25.10.2023 Views

Y Cymro - Medi 2023

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

12

Visitors mwyar duon sydd o gwmpas erbyn hyn, a nhw

a ni, trigolion y tiroedd twristaidd, yn gobeithio yn arw

iawn, iawn y bydd yna Ha’ Bach Mihangel fydd yn

parhau hyd nes i’r diafol boeri ar fwyar duon eleni tua

dechrau Hydref.

Wedi hynny, mi fydd y diwydiant twristiaeth, sydd mor

affwysol o bwysig a difaol am yn ail i Gymru, yn hepian

cysgu tan y Pasg.

Galla’ innau fynd i siopa i Bwllheli neu am drip i

Aberdaron wedyn heb orfod baglu dros bobl ddieithr sydd

yn cael hwyl.

Ydw i’n sur? Yn annheg? Yn ddi-ddiolch? Yn naïf? Yn

hiliol hyd yn oed?

Oni ddylwn i sylweddoli a derbyn maint cyfraniad

twristiaeth i fy ardal a’m gwlad? Wel, os ydw i yn yr un

cae â thrigolion peth wmbreth o ddinasoedd ac ardaloedd

ledled Ewrop sydd yn sicr yn teimlo yr un fath - nac ydw,

dim o gwbl.

Dyma ambell enghraifft. Mae pobl leol yn ardaloedd

glan-y-môr Mallorca yn gosod ffug bosteri o gwmpas y

traethau yn dweud eu bod

yn llawn, yn y gobaith y

caiff y rhai sy’n byw yno

trwy gydol y flwyddyn

gyfle i fwynhau’r tywod

yn yr haf.

Mae llywodraeth Gwlad

Groeg yn ystyried sut

i ddeddfu er mwyn atal

cwmnïau a gwestai mawr

rhag llenwi’r traethau yno efo gwelyau haul a

pharasols er mwyn ceisio atal pobl leol rhag

gosod lliain ar y tywod i dor-heulo, er bod y

ddeddf yn rhoi’r hawl i fynd i bob modfedd o

draethau’r wlad i bob copa walltog.

Mae trigolion Barcelona wedi cael hen

lond bol o’r miloedd ar filoedd sy’n gadael y

llongau pleser sy’n angori yn y bae i grwydro’r

strydoedd, defnyddio eu gwasanaethau

cyhoeddus a gwario nemor ddim yn y siopau

a’r tai bwyta. Ac yn y blaen ac yn y blaen.

Fenis yw un o’r cyrchfannau sy’n

diodde waethaf o effaith twristiaeth.

Mae miloedd ar filoedd yn

tyrru yno bob blwyddyn yn ôl

gwefan Venetzia Autentica ac mae’r

diwydiant twristiaeth bellach

wedi troi ‘yn broblem yn hytrach

nag adnodd’ yn ôl y wefan wrth i

fuddsoddwyr ac entrepreneuriaid

lleol ecsploetio’r ddinas, y dinasyddion a’u hadnoddau

hanesyddol er mwyn elw yn unig.

Canlyniad hyn yw bod pobl ifanc Fenis yn methu

fforddio cartrefi a chostau byw yno, yn methu cael

swyddi da a hefyd yn gweld eu safon byw yn gostwng.

Yn ôl ystadegau llywodraeth y ddinas fe wnaeth y nifer o

bobl rhwng 20 a 34 oed ostwng o 35% yn y degawd rhwng

2001 a 2011.

Ydi hyn yn taro deuddeg? Yn canu cloch? Os yn Fenis

fawr, pam ddim ym Mhen Llŷn a phob Pen Llŷn arall?

Gallwn ni yma uniaethu efo problemau tebyg mewn

llefydd yn nes i adref hefyd. Mae pobl leol ar Ynys Harris

yng ngorllewin yr Alban yn cwyno nad oes lle i alarwyr

ym maes parcio un fynwent yn ôl datganiad gan y Swyddfa

Dwrisitaeth leol am fod twristiaid yn mynnu parcio yno.

Dwi’n cofio cwynion tebyg yn Nhrefor bod perchnogion

‘Ydw i’n sur? Yn annheg?

Y n d d i - d d i o l c h ? Y n n a ï f ?

Yn hiliol hyd yn oed?’

Twrw, tai a thwristiaeth... does

gen i ddim ateb, dim un wan jac

BARN:

‘...mae gan bawb hawl i fyw adref a

hynny trwy gydol y flwyddyn nid pan

mae pob ymwelydd wedi troi am adref’

- gan Bethan Jones Parry

camperfans yn parcio ger y traeth, yn mynd i’r fynwent i

nôl dŵr ac yn gwagio carthion i’r môr.

Hyn oll am ddim ac yn ddi-hid wrth gwrs. Ac â helpo

pobl leol a’r gwasanaethau brys sydd eisiau gyrru ar hyd yr

A5 o Fethesda i Gapel Curig!

Ar y llaw arall, mae yna ochr arall i’r stori. Mae

twristiaeth yn bwysig mewn ardaloedd gwledig lle nad oes

fawr o ddiwydiannau eraill heblaw am amaethyddiaeth ar

gael.

Dyma fyrdwn erthygl gan y cyflwynydd Griff Rhys Jones

yn y Daily Mail mis diwethaf. Mae o wedi prynu ac adfer

hen ffermdy ac adeiladau amaethyddol yn Sir Benfro a’u

troi yn fythynnod gwyliau.

Yn ôl Mr Jones mae ymdrechion diweddaraf

Llywodraeth Cymru i reoli tai haf a bythynnod gwyliau

yn mynd i gael effaith hollol groes i’r hyn mae nhw’n ei

ddeisyfu.

Mae codi ‘eye-watering council taxes’ a threth

twristiaeth yn ddim byd ond

dulliau o gosbi y diwydiant heb

obadeia o obaith y bydd pobl

ifanc lleol yn gallu prynu

cartrefi yn eu milltir sgwâr.

Ac a helpo dyfodol pob

trydanwr, adeiladwr a phlymiwr

sydd ar hyn o bryd yn cynnal ei

hunain trwy adeiladu a chynnal

a chadw tai haf.

Dwi’n tueddu i gytuno efo

Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid

Cymru ddywedodd bod erthygl

Griff Rhys Jones yn tu hwnt o

nawddoglyd.

“Does gan gefn gwlad

Cymru ddim i’w gynnig mae’n

ymddangos ond anhunanoldeb

buddsoddwyr mewn tai gwyliau.

Rwtsh.

“Gall twristiaeth fod yn rym

er gwell ond ni ddylai fod yn

rhywbeth sy’n

digwydd i ni.

Dylwn gipio’r

llyw a’i wneud yn

ddiwydiant

cynaliadwy”.

Mae o’n llygad

ei le.

Nid man chwarae i bobl ddieithr ydi Cymru - nag un man

arall yn y byd.

Mae crwydro, teithio a mynd ar wyliau yn cyfoethogi

bywydau ac mewn cyfnod pan mae Ynysoedd Prydain yn

mynd yn fwyfwy - wel, ynysig - siawns bod hynna’n beth

da.

Ond mae gan bawb hawl i fyw adref a hynny trwy gydol

y flwyddyn nid pan mae pob ymwelydd wedi troi am adref.

Does gen i ddim ateb, dim un wan jac.

Mae’r holl beth tu hwnt i’m gallu a’m profiad personol.

Ond dwi’n gweld y problemau ac yn ddigon hen a

hirben i sylweddoli oblygiadau peidio mynd i’r afael â’r

problemau yn bragmataidd gyflym.

Breuddwydio am fod yn athro

ym Mhatagonia... dyma’r cyfle!

Mae’r British Council yn chwilio am athrawon i hybu’r

Gymraeg dros 7,000 o filltiroedd o adre - yn nhalaith

Chubut ym Mhatagonia yn yr Ariannin.

Mae’r sefydliad hybu cysylltiadau diwylliannol yn gobeithio

anfon tri o athrawon allan i’r Wladfa ym Mhatagonia i dreulio

naw mis yn dysgu Cymraeg mewn un o dair ysgol yn Nhrelew,

Trevelin a’r Gaiman rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2024.

Bydd yr athrawon yn mynd yno fel rhan o Gynllun Yr Iaith

Gymraeg, a sefydlwyd yn 1997 i helpu hybu’r Gymraeg ym

Mhatagonia, lle mae dros 6000 o siaradwyr Cymraeg - y nifer

mwyaf o siaradwyr yr iaith yn y byd y tu allan i Gymru. Mae

nifer fawr ohonynt yn ddisgynyddion i’r mudwyr o Gymru a

greodd Wladfa yn Nyffryn Chubut ym Mhatagonia dros 150 o

flynyddoedd yn ôl ym 1865.

Bydd yr athrawon yn helpu i ddatblygu’r iaith ym Mhatagonia

drwy gyfuniad o ddysgu ffurfiol a gweithgareddau cymdeithasol

anffurfiol. Ar hyn o bryd mae dau o athrawon - Llinos Howells a

Thomas Door - yn paratoi i deithio i’r Wladfa i dreulio’r tri mis

nesaf yno.

Wrth sôn am yr antur sydd o’i blaen, dywedodd Llinos: “Mae

gen i atgofion melys ers pan ro’n i’n ifanc o glywed straeon

am y mudwyr cyntaf a hwyliodd o Gymru a hanes cyfoethog

sefydlu’r Wladfa yn Chubut, ac

mae ymweld â Phatagonia wedi

bod yn freuddwyd gen i erioed.

“Rwy wedi bod yn ddigon lwcus

i ymweld ddwywaith o’r blaen ac

fe deimlais gysylltiad dwfn iawn

gyda’r wlad a’i phobl.

“Tra bydda i allan yno, rwy’n

‘Mae gen i atgofion

melys ers pan ro’n i’n

ifanc o glywed straeon

am y mudwyr cyntaf’

edrych ymlaen yn arbennig at hyfforddi plant ar gyfer cystadlaethau’r

Eisteddfod gan mod i wedi cael cryn lwyddiant ym maes

drama ac adrodd yn y gorffennol. Rwy wrth fy modd yn gweld

hyder ac angerdd y plant yn tyfu a galla i ddim aros i ymroi i fy

nghymuned newydd a dysgu mwy am y diwylliant a’r ffordd o

fyw yno, a hefyd i wella fy Sbaeneg.”

Ychwanegodd Thomas: “Mae cymryd rhan yn y rhaglen

yma wedi bod yn freuddwyd gen i ers sawl blwyddyn. Cyn y

pandemig ro’n i ar fy ffordd i weithio’n wirfoddol yn Ysgol

y Cwm, ond yn anffodus ni lwyddais i deithio ymhellach na

Buenos Aires, gan y cafodd holl deithiau hedfan mewnol ac

allanol y wlad eu canslo.”

Am fwy o wybodaeth am Gynllun Yr Iaith Gymraeg a’r meini

prawf ar gyfer ymgeisio, ewch i wales.britishcouncil.org/

Statws newydd i Halen Môn ar

ôl dangos y safonau uchaf

Mae Cwmni Halen Môn wedi ennill statws B Corp ar ôl

dangos y safonau cymdeithasol ac amgylcheddol uchaf.

Mae’r ardystiad yn golygu y bydd y busnes o’r gogledd,

sy’n creu amrywiaeth o gynhyrchion halen môr sydd wedi’u

hidlo’n naturiol ac sydd wedi ennill gwobrau, yn ymuno â grŵp

cynyddol o 29 o gwmnïau yng Nghymru sydd eisoes wedi ennill

yr achrediad.

Mae cymuned gynyddol B Corp yn fusnesau sy’n bodloni’r

safonau uchaf o berfformiad cymdeithasol ac amgylcheddol

wedi’i ddilysu, tryloywder cyhoeddus, ac atebolrwydd

cyfreithiol i gydbwyso elw a phwrpas.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r cydsylfaenydd,

Alison Lea-Wilson: “Mae Halen Môn wastad wedi

rhoi’r amgylchedd wrth ei galon, wedi’r cyfan, rydyn ni’n

dibynnu ar foroedd glân am ein prif gynhwysyn. Mae hwn yn

ardystiad diamwys a thrylwyr. Mae wedi gwneud inni edrych ar

bob agwedd ar ein busnes, nawr ac yn y dyfodol.

“Mae wedi dangos i ni faint mwy sydd i’w wneud. Nid yw’n

rhywbeth rydych chi’n ei ‘gael’ ac yna’n ei roi o’r neilltu. Mae’n

rhywbeth sy’n sail i bopeth a wnawn.

“Rwy’n falch o’r hyn mae Halen Môn wedi’i gyflawni ac yn

ddiolchgar i fy nhîm.”

Wedi’i sefydlu ym 1997 gan Alison a David Lea-Wilson,

mae’r cwmni’n parhau i fod yn eiddo i deulu ac wedi llwyddo

i ddatblygu a chynnal busnes cynaliadwy, llwyddiannus sy’n

cyflogi pobl leol.

Maent yn hyrwyddo eu staff ac wedi ymrwymo i dalu mwy

na’r Cyflog Byw a darparu cymorth proffesiynol, cymdeithasol

a lles.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!