25.10.2023 Views

Y Cymro - Medi 2023

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Llun: Geraint Todd

24

Yn dilyn cyfnod o waith teledu dwi ar fin

cychwyn ar gyfnod o ysgrifennu ag ymarfer

ar gyfer sioe lwyfan dwi wedi bod yn ceisio ei

datblygu ers cryn dipyn o amser.

Fy nghefnder Dafydd Hywel gofynnodd os fyddai gen

i ddiddordeb mewn ysgrifennu sioe am yr actores

Rachel Roberts beth amser yn ôl, ond rywsut, er i fi

ysgrifennu drama gyflawn, gyda deg o gymeriadau,

daeth dim cyfle i’w lwyfannu.

Prysuraf i ddweud y byddai wedi bod modd dyblu sawl

rhan, i arbed arian, ond erbyn hyn dwi wedi penderfynu bod

y gwaith yn fwy addas ar gyfer ffurf sioe un menyw, ac mae’r

drafft cyntaf, amrwd wedi ei gyflawni.

Ond pwy oedd Rachel

Roberts? Mae’n syndod

parhaus i fi fod cyn lleied

o bobl yn cofio am yr

actores wych yma.

Does prin sôn amdani

pan rhestrir enwau’r

actorion Cymreig

adnabyddus o

gefndiroedd

digon cyffredin

ddaeth i’r amlwg ym

mhumdegau a

chwedegau’r ganrif

ddiwethaf, a aeth yn

eu blaenau i lwyddo ar

lwyfan ryngwladol.

Mae cymaint ohonyn

nhw - Richard Burton,

Siân Phillips, Hugh

Griffith, Stanley Baker,

Rachel Thomas - i

enwi dim ond rhai, yn

gyfarwydd i ni.

Ond diflannodd

enw Rachel Roberts

o gof y genedl, er iddi

gael gyrfa ddisglair

tu hwnt. Enillodd

amryw o wobrwyon am ei

gwaith, yn cynnwys dwy wobr

BAFTA, gwobr Drama Desk,

dau enwebiad Tony, a hyd yn oed

enwebiad am Oscar. Fy ngobaith

yw talu teyrnged iddi wrth geisio

codi clawr ar yr hyn oedd yn

gyrru ei chreadigrwydd.

Does dim dwywaith fod ei

natur angerddol a lliwgar fel

actores a menyw, (i ba raddau

mae modd gwahanu’r ddau?

Trafodwch) wedi mynd yn ei

herbyn.

Roedd yn dra wahanol i’r

Rachel arall honno, oedd

yn ymgorfforiad o’r ‘Fam

Gymreig,’ ac yn gwbl

wrthgyferbyniol i geinder

soffistigedig Siân

Phillips, a’r ddwy, fel menywod

BARN:

arlein - YCymro.Cymru

‘Fe greodd ei Chymreictod yn ogystal a’i

greddf fel menyw annibynnol o fewn byd cyn

dyfodiad ail don ffeministiaeth y saithdegau gyda

brwydrau cymhleth ac anodd’

Diflannodd ei henw o gof

...fy ngobaith yw talu teyrnged

i dalent ffyrnig Rachel

‘...mae’r disgwyliadau sydd

ar fenywod i gydymffurfio â

phatriarchaeth yr un mor

drafferthus’

Rachel Roberts yn 1976

- gan Sharon Morgan

ac actoresau, yn dderbyniol i’r sefydliad yn eu gwahanol

ffyrdd.

Merch y Mans oedd Rachel, ganed yn Llanelli a’i magu

yn Abertawe. Aeth i astudio yng ngholeg Prifysgol Cymru

Aberystwyth cyn mynd i RADA.

Roedd cydymffurfio gyda’r cyfyngiadau daeth i’w rhan yn

sgil crefydd Anghydffurfiaeth (yn eironig), ac yna diwylliant

y theatr Seisnig yn Llundain a byd ffilm Hollywood yn her

i’w natur gwrthryfelgar.

Fe greodd ei Chymreictod yn ogystal a’i greddf fel menyw

annibynnol o fewn byd cyn dyfodiad ail don ffeministiaeth y

saithdegau gyda brwydrau cymhleth ac anodd.

Er iddi ymladd ar hyd y blynyddoedd arweiniodd ei anallu

i gydymffurfio â normau’r cyfnod at hunan ddinistr ar

ffurf dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn y pendraw, ac fe

lladdodd ei hun yn 1980 a hithau ddim

ond yn 53.

Nid ar chwarae bach mae rhywun yn

mynd ati i greu sioe gall adlewyrchu

hanes cymeriad mor gymhleth ag

amlochrog.

Llwyddodd Owen Thomas i greu sioe

wych yn yr iaith Saesneg, ‘Who’s Afraid

of Rachel Roberts?’ beth amser yn ôl,

ac fe greodd yr actores Helen Griffin

bortread cofiadwy iawn, ond fy mwriad yw

mynd ati o gyfeiriad gwahanol, gan obeithio

taflu goleuni ar natur gyfredol ein profiadau

fel actorion Cymraeg ar yr un pryd.

Mae ein sefyllfa fel artistiaid

creadigol Cymreig yr un mor gymhleth ag erioed,

wrth i ninnau, fel aelodau o ddiwylliant lleiafrifol

trefedigaethol ddod wyneb yn wyneb a’r diwylliant

theatr Seisnig a thu hwnt, ac mae’r disgwyliadau sydd

ar fenywod i gydymffurfio â phatriarchaeth yr un mor

drafferthus .

Efallai bod y manylion wedi newid ond yr un yw’r

berthynas o safbwynt pwy sydd â’r grym.

Her yn wir, ond dwi’n teimlo y byddai, wrth geisio

talu teyrnged i dalent ffyrnig Rachel Roberts hefyd yn

talu teyrnged i ysbryd fy nghefnder Dafydd Hywel.

Datgelu capel cudd y

Brifddinas yn ei holl ogoniant

Mae capel sydd wedi bod yn guddiedig ers degawdau

wedi cael ei ddatgelu fel rhan o waith datblygu ar hen siop

adrannol Howells yng Nghaerdydd.

Mae’r ddelwedd newydd yn datgelu ffasâd blaen capel

hanesyddol Bethany yn ei holl ogoniant wrth i waith

barhau i fynd rhagddo i baratoi’r adeilad ar gyfer ei adfywio a’i

ailddefnyddio, a fydd yn amodol ar gael caniatâd pellach.

Adeiladwyd y capel, sydd wedi bod yn guddiedig ers tua 50

mlynedd, yn 1865 ac mae’n cymryd lle capel cynharach o 1807.

Cyn hynny pan oedd Howells yn masnachu, roedd llawr

gwaelod y ffasâd blaen i’w weld yn adran teilwra’r dynion,

gyda’r llawr gwaelod yn cynnwys esgidiau. Roedd y llawr cyntaf

o fewn dillad merched, gyda cholofnau haearn bwrw a gwaith

plastr addurniadol i’w gweld.

Mae gan yr Ysgol Sul sydd ynghlwm, neuadd ymgynnull fawr â

balconïau, nad oedd yn rhan o’r storfa gyhoeddus, a oedd yn cael

ei defnyddio ar gyfer storio yn unig.

Rhestrwyd y capel gan Cadw yn Radd II* ynghyd â gweddill y

siop adrannol yn 1988.

Dywedodd y Cynghorydd Dan ‘Mae arwyddocâd

De’Ath, Aelod Cabinet Cyngor

Caerdydd dros Gynllunio Strategol a hanesyddol i’r

Thrafnidiaeth ei fod yn falch y bydd adeilad, ac mae’r

yr hen gapel a’r ysgol Sul gysylltiedig

yn cael eu diogelu a’u dathlu wrth i

bensaernïaeth yn

brosiect adfywio Howells symud

syfrdanol’

ymlaen.

“Mae Capel Bethany yn adeilad

hynod ddiddorol sydd wedi bod

yn cuddio mewn golwg amlwg o fewn y siop adrannol. Mae

arwyddocâd hanesyddol i’r adeilad, ac mae’r bensaernïaeth yn

syfrdanol, felly rwy’n falch iawn bod yr adeilad bellach yn cael ei

ddatgelu yn ei holl ogoniant.

“Mae swyddogion y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r

datblygwyr Thackeray Estates i sicrhau bod cynlluniau

ailddatblygu yn datgelu ac yn diogelu elfennau mwyaf

arwyddocaol yn hanesyddol a phensaernïol yr hen siop, gyda

chymaint o fynediad cyhoeddus â phosibl, fel y gellir parhau i’w

fwynhau am genedlaethau i ddod,” meddai.

Ychwanegodd Antony Alberti o Gwmni Thackeray: “Mae

gennym ni gyfle gwych i gychwyn y trawsnewidiad o

Gaerdydd drwy greu calon newydd i’r ddinas. Mae Howells

yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i roi bywyd newydd i un o

asedau mwyaf eiconig Cymru.”

Profi gallu trenau newydd

sbon y gogledd

Cwblhaodd dau drên Dosbarth 805, a adeiladwyd gan

Hitachi ar gyfer cwmni Avanti West Coast, eu rhediad

prawf cyntaf i ogledd Cymru fel rhan o’u rhaglen brofi

ddechrau mis diwethaf.

Teithiodd y trenau deufodd, sy’n gallu rhedeg ar bŵer disel a

thrydan, o Gaer i Gyffordd Llandudno ac yn ôl.

Ers hynny bu mwy o deithiau ar y trenau newydd yn yr arfaeth,

i wirio’r medrydd a’r cydnawsedd â’r llwybr, gan gynnwys

rhediad i Gaergybi.

Maent hefyd yn gwirio bod y systemau gwybodaeth teithwyr

dwyieithog yn dangos yr wybodaeth gywir.

Bwriad y rhediadau prawf hyn yw profi gallu’r trenau cyn eu

trosglwyddo i Avanti.

Mae disgwyl trenau newydd ar rwydwaith Avanti cyn diwedd

y flwyddyn a byddant yn cymryd lle trenau Voyager bu mewn

gwasanaeth ers 2001. Bydd trenau Dosbarth 805 yn rhedeg

rhwng gogledd Cymru a Llundain, tra bydd trenau Dosbarth 807

yn rhedeg rhwng Llundain, gorllewin canolbarth Lloegr a Lerpwl.

Dywedodd Phil Cameron, Cyfarwyddwr Prosiectau Masnachol

yn First Rail: “Roedd rhedeg y trenau cyntaf yn garreg filltir

bwysig i’r fflyd newydd gyda’i rhediad prawf cyntaf i Gyffordd

Llandudno.

“Bydd hyn yn helpu i ddarparu gwybodaeth hanfodol

am y llwybr, a pherfformiad y fflyd, i sicrhau bod y trenau

newydd wedi’u paratoi’n llawn ar gyfer pan fyddant yn dechrau

gwasanaeth y flwyddyn nesaf.

“Bydd ein buddsoddiad yn y fflyd newydd yn helpu i godi’r bar

ar gyfer teithwyr rheilffordd yng ngogledd Cymru ac mae’n rhan

o’n hymrwymiad ehangach i drawsnewid profiad y cwsmer a

gweithrediad mwy cynaliadwy.”

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!