25.10.2023 Views

Y Cymro - Medi 2023

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

20

Gwrandwch ar hwn...

‘Mae ’na Olau’ gan Pedair yn ennill albwm

Cymraeg y flwyddyn

‘Harmonïau tyner yn cydblethu ag

offeryniaeth gynnil’

Enillwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn oedd Pedair am

eu halbwm, Mae ’Na Olau.

Pedair yw prosiect diweddaraf criw o leisiau amlycaf canu

gwerin Cymru - Siân James, Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard

a Meinir Gwilym.

Gan blethu agweddau nodweddiadol ar eu harddulliau unigol,

maent eisoes wedi profi eu hunain yn un o’r grwpiau mwyaf

poblogaidd.

Ar eu halbwm cyntaf, Mae ’Na Olau, mae harmonïau tyner

yn cydblethu ag offeryniaeth gynnil wrth i’r pedwarawd

gyflwyno alawon traddodiadol a gwreiddiol.

Gobaith yw un o brif themâu’r record hon, gyda Pedair yn ein

hatgoffa trwy eu caneuon cynnil fod harddwch i’w ganfod ym

mhob cornel o’n byd.

Cafodd pedwar aelod Pedair wythnos brysur yn yr Eisteddfod.

Ymddangosodd y bedair ar y cyd yn y cyngerdd agoriadol,

Y Curiad, gyda chôr gwerin yr ŵyl ddydd Sadwrn diwethaf.

Ers hynny maent wedi ymddangos mewn gwahanol

bafiliynau a llwyfannau ledled y Maes naill ai gyda’i gilydd

neu’n unigol.

Derbyniodd yr enillwyr dlws a gomisiynwyd yn arbennig.

Mae’r wobr, a drefnir gan yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC

Radio Cymru, yn dathlu’r cymysgedd eclectig o gerddoriaeth

Gymraeg a recordiwyd ac a ryddhawyd yn ystod y

flwyddyn.

Enwebwyd naw band ac artist gan gynnwys

Adwaith, Cerys Hafana a Fleur de Lys ar gyfer y

wobr.

Eisteddodd panel o feirniaid, gan gynnwys Iwan

Teifion Davies, Marged Siôn, Gwenno Roberts,

Mirain Iwerydd, Dom James, Dafydd Hughes ac

Aneirin Jones, i gyd i wrando ar yr albyms cyn

pleidleisio am eu ffefryn.

Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2023

Rhyddhau EP ar ôl

ennill brwydr y bandiau

Moss Carpet

- Galwad y Cewri

Mae’r artist a’r cynhyrchydd o

Ddyffryn Nantlle, Moss Carpet, yn creu

cerddoriaeth sy’n ‘ffrwydrad rhwng

gwerin a seicedelig’ am ei fod yn hoffi

arbrofi gyda gwahanol genres.

Mae Moss Carpet yn ymuno â label

INOIS - ar ôl iddo ennill Brwydr y

Bandiau 2023 (Maes B /BBC Radio

Cymru).

Ar ôl rhyddhau ‘0-0-0’ ym mis Chwefror,

mae’r artist wedi bod yn datblygu ei sain

a’i set fyw. Mae’r synau newydd yn cael

eu hamlygu ar yr EP ‘Galwad Y Cewri’,

sy’n cynnwys traciau meddal a myfyriol.

Yn dilyn y rownd derfynol gafodd ei

chynnal ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod

Genedlaethol

Llŷn ac Eifionydd

cyhoeddwyd mai

Moss Carpet oedd

enillydd Brwydr y

Bandiau 2023.

Fel rhan o’r

wobr, aeth ymlaen

i agor Maes B ar y

nos Sadwrn.

Parisa Fouladi yn rhyddhau

ei sengl newydd ‘Araf’

Parisa Fouladi

- Araf

Artist Cymreig Iranaidd

o Gaerdydd yw Parisa

Fouladi. Prif ddylanwadau

ei cherddoriaeth yw soul,

neo-soul, jazz a churiadau

hip-hop minimalaidd.

Ar ôl llwyddiant yn

perfformio ar Lwyfan y

Maes yn yr Eisteddfod

Genedlaethol eleni a

pherfformiadau mewn

digwyddiadau fel Tafwyl a

Focus Wales, mae Parisa yn

gyffrous i gyhoeddi ei bod

yn perfformio yng Ngŵyl

Sŵn yn yr Hydref ac yn y

digwyddiad Trawsnewid:

Transform yn Aberystwyth

yn 2024.

‘Araf’ yw y sengl gyntaf

oddi ar ei EP, bydd yn cael ei

rhyddhau yn fuan.

Un o uchafbwyntiau gyrfa

Parisa oedd perfformio yng

nghyngerdd Cymru Wcráin

blwyddyn ddiwethaf, cafodd

ei ddarlledu’n fyw ar S4C.

Uchafbwynt arall oedd

cyflwyno dogfen am Iran

gyda Byd ar Bedwar ac ITV.

Cyfansoddodd Parisa’r gân

‘Araf’ gyda’r offerynnwr

a chyfansoddwr, Charlie

Piercey, cyn cyflwyno’r

trac i’r cynhyrchydd Krissie

Jenkins (Super Furry

Animals, Gruff Rhys, Cate

Le Bon).

Llais emosiynol a chryf dros

guriadau hip-hop esmwyth

gyda strwythur gwahanol i’r

arfer.

Mae ysbrydoliaeth geiriau

caneuon Parisa Fouladi yn

dod o’i phrofiadau ei hun

a materion y byd mae’n

teimlo’n gryf amdanynt.

Y Trials ar daith ac i’w gweld -

a’u clywed - yn Pontio

Mae’r triawd The Trials of Cato

yn dechrau eu taith Hydref fis

nesaf gyda gigs ar hyd a lled

Prydain yn cynnwys un yn Pontio,

Bangor ar ddydd Gwener, Hydref

13.

Fe gafodd y band hwyl

arni’n ddiweddar gyda gig yn

Nhŷ Gwerin yr Eisteddfod

Genedlaethol ym Moduan ac

yna ychydig ddyddiau wedyn mi

oeddent yn perfformio ambell waith

yng Ngŵyl Rhyng-Geltaidd Lorient.

Mae hi wedi bod yn haf prysur

iawn iddynt gyda pherfformiadau

yng Nghanada, America, Gwlad

Belg, Ffrainc a’r Almaen.

Yn gynharach yn y

gwanwyn roeddent hefyd yn

ran o berfformwyr Cymraeg

Focus Wales eleni yn Austin,

Texas ar gyfer gŵyl SXSW.

Wedi’u ffurfio yn

Beirut, Lebanon yn

wreiddiol, dychwelodd

y band - sy’n canu yn y

Gymraeg a’r Saesneg - i

Brydain yn 2016 ac ers

hynny maent wedi bod yn

Dilynwch Y Cymro ar Twitter

perfformio’n ddiflino ledled y wlad.

Enillodd eu halbwm cyntaf, Hide

and Hair y wobr am Albwm Gorau

yng Ngwobrau Gwerin 2019 BBC

Radio 2.

Ymunodd yr offerynnwr a’r

gantores aml-dalentog, Polly Bolton

â nhw ac erbyn hyn mae eu hail

albwm Gog Magog wedi ei

rhyddhau sy’n cynnwys eu trefniant

o gerdd Cynan - ‘Aberdaron’.

Mae tocynnau ar gyfer y gig

yn Pontio ar gael ar y wefan

www.pontio.co.uk

Mae rhestr gyflawn o’u gigs ar eu

gwefan www.thetrialsofcato.com

@y_cymro

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!