Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
LLYFRAU

Nofel i’r arddegau cynnar am wthio ffiniau’r dychymyg

Astronot yn yr Atig - Megan Angharad Hunter Y Lolfa 8.99

Mae awdures ifanc ‘tu ôl i’r awyr’ a Cat (o gyfres

Y Pump) wedi ysgrifennu nofel feiddgar arall, y tro

yma i’r arddegau cynnar.

Mae Astronot yn yr Atig yn addas i blant 10 i 13 oed ac

yn dilyn Rosie, sydd wedi gwirioni ar y gyfres deledu Yr

Estronos ac astronots yn gyffredinol.

Pan mae llong ofod yn glanio ger ei chartref, mae’n

methu â chredu ei lwc.

Mae testun y nofel wedi ei osod mewn ffyrdd amrywiol

ar y tudalennau gyda pharagraffau byr, pwyntiau bwled,

ffeithiau a dwdls, i gyd yn rhan o’r profiad darllen.

Mae hyn yn adlewyrchu meddwl gorbryderus a dryslyd

Rosie, mewn byd lle mae hi’n teimlo’n wahanol.

Nofel am greu cyfeillgarwch, am deithio yn ôl ac ymlaen

mewn amser, am dyfu i fyny mewn byd cymhleth ac anodd

ac am wthio ffiniau’r

dychymyg i’r eithaf.

Bydd Astronot yn yr

Atig ar gael yn eich

siop lyfrau leol erbyn

diwedd mis Medi.

23

Llyfr cyntaf arweinydd Côr Cymry Gogledd America

Braids of Song - Mari Morgan Y Lolfa £9.99

Yn gynnar ym mis Gorffennaf, daeth dros pump deg aelod o Gôr

Cymry Gogledd America i Gymru er mwyn cynnal cyngherddau ar

hyd a lled y wlad dros gyfnod o wythnos i ddathlu pen-blwydd y côr

yn bump ar hugain oed.

Bu’r côr yn brysur yn diddanu cynulleidfaoedd yng Nghonwy,

Machynlleth, Aberystwyth, Y Fenni a Senedd Cymru, gyda’r daith

hefyd yn cyd-daro â lansio llyfr cyntaf sylfaenydd y côr, sef Braids of

Song.

Ymfudodd Dr Mari Morgan, brodor o Lanelli, i’r Unol Daleithiau

yn 1996 er mwyn mynd ar drywydd gyrfa fel cantores glasurol.

Mae ei llyfr yn ysgogi rhywun i feddwl am brofiadau Cymry eraill

sydd wedi mentro dros y dŵr er mwyn gwireddu eu breuddwydion

cerddorol. Yn ei llyfr, gofynna Mari: “Ydych chi byth yn pendroni am

beth sy’n digwydd i rywun sy’n symud i wlad newydd? Ydyn nhw’n

newid? Ydy’r ffordd maen nhw’n canu yn aros yr un fath neu’n cael ei

ddylanwadu? Ac os ydynt yn bobl creadigol - beth sy’n digwydd i’w

hallbwn artistig?”

Ychwanegodd: “Daeth y syniad o ysgrifennu Braids of Song

i mi yn dilyn marwolaeth fy nhad ym Mawrth 2015. Ac yntau’n

weinidog Anghydffurfiol ac yn ddyn y bobl, gofynnodd ddau

gwestiwn i mi yn ystod ei wythnosau diwethaf: ‘Pryd wyt ti’n mynd i

Er bod gan William Abraham, neu Mabon (1842-

1922) i ddefnyddio ei enw barddol, rôl ganolog ym

mywyd diwydiannol a gwleidyddol cymoedd de Cymru

am flynyddoedd meithion, y tro olaf y cyhoeddwyd

cofiant cyflawn iddo oedd gwaith safonol E. W. Evans,

arbenigwr amlwg ar hanes maes glo de Cymru ac

undebaeth lafur yno ar y pryd, yn Saesneg yn y

flwyddyn 1959.

ysgrifennu fy stori?’ ‘Pwy wyt ti?’ Braids of Song yw fy ymateb

creadigol i’r cwestiynau syml hynny.”

“Derbyniais lawysgrif o stori Arianwen fel rhodd yn ewyllys fy nhad.

Credaf fod hynny, ochr yn ochr â’m profiadau fel cerddor Cymreig

sydd wedi byw yn yr Unol Daleithiau am dros bump ar hugain o

flynyddoedd wedi fy arwain i fod yn chwilfrydig ynghylch sut y gall

fudo i wlad newydd newid person, sut y mae heriau a chyfleoedd

newydd yn cydbwyso gyda synnwyr o golled am bethau cyfarwydd,

a sut caiff yr allbwn creadigol ei effeithio yn y broses o gymathu i

ddiwylliant newydd.”

Mae sawl llais yn adrodd eu straeon yn y llyfr ar wahân i’r awdur.

Ceir stori y cyfansoddwr carismataidd, Joseph Parry o Ferthyr sy’n

llwyfannu opera Gymreig yn Danville, Pennsylvania; yr arweinydd

cadarn ac arloesol, Daniel Protheroe o Gwmgiedd sydd bellach wedi

ymgartrefu yn Chicago; ynghyd â’r pianydd sy’n perfformio mewn

cyngherddau yn rhyngwladol, Marie Novello o Faesteg.

Cynhaliwyd lansiad y llyfr yng Ngaleri Gregynog yn y Llyfrgell

Genedlaethol gyda baner yr Unol Daleithiau yn chwifio uwchlaw’r

adeilad. Cafodd cynulleidfa o 200 o bobl gyngerdd hefyd gan y

côr, gan glywed cyfansoddiadau newydd gan Eric Jones a Mererid

Hopwood, Cefin Roberts ac Einion Dafydd, a Penri Roberts a Linda

Gittins am y tro cyntaf.

Cofiant i un o arweinwyr amlycaf yr undebau llafur

Cofiant Mabon: Eilun Cenedl y Cymry a’r Glowyr - D. Ben Rees Cyhoeddiadau Modern Cymraeg £15

Adolygiad: Dr J. Graham Jones

Mae’n ddyletswydd arnom felly i roi croeso brwdfrydig i

gyfrol newydd, llawer helaethach y Dr D. Ben Rees.

Arbennig o addas yw’r ffaith i’r awdur lunio’r cofiant hwn

yn union ganrif grwn ar ôl marwolaeth ei eilun yn ystod cyfnod

pan roedd Mabon wedi mynd yn dipyn bach o angof ymhlith

y Cymry. Roedd Mabon yn ei anterth yn bennaf yn ystod y

blynyddoedd rhwng 1880 a 1910. Ar ôl hynny wrth gwrs

David Lloyd George oedd prif eilun gwleidyddol ein cenedl am

flynyddoedd ar eu hyd.

O fewn y penodau cynnar cawn gyfle i ddarllen manylion

dadlennol am fagwraeth Mabon yng Nghwmafan a’i fam

weddw, oedd yn ffigwr arbennig o bwysig yn ei fywyd cynnar,

yn ei chael hi’n anodd dros ben i gael dau ben llinyn ynghyd

am flynyddoedd lawer. Oherwydd tlodi enbyd ar yr aelwyd,

nid oedd dewis gan y mab ond i fynd i weithio pan yn ddeng

mlwydd oed yn unig fel un o geidwaid drysau’r pwll glo.

Roedd amodau gwaith o fewn y pyllau glo yn eithriadol galed

yn ystod y cyfnod cynnar hwnnw, ac yn gynnar iawn yn ei yrfa

datblygodd Mabon y ddawn a’r awydd i sefyll i fyny dros rai

o’i gydweithwyr oedd yn ei farn ef yn cael cam gan y rheolwyr

glo hunanol, di-ildio ac ansensitif dros ben. Oherwydd ei

gyfraniad yn y maes hwn, nid oedd modd iddo barhau mewn

swydd o fewn y pyllau glo lleol.

Yn y flwyddyn 1861 priododd â Sarah, merch gof

Cwmafan, a bu iddynt ddim llai na chwech o blant. Bu hi

farw’n gynamserol ym 1900. Ers yn fachgen bach, roedd

Mabon yntau yn Fethodist Calfinaidd pybyr gyda llais tenor

gwych iawn.

‘Mabon oedd yr aelod cyntaf o’r

dosbarth gweithiol i gynrychioli

etholaeth yng Nghymru yn y senedd’

Daeth yn enwog fel arweinydd effeithiol yn eisteddfodau

diwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif. Dyna’r cyfnod yr oedd

tyrfaoedd mawrion yn tyrru i’r eisteddfodau.

Chwaraeodd ran bwysig yn sefydlu’r undeb sef yr

Amalgamated Association of Miners ac yn fuan derbyniodd

swydd llawn amser fel swyddog undeb, gan symud i fyw yn y

Rhondda. Enillodd barch aruthrol yn lleol, yn fwyaf arbennig

ymhlith y glowyr lleol, oherwydd ei allu i setlo pob anghydfod

neu anghydweld heb orfod troi at streic, a hynny’n ymestyn o

anghydfod 1885 hyd at streic enwog Tonypandy ym 1910-12.

Yn sedd etholaethol newydd y Rhondda etholwyd

William Abraham i’r senedd. Daliodd i gynrychioli etholaeth

y Rhondda am 35 o flynyddoedd ar eu hyd, gan fabwysiadu’r

label gwleidyddol ‘Lib-Lab’ yn y man ac yna ymuno â’r Blaid

Lafur. Mabon oedd yr aelod cyntaf o’r dosbarth gweithiol i

gynrychioli etholaeth yng Nghymru yn y senedd. Enillodd

statws byd-eang, a hwyliodd i’r Unol Daleithiau ym 1901 ac

eto ym 1905.

Ac yn ystod cyfnod cynnar y Rhyfel Mawr daeth Mabon,

gŵr a fu’n heddychwr brwd drwy gydol y blynyddoedd, yn

dipyn o ‘ryfelgi’ yn rhannol er mwyn plesio Lloyd George,

eilun y genedl ar y pryd.

Pan fu farw yn ystod mis Mai 1922, ac yntau yn 79 mlwydd

oed erbyn hynny ac yn llawn parch ac anrhydeddau, gadawodd

swm o £38,000 yn ei

ewyllys (tua hanner

miliwn o bunnoedd yn

ôl arian heddiw) - er

mawr syndod i nifer

fawr o’i gyfeillion a’i

ddilynwyr.

Cofir amdano’n

bennaf heddiw

oherwydd ei

gyfraniad aruthrol fel

arweinydd yr

undebau llafur

yn hytrach na fel

gwleidydd proffil

uchel amlwg.