You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
4

BARN:

Un o’r heriau sy’n ein wynebu ni yng

Nghymru, fel mewn gwledydd eraill, ydy

cyfathrebu negeseuon.

Mae’r obsesiwn sydd yn Lloegr gyda’u ‘straplines’ yn

eu harwain i ddyfroedd dyfnion iawn, yn aml iawn.

Felly faswn i ddim yn hyrwyddo hynny, ond mae

cyfathrebu, yn rhyfedd iawn, i feidrolion sy’n medru

siarad, yn her.

O ran y maes tai, un peth dw i wedi sylwi arno ydy bod

rhai yn cyfeirio at y broblem dai gwyliau fel y broblem

‘Airbnb’.

I rai ohonom,

rydyn ni’n deall bod y

defnydd o’r gair

‘Airbnb’ weithiau yn

gyfystyr â chyfeirio

at bob math o dai

gwyliau, ac y defnyddir

‘Airbnb’ weithiau i

gynrychioli ‘tai

gwyliau’.

Ond i laweroedd nad sydd ynghlwm â thrafodaethau yn

ymwneud â thai gwyliau (er efallai yn berchen ar un!),

mae Airbnb yn golygu Airbnb.

Hynny yw os yw eich tŷ gwyliau ar unrhyw wefan arall,

ond ddim ar Airbnb, yna mae popeth yn iawn, mae’ch

cyfraniad yn fawr.

Hynny yw, mae camddealltwriaeth o amgylch bod

rhai yn credu mai’r platfform yw’r broblem, ac nid y tai

gwyliau - i gyd, ar ba bynnag blatfform maen nhw’n cael

eu gwerthu.

Mae dealltwriaeth ymysg rhai bod dweud Airbnb yn

golygu tai gwyliau, ond rhaid i’r rhai sy’n deall hyn,

ddeall nad dyma ddealltwriaeth pawb o’r ‘term’.

Dw i’n nabod rhai sydd yn tynnu eu tai gwyliau oddi ar

y platfform hwnnw, ond yn eu cadw ar blatfformau eraill,

ac yn wirioneddol gredu nad yw eu tŷ gwyliau nhw yn y

pentref yn broblem bellach.

Gochelwn felly rhag cyfathrebu ‘tai gwyliau’ fel hyn.

A thra ein bod yn faes chwarae i bobl ddwad, ry’n ni ar

yr un pryd yn hollol amherthnasol fel endid, yn wir dydyn

ni ddim yn cael ein gweld o gwbl.

Wrth i mi sgwennu’r pwt bach hwn, y ‘newyddion’ ydy,

yn ôl ystadegau o ‘swyddfa’r ystadegau’ (Lloegr) fod llai

‘Beth mae hyn oll yn ei wneud ydy ein

glynu ymhellach wrth Loegr, gwanhau ein

democratiaeth a’n analluogi i gynllunio’

Dewch bawb felly i fyw

‘yngnghymrualloegr’ mewn

‘Airbnb’ a bydd popeth yn iawn!

‘...ry’n ni ar yr un pryd yn hollol

amherthnasol fel endid, yn wir dydyn

ni ddim yn cael ein gweld o gwbl’

- gan Heledd Gwyndaf

o blant wedi eu geni eleni yngnghymrualloegr.

Nid yw hyn yn dweud DIM wrthym am niferoedd geni

yng Nghymru. Gall fod y nifer wedi dyblu yng Nghymru,

ond os y byddai wedi gostwng yn Lloegr, gall ei fod dal

wedi gostwng yngnghymrualloegr.

Nawr mae ffigyrau am bethau fel hyn, ac yn enwedig

hefyd ym maes trosedd a chosb yn penderfynu ar sut mae

gwlad yn mynd i’r afael â heriau sy’n debygol o godi yn

sgil y ffigyrau hyn, a beth ddylsai blaenoriaeth gwlad fod.

Tra fod pobl Cymru yn cael ffeithiau anghywir, mi

fyddwn ni’n cynllunio yn anghywir.

Mae hi’n anodd iawn, os nad yn

amhosibl cael ffigyrau cywir am

Gymru yn unig ar wefan y swyddfa

ystadegau (nid ydym hyd yn oed

yn atodiad), ac yn sicr mae’n hen

bryd i newyddion Radio Cymru

(BBC) roi’r gorau i adrodd ffigyrau

yngnghymrualloegr a chreu

trafodaethau o amgylch rhywbeth na

wyddwn os yw hyd yn oed yn berthnasol i ni.

Beth mae hyn oll yn ei wneud ydy ein glynu ymhellach

wrth Loegr, gwanhau ein democratiaeth a’n analluogi i

gynllunio.

Tan ein bod yn wlad annibynnol,

yngnghymrualloegr fyddwn ni, ond tan hynny, rhaid i’n

Llywodraeth ni roi’r gorau i ymwneud ag unrhywbeth

sydd yngnghymrualloegr - ac mae yn sicr angen i staff y

BBC yng Nghymru wneud hefyd.

‘Roedd cyngor R Alun

wastad yn werth ei gael’

- teyrngedau i’r darlledwr

Bu farw’r darlledwr, awdur a gweinidog gyda’r

Annibynwyr, y Parchedig R Alun Evans yn dilyn salwch

byr fis diwethaf. Roedd yn 86 oed.

Mewn gyrfa amrywiol gyda’r BBC roedd yn un o wynebau

a lleisiau mwyaf cyfarwydd y byd darlledu Cymraeg. Bu’n

gyflwynydd y rhaglen gylchgrawn Heddiw yn y 1970au, yn

sylwebydd ar gemau pêl-droed a digwyddiadau mawr y BBC

yn y Gymraeg.

Yn ogystal a’i waith darlledu daeth yn ffigwr amlwg

yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ymgymryd â sawl rôl

allweddol, cyn cael ei anrhydeddu’n Gymrawd am oes o

wasanaeth i’r Brifwyl.

Bu hefyd yn Llywydd ar yr Annibynwyr Cymraeg.

Mewn teyrnged iddo dywedodd Betsan Moses, Prif

Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: “Bu’n rhan o

lywodraethiant y Brifwyl am flynyddoedd lawer, ac roedd ei

ffyniant a’i datblygiad yn agos iawn

at ei galon.

“Roedd yn arweinydd naturiol a

gofalus yn ystod ei gyfnod wrth y

llyw, ac roedd ein perthynas gydag

R Alun yr un mor gryf ac agos

heddiw ag y bu erioed.

“Cwta dair wythnos yn ôl roedden

ni’n cydweithio er mwyn cwblhau’r

argraffiad newydd o’i gyfrol ar hanes

Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn, ac

rydyn ni mor falch o fod wedi cael y cyfle i gwblhau’r

prosiect hwn a oedd mor agos at ei galon.

“Roedd cyngor R Alun wastad yn werth ei gael. Roedd

yn fodern ei weledigaeth, yn gweld dyfodol yr Eisteddfod

yn glir, ac yn rhannu o’i brofiad a’i syniadau gyda ni tan y

diwedd.”

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC

Cymru: “Roedd R Alun Evans yn ddarlledwr crefftus a

chraff; yn gawr ac yn arloeswr ymhlith darlledwyr Cymru

dros sawl degawd a chanddo’r gallu unigryw hwnnw i greu

agosatrwydd arbennig gyda’i gynulleidfa. Fe dorrodd dir

newydd mewn sawl maes yn y byd darlledu.

“Roedd yn gyflwynydd newyddion ar y rhaglen Heddiw, yn

gyfrifol am sylwebaethau pêl-droed cofiadwy, yn dywysydd

drwy seremonïau Eisteddfodol dirifedi ac ar raglenni addysg

a chrefydd y BBC.”

Cafodd ei eni a’i fagu yn Llanbrynmair cyn graddio yn

y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Ddilynodd ei dad i’r

weinidogaeth a chael ei ordeinio yn Llandysul yn 1961.

Ond roedd eisoes wedi dechrau ymddiddori mewn darlledu

ac fe ymunodd ag Adran Grefydd BBC Cymru yn 1964.

Ymunodd â rhaglen Heddiw yn 1969, gan ohebu a

chyflwyno tan 1979. Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn

sylwebu ar seremonïau’r Eisteddfod ac yn sylwebu ar gemau

pêl-droed.

Fe’i dyrchafwyd wedyn yn un o reolwyr y BBC a chafodd

ei benodi’n bennaeth ar ganolfan y BBC ym Mangor. 81.

Ar ôl ymddeol o’r byd darlledu yn 1996, fe astudiodd

a chael Doethuriaeth am ei waith ar ‘Dechrau a datblygu

darlledu yng Ngogledd Cymru’.

Fe ddychwelodd hefyd i’r weinidogaeth, gan wasanaethu

i’r Annibynwyr yng Nghaerffili a Gwaelod y Garth nes ei

ymddeoliad ddiwedd 2014.

Gawn ni ysgol newydd fel hyn plis? ...barn y disgyblion i benseiri eu hadeilad newydd

Cymerwyd cam ymlaen mewn prosiect i ail-ddatblygu’r

ysgol ac adnoddau cymunedol ym Montnewydd ger

Caernarfon, wrth i Gyngor Gwynedd benodi’r penseiri

fydd yn dylunio’r adeiladau newydd.

Bu cyfle i gynrychiolwyr o gwmni TACP o Wrecsam i

gwrdd â theulu’r ysgol yn ystod ymweliad cyn diwedd

tymor yr haf er mwyn iddynt gael gweld beth yw anghenion

y disgyblion, y staff a’r gymuned wrth i waith ar y cynllun

gwerth hyd at £12 miliwn symud yn ei flaen.

Yn ystod eu hymweliad roedd cyfle i’r penseiri glywed

gan y disgyblion beth hoffent weld yn eu hysgol newydd ac

i drafod anghenion staff yr ysgol gyda’r pennaeth.

Yr Wyddfa - neu fel y disgrifir yn aml am ryw reswm od

- ‘Y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr’

Un o gonglfeini’r ysgol newydd fydd ei ethos ecogyfeillgar.

Bydd hyn yn amlwg yn ystod y gwaith adeiladu

gyda’r bwriad o ail-ddefnyddio cymaint ag sy’n bosib o

ddeunyddiau gwreiddiol yr ysgol a’r ganolfan gymunedol

bresennol gan leihau cylch bywyd carbon yr adeilad ac

adnoddau newydd. Yna, wedi i’r ysgol newydd agor,

bydd yr adeilad yn sero net o ran ei allyriadau nwyon tŷ

gwydr gan wneud defnydd o ynni adnewyddol, insiwleiddio

effeithlon ac annog teithio cynaliadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod

o Gyngor Gwynedd dros Bontnewydd: “Roedd yn braf

iawn cael croesawu’r penseiri i Bontnewydd ac roedd yn

gyfle gwych i ni ddechrau trafod ein dymuniadau ar gyfer

yr ysgol a’r adnoddau cymunedol efo nhw. Roedd yn

fendigedig cael mewnbwn y plant a dwi’n edrych ymlaen at

gael cyfleoedd pellach i gydweithio i’r dyfodol.

“Er bod yr hen ysgol yn agos at galonnau pawb ohonom

ac mae’n le hapus, does dim dwywaith fod pawb yn edrych

ymlaen yn fawr at weld y cynlluniau’n siapio a’r ysgol

newydd yn cael ei chodi.

“Rydw i’n falch y bydd yr ysgol newydd yn fwy o ran ei

maint gydag amgylchedd ac adnoddau dysgu sy’n gweddu

gofynion modern.

“Dwi hefyd yn falch y bydd cyfle trwy hyn i’r plant

ddysgu am gynaliadwyedd a phensaernïaeth drwy gydol y

prosiect.”