Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
27

Be’ sy’n rhoi gwên ar eich wyneb?

Be’ sy’n eich gyrru’n hollol wallgof?

Be’ sydd angen ei newid syth bin?

- Rydym am glywed eich barn ar yr hyn

sy’n wirioneddol bwysig yn y Gymru zgyfoes

Cysylltwch â’r Cymro: gwyb@ycymro.cymru

‘Drwy berchnogi ein gwlad,

mi allwn gael y grym, a’r

cyllid, i greu gwell Cymru

i’n plant’

Detholiad o anerchiad yr Archdderwydd

Myrddin Ap Dafydd yn Eisteddfod Genedlaethol

Llŷn ac Eifionydd.

“Dan ni mor falch o’ch gweld chi yma, yma yn ein Steddfod

ni. Maen nhw wedi bod yn flynyddoedd hir ers dechrau’r daith!

Ond ers rhai misoedd, dydi’r ardal yma’n siarad am ddim arall.

Pentrefi yn tynnu at ei gilydd, ardal yn closio ac yn dathlu

treftadaeth a chroeso gyda dychymyg. Mae na hen beintio a

llifio, trosolio a gosod arwyddion a baneri wedi bod - i sicrhau

pob ymwelydd fod y croeso i Steddfod Llŷn ac Eifionydd yn

gynnes ac yn ddeniadol. Ers pythefnos, does dim potiau paent

coch ar ôl yn siopau Pwllheli. Mae’r Steddfod yn furum drwy’r

ardal ac mae hi fel bara - er cystal ydi’r sylw mae hi’n ei gael

ar yr holl gyfryngau eraill, mae hi’n llawer gwell yn ffresh, yn

eich dwylo, felly daliwch i ddod yma i’r Maes i’w mwynhau.

Ychydig dros fis yn ôl roedd defod Cyhoeddi Steddfod

y flwyddyn nesa yn Aberdâr - roedd yno orfoledd, lond y

palmentydd, a dagrau o lawenydd fod y Gymraeg yn creu

cynefin iddi’i hun yn y Cymoedd unwaith eto.

‘Mae’n dadlau y gall yr angen inni fynd

â’n capia yn ein dwylo yn ddi-urddas i

Lundain i gardota am chydig friwsion

bob hyn a hyn ddod i ben’

O Aberdâr i Aberdaron, yr un ydi’r angen - creu cynefin i’r

iaith a’i siarad hi a’i defnyddio hi ym mhob agwedd o fywyd.

Dyna be mae’r Steddfod yn ei gynnig inni - byd crwn, cyflawn

Cymraeg sy’n ysbrydoliaeth. Dyna mae Huw Prys Jones wedi’i

ganfod yn ei waith gwerthfawr ar y wefan Atlas y Gymraeg.

Fel yr Eisteddfod ei hun, mae Llŷn ac Eifionydd yn cynnig

cynefin allweddol ac yn haeddu sylw manwl a chreadigol wrth

gynnal a chryfhau’r iaith.

Ffaith galonogol ydi bod cryfder y cynefin yn cael effaith dda

ar y rhai sy’n symud yma o’r tu allan i Gymru - yn ôl ymchwil

Huw mae bron chwarter y rheiny yn Llŷn ac Eifionydd yn

dysgu a defnyddio Cymraeg.

Unwaith eto, fel yn y Steddfod ei hun, mae’n amlwg fod

gweld bywyd a llawenydd a diwylliant y rhai sy’n byw drwy’r

iaith yn denu rhagor o siaradwyr Cymraeg newydd ati. Mae’r

Steddfod yn hollbwysig - ydi; felly hefyd y dalgylch yma sy’n

ei chynnal eleni.

Un o’r pethau sy’n rhoi pwysau mawr ar ar lawer o

ardaloedd yng Nghymru heddiw ydi diffyg tai i bobl leol. Fel

mae ymgyrch Ga’ i Fyw Adra yn llwyddo i’n hargyhoeddi ni,

mae hyn yn amlwg iawn yn Llŷn ac Eifionydd.

Mae sawl agwedd ar y broblem ac mae sawl ateb all gyfrannu

at wella pethau a da gweld rhai o’r rheiny ar waith bellach.

Ond mae’r dystiolaeth o’n cwmpas ni fan hyn o hyd - all ein

gweithwyr allweddol, gan gynnwys doctoriaid ac athrawon,

ddim fforddio pris y

tai sydd yn y dalgylch

yma.

Anghydraddoldeb

- dyna wendid

mawr y wladwriaeth

flêr yma dan ni’n

byw ynddi, gyda’r

llywodraeth canolog

yn Llundain yn rheoli’r

penderfyniadau

allweddol o hyd.

Dyma’r wladwriaeth

gyda’r record waethaf,

ar ôl America, yn y byd

gorllewinol.

Mae 10% o’r

boblogaeth, sef y

teuluoedd cyfoethocaf,

yn berchen ar 50%

o’r holl gyfoeth. Ac

mi wyddom pa deulu

ydi’r cyfoethocaf o’r 10%

rheiny.

Mae 65% o arfordir Cymru yn eiddo i Stad y Goron, nid i

bobl Cymru.

Mae ymerodraeth y Goron yng Nghymru yn llawer mwy na

hynny - mae’n cynnwys ffermydd, coedwigoedd, canolfannau

siopa, ffermydd ynni gwynt, gwlâu afonydd a moroedd.

Mae gwerth asedau’r Goron ar arfordir Cymru yn unig wedi

codi o ryw £50 miliwn yn 2020 i dros £600 miliwn yn 2022.

Mae Liz Saville, ein haelod yn San Steffan, eisoes wedi

dangos arweiniad. Mae’n dadlau y gall yr angen inni fynd

â’n capia yn ein dwylo yn ddi-urddas i Lundain i gardota am

chydig friwsion bob hyn a hyn ddod i ben.

O drosglwyddo Stad y Goron i bobl Cymru, dan reolaeth

Senedd Cymru (fel y gwnaed yn yr Alban chwe mlynedd yn ôl)

allwn ni fod gam yn nes at gymryd y cyfrifoldeb i geisio datrys

rhai o’n problemau. Dyna farn Prifweinidog Cymru hefyd

a Llywodraeth Cymru a thri chwarter pobl Cymru yn ôl pôl

piniwn diweddar.

Drwy berchnogi ein gwlad, mi allwn gael y grym, a’r cyllid, i

greu gwell Cymru i’n plant.

Beth felly fyddai’n bosib? Dewch yn ôl efo fi i dre

Nefyn. Yn 1890 mi sefydlwyd Ymddiriedolaeth Dai yno gan

gorfforaeth y dref - mi wnaed hynny gan brynu tai oedd yn dod

ar y farchnad, gweithio arnyn nhw a’u cadw mewn cyflwr da

a’u gosod ar rent teg i drigolion sydd efo cysylltiad lleol, cryf.

Heddiw mae Ymddiriedolaeth Dai Nefyn yn gofalu am

chwech ar hugain o dai a safleoedd eraill ac yn cyflogi clerc.

Yn y dyfodol agos mae bwriad i godi dau dŷ unllawr i bobl

sengl ac i brynu nifer o dai sy’n sefyll yn wag yn y dref. Dyna

be sy’n bosib ei efelychu mewn ardaloedd eraill o gael Stad y

Goron i’n dwylo ni..

Dyma ein cyfle ni i afael yn y dwrn yna.

Mae’r Inland Revenue a Stad y Goron yn ddwy ochr i’r

un geiniog wrth gwrs. Geiriau Wil Sam yng nghymeriad yr

anfarwol Ifas y Tryc sy’n dod i’r meddwl: ‘Yr Incwm Tacs, yr

England Refeniw - hwnna ydi o. Lladron pen ffor’; ia - lladron

pob ffor, hwnna sgin i!’

Perchnogi ein gwlad, cymryd cyfrifoldeb - mi all yr ardal yma

eich ysbrydoli yn ystod eich ymweliad.

Ym mhentref chwarel Trefor y sefydlwyd y siop

gydweithredol - y co-op - cyntaf yng ngwledydd Prydain.

Dach chi wedi cael pwt o hanes Ymddiriedolaeth Dai Nefyn.

Menter gydweithredol eithriadol o bwysig yn yr ardal yma

ydi’r ffatri gaws, Hufenfa De Arfon yn Rhyd-y-gwystl.

Ym mhentrefi Llithfaen, Chwilog, Llanystumdwy, Llandwrog

a Nefyn mae yna dafarndai a busnesau eraill lle mae’r elfen

gydweithredol yn gryf ynddyn nhw.

Yr ysbryd LLEOL sy’n gyfrifol fod ganddon ni fysys wennol

o’r Maes i Bwllheli ac o’r Maes i Nefyn, Morfa, Edern a

Dweiliog.

Pan nad oedd modd gan y Steddfod ganolog na Thrafnidiaeth

Cymru i noddi’r gwasanaeth, aeth unigolion lleol ati i gasglu

pres gan fusnesau a phobl leol i roi sicrwydd i gwmnïau bysys

yr ardal allu mystyn eu gwasanaeth drwy gyda’r nos.

Mwynhewch hwylustod a diogelwch y bysys yma;

cefnogwch y noddwyr lleol - ac ewch â’r ysbryd cydweithredol

sydd ’na yn y dalgylch yma adra efo chi.

Mi allwn ni godi gwlad newydd o’r llanast yma dan

ni’n ei weld yn sgil polisiau Llundain ar bob llaw. Gyda’n

gilydd, a thrwy ysgwyddo cyfrifoldeb, mi allwn ni

berchnogi’n gwlad a chael trefn arni.