25.10.2023 Views

Y Cymro - Medi 2023

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

‘Mae’n help mawr’ - grantiau i

brynwyr tro cyntaf adnewyddu

cyn-dai haf yng Ngwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio

addasiad arloesol i un o’i gynlluniau

tai, er mwyn rhoi’r cyfle i ddod â hyd

yn oed mwy o aneddiadau segur yn ôl i

ddefnydd ac i ddwylo trigolion lleol.

Mewn digwyddiad ar ei stondin yn ystod

Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd,

cyhoeddodd y bydd tai a fu’n arfer bod yn

ail gartrefi bellach yn gymwys am grant

prynwyr tro cyntaf i adnewyddu tai gwag,

gan ehangu’r opsiynau sydd ar gael i bobl

leol gymryd y cam cyntaf ar ysgol eiddo.

Mae’r cynllun ehangach i gynnig grantiau

i adnewyddu tai gweigion wedi bod yn

weithredol ar ei ffurf presennol ers 2021

a daw’r addasiad hwn mewn ymateb i

gynnydd yn y nifer o ymgeiswyr sy’n methu

bodloni’r meini prawf i dderbyn y grant.

‘Mae’n bwysig nodi

nad am y stereoteip

tai haf sydd werth

miliynau ’da ni’n

siarad amdanyn

nhw yma’

Yn flaenorol, nid yw perchnogion

cyn ail gartrefi wedi bod yn gymwys ar

gyfer y grant, er gwaetha’r ffaith eu bod yn

adeiladau segur. Felly, er mwyn ymateb i’r

diffyg hwn, mae’r Cyngor wedi penderfynu

ymestyn meini prawf y cynllun i gynnwys tai

segur a fu’n arfer bod yn ail gartrefi, hynny

yw eiddo a fu’n gymwys i dalu Premiwm

Treth Cyngor.

Mae’n hysbys bod diffyg tai addas i bobl

leol yng Ngwynedd, tra bod bron i 10%

o holl dai’r sir yn ail gartrefi. Mewn rhai

ardaloedd yng Ngwynedd, mae’r ffigwr yn

sylweddol uwch, megis Aberdyfi (43%),

Trawsfynydd (42%) a Llanengan (39.8%).

Mae hyn yn ei dro yn golygu bod yr

opsiynau sydd ar gael i bobl leol gymryd y

cam cyntaf ar ysgol dai yn gyfyngedig iawn.

Hyd yma, mae tua 70 o brynwyr tro cyntaf

o Wynedd wedi cael help i fyw yn lleol

diolch i’r Cynllun Grantiau Prynwyr Tro

Cyntaf i Adnewyddu Tai Gwag, sy’n rhan

allweddol o Gynllun Gweithredu Tai Cyngor

Gwynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago,

Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai

ac Eiddo: “Tra mae nifer bobl Gwynedd yn

methu canfod eu tŷ cyntaf, mae cannoedd o

dai yng Ngwynedd yn eiddo i berchnogion

sydd eisoes â thŷ arall. Ac yn aml iawn

mae ail dai yn wag am gyfnodau hir o’r

flwyddyn a nifer mewn cyflwr gwael.

Ochr-yn-ochr â hyn, mae 65.5% o

boblogaeth Gwynedd wedi’u prisio allan o’r

farchnad dai, ac mae hynny gymaint â 96%

mewn ardaloedd sydd â nifer o dai gwyliau.

“Mae gwneud cyn ail gartrefi yn gymwys

i dderbyn y grant yma felly yn gwneud

perffaith synnwyr, ac yn un ffordd arall y

gallwn helpu trigolion Gwynedd gymryd y

cam cyntaf i sicrhau cartref yn lleol.

“Mae’n bwysig nodi nad am y stereoteip

tai haf sydd werth miliynau ’da ni’n siarad

amdanyn nhw yma, ond yn hytrach y tai

teras, bythynnod ac ati sydd wedi’u gadael

a’u hanghofio ac wedi mynd i gyflwr gwael

dros amser.

“Mi faswn i’n annog unrhyw un sy’n

berchen ar dŷ a oedd yn arfer bod yn ail

gartref gwag nes iddynt ei brynu, i edrych

ar wefan y

Cyngor am fwy

o fanylion, neu

gysylltu â thîm

Grantiau Tai

Gwag y Cyngor

am sgwrs.”

Dywedodd

Siôn Taylor,

derbynnydd

cyntaf y grant

ar ei newydd

wedd: “Roedd

y tŷ dwi wedi

ei brynu’n

arfer bod yn gartref i fy ffrind a dw i’n cofio

chwarae yma’n hogyn bach. Gwerthwyd

y tŷ rhyw 15 mlynedd yn ôl ac aeth o’n ail

gartref. Roedd o ar lefydd fel Airbnb, sy’n

bechod gan fod gymaint o bobl ifanc, leol

eisiau aros ac eisiau tŷ.

“Mae’r grant yn golygu gymaint i fi. Wnes

i drio amdano fo pan brynais i’r tŷ a ges i

fy ngwrthod. Ro’n i mor falch pan ddaeth y

Cyngor yn ôl mewn cysylltiad i ddeud bod y

telerau wedi newid.

“Mae o am fod yn help mawr cael ail

wneud y tŷ a symud i mewn yn gynt. Fel

arall, fysa wedi cymryd blynyddoedd i neud

o’n hun.

“Swn i’n argymell i rywun drio am y grant

sydd yn yr un sefyllfa â fi, mae o werth ei

gael. Cysylltwch efo’r Cyngor a gweld be

fedran nhw ei neud i chi.”

arlein - YCymro.Cymru

Yn y byd busnes...

Deallusrwydd artiffisial a’i

oblygiadau i unigolion a

busnesau Cymru

gan Gari Wyn Jones

Ar hyn o bryd mae pob papur newydd, cylchgrawn ac adran newyddion a sianel

radio a theledu yn suddo i fôr cymhlethdod ‘Deallusrwydd Artiffisial’.

Does dim modd gwylio rhaglen newyddion na throi tudalen papur newydd heb wynebu

trafodaeth am oblygiadau a bygythiad y twf technolegol ysgubol hwn ar fywydau pawb.

Boed ni’n cytuno gyda datblygiad AI neu beidio, fedr ’run ohonom osgoi wynebu’r ffaith

y bydd rhaid inni gyd wynebu’r newid a ddaw yn ei sgil.

Mae’n rhaid i bob un ohonom ddysgu delio gyda phob newid mewn cymdeithas er ein

mwyn ein hunain a phawb o’n cwmpas. ’Ryda ni i gyd yn byw mewn byd lle mae’n rhaid

inni addasu a mabwysiadu, ac efallai bod hyn ynddo’i hun yn rhywbeth y mae sefydliadau

a busnesau Cymreig yn llawer rhy araf i ddelio gyda nhw.

Mae angen pellach i holl egwyddor gwaith bob un ohonom addasu a newid. Os na

wnawn ni hynny byddwn yn gwneud cam â’r rhai ieuengaf sy’n ein holynu, ac yn atal

datblygiad eu gyrfaoedd a’u bywydau personol.

Ystyr y term ‘addysg gydol oes’ (lifelong learning) yn y pendraw ydi fod angen i bobl

gael eu haddysgu a’u hyfforddi pan fydda’ nhw’n 65 oed yn ogystal â phan fydda nhw’n

20 oed. Os nad yw’r to hŷn yn fodlon ac yn barod i wneud hynny yna oni ddylie nhw

ystyried symud i’r naill ochor a gwneud lle i’r to nesaf?

Mae fy nghenhedlaeth i wedi disgyn i’r rhigol o gredu mai addysg ydy’r hyn ryda’ ni’n

wneud mewn coleg rhwng deunaw a dwy ar hugain oed, ac mae’r meddylfryd hwnnw yn

rhoi rhyw gyfforddusrwydd hunan gyfiawn i’r rhai hynny ohonom a ddechreuodd ar ein

gyrfaoedd dros ddeg mlynedd ar hugain yn ôl.

Yn bersonol rydw’ i wastad wedi credu na ddylai neb lenwi yr un swydd neu

gyflawni yr un gwaith am fwy nag ugain mlynedd. Mae’r sector gyhoeddus at ei gilydd

yn llwyddo i newid rôl unigolion neu yn newid

‘...tydy peidio addysgu

ein hunain a bod yn

amharod i newid, ddim

yn opsiwn’

19

meysydd mae unigolion yn arbenigo ynddyn nhw,

ond edrychwch ar sectorau eraill, er enghraifft, ar y

cyfryngau Cymreig.

Mae’r un bobl yn gneud yr un gwaith ddegawd

ar ôl degawd, ac yn y pendraw be mae hyn yn ei

neud ydy atal cyfleon i’r ifanc drwy”r ffaith bod

y to hŷn am ddal ati i hawlio eu gorseddfainc ar

draul gobeithion a brwdfrydedd y rhai ieuengach. Mae rheolwyr ambell sefydliad a busnes

hefyd yn aml yn gyndyn o wthio y rhai hŷn i’r naill du rhag ofn iddynt gael eu cyhuddo o

‘oedraniaeth’.

Mae’r diffyg newid cyfeiriad yma hefyd yn gallu digwydd o fewn y gyfundrefn addysg,

ac o ganlyniad fe welir diffyg brwdfrydedd ymhlith yr athrawon hynny sydd heb newid

cyfeiriad yn ystod eu gyrfa ac o fewn eu proffesiwn.

Gadewch inni fod yn onest; onid oes modd dadlau na fydd angen prifysgolion mewn

degawd? Mae’r Brifysgol Agored yn profi’r ffaith yma drwy gyfrwng platfform

addysg ‘Open Learn’ sef llwyfan addysgol ble gallwch chi hunan addysgu a gwella eich

cymwysterau heb dalu ceiniog, a gwneud hynny drwy fanteisio fwyfwy ar ddeallusrwydd

artiffisial. Dyma’r ffordd ymlaen i ddatblygu eich gyrfa a thorri lawr ar eich dyled ariannol

ac fe allwch ddilyn y system yma hyd yn oed os ydych chi’n 80 oed!

Rydw i wedi bod yn chwarae hefo’r GPT AI dros yr wythnosau diwethaf (ar ôl i un o fy

meibion ei gyflwyno imi uwchben potel o win!)

Mi benderfynais sgwennu cerdd i ddisgrifio ‘Bywyd yn Ceir Cymru’. Ar ôl bwydo’r

wybodaeth angenrheidiol a chlicio’r botwm, mi gefais ddarn o farddoniaeth (Saesneg)

pum pennill o hyd.

Sioc ac anghrediniaeth! Gofynnwch i AI lunio safle we ichi ar sail nifer o ganllawiau

syml ac fe wnaiff hynny mewn eiliadau. Rydw i bellach wedi dechrau credo y gallwn i

gyflwyno podlediad lleisiol artiffisial yn trafod ceir ail law. Ond beryg bod yna ormod o

bobl bellach wedi blino ar glywed fy llais dros y degawdau!

Ynghanol dryswch y dechnoleg newydd yma mae un peth yn hollol glir. Mae’r newid yn

mynd i ddigwydd. Bydd newid yn parhau i’n herio. Felly tydy peidio addysgu ein hunain a

bod yn amharod i newid, ddim yn opsiwn, boed ni’n 20 oed neu’n 70 oed. Efallai’n wir ei

bod hi’n amser i holl sefydliadau a busnesau Cymru wynebu’r realiti di-droi ’n ôl yma er

mwyn parhad ac esblygiad Cymreictod.

Cofio dyddiau 40 gradd 2022? ....wel, mae llawer mwy ar y ffordd

Mae’n debyg bod haf poeth y llynedd yn

arwydd o’r hyn sydd i ddod ac yn dystiolaeth

o gynhesu byd eang, yn ôl adroddiad gan y

Swyddfa Dywydd.

Haf 2022 oedd yr un poethaf yn y Deyrnas Unedig

yn ôl cofnodion, gyda’r tymheredd mor uchel â 40

gradd ar un adeg.

Arweiniodd hyn at effeithiau dinistriol mewn

sawl achos, gan gynnwys tanau gwyllt mewn rhai

rhannau o’r wlad.

Er yr holl law eleni dywed y Swyddfa Dywydd fod

y tymheredd wedi bod yn codi uwchben 36 gradd yn

fwy rheolaidd nag erioed o’r blaen.

Yn ôl rhagamcanion hinsawdd, mae ‘hafau

poethach a sychach’ ar y gweill.

Dywedodd Oli Claydon o’r Swyddfa Dywydd fod

cyrraedd 40 gradd yn cael ei ystyried yn enghraifft o

‘dywydd eithafol’, ond mae’n debygol iawn y daw’n

ddigwyddiad mwy cyson dros y blynyddoedd nesaf.

Er hynny, mae pump allan o’r deg o flynyddoedd

gwlypaf sydd wedi’u cofnodi ers 1836 yn y Deyrnas

Unedig yn ystod y ganrif hon.

Yn yr un modd, mae lefelau’r môr yn

parhau i godi wrth i rew ddadmer yn

y pegynau ar gyfradd o bron i ddwbl

yr hyn yr oedd hi yn ystod yr ugeinfed

ganrif.

Ychwanegodd Fritha West,

gwyddonydd ymchwil gyda Choed

Cadw, bod tywydd 2022 wedi bod yn

arwydd o wanwyn cynnar, gyda Hydref

cynnes a Chwefror mwyn.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!