Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
15

Ar y cyfryngau -

gan Dylan Wyn Williams

Dau ffefryn gwych - dirgelwch y llofruddiaeth

ym Môn - ac edrych ’nol ar yr ymgyrch losgi

Beth sy’ gan ohebwyr BBC Cymru, prif leisydd

‘Y Cyrff’ ers talwm, ffarmwr o Lanllechid, Theresa

May a phrifardd coronog Boduan yn gyffredin?

Mae’r cyfan i’w clywed ar bodlediad am ddirgelwch

y llofruddiaeth ar y Fam Ynys adeg Pasg 2019.

Mi fuasai’n gwneud chwip o ddrama deledu ar BBC

Wales yn lle’r nonsens Wolf, ond am y tro, mi wnaiff

stori sain chwe-rhan Meic Parry (y mae’r adroddwr

Tim Hinman yn mynnu ei alw’n ‘Mike Perry’ am

ryw reswm) yn tsiampion.

The Crossbow Killer ydi cyfraniad diweddara

Cymru i gronfa BBC Sounds, ac ydi, mae’n braf

clywed acen Gogs fel Meic a’r gohebwyr Elen Wyn a

Siôn Tecwyn, i ddrysu’r Middle Englanders sy’n meddwl ein

bod ni gyd yn siarad Saesneg ystrydebol y Cymoedd.

Mae’n hyfryd clywed Meic yn dechrau sgwrsio’n

Gymraeg gydag ambell gyfrannwr iaith gyntaf hefyd, cyn troi

i’r Saesneg er budd y gynulleidfa Brydeinig.

Roeddwn i’n lled-ymwybodol o achos Gerald

Corrigan, a laddwyd dan amgylchiadau erchyll wrth drïo

trwsio signal teledu ei fwthyn - ond nid y mân droseddwyr

eraill a ddatgelwyd fesul pennod.

Roedd yr elfennau ddogfennol wir yn hoelio’r sylw, wrth

glywed Meic Parry yn ail-greu siwrnai’r drwgweithredwyr a

hel tystiolaeth CCTV i gyfeiliant y gwynt a’r tonnau ochr yn

ochr â cherddoriaeth gefndir Mark Roberts.

Gwrando wrth ddreifio oeddwn i’n bennaf, ond bu’n rhaid

dal i fyny eto yn nhawelwch adra lle cefais fy nghludo’n ôl i

arfordir gwyllt Ynys Gybi. Do, mi deimlais ias wrth wrando

felly. Er bod y saethwr Terry Whall bellach dan glo, mae’r

ffaith nad yw’r union gymhelliad yn gwbl glir yn awgrymu

bod pennod afaelgar arall eto i ddod.

‘Mae’n hyfryd clywed Meic yn

dechrau sgwrsio’n Gymraeg

gydag ambell gyfrannwr iaith gyntaf

hefyd, cyn troi i’r Saesneg er budd

y gynulleidfa Brydeinig’

Daeth podlediadau i’r adwy sawl tro ar hyd yr A470

syrffedus, wrth i mi lawrlwytho a gwrando’n ôl trwy system

Bluetooth y car.

Ffefryn arall ydi Gwreichion sy’n olrhain hanes yr ymgyrch

losgi 30 mlynedd ers iddi ddod i ben.

Roeddwn i’n gwybod ein bod ni mewn dwylo diogel,

gan mai’r newyddiadurwr Ioan Wyn Evans oedd awdur a

chyflwynydd podlediad cyfareddol Y Diflaniad am ffarmwr

Pwylaidd ym mhentre Cwm-du ym 1953.

’Nôl i’w bodlediad diweddaraf, ac mae’n gronicl

cynhwysfawr o’r tŷ haf cyntaf a losgwyd ym 1979 hyd at yr

achos llys drwgenwog yng Nghaernarfon 1993.

Clywn gan arbenigwyr niferus, o’r hanesydd Dr Elin

Jones, Marian Wyn Jones ac Alun Lenny o’r BBC, a’r

cyn-wleidyddion Elfyn Llwyd a’r Tori Nicholas Bennett - heb

anghofio Dafydd Iwan.

Meic Parry

arlein - YCymro.Cymru

Y bennod ddifyrraf oedd ‘Yng ngwyneb y

fflam’ am y bobl gyffredin ddaeth i gyswllt â

gweithredoedd Meibion Glyndŵr.

Clywsom am brofiadau Euros Edwards,

‘dyn y Preseli o’i gorun i’w sawdl’ ac aelod

o’r criw tân lleol wnaeth ymateb i dŷ a oedd

yn wenfflam yn unigeddau Mynachlog-ddu

ym 1985.

Wrth iddo fe ac Ioan Wyn Evans

ddychwelyd i safle’r llosgi, mae’n cofio’r

braw o weld bom tân (incendiery device) yn

ffrwydro yn llaw’r arbenigwr difa.

Cawn atgof arall o fis Medi 1986, a

Marian Wyn Jones yn sôn am ‘gyfweliad

emosiynol iawn iawn’ gyda pherchennog tŷ

haf a losgwyd yn golsyn.

Perchennog a oedd yn digwydd siarad

Cymraeg, cofiwch.

Prawf nad oedd y sefyllfa’n gwbl ddu a gwyn, fel y Cymry

hynny sy’n elwa ar yr AirBnBs cynhennus heddiw.

Mae cyfres dwy ran Firebombers! ar iPlayer yn trafod yr un

cyfnod cythryblus yn ein hanes, ac yn y ciw gwylio fama.

Bechod nad ydi’r rhaglen ddogfen Bryn Fôn: Chwilio am

Feibion Glyndwr a ddarlledwyd ar S4C dwy flynedd yn ôl

yn dal ar gael trwy archif Clic.

Sôn am Clic, braf gweld y gwasanaeth ar alw Cymraeg yn

ymddangos ochr yn ochr â’r mawrion ffrydio fel Netflix a

Disney+, gan agor S4C i 16 miliwn o gartrefi newydd yn ôl

gwefan freeview.co.uk.

Llai o wylio ar sgrin bitw fy ffôn lôn felly, a mwy ar deledu

clyfar mawr y lolfa, yn enwedig gan fod Clic yn

rhagori ar iPlayer o safbwynt isdeitlau Cymraeg.

Jesd mewn pryd i ddal i fyny ar rygbi o Ffrainc a

drama newydd Anfamol y mis hwn.

The Crossbow Killer - mi fuasai’n gwneud

chwip o ddrama deledu ar BBC Wales

Gwreichion sy’n olrhain hanes yr ymgyrch losgi

30 mlynedd ers iddi ddod i ben

Lauren Jenkins a phodlediad Cwpan Rygbi’r Byd

Y Mosabbirs - Cymry Bangladeshaidd Aberteifi