad a’i syniadau gyda ni tan y diwedd.” Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Roedd R Alun Evans yn ddarlledwr crefftus a chraff; yn gawr ac yn arloeswr ymhlith darlledwyr Cymru dros sawl degawd a chanddo’r gallu unigryw hwnnw i greu agosatrwydd arbennig gyda’i gynulleidfa. Fe dorrodd dir newydd mewn sawl maes yn y byd darlledu. “Roedd yn gyflwynydd newyddion ar y rhaglen Heddiw, yn gyfrifol am sylwebaethau pêl-droed cofiadwy, yn dywysydd drwy seremonïau Eisteddfodol dirifedi ac ar raglenni addysg a chrefydd y BBC.” Cafodd ei eni a’i fagu yn Llanbrynmair cyn graddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Ddilynodd ei dad i’r weinidogaeth a chael ei ordeinio yn Llandysul yn 1961. Ond roedd eisoes wedi dechrau ymddiddori mewn darlledu ac fe ymunodd ag Adran Grefydd BBC Cymru yn 1964. Ymunodd â rhaglen Heddiw yn 1969, gan ohebu a chyflwyno tan 1979. Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn sylwebu ar seremonïau’r Eisteddfod ac yn sylwebu ar gemau pêl-droed. Fe’i dyrchafwyd wedyn yn un o reolwyr y BBC a chafodd ei benodi’n bennaeth ar ganolfan y BBC ym Mangor. 81. Ar ôl ymddeol o’r byd darlledu yn 1996, fe astudiodd a chael Doethuriaeth am ei waith ar ‘Dechrau a datblygu darlledu yng Ngogledd Cymru’. Fe ddychwelodd hefyd i’r weinidogaeth, gan wasanaethu i’r Annibynwyr yng Nghaerffili a Gwaelod y Garth nes ei ymddeoliad ddiwedd 2014. Gawn ni ysgol newydd fel hyn plis? ...barn y disgyblion i benseiri eu hadeilad newydd Cymerwyd cam ymlaen mewn prosiect i ail-ddatblygu’r ysgol ac adnoddau cymunedol ym Montnewydd ger Caernarfon, wrth i Gyngor Gwynedd benodi’r penseiri fydd yn dylunio’r adeiladau newydd. Bu cyfle i gynrychiolwyr o gwmni TACP o Wrecsam i gwrdd â theulu’r ysgol yn ystod ymweliad cyn diwedd tymor yr haf er mwyn iddynt gael gweld beth yw anghenion y disgyblion, y staff a’r gymuned wrth i waith ar y cynllun gwerth hyd at £12 miliwn symud yn ei flaen. Yn ystod eu hymweliad roedd cyfle i’r penseiri glywed gan y disgyblion beth hoffent weld yn eu hysgol newydd ac i drafod anghenion staff yr ysgol gyda’r pennaeth. Yr Wyddfa - neu fel y disgrifir yn aml am ryw reswm od - ‘Y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr’ Un o gonglfeini’r ysgol newydd fydd ei ethos ecogyfeillgar. Bydd hyn yn amlwg yn ystod y gwaith adeiladu gyda’r bwriad o ail-ddefnyddio cymaint ag sy’n bosib o ddeunyddiau gwreiddiol yr ysgol a’r ganolfan gymunedol bresennol gan leihau cylch bywyd carbon yr adeilad ac adnoddau newydd. Yna, wedi i’r ysgol newydd agor, bydd yr adeilad yn sero net o ran ei allyriadau nwyon tŷ gwydr gan wneud defnydd o ynni adnewyddol, insiwleiddio effeithlon ac annog teithio cynaliadwy. Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod o Gyngor Gwynedd dros Bontnewydd: “Roedd yn braf iawn cael croesawu’r penseiri i Bontnewydd ac roedd yn gyfle gwych i ni ddechrau trafod ein dymuniadau ar gyfer yr ysgol a’r adnoddau cymunedol efo nhw. Roedd yn fendigedig cael mewnbwn y plant a dwi’n edrych ymlaen at gael cyfleoedd pellach i gydweithio i’r dyfodol. “Er bod yr hen ysgol yn agos at galonnau pawb ohonom ac mae’n le hapus, does dim dwywaith fod pawb yn edrych ymlaen yn fawr at weld y cynlluniau’n siapio a’r ysgol newydd yn cael ei chodi. “Rydw i’n falch y bydd yr ysgol newydd yn fwy o ran ei maint gydag amgylchedd ac adnoddau dysgu sy’n gweddu gofynion modern. “Dwi hefyd yn falch y bydd cyfle trwy hyn i’r plant ddysgu am gynaliadwyedd a phensaernïaeth drwy gydol y prosiect.”
5 Un i’w chofio ...yn sicr ‘Amhosib i Steddfod ym Mhen Llŷn (ac Eifionydd) i fod yn un gwael’ - Gruffydd Meredith - tud 8 ‘Ein trochi eto mewn môr o Gymreictod’ - Robat Idris - tud 10 ‘Yr alwad i ddychwelyd i’r ardal mor fuan ag y bo modd’ - edrych ’n ôl ar yr wythnos - Eryl Cump - tud 14 ‘...mi allwn ni berchnogi’n gwlad a chael trefn arni’.- Anerchiad yr Archdderwydd - tud 27 arlein - Y<strong>Cymro</strong>.Cymru Lluniau: Eisteddfod Genedlaethol Cymru