25.10.2023 Views

Y Cymro - Medi 2023

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

14

Enillwyd y prif wobrau i ganmoliaeth uchel y

beirniaid, bu llwyddiannau lleol ar y llwyfan ac roedd

awyrgylch hapus ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

yn Llŷn ac Eifionydd.

Sbardunodd hyn yr alwad gan y trefnwyr lleol, er mor

flinedig yw trefnu a chynnal Prifwyl wyth niwrnod, i’r

Eisteddfod Genedlaethol ddychwelyd i’r ardal mor fuan ag y

bo modd.

“Bu’r Eisteddfod yn Llŷn ddiwethaf yn 1955 ac

Eifionydd yn 1987 ac rwy’n meddwl fod y safle yma ym

Moduan yn fendigedig ac rwy’n edrych ymlaen yn barod i’r

Eisteddfod Genedlaethol ddod ’n ôl yma yn weddol fuan,”

meddai cadeirydd y pwyllgor gwaith, Michael Strain.

Derbyniodd Mr Strain fod yr Eisteddfod wedi cael dechrau

gwael gyda’r tywydd.

“Y tro diwethaf i’r Eisteddfod gael ei chynnal yn

ardal Pwllheli fe’i disgrifiwyd gan un papur newydd fel

‘Steddfod Pwll-haul’, addasiad ar enw’r dref oherwydd y

dyddiau di-ben-draw o heulwen y bu iddynt fwynhau.

“Ond er gwaethaf Storm Antoni fe wnaethon ni barcio mwy

o geir ar y diwrnod soeglyd

hwnnw nag ar ddydd Llun

heulog yn yr Eisteddfod ac

roedd miloedd o bobl ar y

maes.

“Nid yw’r Eisteddfod

wedi datgelu’r presenoldeb

dyddiol ers sawl blwyddyn

ond gallaf ddweud bod

cyfarwyddwr cyllid yr

Eisteddfod wedi bod yn gwenu ar ddiwedd pob

diwrnod yr wythnos hon.

“Mae pobl wedi bod yn dod ata’ i a llongyfarch y

criw cyfan - y pwyllgor gwaith, y gwirfoddolwyr,

y cannoedd sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr

Eisteddfod hon.

“Mae’r staff wedi bod yn gweithio oriau hir ers

misoedd, ac yn gwneud llawer o ymdrech.

“Cydweithio yw’r Eisteddfod, a thrwy’r holl

gydweithio yma fe fyddwn ni’n cyrraedd y

Steddfod lwyddiannus sydd gyda ni.”

Uchafbwynt yr Eisteddfod i Michael Strain,

cyfreithiwr ym Mhwllheli, oedd y

cyngerdd agoriadol, Y Curiad.

“Fe allen ni fod wedi llenwi’r

pafiliwn mawr ddwywaith drosodd.

Hyfryd oedd gweld y côr yn llenwi

cefn y llwyfan a Pedair, pedwar

cerddor proffesiynol, yn canu eu

haddasiadau o ganeuon gwerin

Cymreig. Fe ddechreuon ni’n uchel

a dydy’r safon ddim wedi gostwng

trwy gydol yr wythnos,” meddai.

Roedd Michael Strain yn falch

iawn o weld yr holl brif dlysau,

gwobrau ac ysgoloriaethau a enillwyd

yn ystod yr Eisteddfod.

Dywedodd: “Doedden ni ddim am gael y broblem o

benderfynu beth i’w wneud pe bai’r Goron, y Fedal Ryddiaith

neu’r Gadair wedi eu hatal. Roeddwn yn hynod o hapus i weld

Alan Llwyd yn ennill y gadair.

“Treuliodd ei blentyndod yn Abersoch a mynychodd Ysgol

Botwnnog sydd hefyd yn hen ysgol i mi.

“Roedd yn amlwg yn arwr i Emyr Pritchard, yr athro

Cymraeg yn yr ysgol, oherwydd erbyn diwedd fy wythnos

gyntaf ym Motwnnog roeddwn i’n gwybod lle’r oedd Alan

Llwyd wedi eistedd. Roeddwn i’n gwybod ei fod wedi

arlein - YCymro.Cymru

‘ G ŵ y l d e i t h i o l y w ’ r E i s t e d d f o d

Genedlaethol yn ei hanfod

ac mae hynny’n sylfaenol iddi’

Edrych ’n ôl ar ’Steddfod

Llŷn ac Eifionydd

- gan Eryl Crump

Alan Llwyd yn ennill

Y Gadair ac (islaw)

Rhys Iorwerth yn

ennill Y Goron

‘...gallaf ddweud bod cyfarwyddwr

cyllid yr Eisteddfod wedi bod yn

gwenu ar ddiwedd pob diwrnod’

ysgrifennu ei ysgrif gyntaf erbyn iddo gyrraedd y drydedd

ddosbarth, blwyddyn naw fel mae’n cael ei hadnabod erbyn

hyn, a thra roeddwn yn y chweched dosbarth eisteddais yn

wynebu’r wal oedd â thudalen flaen Y Cymro gyda llun Alan

Llwyd a stori o’r amser enillodd y goron a’r gadair yn 1976.”

Nofel am fam a’i merch 16 oed ag anghenion arbennig

enillodd y fedal Ryddiaith i Meleri Wyn James o Aberystwyth

mewn cystadleuaeth a ddenodd 16 cais.

Dywedodd ei bod wedi dechrau ysgrifennu’r nofel Hallt yn

syth ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion gyda’r bwriad

o geisio rhoi llais i blant a rhieni sy’n byw gyda heriau a’r holl

bleser o lywio taith bywyd ag anghenion ychwanegol.

Wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan ar ran ei chydfeirniaid,

dywedodd Menna Baines: “Dyma stori afaelgar o’r

dechrau sy’n adeiladu i uchafbwynt dramatig. Mae’r portread

o Cari yn un hyfryd.

Meleri Wyn James yw awdur y gyfres boblogaidd i

blant ‘Na, Nel!’ yn ogystal â’r sioe lwyfan o’r un enw a

lwyfannwyd ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol

Ceredigion yn Nhregaron y llynedd ac a ailadroddwyd yn

Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.

Drama sy’n canolbwyntio ar

y berthynas rhwng bachgen

niwroamrywiol 12 oed a’i fam

gipiodd y Fedal Ddrama i Cai

Llewelyn Evans o Gaerdydd.

Cyflwynwyd y Fedal Ddrama

am ddrama lwyfan heb unrhyw

gyfyngiad hyd a’r ddrama sy’n

dangos y mwyaf o addewid

ac sydd â’r potensial i gael ei

datblygu ymhellach drwy weithio

gyda chwmni proffesiynol cafodd ei

gwobrwyo.

Clywodd y gynulleidfa yn y

pafiliwn fod 26 o ddramâu wedi eu

derbyn a dywedodd y beirniaid mai

Eiliad o Ddewiniaeth gan Wasabi (Cai

Llewelyn Evans) oedd y ddrama orau.

Magwyd y dramodydd ym

Mhontarddulais ac ar hyn o bryd

mae’n byw yng Nghaerdydd.

Mae’n aelod o Wasanaeth

Cyfieithu a Chofnodi’r

Senedd fel cyfieithydd ar

y pryd.

Yn ystod yr wythnos

trosglwyddwyd Tlws

yr Eidalwyr, yr arwydd

gweledol sy’n dynodi pwy

sy’n trefnu’r Eisteddfod

Genedlaethol ganlynol, i

arweinwyr Cyngor

Rhondda Cynon Taf.

Bydd Eisteddfod 2024

yn cael ei chynnal ym

Mharc Ynysangharad ym

Mhontypridd.

Mae Michael Strain yn gobeithio y bydd yr un brwdfrydedd

tuag at Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn ymestyn i Eisteddfod

Genedlaethol 2024 yn Rhondda Cynon Taf.

“Gŵyl deithiol yw’r Eisteddfod Genedlaethol yn ei hanfod

ac mae hynny’n sylfaenol iddi. Bydd yr Eisteddfod yn ymweld

â rhan wahanol iawn o Gymru’r flwyddyn nesaf ac yn cael ei

chynnal mewn lleoliad hollol wahanol.

“Rwy’n dymuno’n dda iddi ac yn gobeithio y bydd pawb

sydd wedi gwirfoddoli yn yr Eisteddfod hon yn mynd tua’r de

fis Awst nesaf ac yn gwirfoddoli unwaith eto.”

Cymdeithas yr Iaith yn lansio

partneriaeth efo TUC Cymru

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio partneriaeth gyda

Chyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru) mewn

cam i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau i ddefnyddio’r

Gymraeg yn y gweithle.

Cynrychiola TUC Cymru 48 undeb llafur a 400,000

o weithwyr yng Nghymru, ac mae ‘Cynnig Cymraeg’

Comisiynydd y Gymraeg wedi ei ddyfarnu iddo.

Mae’r Gymdeithas wedi dadlau am yn hir bod

cymunedau iach, wedi’u seilio ar waith cynaliadwy, cyflogau

teg, ac amodau byw rhesymol, yn amodau hanfodol i’r

Gymraeg ffynnu yn y tymor hir fel iaith naturiol ac mae’r ddau

fudiad yn cydnabod bod y Gymraeg wedi bod yn ymylol yn y

gweithle am yn rhy hir.

Dywedodd Siân Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl i’r

Gymraeg Cymdeithas yr Iaith: “I wireddu’r nod o

normaleiddio’r Gymraeg mewn gweithleoedd, rydym

wedi cytuno ar amcanion cyffredin, gan gynnwys codi

ymwybyddiaeth i weithwyr a chyflogwyr o hawliau i

ddefnyddio’r Gymraeg yn y byd gwaith gan geisio diogelu’r

rhyddid hwnnw, cefnogi gweithwyr sydd wedi profi annhegwch

neu anghyfiawnder yn sgil eu defnydd o’r Gymraeg yn

ogystal â hyrwyddo cyfleoedd i weithwyr ddysgu ac uwchsgilio

eu Cymraeg yn y gweithle.”

Dywedodd Dr Mandy James ‘...amodau hanfodol

o TUC Cymru: “Dw i’n

i’r Gymraeg ffynnu yn y

hynod gyffrous ynghylch y tymor hir fel iaith naturiol’

bartneriaeth hon. TUC Cymru

yw llais Cymru yn y gweithle.

Yn ei hanfod, mae’r bartneriaeth yn canolbwyntio ar

gefnogi a hyrwyddo - gyda’r nod o ddiogelu - rhyddid a

hawliau gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a

dyfodol y Gymraeg fel iaith fyw mewn gweithleoedd a

chymunedau ar draws Cymru fel rhan o agenda ehangach

gwaith teg, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae’r

bartneriaeth hefyd yn mynegi’r egwyddorion a’r nodau

a rannwn yn nhermau cefnogi a hwyluso’r defnydd o’r

Gymraeg yn y gweithle.”

Llais gennych? ...wel dyma’r

tiwns a’r geiriau ar eich cyfer

Mae sianel carioci Cymraeg newydd wedi ei lansio ar

safle YouTube Noson Lawen.

Mae dewis o 20 o ganeuon mwyaf poblogaidd Cymru ar y

sianel, clasuron fel Yma o Hyd, Anfonaf Angel, Strydoedd

Aberstalwm a Calon Lân.

Lansiodd y grŵp gwerin Bwncath y sianel ym mhabell

S4C ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol gan ganu yn y bŵth

carioci a pherfformio set acwstig.

Yn ystod wythnos yr

Eisteddfod roedd croeso i

bawb ymweld â phabell S4C i

ganu rhai o’u hoff ganeuon yn

y bŵth.

Daw’r datblygiad newydd

yma gan Cwmni Da, sy’n

cynhyrchu Noson Lawen

wedi i’r gyfres ddathlu ei

phen-blwydd yn 40 y llynedd.

Noson Lawen yw’r rhaglen adloniant ysgafn sydd wedi

rhedeg hiraf ar deledu yn Ewrop, ac mae hi wedi cyrraedd

carreg filltir arall eleni wrth ddathlu’r ffaith bod fideos ar ei

sianel YouTube wedi’u gwylio 10 miliwn o weithiau.

Yn ôl Olwen Meredydd, Cynhyrchydd Noson Lawen:

“Noson Lawen yw un o’r sianeli YouTube Cymraeg mwyaf

poblogaidd yn y byd ac roedden ni’n cael ceisiadau o hyd

am eiriau i’r caneuon. Dyna oedd yr ysgogiad i greu’r sianel

Carioci.

“’Da ni’n gobeithio y bydd yn adnodd i gantorion

ifanc ddysgu caneuon ar gyfer cyngherddau, clyweliadau

a chystadlaethau; cyfle i ddysgwyr Cymraeg ymarfer drwy

gyfrwng cân a chyfle i bawb fwynhau canu carioci Cymraeg

mewn partïon, priodasau, nosweithiau cymdeithasol, yn y

dafarn neu hyd yn oed adre’ o flaen y drych!

“Bydd dewis o ugain cân ar y cychwyn ond y gobaith yw

ychwanegu mwy; byddwn felly’n annog pobl i gysylltu

gydag awgrymiadau o ganeuon yr hoffen nhw glywed, felly

dewch â’ch awgrymiadau.”

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!