Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Am fyw mewn tragwyddoldeb ‘ yngnghymrualloegr’?

...na, ninnau chwaith - Heledd Gwyndaf - tud 4

Medi 2023

Papur Cenedlaethol Cymru £1.50

‘Pam felly

bod y

cyfryngau

Prydeinig

yn gweld

pawb

yn Sais?’

- tud 6

Daeth y miloedd,

tywynnodd yr haul

...sut un oedd hi

felly ym Moduan?

- y sŵn, y sôn

a’r holl drafod

- tud 8, 10 ,14, 27

Ydi, mae’r ymwelwyr yn bwysig ond... ‘nid man chwarae i bobl ddieithr ydi Cymru’

HEN DDIGON

‘Ni ddylai twristiaeth fod yn rhywbeth sy’n digwydd i ni - dylwn gipio’r

llyw a’i wneud yn ddiwydiant cynaliadwy’ - tud 12

Hanner miliwn o gleifion rŵan yn aros am driniaeth yng Nghymru - tud 3

Nofelau newydd!

Cefnogwch eich

siop lyfrau leol

£9.99

£9.99

£9.99

.com

£9.99

£9.99

£9.99

Llyfrau dros Gymru
2

Cyhoeddir gan

Cyfryngau

Cymru Cyf

Uwch-Olygydd

Ymgynghorol:

Barrie Jones

barrie.jonescymro@gmail.com

Cynorthwyydd

Golygyddol:

Marc Roberts

Hysbysebion:

Barrie Jones

barrie.jonescymro@gmail.

com. 07740 918961

Cefnogir y cyhoeddiad hwn gyda

chymorth ariannol oddi wrth

Lywodraeth Cymru a Chyngor

Llyfrau Cymru.

Ymwadiad:

Nid yw Llywodraeth Cymru na

Chyngor Llyfrau Cymru’n cytuno,

o angenrheidrwydd, ag unrhyw

farn a fynegir yn y cyhoeddiad

hwn.

Dewch i gyswllt:

Y Cymro

13 Heol y Parc

Pontyberem

Llanelli

Sir Gaerfyrddin, SA15 5EA

Twitter:

@y_cymro

Facebook:

@ycymroarlein

Y wefan:

https://ycymro.cymru

Ebost:

gwyb@ycymro.cymru

i ffonio: 07740 918961

Rydym yn cadw’r hawl i

olygu adroddiadau, erthyglau a

llythyrau. Fe wneir hyn oherwydd

maint, gweddusrwydd, chwaeth a

chyfreithlondeb.

Nid yw’r farn a amlygir yn y

cyhoeddiad hwn o

angenrheidrwydd yn cynrychioli

barn y cyhoeddwyr. Croesawn

unrhyw gywiriadau.

Cyfle i rywun sy’n ‘angerddol dros y Gymraeg’

Mae aelodau Fforwm Iaith Ynys Môn

wedi datgan eu diolch i’r cadeirydd a’r

is-gadeirydd wrth iddynt roi’r gorau i’w

rolau.

Mewn cyfarfod y mis diwethaf mynegodd Dr

Haydn Edwards a Dr Ifor Gruffydd ill dau eu

bod am ildio eu cyfrifoldebau yn dilyn bron i

bum mlynedd o wasanaeth.

Yn ystod y cyfnod mae gwaith y Fforwm

Iaith wedi esblygu a bellach yn cynnwys dros

25 o sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector

Mae rhwydwaith newydd, Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio,

am helpu amaethyddiaeth Cymru bontio i ddyfodol sero

net gyda’r ffermydd dan sylw’n treialu dulliau arloesol a

thechnolegau newydd.

Lansiodd Cyswllt Ffermio ei rwydwaith ‘Ein Ffermydd’ yn yn Sioe

Frenhinol Cymru pan gafodd enw’r 15 fferm eu datgelu.

O Ynys Môn yn y gogledd i Sir Benfro yn y de, maent yn cynnwys

ystod amrywiol o systemau, o ffermydd bîff a defaid i ffermydd

llaeth a dofednod, ond gydag uchelgais gyffredin i feithrin

gwydnwch a chynaliadwyedd.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y ffermydd

yn cynnal diwrnodau agored Cyswllt Ffermio

i rannu arfer gorau a syniadau newydd sy’n

deillio o’u prosiectau.

Ymhlith y ffermwyr sydd wedi’u recriwtio

mae’r ffermwyr cig coch Rhodri a Claire Jones,

sy’n ffermio yn Brynllech Uchaf, Llanuwchllyn.

Mae eu huchelgeisiau wrth ddod yn rhan o

rwydwaith Ein Ffermydd yn cynnwys, lleihau eu

dibyniaeth ar borthiant a brynwyd a dod o hyd i gymysgedd

hadau ar gyfer porfa sy’n gweddu i’w system, tir a hinsawdd.

“Y cyngor mwyaf defnyddiol a gawsom erioed yw newid os yw’n

addas i chi a gwella’r hyn yr ydych yn ceisio’i wneud,” meddai

Rhodri.

Hefyd wedi’u recriwtio i’r rhwydwaith mae’r ffermwyr da byw

David, Eryl a Daniel Evans, Tanygraig, Llanbedr Pont Steffan, sydd

eisoes wedi gweld manteision defnyddio technoleg gyda system

teledu cylch cyfyng, sydd wedi trawsnewid y cyfnod wyna a lloia.

Maes allweddol y mae Sian, Aled a Rhodri Davies, sy’n rhedeg

fferm gymysg yn Cwmcowddu, Llangadog, am ganolbwyntio

arno yw sut y gallant wneud gwell defnydd o dail ieir i leihau eu

hanghenion o wrtaith wedi’i brynu.

“Rydym ni hefyd am ganolbwyntio ar gynyddu faint o borthiant

rydym ni’n ei dyfu, a’i wneud yn fwy goddefgar i sychder,’’ meddai

Aled.

- llais annibynnol yng Nghymru

blaenllaw sydd oll yn cyfrannu at ddatblygiad y

Gymraeg ar Ynys Môn.

Cafodd y Fforwm Iaith ei sefydlu yn 2014.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys

Môn, y Cynghorydd Llinos Medi: “Rydym yn

hynod ddiolchgar i Dr Haydn Edwards a Dr

Ifor Gruffydd.

“Mae’r Fforwm Iaith wedi datblygu i fod yn

awdurdod dylanwadol nid yn unig yn lleol,

ond yn genedlaethol, ac yn esiampl i eraill o

bwysigrwydd cydweithio i atgyfnerthu’r

Gymraeg.

Yn dilyn ymadawiad Dr Edwards, mae

Fforwm Iaith Ynys Môn yn edrych i benodi

cadeirydd annibynnol newydd.

Dywedodd Elen Hughes, Prif Swyddog

Menter Iaith Môn: “Mae hwn yn gyfle arbennig

i rywun sydd â chysylltiadau cryf â’r ardal, sy’n

angerddol dros y Gymraeg ac yn ymroddedig

i ddatblygiad yr iaith yng nghymunedau Ynys

Môn i arwain gwaith y Fforwm Iaith.

“Anogaf unrhyw un sydd â diddordeb i

gysylltu â ni am sgwrs.”

Cyswllt Ffermio yn datgelu rhwydwaith ‘Ein

Ffermydd’ newydd o 15 fferm Cymru

Y ffermydd ‘Ein Ffermydd’ eraill yw: Chris a Glyn Davies, Awel

y Grug, Y Trallwng, De Sir Drefaldwyn (Cig Coch). Marc, Wynn a Bethan

Griffiths, Cilthrew, Llansantffraid, Gogledd Sir Drefaldwyn (Cig Coch).

Jeff, Sarah, Enfys a Medi Wheeler, Clyngwyn, Clunderwen, Sir Benfro

(Llaeth). Deryl a Francis Jones, Rhyd Y Gofaint, Aberaeron, Gogledd

Ceredigion (Llaeth). Robert a Jessica Lyon, Lower House Farm,

Llandrindod, Sir Faesyfed (Cymysg). Sarah Hammond a Robert

Williams, Glyn Arthur Farm, Llandyrnog, Dinbych (Cig Coch). Dylan,

Gwenda a Gwion Roberts, Cornwal Uchaf, Gwytherin, Conwy (Cig Coch).

David, Heulwen and Rhys Davies, Moor Farm, Treffynnon, Fflint (Llaeth)

Ifan Ifans, Tyddyn Cae, Pwllheli, Gwynedd (Llaeth). Roger a

Dyddanwy Pugh, Crickie Farm, Llangors, Aberhonddu (Cig Coch). Gerallt

Jones, Graianfryn, Llanfachraeth, Ynys Môn (Cig Coch). Nigel Bowyer a’r

teulu, Ty Coch, Brynbuga, Sir Fynwy (Cig Coch).

Dywedodd Siwan Howatson, Pennaeth Technegol Cyswllt

Ffermio mai’r gobaith oedd y bydd ffermwyr ledled Cymru yn cael

eu hysbrydoli a’u hannog i roi cynnig ar ffyrdd arloesol o weithio

a thechnolegau newydd i gynyddu cynaliadwyedd hirdymor eu

busnesau fferm eu hunain.

Arweinydd Plaid Cymru i annerch gorymdaith Bangor

Bydd cefnogwyr annibyniaeth yn troi

eu golygon at Fangor lle cynhelir y

diweddaraf mewn cyfres o orymdeithiau

dros annibyniaeth.

Ymhlith y rhai fydd yn annerch y dorf

bydd arweinydd Plaid Cymru, Rhun

ap Iorwerth. Trefnir yr Orymdaith dros

Annibyniaeth, a gynhelir ar Fedi 23, ar y

cyd rhwng YesCymru ac AUOBCymru a

disgwylir iddo godi proffil yr achos dros

Gymru annibynnol.

Bydd yn cychwyn am 1pm o Faes Parcio

Glanrafon. Dan arweiniad cerddorion

Cymreig bydd yr orymdaith yn cerdded ar

hyd Stryd Fawr Bangor, gan droi at Ffordd

Glynne cyn troi unwaith eto i Ffordd Deiniol

ac yn ôl tuag at Faes Parcio Glanrafon.

Dywedodd Geraint Thomas, un o’r

trefnwyr sy’n rhedeg busnes yng

Nghaernarfon: “Rwy’n falch iawn y

‘ ...newid os

yw’n addas i

chi a gwella’r

hyn yr ydych

yn ceisio’i

wneud’

bydd Gwynedd unwaith eto yn cynnal

gorymdaith dros annibyniaeth AUOB-

Cymru ac YesCymru. Daeth dros 8,000 i’r

orymdaith yng Nghaernarfon nôl yn 2019,

rydym yn obeithiol y bydd mwy o bobl fyth

ym Mangor y tro hwn.

“Mae’r disgwyliadau yn uchel wrth i ni

baratoi i groesawu unigolion o bob rhan o

Gymru i Fangor. Fel trefnwyr, rydym yn

gweithio’n ddiwyd i sicrhau y bydd hon yn

un o’r gorymdeithiau gorau eto!”

Wrth i’r orymdaith ddod i ben tua 2pm,

bydd rali fawr yn cael ei chynnal ym Maes

Parcio Glanrafon, gyda llwyfan mawr,

system PA, a sgrin fideo ar gyfer areithiau a

pherfformiadau.

Ymhlith y siaradwyr bydd Rhun ap

Iorwerth, a ddaeth yn arweinydd ar Blaid

Cymru ym mis Mehefin.

Dywedodd: “Rydw i’n edrych

ymlaen i ymuno unwaith eto â miloedd o

bobl a datgan yn glir ein cefnogaeth dros

annibyniaeth i Gymru, y tro yma ym

Mangor.

“Nid dyma’r gorau all hi fod i Gymru -

gallwn anelu’n uwch fel cenedl, ac yn wir

mae’n rhaid i ni wneud hynny.

“Mae’n glir i mi fod gennym gymaint i’w

gynnig - yn ein pobl, ein hadnoddau naturiol,

yn ein hynodrwydd, ein menter gymunedol

a’n dyfeisgarwch. Fe all Cymru sefyll ar ei

dwy droed ei hun.

“Mae annibyniaeth yn gyflwr arferol i wlad

fodoli ynddi, a dyna’r ydan ninnau’n anelu

amdano.

Rydw i’n gyffrous am fy rôl i fel

Arweinydd Plaid Cymru - i geisio

argyhoeddi mwy a mwy o bobl pam ein bod

ni ar y siwrne hon tuag at Gymru annibynnol

- tuag at Gymru sy’n fwy ffyniannus, yn

decach, yn wyrddach ac yn fwy

uchelgeisiol.”
- tud 10

- tud 2

- tud 15

Hysbys Cymro Stribyn Gor f 23 :Layout 1 2/06/2023 09:19 Page 1

www.carreg-gwalch.cymru ( 01492 642031

Heledd Gwyndaf

- tud 4

Dros hanner miliwn o gleifion yn aros

am driniaeth yng Nghymru gan Eryl Crump

Ond mae’r Gweinidog Iechyd yn amlygu’r holl ymdrechion sy’n cael

ei gwneud i fynd i’r afael â’r amseroedd aros hiraf

Mae ffigurau a ryddhawyd gan

Lywodraeth Cymru ddiwedd Awst yn dangos

bod 754,300 o ‘lwybrau cleifion’ agored yng

Nghymru ym mis Mehefin 2023 - cynnydd

o’r 748,400 ym mis Mai.

Dyma’r pedwerydd cynnydd yn olynol

a hefyd yr ail uchaf ar gofnod. Mae’r

data yma yn cynnwys amser a dreulir yn

aros am unrhyw apwyntiadau ysbyty,

profion, llawdriniaeth a sganiau.*

Ledled Cymru mae 589,000 o gleifion unigol

ar restrau aros am driniaeth - cynnydd o

tua 5,200 o gleifion o fis Ebrill ymlaen.

‘Mae canslo apwyntiadau

ar y funud olaf yn golygu

gwastraffu adnoddau’

Mae hyn er gwaethaf ymdrechion parhaus

Llywodraeth Cymru i dorri amseroedd aros y

Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (GIG).

Mewn mannau eraill cynyddodd nifer yr

amseroedd yr oedd cleifion yn aros llai na 26

wythnos am driniaeth hefyd i 59.3% ym mis

Mehefin, tra gostyngodd nifer yr amseroedd

aros yn hwy na 36 wythnos ym mis Mehefin, i

ychydig o dan 229,300.

Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd

132 yn fwy o bobl eu triniaeth ddiffiniol

gyntaf, gyda 23 yn fwy o fewn y targed, i

gymharu â’r un amser blwyddyn ddiwethaf.

Hefyd gwelwyd cynnydd o 14% yn y nifer

Arbed CO2 a phob cyfleustra modern ar fysus trydan Cymru

Mae mwy na 100,000 o deithwyr

wedi teithio ar y gwasanaeth bws

rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth

TrawsCymru ers iddo gael ei ail-lansio gyda

bysiau trydan yn gynharach eleni.

Mae nifer y teithwyr wedi cynyddu o 16,000

ym mis Mawrth i 19,000 ym mis Ebrill, 23,000

ym mis Mai a 26,000 ym mis Mehefin ac eto

ym mis Gorffennaf.

Dywedodd Huw Morgan, Pennaeth

Trafnidiaeth Integredig Trafnidiaeth

Cymru: “Mae’r gwasanaeth a ail-lansiwyd

Mai 2019

Papur Cenedlaethol Cymru £1.00

Rheoleiddio

neu hybu? -

Y Cymro

yn holi

Comisiynydd

y Gymraeg

YR YMATEB!

Mwy na geiriau ar wal - rhan o’n hanes a’n hunaniaeth

ADAM PRICE: ‘Y ffordd orau i ymateb i’r difrod i furlun Tryweryn yw i ni weld

100 o furluniau newydd yn codi ym mhob cwr o’r wlad dros Gymru Rydd’

Gor fennaf 2019

OWAIN PWY?

Papur Cenedlaethol Cymru £1.00

Pam nad yw hanes ein gwlad yn cael ei

ddysgu yn ein hysgolion?

Pam bod

angen

poeni? -

mae’r iaith

yn fyw

ac iach!

Barn wahanol

- tud 16 -17

‘Profiad y tasglu yw bod nifer o ddysgwyr yn

ysgolion Cymru yn dysgu mwy am hanes Lloegr nag

am hanes eu bro a’u gwlad eu hunain’ - tud 2 a 3

Cynghorau yn cefnogi breuddwyd annibyniaeth - tud 13

a gafodd wybod nad oes ganddynt ganser

(14,575) o’i gymharu â Mehefin 2022.

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan

wedi amddiffyn y ffigyrau - gan amlygu’r

ymdrechion sy’n cael eu gwneud i fynd i’r

afael a’r amseroedd aros hiraf.

Dywedodd Eluned Morgan: “Mae’n

galonogol gweld cynnydd o ran lleihau

rhai o’r arosiadau hwyaf, a’r amser aros

cyfartalog am driniaeth yng Nghymru yw

19.1 wythnos - sydd 10 wythnos yn llai

na brig mis Hydref 2020 a dwy wythnos a

hanner yn fyrrach na blwyddyn yn ôl.

“Mae hyn er gwaethaf y galw

parhaus ar staff y GIG sy’n

gweithio’n galed. Atgyfeiriadau

ar gyfer canser ac arbenigeddau

eraill oedd yr uchaf i gael eu cofnodi

erioed ym mis Mehefin. Cynyddodd

holl atgyfeiriadau 20% ers yr un

cyfnod y llynedd.

“Mae arosiadau dros ddwy flynedd

bellach wedi gostwng 60% ers i’n

rhaglen adfer ar ôl COVID gael ei lansio.

“Er nad yw’r galw am wasanaethau yn arafu

ac er bod y rhestr aros gyffredinol wedi codi

eto, mae angen inni sicrhau ein bod yn rheoli

ein hadnoddau yn effeithiol. Y llynedd cafodd

dros 6,000 o driniaethau eu canslo ar y funud

olaf.

“Mae canslo apwyntiadau ar y funud olaf yn

golygu gwastraffu adnoddau - mae’n golled o

ran amser ymgynghorwyr a llawfeddygon pan

allai’r gofod hwnnw fod wedi cael ei gynnig i

rywun arall.

“Dyna pam rwyf wedi lansio ein polisi aros

yn rhagweithiol, sef y polisi 3A i gefnogi

pobl sy’n aros am driniaeth i atal rhai o’r

wedi canolbwyntio ar ddarparu’r profiad

teithwyr gorau posibl i gwsmeriaid tra’n cadw

prisiau’n fforddiadwy.

“Rydym wedi bod yn falch iawn o

lwyddiant y gwasanaeth yn y chwe mis cyntaf

ers cyflwyno’r bysiau newydd a’n ffocws nawr

yw parhau i wella ein harlwy yn dilyn adborth

gan ddefnyddwyr.”

Gwasanaeth T1 TrawsCymru, a weithredir

gan First Cymru, yw’r contract bws cyntaf i

gael ei reoli gan Trafnidiaeth Cymru.

Mae’r cerbydau newydd yn gweithredu allan

Be amdani? ...dewch i’r Bala i chwarae

golff yng Ngwpan Y Cymro’ - tud 8

Mai 2023

Papur Cenedlaethol Cymru £1.50

PAM RHAID

GADAEL

EIN GWLAD

I FYND O

UN PEN

I’R LLALL?

Gweld

rhywbeth o’i le

ar enw hyfryd

Bannau

Brycheiniog?

...na ninnau

chwaith!

Wrth i’r ffrae dros gyfraniad Cymru i brosiect rheilffordd HS2 Lloegr godi

stêm mae galw cynyddol am ffordd gall o gysylltu’r de a’r gogledd - tud 3

“Yn anhygoel, mae’n rhaid i unrhyw

deithiwr sydd eisiau mynd ar y trên o

ogledd i dde Cymru fynd drwy Loegr”

Liz Savi le Roberts - tud 3

Y gadair o Batagonia be l ...mae rhai pethau sy’n werth aros amdanynt - tud 4

Pwy, pam a be? ...‘parchu artistiaid’ a’r ffrae

dros reol iaith yr Eisteddfod - tud 3

Gor fennaf 2023

Maxine, Cymru

...a Donald Trump

O’r America - sgŵps gwych y

newyddiadurwraig o Gonwy

Ar y Cyfryngau - Dylan Wyn Wi liams

Cynllun ‘hanesyddol’ i achub ein cymunedau

rhag effaith ddinistriol y tai gwyliau

UN CAM

CALL O’R

DIWEDD

TUAG ATAL

Y LLIF

arlein - YCymro.Cymru

GWASG

CARREG

GWALCH

Papur Cenedlaethol Cymru £1.50

‘Mae Gwynedd wedi arwain

y fordd’. .ond mae rhai yn ei

weld fel polisi ‘wrth-Seisnig’

ar gael yn eich siop lyfrau leol .

’Chydig o

Gymraeg i

ni - HWRE!

.pam fe ly

bod ein

disgwyliadau

mor ofnadwy

o isel?

- Adroddiad arbennig - tud 2

apwyntiadau hynny rhag cael eu canslo a

sicrhau bod pobl yn cael y canlyniadau gorau.”

Ychwanegodd fod adrannau brys ac

ambiwlansys yn parhau i weld lefelau parhaus

o alw uchel.

“Er hynny, mae perfformiad yn erbyn targed

pedair awr yr adran argyfwng ac amseroedd

ymateb galwadau coch ambiwlansys yn dal

eu tir yn dda, yn unol â gwelliannau a welwyd

yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf. Ym

mis Gorffennaf ymatebodd y gwasanaeth

ambiwlans i fwy o ddigwyddiadau o fewn 10

munud o’i gymharu â’r un mis y llynedd.

“Ym mis Gorffennaf cafodd yr ail gyfran

uchaf o alwadau eu hateb gan linell gymorth

111 am dros flwyddyn. Mae’n galonogol bod

fwy o bobl yn defnyddio’r llinell gymorth hon

i sicrhau’r gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer

eu hanghenion a lleihau’r pwysau ar y system

ehangach.”

* Mae’r ffigyrau yma yn uwch oherwydd

bod gan rai pobl fwy nag un ‘llwybr claf’

o ddepo newydd yng Nghaerfyrddin ac yn

gwneud rhai o’r teithiau holl-drydan hiraf o

blith unrhyw fysiau yn y Deyrnas Unedig, gan

gwmpasu 104 milltir ar gyfer taith gron.

Mae pob cerbyd yn arbed 3kg o CO2 fesul

taith gron, sy’n cyfateb i dros 12,700 paned o

de.

Mae’r bysiau’n cynnig nifer o nodweddion

newydd gan gynnwys goleuadau darllen,

byrddau, gwefru diwifr a socedi USB,

seddi gyda breichiau, sgriniau gwybodaeth a

system puro aer.

z

3

Be’ fydd yr effaith ar

y m ô r wrth ehangu’r

ffermydd gwynt?

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol

Bangor wedi derbyn cyllid i ymchwilio

i ba effeithiau amgylcheddol y gallai

datblygiad arfaethedig cenhedlaeth

newydd o ffermydd gwynt eu cael ar y

môr.

Mae Ysgol Gwyddorau Eigion y

brifysgol yn rhan o gonsortiwm sydd wedi

ennill £2.5 miliwn o gyllid gan Gyngor

Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.

Mae £639,000 wedi’i glustnodi

ar gyfer gwneud ymchwil i effaith

gwahanol ddyluniadau sylfaen tyrbinau ar

ecosystemau sensitif.

Yn dilyn llwyddiant datblygiad ynni

gwynt ar y môr fel ffynhonnell ynni dros

y degawd diwethaf, gwelir ehangu pellach

yn y math hwn o gipio ynni fel asgwrn

cefn llwybr y DU i gyflawni sero net

erbyn 2050.

Er bod dros 99% o’r genhedlaeth

bresennol o ffermydd gwynt ar y môr yn y

Deyrnas Unedig wedi’u seilio ar foroedd

arfordirol bas, mae’r ehangiad enfawr yn

gofyn am ddatblygiadau ar raddfa fawr yn

y moroedd dyfnach ymhellach o’r lan.

Mae gan y dyfroedd dyfnach hyn haenau

tymheredd gwahanol sy’n newid drwy’r

tymhorau ac yn cynnal gwahanol ecosystemau,

pysgod a rhywogaethau eraill.

Dywedodd Dr Ben Lincoln: “Mae’r

symudiad hwn i ddyfroedd dyfnach yn

gofyn am ddatblygu cynlluniau sylfaen

tyrbinau hollol wahanol.

“Mae hyn yn codi cwestiynau

ynghylch pa effeithiau y gall y

datblygiadau newydd hyn eu cael ar natur

a’r amgylchedd.”

‘Fy ngobaith yw

talu teyrnged

i dalent ffyrnig

Rachel Roberts’

- Sharon Morgan

- tud 24

Dros lais annibynol cryf

i Gymru...

Tanysgrifiwch am flwyddyn i

bapur cenedlaethol ein gwlad

- tud 29
4

BARN:

Un o’r heriau sy’n ein wynebu ni yng

Nghymru, fel mewn gwledydd eraill, ydy

cyfathrebu negeseuon.

Mae’r obsesiwn sydd yn Lloegr gyda’u ‘straplines’ yn

eu harwain i ddyfroedd dyfnion iawn, yn aml iawn.

Felly faswn i ddim yn hyrwyddo hynny, ond mae

cyfathrebu, yn rhyfedd iawn, i feidrolion sy’n medru

siarad, yn her.

O ran y maes tai, un peth dw i wedi sylwi arno ydy bod

rhai yn cyfeirio at y broblem dai gwyliau fel y broblem

‘Airbnb’.

I rai ohonom,

rydyn ni’n deall bod y

defnydd o’r gair

‘Airbnb’ weithiau yn

gyfystyr â chyfeirio

at bob math o dai

gwyliau, ac y defnyddir

‘Airbnb’ weithiau i

gynrychioli ‘tai

gwyliau’.

Ond i laweroedd nad sydd ynghlwm â thrafodaethau yn

ymwneud â thai gwyliau (er efallai yn berchen ar un!),

mae Airbnb yn golygu Airbnb.

Hynny yw os yw eich tŷ gwyliau ar unrhyw wefan arall,

ond ddim ar Airbnb, yna mae popeth yn iawn, mae’ch

cyfraniad yn fawr.

Hynny yw, mae camddealltwriaeth o amgylch bod

rhai yn credu mai’r platfform yw’r broblem, ac nid y tai

gwyliau - i gyd, ar ba bynnag blatfform maen nhw’n cael

eu gwerthu.

Mae dealltwriaeth ymysg rhai bod dweud Airbnb yn

golygu tai gwyliau, ond rhaid i’r rhai sy’n deall hyn,

ddeall nad dyma ddealltwriaeth pawb o’r ‘term’.

Dw i’n nabod rhai sydd yn tynnu eu tai gwyliau oddi ar

y platfform hwnnw, ond yn eu cadw ar blatfformau eraill,

ac yn wirioneddol gredu nad yw eu tŷ gwyliau nhw yn y

pentref yn broblem bellach.

Gochelwn felly rhag cyfathrebu ‘tai gwyliau’ fel hyn.

A thra ein bod yn faes chwarae i bobl ddwad, ry’n ni ar

yr un pryd yn hollol amherthnasol fel endid, yn wir dydyn

ni ddim yn cael ein gweld o gwbl.

Wrth i mi sgwennu’r pwt bach hwn, y ‘newyddion’ ydy,

yn ôl ystadegau o ‘swyddfa’r ystadegau’ (Lloegr) fod llai

‘Beth mae hyn oll yn ei wneud ydy ein

glynu ymhellach wrth Loegr, gwanhau ein

democratiaeth a’n analluogi i gynllunio’

Dewch bawb felly i fyw

‘yngnghymrualloegr’ mewn

‘Airbnb’ a bydd popeth yn iawn!

‘...ry’n ni ar yr un pryd yn hollol

amherthnasol fel endid, yn wir dydyn

ni ddim yn cael ein gweld o gwbl’

- gan Heledd Gwyndaf

o blant wedi eu geni eleni yngnghymrualloegr.

Nid yw hyn yn dweud DIM wrthym am niferoedd geni

yng Nghymru. Gall fod y nifer wedi dyblu yng Nghymru,

ond os y byddai wedi gostwng yn Lloegr, gall ei fod dal

wedi gostwng yngnghymrualloegr.

Nawr mae ffigyrau am bethau fel hyn, ac yn enwedig

hefyd ym maes trosedd a chosb yn penderfynu ar sut mae

gwlad yn mynd i’r afael â heriau sy’n debygol o godi yn

sgil y ffigyrau hyn, a beth ddylsai blaenoriaeth gwlad fod.

Tra fod pobl Cymru yn cael ffeithiau anghywir, mi

fyddwn ni’n cynllunio yn anghywir.

Mae hi’n anodd iawn, os nad yn

amhosibl cael ffigyrau cywir am

Gymru yn unig ar wefan y swyddfa

ystadegau (nid ydym hyd yn oed

yn atodiad), ac yn sicr mae’n hen

bryd i newyddion Radio Cymru

(BBC) roi’r gorau i adrodd ffigyrau

yngnghymrualloegr a chreu

trafodaethau o amgylch rhywbeth na

wyddwn os yw hyd yn oed yn berthnasol i ni.

Beth mae hyn oll yn ei wneud ydy ein glynu ymhellach

wrth Loegr, gwanhau ein democratiaeth a’n analluogi i

gynllunio.

Tan ein bod yn wlad annibynnol,

yngnghymrualloegr fyddwn ni, ond tan hynny, rhaid i’n

Llywodraeth ni roi’r gorau i ymwneud ag unrhywbeth

sydd yngnghymrualloegr - ac mae yn sicr angen i staff y

BBC yng Nghymru wneud hefyd.

‘Roedd cyngor R Alun

wastad yn werth ei gael’

- teyrngedau i’r darlledwr

Bu farw’r darlledwr, awdur a gweinidog gyda’r

Annibynwyr, y Parchedig R Alun Evans yn dilyn salwch

byr fis diwethaf. Roedd yn 86 oed.

Mewn gyrfa amrywiol gyda’r BBC roedd yn un o wynebau

a lleisiau mwyaf cyfarwydd y byd darlledu Cymraeg. Bu’n

gyflwynydd y rhaglen gylchgrawn Heddiw yn y 1970au, yn

sylwebydd ar gemau pêl-droed a digwyddiadau mawr y BBC

yn y Gymraeg.

Yn ogystal a’i waith darlledu daeth yn ffigwr amlwg

yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ymgymryd â sawl rôl

allweddol, cyn cael ei anrhydeddu’n Gymrawd am oes o

wasanaeth i’r Brifwyl.

Bu hefyd yn Llywydd ar yr Annibynwyr Cymraeg.

Mewn teyrnged iddo dywedodd Betsan Moses, Prif

Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: “Bu’n rhan o

lywodraethiant y Brifwyl am flynyddoedd lawer, ac roedd ei

ffyniant a’i datblygiad yn agos iawn

at ei galon.

“Roedd yn arweinydd naturiol a

gofalus yn ystod ei gyfnod wrth y

llyw, ac roedd ein perthynas gydag

R Alun yr un mor gryf ac agos

heddiw ag y bu erioed.

“Cwta dair wythnos yn ôl roedden

ni’n cydweithio er mwyn cwblhau’r

argraffiad newydd o’i gyfrol ar hanes

Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn, ac

rydyn ni mor falch o fod wedi cael y cyfle i gwblhau’r

prosiect hwn a oedd mor agos at ei galon.

“Roedd cyngor R Alun wastad yn werth ei gael. Roedd

yn fodern ei weledigaeth, yn gweld dyfodol yr Eisteddfod

yn glir, ac yn rhannu o’i brofiad a’i syniadau gyda ni tan y

diwedd.”

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC

Cymru: “Roedd R Alun Evans yn ddarlledwr crefftus a

chraff; yn gawr ac yn arloeswr ymhlith darlledwyr Cymru

dros sawl degawd a chanddo’r gallu unigryw hwnnw i greu

agosatrwydd arbennig gyda’i gynulleidfa. Fe dorrodd dir

newydd mewn sawl maes yn y byd darlledu.

“Roedd yn gyflwynydd newyddion ar y rhaglen Heddiw, yn

gyfrifol am sylwebaethau pêl-droed cofiadwy, yn dywysydd

drwy seremonïau Eisteddfodol dirifedi ac ar raglenni addysg

a chrefydd y BBC.”

Cafodd ei eni a’i fagu yn Llanbrynmair cyn graddio yn

y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Ddilynodd ei dad i’r

weinidogaeth a chael ei ordeinio yn Llandysul yn 1961.

Ond roedd eisoes wedi dechrau ymddiddori mewn darlledu

ac fe ymunodd ag Adran Grefydd BBC Cymru yn 1964.

Ymunodd â rhaglen Heddiw yn 1969, gan ohebu a

chyflwyno tan 1979. Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn

sylwebu ar seremonïau’r Eisteddfod ac yn sylwebu ar gemau

pêl-droed.

Fe’i dyrchafwyd wedyn yn un o reolwyr y BBC a chafodd

ei benodi’n bennaeth ar ganolfan y BBC ym Mangor. 81.

Ar ôl ymddeol o’r byd darlledu yn 1996, fe astudiodd

a chael Doethuriaeth am ei waith ar ‘Dechrau a datblygu

darlledu yng Ngogledd Cymru’.

Fe ddychwelodd hefyd i’r weinidogaeth, gan wasanaethu

i’r Annibynwyr yng Nghaerffili a Gwaelod y Garth nes ei

ymddeoliad ddiwedd 2014.

Gawn ni ysgol newydd fel hyn plis? ...barn y disgyblion i benseiri eu hadeilad newydd

Cymerwyd cam ymlaen mewn prosiect i ail-ddatblygu’r

ysgol ac adnoddau cymunedol ym Montnewydd ger

Caernarfon, wrth i Gyngor Gwynedd benodi’r penseiri

fydd yn dylunio’r adeiladau newydd.

Bu cyfle i gynrychiolwyr o gwmni TACP o Wrecsam i

gwrdd â theulu’r ysgol yn ystod ymweliad cyn diwedd

tymor yr haf er mwyn iddynt gael gweld beth yw anghenion

y disgyblion, y staff a’r gymuned wrth i waith ar y cynllun

gwerth hyd at £12 miliwn symud yn ei flaen.

Yn ystod eu hymweliad roedd cyfle i’r penseiri glywed

gan y disgyblion beth hoffent weld yn eu hysgol newydd ac

i drafod anghenion staff yr ysgol gyda’r pennaeth.

Yr Wyddfa - neu fel y disgrifir yn aml am ryw reswm od

- ‘Y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr’

Un o gonglfeini’r ysgol newydd fydd ei ethos ecogyfeillgar.

Bydd hyn yn amlwg yn ystod y gwaith adeiladu

gyda’r bwriad o ail-ddefnyddio cymaint ag sy’n bosib o

ddeunyddiau gwreiddiol yr ysgol a’r ganolfan gymunedol

bresennol gan leihau cylch bywyd carbon yr adeilad ac

adnoddau newydd. Yna, wedi i’r ysgol newydd agor,

bydd yr adeilad yn sero net o ran ei allyriadau nwyon tŷ

gwydr gan wneud defnydd o ynni adnewyddol, insiwleiddio

effeithlon ac annog teithio cynaliadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod

o Gyngor Gwynedd dros Bontnewydd: “Roedd yn braf

iawn cael croesawu’r penseiri i Bontnewydd ac roedd yn

gyfle gwych i ni ddechrau trafod ein dymuniadau ar gyfer

yr ysgol a’r adnoddau cymunedol efo nhw. Roedd yn

fendigedig cael mewnbwn y plant a dwi’n edrych ymlaen at

gael cyfleoedd pellach i gydweithio i’r dyfodol.

“Er bod yr hen ysgol yn agos at galonnau pawb ohonom

ac mae’n le hapus, does dim dwywaith fod pawb yn edrych

ymlaen yn fawr at weld y cynlluniau’n siapio a’r ysgol

newydd yn cael ei chodi.

“Rydw i’n falch y bydd yr ysgol newydd yn fwy o ran ei

maint gydag amgylchedd ac adnoddau dysgu sy’n gweddu

gofynion modern.

“Dwi hefyd yn falch y bydd cyfle trwy hyn i’r plant

ddysgu am gynaliadwyedd a phensaernïaeth drwy gydol y

prosiect.”
5

Un i’w chofio ...yn sicr

‘Amhosib i Steddfod ym Mhen Llŷn (ac Eifionydd) i fod yn un gwael’ - Gruffydd Meredith - tud 8

‘Ein trochi eto mewn môr o Gymreictod’ - Robat Idris - tud 10

‘Yr alwad i ddychwelyd i’r ardal mor fuan ag y bo modd’ - edrych ’n ôl ar yr wythnos - Eryl Cump - tud 14

‘...mi allwn ni berchnogi’n gwlad a chael trefn arni’.- Anerchiad yr Archdderwydd - tud 27

arlein - YCymro.Cymru

Lluniau: Eisteddfod Genedlaethol Cymru
6

BARN:

‘Beth tybed fyddai’r polisi golygyddol pe bai tîm Cymru,

yn hytrach na Lloegr, wedi cyrraedd y ffeinal?’

Efallai fod llawer ohonoch yn credu bod gormod

o sylw yn cael ei roi i fyd chwaraeon, yn enwedig

felly y ‘tri mawr’, pêl-droed, rygbi a chriced.

Mor aml y clywn pobl yn cwyno ‘nad oes dim ar

y teli ma ond ffwtbol’, a hawdd deall hynny ar

adegau, o gofio nad oes gan rai ohonom affliw o ddim

diddordeb mewn gwylio dynion yn eu hoed a’u

hamser yn cicio gwynt mewn peli lledr o gwmpas

caeau’r wlad.

Neu, o droi at y bedwaredd gêm honno, golff, sy’n llyncu

gymaint o fywydau rhai - pa bwrpas sydd mewn gwylio

dynion a merched yn eu hoed a’u hamser yn trio taro pêl

fach wen i dwll yn y ddaear?

Ydi, mae’n hawdd dilorni’r fath weithgaredd, ond does dim

gwadu fod yna filiynau yn meddwl yn wahanol - a finnau yn

eu plith.

A’r ffaith amdani yw y gall byd chwaraeon ddysgu llawer

inni am y natur ddynol, am gymdeithas, ac am y modd yr

ydym yn trefnu ein byd.

Cymrwch er enghraifft wleidyddiaeth yr ynysoedd

Prydeinig, a’r modd y mae’r gwahanol awdurdodau yn

ymagweddu tuag at y cenhedloedd sy’n trigo ar yr ynysoedd

hyn.

Mae’r awdurdodau sy’n rhedeg pêl-droed a rygbi yn

ddigon hapus i gydnabod hawl Cymru a’r Alban i gael timau

‘cenedlaethol’, a chydnabod eu hawl i gystadlu am Gwpan

Ewrop, neu Gwpan y Byd, fel gwledydd sofran.

Pan ddaw hi’n fater o ddelio gydag Iwerddon, fodd bynnag,

mae gwahaniaeth diddorol rhwng pêl-droed a rygbi: timoedd

ar wahân i Weriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon mewn

DRWY LYGAD BARCUD

sdsadsd

Ddiwedd mis Gorffennaf collodd Cymru un o’i

chymeriadau cynhesaf sef Clive Rowlands.

Oedd, roedd Clive yn chwedl yn y byd rygbi. Ond

roedd e’n llawer mwy na hynny. Roedd Clive

hefyd yn Gymro cyflawn. Yn wir, ni allai fod yn

ddim ond talp o Gymro.

Pan oeddwn i’n un o gyflwynwyr ‘Pnawn Da’ yn

Llanelli rhwng 1999 a 2004 byddai Clive yn un o

gyfranwyr rheolaidd yrhaglen a theimlwn hi’n fraint cael

ei holi.

Roedd gwybodaeth Clive am gêm y bêl hirgron yn

ddihysbydd. Ond beth bynnag fyddai pwnc ein trafod

byddai’n orfodol sôn am un cyn-chwaraewr yn arbennig.

Dai Morris oedd hwnnw, y blaen asgellwr chwedlonol o

Gwm Nedd. Gŵr tawel ond cadarn oedd Dai. Dim rhyfedd

mai ei lysenw oedd ‘Shadow’. A Dai oedd arwr Clive.

O bryd i’w gilydd byddem yn trafod cewri’r gêm. Câi

Clive gyfle i enwi ei dîm delfrydol. Câi, er enghraifft,

enwi’r tîm rygbi Cymreig delfrydol.

Bryd arall câi ddewis y tîm gorau oedd wedi cynrychioli’r

Llewod. Câi hefyd ddewis y tîm gorau yn y byd. Ymhob

achos byddai Dai Morris yn ennill ei le. Ac os na fyddwn

wedi crybwyll enw Dai yn ystod sgwrs, byddai Clive yn

siŵr o’m hatgoffa.

‘Bachan, gan bwyll, smo ni wedi sôn am Dai eto. Allwn

ni ddim cloi heb sôn am Dai achan!’

Pan yn ifanc bu Clive mewn gwaeledd. Yna,

flynyddoedd yn ddiweddarach trawyd ei wraig Marged â

arlein - YCymro.Cymru

pêl-droed, ond un tîm i Iwerddon gyfan mewn rygbi.

A phan ddaw hi’n fater o gael un tîm cyfansawdd i

gynrychioli’r Ynysoedd Prydeinig, mae’r awdurdodau

rygbi yn ddigon hapus i arddel ‘Y Llewod’ fel tîm sy’n

cynrychioli’r pedair cenedl - Iwerddon, yr Alban,

Cymru a Lloegr - ond bod y chwaraewyr rhywsut yn cadw’u

hunaniaeth cenedlaethol eu hunain o fewn y tîm cyfansawdd.

Ond os yw pêl-droed yn sôn am wneud rhywbeth tebyg

- ar gyfer y Gemau Olympaidd er enghraifft - mae arlliw

Seisnig-genedlaethol ar y cyfan yn syth, ac y mae’r Alban,

Cymru a’r Iwerddon yn gwrthwynebu.

‘...onid yw’n bryd i rywun eu hatgoffa

fod gan Gymru, yr Alban a Gogledd

Iwerddon, ein timau cenedlaethol

ni ein hunain?’

Ac ar y maes criced, er mai ‘Clwb Cymru a Lloegr’ yw

enw swyddogol y corff sy’n rhedeg y gêm, does dim ymgais

o gwbwl i guddio’r ffaith mai tîm Lloegr sy’n chwarae, gyda

baner San Siôr yn ei gynrychioli, heb unrhyw sôn o gwbwl

am y Ddraig Goch.

Ac os oes Cymro yn cael ei gysidro yn ddigon da, yna

chwarae i Loegr yw’r fraint sy’n ei ddisgwyl.

Daeth y cyfan hyn i’r meddwl yn ystod yr

wythnosau diwethaf hyn, wrth i dîm pêl-droed y ‘Llewesau’

ennill eu ffordd drwodd i gêm derfynol Cwpan Merched

salwch difrifol. Llwyddodd hithau i ddod drwy driniaeth

hir ac fe’i gwahoddwyd ar y rhaglen i dderbyn sesiwn

goluro, eitem a gâi slot wythnosol.

Wrth i Marged gael ei ffilmio’n fyw yn derbyn y driniaeth

goluro roedd Clive a finne’n gwylio o bendraw’r stiwdio.

A dyma sylwi fod Clive yn crïo, a’r dagrau’n llifo lawr

ei ruddiau. Yna dyma fe’n gosod ei law at fy ysgwydd a

sibrwd drwy ei ddagrau,

‘Sbïa Lyn bach, sbia arni. Mae hi fel dol fach.’

A dyma finne’n chwalu’n rhacs.

Byddai presenoldeb Clive yn cynhesu pob achlysur. Roedd

ei hiwmor yn chwedlonol.

Weithiau fe wnâi Grav droi fyny’n ddirybudd, a

dyna’i chi ‘double act’ wedyn. Fe dynnai Clive ei goes yn

ddiddiwedd.

Ac mae chwerthiniad Clive yn dal i ddychwelyd bob tro y

meddyliaf amdano. Yn gyntaf byddai’r llygaid gleision yn

cau ac yna siglai ei holl gorff cyn i’w chwerthiniad atseinio

fel cloch arian.

Ie, Clive oedd y Cymro cyflawn. Ble bynnag y byddai fe

fyddai yno hwyl.

Un o’m hoff atgofion amdano oedd gwrando unwaith

arno’n mynd drwy ei bethau wrth griw ohonom uwch

paned yn y stiwdio.

gan Lyn

Ebenezer

Y Cymro cyflawn - a’i chwerthiniad yn atsain fel cloch arian

‘Bachan, gan bwyll, smo ni wedi sôn am

Dai eto. Allwn ni ddim cloi heb sôn am

Dai achan!’

- gan Dafydd Iwan

Ai eu tîm nhw yw ein tîm ni? - pam fod y

cyfryngau Prydeinig y gweld pawb yn Sais?

y Byd. Ymhell cyn y gêm derfynol, roedd y wasg

Brydeinig-Seisnig wedi penderfynu mai blwyddyn Lloegr

oedd hi i fod, a’r Llewesau oedd yn ein cynrychioli ‘NI’,

a mawr oedd ein braint i gael y fath griw talentog i’n

cynrychioli ar un o lwyfannau mwya’r byd chwaraeon.

Ar y dyddiau yn arwain at y gêm fawr, roedd y prif

fwletinau newyddion Prydeinig yn llawn o gampau a

disgwyliadau tîm Lloegr, ac yn ein trin ni’r gwylwyr fel

pe baem un ac oll yn llwyr y tu cefn i’r Llewesau dewr

wrth iddyn nhw ruo tuag at eu gwobr anochel a chwbl

haeddiannol.

A bod yn deg a chwbl ddi-duedd, dwi ddim am dynnu dim

oddi wrth y chwaraewyr eu hunain: roedden nhw’n dîm da,

ac roedden nhw’n haeddu - er ychydig yn ffodus ar adegau -

i gyrraedd y ffeinal.

Ond am y cyfryngau - onid yw’n bryd i rywun eu hatgoffa

fod gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ein timau

cenedlaethol ni ein hunain?

Ac nad ydym yn gefnogwyr otomatig i dîm Lloegr am eu

bod yn digwydd byw am y clawdd â ni.

A phan neilltuwyd bwletinau cyfan gan ITV a’r BBC ,

drannoeth y gêm fawr, i ddweud wrthym fod y Llewesau

wedi dod yn ail, a’r byd cyfan yn galaru, Duw a’n helpo!

Beth tybed fyddai’r polisi golygyddol pe bai tîm Cymru, yn

hytrach na Lloegr, wedi cyrraedd y ffeinal?

Mae’n ddiddorol dyfalu onid yw?

Digwyddodd rhywun sôn am y teulu brenhinol. A rhaid

oedd i Clive daflu atgof i’r cylch.

Sôn wnaeth e am y Dywysoges Anne a oedd bryd hynny

yn brif noddwr tîm rygbi’r Alban. Ac oedd, roedd Clive yn

ei hadnabod hi’n dda. Cofiai’r tro cyntaf iddynt gyfarfod yn

ystod gêm rhwng Cymru a’r Alban.

‘Dyma hi’n gofyn i fi o ble own i’n dod? Finne’n ateb yn

ddigon sifil: “I come from Cwmtwrch, your Majesty.” A

dyma hi’n mynd ymlân: “Yes, yes, I know that, Clive. But

would that be Upper or Lower Cwmtwrch?”’

Ac yna’r chwerthiniad nas clywaf fyth eto yn llenwi’r lle.

Ie, Clive Rowlands, y Cymro cyflawn.

Diolch am gael adnabod yr anwylaf o ddynion.
7

NID BARN Y CYMRO

Esyllt Sears fu’n ymchwilio ymhellach i apêl yr amrywiaeth o’r proffiliau ar-lein

Oce, pa ardal sydd ore am

ddynion ar yr apps dêtio

- yn ôl fy archwiliad hynod

wyddonol ar draws y wlad?

‘Roedd tâp coch a gwyn

crime-scene o’i amgylch a

heddlu a chŵn heddlu ar y sîn.

Ac yna, gwelais i o - fy nghês...’

Felly, yn y golofn ddiwethaf, nes i sôn mod i

wedi ymuno â’r apps dêtio a gorffen trwy addo y

bydden i’n gweud wrthoch chi pa ardaloedd sy’n

perfformio orau.

Hynny yw, lle ma’r prospects gore.*

Wy’n teithio lot yn gweithio a gigio a ma pob tref

neu ddinas neu sir newydd yn golygu dalgylch cwbl

wahanol ar gyfer yr apps.

A dyma be wy wedi darganfod am ddynion

gwahanol ardaloedd, yn seiliedig ar eu proffiliau, hyd

yn hyn:

Llundain: Pawb yn ofnadw o awyddus i ti wybod

bo nhw wedi bod i Dubai. Sneb yn impressed bo ti di

mynd i wlad sy’n torri nifer o hawliau dynol sylfaenol,

mêt.

Caeredin: Tatŵs a tartan. Say no more. Ail agos.

De Cymru: Mae pob yn ail lun proffil wedi ei dynnu

ar ben Pen-y-Fan (gosoda sialens i dy hunan a cer

lan Yr Wyddfa o leia) a lot o luniau grŵp - sa i moyn

gorfod dyfalu pwy wi’n secsto.

‘....dy ben di’n troi a’r

unig beth neith helpu yw

galwyn o ddŵr a mynd i

orwedd lawr’

Sbaen: Ti’n gwbod pan ti di byta gormod o Haribos a

ma dy stymog di’n gwasgu a dy ben di’n troi a’r unig

beth neith helpu yw galwyn o ddŵr a mynd i orwedd

lawr mewn stafell dywyll am dair awr? Hwnna.

Ac ar hyn o bryd, y rhai sydd bell ar y blaen yw...

Canolbarth Cymru: Lot o ffariars (ma llunie ohonyn

nhw yn yr holl stêm na sy’n dod bant o’r bedol dwym yn

neud pethe rhyfedd i fi) a tree surgeons...ma dau wood

burner da fi adre a wy’n lico pren am ddim (ma’r jôc

na’n gweithio’n well yn Saesneg).

Os hoffech chi ychwanegu at yr astudiaeth hynod

wyddonol hon, cysylltwch â’r golygydd.

Wy’n siŵr bydd e wrth ei fodd yn pasio’ch sylwadau

mlaen.

* - mae’r astudiaeth hon yn astudiaeth fyw felly

bydd mwy o ddata yn cael ei ychwanegu wrth i mi

symud o amgylch mwy.

‘Ie... ffariars y Canolbarth - ma llunie

ohonyn nhw yn yr holl stêm na sy’n dod bant

o’r bedol dwym yn neud pethe rhyfedd i fi’

Dilynwch Y Cymro ar Twitter

@y_cymro
8

BARN:

Mi oedd hi bron yn amhosib i Steddfod

ym Mhen Llŷn (ac Eifionydd) i fod yn un

gwael - ac yn wir ni gafwyd siom.

Er ei fod yn ymddangos mai dim ond tua un

tŷ sydd ym Moduan, pa ots am hynny pan fo

dinas newydd sbon Gymraeg yn cael ei chreu

dros nos ar y llethrau gwyrdd o’i gwmpas.

Heidiodd arbenigwyr trafaelio, campio,

carafanio a fanio gorau’r byd yno yn eu degau

o filoedd i godi muriau’r ddinas newydd o

amgylch y maes.

Roedd y ‘ddadl iaith’ syrffedus wedi hen

basio erbyn dechrau’r ŵyl.

Mae gan bawb hawl i’w farn wrth gwrs

- digon teg. Ond roedd rhai wedi gwneud

honiadau am hiliaeth a gwahaniaethu yn

ymwneud â’r rheol iaith.

Ac mi oedd elfennau o’r cyfryngau yng

Nghymru wedi bod yn

rhan o fwydo a chynnal yr

ymosodiad yma heb os.

I ategu unwaith eto - nid

oes gan y rheol iaith ddim

i wneud gyda hil, mae o

am iaith.

Ac os ydych yn ceisio

honni erledigaeth tra’n

ceisio gwthio iaith fyd eang

fwyafrifol ar ddiwylliant brodorol lleiafrifol,

dwi’n ofni eich bod angen checio eich pen. Mi

ddeliodd y Steddfod gyda’r mater yn bwyllog,

yn gwrtais ac yn amyneddgar.

Mae yna ryw ymdeimlad yma hefyd o

shenanigans Maciafelaidd ehangach posib

i geisio tanseilio a Seisnigeiddio sefydliad

Cymreig a Chymraeg arall. Byddwch yn

barod am fwy o’r math yma o beth a daliwch

y lein - mae’r rhyfeloedd diwylliant yn mynd i

fod yma am dipyn go lew beryg.

Roedd y maes yn fawr ac eto yn edrych

yn llawn - roedd yn edrych fel petai nifer yr

ymwelwyr yn fwy na’r arfer - mi fysa’n dda

petai’r Eisteddfod yn ail ddechrau rhannu’r

ffigyrau ymwelwyr fel oedd y norm arferol.

Mae wastad yn bleser gweld pobl yn siarad

a sgwrsio yn y gwahanol bebyll ar faes y

Steddfod. Dwi’n credu weithiau fod y farn

wleidyddol a fynegir gan siaradwyr ychydig

yn unochrog a hunan gyfiawn ar adegau

efallai, a bod lle i fwy o amrywiaeth barnau

gwleidyddol aeddfed - mwy o geidwadaeth

(‘g’ fach) Gymreig yn y mics rhyddfrydol/

blaengar/sosialaidd, er enghraifft.

A mwy o amrywiaeth pan yn trafod pynciau

llosg - mae clywed dim ond un ochr chwith

flaengar di-ddiwedd ar ‘newid hinsawdd’,

Brexit ayyb yn gallu bod yn ormesol o

syrffedus a rolio-llygedaidd, a ni ddylse

siaradwyr gymryd yn ganiataol fod pawb yn y

gynulleidfa yn gytûn â nhw ar eu holl farnau

gwleidyddol ayyb.

‘...mae angen creu pabell Tŷ Gwerin fwy a pharhaol rywle

yng Nghymru yn fy marn i - ar gaeau castell Caerdydd, Harlech

neu Gaernarfon o bosib?’

Eisteddfod wych ym Mhen Llŷn...

ond ambell beth bach hefyd os

ga’i ddeud - gan Gruffydd Meredith

Roedd darlith Eurig Salisbury ar ddylanwad

y Gymraeg ar Tolkien yn hynod ddiddorol.

Diolch hefyd i gaffi y dysgwyr Maes D am

baned rhad!

Mae’r amrywiaeth o gerddoriaeth ar y

maes yn gwella bob blwyddyn - mae angen

creu pabell Tŷ Gwerin fwy a pharhaol rywle

yng Nghymru yn fy marn i - ar gaeau castell

Caerdydd, Harlech neu Gaernarfon o bosib?

Dwi’n falch fod y felin wynt anferth ger y

meysydd gwersylla wedi aros mewn un darn

yn y gwynt sylweddol - nid pob un sydd yn

gallu gwrthsefyll gwyntoedd mawr.

Un o’r uchafbwyntiau eraill oedd clywed pâr

canol oed yn cael dadl uchel am jelly babies

yn eu pabell am dri y bore yn y maes pebyll

- adloniant rhad ac am ddim - diolch i chi

gwpwl pwy bynnag ydych!

‘Roedd y maes yn fawr ac eto yn edrych

yn llawn - roedd yn edrych fel petai nifer

yr ymwelwyr yn fwy na’r arfer’

(Uwchben) Y tri ffigwr yn croesawu pobl yn

Llithfaen ac (islaw) Darlith boblogaidd Eurig

Salisbury ar ddylanwad y Gymraeg ar yr awdur

Tolkien

Ambell bwynt/sylwad/beirniadaeth

adeiladol i orffen:

Be am ddod â baneri Cymru nol ar y maes?

Os na allwn chwifio baner ein gwlad gyda

balchder ar y tir cysegredig yma, yn lle yfflon

y gallwn?

Ynglŷn â’r bobl hynny sydd yn edrych

ar ôl agor a chau drysau’r gwahanol

bebyll/pafiliynau - oes rhaid bod cweit mor

filitaraidd a passive aggressive pan mae’n dod

at reoli’r drysau?

Sut goblyn ydyn ni byntyrs diniwed fod i

wybod pryd mae’n dderbyniol i drio agor

y drysau yma neu ddim, ac osgoi cael ein

cystwyo gan orchmynion uchel o’r tywyllwch

a chlep drws yn ein hwyneb bob tro rydym yn

trio mynd mewn neu allan o babell/pafiliwn?

Onid oes posib cael ryw system arwyddion

neu oleuadau neu rywbeth i ni gael gwybod

pryd y gallwn drio mentro mewn neu allan o’r

amrywiol bebyll/pafiliynau?

Un peth arall a phwynt dwi wedi ei wneud

o’r blaen (gan fôrio fy hun yn y broses)

- be am gael enwau’r gwahanol bebyll a

phafiliynau yn fawr ar dop bob un fel bod

posib eu gweld o bell?

Mae gorfod trio eich lwc ym mhob un a

gorfod gofyn ‘be ydi’r babell yma plîs?’ yn

gallu mynd yn flinedig ac yn gwneud i rywun

swnio fel ynfytyn ar ôl y degfed tro.

Cysylltu gyda’r

Eisteddfod - mae

wedi mynd bron

yn amhosib cael

gafael ag unrhyw

un o’r Steddfod,

yn arbennig ar

ffôn.

Credaf y

dyle’r Steddfod

gael swyddfa

barhaol mewn un

lleoliad penodol

ble mae posib

cael gafael ar

holl dîm rheoli’r

Steddfod.

Mi ddyle hyn

fod o help i’r Eisteddfod ei

hun hefyd - dydi cyfarfodydd

Zoom ac ambell e-bost bob yn

hyn a hyn jest ddim yn griced.

Yn olaf, hoffwn

gynnig y syniad yma i’r

Eisteddfod: be am greu fforwm

economaidd a busnes yn y

Steddfod bob blwyddyn ble

mae’n bosib i holl fusnesau

bach, canolig a mawr (ddim

yn rhy fawr o bosib) ddod at ei

gilydd yn flynyddol (o flaen cynulleidfa o

bosib hefyd) er mwyn trafod sut y gallent

gyd-weithio neu gynyddu masnachu a

Diolch i bawb fu’n brysur yn gwerthu’r

Cymro yn y Steddfod ym Mhen Llŷn -

cafwyd llwyddiant yn yr haul a’r gwynt.

Gweler un o’n gwerthwyr, Gwydion

Davies, gydag ambell seleb

busnes yng Nghymru yn gyffredinol?

Hyn yn ogystal â chael fforymau ble mae’n

bosib i holl ymwelwyr i’r Steddfod drafod

a phitsio syniadau busnes a chreu llewyrch

ymysg ei gilydd.

Hefyd pam ddim cael sesiwn prynu a

gwerthu blynyddol, ac o bosib ocsiwn ble

y gall cyd-Gymry brynu a gwerthu tai, tir

neu hyd yn oed ceir ac eiddo cyffredinol i’w

gilydd?

Mae angen dod at ein gilydd i greu a

rhannu cyfoeth yn ogystal a diwylliant. Mae

annibyniaeth ar y gorwel ac mae creu economi

wirioneddol gryf a hunan-gynhaliol yn mynd i

fod yn chwarae rhan hollbwysig.

Mae cyfle i bawb rannu syniadau a sylwadau

am beth yr hoffent weld yn y Steddfod dros y

blynyddoedd nesaf. Os oes gennych chi farn

am unrhyw beth sy’n ymwneud â’r Eisteddfod

ewch i wefan yr Eisteddfod a chlicio ar y linc

‘Y Sgwrs’ i rannu eich barn.

Glampio yn y Sdeddfod
Pryder Plaid Cymru ynglŷn â dyfodol

gorsafoedd tân mewn ardaloedd gwledig

Mae ASau Plaid Cymru sy’n

cynrychioli Gwynedd wedi galw ar

Awdurdod Tân Gogledd Cymru i

ymestyn ymgynghoriad cyhoeddus i

roi digon o gyfle i bobl leol ddweud

eu dweud ar gynlluniau i ddiwygio

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd

Cymru, a allai weld pum gorsaf

yn cau ar draws gogledd orllewin

Cymru.

Mae Awdurdod Tân ac Achub

Gogledd Cymru yn cynnal

ymgynghoriad cyhoeddus ar dri

opsiwn ar ddyfodol y gwasanaeth,

gydag un ohonynt yn golygu cau

dwy orsaf dân yng Ngwynedd,

sef Llanberis ac Abersoch, a cholli 74 o

ddiffoddwyr tân llawn amser ac wrth gefn

ar draws gogledd orllewin Cymru.

Mae cynrychiolwyr Plaid Cymru wedi

galw am ddiogelu’r ddwy orsaf ac wedi

annog Awdurdod Tân Gogledd Cymru i

ymestyn yr ymgynghoriad cyhoeddus y tu

hwnt i’r cyfnod cychwynnol o ddau fis.

Cymerwyd cam allweddol arall ar y gwaith o greu

Llwybr Arfordir Cymru yn agosach at yr arfordir

wrth i’r rhan newydd agor trwy dir Ystâd Penrhyn

ger Bangor.

Mae’r llwybr newydd yn mynd â cherddwyr

trwy goedlan hynafol ar hyd yr arfordir sydd ym

mherchnogaeth breifat Ystâd y Penrhyn, gan

gysylltu ardal Porth Penrhyn gyda’r llwybr presennol

ger gwarchodfa natur Aberogwen.

Mae’r llwybr newydd yn 3.2km trwy gyrion Ystâd

Penrhyn.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod

Cabinet dros yr Amgylchedd: “Rydw i’n hynod falch

i weld y llwybr cyhoeddus unigryw yma yn agor trwy

Parc Penrhyn.

“Bydd y llwybr yn adnodd heb ei ail i drigolion lleol

a thu hwnt, gan gynnig golygfeydd godidog o Draeth

Lafan a’r arfordir ehangach.”

Ychwanegodd Rhys Roberts, Swyddog Llwybr

Arfordir Cymru ar gyfer y rhanbarth: “Fe ddechreuodd

y gwaith yn ôl ym mis Ionawr. Er gwaetha’r gwanwyn

gwlyb iawn, a oedodd y gwaith ychydig fisoedd, ond

mae’n braf gweld penllanw yr holl waith caled a gallu

croesawu cerddwyr i’r ardal brydferth hon. Bydd mân

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Byddaf i, fel llawer o rai eraill, yn

bryderus o glywed am gynigion i

ad-drefnu gwasanaeth tân gogledd Cymru

a allai arwain at gau gorsafoedd tân

Abersoch a Llanberis, a cholli staff rheng

flaen.

“Mae yna eisoes wrthwynebiad o fewn

cymunedau lleol i gau’r gorsafoedd, sy’n

gweithredu mewn

ardaloedd heriol lle mae

gwybodaeth a phrofiad

lleol yn cyfrif.

“Os bydd

gorsafoedd Abersoch

a Llanberis yn cau,

yna nid yn unig y bydd

hyn yn tynnu gwasanaeth hanfodol o’r

cymunedau hynny, ond mae hefyd yn

golygu bod dau beiriant tân yn llai ar gael

wrth gefn pe bai angen.

“Mae ardaloedd gwledig eisoes yn

dioddef yn anghymesur o ran cael

mynediad at wasanaethau, gydag

amseroedd ymateb ambiwlansys yn bryder

Llwybr sy’n gam agosach at yr arfordir

arlein - YCymro.Cymru

parhaus yn fy etholaeth. Bydd toriadau

ychwanegol i’r gwasanaeth tân ond yn

gwaethygu’r sefyllfa.

“Mae natur wledig Gwynedd a cynnydd

y boblogaeth yn ystod misoedd yr haf

yn golygu pwysau ychwanegol ar ein

gwasanaethau brys.

“Mae ardaloedd fel Pen Llŷn a

Llanberis yn fannau poblogaidd i

dwristiaid sy’n golygu hyd yn oed mwy

o bwysau ar adnoddau cyfyngedig. Mae

diogelu presenoldeb y gwasanaeth tân yn y

cymunedau hyn yn hanfodol.

“Rwy’n annog y cyhoedd i ddweud

eu dweud drwy gymryd rhan yn yr

ymgynghoriad cyhoeddus.

“Mae angen i ni anfon neges glir i’r

Awdurdod Tân bod yn rhaid diogelu’r

gorsafoedd hyn, nid yn unig er budd

diogelwch y cyhoedd, ond hefyd er mwyn

cynnal a chryfhau blynyddoedd o brofiad

ymhlith ein criwiau tân lleol, rhywbeth na

ellir ei amnewid yn hawdd.”

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar agor

tan 22 Medi 2023.

waith yn parhau dros yr wythnosau nesaf, ond gyda

chymaint o ddiddordeb yn y llwybr penderfynwyd ei

agor cyn gynted â phosib.

“Mae hon yn garreg filltir arall i ni yng Ngwynedd

wrthi i’r gytundeb cyfreithiol yma fynd â ni dros 20

milltir o lwybrau cyhoeddus wedi eu creu ers 2010.”

Golyga sefydlu’r llwybr waith wynebu; dymchwel

dwy ran o wal derfyn Ystâd y Penrhyn; gosod giât ar

gyfer mynediad; gwaith diogelwch coed; a ffensio.

Dywedodd Richard Douglas Pennant, ar

ran ymddiriedolwyr Penrhyn Settled Estates,

perchnogion Parc Penrhyn: “Mae wedi bod yn bleser

i mi, fy nheulu ac ymddiriedolwyr yr ystâd allu

gweithio gyda Cyngor

Gwynedd i sefydlu’r

rhan yma o Lwybr

Arfordir Cymru ym

Mharc Penrhyn.

“Rydym yn

gobeithio bydd y

llwybr newydd yn

rhoi pleser mawr i gerddwyr

a gaiff fwynhau golygfeydd

ysblennydd o Safle Treftadaeth y

Byd UNESCO, y Fenai a Sir Fôn.

Sut daeth copr â newid i bentref pysgota bach

Mae arwyddion a dehongliadau newydd

wedi cael eu codi o amgylch Amlwch i dynnu

sylw at dreftadaeth ddiwydiannol cyfoethog

y dref.

Bydd yr arwyddion a’r arwyddion dynodi

llwybr modern hefyd yn helpu i gysylltu canol

y dref gyda Phorth Amlwch, Llwybr Arfordir

Ynys Môn a Mynydd Parys sydd gerllaw.

Ar un adeg, Mynydd Parys oedd

mwynglawdd copr mwyaf y byd ac

fe drawsnewidiodd Amlwch o fod yn

bentref pysgota bychain i un o drefi mwyaf

diwydiannol Cymru yn ystod y 18fed a’r 19eg

ganrif.

Yn ei anterth, roedd y mwynglawdd copr yn

cyflogi dros 1,500 o bobl a oedd yn gweithio

uwchben ac o dan y ddaear, yn cloddio ac yn

hidlo’r mwyn copr gwerthfawr am geiniog y

dydd yn unig. Gwelodd yr ardal gyfnod o dwf

sylweddol oherwydd y cynnydd mewn adeiladu

llongau, echdynnu a phrosesu copr ynghyd â

diwydiannau cysylltiedig a oedd yn cefnogi’r

gweithwyr.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod

Portffolio Datblygu’r Economi, Llinos

Medi: “Bydd y 15 arwydd newydd yn tynnu

sylw at asedau lleol ac yn helpu i gysylltu’r

tair ardal arwyddocaol. Byddant hefyd yn

ddefnyddiol wrth adrodd straeon am hanes

cyfoethog lleol a’r diwydiannau a’r unigolion a

oedd yn flaenllaw o ran datblygu’r dref.”

“Mae Amlwch dal i ddenu pobl sydd â

diddordeb mewn treftadaeth ddiwydiannol ac

rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn

denu mwy o bobl i’r dref ac yn helpu i gryfhau

ei chysylltiadau gyda’r porthladd, Mynydd

Parys a’r llwybr arfordir poblogaidd.”

‘Gallaf ddeall pam y

mae’r Torïaid eisiau

gwrthsefyll hyn’

Dros 30 mlynedd yn cyflenwi 35,000

o geir ar draws gogledd Cymru

Rhestr stoc o 150 o geir ar www.ceir.cymru

HUWS

Penodiad Prifysgol i gyn

Gomisiynydd y Gymraeg

Mae cyn Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws,

wedi ei phenodi’n Gadeirydd Cyngor Prifysgol

Aberystwyth.

01248 670451 / 671770

GRAY

CANOLFAN DEFNYDDIAU ADEILADU

BUILDING MATERIALS CENTRE

Eich canolfan adeiladu lleol

Ffordd Arran, Dolgellau, LL40 1HD

01341 423 028

CROESO CYNNES I BAWB

huwsgray.co.uk

9

Ymunodd Meri Huws â Chyngor y Brifysgol yn

2019, gan wasanaethu fel dirprwy i’r Cadeirydd

presennol Dr Emyr Roberts ers Awst 2021.

Daw’n Gadeirydd yn Ionawr, ar ôl i dymor

Dr Roberts ddod i ben.

Yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth yn y Gyfraith

a Gwleidyddiaeth, Meri Huws oedd Comisiynydd

y Gymraeg cyntaf Cymru gan wasanaethu yn y rôl

rhwng 2012-2019. Cyn hynny bu’n Gadeirydd Bwrdd

yr Iaith Gymraeg.

Roedd ei rolau blaenorol yn cynnwys swyddi

Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Bangor a

Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ei sir

enedigol, Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd: “Bydd yn fraint dod yn Gadeirydd

Cyngor Prifysgol Aberystwyth. Rwyf wedi bod yn

ffodus iawn i gael cyfle i gyfrannu at fy alma mater

fel aelod o’r Cyngor am y bedair blynedd diwethaf, ac

edrychaf ymlaen yn fawr at wasanaethu fel Cadeirydd

am y cyfnod sydd i ddod.”
10

‘ ‘Roedd yr Eisteddfod yn

gyfle i ni ail-gysylltu ag

aelodau nad oedden ni

wedi eu gweld ers tro,

ac yn gyfle i gyflwyno’n

hymgyrchoedd i bobl

o’r newydd’

Oeddech chi ymysg y miloedd a dyrrodd

i Foduan i’r Eisteddfod Genedlaethol

eleni? Yr achlysur honno lle gawn

drochi ein hunain am un wythnos mewn

blwyddyn mewn môr o Gymreictod

cynnes.

Ac oedd, yr oedd y croeso ym Moduan

yn eithriadol, a phriodol yw cydnabod

cyfraniad yr ardal arbennig hon i

ddiwylliant Cymru.

Y cwestiwn mawr yw am ba hyd y gall

Llŷn ac Eifionydd gynnal y gymdeithas lle

mae’r Gymraeg yn iaith hyfyw yn wyneb yr

holl fygythiadau cyfoes?

Bygythiadau sy’n bodoli ers

cenedlaethau bellach, ond eu bod wedi troi

yn argyfyngus.

Gwyddoch, wrth gwrs, am y problemau

- mewnlifiad sy’n boddi ardaloedd ac yn

eu troi o fod yn naturiol Gymreig i fod yn

gopïau o ardaloedd yn Lloegr, anallu llawer

o bobl i gadw to uwch eu pennau a cholli

gwaed ifanc sy’n gadael yn eu cannoedd.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu yn

yr holl feysydd hyn, sy’n barhad o waith

ymgyrchu y trigain mlynedd diwethaf.

Roedd yr Eisteddfod yn gyfle i ni

ail-gysylltu ag aelodau nad oedden ni wedi

eu gweld ers tro, ac yn gyfle i gyflwyno’n

hymgyrchoedd i bobl o’r newydd. Mae

cyfleoedd i sgwrsio a thrafod yn bwysig, i

greu cyswllt a magu perthynas, ond hefyd i

gael safbwynt wahanol ar ymgyrchoedd.

Felly beth oedd digwyddiadau’r

Gymdeithas yn yr Eisteddfod?

Dydd Llun - trafod cyfrol ‘Merched

Peryglus’ (golygyddion: Tamsin

Cathan Davies ac Angharad Tomos) sy’n

talu teyrnged i ferched a fu mor eofn yn

brwydro dros y Gymraeg. Bydd hi ar gael

yn eich siop lyfrau leol cyn hir!

Dydd Mawrth - trafod ein halbwm

‘Nid Yw Cymru Ar Werth’ a’r cysylltiad

rhwng celf a phrotest dan arweiniad Toni

Schiavone. Iwan Bala sydd wedi dylunio’r

clawr, a chyfrannodd yr elw o’i waith celf

i’r Gymdeithas. Diolch Iwan! Mae’r albwm

yn gasgliad o ganeuon hen a newydd yn

ymwneud â thai a chymunedau - ac ar gael

ar wefan y Gymdeithas! Mae caneuon gan

Gwenno, Omaloma, Elis Derby, Catrin

O’Neill, Endaf Emlyn, Cynefin, Rogue

Jones, Bwca, Steve Eaves, Elidyr Glyn a

Lowri Evans.

Dydd Mercher - rali Deddf Eiddo. Mae’r

ymgyrch am Ddeddf Eiddo mor berthnasol

ag erioed, a chawsom areithiau arbennig

ar y stondin cyn gorymdeithio ar draws y

maes at babell y Llywodraeth, lle y cafwyd

cyfle i ddiolch i Ffred Ffransis a oedd wedi

ymprydio am 75 awr i dynnu sylw at yr

argyfwng cartrefi.

Braf oedd gweld Ffred yn gorffen ei

ympryd efo hufen iâ!

Bydd yr ymgyrch yn parhau mewn

seminar ar arferion a mesurau i fynd i’r

Trochi unwaith eto mewn môr

o Gymreictod cynnes ...ond

roedd digon i’w wneud

afael â phroblemau tai mewn gwledydd

eraill yn Ewrop.

Yn ôl astudiaeth gan un o bwyllgorau y

Senedd Ewropeaidd ar fforddiadwyedd tai

yn yr Undeb Ewropeaidd, un o’r ffactorau

allweddol y tu ôl i gostau tai cynyddol

a’r gostyngiad yn fforddiadwyedd tai yn

Ewrop yw’r hyn a elwir yn ‘ariannoli’ tai,

sef trawsnewid tai yn ased neu nwydd

ariannol.

‘Mae cyfleoedd i sgwrsio

a thrafod yn bwysig, i greu

cyswllt a magu perthynas,

ond hefyd i gael safbwynt

wahanol ar ymgyrchoedd’

Mae enghreifftiau da o fynd i’r

afael â phroblemau mewn sawl gwlad.

Ar Ynysoedd y Sianel ac yn Fienna,

Awstria, er enghraifft

mae pobl leol neu â

chyswllt lleol yn cael

blaenoriaeth ar ganran

sylweddol o’r stoc tai;

ac yng Nghatalwnia

mae Cynllun Hawl i

Dai 2016-2025 wedi

ei seilio ar y cysyniad

mai hanfod yw tŷ yn

hytrach nag ased. Yno

mae’r buddsoddi a

strategaethau eisoes yn

gwneud gwahaniaeth.

Dydd Iau - ar y

stondin fe wnaethon ni

a Chyngres Undebau

Llafur Cymru (TUC Cymru) arwyddo

cytundeb cyd-ddealltwriaeth cyn mynd

ymlaen i sesiwn drafod ar hawliau

gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae hyn yn creu cyfle gwych i ymestyn

at, a chydweithio â, miloedd o bobl sy’n

aelodau o undebau.

Byddwn ni’n mynd ati i

gynllunio digwyddiadau ac

ymgyrchoedd hyrwyddo ar y cyd â

nhw. Mae’r cytundeb yn adlewyrchu’r

gwerthoedd creiddiol mae’r Gymdeithas a’r

Gyngres Undebau Llafur yn eu rhannu -

sef cyfiawnder a hawliau.

Colofn CYI

gan Robat Idris,

Cadeirydd

Cymdeithas yr Iaith

Diolch i Siân Gale, Llywydd Etholedig

TUC Cymru, am arwyddo’r cytundeb ar

ran yr undebau, ac am lywio’r drafodaeth a

ddilynodd.

Dydd Gwener - sgwrs am addysg

Gymraeg i bawb.

Cyhoeddodd y llywodraeth gynigion ar

gyfer bil addysg Gymraeg rai misoedd

yn ôl felly wrth iddyn nhw baratoi i greu

deddf roedd hi’n gyfle i ni gloriannu’r

cynigion, gan edrych ymlaen i’r cyfnod lle

y bydd cyfle i ddylanwadu ymhellach ar y

llywodraeth.

Mae’r cynigion gyhoeddodd y

llywodraeth yn gynharach eleni yn gosod

targed bod hyd at 60% o blant Cymru yn

derbyn addysg Gymraeg.

Bydd hynny’n dal i amddifadu o leia

40% o blant o’r gallu i siarad y Gymraeg

yn rhugl. Byddwn ni’n dal ati i bwyso am

addysg Gymraeg i bob plentyn wedi i’r

llywodraeth ail-ddechrau wedi toriad yr haf.

Gadawodd Banc Barclays, a’i

arwyddion uniaith Saesneg, wedi i rai o’n

haelodau osod posteri yn gofyn ‘Ble Mae’r

Gymraeg?

Doedd dim rheswm pam bod posteri

dros-dro tu mewn i’r bws yn uniaith

Saesneg, ond mae’r mater yn fwy nag

arwyddion ar fws yn yr Eisteddfod - mae

pob banc yn cau canghennau ac yn gorfodi

pobl i ddefnyddio gwasanaethau bancio

ar-lein neu dros y ffôn, ond does yr un banc

yn cynnig unrhyw ddarpariaeth Gymraeg

ar-lein a phrin iawn yw’r gwasanaeth ffôn

yn Gymraeg gan fanciau.

Does dim rheidrwydd ar gwmnïau preifat i

roi unrhyw wasanaeth Cymraeg, ac mae’n

gwbl glir na fyddan nhw’n gwneud nes

bod rhaid. Mae hon eto yn ymgyrch arall i

ni fod yn ei brwydro ers sawl blwyddyn, ac

y byddwn ni’n parhau â hi felly.

A ninnau yn troi ein golygon at

Bontypridd ar gyfer Eisteddfod 2024,

gwyddom y bydd y croeso yr un mor

dwymgalon gan bobl fyrlymus y Cymoedd.

Bydd yn bwysig i ni gofio mai ychydig

dros 12% o boblogaeth Rhondda Cynon Taf

sy’n siarad Cymraeg ar hyn o bryd - mae

digon o waith gan y Gymdeithas i gefnogi

yr ymdrechion glew sy’n ceisio gwrthdroi y

sefyllfa yna.

A mae yna rybudd i ni yn yr ardaloedd

Cymraeg eu hiaith pan ystyriwn mai’r

Gymraeg oedd iaith miloedd ar filoedd

o bobl yng nghymoedd y de pan oedd y

diwydiant glo yn ei fri, a Chymraeg oedd

iaith llawer o’r trafod gwleidyddol, megis

‘...yr oedd y croeso ym

Moduan yn eithriadol’

yn y papur wythnosol ‘Tarian y Gweithwyr’

a gyhoeddwyd yn Aberdâr rhwng 1875 a

1934, oedd â chylchrediad o 15,000 ar ei

anterth.

Mae’r Gymraeg yn eiddo i bobl y

Cymoedd fel y mae’n eiddo i bawb arall

yng Nghymru.

Byddai ei hadfer yno yn tanseilio’r

grymoedd sydd am i’r iaith ein gwahanu,

ac yn rhan o’r gwrthsafiad yn erbyn y

grymoedd didostur sy’n chwalu

cymunedau.

Am ragor o wybodaeth: cymdeithas.cymru / @cymdeithas

arlein - YCymro.Cymru
£9.99

£9.99

£19.99

.com

Y Cymro... ar gael i’r byd i gyd yn grwn!

Rydym yn falch o ddatgan fod Y Cymro bellach ar gael i’w ddarllen ar safle

- y papur

Cymraeg cyntaf erioed ar y platfform. Pressreader yw un o’r platfformau newyddion mwyaf yn y byd, mae’n

dosbarthu fersiynau digidol o dros 7,000 o bapurau a chylchgronau mewn dros 60 o ieithoedd i fwy na 12 miliwn o

ddefnyddwyr ar draws y byd. I weld mwy ewch i safle we Pressreader.com a chwilio am Y Cymro.

11

‘Mae’n calonnau ni gyd yn gwaedu

dros golledion y teuluoedd druan’

Colofn Cadi gan Cadi Gwyn Edwards

‘Sut na chafodd hi ei dal ynghynt? Mae’n ennyn llawer o gwestiynau

ynglŷn ag effeithiolrwydd uwch-dimau rheoli o fewn y GiG’

Fysech chi’n adnabod bwystfil wrth edrych i fyw ei

lygaid?

Fysech chi’n sylwi ar anghenfil wrth iddo gerdded i lawr y

stryd? Weithiau dwi’n dychmygu y byswn i’n gwybod yn

iawn pe bawn yn cerdded ochr yn ochr hefo’r diafol. Ond

y gwirionedd ydi, ’sa gennai’m clem.

Oes ffasiwn beth â delwedd ‘person drwg’?

Mae gennym i gyd ragfarn yn ein pennau ynghlwm â sut

mae ‘person drwg’ yn edrych, a rhan amlaf, sori dynion, ond

dyn sydd yn dod i’r meddwl.

Rhyw ddyn ag iddo lygaid creulon, wyneb pigog, a rhyw

naws annisgrifiadwy. Rhyw ddyn sydd yn

gwneud i’r blew ar eich breichiau sefyll

yn syth, a’ch corff weiddi arnoch i gamu,

ac yna rhedeg, mor bell â phosib oddi

wrtho.

Mae realiti’n wahanol, a’r bwganod yn

cuddio tu ôl i fygydau cyffredin. Does

neb yn wir yn adnabod neb ar ddiwedd y

dydd…

Oes yna air yn y Gymraeg sydd yn

cwmpasu’r gair Saesneg ‘evil’?

Mi ydw i wedi defnyddio’r ansoddair ‘drwg’ ddwywaith

eisoes yn y golofn yma, a tydi o ddim cweit yn dod i’r afael

â gwir ystyr beth rwyf yn ceisio’i ddweud. ‘Evil’ yw’r gair

dwi’n ceisio’i gyfleu, pan mae cnewyllyn ysbryd yr unigolyn

hwnnw’n ddu fel hunllef.

Pan welsom ni, fel cenedl, wyneb ifanc, benywaidd, yn

syllu arnom drwy sgrîn y teledu a chlywed llais undonog

y newyddiadurwr yn dweud, ‘Dyma Lucy Letby…’ ni

‘Peidiwch â fy melltithio ond a oes rhesymau ariannol da erbyn

hyn i ddod â diwedd i’n Steddfod symudol’ - Dafydd Iwan - tud 6

Awst 2023

Papur Cenedlaethol Cymru £1.50

53% o Gymry 18 i 24 oed rŵan yn dweud y

byddent yn pleidleisio dros annibyniaeth

HANNER

YR IFANC

O BLAID

CYMRU

RYDD

‘Mae’n bryd edrych ar

ddyfodol mwy disglair, gwe l

a mwy beiddgar fel cenedl

annibynnol’ - tud 17

‘Yn araf bach,

yn ddiarwybod

i ni bron,

cawn ein

Seisnigo’

- Heledd

Gwyndaf

Beth am gynnau tân...

‘Dêtio yn 2023.... wy’n sengl am y tro cynta’ ers 15 mlynedd’ - Esyllt Sears - tud 7

- tud 4

Barddoniaeth a ‘Thân yn Llŷn’ yn dod â’r

Eisteddfod i uchafbwynt dramatig - tud 3

Lluniau o ddeuddydd cyntaf

y Brifwyl ym Moduan - tud 2 a 12

Newydd i’r

Steddfod

ddychmygon ni fyth beth fyddai ei throseddau…

Roedd y llygaid glas, y gwallt melynfrown a’r wisg nyrs yn

ddigon i dwyllo pawb, a neb yn disgwyl i amgylchedd o ofal

droi’n gae chwarae erchylltra.

Os byddech yn gofyn ym mhle mae pobl yn teimlo’n

ddiogel, rhan amlaf, yr ateb byddai unai yn eu cartrefi, neu

mewn ysbyty.

Pan mae rhywun rydych yn ei garu fwy na bywyd ei

hun yn sâl, i ble ydych yn mynd? I’r ysbyty. Fe gafodd yr

addewid sanctaidd rhwng claf ac ysbyty ei dorri’n rhacs wrth

i Lucy Letby chwarae Duw, gan ddwyn o’r ddaear yr eneidiau

mwyaf pur a diniwed.

Mae’n calonnau ni gyd yn gwaedu dros golledion y

teuluoedd druan sydd wedi cael eu heffeithio gan

weithredoedd annirnadwy Lucy Letby.

Roedd absenoldeb Letby o’i dyfarniad fel ergyd i’r

genedl, yn halen i friw

‘Fel merch o ogledd

Cymru, dwi’n ’nabod pobl a

gafodd eu geni yn yr ysbyty

hwnnw yng Nghaer’

tragwyddol. Mae’r

rhieni’n gorfod wynebu

realiti penderfyniadau

Letby pob un diwrnod o’u

bywydau, felly pam nad

oedd rhaid iddi hithau

wynebu canlyniadau ei

phechodau yn y cwrt?

Pam gafodd hi’r dewis i

osgoi dyfarniad y barnwr,

pan na chafodd yr un rhiant y dewis i osgoi’r boen, i osgoi’r

hunllef ddyddiol, y golled ddiangen?

Mae rhai yn dweud mai achos hawliau dynol oedd y

rheswm am ei habsenoldeb… eironig bod pryder am ei

hawliau bywyd hi, pan gipiodd yr

hawl i fyw gan gymaint o fabanod

diniwed.

Fel merch o ogledd Cymru, dwi’n

’nabod pobl a gafodd eu geni yn

yr ysbyty hwnnw yng Nghaer, ac

mae’n frawychus meddwl bod y

fath greulondeb wedi digwydd ar ein stepan drws, ond hefyd,

bod y fath esgeulustod wedi bodoli o fewn yr ysbyty.

Sut na chafodd hi ei dal ynghynt? Mae’n ennyn llawer o

gwestiynau ynglŷn ag effeithiolrwydd uwch-dimau rheoli o

fewn y GiG a’r amgylchedd sydd wedi cael ei feithrin yno.

Oes tueddiad o fewn y mudiad i ddiystyru pobl rhag codi

pryderon am gyd-weithwyr? Peryg iawn yw perthyn i weithle

ble mae ofn arnoch leisio gofidion, rhag cael eich esgeuluso.

Mae ‘pam’ yr holl beth wedi bod yn llenwi fy mhen ers

wythnosau bellach… Pam fod merch ifanc ag iddi ei bywyd

cyfan o’i blaen wedi bod mor ddidrugaredd?

Ydych chi’n deffro un bore ac yn penderfynu eich bod

am ddinistrio bywydau neu ydi o’n rhywbeth mae’ch

isymwybod yn cynllunio am amser maith? Efallai roedd yn

teimlo rhyw fwynhad, neu’n ysu am y rheolaeth o ddal bywyd

rhywun yng nghledr ei llaw.

Bydd y teuluoedd druan yma’n gofyn ‘pam’ am weddill eu

hoes, a does dim byd mwy creulon na hynny.

Tanysgrifiwch am flwyddyn i bapur cenedlaethol

Cymru - tud 29

£9.99 £9.99 £5.99

Cefnogwch eich siop leol
12

Visitors mwyar duon sydd o gwmpas erbyn hyn, a nhw

a ni, trigolion y tiroedd twristaidd, yn gobeithio yn arw

iawn, iawn y bydd yna Ha’ Bach Mihangel fydd yn

parhau hyd nes i’r diafol boeri ar fwyar duon eleni tua

dechrau Hydref.

Wedi hynny, mi fydd y diwydiant twristiaeth, sydd mor

affwysol o bwysig a difaol am yn ail i Gymru, yn hepian

cysgu tan y Pasg.

Galla’ innau fynd i siopa i Bwllheli neu am drip i

Aberdaron wedyn heb orfod baglu dros bobl ddieithr sydd

yn cael hwyl.

Ydw i’n sur? Yn annheg? Yn ddi-ddiolch? Yn naïf? Yn

hiliol hyd yn oed?

Oni ddylwn i sylweddoli a derbyn maint cyfraniad

twristiaeth i fy ardal a’m gwlad? Wel, os ydw i yn yr un

cae â thrigolion peth wmbreth o ddinasoedd ac ardaloedd

ledled Ewrop sydd yn sicr yn teimlo yr un fath - nac ydw,

dim o gwbl.

Dyma ambell enghraifft. Mae pobl leol yn ardaloedd

glan-y-môr Mallorca yn gosod ffug bosteri o gwmpas y

traethau yn dweud eu bod

yn llawn, yn y gobaith y

caiff y rhai sy’n byw yno

trwy gydol y flwyddyn

gyfle i fwynhau’r tywod

yn yr haf.

Mae llywodraeth Gwlad

Groeg yn ystyried sut

i ddeddfu er mwyn atal

cwmnïau a gwestai mawr

rhag llenwi’r traethau yno efo gwelyau haul a

pharasols er mwyn ceisio atal pobl leol rhag

gosod lliain ar y tywod i dor-heulo, er bod y

ddeddf yn rhoi’r hawl i fynd i bob modfedd o

draethau’r wlad i bob copa walltog.

Mae trigolion Barcelona wedi cael hen

lond bol o’r miloedd ar filoedd sy’n gadael y

llongau pleser sy’n angori yn y bae i grwydro’r

strydoedd, defnyddio eu gwasanaethau

cyhoeddus a gwario nemor ddim yn y siopau

a’r tai bwyta. Ac yn y blaen ac yn y blaen.

Fenis yw un o’r cyrchfannau sy’n

diodde waethaf o effaith twristiaeth.

Mae miloedd ar filoedd yn

tyrru yno bob blwyddyn yn ôl

gwefan Venetzia Autentica ac mae’r

diwydiant twristiaeth bellach

wedi troi ‘yn broblem yn hytrach

nag adnodd’ yn ôl y wefan wrth i

fuddsoddwyr ac entrepreneuriaid

lleol ecsploetio’r ddinas, y dinasyddion a’u hadnoddau

hanesyddol er mwyn elw yn unig.

Canlyniad hyn yw bod pobl ifanc Fenis yn methu

fforddio cartrefi a chostau byw yno, yn methu cael

swyddi da a hefyd yn gweld eu safon byw yn gostwng.

Yn ôl ystadegau llywodraeth y ddinas fe wnaeth y nifer o

bobl rhwng 20 a 34 oed ostwng o 35% yn y degawd rhwng

2001 a 2011.

Ydi hyn yn taro deuddeg? Yn canu cloch? Os yn Fenis

fawr, pam ddim ym Mhen Llŷn a phob Pen Llŷn arall?

Gallwn ni yma uniaethu efo problemau tebyg mewn

llefydd yn nes i adref hefyd. Mae pobl leol ar Ynys Harris

yng ngorllewin yr Alban yn cwyno nad oes lle i alarwyr

ym maes parcio un fynwent yn ôl datganiad gan y Swyddfa

Dwrisitaeth leol am fod twristiaid yn mynnu parcio yno.

Dwi’n cofio cwynion tebyg yn Nhrefor bod perchnogion

‘Ydw i’n sur? Yn annheg?

Y n d d i - d d i o l c h ? Y n n a ï f ?

Yn hiliol hyd yn oed?’

Twrw, tai a thwristiaeth... does

gen i ddim ateb, dim un wan jac

BARN:

‘...mae gan bawb hawl i fyw adref a

hynny trwy gydol y flwyddyn nid pan

mae pob ymwelydd wedi troi am adref’

- gan Bethan Jones Parry

camperfans yn parcio ger y traeth, yn mynd i’r fynwent i

nôl dŵr ac yn gwagio carthion i’r môr.

Hyn oll am ddim ac yn ddi-hid wrth gwrs. Ac â helpo

pobl leol a’r gwasanaethau brys sydd eisiau gyrru ar hyd yr

A5 o Fethesda i Gapel Curig!

Ar y llaw arall, mae yna ochr arall i’r stori. Mae

twristiaeth yn bwysig mewn ardaloedd gwledig lle nad oes

fawr o ddiwydiannau eraill heblaw am amaethyddiaeth ar

gael.

Dyma fyrdwn erthygl gan y cyflwynydd Griff Rhys Jones

yn y Daily Mail mis diwethaf. Mae o wedi prynu ac adfer

hen ffermdy ac adeiladau amaethyddol yn Sir Benfro a’u

troi yn fythynnod gwyliau.

Yn ôl Mr Jones mae ymdrechion diweddaraf

Llywodraeth Cymru i reoli tai haf a bythynnod gwyliau

yn mynd i gael effaith hollol groes i’r hyn mae nhw’n ei

ddeisyfu.

Mae codi ‘eye-watering council taxes’ a threth

twristiaeth yn ddim byd ond

dulliau o gosbi y diwydiant heb

obadeia o obaith y bydd pobl

ifanc lleol yn gallu prynu

cartrefi yn eu milltir sgwâr.

Ac a helpo dyfodol pob

trydanwr, adeiladwr a phlymiwr

sydd ar hyn o bryd yn cynnal ei

hunain trwy adeiladu a chynnal

a chadw tai haf.

Dwi’n tueddu i gytuno efo

Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid

Cymru ddywedodd bod erthygl

Griff Rhys Jones yn tu hwnt o

nawddoglyd.

“Does gan gefn gwlad

Cymru ddim i’w gynnig mae’n

ymddangos ond anhunanoldeb

buddsoddwyr mewn tai gwyliau.

Rwtsh.

“Gall twristiaeth fod yn rym

er gwell ond ni ddylai fod yn

rhywbeth sy’n

digwydd i ni.

Dylwn gipio’r

llyw a’i wneud yn

ddiwydiant

cynaliadwy”.

Mae o’n llygad

ei le.

Nid man chwarae i bobl ddieithr ydi Cymru - nag un man

arall yn y byd.

Mae crwydro, teithio a mynd ar wyliau yn cyfoethogi

bywydau ac mewn cyfnod pan mae Ynysoedd Prydain yn

mynd yn fwyfwy - wel, ynysig - siawns bod hynna’n beth

da.

Ond mae gan bawb hawl i fyw adref a hynny trwy gydol

y flwyddyn nid pan mae pob ymwelydd wedi troi am adref.

Does gen i ddim ateb, dim un wan jac.

Mae’r holl beth tu hwnt i’m gallu a’m profiad personol.

Ond dwi’n gweld y problemau ac yn ddigon hen a

hirben i sylweddoli oblygiadau peidio mynd i’r afael â’r

problemau yn bragmataidd gyflym.

Breuddwydio am fod yn athro

ym Mhatagonia... dyma’r cyfle!

Mae’r British Council yn chwilio am athrawon i hybu’r

Gymraeg dros 7,000 o filltiroedd o adre - yn nhalaith

Chubut ym Mhatagonia yn yr Ariannin.

Mae’r sefydliad hybu cysylltiadau diwylliannol yn gobeithio

anfon tri o athrawon allan i’r Wladfa ym Mhatagonia i dreulio

naw mis yn dysgu Cymraeg mewn un o dair ysgol yn Nhrelew,

Trevelin a’r Gaiman rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2024.

Bydd yr athrawon yn mynd yno fel rhan o Gynllun Yr Iaith

Gymraeg, a sefydlwyd yn 1997 i helpu hybu’r Gymraeg ym

Mhatagonia, lle mae dros 6000 o siaradwyr Cymraeg - y nifer

mwyaf o siaradwyr yr iaith yn y byd y tu allan i Gymru. Mae

nifer fawr ohonynt yn ddisgynyddion i’r mudwyr o Gymru a

greodd Wladfa yn Nyffryn Chubut ym Mhatagonia dros 150 o

flynyddoedd yn ôl ym 1865.

Bydd yr athrawon yn helpu i ddatblygu’r iaith ym Mhatagonia

drwy gyfuniad o ddysgu ffurfiol a gweithgareddau cymdeithasol

anffurfiol. Ar hyn o bryd mae dau o athrawon - Llinos Howells a

Thomas Door - yn paratoi i deithio i’r Wladfa i dreulio’r tri mis

nesaf yno.

Wrth sôn am yr antur sydd o’i blaen, dywedodd Llinos: “Mae

gen i atgofion melys ers pan ro’n i’n ifanc o glywed straeon

am y mudwyr cyntaf a hwyliodd o Gymru a hanes cyfoethog

sefydlu’r Wladfa yn Chubut, ac

mae ymweld â Phatagonia wedi

bod yn freuddwyd gen i erioed.

“Rwy wedi bod yn ddigon lwcus

i ymweld ddwywaith o’r blaen ac

fe deimlais gysylltiad dwfn iawn

gyda’r wlad a’i phobl.

“Tra bydda i allan yno, rwy’n

‘Mae gen i atgofion

melys ers pan ro’n i’n

ifanc o glywed straeon

am y mudwyr cyntaf’

edrych ymlaen yn arbennig at hyfforddi plant ar gyfer cystadlaethau’r

Eisteddfod gan mod i wedi cael cryn lwyddiant ym maes

drama ac adrodd yn y gorffennol. Rwy wrth fy modd yn gweld

hyder ac angerdd y plant yn tyfu a galla i ddim aros i ymroi i fy

nghymuned newydd a dysgu mwy am y diwylliant a’r ffordd o

fyw yno, a hefyd i wella fy Sbaeneg.”

Ychwanegodd Thomas: “Mae cymryd rhan yn y rhaglen

yma wedi bod yn freuddwyd gen i ers sawl blwyddyn. Cyn y

pandemig ro’n i ar fy ffordd i weithio’n wirfoddol yn Ysgol

y Cwm, ond yn anffodus ni lwyddais i deithio ymhellach na

Buenos Aires, gan y cafodd holl deithiau hedfan mewnol ac

allanol y wlad eu canslo.”

Am fwy o wybodaeth am Gynllun Yr Iaith Gymraeg a’r meini

prawf ar gyfer ymgeisio, ewch i wales.britishcouncil.org/

Statws newydd i Halen Môn ar

ôl dangos y safonau uchaf

Mae Cwmni Halen Môn wedi ennill statws B Corp ar ôl

dangos y safonau cymdeithasol ac amgylcheddol uchaf.

Mae’r ardystiad yn golygu y bydd y busnes o’r gogledd,

sy’n creu amrywiaeth o gynhyrchion halen môr sydd wedi’u

hidlo’n naturiol ac sydd wedi ennill gwobrau, yn ymuno â grŵp

cynyddol o 29 o gwmnïau yng Nghymru sydd eisoes wedi ennill

yr achrediad.

Mae cymuned gynyddol B Corp yn fusnesau sy’n bodloni’r

safonau uchaf o berfformiad cymdeithasol ac amgylcheddol

wedi’i ddilysu, tryloywder cyhoeddus, ac atebolrwydd

cyfreithiol i gydbwyso elw a phwrpas.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r cydsylfaenydd,

Alison Lea-Wilson: “Mae Halen Môn wastad wedi

rhoi’r amgylchedd wrth ei galon, wedi’r cyfan, rydyn ni’n

dibynnu ar foroedd glân am ein prif gynhwysyn. Mae hwn yn

ardystiad diamwys a thrylwyr. Mae wedi gwneud inni edrych ar

bob agwedd ar ein busnes, nawr ac yn y dyfodol.

“Mae wedi dangos i ni faint mwy sydd i’w wneud. Nid yw’n

rhywbeth rydych chi’n ei ‘gael’ ac yna’n ei roi o’r neilltu. Mae’n

rhywbeth sy’n sail i bopeth a wnawn.

“Rwy’n falch o’r hyn mae Halen Môn wedi’i gyflawni ac yn

ddiolchgar i fy nhîm.”

Wedi’i sefydlu ym 1997 gan Alison a David Lea-Wilson,

mae’r cwmni’n parhau i fod yn eiddo i deulu ac wedi llwyddo

i ddatblygu a chynnal busnes cynaliadwy, llwyddiannus sy’n

cyflogi pobl leol.

Maent yn hyrwyddo eu staff ac wedi ymrwymo i dalu mwy

na’r Cyflog Byw a darparu cymorth proffesiynol, cymdeithasol

a lles.
Adeiladau hynafol yn cael grantiau gwerth £4 miliwn

‘Mae’r grant yn wirioneddol yn achubiaeth i Gastell Gwrych’

Mae pedwar adeilad hynafol yng

Nghymru wedi derbyn dros £4 miliwn

mewn grantiau tuag at eu hadfer gan

Gronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol

fel rhan o’u Cronfa Ymateb COVID-19.

Neilltuwyd £2.2miliwn i Ymddiriedolaeth

Castell Gwrych ger Abergele.

Mae’r adeilad rhestredig Gradd I trawiadol

yn un o blastai castellog pwysicaf Prydain ac

wedi’i nodi gan Cadw fel ‘ased diwylliannol

heb ei gyffelyb’. Yn y blynyddoedd diwethaf,

mae’r castell wedi cael sylw rhyngwladol fel

cartref y raglen ‘I’m A Celebrity Get Me Out Of

Here’.

Dywedodd Dr Mark Baker, Cadeirydd

Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych:

“Mae’r grant hanfodol hwn gan Gronfa

Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, ynghyd

ag arian cyfatebol gan Ymddiriedolaeth

Elusennol Richard Broyd, yn wirioneddol yn

achubiaeth i Gastell Gwrych er mwyn goresgyn

yr anawsterau parhaus i adferiad y castell’ a

achoswyd gan y pandemig COVID-19.”

Bydd Llyfrgell Gladstone ym

Mhenarlâg yn derbyn £777,246 i daclo gwaith

atgyweirio mawr i’r porth mynediad, y to,

nenfwd yr

Ystafell

Ddarllen, ac i

rai o’r ffenestri.

Mae’r

llyfrgell wedi’i

chydnabod

fel un o lyfrgelloedd a chasgliadau ymchwil

pwysicaf Cymru.

‘...ased

diwylliannol

heb ei

gyffelyb’

Caiff dwy eglwys ganoloesol, St Lawrence’s,

Gumfreston, Sir Benfro a St James’s, Llangua,

Sir Fynwy, sydd bellach dan ofal Friends of

Friendless Churches, grantiau o £769,309.

Roedd cyflwr

yr eglwysi yn

fregus cyn y

pandemig, ond

gwaethygodd

y problemau

o ganlyniad i Castell Gwrych ger Abergele

golli incwm

a chynnal a

chadw cyfyngedig, oherwydd y cyfyngiadau

ar ddefnydd a mynediad.

Bydd Cwrt Insole yn Llandaf,

Caerdydd yn derbyn £328,938 i wneud

gwaith atgyweiriadau i’r Plasty a’r Stablau.

Yn dyddio’n ôl i 1855, mae Cwrt

Insole yn blasty rhestredig Gradd II* Mae

treftadaeth y teulu Insole yn enghraifft

bwysig o hanes cymdeithasol gan mai nhw

oedd un o deuluoedd sefydlol y diwydiant

glo yng Nghymoedd y Rhondda.

Teyrngedau i’r Parchedig Emlyn Richards

Talwyd teyrngedau i’r Parchedig

Emlyn Richards, yr ymgyrchydd

blaenllaw, wedi ei farwolaeth fis

diwethaf.

Bu farw yn Ysbyty Gwynedd yn dilyn

dirywiad sydyn yn ei iechyd. Fe gymerodd

ran mewn sesiwn yn y Tŷ Gwerin ar Faes yr

Eisteddod ym Moduan yr wythnos flaenorol

yn hel atgofion am ei frawd, y baledwr Harri

Richards.

Gwasanaethodd yn ardal Cemaes fel

gweinidog llawn amser am dros 40 mlynedd,

ac am sawl blwyddyn wedyn ar ôl ymddeol.

Dywedodd Dylan Morgan ei fod yn un

‘sydd wedi gadael marc mawr ar fywyd

Môn’.

Wrth dalu teyrnged dywedodd: “Tua

1988/89 dyma ni’n gweithio yn agos iawn

gyda’n gilydd yn ymgyrch gynta mudiad

PAWB pan oedd y Llywodraeth [y Deyrnas

Unedig] am sefydlu adweithydd dŵr dan

bwysau newydd yn Wylfa.

Yn ogystal â bod yn ymgyrchydd

gwrth-niwclear amlwg bu’n flaengar yn

niwedd y 1990au yn beirniadu swyddogion

ac aelodau Cyngor Ynys Môn wedi cyfres

o adroddiadau damniol gan yr Archwiliwr

Dosbarth. Cadeiriodd sawl cyfarfod yng

Ngaerwen wedi eu trefnu gan LLais y Bobl.

Roedd Emlyn Richards yn awdur llyfrau

poblogaidd iawn fel Potsiars Môn, Porthmyn

Môn a llawer eraill yn ymwneud â’r bywyd

gwledig ym Môn a Llŷn.

Ychwanegodd Dylan Morgan fod

nosweithiau lansio llyfrau Emlyn

Richards yn safle mart Morgan Evans fel rhai

‘bythgofiadwy’ a bod y gynulleidfa ‘yng

nghledr ei law’.

Wedi ei fagu yn Mhen Llŷn yn un o deulu

mawr, aeth Emlyn Richards i weithio ar

fferm i ddechrau a wedyn i’r weinidogaeth.

“Mae’r ffaith iddo weinidogaethu am dros

ddeugain mlynedd yng Nghemaes yn dweud

llawer am lwyddiant ei weinidogaeth yna

ond wrth gwrs oedd Llŷn yn bwysig iawn

iddo fo.

“Roedd iaith

gadarn, naturiol Llŷn

yn amlwg iawn trwy

bob un o’i lyfrau ac

wrth gwrs mi oedd

o’n parhau i berfformio

yng nghwmni

Harry ei frawd…

oeddan nhw’n

gwneud nosweithiau

gyda’i gilydd oedd

yn boblogaidd iawn

wrth gwrs,” meddai.

Gobeithio am gynnydd

yn nefnydd y Gymraeg

13

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi

ymrwymo i ehangu ei ddefnydd o’r

Gymraeg yn dilyn cyfarfod gyda’r grŵp

ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith.

Ymhlith y materion a godwyd gan y grŵp

roedd cwynion am ddiffyg Cymraeg ar

fyrddau gwybodaeth a phrinder staff sy’n

siarad Cymraeg.

Yn ystod cyfarfod ddechrau Awst,

amlinellodd TrC amserlen ar gyfer ehangu

defnydd y cwmni o’r Gymraeg yn y

dyfodol agos.

Ymysg yr ymrwymiadau, addawodd

gweithredwr y rheilffordd gynnydd mewn

cyhoeddiadau ar drenau a gorsafoedd yn

Gymraeg, cyflwyno meddalwedd cyfieithu

newydd ar gyfer ap Trafnidiaeth Cymru

a darparu gwersi Cymraeg ac annog

ymhellach y defnydd o’r Gymraeg gan staff.

Dywedodd Sian Howys, Cadeirydd

Grŵp Hawliau Iaith Cymdeithas yr Iaith:

“Daeth hi’n amlwg yn y cyfarfod fod Trafnidiaeth

Cymru yn bwriadu cymryd camau

i gynyddu ei ddarpariaeth o’r Gymraeg,

ond bod angen i Lywodraeth Cymru osod

safonau ar gyfer y diwydiant trafnidiaeth fel

cyfanwaith.

“Mae oedi mawr wedi bod wrth osod

safonau ar gyrff newydd, gan gynnwys y

sector trafnidiaeth, felly byddwn yn pwyso

ar Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg, i

osod y safonau hynny yn fuan.

“Er bod swyddogion Trafnidiaeth Cymru

wedi dweud bod rhai o’r cwynion a wnaed

am wasanaethau Cymraeg y tu hwnt i’r hyn

a ddisgwylir ganddynt drwy safonau, gall

y gwasanaeth trafnidiaeth ddarparu mwy o

ddarpariaeth o’i wirfodd.

Bydd cyfarfod arall gyda Trafnidiaeth

Cymru hefyd yn cael ei drefnu yn y dyfodol

i drafod y cynnydd a wnaed.

Hysbysebwch yn

- papur cenedlaethol Cymru

Hysbysebwch yn unig bapur cenedlaethol

C y m r u - p a p u r ( a g w e f a n ) s y d d y n c a e l e i d d a r l l e n g a n

amrywiaeth helaeth o bobl o bob oed ac sydd yn

cael ei werthu dros Gymru gyfan - o’r siopau bach

stryd fawr, archfarchnadoedd canolig fel Spar,

C o - o p , L o n d i s , a h e f y d y n y r h a i m w y a f m e g i s Te s c o a

Sainsbury’s.

Cysylltwch gyda ni am ein prisiau cystadleuol ac am

y gwahanol feintiau - o hysbyseb fach wythfed ran

o dudalen i dudalen llawn. Mae cyfleoedd hefyd i

hysbysebu ar ein gwefan poblogaidd gydag ambell

opsiwn o leoliad yn ôl eich gofynion.

‘Peidiwch â fy melltithio ond a oes rhesymau ariannol da erbyn

hyn i ddod â diwedd i’n Steddfod symudol’ - Dafydd Iwan - tud 6

Awst 2023

£9.99 £9.99 £5.99

Papur Cenedlaethol Cymru £1.50

53% o Gymry 18 i 24 oed rŵan yn dweud y

byddent yn pleidleisio dros annibyniaeth

HANNER

YR IFANC

O BLAID

CYMRU

RYDD

‘Mae’n bryd edrych ar

ddyfodol mwy disglair, gwell

a mwy beiddgar fel cenedl

annibynnol’ - tud 17

£9.99

Newydd i’r

Steddfod

‘Yn araf bach,

yn ddiarwybod

i ni bron,

cawn ein

Seisnigo’

- Heledd

Gwyndaf

Beth am gynnau tân...

Barddoniaeth a ‘Thân yn Llŷn’ yn dod â’r

Eisteddfod i uchafbwynt dramatig - tud 3

Lluniau o ddeuddydd cyntaf

y Brifwyl ym Moduan - tud 2 a 12

‘Dêtio yn 2023.... wy’n sengl am y tro cynta’ ers 15 mlynedd’ - Esyllt Sears - tud 7

- tud 4

Cysylltwch gyda barrie.jonescymro@gmail.com am fwy o fanylion.

Neu ffoniwch 07740918961

£9.99

£19.99

Cefnogwch eich siop leol

.com
14

Enillwyd y prif wobrau i ganmoliaeth uchel y

beirniaid, bu llwyddiannau lleol ar y llwyfan ac roedd

awyrgylch hapus ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

yn Llŷn ac Eifionydd.

Sbardunodd hyn yr alwad gan y trefnwyr lleol, er mor

flinedig yw trefnu a chynnal Prifwyl wyth niwrnod, i’r

Eisteddfod Genedlaethol ddychwelyd i’r ardal mor fuan ag y

bo modd.

“Bu’r Eisteddfod yn Llŷn ddiwethaf yn 1955 ac

Eifionydd yn 1987 ac rwy’n meddwl fod y safle yma ym

Moduan yn fendigedig ac rwy’n edrych ymlaen yn barod i’r

Eisteddfod Genedlaethol ddod ’n ôl yma yn weddol fuan,”

meddai cadeirydd y pwyllgor gwaith, Michael Strain.

Derbyniodd Mr Strain fod yr Eisteddfod wedi cael dechrau

gwael gyda’r tywydd.

“Y tro diwethaf i’r Eisteddfod gael ei chynnal yn

ardal Pwllheli fe’i disgrifiwyd gan un papur newydd fel

‘Steddfod Pwll-haul’, addasiad ar enw’r dref oherwydd y

dyddiau di-ben-draw o heulwen y bu iddynt fwynhau.

“Ond er gwaethaf Storm Antoni fe wnaethon ni barcio mwy

o geir ar y diwrnod soeglyd

hwnnw nag ar ddydd Llun

heulog yn yr Eisteddfod ac

roedd miloedd o bobl ar y

maes.

“Nid yw’r Eisteddfod

wedi datgelu’r presenoldeb

dyddiol ers sawl blwyddyn

ond gallaf ddweud bod

cyfarwyddwr cyllid yr

Eisteddfod wedi bod yn gwenu ar ddiwedd pob

diwrnod yr wythnos hon.

“Mae pobl wedi bod yn dod ata’ i a llongyfarch y

criw cyfan - y pwyllgor gwaith, y gwirfoddolwyr,

y cannoedd sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr

Eisteddfod hon.

“Mae’r staff wedi bod yn gweithio oriau hir ers

misoedd, ac yn gwneud llawer o ymdrech.

“Cydweithio yw’r Eisteddfod, a thrwy’r holl

gydweithio yma fe fyddwn ni’n cyrraedd y

Steddfod lwyddiannus sydd gyda ni.”

Uchafbwynt yr Eisteddfod i Michael Strain,

cyfreithiwr ym Mhwllheli, oedd y

cyngerdd agoriadol, Y Curiad.

“Fe allen ni fod wedi llenwi’r

pafiliwn mawr ddwywaith drosodd.

Hyfryd oedd gweld y côr yn llenwi

cefn y llwyfan a Pedair, pedwar

cerddor proffesiynol, yn canu eu

haddasiadau o ganeuon gwerin

Cymreig. Fe ddechreuon ni’n uchel

a dydy’r safon ddim wedi gostwng

trwy gydol yr wythnos,” meddai.

Roedd Michael Strain yn falch

iawn o weld yr holl brif dlysau,

gwobrau ac ysgoloriaethau a enillwyd

yn ystod yr Eisteddfod.

Dywedodd: “Doedden ni ddim am gael y broblem o

benderfynu beth i’w wneud pe bai’r Goron, y Fedal Ryddiaith

neu’r Gadair wedi eu hatal. Roeddwn yn hynod o hapus i weld

Alan Llwyd yn ennill y gadair.

“Treuliodd ei blentyndod yn Abersoch a mynychodd Ysgol

Botwnnog sydd hefyd yn hen ysgol i mi.

“Roedd yn amlwg yn arwr i Emyr Pritchard, yr athro

Cymraeg yn yr ysgol, oherwydd erbyn diwedd fy wythnos

gyntaf ym Motwnnog roeddwn i’n gwybod lle’r oedd Alan

Llwyd wedi eistedd. Roeddwn i’n gwybod ei fod wedi

arlein - YCymro.Cymru

‘ G ŵ y l d e i t h i o l y w ’ r E i s t e d d f o d

Genedlaethol yn ei hanfod

ac mae hynny’n sylfaenol iddi’

Edrych ’n ôl ar ’Steddfod

Llŷn ac Eifionydd

- gan Eryl Crump

Alan Llwyd yn ennill

Y Gadair ac (islaw)

Rhys Iorwerth yn

ennill Y Goron

‘...gallaf ddweud bod cyfarwyddwr

cyllid yr Eisteddfod wedi bod yn

gwenu ar ddiwedd pob diwrnod’

ysgrifennu ei ysgrif gyntaf erbyn iddo gyrraedd y drydedd

ddosbarth, blwyddyn naw fel mae’n cael ei hadnabod erbyn

hyn, a thra roeddwn yn y chweched dosbarth eisteddais yn

wynebu’r wal oedd â thudalen flaen Y Cymro gyda llun Alan

Llwyd a stori o’r amser enillodd y goron a’r gadair yn 1976.”

Nofel am fam a’i merch 16 oed ag anghenion arbennig

enillodd y fedal Ryddiaith i Meleri Wyn James o Aberystwyth

mewn cystadleuaeth a ddenodd 16 cais.

Dywedodd ei bod wedi dechrau ysgrifennu’r nofel Hallt yn

syth ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion gyda’r bwriad

o geisio rhoi llais i blant a rhieni sy’n byw gyda heriau a’r holl

bleser o lywio taith bywyd ag anghenion ychwanegol.

Wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan ar ran ei chydfeirniaid,

dywedodd Menna Baines: “Dyma stori afaelgar o’r

dechrau sy’n adeiladu i uchafbwynt dramatig. Mae’r portread

o Cari yn un hyfryd.

Meleri Wyn James yw awdur y gyfres boblogaidd i

blant ‘Na, Nel!’ yn ogystal â’r sioe lwyfan o’r un enw a

lwyfannwyd ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol

Ceredigion yn Nhregaron y llynedd ac a ailadroddwyd yn

Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.

Drama sy’n canolbwyntio ar

y berthynas rhwng bachgen

niwroamrywiol 12 oed a’i fam

gipiodd y Fedal Ddrama i Cai

Llewelyn Evans o Gaerdydd.

Cyflwynwyd y Fedal Ddrama

am ddrama lwyfan heb unrhyw

gyfyngiad hyd a’r ddrama sy’n

dangos y mwyaf o addewid

ac sydd â’r potensial i gael ei

datblygu ymhellach drwy weithio

gyda chwmni proffesiynol cafodd ei

gwobrwyo.

Clywodd y gynulleidfa yn y

pafiliwn fod 26 o ddramâu wedi eu

derbyn a dywedodd y beirniaid mai

Eiliad o Ddewiniaeth gan Wasabi (Cai

Llewelyn Evans) oedd y ddrama orau.

Magwyd y dramodydd ym

Mhontarddulais ac ar hyn o bryd

mae’n byw yng Nghaerdydd.

Mae’n aelod o Wasanaeth

Cyfieithu a Chofnodi’r

Senedd fel cyfieithydd ar

y pryd.

Yn ystod yr wythnos

trosglwyddwyd Tlws

yr Eidalwyr, yr arwydd

gweledol sy’n dynodi pwy

sy’n trefnu’r Eisteddfod

Genedlaethol ganlynol, i

arweinwyr Cyngor

Rhondda Cynon Taf.

Bydd Eisteddfod 2024

yn cael ei chynnal ym

Mharc Ynysangharad ym

Mhontypridd.

Mae Michael Strain yn gobeithio y bydd yr un brwdfrydedd

tuag at Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn ymestyn i Eisteddfod

Genedlaethol 2024 yn Rhondda Cynon Taf.

“Gŵyl deithiol yw’r Eisteddfod Genedlaethol yn ei hanfod

ac mae hynny’n sylfaenol iddi. Bydd yr Eisteddfod yn ymweld

â rhan wahanol iawn o Gymru’r flwyddyn nesaf ac yn cael ei

chynnal mewn lleoliad hollol wahanol.

“Rwy’n dymuno’n dda iddi ac yn gobeithio y bydd pawb

sydd wedi gwirfoddoli yn yr Eisteddfod hon yn mynd tua’r de

fis Awst nesaf ac yn gwirfoddoli unwaith eto.”

Cymdeithas yr Iaith yn lansio

partneriaeth efo TUC Cymru

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio partneriaeth gyda

Chyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru) mewn

cam i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau i ddefnyddio’r

Gymraeg yn y gweithle.

Cynrychiola TUC Cymru 48 undeb llafur a 400,000

o weithwyr yng Nghymru, ac mae ‘Cynnig Cymraeg’

Comisiynydd y Gymraeg wedi ei ddyfarnu iddo.

Mae’r Gymdeithas wedi dadlau am yn hir bod

cymunedau iach, wedi’u seilio ar waith cynaliadwy, cyflogau

teg, ac amodau byw rhesymol, yn amodau hanfodol i’r

Gymraeg ffynnu yn y tymor hir fel iaith naturiol ac mae’r ddau

fudiad yn cydnabod bod y Gymraeg wedi bod yn ymylol yn y

gweithle am yn rhy hir.

Dywedodd Siân Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl i’r

Gymraeg Cymdeithas yr Iaith: “I wireddu’r nod o

normaleiddio’r Gymraeg mewn gweithleoedd, rydym

wedi cytuno ar amcanion cyffredin, gan gynnwys codi

ymwybyddiaeth i weithwyr a chyflogwyr o hawliau i

ddefnyddio’r Gymraeg yn y byd gwaith gan geisio diogelu’r

rhyddid hwnnw, cefnogi gweithwyr sydd wedi profi annhegwch

neu anghyfiawnder yn sgil eu defnydd o’r Gymraeg yn

ogystal â hyrwyddo cyfleoedd i weithwyr ddysgu ac uwchsgilio

eu Cymraeg yn y gweithle.”

Dywedodd Dr Mandy James ‘...amodau hanfodol

o TUC Cymru: “Dw i’n

i’r Gymraeg ffynnu yn y

hynod gyffrous ynghylch y tymor hir fel iaith naturiol’

bartneriaeth hon. TUC Cymru

yw llais Cymru yn y gweithle.

Yn ei hanfod, mae’r bartneriaeth yn canolbwyntio ar

gefnogi a hyrwyddo - gyda’r nod o ddiogelu - rhyddid a

hawliau gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a

dyfodol y Gymraeg fel iaith fyw mewn gweithleoedd a

chymunedau ar draws Cymru fel rhan o agenda ehangach

gwaith teg, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae’r

bartneriaeth hefyd yn mynegi’r egwyddorion a’r nodau

a rannwn yn nhermau cefnogi a hwyluso’r defnydd o’r

Gymraeg yn y gweithle.”

Llais gennych? ...wel dyma’r

tiwns a’r geiriau ar eich cyfer

Mae sianel carioci Cymraeg newydd wedi ei lansio ar

safle YouTube Noson Lawen.

Mae dewis o 20 o ganeuon mwyaf poblogaidd Cymru ar y

sianel, clasuron fel Yma o Hyd, Anfonaf Angel, Strydoedd

Aberstalwm a Calon Lân.

Lansiodd y grŵp gwerin Bwncath y sianel ym mhabell

S4C ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol gan ganu yn y bŵth

carioci a pherfformio set acwstig.

Yn ystod wythnos yr

Eisteddfod roedd croeso i

bawb ymweld â phabell S4C i

ganu rhai o’u hoff ganeuon yn

y bŵth.

Daw’r datblygiad newydd

yma gan Cwmni Da, sy’n

cynhyrchu Noson Lawen

wedi i’r gyfres ddathlu ei

phen-blwydd yn 40 y llynedd.

Noson Lawen yw’r rhaglen adloniant ysgafn sydd wedi

rhedeg hiraf ar deledu yn Ewrop, ac mae hi wedi cyrraedd

carreg filltir arall eleni wrth ddathlu’r ffaith bod fideos ar ei

sianel YouTube wedi’u gwylio 10 miliwn o weithiau.

Yn ôl Olwen Meredydd, Cynhyrchydd Noson Lawen:

“Noson Lawen yw un o’r sianeli YouTube Cymraeg mwyaf

poblogaidd yn y byd ac roedden ni’n cael ceisiadau o hyd

am eiriau i’r caneuon. Dyna oedd yr ysgogiad i greu’r sianel

Carioci.

“’Da ni’n gobeithio y bydd yn adnodd i gantorion

ifanc ddysgu caneuon ar gyfer cyngherddau, clyweliadau

a chystadlaethau; cyfle i ddysgwyr Cymraeg ymarfer drwy

gyfrwng cân a chyfle i bawb fwynhau canu carioci Cymraeg

mewn partïon, priodasau, nosweithiau cymdeithasol, yn y

dafarn neu hyd yn oed adre’ o flaen y drych!

“Bydd dewis o ugain cân ar y cychwyn ond y gobaith yw

ychwanegu mwy; byddwn felly’n annog pobl i gysylltu

gydag awgrymiadau o ganeuon yr hoffen nhw glywed, felly

dewch â’ch awgrymiadau.”
15

Ar y cyfryngau -

gan Dylan Wyn Williams

Dau ffefryn gwych - dirgelwch y llofruddiaeth

ym Môn - ac edrych ’nol ar yr ymgyrch losgi

Beth sy’ gan ohebwyr BBC Cymru, prif leisydd

‘Y Cyrff’ ers talwm, ffarmwr o Lanllechid, Theresa

May a phrifardd coronog Boduan yn gyffredin?

Mae’r cyfan i’w clywed ar bodlediad am ddirgelwch

y llofruddiaeth ar y Fam Ynys adeg Pasg 2019.

Mi fuasai’n gwneud chwip o ddrama deledu ar BBC

Wales yn lle’r nonsens Wolf, ond am y tro, mi wnaiff

stori sain chwe-rhan Meic Parry (y mae’r adroddwr

Tim Hinman yn mynnu ei alw’n ‘Mike Perry’ am

ryw reswm) yn tsiampion.

The Crossbow Killer ydi cyfraniad diweddara

Cymru i gronfa BBC Sounds, ac ydi, mae’n braf

clywed acen Gogs fel Meic a’r gohebwyr Elen Wyn a

Siôn Tecwyn, i ddrysu’r Middle Englanders sy’n meddwl ein

bod ni gyd yn siarad Saesneg ystrydebol y Cymoedd.

Mae’n hyfryd clywed Meic yn dechrau sgwrsio’n

Gymraeg gydag ambell gyfrannwr iaith gyntaf hefyd, cyn troi

i’r Saesneg er budd y gynulleidfa Brydeinig.

Roeddwn i’n lled-ymwybodol o achos Gerald

Corrigan, a laddwyd dan amgylchiadau erchyll wrth drïo

trwsio signal teledu ei fwthyn - ond nid y mân droseddwyr

eraill a ddatgelwyd fesul pennod.

Roedd yr elfennau ddogfennol wir yn hoelio’r sylw, wrth

glywed Meic Parry yn ail-greu siwrnai’r drwgweithredwyr a

hel tystiolaeth CCTV i gyfeiliant y gwynt a’r tonnau ochr yn

ochr â cherddoriaeth gefndir Mark Roberts.

Gwrando wrth ddreifio oeddwn i’n bennaf, ond bu’n rhaid

dal i fyny eto yn nhawelwch adra lle cefais fy nghludo’n ôl i

arfordir gwyllt Ynys Gybi. Do, mi deimlais ias wrth wrando

felly. Er bod y saethwr Terry Whall bellach dan glo, mae’r

ffaith nad yw’r union gymhelliad yn gwbl glir yn awgrymu

bod pennod afaelgar arall eto i ddod.

‘Mae’n hyfryd clywed Meic yn

dechrau sgwrsio’n Gymraeg

gydag ambell gyfrannwr iaith gyntaf

hefyd, cyn troi i’r Saesneg er budd

y gynulleidfa Brydeinig’

Daeth podlediadau i’r adwy sawl tro ar hyd yr A470

syrffedus, wrth i mi lawrlwytho a gwrando’n ôl trwy system

Bluetooth y car.

Ffefryn arall ydi Gwreichion sy’n olrhain hanes yr ymgyrch

losgi 30 mlynedd ers iddi ddod i ben.

Roeddwn i’n gwybod ein bod ni mewn dwylo diogel,

gan mai’r newyddiadurwr Ioan Wyn Evans oedd awdur a

chyflwynydd podlediad cyfareddol Y Diflaniad am ffarmwr

Pwylaidd ym mhentre Cwm-du ym 1953.

’Nôl i’w bodlediad diweddaraf, ac mae’n gronicl

cynhwysfawr o’r tŷ haf cyntaf a losgwyd ym 1979 hyd at yr

achos llys drwgenwog yng Nghaernarfon 1993.

Clywn gan arbenigwyr niferus, o’r hanesydd Dr Elin

Jones, Marian Wyn Jones ac Alun Lenny o’r BBC, a’r

cyn-wleidyddion Elfyn Llwyd a’r Tori Nicholas Bennett - heb

anghofio Dafydd Iwan.

Meic Parry

arlein - YCymro.Cymru

Y bennod ddifyrraf oedd ‘Yng ngwyneb y

fflam’ am y bobl gyffredin ddaeth i gyswllt â

gweithredoedd Meibion Glyndŵr.

Clywsom am brofiadau Euros Edwards,

‘dyn y Preseli o’i gorun i’w sawdl’ ac aelod

o’r criw tân lleol wnaeth ymateb i dŷ a oedd

yn wenfflam yn unigeddau Mynachlog-ddu

ym 1985.

Wrth iddo fe ac Ioan Wyn Evans

ddychwelyd i safle’r llosgi, mae’n cofio’r

braw o weld bom tân (incendiery device) yn

ffrwydro yn llaw’r arbenigwr difa.

Cawn atgof arall o fis Medi 1986, a

Marian Wyn Jones yn sôn am ‘gyfweliad

emosiynol iawn iawn’ gyda pherchennog tŷ

haf a losgwyd yn golsyn.

Perchennog a oedd yn digwydd siarad

Cymraeg, cofiwch.

Prawf nad oedd y sefyllfa’n gwbl ddu a gwyn, fel y Cymry

hynny sy’n elwa ar yr AirBnBs cynhennus heddiw.

Mae cyfres dwy ran Firebombers! ar iPlayer yn trafod yr un

cyfnod cythryblus yn ein hanes, ac yn y ciw gwylio fama.

Bechod nad ydi’r rhaglen ddogfen Bryn Fôn: Chwilio am

Feibion Glyndwr a ddarlledwyd ar S4C dwy flynedd yn ôl

yn dal ar gael trwy archif Clic.

Sôn am Clic, braf gweld y gwasanaeth ar alw Cymraeg yn

ymddangos ochr yn ochr â’r mawrion ffrydio fel Netflix a

Disney+, gan agor S4C i 16 miliwn o gartrefi newydd yn ôl

gwefan freeview.co.uk.

Llai o wylio ar sgrin bitw fy ffôn lôn felly, a mwy ar deledu

clyfar mawr y lolfa, yn enwedig gan fod Clic yn

rhagori ar iPlayer o safbwynt isdeitlau Cymraeg.

Jesd mewn pryd i ddal i fyny ar rygbi o Ffrainc a

drama newydd Anfamol y mis hwn.

The Crossbow Killer - mi fuasai’n gwneud

chwip o ddrama deledu ar BBC Wales

Gwreichion sy’n olrhain hanes yr ymgyrch losgi

30 mlynedd ers iddi ddod i ben

Lauren Jenkins a phodlediad Cwpan Rygbi’r Byd

Y Mosabbirs - Cymry Bangladeshaidd Aberteifi
16

Tybed wir ...a oes trysor o anifeiliai

ei guddio o dan un o gestyll Cymru

Archwilio’r chwedlau di-rif am y gaer drawiadol a

a adeiladwyd mewn adeg gythryblus yn ein hane

gan Mel Hopkins

Mae Cymru yn enwog iawn am ei chestyll mawreddog

ac yn dystiolaeth weledol o’n hanes o wrthryfeloedd dros

ganrifoedd.

Amcangyfrifir bod gennym dros 600 ohonynt, sydd yn gwneud

ein gwlad gyda’r mwyaf am bob milltir sgwâr yn Ewrop.

Mae’n siŵr bod gennych eich hoff gastell ac mae un yng ngogledd

Cymru yn llawn hanesion a chwedlau sydd yn mynd â ni o chwedlau

enwog Cymru a chreulondeb yr oesoedd canol i un o chwedlau mwyaf

Llundain ac efallai’n ddylanwad ar un o ganeuon enwocaf Cymru.

Y tro cyntaf es i Ddinas Brân oedd gyda ffrind ar ddiwrnod bendigedig

o haf ac roedd llawer o bobl yn mwynhau picnic ar y llethrau.

Saif castell Dinas Brân ar fryn uwchben dyffryn Llangollen, yn yr

hen ddyddiau galwyd y llethr i’r castell gan yr enw ‘Allt y Mulod’,

achos cludai’r trigolion lleol

ymwelwyr i’r castell ar fulod.

Gellir gweld yn syth ei

leoliad strategol, ar ben bryn

ac yn rhoi golwg godidog o’r

dyffryn. Gellir gweld mynydd

Cyrn y Brain yn y pellter.

Mae’r enw yn ddiddorol,

rydym yn cysylltu’r gair

‘Dinas’ gyda phrif drefi Cymru

ond yn hanesyddol ystyr y gair

oedd ‘caer’ ac yn adlewyrchiad

o bwysigrwydd nifer o lefydd

yng Nghymru, megis Dinas

Dinlle, Dinas Powis a Dinas

Mawddwy.

‘Yn ôl y stori roedd traddodiad

bod ysbrydion yn aflonyddu’r

castell. Penderfynodd marchog,

Payn Peveril a 15 cyfaill aros

dros nos’

Cyfeirio at noddfa i deuluoedd ar ben y bryn gyda’u hanifeiliaid

sydd yma. Mae’r gair ‘Brân’ yn ddiddorol ac yn ein harwain i nifer o

gyfeiriadau.

Yn llythrennol golyga’r gair aderyn, ond mae nifer o haneswyr eraill

yn awgrymu mai tarddiad yr enw yw Brân, mab Dug Cernyw a’i wraig

Corwenna. Os yn gywir mae hyn yn egluro tarddiad yr enw Corwen sydd

yn deillio o enw mam Brân.

Mae eraill, yn cysylltu’r enw â brawd Branwen, sef Bendigeidfran. Yn

ôl y chwedl enwog, plant i Benarddun, gwraig Llŷr Duw y Moroedd

oeddynt.

Yn ôl traddodiad y Triawdau claddwyd pen Brân yn nhomen claddu

Bryn Gwyn ar y man safai’r Tŵr Gwyn yn Llundain heddiw. Tra bod pen

Bendigeidfran yno roedd Prydain yn ddiogel o oresgyniad.

Efallai dyma darddiad y traddodiad diweddarach o gymysgu enw Brân

gydag adar yn Llundain heddiw. Roedd y brenin Siarl II yn ofni dinistr y

goron os oedd y brain yn ffoi o’r Tŵr.

Mewn traddodiad arall, cloddiodd y

brenin Arthur am ben Bendigeidfran gan

ddatgan mai ef oedd unig amddiffynnydd

Prydain ac roedd Prydain yn

ddiogel o ymosodiad tra ei

fod e’n fyw.

Un o’r prif chwedlau am

Bendigeidfran yw mai ef yw’r

cymeriad enwog y Brenin

Pysgotwr yn chwedlau’r Oesoedd Canol.

Mae tebygrwydd oherwydd yn un o’r

chwedlau am Peredur gan Chrétien de Troye

mae’r arwr yn cyrraedd castell diarffordd lle

mae’n cwrdd â’r Brenin Pysgotwr. Mae ganddo

anaf yn ei goes yn debyg i Frân Fendigaid yn ei

droed. Mae Robert de Boron yn enwi’r Brenin

pysgotwr fel Bron ac mewn chwedl o Gymru,

Peredur. Mae’r arwr yn dod ar draws pen gwahanedig, sydd

yn adlewyrchu tynged Bendigeidfran. Yn y castell mae grym

y Grâl Sanctaidd i iachau yn debyg i grochan Bendigeidfran

o ddod â’r meirw yn fyw.

Mae chwedl draddodiadol bod trysor mewn ogof o dan y

castell, fel sydd mewn nifer o gaerau eraill. Mae gennym

adroddiad hynod o ddiddorol yn y rhamant ‘Hanes Fulk

Fitz-Warine’, mae copi o tua 1320 yn y Llyfrgell Brydeinig

ond sy’n cynnwys hanesion cynharach.

Ynddo mae cyfeiriad cynnar at gastell Dinas Brân

‘chastiel Bran’ gan ddweud dyma oedd hen enw’r castell ac

fe’i hadnabyddir gan yr enw’r Hen Oror ‘The Old March’ ar

ddechrau’r 14eg ganrif.

Yn ôl y stori roedd traddodiad bod ysbrydion yn

aflonyddu’r castell. Penderfynodd marchog, Payn Peveril a

15 cyfaill aros dros nos. Yn ystod storm enfawr dihunodd

y cawr, Gogmagog a drigai yn y castell. Ymosododd ar y

marchogion cyn iddo gael ei ladd.

Mewn troad dramatig cyn iddo gymryd ei anadl olaf

datgelodd y cawr bod yr ysbryd Beelsebwl ynddo a bod

trysor yn cuddio o dan y castell. Roedd y rhestr yn faith,

‘Ychen, gwartheg, elyrch, peunod, ceffylau, a phob anifail

arall wedi’i wneud o aur cain.’

Nid diwedd y stori yw cysylltiad y castell â hanesion

hynafol. Ysgrifennodd yr hanesydd R. Matthews am

frenin Wessex, Caewlin yn y 570au yn ffoi i Gymru ac yn

John Leland yr hynafiaethydd - tyst i ddirywiad Dinas Brân -

gan Thomas Charles Wageman

ymsefydlu yn nyffryn Collen ger y ca

yn ddadleuol iawn gan mai Sant Colle

Yn ôl y damcaniaeth bu raid i Caew

yng Nghymru ar ôl brwydr Adam’s G

592. Mae’r cronigl Eingl Sacsonaidd

Serch hyn mae R. Mathews yn credu

o dan yr enw Collen yng Nghymru ac

Collen. Prynodd dir yn Rhysfa Maes C

dod yn fynach ac yn ôl y theori bu far

Yn y record hanesyddol, mae hanes

cymharol fer bu’n gadarnle amddiffyn

‘Yn ystod storm enfawr dih

G o g m a g o g a d r i g a i y n y c a s t e l l . Y m o

cyn iddo gael ei la

John Ceiriog Hughes

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Adeiladwyd yn y 1260au gan Dywy

cythryblu

Yn ysto

I yn erby

goroesi r

wedi’i se

Caniata

castell yn

roedd yn

frawd Lly

Fe wnae

Dafydd a

at Ddinas

Roedd d

10fed 12

Dinas Br

ganlyniad

Bu farw M

goroesod

Daethan

a Roger M

West yn a

ifanc fod

arglwydd

Yn 128

de Waren

adeiladu

ei fod yn

dirywiad

Yn 149

ac ar ôl h

fath radd

hynafiaet

1536- 15

ac yno ar

yn sefyll

bridio. M

sy’n tarfu
d aur wedi

r y bryn

s

‘ Y c h e n ,

gwartheg,

e l y r c h ,

peunod,

c e ff y l a u , a

p h o b a n i f a i l

arall wedi’i

wneud o aur

cain’

17

stell tua 592. Mae’r dehongliad hyn

n oedd Caewlin.

lin ffoi o Wessex gan ymsefydlu

rave (Alton Priors yn Wiltshire) yn

yn cofnodi ei farwolaeth yn 593.

bod hanes Caewlin yn parhau

yn dilyn ei hanes trwy Fuchedd

adfarch gyferbyn i Ddinas Brân, a

w tua 615 yn Llangollen.

diddorol i’r castell er am gyfnod

nol.

unodd y cawr,

s o d o d d a r y m a r c h o g i o n

dd’

sogion Powys. Roedd hi’n gyfnod

s yn hanes ein gwlad.

d 1277 symudodd lluoedd Edward

n y castell. Mae cytundeb wedi

hwng Edward I a Madog Fychan ac

lio yng Nghaer ar 21 Ebrill 1277.

odd i Madog ddinistrio neu gadw’r

gyfan gwbl. Pe bai’n ei gadw

rhaid iddo roi gwerth y castell i’w

welyn.

th y lluoedd brenhinol o dan

p Gruffudd ac Iarll Warwick agosáu

Brân o Gaer.

igwyddiad rhyfedd ar Fai

77 pan osododd garsiwn

ân y castell ar dân o bosibl o

i deimlo na allent ei amddiffyn.

adog Fychan ym 1277 a

d ei feibion Llywelyn a Gruffudd.

t o dan wardiaeth John de Warenne

ortimer. Mae’r hanesydd Keith

wgrymu y gallai’r tywysogion

wedi cael eu boddi gan yr

i.

2 daeth y castell o dan ofal John

ne, Iarll Surrey ond penderfynodd

castell yn Holt o bosib oherwydd

lleoliad gwell. Dyma ddechrau

castell Dinas Brân.

5 pasiodd y castell i ddwylo’r goron

ynny syrthiodd i gyflwr gwael, i’r

au ysgrifennodd John Leland, yr

hydd, pan deithiodd i’r ardal tua

39: “Mae’r cyfan yn adfail bellach:

ochr y graig hynny mae’r castell

arno yn flynyddol mae eryr yn

ae’r eryr yn ymosod yn arw ar ef

ar y nyth.”

Mae yna awdl i ferch ddeniadol o Ddinas Brân

yn dyddio i’r 14eg ganrif ac yn rhan o gyfrol y

Myvyrian Archaiology of Wales (1870) o dan y teitl

‘Awdl i Fyfanwy Fechan o Gastell Dinas Brân’ gan Hywel

ab Einion Llygliw.

Mae’r gerdd wedi goroesi mewn tair llawysgrif ac

awgrymir bod un ohonynt wedi ei ddarganfod yn wal

y castell. Cerdd sydd yn disgrifio cariad y bardd tuag

at Myfanwy ond yn anffodus nid yw Myfanwy yn

dychwelyd y cariad.

Mae trafodaeth dda o’r gerdd ar wefan Curious

Clwyd gan awgrymu hi oedd merch Iorwerth Ddu’r Prif

Fforestydd a briododd Arglwydd Penmynydd,

Goronwy ap Tudur Hen. Rhaid bod Hywel yn

llawn dychymyg gan fod y castell yn adfeilion

erbyn hyn. Mae yna gerdd gyfoesol arall am

Myfanwy gan Rhisierdyn lle disgrifir hi fel,’

Mygr hoywlamp Powys’.

Mae cysylltiad enwog arall rhwng y

castell â llenyddiaeth Cymru. Defnyddiodd

Ceiriog y gerdd gan Hywel fel thema

i’w gerdd ‘Myfanwy Fechan’, enillodd y

Rhieingerdd Fuddugol a choron arian yn eisteddfod

Llangollen yn 1858.

Mae’r gerdd yn disgrifio bardd o’r enw Ifan yn canu

wrth droed ffenest Myfanwy am ei phrydferthwch. Mae

Ifan yn hoff o Ddinas Brân gan ganu:

‘O na bawn yn awel o wynt

Yn rhodio trwy ardd Dinas Brân.’

Wrth i’w dyweddi glywed hyn, bygythiodd y bardd. Ar

ddiwrnod y briodas ymddangosodd Ifan eto trwy wthio

drysau’r castell gan ganu mawl i

Myfanwy.

Wrth iddo orffen diflannodd

y bardd yn gyfan gwbl, dim

ond atseiniad sŵn ei Delyn yn

tasgu ar y llawr caled oedd i’w

glywed. Pan welodd Myfanwy

hyn cwympodd i’r llawr yn farw.

Yn ôl traddodiad lleol mae’r

man lle ddigwyddodd hyn ger

adfeilion y twr cromfannol.

Efallai dylanwadodd cerddi

Hywel ab Einion Llygliw a

Ceiriog am Myfanwy ar eiriau

Richard Davies i’r gân enwog

Myfanwy gyda cherddoriaeth gan

Joseph Parry.

Beth bynnag yw gwirionedd y

chwedlau di-rif am Ddinas Brân,

un peth sydd yn sicr, byddwch

wrth eich bodd yn ymweld ag

un o gestyll hynod Cymru a

byddwch wyliadwrus - efallai y

gwelwch yr anifeiliaid aur sydd

ar goll yna rhywle.

Castell Dinas Brân gan Richard Wilson 1770

Y beili mewnol Dinas Brân (Cynnydd CC BY-SA 3.0)

Cerflun Bendigeidfran a Gwern gan Ivor Robert-Jones

(GeraintTudur2, CC BY-SA 3.0)

@y_cymro
18

Menter newydd i gynyddu lleisiau

Cymraeg wrth lunio iechyd a gofal

Mae’r corff annibynnol Llais wedi creu

partneriaeth i ddod â lleisiau Cymraeg i

mewn i’r sgwrs am wasanaethau iechyd a

gofal cymdeithasol yng Nghymru

Nod y fenter - gyda’ r Urdd, Merched y

Wawr, Mudiad Meithrin a’r Ffermwyr Ifanc -

yw creu pont sy’n galluogi siaradwyr Cymraeg

o wahanol gefndiroedd ac ardaloedd i fod yn

rhan o lunio gwasanaethau sy’n effeithio’n

uniongyrchol ar eu bywydau.

Mae’r fenter yn rhan o genhadaeth Llais i

feithrin deialog agored rhwng y cyhoedd, y

rhai sy’n gwneud penderfyniadau a darparwyr

gwasanaethau.

Bydd y sefydliadau’n cydweithio i greu mwy

o gyfleoedd i gasglu barn unigolion drwy

gyfrwng y Gymraeg ar draws y gwahanol

gymunedau yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes,

Cadeirydd Llais: “Mae sefydlu partneriaeth

o’r fath rhwng y sefydliadau cenedlaethol

hyn yn cydnabod amrywiaeth ieithyddol a

diwylliannol Cymru a’i harwyddocâd

wrth lunio gwasanaethau iechyd a gofal

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig

wedi lansio ymchwiliad sy’n edrych ar

newid yn y boblogaeth yng Nghymru gan

ganolbwyntio’n benodol ar pam mae

pobl iau yn gadael, yn enwedig yng

nghadarnleoedd y Gymraeg.

Mae gan Gymru gyfran uwch o bobl hŷn

nag mewn mannau eraill yn y Deyrnas

Unedig - mae’n uwch na holl ranbarthau

Lloegr ac eithrio’r de orllewin.

Mae nifer y bobl 15 i 64 oed sy’n byw yng

Nghymru hefyd wedi gostwng 2.5% rhwng

2011 a 2021. Mae hyn yn rhan o ddarlun

mwy sy’n dangos bod twf poblogaeth Cymru

yn arafu.

Rhwng 2001 a 2011, cynyddodd

poblogaeth Cymru 5.5%, ond rhwng 2011 a

2021, gostyngodd hyn i 1.4%.

Ond mae rhai ardaloedd yn gweld

cyfraddau twf uwch gyda Chasnewydd,

Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr oll yn

cofnodi cynnydd sylweddol yn y boblogaeth.

Fodd bynnag, mae rhai awdurdodau

lleol yn cofnodi poblogaethau is yn 2021 o

gymharu â 2011 fel Blaenau Gwent.

Yr hyn sy’n peri pryder arbennig yw’r

dirywiad yn y cadarnleoedd Cymraeg fel

Ceredigion a Gwynedd.

Mae’r Pwyllgor yn ceisio deall y rhesymau

cymdeithasol. Sefydlwyd Llais i fod yn

gorff annibynnol cynhwysol sy’n gweithio

mewn partneriaeth i hyrwyddo hawliau a

disgwyliadau pobl sy’n byw yn ein cymunedau

ledled Cymru ac mae’r bartneriaeth hon yn

ymgorffori’r agwedd hon. Edrychaf ymlaen

at fwy o ddatblygiadau fel hyn yn y misoedd

nesaf.”

Dywedodd Sian Lewis, Cyfarwyddwraig Yr

Urdd: “Mae’r Urdd yn falch o’r cyfle i sicrhau

bod lleisiau pobl ifanc Cymru yn cael eu

clywed wrth fireinio iechyd a gofal

cymdeithasol.

Nododd Tegwen Morris,

Cyfarwyddwraig Genedlaethol Merched y

Wawr: “Mae Merched y Wawr yn rhoi pwys

mawr ar ddatblygu cyfleoedd llesiant. Bydd

y cydweithio hwn yn sicrhau bod lleisiau ein

haelodau yn cael

eu clywed ac yn

gallu dylanwadu

ar ddatblygiadau

perthnasol.”

YesCymru yn lansio ysgoloriaeth sy’n

deyrnged i ddawn dweud Eddie Butler

Lansiwyd ysgoloriaeth newydd ar faes yr

Eisteddfod er cof am lais a dawn llefaru’r

diweddar Eddie Butler.

O flaen cynulleidfa ym mhabell y

cymdeithasau oedd yn cynnwys merch

Ed, Nell a ffrind i’r teulu Rachel, cafwyd

cyflwyniad gan YesCymru i lansio darlith

goffa flynyddol fydd hefyd yn cynnwys

gwobrwyo’r llefarydd ifanc am ysgrifennu a

chyflwyno’r araith orau dros annibyniaeth.

Yn ogystal ag edrych ar yr elfennau sy’n

gwneud araith lwyddiannus, cafwyd tipyn

o hwyl yn ystod y cyflwyniad wrth i’r

siaradwyr gwadd, yr economegydd Rhys

ap Gwilym a phrif weithredwr Yes Cymru

Gwern Gwynfil fynd ben ben a’i gilydd

mewn cystadleuaeth areithio.

Bwriad ysgoloriaeth Eddie Butler fydd

dathlu a datblygu’r genhedlaeth nesa o

lefarwyr talentog ac mae YesCymru’n

annog athrawon a disgyblion ysgolion

uwchradd, colegau a phrifysgolion (oed

14-21) i gysylltu am fwy o fanylion cyn

mynd ati i greu areithiau angerddol, clyfar

ac ysbrydoledig.

Cyswlltwch am fwy o fanylion; Phyl

Griffiths - phyl@yes.cymru

Pwyllgor i ffeindio pam yn union

mae ein pobl ifanc yn gadael

dros newid yn y boblogaeth yng Nghymru

a’i effeithiau. Bydd hefyd yn archwilio pa

fesurau y gallai Llywodraeth y DU eu rhoi ar

waith i fynd i’r afael â’r heriau.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor

Materion Cymreig, Stephen Crabb AS: “Mae

poblogaeth Cymru yn newid. Mae twf yn

arafu yn gyffredinol, tra bod rhai ardaloedd

fel Ceredigion yn gweld gostyngiad llwyr yn

nifer y trigolion.

“Mae’r boblogaeth yn heneiddio ar draws

Cymru gyfan, a Chaerdydd, Casnewydd a

Phen-y-bont ar Ogwr yw’r unig leoedd sydd

wedi profi cynnydd yn nifer y bobl o oedran

gweithio.

“Mae ein Pwyllgor eisiau tynnu sylw at y

tueddiadau hyn a gofyn beth maen nhw’n ei

olygu i Gymru.

“Rydym yn arbennig o awyddus i ddeall

pam mae pobl iau i’w gweld yn gadael

Cymru – yn enwedig mewn ardaloedd

Cymraeg eu hiaith.

“Byddwn yn edrych yn benodol ar effaith

y tueddiadau hyn ar economi a marchnad

lafur Cymru, a’r goblygiadau i wasanaethau

cyhoeddus.”

Mae’r Pwyllgor yn derbyn cyflwyniadau

ysgrifenedig ar y newidiadau erbyn dydd

Gwener, Medi 22.

Y Croesair gan Alun Jones
‘Mae’n help mawr’ - grantiau i

brynwyr tro cyntaf adnewyddu

cyn-dai haf yng Ngwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio

addasiad arloesol i un o’i gynlluniau

tai, er mwyn rhoi’r cyfle i ddod â hyd

yn oed mwy o aneddiadau segur yn ôl i

ddefnydd ac i ddwylo trigolion lleol.

Mewn digwyddiad ar ei stondin yn ystod

Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd,

cyhoeddodd y bydd tai a fu’n arfer bod yn

ail gartrefi bellach yn gymwys am grant

prynwyr tro cyntaf i adnewyddu tai gwag,

gan ehangu’r opsiynau sydd ar gael i bobl

leol gymryd y cam cyntaf ar ysgol eiddo.

Mae’r cynllun ehangach i gynnig grantiau

i adnewyddu tai gweigion wedi bod yn

weithredol ar ei ffurf presennol ers 2021

a daw’r addasiad hwn mewn ymateb i

gynnydd yn y nifer o ymgeiswyr sy’n methu

bodloni’r meini prawf i dderbyn y grant.

‘Mae’n bwysig nodi

nad am y stereoteip

tai haf sydd werth

miliynau ’da ni’n

siarad amdanyn

nhw yma’

Yn flaenorol, nid yw perchnogion

cyn ail gartrefi wedi bod yn gymwys ar

gyfer y grant, er gwaetha’r ffaith eu bod yn

adeiladau segur. Felly, er mwyn ymateb i’r

diffyg hwn, mae’r Cyngor wedi penderfynu

ymestyn meini prawf y cynllun i gynnwys tai

segur a fu’n arfer bod yn ail gartrefi, hynny

yw eiddo a fu’n gymwys i dalu Premiwm

Treth Cyngor.

Mae’n hysbys bod diffyg tai addas i bobl

leol yng Ngwynedd, tra bod bron i 10%

o holl dai’r sir yn ail gartrefi. Mewn rhai

ardaloedd yng Ngwynedd, mae’r ffigwr yn

sylweddol uwch, megis Aberdyfi (43%),

Trawsfynydd (42%) a Llanengan (39.8%).

Mae hyn yn ei dro yn golygu bod yr

opsiynau sydd ar gael i bobl leol gymryd y

cam cyntaf ar ysgol dai yn gyfyngedig iawn.

Hyd yma, mae tua 70 o brynwyr tro cyntaf

o Wynedd wedi cael help i fyw yn lleol

diolch i’r Cynllun Grantiau Prynwyr Tro

Cyntaf i Adnewyddu Tai Gwag, sy’n rhan

allweddol o Gynllun Gweithredu Tai Cyngor

Gwynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago,

Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai

ac Eiddo: “Tra mae nifer bobl Gwynedd yn

methu canfod eu tŷ cyntaf, mae cannoedd o

dai yng Ngwynedd yn eiddo i berchnogion

sydd eisoes â thŷ arall. Ac yn aml iawn

mae ail dai yn wag am gyfnodau hir o’r

flwyddyn a nifer mewn cyflwr gwael.

Ochr-yn-ochr â hyn, mae 65.5% o

boblogaeth Gwynedd wedi’u prisio allan o’r

farchnad dai, ac mae hynny gymaint â 96%

mewn ardaloedd sydd â nifer o dai gwyliau.

“Mae gwneud cyn ail gartrefi yn gymwys

i dderbyn y grant yma felly yn gwneud

perffaith synnwyr, ac yn un ffordd arall y

gallwn helpu trigolion Gwynedd gymryd y

cam cyntaf i sicrhau cartref yn lleol.

“Mae’n bwysig nodi nad am y stereoteip

tai haf sydd werth miliynau ’da ni’n siarad

amdanyn nhw yma, ond yn hytrach y tai

teras, bythynnod ac ati sydd wedi’u gadael

a’u hanghofio ac wedi mynd i gyflwr gwael

dros amser.

“Mi faswn i’n annog unrhyw un sy’n

berchen ar dŷ a oedd yn arfer bod yn ail

gartref gwag nes iddynt ei brynu, i edrych

ar wefan y

Cyngor am fwy

o fanylion, neu

gysylltu â thîm

Grantiau Tai

Gwag y Cyngor

am sgwrs.”

Dywedodd

Siôn Taylor,

derbynnydd

cyntaf y grant

ar ei newydd

wedd: “Roedd

y tŷ dwi wedi

ei brynu’n

arfer bod yn gartref i fy ffrind a dw i’n cofio

chwarae yma’n hogyn bach. Gwerthwyd

y tŷ rhyw 15 mlynedd yn ôl ac aeth o’n ail

gartref. Roedd o ar lefydd fel Airbnb, sy’n

bechod gan fod gymaint o bobl ifanc, leol

eisiau aros ac eisiau tŷ.

“Mae’r grant yn golygu gymaint i fi. Wnes

i drio amdano fo pan brynais i’r tŷ a ges i

fy ngwrthod. Ro’n i mor falch pan ddaeth y

Cyngor yn ôl mewn cysylltiad i ddeud bod y

telerau wedi newid.

“Mae o am fod yn help mawr cael ail

wneud y tŷ a symud i mewn yn gynt. Fel

arall, fysa wedi cymryd blynyddoedd i neud

o’n hun.

“Swn i’n argymell i rywun drio am y grant

sydd yn yr un sefyllfa â fi, mae o werth ei

gael. Cysylltwch efo’r Cyngor a gweld be

fedran nhw ei neud i chi.”

arlein - YCymro.Cymru

Yn y byd busnes...

Deallusrwydd artiffisial a’i

oblygiadau i unigolion a

busnesau Cymru

gan Gari Wyn Jones

Ar hyn o bryd mae pob papur newydd, cylchgrawn ac adran newyddion a sianel

radio a theledu yn suddo i fôr cymhlethdod ‘Deallusrwydd Artiffisial’.

Does dim modd gwylio rhaglen newyddion na throi tudalen papur newydd heb wynebu

trafodaeth am oblygiadau a bygythiad y twf technolegol ysgubol hwn ar fywydau pawb.

Boed ni’n cytuno gyda datblygiad AI neu beidio, fedr ’run ohonom osgoi wynebu’r ffaith

y bydd rhaid inni gyd wynebu’r newid a ddaw yn ei sgil.

Mae’n rhaid i bob un ohonom ddysgu delio gyda phob newid mewn cymdeithas er ein

mwyn ein hunain a phawb o’n cwmpas. ’Ryda ni i gyd yn byw mewn byd lle mae’n rhaid

inni addasu a mabwysiadu, ac efallai bod hyn ynddo’i hun yn rhywbeth y mae sefydliadau

a busnesau Cymreig yn llawer rhy araf i ddelio gyda nhw.

Mae angen pellach i holl egwyddor gwaith bob un ohonom addasu a newid. Os na

wnawn ni hynny byddwn yn gwneud cam â’r rhai ieuengaf sy’n ein holynu, ac yn atal

datblygiad eu gyrfaoedd a’u bywydau personol.

Ystyr y term ‘addysg gydol oes’ (lifelong learning) yn y pendraw ydi fod angen i bobl

gael eu haddysgu a’u hyfforddi pan fydda’ nhw’n 65 oed yn ogystal â phan fydda nhw’n

20 oed. Os nad yw’r to hŷn yn fodlon ac yn barod i wneud hynny yna oni ddylie nhw

ystyried symud i’r naill ochor a gwneud lle i’r to nesaf?

Mae fy nghenhedlaeth i wedi disgyn i’r rhigol o gredu mai addysg ydy’r hyn ryda’ ni’n

wneud mewn coleg rhwng deunaw a dwy ar hugain oed, ac mae’r meddylfryd hwnnw yn

rhoi rhyw gyfforddusrwydd hunan gyfiawn i’r rhai hynny ohonom a ddechreuodd ar ein

gyrfaoedd dros ddeg mlynedd ar hugain yn ôl.

Yn bersonol rydw’ i wastad wedi credu na ddylai neb lenwi yr un swydd neu

gyflawni yr un gwaith am fwy nag ugain mlynedd. Mae’r sector gyhoeddus at ei gilydd

yn llwyddo i newid rôl unigolion neu yn newid

‘...tydy peidio addysgu

ein hunain a bod yn

amharod i newid, ddim

yn opsiwn’

19

meysydd mae unigolion yn arbenigo ynddyn nhw,

ond edrychwch ar sectorau eraill, er enghraifft, ar y

cyfryngau Cymreig.

Mae’r un bobl yn gneud yr un gwaith ddegawd

ar ôl degawd, ac yn y pendraw be mae hyn yn ei

neud ydy atal cyfleon i’r ifanc drwy”r ffaith bod

y to hŷn am ddal ati i hawlio eu gorseddfainc ar

draul gobeithion a brwdfrydedd y rhai ieuengach. Mae rheolwyr ambell sefydliad a busnes

hefyd yn aml yn gyndyn o wthio y rhai hŷn i’r naill du rhag ofn iddynt gael eu cyhuddo o

‘oedraniaeth’.

Mae’r diffyg newid cyfeiriad yma hefyd yn gallu digwydd o fewn y gyfundrefn addysg,

ac o ganlyniad fe welir diffyg brwdfrydedd ymhlith yr athrawon hynny sydd heb newid

cyfeiriad yn ystod eu gyrfa ac o fewn eu proffesiwn.

Gadewch inni fod yn onest; onid oes modd dadlau na fydd angen prifysgolion mewn

degawd? Mae’r Brifysgol Agored yn profi’r ffaith yma drwy gyfrwng platfform

addysg ‘Open Learn’ sef llwyfan addysgol ble gallwch chi hunan addysgu a gwella eich

cymwysterau heb dalu ceiniog, a gwneud hynny drwy fanteisio fwyfwy ar ddeallusrwydd

artiffisial. Dyma’r ffordd ymlaen i ddatblygu eich gyrfa a thorri lawr ar eich dyled ariannol

ac fe allwch ddilyn y system yma hyd yn oed os ydych chi’n 80 oed!

Rydw i wedi bod yn chwarae hefo’r GPT AI dros yr wythnosau diwethaf (ar ôl i un o fy

meibion ei gyflwyno imi uwchben potel o win!)

Mi benderfynais sgwennu cerdd i ddisgrifio ‘Bywyd yn Ceir Cymru’. Ar ôl bwydo’r

wybodaeth angenrheidiol a chlicio’r botwm, mi gefais ddarn o farddoniaeth (Saesneg)

pum pennill o hyd.

Sioc ac anghrediniaeth! Gofynnwch i AI lunio safle we ichi ar sail nifer o ganllawiau

syml ac fe wnaiff hynny mewn eiliadau. Rydw i bellach wedi dechrau credo y gallwn i

gyflwyno podlediad lleisiol artiffisial yn trafod ceir ail law. Ond beryg bod yna ormod o

bobl bellach wedi blino ar glywed fy llais dros y degawdau!

Ynghanol dryswch y dechnoleg newydd yma mae un peth yn hollol glir. Mae’r newid yn

mynd i ddigwydd. Bydd newid yn parhau i’n herio. Felly tydy peidio addysgu ein hunain a

bod yn amharod i newid, ddim yn opsiwn, boed ni’n 20 oed neu’n 70 oed. Efallai’n wir ei

bod hi’n amser i holl sefydliadau a busnesau Cymru wynebu’r realiti di-droi ’n ôl yma er

mwyn parhad ac esblygiad Cymreictod.

Cofio dyddiau 40 gradd 2022? ....wel, mae llawer mwy ar y ffordd

Mae’n debyg bod haf poeth y llynedd yn

arwydd o’r hyn sydd i ddod ac yn dystiolaeth

o gynhesu byd eang, yn ôl adroddiad gan y

Swyddfa Dywydd.

Haf 2022 oedd yr un poethaf yn y Deyrnas Unedig

yn ôl cofnodion, gyda’r tymheredd mor uchel â 40

gradd ar un adeg.

Arweiniodd hyn at effeithiau dinistriol mewn

sawl achos, gan gynnwys tanau gwyllt mewn rhai

rhannau o’r wlad.

Er yr holl law eleni dywed y Swyddfa Dywydd fod

y tymheredd wedi bod yn codi uwchben 36 gradd yn

fwy rheolaidd nag erioed o’r blaen.

Yn ôl rhagamcanion hinsawdd, mae ‘hafau

poethach a sychach’ ar y gweill.

Dywedodd Oli Claydon o’r Swyddfa Dywydd fod

cyrraedd 40 gradd yn cael ei ystyried yn enghraifft o

‘dywydd eithafol’, ond mae’n debygol iawn y daw’n

ddigwyddiad mwy cyson dros y blynyddoedd nesaf.

Er hynny, mae pump allan o’r deg o flynyddoedd

gwlypaf sydd wedi’u cofnodi ers 1836 yn y Deyrnas

Unedig yn ystod y ganrif hon.

Yn yr un modd, mae lefelau’r môr yn

parhau i godi wrth i rew ddadmer yn

y pegynau ar gyfradd o bron i ddwbl

yr hyn yr oedd hi yn ystod yr ugeinfed

ganrif.

Ychwanegodd Fritha West,

gwyddonydd ymchwil gyda Choed

Cadw, bod tywydd 2022 wedi bod yn

arwydd o wanwyn cynnar, gyda Hydref

cynnes a Chwefror mwyn.
20

Gwrandwch ar hwn...

‘Mae ’na Olau’ gan Pedair yn ennill albwm

Cymraeg y flwyddyn

‘Harmonïau tyner yn cydblethu ag

offeryniaeth gynnil’

Enillwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn oedd Pedair am

eu halbwm, Mae ’Na Olau.

Pedair yw prosiect diweddaraf criw o leisiau amlycaf canu

gwerin Cymru - Siân James, Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard

a Meinir Gwilym.

Gan blethu agweddau nodweddiadol ar eu harddulliau unigol,

maent eisoes wedi profi eu hunain yn un o’r grwpiau mwyaf

poblogaidd.

Ar eu halbwm cyntaf, Mae ’Na Olau, mae harmonïau tyner

yn cydblethu ag offeryniaeth gynnil wrth i’r pedwarawd

gyflwyno alawon traddodiadol a gwreiddiol.

Gobaith yw un o brif themâu’r record hon, gyda Pedair yn ein

hatgoffa trwy eu caneuon cynnil fod harddwch i’w ganfod ym

mhob cornel o’n byd.

Cafodd pedwar aelod Pedair wythnos brysur yn yr Eisteddfod.

Ymddangosodd y bedair ar y cyd yn y cyngerdd agoriadol,

Y Curiad, gyda chôr gwerin yr ŵyl ddydd Sadwrn diwethaf.

Ers hynny maent wedi ymddangos mewn gwahanol

bafiliynau a llwyfannau ledled y Maes naill ai gyda’i gilydd

neu’n unigol.

Derbyniodd yr enillwyr dlws a gomisiynwyd yn arbennig.

Mae’r wobr, a drefnir gan yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC

Radio Cymru, yn dathlu’r cymysgedd eclectig o gerddoriaeth

Gymraeg a recordiwyd ac a ryddhawyd yn ystod y

flwyddyn.

Enwebwyd naw band ac artist gan gynnwys

Adwaith, Cerys Hafana a Fleur de Lys ar gyfer y

wobr.

Eisteddodd panel o feirniaid, gan gynnwys Iwan

Teifion Davies, Marged Siôn, Gwenno Roberts,

Mirain Iwerydd, Dom James, Dafydd Hughes ac

Aneirin Jones, i gyd i wrando ar yr albyms cyn

pleidleisio am eu ffefryn.

Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2023

Rhyddhau EP ar ôl

ennill brwydr y bandiau

Moss Carpet

- Galwad y Cewri

Mae’r artist a’r cynhyrchydd o

Ddyffryn Nantlle, Moss Carpet, yn creu

cerddoriaeth sy’n ‘ffrwydrad rhwng

gwerin a seicedelig’ am ei fod yn hoffi

arbrofi gyda gwahanol genres.

Mae Moss Carpet yn ymuno â label

INOIS - ar ôl iddo ennill Brwydr y

Bandiau 2023 (Maes B /BBC Radio

Cymru).

Ar ôl rhyddhau ‘0-0-0’ ym mis Chwefror,

mae’r artist wedi bod yn datblygu ei sain

a’i set fyw. Mae’r synau newydd yn cael

eu hamlygu ar yr EP ‘Galwad Y Cewri’,

sy’n cynnwys traciau meddal a myfyriol.

Yn dilyn y rownd derfynol gafodd ei

chynnal ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod

Genedlaethol

Llŷn ac Eifionydd

cyhoeddwyd mai

Moss Carpet oedd

enillydd Brwydr y

Bandiau 2023.

Fel rhan o’r

wobr, aeth ymlaen

i agor Maes B ar y

nos Sadwrn.

Parisa Fouladi yn rhyddhau

ei sengl newydd ‘Araf’

Parisa Fouladi

- Araf

Artist Cymreig Iranaidd

o Gaerdydd yw Parisa

Fouladi. Prif ddylanwadau

ei cherddoriaeth yw soul,

neo-soul, jazz a churiadau

hip-hop minimalaidd.

Ar ôl llwyddiant yn

perfformio ar Lwyfan y

Maes yn yr Eisteddfod

Genedlaethol eleni a

pherfformiadau mewn

digwyddiadau fel Tafwyl a

Focus Wales, mae Parisa yn

gyffrous i gyhoeddi ei bod

yn perfformio yng Ngŵyl

Sŵn yn yr Hydref ac yn y

digwyddiad Trawsnewid:

Transform yn Aberystwyth

yn 2024.

‘Araf’ yw y sengl gyntaf

oddi ar ei EP, bydd yn cael ei

rhyddhau yn fuan.

Un o uchafbwyntiau gyrfa

Parisa oedd perfformio yng

nghyngerdd Cymru Wcráin

blwyddyn ddiwethaf, cafodd

ei ddarlledu’n fyw ar S4C.

Uchafbwynt arall oedd

cyflwyno dogfen am Iran

gyda Byd ar Bedwar ac ITV.

Cyfansoddodd Parisa’r gân

‘Araf’ gyda’r offerynnwr

a chyfansoddwr, Charlie

Piercey, cyn cyflwyno’r

trac i’r cynhyrchydd Krissie

Jenkins (Super Furry

Animals, Gruff Rhys, Cate

Le Bon).

Llais emosiynol a chryf dros

guriadau hip-hop esmwyth

gyda strwythur gwahanol i’r

arfer.

Mae ysbrydoliaeth geiriau

caneuon Parisa Fouladi yn

dod o’i phrofiadau ei hun

a materion y byd mae’n

teimlo’n gryf amdanynt.

Y Trials ar daith ac i’w gweld -

a’u clywed - yn Pontio

Mae’r triawd The Trials of Cato

yn dechrau eu taith Hydref fis

nesaf gyda gigs ar hyd a lled

Prydain yn cynnwys un yn Pontio,

Bangor ar ddydd Gwener, Hydref

13.

Fe gafodd y band hwyl

arni’n ddiweddar gyda gig yn

Nhŷ Gwerin yr Eisteddfod

Genedlaethol ym Moduan ac

yna ychydig ddyddiau wedyn mi

oeddent yn perfformio ambell waith

yng Ngŵyl Rhyng-Geltaidd Lorient.

Mae hi wedi bod yn haf prysur

iawn iddynt gyda pherfformiadau

yng Nghanada, America, Gwlad

Belg, Ffrainc a’r Almaen.

Yn gynharach yn y

gwanwyn roeddent hefyd yn

ran o berfformwyr Cymraeg

Focus Wales eleni yn Austin,

Texas ar gyfer gŵyl SXSW.

Wedi’u ffurfio yn

Beirut, Lebanon yn

wreiddiol, dychwelodd

y band - sy’n canu yn y

Gymraeg a’r Saesneg - i

Brydain yn 2016 ac ers

hynny maent wedi bod yn

Dilynwch Y Cymro ar Twitter

perfformio’n ddiflino ledled y wlad.

Enillodd eu halbwm cyntaf, Hide

and Hair y wobr am Albwm Gorau

yng Ngwobrau Gwerin 2019 BBC

Radio 2.

Ymunodd yr offerynnwr a’r

gantores aml-dalentog, Polly Bolton

â nhw ac erbyn hyn mae eu hail

albwm Gog Magog wedi ei

rhyddhau sy’n cynnwys eu trefniant

o gerdd Cynan - ‘Aberdaron’.

Mae tocynnau ar gyfer y gig

yn Pontio ar gael ar y wefan

www.pontio.co.uk

Mae rhestr gyflawn o’u gigs ar eu

gwefan www.thetrialsofcato.com

@y_cymro
Lluniau Y Cymro gan Laura

Nunez

@shes_got_spies

Bandiau Cymru yn serennu yng

Ngŵyl Y Dyn Gwyrdd gan Gruffydd Meredith

21

First Aid Kit

Mi oedd Gŵyl y Dyn

Gwyrdd ger Crughywel yn

llwyddiant arall eleni gydag

oddeutu 25,000 o bobl yn

mynychu eto’r flwyddyn yma.

Y prif bennawd-fandiau oedd Self

Esteem, Devo (mewn glaw trwm yn

pistyllio dros flaen y llwyfan) a First

Aid kit.

Bandiau eraill wnaeth ddenu’r

torfeydd oedd Young Fathers,

Confidence Man ac Amyl and the

Sniffers o Awstralia wnaeth ddod â jolt

gwych ac angenrheidiol o drydan i’r

dorf ar y nos Sul olaf - mi wnaethon

nhw hyd yn oed ddweud pethau am

Loegr i lawenydd mwyafrif y dorf -

bach o hwyl diniwed cefn gwlad ynte?

Rhai o’r prif fandiau Cymraeg a

Chymreig oedd yn chwarae oedd Melin

Melyn, Rogue Jones, Hyll, Gareth

Bonello, H Hawkline a DD Darillo.

Gwychder ysblennydd - Melin Melyn

Roedd set Rogue Jones yn egnïol ac

yn tanio’r ŵyl ar y dydd Iau, set Melin

Melyn ar y prif lwyfan ar y dydd Gwener

yn wychder ysblennydd, a set Hyll, y band

o Gaerdydd, yn effeithiol o ddi-ffỳs mewn

ffordd ffres a hawddgar ar y dydd Sul.

Amy Taylor o Amyl and the Sniffers

Dechreuodd yr ŵyl yn 2003 a hon ydi ei

21ain blwyddyn.

Mae’n cyfrannu £15 miliwn i’r economi

Gymreig bob blwyddyn ac yn rhoi

blaenoriaeth i ddefnyddio busnesau a

chynnyrch lleol a Chymreig.

Self Esteem

‘...llwyddiant arall

e l e n i g y d a g

oddeutu 25,000 o

bobl yn mynychu’

Gyda 12 llwyfan a dros 1000 o

artistiaid yn perfformio bob blwyddyn,

mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn un o bedwar

gŵyl arall yn unig gyda dros 21,000 o

ymwelwyr sydd dal yn annibynnol -

nid oes noddwyr i ddwyn perswâd ac i

effeithio ar annibyniaeth yr ŵyl.

Hon hefyd yw’r unig ŵyl sylweddol ei

maint ble mae gan ddynes (Fiona Stewart)

y mwyafrif o berchnogaeth a rheolaeth

drosti.

Un peth arall o bwys am yr ŵyl ydi

nad yw hi wedi dilyn y ffasiwn diflas ac

Orwelaidd a welir mewn nifer o wyliau

tebyg, i fynd yn cashless ac i wrthod pres

parod.

Mae’r ŵyl yn hybu’r opsiynau a’r dewis

o ddefnyddio pres parod neu daliadau

digidol/gyda chardiau - gyda phres parod

yn unig yn cael ei annog yn aml iawn,

yn cynnwys gan rai o’r stondinau bwyd.

Seren aur arall.

Roedd set Rogue Jones yn egnïol ac yn tanio’r ŵyl

Ffres a hawddgar - Hyll
22

LLYFRAU

‘Persbectif rhywun o’r tu allan i Gymru’

Llygad Diethryn - Simon Chandler Gwasg Carreg Gwalch £8.50

Mae dysgu Cymraeg yn rhugl yn dipyn o gamp, ond

mae Simon Chandler, sy’n enedigol o Lundain, wedi

mynd sawl cam ymhellach.

Yn ogystal â meistroli’r gynghanedd, mae wedi

ysgrifennu ei nofel gyntaf, sy’n rhannol seiliedig ar

hanes chwarelyddol ardal Blaenau Ffestiniog.

Mae’r nofel Llygad Dieithryn yn cael ei hadrodd o

safbwynt Katja, Almaenes ifanc sydd wedi dysgu Cymraeg, a’i

hen, hen daid, Friedrich, fu’n garcharor yng ngwersyll Rhyfel

Fron-goch ger y Bala yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r ddau’n dod ar draws y Gymraeg mewn ffyrdd

gwahanol iawn, ac yn gweld Cymru a’r Gymraeg o’r tu

allan: gyda llygad dieithryn. Mae’r ddau hefyd yn datblygu

cysylltiad personol iawn â Chymru, ac ardal Blaenau

Ffestiniog yn benodol.

Felly pam dysgu’r Gymraeg?: “Ro’n i’n ymwybodol

o’r Gymraeg ers dyddiau’r ysgol gynradd,”eglura Simon,

“gan fod gen i ffrind o Gymro yno oedd yn arfer ceisio fy

nysgu sut i ynganu’r gair ‘Cymru’. Flynyddoedd lawer yn

ddiweddarach, yn 2001, y ces i fy machu go iawn, yn ystod

ymweliad â cheudyllau llechi Llechwedd.

Mae Marlyn Samuel wedi sefydlu’i hun

fel brenhines y nofel boblogaidd Gymraeg,

ac ni fydd ei stori newydd Dros fy Mhen a

’Nghlustiau yn siomi!

Mae’n nofel afaelgar, sy’n llawn hiwmor a

throeon, ac fel sawl un o nofelau yr awdures

mae’n chwarae gyda’r syniad o ffawd.

Meddai Marlyn Samuel: “Ydyn ni’n nabod

pobl go iawn? Mae’n hawdd iawn i ni gael ein

dallu a’n twyllo.

“A hynny yn union fel y prif gymeriad Nina,

sydd yn disgyn dros ei phen a’i chlustiau

mewn cariad efo Marc Jones, ac sy’n cael

ei dallu ganddo. Mae’r nofel yn edrych ar

sut mae un digwyddiad yn gallu newid cwrs

O’r dudalen gyntaf, hawdd yw ymgolli’n

llwyr i fyd cyfriniol ‘Anfadwaith’.

Lleolir y gyfrol mewn teyrnas wedi’i

hysbrydoli gan Gymru ganoloesol, ac yn unol

â’r cyfnod, mae Cyfraith Hywel Dda a Llyfr

Iorwerth yn sylfaen i drefn cymdeithas.

Ond yn yr hen fyd amgen yma, mae cyfraith

a threfn yn nwylo’r Gwigiaid; bodau hynafol

sydd ar genhadaeth i ddiogelu bod troseddwyr

yn talu iawn am eu gweithredoedd. Yn dilyn

llofruddiaeth o dan amgylchiadau rhyfedd,

aiff Ithel, y Gwigyn, ar antur i archwilio’r

anfadwaith.

Yn gwmni i Ithel ar y daith, mae Adwen,

porthmon sy’n canfod ei hun ynghlwm â’r

dirgelwch. Effeithiol yw cael cyfaill dynol

ar y daith i gydbwyso uwch-naturioldeb

Ithel; merch gyffredin nad yw’n meddu ar

ganrifoedd o atgofion, na dyletswydd

swyddogol i hela’r tramgwyddwyr, ac eto’r un

mor barod i beryglu bywyd ei hun er mwyn

cael cyfiawnder i’w thylwyth.

“Clywais recordiad sain yno am fywydau’r chwarelwyr ganrif

ynghynt, a chefais fy swyno gan lais yr adroddwr a’r hanesion.

Fodd bynnag, am amryw resymau gan gynnwys Brexit a’r

ffaith fod fy hunaniaeth fel Ewropead wedi’i dynnu oddi wrtha

i, yn 2016 y dechreuais ddysgu’r iaith.

“Erbyn hynny ro’n i’n ystyried fy hun yn Gymro gan gefnogi

Cymru yn hytrach na Lloegr yn yr Ewros. Cefais afael ar

lu o ddeunyddiau dysgu, a chyda help tiwtor a sawl cyfaill,

dechreuodd fy siwrnai i fod yn rhugl.”

Aeth i ddysgu mwy am ardal Blaenau a’i chwareli, ac un

o’r llyfrau a ddarllenodd oedd ‘Stiniog a’r Rhyfel Mawr’

gan Vivian Parry Williams, lle dysgodd am wersyll-garchar

Fron-goch.

Daeth y syniad yn fuan wedyn am nofel yn trafod

gwarchodwr o Gymru a charcharor o’r Almaen yn dod yn

gyfeillion, ac wedi hynny, yn syrthio mewn cariad.

Ochr yn ochr â hynny mae stori Katja sydd, fel y gwnaeth

Simon ei hun, yn ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst

yn 2019.

Gan fod Simon wedi cael budd mawr o wrando ar lyfr

llafar ar yr un pryd â darllen y llyfr print tra oedd yn dysgu

Cymraeg, mae fersiwn llafar o Llygad Dieithryn ochr yn ochr

bywyd rhywun - tasa Nina heb fynd ar y trip

bws hwnnw yn gwmni i’w modryb, mi fysa ei

bywyd hi wedi bod yn wahanol iawn.”

Yn wahanol i’w nofelau blaenorol, mae Dros

fy Mhen a ’Nghlustiau wedi’i hysgrifennu yn y

person cyntaf, o bersbectif Nina.

Mae bywyd diflas Nina yn newid ac mae sioc

enfawr yn ei disgwyl hi. Mae’r darllenydd yn

darganfod pethau wrth i Nina ddarganfod mwy

o gyfrinachau am ei darpar-ŵr.

Meddai’r actores Gaynor Morgan Rees am

Dros fy Mhen a ’Nghlustiau: “Peidiwch â

dechrau darllen hwn oni bai bod ganddoch

chi’r amser i’w orffen.”

Cafodd nofel ddiwethaf Marlyn,

Pum Diwrnod a Phriodas, glod mawr gan

yr actores Gillian Elisa a ddisgrifiodd hi fel:

Dilynwn Ithel ac Adwen, heb anghofio am

Gel y corgi, wrth iddynt geisio dod at wraidd

y llofruddiaethau, ond nid taith ddidrafferth

mohoni.

O’r ellyll, i’r meirw byw a’r cerrig byw,

mae pob rhwystr wyneba’r ddau yn brawf

o’r cyfoeth o ddychymyg sy’n gefnlen i’r

antur. Rhaid canmol gallu’r awdur i greu byd

sy’n cyflwyno golygfeydd cyfarwydd Oes y

Tywysogion, ond sydd â llinyn o hud a lledrith

newydd a chyffrous yn rhedeg drwyddi.

Ymhellach, tra bod yr antur yn ein tywys ni

i sawl rhan wahanol o’r byd rhyfeddol yma,

mae’r elfen o ddirgelwch yn angor cadarn i’r

plot a datrys y llofruddiaethau yn gyrchnod

pendant i’r daith.

Ond er yr holl greaduriaid ffantasiol sy’n

crwydro’r teyrnasoedd, efallai mai un o

ergydion y nofel yw bod y bygythiad mwyaf

yn deillio o chwant dyn am bŵer, a defnydd o

rym arfog er budd statws personol.

Dyma fygythiad sy’n trosgynnu byd

ffantasiol ‘Anfadwaith’ ac o bosib yn gweld

“difyr a digri. Gwych!”.

Mae ei nofelau eraill, gan gynnwys Cicio’r

Bwced, Cwcw, Milionêrs a Llwch yn yr Haul,

hefyd wedi derbyn canmoliaeth uchel iddi fel

awdures nofelau hwyliog gyda stori gref.

Mae ei gwaith yn llenwi bwlch yn Gymraeg,

gan fod nofelau ysgafn a chyfoes yn gymharol

brin.

Bydd ar gael Medi 20.

Antur mewn byd ble mae’r drefn yn nwylo bodau hynafol

Anfadwaith - Llŷr Titus Y Lolfa £9.99

bai ar y rhai yn ein byd ni heddiw sy’n

hawlio’r grymoedd dinistriol yma yn enw

‘cadw cyfraith a threfn’ ar gymdeithas.

Ynghyd a chyffro’r antur, elfen allweddol

arall i’r gyfrol yw datblygiad graddol

perthynas Ithel ac Adwen wrth i’r ddau ddod i

adnabod ei gilydd. Mae hyn yn arbennig o wir

ar ran Adwen, sydd fel pawb arall, wedi dysgu

i fod yn amheus o’r Gwigiaid.

O’r dechrau, cyflwynir y Gwigiaid

fel cymeriadau i’w hofni, creaduriaid

chwedlonol fyddai’n cipio plant yng nghanol y

nos, bodau na ellir cuddio rhagddynt. Ond wrth

i’r daith barhau, llwydda Adwen i ddod yn nes

at wraidd y bod cymhleth ac aml haenog yma.

Er hyn, mae rhyw ddirgelwch yn perthyn i’r

Gwigyn hyd y diwedd sy’n ychwanegu at apêl

y cymeriad.

Mae’r rhyngweithiad cyntaf rhwng y ddau,

er yn fyr, yn dechrau trafodaeth ddiddorol am

natur bod yn ‘ddieuog’ wrth ystyried y pechod

a chaiff ei gyflawni y tu hwnt i’r Gyfraith, a

myfyrir hefyd ar y syniad bod gwneud yn dda

e-bost: ylolfa@ylolfa.com ffôn: (0)1970 832 304

Gall dysgu Cymraeg

newid dy fywyd...

Wrth fynd drwy bapurau ei mam, mae

Katja, athrawes ifanc o’r Almaen, yn

darganfod llythyr Cymraeg a anfonwyd

i’w hen, hen daid gan gyfaill o Gymro.

Er mwyn ceisio darganfod mwy, penderfyna

ymweld â Chymru ar achlysur Eisteddfod

Genedlaethol Llanrwst. Wrth ddilyn y

trywydd o Berlin i ardal chwarelyddol

Blaenau Ffestiniog, daw Katja i ddysgu mwy

am fywyd... a chyfrinachau ei theulu.

‘Dim ond rhywun o’r tu allan i Gymru allai

fod wedi sgwennu hon.’ Sian Northey

Mae Simon Chandler yn hanu o Lundain, ond syrthiodd

mewn cariad â Chymru, y Gymraeg a’r gynghanedd.

Bellach, mae’n golofnydd yng nghylchgrawn Barddas

ac mae ganddo englynion mewn dwy flodeugerdd

ddwyieithog. Mae’n gyfreithiwr yn ei waith bob dydd,

ac yn rhedeg Grŵp Sgwrs a Pheint Manceinion yn

ei ddinas fabwysiedig. Hon yw ei nofel gyntaf.

£8.50

â’r fersiynau print ac

e-lyfr - y nofel lafar

gyntaf i oedolion i

gael ei gwerthu ar

wefan Ffolio y Cyngor

Llyfrau.

Caiff ei darllen gan

Mererid Hopwood.

“Er nad nofel i ddysgwyr yn

benodol ydy hon,” eglura Simon, “dwi’n gobeithio y bydd

CYNNYRCH CYMRU www.carreg-gwalch.cymru

Carreg

Gwalch

CYNLLUN CLAWR Sion Ilar

Llygad Dieithryn Simon Chandler

dysgwyr yn troi at ddarllen Llygad Dieithryn hefyd gan ei bod,

drwy lais Katja yn enwedig, yn cyflwyno Cymru, y Gymraeg

a’r Eisteddfod Genedlaethol i’r darllenydd o bersbectif rhywun

o’r tu allan i Gymru - profiad y gallan nhw uniaethu ag ef,

gobeithio.”

Adolygiad: Alice Jewell

Llygad

Dieithryn

Simon

Chandler

‘Mae ’na fwy nag un ffordd

o weld y byd... dirgelwch,

diddanwch a chymeriadau sy’n

glynu’n y cof.’ Sian Northey

LlygadDieithryn_198x128@14mm_v7.indd All Pages 16/05/2023 10:04 am

Nofel lawn troeon a hiwmor sy’n ddihangfa pur

Dros fy Mhen a ’Nghlustiau - Marlyn Samuel Y Lolfa £9.99

‘Ydyn ni’n nabod pobl go iawn?

Mae’n hawdd iawn i ni gael ein

dallu a’n twyllo’

yn cywiro gweithred ddrwg, syniad y mae’r

Gwigiaid yn gwrthod. Dyma sy’n cyflwyno

archwiliad cyflawn o sawl math o anfadwaith

trwy gydol y nofel.

Os ydych chi’n barod am antur

fythgofiadwy, ymunwch ag Ithel ac Adwen

wrth iddynt fentro i fyd tywyll ‘Anfadwaith’.
LLYFRAU

Nofel i’r arddegau cynnar am wthio ffiniau’r dychymyg

Astronot yn yr Atig - Megan Angharad Hunter Y Lolfa 8.99

Mae awdures ifanc ‘tu ôl i’r awyr’ a Cat (o gyfres

Y Pump) wedi ysgrifennu nofel feiddgar arall, y tro

yma i’r arddegau cynnar.

Mae Astronot yn yr Atig yn addas i blant 10 i 13 oed ac

yn dilyn Rosie, sydd wedi gwirioni ar y gyfres deledu Yr

Estronos ac astronots yn gyffredinol.

Pan mae llong ofod yn glanio ger ei chartref, mae’n

methu â chredu ei lwc.

Mae testun y nofel wedi ei osod mewn ffyrdd amrywiol

ar y tudalennau gyda pharagraffau byr, pwyntiau bwled,

ffeithiau a dwdls, i gyd yn rhan o’r profiad darllen.

Mae hyn yn adlewyrchu meddwl gorbryderus a dryslyd

Rosie, mewn byd lle mae hi’n teimlo’n wahanol.

Nofel am greu cyfeillgarwch, am deithio yn ôl ac ymlaen

mewn amser, am dyfu i fyny mewn byd cymhleth ac anodd

ac am wthio ffiniau’r

dychymyg i’r eithaf.

Bydd Astronot yn yr

Atig ar gael yn eich

siop lyfrau leol erbyn

diwedd mis Medi.

23

Llyfr cyntaf arweinydd Côr Cymry Gogledd America

Braids of Song - Mari Morgan Y Lolfa £9.99

Yn gynnar ym mis Gorffennaf, daeth dros pump deg aelod o Gôr

Cymry Gogledd America i Gymru er mwyn cynnal cyngherddau ar

hyd a lled y wlad dros gyfnod o wythnos i ddathlu pen-blwydd y côr

yn bump ar hugain oed.

Bu’r côr yn brysur yn diddanu cynulleidfaoedd yng Nghonwy,

Machynlleth, Aberystwyth, Y Fenni a Senedd Cymru, gyda’r daith

hefyd yn cyd-daro â lansio llyfr cyntaf sylfaenydd y côr, sef Braids of

Song.

Ymfudodd Dr Mari Morgan, brodor o Lanelli, i’r Unol Daleithiau

yn 1996 er mwyn mynd ar drywydd gyrfa fel cantores glasurol.

Mae ei llyfr yn ysgogi rhywun i feddwl am brofiadau Cymry eraill

sydd wedi mentro dros y dŵr er mwyn gwireddu eu breuddwydion

cerddorol. Yn ei llyfr, gofynna Mari: “Ydych chi byth yn pendroni am

beth sy’n digwydd i rywun sy’n symud i wlad newydd? Ydyn nhw’n

newid? Ydy’r ffordd maen nhw’n canu yn aros yr un fath neu’n cael ei

ddylanwadu? Ac os ydynt yn bobl creadigol - beth sy’n digwydd i’w

hallbwn artistig?”

Ychwanegodd: “Daeth y syniad o ysgrifennu Braids of Song

i mi yn dilyn marwolaeth fy nhad ym Mawrth 2015. Ac yntau’n

weinidog Anghydffurfiol ac yn ddyn y bobl, gofynnodd ddau

gwestiwn i mi yn ystod ei wythnosau diwethaf: ‘Pryd wyt ti’n mynd i

Er bod gan William Abraham, neu Mabon (1842-

1922) i ddefnyddio ei enw barddol, rôl ganolog ym

mywyd diwydiannol a gwleidyddol cymoedd de Cymru

am flynyddoedd meithion, y tro olaf y cyhoeddwyd

cofiant cyflawn iddo oedd gwaith safonol E. W. Evans,

arbenigwr amlwg ar hanes maes glo de Cymru ac

undebaeth lafur yno ar y pryd, yn Saesneg yn y

flwyddyn 1959.

ysgrifennu fy stori?’ ‘Pwy wyt ti?’ Braids of Song yw fy ymateb

creadigol i’r cwestiynau syml hynny.”

“Derbyniais lawysgrif o stori Arianwen fel rhodd yn ewyllys fy nhad.

Credaf fod hynny, ochr yn ochr â’m profiadau fel cerddor Cymreig

sydd wedi byw yn yr Unol Daleithiau am dros bump ar hugain o

flynyddoedd wedi fy arwain i fod yn chwilfrydig ynghylch sut y gall

fudo i wlad newydd newid person, sut y mae heriau a chyfleoedd

newydd yn cydbwyso gyda synnwyr o golled am bethau cyfarwydd,

a sut caiff yr allbwn creadigol ei effeithio yn y broses o gymathu i

ddiwylliant newydd.”

Mae sawl llais yn adrodd eu straeon yn y llyfr ar wahân i’r awdur.

Ceir stori y cyfansoddwr carismataidd, Joseph Parry o Ferthyr sy’n

llwyfannu opera Gymreig yn Danville, Pennsylvania; yr arweinydd

cadarn ac arloesol, Daniel Protheroe o Gwmgiedd sydd bellach wedi

ymgartrefu yn Chicago; ynghyd â’r pianydd sy’n perfformio mewn

cyngherddau yn rhyngwladol, Marie Novello o Faesteg.

Cynhaliwyd lansiad y llyfr yng Ngaleri Gregynog yn y Llyfrgell

Genedlaethol gyda baner yr Unol Daleithiau yn chwifio uwchlaw’r

adeilad. Cafodd cynulleidfa o 200 o bobl gyngerdd hefyd gan y

côr, gan glywed cyfansoddiadau newydd gan Eric Jones a Mererid

Hopwood, Cefin Roberts ac Einion Dafydd, a Penri Roberts a Linda

Gittins am y tro cyntaf.

Cofiant i un o arweinwyr amlycaf yr undebau llafur

Cofiant Mabon: Eilun Cenedl y Cymry a’r Glowyr - D. Ben Rees Cyhoeddiadau Modern Cymraeg £15

Adolygiad: Dr J. Graham Jones

Mae’n ddyletswydd arnom felly i roi croeso brwdfrydig i

gyfrol newydd, llawer helaethach y Dr D. Ben Rees.

Arbennig o addas yw’r ffaith i’r awdur lunio’r cofiant hwn

yn union ganrif grwn ar ôl marwolaeth ei eilun yn ystod cyfnod

pan roedd Mabon wedi mynd yn dipyn bach o angof ymhlith

y Cymry. Roedd Mabon yn ei anterth yn bennaf yn ystod y

blynyddoedd rhwng 1880 a 1910. Ar ôl hynny wrth gwrs

David Lloyd George oedd prif eilun gwleidyddol ein cenedl am

flynyddoedd ar eu hyd.

O fewn y penodau cynnar cawn gyfle i ddarllen manylion

dadlennol am fagwraeth Mabon yng Nghwmafan a’i fam

weddw, oedd yn ffigwr arbennig o bwysig yn ei fywyd cynnar,

yn ei chael hi’n anodd dros ben i gael dau ben llinyn ynghyd

am flynyddoedd lawer. Oherwydd tlodi enbyd ar yr aelwyd,

nid oedd dewis gan y mab ond i fynd i weithio pan yn ddeng

mlwydd oed yn unig fel un o geidwaid drysau’r pwll glo.

Roedd amodau gwaith o fewn y pyllau glo yn eithriadol galed

yn ystod y cyfnod cynnar hwnnw, ac yn gynnar iawn yn ei yrfa

datblygodd Mabon y ddawn a’r awydd i sefyll i fyny dros rai

o’i gydweithwyr oedd yn ei farn ef yn cael cam gan y rheolwyr

glo hunanol, di-ildio ac ansensitif dros ben. Oherwydd ei

gyfraniad yn y maes hwn, nid oedd modd iddo barhau mewn

swydd o fewn y pyllau glo lleol.

Yn y flwyddyn 1861 priododd â Sarah, merch gof

Cwmafan, a bu iddynt ddim llai na chwech o blant. Bu hi

farw’n gynamserol ym 1900. Ers yn fachgen bach, roedd

Mabon yntau yn Fethodist Calfinaidd pybyr gyda llais tenor

gwych iawn.

‘Mabon oedd yr aelod cyntaf o’r

dosbarth gweithiol i gynrychioli

etholaeth yng Nghymru yn y senedd’

Daeth yn enwog fel arweinydd effeithiol yn eisteddfodau

diwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif. Dyna’r cyfnod yr oedd

tyrfaoedd mawrion yn tyrru i’r eisteddfodau.

Chwaraeodd ran bwysig yn sefydlu’r undeb sef yr

Amalgamated Association of Miners ac yn fuan derbyniodd

swydd llawn amser fel swyddog undeb, gan symud i fyw yn y

Rhondda. Enillodd barch aruthrol yn lleol, yn fwyaf arbennig

ymhlith y glowyr lleol, oherwydd ei allu i setlo pob anghydfod

neu anghydweld heb orfod troi at streic, a hynny’n ymestyn o

anghydfod 1885 hyd at streic enwog Tonypandy ym 1910-12.

Yn sedd etholaethol newydd y Rhondda etholwyd

William Abraham i’r senedd. Daliodd i gynrychioli etholaeth

y Rhondda am 35 o flynyddoedd ar eu hyd, gan fabwysiadu’r

label gwleidyddol ‘Lib-Lab’ yn y man ac yna ymuno â’r Blaid

Lafur. Mabon oedd yr aelod cyntaf o’r dosbarth gweithiol i

gynrychioli etholaeth yng Nghymru yn y senedd. Enillodd

statws byd-eang, a hwyliodd i’r Unol Daleithiau ym 1901 ac

eto ym 1905.

Ac yn ystod cyfnod cynnar y Rhyfel Mawr daeth Mabon,

gŵr a fu’n heddychwr brwd drwy gydol y blynyddoedd, yn

dipyn o ‘ryfelgi’ yn rhannol er mwyn plesio Lloyd George,

eilun y genedl ar y pryd.

Pan fu farw yn ystod mis Mai 1922, ac yntau yn 79 mlwydd

oed erbyn hynny ac yn llawn parch ac anrhydeddau, gadawodd

swm o £38,000 yn ei

ewyllys (tua hanner

miliwn o bunnoedd yn

ôl arian heddiw) - er

mawr syndod i nifer

fawr o’i gyfeillion a’i

ddilynwyr.

Cofir amdano’n

bennaf heddiw

oherwydd ei

gyfraniad aruthrol fel

arweinydd yr

undebau llafur

yn hytrach na fel

gwleidydd proffil

uchel amlwg.
Llun: Geraint Todd

24

Yn dilyn cyfnod o waith teledu dwi ar fin

cychwyn ar gyfnod o ysgrifennu ag ymarfer

ar gyfer sioe lwyfan dwi wedi bod yn ceisio ei

datblygu ers cryn dipyn o amser.

Fy nghefnder Dafydd Hywel gofynnodd os fyddai gen

i ddiddordeb mewn ysgrifennu sioe am yr actores

Rachel Roberts beth amser yn ôl, ond rywsut, er i fi

ysgrifennu drama gyflawn, gyda deg o gymeriadau,

daeth dim cyfle i’w lwyfannu.

Prysuraf i ddweud y byddai wedi bod modd dyblu sawl

rhan, i arbed arian, ond erbyn hyn dwi wedi penderfynu bod

y gwaith yn fwy addas ar gyfer ffurf sioe un menyw, ac mae’r

drafft cyntaf, amrwd wedi ei gyflawni.

Ond pwy oedd Rachel

Roberts? Mae’n syndod

parhaus i fi fod cyn lleied

o bobl yn cofio am yr

actores wych yma.

Does prin sôn amdani

pan rhestrir enwau’r

actorion Cymreig

adnabyddus o

gefndiroedd

digon cyffredin

ddaeth i’r amlwg ym

mhumdegau a

chwedegau’r ganrif

ddiwethaf, a aeth yn

eu blaenau i lwyddo ar

lwyfan ryngwladol.

Mae cymaint ohonyn

nhw - Richard Burton,

Siân Phillips, Hugh

Griffith, Stanley Baker,

Rachel Thomas - i

enwi dim ond rhai, yn

gyfarwydd i ni.

Ond diflannodd

enw Rachel Roberts

o gof y genedl, er iddi

gael gyrfa ddisglair

tu hwnt. Enillodd

amryw o wobrwyon am ei

gwaith, yn cynnwys dwy wobr

BAFTA, gwobr Drama Desk,

dau enwebiad Tony, a hyd yn oed

enwebiad am Oscar. Fy ngobaith

yw talu teyrnged iddi wrth geisio

codi clawr ar yr hyn oedd yn

gyrru ei chreadigrwydd.

Does dim dwywaith fod ei

natur angerddol a lliwgar fel

actores a menyw, (i ba raddau

mae modd gwahanu’r ddau?

Trafodwch) wedi mynd yn ei

herbyn.

Roedd yn dra wahanol i’r

Rachel arall honno, oedd

yn ymgorfforiad o’r ‘Fam

Gymreig,’ ac yn gwbl

wrthgyferbyniol i geinder

soffistigedig Siân

Phillips, a’r ddwy, fel menywod

BARN:

arlein - YCymro.Cymru

‘Fe greodd ei Chymreictod yn ogystal a’i

greddf fel menyw annibynnol o fewn byd cyn

dyfodiad ail don ffeministiaeth y saithdegau gyda

brwydrau cymhleth ac anodd’

Diflannodd ei henw o gof

...fy ngobaith yw talu teyrnged

i dalent ffyrnig Rachel

‘...mae’r disgwyliadau sydd

ar fenywod i gydymffurfio â

phatriarchaeth yr un mor

drafferthus’

Rachel Roberts yn 1976

- gan Sharon Morgan

ac actoresau, yn dderbyniol i’r sefydliad yn eu gwahanol

ffyrdd.

Merch y Mans oedd Rachel, ganed yn Llanelli a’i magu

yn Abertawe. Aeth i astudio yng ngholeg Prifysgol Cymru

Aberystwyth cyn mynd i RADA.

Roedd cydymffurfio gyda’r cyfyngiadau daeth i’w rhan yn

sgil crefydd Anghydffurfiaeth (yn eironig), ac yna diwylliant

y theatr Seisnig yn Llundain a byd ffilm Hollywood yn her

i’w natur gwrthryfelgar.

Fe greodd ei Chymreictod yn ogystal a’i greddf fel menyw

annibynnol o fewn byd cyn dyfodiad ail don ffeministiaeth y

saithdegau gyda brwydrau cymhleth ac anodd.

Er iddi ymladd ar hyd y blynyddoedd arweiniodd ei anallu

i gydymffurfio â normau’r cyfnod at hunan ddinistr ar

ffurf dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn y pendraw, ac fe

lladdodd ei hun yn 1980 a hithau ddim

ond yn 53.

Nid ar chwarae bach mae rhywun yn

mynd ati i greu sioe gall adlewyrchu

hanes cymeriad mor gymhleth ag

amlochrog.

Llwyddodd Owen Thomas i greu sioe

wych yn yr iaith Saesneg, ‘Who’s Afraid

of Rachel Roberts?’ beth amser yn ôl,

ac fe greodd yr actores Helen Griffin

bortread cofiadwy iawn, ond fy mwriad yw

mynd ati o gyfeiriad gwahanol, gan obeithio

taflu goleuni ar natur gyfredol ein profiadau

fel actorion Cymraeg ar yr un pryd.

Mae ein sefyllfa fel artistiaid

creadigol Cymreig yr un mor gymhleth ag erioed,

wrth i ninnau, fel aelodau o ddiwylliant lleiafrifol

trefedigaethol ddod wyneb yn wyneb a’r diwylliant

theatr Seisnig a thu hwnt, ac mae’r disgwyliadau sydd

ar fenywod i gydymffurfio â phatriarchaeth yr un mor

drafferthus .

Efallai bod y manylion wedi newid ond yr un yw’r

berthynas o safbwynt pwy sydd â’r grym.

Her yn wir, ond dwi’n teimlo y byddai, wrth geisio

talu teyrnged i dalent ffyrnig Rachel Roberts hefyd yn

talu teyrnged i ysbryd fy nghefnder Dafydd Hywel.

Datgelu capel cudd y

Brifddinas yn ei holl ogoniant

Mae capel sydd wedi bod yn guddiedig ers degawdau

wedi cael ei ddatgelu fel rhan o waith datblygu ar hen siop

adrannol Howells yng Nghaerdydd.

Mae’r ddelwedd newydd yn datgelu ffasâd blaen capel

hanesyddol Bethany yn ei holl ogoniant wrth i waith

barhau i fynd rhagddo i baratoi’r adeilad ar gyfer ei adfywio a’i

ailddefnyddio, a fydd yn amodol ar gael caniatâd pellach.

Adeiladwyd y capel, sydd wedi bod yn guddiedig ers tua 50

mlynedd, yn 1865 ac mae’n cymryd lle capel cynharach o 1807.

Cyn hynny pan oedd Howells yn masnachu, roedd llawr

gwaelod y ffasâd blaen i’w weld yn adran teilwra’r dynion,

gyda’r llawr gwaelod yn cynnwys esgidiau. Roedd y llawr cyntaf

o fewn dillad merched, gyda cholofnau haearn bwrw a gwaith

plastr addurniadol i’w gweld.

Mae gan yr Ysgol Sul sydd ynghlwm, neuadd ymgynnull fawr â

balconïau, nad oedd yn rhan o’r storfa gyhoeddus, a oedd yn cael

ei defnyddio ar gyfer storio yn unig.

Rhestrwyd y capel gan Cadw yn Radd II* ynghyd â gweddill y

siop adrannol yn 1988.

Dywedodd y Cynghorydd Dan ‘Mae arwyddocâd

De’Ath, Aelod Cabinet Cyngor

Caerdydd dros Gynllunio Strategol a hanesyddol i’r

Thrafnidiaeth ei fod yn falch y bydd adeilad, ac mae’r

yr hen gapel a’r ysgol Sul gysylltiedig

yn cael eu diogelu a’u dathlu wrth i

bensaernïaeth yn

brosiect adfywio Howells symud

syfrdanol’

ymlaen.

“Mae Capel Bethany yn adeilad

hynod ddiddorol sydd wedi bod

yn cuddio mewn golwg amlwg o fewn y siop adrannol. Mae

arwyddocâd hanesyddol i’r adeilad, ac mae’r bensaernïaeth yn

syfrdanol, felly rwy’n falch iawn bod yr adeilad bellach yn cael ei

ddatgelu yn ei holl ogoniant.

“Mae swyddogion y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r

datblygwyr Thackeray Estates i sicrhau bod cynlluniau

ailddatblygu yn datgelu ac yn diogelu elfennau mwyaf

arwyddocaol yn hanesyddol a phensaernïol yr hen siop, gyda

chymaint o fynediad cyhoeddus â phosibl, fel y gellir parhau i’w

fwynhau am genedlaethau i ddod,” meddai.

Ychwanegodd Antony Alberti o Gwmni Thackeray: “Mae

gennym ni gyfle gwych i gychwyn y trawsnewidiad o

Gaerdydd drwy greu calon newydd i’r ddinas. Mae Howells

yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i roi bywyd newydd i un o

asedau mwyaf eiconig Cymru.”

Profi gallu trenau newydd

sbon y gogledd

Cwblhaodd dau drên Dosbarth 805, a adeiladwyd gan

Hitachi ar gyfer cwmni Avanti West Coast, eu rhediad

prawf cyntaf i ogledd Cymru fel rhan o’u rhaglen brofi

ddechrau mis diwethaf.

Teithiodd y trenau deufodd, sy’n gallu rhedeg ar bŵer disel a

thrydan, o Gaer i Gyffordd Llandudno ac yn ôl.

Ers hynny bu mwy o deithiau ar y trenau newydd yn yr arfaeth,

i wirio’r medrydd a’r cydnawsedd â’r llwybr, gan gynnwys

rhediad i Gaergybi.

Maent hefyd yn gwirio bod y systemau gwybodaeth teithwyr

dwyieithog yn dangos yr wybodaeth gywir.

Bwriad y rhediadau prawf hyn yw profi gallu’r trenau cyn eu

trosglwyddo i Avanti.

Mae disgwyl trenau newydd ar rwydwaith Avanti cyn diwedd

y flwyddyn a byddant yn cymryd lle trenau Voyager bu mewn

gwasanaeth ers 2001. Bydd trenau Dosbarth 805 yn rhedeg

rhwng gogledd Cymru a Llundain, tra bydd trenau Dosbarth 807

yn rhedeg rhwng Llundain, gorllewin canolbarth Lloegr a Lerpwl.

Dywedodd Phil Cameron, Cyfarwyddwr Prosiectau Masnachol

yn First Rail: “Roedd rhedeg y trenau cyntaf yn garreg filltir

bwysig i’r fflyd newydd gyda’i rhediad prawf cyntaf i Gyffordd

Llandudno.

“Bydd hyn yn helpu i ddarparu gwybodaeth hanfodol

am y llwybr, a pherfformiad y fflyd, i sicrhau bod y trenau

newydd wedi’u paratoi’n llawn ar gyfer pan fyddant yn dechrau

gwasanaeth y flwyddyn nesaf.

“Bydd ein buddsoddiad yn y fflyd newydd yn helpu i godi’r bar

ar gyfer teithwyr rheilffordd yng ngogledd Cymru ac mae’n rhan

o’n hymrwymiad ehangach i drawsnewid profiad y cwsmer a

gweithrediad mwy cynaliadwy.”
Er ei ddrain mae ei dyfiant talsyth yn gwmni da i flodau

Byddwch ofalus o’r un pigog yma...

a wasgarwyd gan yr enwog Ellen

Eisiau bod yn arbenigwr yn yr ardd?

Dilynwch hanesion @GeralltPennant!

25

Planhigyn i fod yn ochelgar iawn

o’i ddail ydy celyn y môr, Eryngium

maritimum.

Fel mae ei enw cyffredin yn

awgrymu, un pigog ydy hwn a phob

un o’i ddail a’i ddrain miniog wedi

eu gorchuddio gan haen o gŵyr.

Byddai’n gwneud hynny’n ddirgel a heb

dynnu sylw a bu ymddangosiad sypiau

pigog o gelyn y môr yn destun penbleth i

nifer o berchnogion gerddi.

Gwyddai Ellen Wilmott yn union lle

gallai daflu hadau ei hoff blanhigyn, i

bridd agored yn llygad yr haul, cofiwch

chithau’r un fath.

Erbyn heddiw mae’n destun

balchder mawr gan berchnogion y

gerddi bu Miss Wilmott yn

ymweld â nhw bod ei

hysbryd yn dal i droedio’r tir, a’i

phlanhigion yn cael y gofal gorau, a’i

gochel.

Eryngium giganteum, ‘Ysbryd Miss Wilmott’

Dyma sy’n amddiffyn celyn y môr

rhag cael ei sychu’n grimp gan haul

ac awel, ac mae’r un amddiffynfa yn

ei warchod rhag brath yr heli.

Gallech daeru bod y fath wytnwch

wedi ei guro gan ofaint ac mai tafelli

o ddur yn hytrach na chelloedd byw

ydy dail y planhigyn hynod yma.

Ond pan ddaw’r blodau gleision yn

drwch ymhlith y dail llwydwyrdd buan

iawn mae delwedd yr engan yn cael ei

disodli.

Dyma un o hoff flodau’r cacwn a’r

peunog a diddorol ydy’r sôn yn

llyfr Bethan Wyn Jones ‘Blodau Gwyllt

Cymru ac Ynysoedd Prydain’, am yr hen

arferiad o roi siwgr ar wreiddiau celyn y

môr a’i gwerthu fel melysion.

Er gwaetha ei natur bigog, mae gan

Eryngium ei le mewn gerddi ac mae ei

dyfiant talsyth yn gwmnïaeth dda i nifer

o flodau diwedd Awst a dechrau Medi.

Un o’r cyfuniadau clasurol ydy ei

blannu efo Dahlia ‘Bishop of Llandaff’.

Gall hefyd edrych yn hynod o drawiadol

yng nghwmni Crocosmia ‘Lucifer’, ie, y

diafol a’r esgob yn yr un gwely…

O’r holl fathau o Eryngium sydd

ar gael i’r garddwr mae un sy’n fwy

adnabyddus na’r lleill i gyd.

Fydd fawr neb yn ei alw’n Eryngium

giganteum, mae’r enw ‘Ysbryd Miss

Wilmott’ yn llawer mwy cyfarwydd.

Ellen Wilmott, 1858-1934 o Warley

Place yn Essex oedd Miss Wilmott.

Llwyddodd i ennill ei lle mewn

chwedloniaeth arddwriaethol trwy

wasgaru hadau E. giganteum ble

bynnag yr âi.

‘...mae’n destun balchder

mawr gan berchnogion y

gerddi bu Miss Wilmott yn

ymweld â nhw bod ei

hysbryd yn dal i droedio’r tir’
26

Bydd cloc larwm, a stopiodd am

9.13 Bangor y bore, yr union ar y amser brig y

tarodd domen lo ysgol gynradd

mewn tabl newydd

Mae tabl newydd wedi canfod mai

Prifysgol Bangor yw’r gorau yn

y Deyrnas Unedig wrth ystyried

ffactorau sy’n ymwneud â bywyd a

phrofiadau myfyrwyr.

Yn lle tabl traddodiadol mae tabl

cynghrair amgen Unifresher yn

cymharu ffactorau fel costau byw a lefelau

trosedd, yn ogystal â’r ymdrechion a

wna prifysgolion o ran cynaliadwyedd a

darparu bywyd cymdeithasol da i

fyfyrwyr.

Mae uchelgais Prifysgol Bangor i arwain

ym maes cynaliadwyedd wedi ennill

sgôr uchel i’r brifysgol, a’i gosod ar frig

y rhestr. Gosodwyd y Brifysgol ar y brig

hefyd am fod yn lle cymharol rad a diogel

i astudio.

Wrth groesawu’r newyddion dywedodd

Carys Roberts, Pennaeth Recriwtio

Myfyrwyr y Deyrnas Unedig,

“Mae’r canllaw yma’n edrych ar

agweddau cymdeithasol ar astudio mewn

prifysgol.

“Wrth ystyried i ba brifysgol i anfon

cais, mae’r rhain yn ystyriaethau sydd yr

un mor deilwng â natur ac ansawdd yr

addysgu a’r cwrs y mae arnoch eisiau ei

ddilyn.”

Mae Cymru’n gwneud yn dda iawn yn

y Canllaw, gyda phum prifysgol ymysg y

10 uchaf.

Deddf Amaeth

pentref Aberfan, yn dod yn rhan o

gasgliad hanesyddol Sain Ffagan. Cymru

Ers y drychineb ym mis Hydref

yn dod i rym

Mae Deddf Amaeth gyntaf erioed

Cymru bellach yn gyfraith, ar ôl

derbyn y Cydsyniad Brenhinol.

Mae’r ddeddf yn rhoi’r pwerau sydd

eu hangen ar Weinidogion Cymru

i ddarparu cymorth yn y dyfodol i

ffermwyr a sicrhau bod cefnogaeth ar

gael iddynt dros gyfnod pontio, gan

adlewyrchu ymrwymiad yn y Cytundeb

Cydweithio â Phlaid Cymru.

Mae’n paratoi’r ffordd hefyd ar

gyfer gwahardd maglau a thrapiau

glud. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y

Deyrnas Unedig i’w gwahardd yn

llwyr.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark

Drakeford: “Mae hon yn ddeddf

hanesyddol. Am y tro cyntaf erioed,

bydd Cymru’n gallu llunio ei pholisi

ei hun ar gyfer ffermio. Hynny ar adeg

tyngedfennol i’r diwydiant, wrth i ni

siapio’r cymorth a roddir yn y dyfodol

a wynebu heriau costau uwch a’r

argyfwng hinsawdd.

“Mae’r ddeddf yn caniatáu i ni

ganolbwyntio ar gynaliadwyedd

economaidd, amgylcheddol a

chymdeithasol sector amaethyddol

Cymru. Rydyn ni’n gwybod mai’r

bygythiad mwyaf i fwyd cynaliadwy yn

y dyfodol yw’r newid yn yr hinsawdd.

Bydd y ddeddf yn erfyn i’r diwydiant

i’w helpu i gynhyrchu bwyd yn

gynaliadwy gan weithredu yr un pryd i

ddelio â’r argyfwng hinsawdd.”

Dilynwch

Y Cymro

ar Twitter

1966 mae’r cloc bach wedi bod

@y_cymro

‘A ydym yn dilyn y trywydd anghywir,

ydy’r blaned yn barod i chwarae triciau

gyda’r gwneuthurwyr polisi? @trefjon

BARN - gan Trefor Jones

Cynhesu marwol o’n blaenau neu oerni

mawr... a ydym wir yn siŵr o’n ffeithiau?

Os am ymarfer sydd yn codi safon

eich ffitrwydd a’ch ymwybyddiaeth o

ddaearyddiaeth Cymru, gallaf awgrymu

eich bod yn ymuno â chlwb cerdded.

Bûm yn aelod brwd o un ohonynt yng

nghyffiniau Ystradgynlais ers naw ’mlynedd

ac fel bron pob mudiad neu gymdeithas

ymunais â nhw erioed, o fewn ychydig fisoedd

’roeddwn yn aelod o’r pwyllgor gyda’r teitl

crand o swyddog addysg y clwb.

Er fy mod yn ysgrifennydd ar gymdeithas

hanes, fy mhrofiad fel athro ac arholwr Lefel

A daearyddiaeth sydd wedi dod yn fwyaf

defnyddiol yn y rôl.

Y rheswm syml yw, os nad oes gen i glem

am yr ardal dan sylw, mae’r lle siŵr o fod

wedi profi rhewlifiant a ffinrewlifiant, felly

mae ’na wastad rhywbeth i’w bwyntio allan i’r

aelodau, er mae ‘dyffryn sych perirewlifol’,

wedi mynd yn jôc o fewn y clwb gan fy mod yn

eu darganfod pan fo’r angen yn codi.

Yn wir, rhaid cyfaddef cefais wir sylw

myfyrwyr Lefel A wrth sôn am effaith

rhewlifiant yng Nghymru, wrth nodi bod y

tirwedd wedi ei rhewlifo’n aml yn ystod y

Pleistosen sef y ddwy filiwn o flynyddoedd olaf

gyda phob un yn rhoi sgrafelliad o’r newydd i’r

arwyneb.

Yn wir, mae’r Holosen, sef y cyfnod o ryw

10 - 12,000 o flynyddoedd rhyngrewlifol ers

diwedd yr oes iâ, ond yn ysbaid fer cyn bydd y

blaned yn dechrau ar rewlifiant arall.

Mewn ffaith, ’rydym dal mewn oes iâ gan

fod rhew ar y pegynau. Gellir esbonio’r newid

yn unol â newidiadau yn rhod y ddaear yn

enwedig yr ongl ar ei hechel, cylchredoedd

Milhancovitch yn hyd yr orbit, albedo neu

adlewyrchiad y ddaear, cryfder y rheiddiad

o’r haul, smotiau’r haul ag effaith tonfeddau

rheiddiad hir a byr ynghyd â nwyon tŷ gwydr yr

atmosffêr a miloedd o ffactorau eraill.

Mewn cyfnod pan mae António

Guterres,Ysgrifennydd Cyffredinol y

Cenhedloedd Unedig, yn mynnu bod y byd

mewn cyflwr o ‘ferwi’ oherwydd allyriadau

carbon anthropogenig ychwanegol i’r rhai

naturiol, a phwysau i greu cyfnod daearegol

newydd yr ‘anthroposen’ i nodi effaith pobl

yr oes ddiwydiannol, fe gefais syndod i weld

erthygl gan Damian Carrington yn y Guardian.

Bwrdwn yr erthygl, mewn gwirionedd yn

ail ysgrifeniad o’r un erthygl yn 2021, oedd

bod ffrwd y Gwlff ar fin stopio gan achosi ein

lledredau sydd yn cyfateb i Alaska wedi’r cyfan,

newid dros nos i gyfnod eithafol o oer.

Yn ôl Carrington, bu wyddonwyr ers cyfnod

wedi canfod bod y cludydd o ddŵr cynnes

trofannol Gwlff Mecsico yn methu, wrth i

ddŵr halen gael ei wanhau gan lenni iâ’n

ymdoddi dŵr ffres iddo, gan olygu bod y broses

cylchynol neu AMOC (Atlantic Meridional

Overturning Circulation) o oeri’r heli, ei suddo

a’i dynnu’n osmotig yn ôl i’r Gwlff, ar ben.

Gallai Prydain fod mewn trybini gyda newid i

hinsawdd oer eithafol mor gynnar â 2025.

Nid yw hyn yn syniad newydd wrth gwrs.

Yn 2003, darlledwyd y ddamcaniaeth ar raglen

Horizon gan BBC 2 ‘The Big Chill’.

Bu’n arferiad gen i ddangos y rhaglenni

ardderchog yma i’r 6ed dosbarth, ac felly gyda

help Gŵgl fforiais amdano.

I fy mawr syndod, mae trawsgript y rhaglen

dal ar gael ac mae’r ‘Big Chill’, i’w gael yn ei

gyfanrwydd ar YouTube.

Wrth ei wylio am y tro cyntaf ers pymtheng

mlynedd cefais syndod mor fanwl a gwyddonol

oedd y rhaglen wrth sôn am yr AMOC neu’r

cludydd mewn terminoleg symlach.

Hefyd, dechreuodd y rhaglen gyda golygfeydd

o dymereddau uchel ledled byd, bron yn union

fel y cafwyd yn ein cyfryngau’n ddiweddar.

Defnyddiwyd tystiolaeth gwyddonwyr

amlyca’r gorffennol megis Dr Richard Alley

o Penn State, arbenigwr byd ar greiddiau

iâ’r Wlad Werdd ond hefyd y diweddar

Wally Broecker o Brifysgol Colombia, a

lysenwir fel ‘tad newid hinsawdd’, fe o bawb

gafodd y syniad dadleuol mai yn y cefnforoedd

oedd y perygl amlycaf o newid eithafol yn ein

hinsawdd.

‘Mae’n sicr yn gwneud i rywun

feddwl bod tywydd anarferol o

wlyb ac oerach na’r cymedr yng

Ngorffennaf eleni yn ffactor,

er does dim tystiolaeth’

Wrth edrych ar record y creiddiau iâ, dros

ddwy filltir o hyd, cafwyd neges hynod o

ofidus.

Nid newid graddol oedd yr arafu a’r stopio yn

yr AMOC ond un sydyn dros ben, wedi ei fesur

mewn ychydig o flynyddoedd neu hyd yn oed

misoedd.

Yn ail, mi ddigwyddodd droeon yn y

gorffennol ac yn esbonio gaeafau arswydus a

newyn yr Oes Iâ Fechan, rhwng 1300 a 1850, a

ffeiriau iâ’r gaeaf y Tafwys yn Llundain.

Yn drydydd, bu ymchwil ar y Wlad Werdd

yn ymddangos bod rhewlif enfawr Jakobshavn

yn arllwys dwbl y dŵr ffres â chynt, i’r man lle

roedd yr AMOC yn disgyn. Yn ogystal, roedd

afonydd Siberia gan gynnwys yr Ob yn tyfu o

ran arllwysiad i’r cefnfor Arctig.

Yn olaf, dangosodd arbrofion ar greiddiau

mwd y cefnfor gysylltiad rhwng cregyn

iach organebau fforam a rhai gwamal yn

dynodi diffyg carbon a chynnydd methan gyda

newidiadau arswydus cyfatebol i fiomau bydol.

Beth sydd mwyaf arwyddocaol ydy bod y

rhaglen yn proffwydo bydd hyn yn digwydd

mewn ugain mlynedd, a oedd yn cytuno gydag

amseriad erthygl Carrington o’r Guardian.

Rhoddwyd y siawns mathemategol o brofi

gaeaf tebyg i’r un a gafwyd yn 1963 ar

gymhareb o 1:7, pan rhewodd y môr o gwmpas

Ynysoedd Prydain a chafwyd eira ar y llawr am

dri mis cynta’r flwyddyn.

‘...dechreuodd y rhaglen gyda golygfeydd o

dymereddau uchel ledled byd, bron yn union

fel y cafwyd yn ein cyfryngau’n ddiweddar’

Yn ôl y rhaglen byddai’n bosib profi hyd

at 100 o ddiwrnodau eira mewn blwyddyn

arferol.

Mae’n sicr yn gwneud i rywun feddwl bod

tywydd anarferol o wlyb ac oerach na’r cymedr

yng Ngorffennaf eleni yn ffactor, er does dim

tystiolaeth.

Gan ystyried mai’r agenda sy’n tyrru

llywodraethau at Net Sero yn 2030 a 2050

yw’r naratif o wres eithafol, a ydym yn dilyn

y trywydd anghywir, ydy’r blaned yn barod i

chwarae triciau gyda’r gwneuthurwyr polisi?

Ni gafodd erthygl Carrington lawer o sylw yn

y cyfryngau, ac yn wir fe’i diystyrwyd gan rai

rhaglenni y cyfnod dwl fel gorddweud eithafol!

Gan ystyried bod AMOC yn cyfateb i wres

miliwn o orsafoedd pŵer, ac mae llawer mwy

yn marw o oerfel na gwres, awgrymaf wylio

‘The Big Chill’.

50 munud diddorol.
27

Be’ sy’n rhoi gwên ar eich wyneb?

Be’ sy’n eich gyrru’n hollol wallgof?

Be’ sydd angen ei newid syth bin?

- Rydym am glywed eich barn ar yr hyn

sy’n wirioneddol bwysig yn y Gymru zgyfoes

Cysylltwch â’r Cymro: gwyb@ycymro.cymru

‘Drwy berchnogi ein gwlad,

mi allwn gael y grym, a’r

cyllid, i greu gwell Cymru

i’n plant’

Detholiad o anerchiad yr Archdderwydd

Myrddin Ap Dafydd yn Eisteddfod Genedlaethol

Llŷn ac Eifionydd.

“Dan ni mor falch o’ch gweld chi yma, yma yn ein Steddfod

ni. Maen nhw wedi bod yn flynyddoedd hir ers dechrau’r daith!

Ond ers rhai misoedd, dydi’r ardal yma’n siarad am ddim arall.

Pentrefi yn tynnu at ei gilydd, ardal yn closio ac yn dathlu

treftadaeth a chroeso gyda dychymyg. Mae na hen beintio a

llifio, trosolio a gosod arwyddion a baneri wedi bod - i sicrhau

pob ymwelydd fod y croeso i Steddfod Llŷn ac Eifionydd yn

gynnes ac yn ddeniadol. Ers pythefnos, does dim potiau paent

coch ar ôl yn siopau Pwllheli. Mae’r Steddfod yn furum drwy’r

ardal ac mae hi fel bara - er cystal ydi’r sylw mae hi’n ei gael

ar yr holl gyfryngau eraill, mae hi’n llawer gwell yn ffresh, yn

eich dwylo, felly daliwch i ddod yma i’r Maes i’w mwynhau.

Ychydig dros fis yn ôl roedd defod Cyhoeddi Steddfod

y flwyddyn nesa yn Aberdâr - roedd yno orfoledd, lond y

palmentydd, a dagrau o lawenydd fod y Gymraeg yn creu

cynefin iddi’i hun yn y Cymoedd unwaith eto.

‘Mae’n dadlau y gall yr angen inni fynd

â’n capia yn ein dwylo yn ddi-urddas i

Lundain i gardota am chydig friwsion

bob hyn a hyn ddod i ben’

O Aberdâr i Aberdaron, yr un ydi’r angen - creu cynefin i’r

iaith a’i siarad hi a’i defnyddio hi ym mhob agwedd o fywyd.

Dyna be mae’r Steddfod yn ei gynnig inni - byd crwn, cyflawn

Cymraeg sy’n ysbrydoliaeth. Dyna mae Huw Prys Jones wedi’i

ganfod yn ei waith gwerthfawr ar y wefan Atlas y Gymraeg.

Fel yr Eisteddfod ei hun, mae Llŷn ac Eifionydd yn cynnig

cynefin allweddol ac yn haeddu sylw manwl a chreadigol wrth

gynnal a chryfhau’r iaith.

Ffaith galonogol ydi bod cryfder y cynefin yn cael effaith dda

ar y rhai sy’n symud yma o’r tu allan i Gymru - yn ôl ymchwil

Huw mae bron chwarter y rheiny yn Llŷn ac Eifionydd yn

dysgu a defnyddio Cymraeg.

Unwaith eto, fel yn y Steddfod ei hun, mae’n amlwg fod

gweld bywyd a llawenydd a diwylliant y rhai sy’n byw drwy’r

iaith yn denu rhagor o siaradwyr Cymraeg newydd ati. Mae’r

Steddfod yn hollbwysig - ydi; felly hefyd y dalgylch yma sy’n

ei chynnal eleni.

Un o’r pethau sy’n rhoi pwysau mawr ar ar lawer o

ardaloedd yng Nghymru heddiw ydi diffyg tai i bobl leol. Fel

mae ymgyrch Ga’ i Fyw Adra yn llwyddo i’n hargyhoeddi ni,

mae hyn yn amlwg iawn yn Llŷn ac Eifionydd.

Mae sawl agwedd ar y broblem ac mae sawl ateb all gyfrannu

at wella pethau a da gweld rhai o’r rheiny ar waith bellach.

Ond mae’r dystiolaeth o’n cwmpas ni fan hyn o hyd - all ein

gweithwyr allweddol, gan gynnwys doctoriaid ac athrawon,

ddim fforddio pris y

tai sydd yn y dalgylch

yma.

Anghydraddoldeb

- dyna wendid

mawr y wladwriaeth

flêr yma dan ni’n

byw ynddi, gyda’r

llywodraeth canolog

yn Llundain yn rheoli’r

penderfyniadau

allweddol o hyd.

Dyma’r wladwriaeth

gyda’r record waethaf,

ar ôl America, yn y byd

gorllewinol.

Mae 10% o’r

boblogaeth, sef y

teuluoedd cyfoethocaf,

yn berchen ar 50%

o’r holl gyfoeth. Ac

mi wyddom pa deulu

ydi’r cyfoethocaf o’r 10%

rheiny.

Mae 65% o arfordir Cymru yn eiddo i Stad y Goron, nid i

bobl Cymru.

Mae ymerodraeth y Goron yng Nghymru yn llawer mwy na

hynny - mae’n cynnwys ffermydd, coedwigoedd, canolfannau

siopa, ffermydd ynni gwynt, gwlâu afonydd a moroedd.

Mae gwerth asedau’r Goron ar arfordir Cymru yn unig wedi

codi o ryw £50 miliwn yn 2020 i dros £600 miliwn yn 2022.

Mae Liz Saville, ein haelod yn San Steffan, eisoes wedi

dangos arweiniad. Mae’n dadlau y gall yr angen inni fynd

â’n capia yn ein dwylo yn ddi-urddas i Lundain i gardota am

chydig friwsion bob hyn a hyn ddod i ben.

O drosglwyddo Stad y Goron i bobl Cymru, dan reolaeth

Senedd Cymru (fel y gwnaed yn yr Alban chwe mlynedd yn ôl)

allwn ni fod gam yn nes at gymryd y cyfrifoldeb i geisio datrys

rhai o’n problemau. Dyna farn Prifweinidog Cymru hefyd

a Llywodraeth Cymru a thri chwarter pobl Cymru yn ôl pôl

piniwn diweddar.

Drwy berchnogi ein gwlad, mi allwn gael y grym, a’r cyllid, i

greu gwell Cymru i’n plant.

Beth felly fyddai’n bosib? Dewch yn ôl efo fi i dre

Nefyn. Yn 1890 mi sefydlwyd Ymddiriedolaeth Dai yno gan

gorfforaeth y dref - mi wnaed hynny gan brynu tai oedd yn dod

ar y farchnad, gweithio arnyn nhw a’u cadw mewn cyflwr da

a’u gosod ar rent teg i drigolion sydd efo cysylltiad lleol, cryf.

Heddiw mae Ymddiriedolaeth Dai Nefyn yn gofalu am

chwech ar hugain o dai a safleoedd eraill ac yn cyflogi clerc.

Yn y dyfodol agos mae bwriad i godi dau dŷ unllawr i bobl

sengl ac i brynu nifer o dai sy’n sefyll yn wag yn y dref. Dyna

be sy’n bosib ei efelychu mewn ardaloedd eraill o gael Stad y

Goron i’n dwylo ni..

Dyma ein cyfle ni i afael yn y dwrn yna.

Mae’r Inland Revenue a Stad y Goron yn ddwy ochr i’r

un geiniog wrth gwrs. Geiriau Wil Sam yng nghymeriad yr

anfarwol Ifas y Tryc sy’n dod i’r meddwl: ‘Yr Incwm Tacs, yr

England Refeniw - hwnna ydi o. Lladron pen ffor’; ia - lladron

pob ffor, hwnna sgin i!’

Perchnogi ein gwlad, cymryd cyfrifoldeb - mi all yr ardal yma

eich ysbrydoli yn ystod eich ymweliad.

Ym mhentref chwarel Trefor y sefydlwyd y siop

gydweithredol - y co-op - cyntaf yng ngwledydd Prydain.

Dach chi wedi cael pwt o hanes Ymddiriedolaeth Dai Nefyn.

Menter gydweithredol eithriadol o bwysig yn yr ardal yma

ydi’r ffatri gaws, Hufenfa De Arfon yn Rhyd-y-gwystl.

Ym mhentrefi Llithfaen, Chwilog, Llanystumdwy, Llandwrog

a Nefyn mae yna dafarndai a busnesau eraill lle mae’r elfen

gydweithredol yn gryf ynddyn nhw.

Yr ysbryd LLEOL sy’n gyfrifol fod ganddon ni fysys wennol

o’r Maes i Bwllheli ac o’r Maes i Nefyn, Morfa, Edern a

Dweiliog.

Pan nad oedd modd gan y Steddfod ganolog na Thrafnidiaeth

Cymru i noddi’r gwasanaeth, aeth unigolion lleol ati i gasglu

pres gan fusnesau a phobl leol i roi sicrwydd i gwmnïau bysys

yr ardal allu mystyn eu gwasanaeth drwy gyda’r nos.

Mwynhewch hwylustod a diogelwch y bysys yma;

cefnogwch y noddwyr lleol - ac ewch â’r ysbryd cydweithredol

sydd ’na yn y dalgylch yma adra efo chi.

Mi allwn ni godi gwlad newydd o’r llanast yma dan

ni’n ei weld yn sgil polisiau Llundain ar bob llaw. Gyda’n

gilydd, a thrwy ysgwyddo cyfrifoldeb, mi allwn ni

berchnogi’n gwlad a chael trefn arni.

28

Yr angen dybryd i wella ein

ffyrdd os yw Cymru am ffynnu

Rhaid datblygu’r hyn sydd yma eisoes a chreu

cynllun synhwyrol i adeiladu priffyrdd newydd

Cywir fu Bethan Jones Parry wrth

ddweud (Y Cymro fis Mawrth):

“Os ydyn ni am gynnal a chadw

cymunedau Cymreig hyfyw mae

angen mynd i’r afael a hynny o

safbwynt trafnidiaeth ar yr un

pryd â gweithredu (parthed)

yr amgylchedd”.

Amlwg yw’r angen am drydedd bont

dros y Fenai. Hebddi, colli’r cyfle o

ddatblygu safle’r Wylfa sy’n beryg heb

sôn am godi amheuon ynglŷn â dyfodol

y gwaith ar gynllun Hydrogen Caergybi.

Nid gofyn am draffyrdd drudfawr yw

hyn ond rhwydwaith o briffyrdd da gyda

‘deuoli’ lle mae’n briodol.

O ychwanegu ‘hanner-lon’ atodol wele

hwyluso pasio cerbydau trwm/araf a

chreu ‘llwybr’ fwy diogel i seiclwyr ac

ati.

A’r flaenoriaeth - rheidrwydd - fuasai

tynnu’r gogledd a’r deheudir yn agosach

i’w gilydd.

Cynsail amlwg fuasai’r gwaith wnaed

dan brif-weinidogaeth Carwyn Jones -

ffordd osgoi’r Drenewydd, e.e. Parthed

moduro a’r amgylchedd, does fawr sy’n

waeth na cherbydau’n cychwyn a stopio

byth a hefyd.

Gydol y deu-ddegawd diwethaf

trawsnewidiwyd ffyrdd gwledig Sbaen.

Gyda gwaethaf Ewrop gynt - gyda’r

gorau bellach. Ag Undeb Ewrop yn gefn

i’r holl beth wele hwyluso hynod ar y

daith i’r gwaith heb orfod symud yn

agosach iddo.

Dyna yw ‘cynnal a chadw

cymunedau hyfyw’. Denu twristiaeth

hefyd wrth gwrs. Ac o gael ymwelwyr

sy’n moduro ar eu liwt eu hunain daw

busnes i bentrefi a threfi bychain wrth

aros am bryd o fwyd a/neu dreulio’r nos

tra’n crwydro’r ardal.

Mewn tagfa ar draffordd mae gyrrwr yn

gaeth rhwng un cyffordd a’r llall. Llai o

beryg fel arall.

Wele briffyrdd Patagonia - ar naill ochr

y ffin rhwng Chile a’r Ariannin. Serch

ambell i ddarn amrwd, gellir mynd bob

cam i Benrhyn yr Horn yn Chile.

Nepell o’r penrhyn mae Haru Oni, ‘Tir

y Gwynt’. Ac yno mae ffatri adeiladwyd

gan Porsche sy’n cynhyrchu

‘e-danwydd’ (‘e-fuels’).

‘Gydol y deu-ddegawd

diwethaf

trawsnewidiwyd ffyrdd

gwledig Sbaen. Gyda

gwaethaf Ewrop gynt

- gyda’r gorau bellach’

Gall hyn gadw’r peiriant tanio mewnol

(ICE - Internal Combustion Engine)

ar dir y byw wrth leihau allyriadau

(‘emissions’) oddeutu 90% - sef hyd at

fawr ddim.

‘HIF’ (‘Highly Innovative Fuels’ yw

enw’r safle). Gellir dosbarthu’r e-danwydd

hwn trwy bwmp cyffredin gorsaf

betrol.

O’i addasu gall ‘ddynwared’ Derv

(Diesel) hefyd. Perthnasol felly, nid

ar gyfer America Ladin yn unig, ond

gwledydd ledled y byd.

Mae gwyntoedd cryfion yma’n ddibaid

bron - delfrydol ar gyfer tyrbinau gwynt

sy’n cynhyrchu’r ynni ar gyfer y gwaith.

Does dim elfen garbon a hollol ‘wyrdd’

ydyw.

Mae dau fath o e-danwydd.

Hwn, e.e., sy’n gynnyrch proses

gemegol-ddiwydiannol neu yntau

un sy’n ganlyniad casglu gwastraff

amaethyddol, gwellt hyd yn oed,

neu algae dŵr corsydd neu wastraff

ac ati.

Nid Bio-Danwydd

(cyfarwydd bellach) mohono a nid

‘Ethanol’ neu Had Rep (sy’n gnydau

dyfwyd ar ei gyfer) ychwaith.

Gwaith y tyrbinau yw ‘tanio’r’

electrolysis sy’n gwahanu dŵr i’w

elfennau hydrogen ac oxygen.

O gyfuno’r oxygen â CO2 ‘sugnwyd’

o’r aer y tu allan wele greu methanol

all ei drin-gyfosod i wneud petrol cwbl

synthetig a di-garbon.

Menter ‘peilot’ rhyw 100,000 litr y

flwyddyn yw hi ar hyn o bryd gydag

uchelgais o 500,000 cyn bo hir. Ond

bydd rhaid ehangu tipyn ar safleoedd

e-danwydd os am ddisodli petrol a

diesel.

Yr hyn sy’n ganolog, serch hynny,

yw Hydrogen - unai wrth greu tanwydd

(uchod), creu trydan i

yrru’r cerbyd (cell tanwydd)

neu danio peiriant ‘ICE’

cyfredol megis y gwaith sylweddol

wnaeth Toyota arno

eisoes.

Mae gan Gymru gyfle

yma hefyd. Y datblysgiad

diweddaraf yw creu hydrogen

o ddŵr y môr heb orfod ei

‘buro’.

Ffyniant ddaw i ganlyn ffyrdd

a nid elwa arno’n unig wna ceir a

cherbydau ond

ei feithrin.

gan Huw Thomas

‘Ffordd yr ucheldir Iach’ Sbaen ac Arona SEAT:

£21,430 - £27,440.

Un o fodelau Panamera e-danwydd a safle HIF Haru

Oni Porsche.

Panamera Porsche V8-silindr, 4.0-litr ym Mhatagonia yn

rhedeg ar e-danwydd safle HIF. Ystod modelau V6 a V8

cyfredol: £72,900 - £149,100.

RX8 Mazda a pheiriant

cylch-danio (Rotary Combustion

Engine) sy’n llosgi Hydrogen pur.

Darpar gar arbrofol.

GR Yaris H2 Toyota. Darpar gar ralio sy’n gyrru ar gyrsiau cyfres WRC

(Pencampwriaeth Ralio’r Byd) a pheiriant sy’n rhedeg ar Hydrogen pur. Hyn

er dangos pa mor gystadleuol ydyw.

Gohebwyr Moduro Cymru

www.motoringwriters.com
Mai 2019

Papur Cenedlaethol Cymru £1. 0

Rheolei dio

neu hybu?

yn holi

- tud 10

Mwy na geiriau ar wal - rhan

Gor fe naf 2019

Papur Cenedlaethol Cymru £1.00

Pam bod

angen

poeni? -

yn fyw

Barn wahanol

- tud 16 -17

- tud 2 a 3

13

Ionawr 2020

RHYBY D 2020: - tud 8

Canolfan Celfy dydau ac Arloesi

Arts and I novation Centre

Bangor

Beth welwch

chi nesaf?

Papur Cenedlaethol Cymru £1.00

Colofn Cadi - tud 1

Ydi cywirdeb gwleidy dol wedi mynd dros ben llestri? - tud 14 a 15

Ewch i pontio.co.uk neu’n cyfryngau

cymdeithasol i darganfod mwy

@TrydarPontio

pontio_bangor PontioBangor

Y_Cymro_Advert_V3.indd d 2 07/01/2020 14:48:24

- tud 7

Hydref 2020

Papur Cenedlaethol Cymru £1.50

Hanes trist

ac anhygoel

yn Ne

yn 1607

- tud 16 - 17

- tud 2

£8. 9

£12. 9

£14. 9

£9. 9

£7. 9

Cefnogwch eich

siop lyfau leol

.com

Llyfrau dros Gymru

Mai 2019

Papur Cenedlaethol Cymru £1. 0

Rheolei dio

neu hybu?

yn holi

- tud 10

Mwy na geiriau ar wal - rhan

Gor fe naf 2019

Papur Cenedlaethol Cymru £1. 0

- tud 2 a 3

Pam bod

angen

poeni? -

yn fyw

Barn wahanol

- tud 16 -17

Medi 2019

Papur Cenedlaethol Cymru £1. 0

A sut un oedd h i chi fe ly? -

dadansoddi Steddfod 2019 - tud 6, 11,17,18,19, 20

Dathlu 20

mlynedd o

datganoli

unigryw yn

y brif dinas

- tudalen 2

Disgwyl miloe d yn yr Orymdaith Dros Annibyniaeth ym Merthyr - tud 3

Papur Cenedlaethol Cymru £1. 0

Ein hiaith

hynafol

yn yr oes

digidol

- tud 10

- tud 15,16 a17

‘Peidiwch â fy melltithio ond a oes rhesymau ariannol da erbyn

hyn i ddod â diwedd i’n Steddfod symudol’ - Dafydd Iwan - tud 6

Awst 2023

£9.99 £9.99 £5.99

Papur Cenedlaethol Cymru £1.50

53% o Gymry 18 i 24 oed rŵan yn dweud y

byddent yn pleidleisio dros annibyniaeth

HANNER

YR IFANC

O BLAID

CYMRU

RYDD

‘Mae’n bryd edrych ar

ddyfodol mwy disglair, gwell

a mwy beiddgar fel cenedl

annibynnol’ - tud 17

£9.99

£9.99

£19.99

‘Yn araf bach,

yn ddiarwybod

i ni bron,

cawn ein

Seisnigo’

- Heledd

Gwyndaf

Beth am gynnau tân...

‘Dêtio yn 2023.... wy’n sengl am y tro cynta’ ers 15 mlynedd’ - Esyllt Sears - tud 7

Gorffennaf 2019

- tud 4

Barddoniaeth a ‘Thân yn Llŷn’ yn dod â’r

Eisteddfod i uchafbwynt dramatig - tud 3

Lluniau o ddeuddydd cyntaf

y Brifwyl ym Moduan - tud 2 a 12

Newydd i’r

Steddfod

Cefnogwch eich siop leol

.com

OWAIN PWY?

Papur Cenedlaethol Cymru £1.00

Pam nad yw hanes ein gwlad yn cael ei

ddysgu yn ein hysgolion?

Pam bod

angen

poeni? -

mae’r iaith

yn fyw

ac iach!

Barn wahanol

- tud 16 -17

‘Profiad y tasglu yw bod nifer o ddysgwyr yn

ysgolion Cymru yn dysgu mwy am hanes Lloegr nag

am hanes eu bro a’u gwlad eu hunain’ - tud 2 a 3

Cynghorau yn cefnogi breuddwyd annibyniaeth - tud 13

Tanysgrifiwch i dderbyn papur Y Cymro

drwy’r post am £39 y flwyddyn neu fel PDF

drwy e-bost bob mis am £12 y flwyddyn

Rydym yn falch o gynnig tanysgrifiad

papur am £39, gan gynnwys postio a phacio

(dosbarth cyntaf), neu danysgrifiad electronig ar

PDF bob mis am £12.

I danysgrifio gallwch gwblhau’r ffurflen isod neu

drefnu taliad banc.

Manylion ar gyfer trefnu taliad banc -

Enw’r cyfrif: Cyfryngau Cymru Cyf

Rhif y cyfrif: 1056 4389

Côd didoli: 20 51 08 (sort code)

Os byddwch yn trefnu taliad banc,

danfonwch eich enw a’ch cyfeiriad

llawn atom - gwyb@ycymro.cymru - gyda’r

pennawd ‘Tanysgrifio’

‘Mi f’asa R. Williams Parry yn gwaredu bod Eifionydd yn diodde’

o ‘olwg hagrwch cynnydd’ fel hyn’ - Bethan Jones Parry - tud 12

Ebrill 2023

Y FREUDDWYD

...i gael pob plentyn ysgol yng

Nghymru yn siarad Cymraeg

£9.99

Ar ôl honiadau

bod Gwasanaeth

Iechyd Gwladol

Cymru

‘wedi torri’ - beth

yw’r gobeithion

rŵan felly

am newid

go iawn? - tud 2

£9.99

Papur Cenedlaethol Cymru £1.50

Ein hanes oll

mewn hanner

miliwn o

glipau fideo

500,000 o glipiau archif

Cymreig rŵan ar gael yn

ddigidol - tud 27

£8.99

£7.99

Cyhoeddodd Cymdeithas yr

Iaith eu cynigion ar gyfer Deddf

Addysg Gymraeg i bawb ar yr

un adeg i Lywodraeth Cymru

gyhoeddi ei Phapur Gwyn ar y

£9.99

Bil Addysg Gymraeg arfaethedig

ac ymgynghoriad ar gynigion

newydd i gyflawni nodau

uchelgeisiol ar gyfer cynyddu nifer

siaradwyr yr iaith. - tud 3 a 5

‘...sbri o ffilm sy’n adlewyrchu ansicrwydd a chyffro’r oes’ - Dylan Wyn Williams - tud 15

£35

Cefnogwch eich

siop lyfrau leol

.com

Llyfrau dros Gymru

29

Ai gweddillion

milwyr o

ddyddiau

Glyndŵr

sydd wedi eu

darganfod

yn Hwlffordd?

‘Symud tuag at Addysg cyfrwng Cymraeg i bawb yw’r unig ffordd o gyflawni’r nod’ - Mabli Siriol Jones

‘Rydym wedi ymrwymo i ddyfodol lle mae gan bawb y

gallu a’r cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob

dydd’ - Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles

Be amdani? ...dewch i’r Bala i chwarae

golff yng Ngwpan Y Cymro’ - tud 8

Mai 2023

Papur Cenedlaethol Cymru £1.50

PAM RHAID

GADAEL

EIN GWLAD

I FYND O

UN PEN

I’R LLALL?

Gweld

rhywbeth o’i le

ar enw hyfryd

Bannau

Brycheiniog?

...na ninnau

chwaith!

Wrth i’r ffrae dros gyfraniad Cymru i brosiect rheilffordd HS2 Lloegr godi

stêm mae galw cynyddol am ffordd gall o gysylltu’r de a’r gogledd - tud 3

“Yn anhygoel, mae’n rhaid i unrhyw

deithiwr sydd eisiau mynd ar y trên o

ogledd i dde Cymru fynd drwy Loegr”

Liz Saville Roberts - tud 3

Y gadair o Batagonia bell ...mae rhai pethau sy’n werth aros amdanynt - tud 4

- tud 2

- tud 9

Tachwedd 2020

Papur Cenedlaethol Cymru £1.50

NEGES Y TRAETH

YR YMATEB!

OWAIN PWY?

Maxine, Cymru

...a Donald Trump

O’r America - sgŵps gwych y

newyddiadurwraig o Gonwy

Ar y Cyfryngau - Dylan Wyn Williams

Hysbys Cymro Stribyn Gor f 23 :Layout 1 22/06/2023 09:19 Page 1

OES GOBAITH 0’R

DIWEDD AM

REILFFORDD

GALL DRWY

GYMRU?

Pwy, pam a be? ...‘parchu artistiaid’ a’r ffrae

dros reol iaith yr Eisteddfod - tud 3

Gorffennaf 2023

- tud 15

Papur Cenedlaethol Cymru £1.50

Cynllun ‘hanesyddol’ i achub ein cymunedau

rhag effaith ddinistriol y tai gwyliau

UN CAM

CALL O’R

DIWEDD

TUAG ATAL

Y LLIF

‘Mae Gwynedd wedi arwain

y ffordd’...ond mae rhai yn ei

weld fel polisi ‘wrth-Seisnig’

- Adroddiad arbennig - tud 2

ar gael yn eich siop lyfrau leol. . .

’Chydig o

Gymraeg i

ni - HWRE!

...pam felly

bod ein

disgwyliadau

mor ofnadwy

o isel?

Heledd Gwyndaf

- tud 4

Enw Llawn: ......................................................

Cyfeiriad: .........................................................

Cyfeiriad e-bost ...............................................

Rhif ffôn ...........................................................

Neu dychwelwch y ffurflen hon gyda siec am

£39 neu £12 yn daladwy i Cyfryngau Cymru

Cyf at Y Cymro, 13 Heol y Parc, Pontyberem,

Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 5EA

Cysylltwch gyda ni ar y cyfeiriadau uchod hefyd am

fanylion tanysgrifio i Ewrop a gweddill y byd, i drefnu

tanysgrifiad anrheg neu i archebu mwy nag un copi.

Byddem hefyd wrth ein bodd i glywed gan

unigolion, ysgolion/colegau a grwpiau/cymdeithasau

lleol ayyb os oes diddordeb dosbarthu a gwerthu Y Cymro

(ar gomisiwn hael) yn eich cymuned chi.

Tanysgrifiwch nawr i unig bapur newydd

cenedlaethol Cymru

Dirgelwch marwolaeth un o dywysogion

Cymru yn dianc o Dŵr Llundain - tud 16 - 17

Mawrth Gorffennaf 2022 2022

Papur Cenedlaethol Cymru £1.50

A yw’r nonsens o beidio bod â rheolaeth dros

gyfryngau ein hunain am gael ei sortio o’r diwedd?

CAM CALL

AT WELD

CYMRU

DRWY

LYGAID

Y CYMRY

Mai 2020

Cyhoeddi panel

arbenigol ar

ddatganoli darlledu

- tud 13

‘A allwn alw hyn yn

chwyldro? …efallai

wir’ - Heledd Gwyndaf

- tud 8

‘Does dim rheswm y

dylen ni fod mor bell ar

ei hôl hi’ - Cymdeithas

yr Iaith - tud 13

Dafydd

Iwan

sy’n

gofyn...

pwy a

be sydd

yma o

hyd?

Miloedd yn galw am

ein hannibyniaeth

Gorymdaith fawr Wrecsam - tud 3

Papur Cenedlaethol Cymru £1.50

- tud 6

32

Y GWANWYN

DISTAW

- tud 8 - tud 3

- tud 7

- tud 12

- tud 3

GWASG

CARREG

GWALCH

www.carreg-gwalch.cymru ( 01492 642031

YR YMATEB!

OWAIN PWY?

13

BRWYDRO I DDATRYS

‘DINISTR’ Y TAI HAF

BREUDDWYD RHYDDID
30

Pawb yn barod amdani felly? - a bydd

pob gêm Cymru i’w gweld ar S4C

Bydd pob gêm Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn

Ffrainc yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C.

Sarra Elgan, Jason Mohammad a Lauren Jenkins fydd yn

cyflwyno’r darllediadau o’r twrnamaint.

Y sylwebydd Gareth Charles fydd yn dod â holl

gynnwrf y gemau i’r gwylwyr adre ac yn ymuno ag ef bydd

y dadansoddwyr Mike Phillips, Gwyn Jones, Siwan Lillicrap,

Rhys Priestland, Dyddgu Hywel, Robin McBryde a Rhys

Patchell.

Bydd darllediadau S4C yn dechrau gyda’r gêm

agoriadol rhwng Ffrainc a Seland Newydd ac yn ogystal â holl

o gêmau Cymru, bydd yn dangos rownd yr wyth olaf, y rownd

gynderfynol, y trydydd safle a’r rownd derfynol yn fyw o’r

Stade de France ym Mharis.

Bydd darllediadau S4C yn cynnwys rhaglenni rhagflas gyda

Sarra Elgan, a bydd Sarra hefyd yn ymuno â Jonathan Davies

a Nigel Owens i drafod tim Cymru yn eu ffordd llawn hiwmor

arferol ar Jonathan.

Bydd modd clywed y diweddaraf am garfan Cymru gyda

vodcast Allez Les Rouges sy’n cael ei gyflwyno gan Lauren

Jenkins.

Bydd Newyddion S4C hefyd yn dod â’r diweddaraf am

ymgyrch Cymru yn Ffrainc drwy gydol Cwpan Rygbi’r Byd.

Dywedodd

cyn-fewnwr

Cymru a’r Llewod,

Mike Phillips:

“Fi’n gyffrous

achos ma crop o chwaraewyr newydd wedi dod mewn i’r

garfan nawr, ma’n nhw yn ifanc ac ma’n teimlo fel 2011 gyda

bois ifanc yn dod trwodd adeg yna.

“Gobeithio byddwn ni’n cael yr enwau newydd yn dod

trwodd nawr, ’na beth ni moyn gweld.

“Maen nhw wedi cael amser da yn paratoi a dwi’n edrych

mlaen i weld Cymru yng Nghwpan y Byd.”

‘Cyfle rhy bwysig i’w golli’ - cynllun i drio prynu marina’r Felinheli

Mae Menter Gymunedol newydd wedi gosod nod

uchelgeisiol i’w hun - bod y cyntaf o’i math yng

Nghymru i brynu marina.

Cafodd Menter Felinheli ei sefydlu i greu buddion

economaidd a chymdeithasol ond mae’r rhai sydd y tu ôl iddi

yn dweud bod y cyfle i brynu’r marina yn y pentref yn gyfle

rhy bwysig i’w golli.

Adeiladwyd y marina yn yr 1980au ar safle’r porthladd ble

roedd llechi o chwarel Dinorwig yn cael ei llwytho ar longau

i’w hallforio.

Fodd bynnag, yn gynharach eleni, fe’i rhoddwyd yn nwylo’r

gweinyddwyr, ac maen nhw bellach wedi ei roi ar werth.

Un o’r rhai y tu ôl i Menter Felinheli yw Gwyn Roberts, a

fu yn arwain Cwmni Tref Caernarfon wnaeth adfywio’r dref

drwy brynu ac adnewyddu eiddo gwag. Ef hefyd yw cyn Brif

Weithredwr y ganolfan greadigol, Galeri, yng Nghaernarfon.

Mae cwmni gemau o’r Unol Daleithiau sydd â

swyddfeydd yn Efrog Newydd ac yn Texas am sefydlu ei

bencadlys Ewropeaidd yng Nghymru.

Dywedodd: “Rydym wedi teimlo ers peth amser y byddai

Menter Gymunedol fel hyn yn dod â manteision economaidd a

chymdeithasol i’r Felinheli.

“Ein bwriad yw datblygu’r asedau sydd eisoes yn

bodoli yn y pentref ac fe wnaeth

cyfarfod cyhoeddus

diweddar ddangos bod pobl leol

yn cefnogi’r nod hwnnw.

“Dim ond trwy hap a damwain

y mae’r marina wedi cael ei roi

ar y farchnad mor fuan ar ôl i ni

gael ein sefydlu - ond fe fydden

ni’n ffôl i beidio ag edrych yn

fanwl ar y posibilrwydd o’i brynu.

“I raddau helaeth mae’r marina a’r pentref wedi bod ar

Cwmni gemau o America’n dewis Cymru fel ei bencadlys

Rhagor o grantiau’n rŵan ar gael ar gyfer

prosiectau cymunedol Cymraeg

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn annog

prosiectau cymunedol newydd i wneud cais am

gyllid.

Mae Llywodraeth Cymru’n gwahodd grwpiau

cymunedol i wneud cais am grantiau bach i helpu i

sefydlu cwmnïau cydweithredol cymunedol, mentrau

cymdeithasol a phrosiectau tai, neu eu cynorthwyo i

dyfu. Grantiau Bach Prosiect Perthyn yw enw’r cyllid

ac mae’n rhan o’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg.

Nod y grant yw helpu i greu cyfleoedd economaidd,

darparu tai fforddiadwy, a chefnogi cymunedau

Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi.

Mae ffurflen gais a chanllawiau ar gael yma.

https://cy.cwmpas.coop/yr-hyn-a-wnawn/gwasanaethau/perthyn/

‘...fe fydden ni’n

ffôl i beidio ag

edrych yn fanwl ar

y posibilrwydd’

wahân ers y dechrau, a tydi’r manteision y gallai’r marina greu

i’r pentref heb ei gwireddu.

Bydd Rocket Science yn agor ei stiwdio newydd yng

Nghaerdydd, gan greu 50 o swyddi ar gyfer graddedigion a

gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant gemau i weithio ar

rai o’r prosiectau technegol anoddaf ar gyfer y gemau fideo

mwyaf yn y byd.

Denwyd y prosiect mewnfuddsoddi hwn yn sgil taith

fasnach lwyddiannus gan Lywodraeth Cymru i Gynhadledd

y Datblygwyr Gemau yn San Francisco yn 2022.

Mae Rocket Science am greu presenoldeb yng Nghymru,

tebyg i’w safle llwyddiannus yn Efrog Newydd, a chreu

stiwdio Gymreig i wasanaethu cwsmeriaid y cwmni yn

Ewrop.

Bydd y stiwdio yng Nghaerdydd yn gweithio ar gemau

mwyaf poblogaidd y byd heddiw, sy’n cael eu chwarae gan

filiynau o bobl bob dydd. Bydd hefyd yn denu ac yn cefnogi

cleientiaid i greu gemau mwyaf uchelgeisiol fory.

Bydd y cwmni’n cael nawdd gan Lywodraeth Cymru trwy

ei Chronfa Economi’r Dyfodol (EFF) sy’n helpu busnesau i

fuddsoddi yn economi Cymru a’i helpu i dyfu.

Mae hwn yn gam mawr i’r sector gemau yng Nghymru

wrth i ni geisio cipio cyfran fwy o farchnad gemau’r byd.

Mae disgwyl i’r farchnad honno dyfu i fwy na $200bn

erbyn 2025.

Wrth gyhoeddi’r newydd, dywedodd Dirprwy Weinidog y

Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:

“Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn cefnogi

Llywodraeth Cymru â’i hamcan strategol i ddatblygu’r

diwydiant gemau yng Nghymru.

“Bydd gan stiwdio newydd Rocket Science y

potensial i weddnewid y sector, trwy greu 50 o swyddi bras,

sbarduno’r economi i dyfu a datblygu ymhellach sector

gemau Cymru, gan greu cyfleoedd gwaith o ansawdd uchel

i genedlaethau heddiw ac yfory.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg,

Jeremy Miles: “Mae prosiectau bach yn gallu gwneud

gwahaniaeth mawr yn ein cymunedau ni.

“Ry’n ni wedi gweld llawer o syniadau creadigol sut

mae cymunedau yn cefnogi’r Gymraeg ar lawr gwlad

ac wedi gweld hefyd yr effaith y gall swm cymharol

fach o arian ei chael, a’r gwahaniaeth mae hynny’n ei

wneud.

“Dyna pam rwy’n falch o gyhoeddi bod cyfle arall i

grwpiau cymunedol wneud cais am gefnogaeth.

“Os ydych chi’n grŵp cymunedol sy’n cynnal

prosiect a fydd yn cefnogi’r Gymraeg yn eich

cymuned ac yn barod i’r prosiect gymryd y cam nesaf,

fe fyddwn i’n eich annog chi i wneud cais am grant

bach Prosiect Perthyn.”

“Fe allai cael perchnogaeth leol newid hynny.”

Un arall sydd y tu ôl i’r prosiect yw’r digrifwr, Tudur Owen.

“Mae safle’r marina yn rhan hanfodol o hanes y pentref - y

fasnach mewn llechi sydd wedi siapio’r lle fel rydym yn ei

‘nabod heddiw.

“Ond does dim cyfeiriad at yr hanes yma yn y marina ac

mae’n parhau i fod ar wahân i’r pentref ei hun.

“Mae Mentrau Cymdeithasol fel’ma wedi profi dro-ar-ôl-tro

y gallan’ nhw gynhyrchu cyfoeth i gymunedau lleol.

“Erbyn hyn mae 26 ohonyn nhw yng Ngwynedd yn unig yn

rhedeg tafarndai, siopau, cynlluniau ynni dŵr, gwasanaethau

bysiau a llawer mwy.

“Ond ni yw’r cyntaf yng Nghymru i edrych ar brynu marina -

er bod ‘na un neu ddau o fentrau tebyg yn Yr Alban.

“Dyma ddechrau taith hir ac mae llawer o waith caled o’n

blaenau.”

mewn partneriaeth â diwydiannau’r dyfodol i greu swyddi

newydd o’r radd flaenaf, tra’n helpu’r staff sydd eisoes

yn gweithio yn y sectorau hyn i ddatblygu eu sgiliau

ymhellach.

“Mae Cymru’n wlad

wych i fyw, gweithio a

buddsoddi ynddi ac i ymweld

â hi. Felly, rwy’n pwyso ar

fusnesau i gysylltu â Cymru

Greadigol i weld sut y gall

eu helpu i feithrin busnes

llwyddiannus yma yng

Nghymru.”

‘ B y d d g a n

stiwdio newydd

R o c k e t S c i e n c e y

p o t e n s i a l i

weddnewid y sector’

Effaith COVID ar ddatblygu sgiliau Cymraeg

Roedd rhai plant ysgol yn teimlo bod pandemig COVID wedi

achosi ‘saib’ o ran datblygu sgiliau Cymraeg, yn ôl ymchwil gan

brifysgolion Aberystwyth a Bangor.

Roedd yr ymchwil yn archwilio profiadau dysgwyr o deuluoedd

di-Gymraeg a oedd mewn addysg Gymraeg, a chanfyddiadau eu rhieni.

Yn yr adroddiad, mae’r tîm ymchwil yn dyfynnu un disgybl, gan eu

bod yn teimlo bod ei eiriau yn disgrifio profiadau cyffredinol yr holl

deuluoedd y siaradwyd â hwy, ac yn tynnu sylw at y diffyg cyfle i

ymwneud â’r Gymraeg a’i defnyddio yn ystod y cyfnod clo.

Dywedodd Dr Siân Lloyd Williams, Darlithydd Addysg ym

Mhrifysgol Aberystwyth: “Gwyddom fod pandemig COVID-19,

â’i gyfnodau clo a’r cau a fu ar ysgolion, wedi tarfu’n sylweddol

ar fywydau pobl. Mae ymchwil flaenorol wedi dangos bod diffyg

cyfleoedd i ymwneud â’r Gymraeg yn ystod y pandemig wedi

cael effaith neilltuol ar y disgyblion hynny a oedd yn mynd i

ysgolion Cymraeg, ond yn byw mewn cartref lle mai iaith arall, nid y

Gymraeg, oedd y brif iaith.”
Cyhoeddi cynlluniau i helpu creu swyddi,

cefnogi’r economi a chryfhau’r Gymraeg

Mae cyfres o ymyriadau i

gefnogi cymunedau Cymraeg i ffynnu

wedi cael ei datgelu gan Weinidog yr

Economi.

Mae ARFOR yn rhan o Gytundeb

Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Plaid

Cymru.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru, sydd ar

gael i bedwar awdurdod lleol Gwynedd,

Ynys Môn, Ceredigion a Sir

Gaerfyrddin, yn cefnogi nifer o bethau,

gan gynnwys pwyslais ar gyfleoedd i bobl

ifanc a theuluoedd, i’w galluogi i aros yn eu

cymunedau cartref neu ddychwelyd iddynt.

Wrth lansio’r rhaglen, dywedodd y

Gweinidog, Vaughan Gething: “Gallai

ARFOR 2 wneud gwahaniaeth sylweddol

yn ein cadarnleoedd Cymraeg, trwy fwrw

ymlaen â’n huchelgais o ledaenu ffyniant

economaidd ledled Cymru.

“Trwy weithio gyda’n partneriaid, yr

awdurdodau lleol, rydym am gefnogi

cymunedau sy’n gadarnleoedd y Gymraeg

i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a

chyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a

defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol.”

Canmol effaith yr ail Ŵyl Gofalwyr Ifanc

Mae’r Dirprwy Weinidog

Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie

Morgan, wedi canmol effaith yr ail Ŵyl

Gofalwyr Ifanc yng Nghymru.

Gan adeiladu ar y digwyddiad cyntaf y

llynedd, mae’r ŵyl eleni wedi denu mwy o

ofalwyr ifanc am dridiau o weithgareddau,

hwyl ac ymlacio yn Llanfair-ym-Muallt.

Mae’r ŵyl yn rhoi’r cyfle i ofalwyr

ifanc ymlacio o’u dyletswyddau o ddydd i

ddydd, cwrdd â ffrindiau newydd a mwynhau

profiadau newydd.

Mae gwybodaeth hefyd ar gael i’w helpu i

fynd i’r afael â’r heriau y gallent eu hwynebu.

Daeth y digwyddiad eleni, ar faes y Sioe

Frenhinol, â 330 o ofalwyr ifanc rhwng 12

ac 16 oed ynghyd o bob rhan o Gymru, ac

roedd yn cynnwys sgiliau syrcas, cynhyrchu

cerddoriaeth, gweithdai ffotograffiaeth, drymio

samba a chrefftau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Rwy’n

falch iawn o weld cymaint o ofalwyr ifanc yn

dod at ei gilydd i fanteisio ar gyfleoedd i ffwrdd

o’u cyfrifoldebau gofalu.

“Mae’r digwyddiad hwn yn gwneud cymaint

o wahaniaeth iddynt ac yn caniatáu iddynt

ymlacio, rhannu profiadau a chael hwyl.

“Alla’ i ddim pwysleisio digon mor bwysig

yw’r hyn maen nhw’n ei wneud o ddydd i

ddydd.

“Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cael amser

Dywedodd yr Aelod

Dynodedig, Cefin

Campbell: “Mae ARFOR yn

rhaglen gyffrous i gefnogi a

thyfu’r economi lleol a’r

Gymraeg gyda’i gilydd. Trwy

fuddsoddi yn y meysydd

hyn, byddwn yn annog ac yn

galluogi entrepreneuriaeth

ac yn helpu busnesau i dyfu.

Bydd hyn yn cefnogi cymunedau bywiog a

ffyniannus.”

‘...mae’n ein helpu i

gryfhau ein gwasanaethau a

chynyddu ein hincwm’

Yn ddiweddar, ymwelodd y

Gweinidog â Siop Griffiths, sef menter

gymunedol ym Mhenygroes, Dyffryn

Nantlle a dderbyniodd arian gan ARFOR

1 ac sydd wedi helpu i greu atebion lleol

i’r heriau sy’n wynebu Dyffryn Nantlle.

Enillodd y fenter Wobr Dewi Sant yn 2022

am Ysbryd Cymunedol.

“Mae’r gefnogaeth gan Raglen ARFOR

gwych ac yn gwybod gymaint rydym yn eu

gwerthfawrogi.”

Mae’r ŵyl hefyd wedi bod yn codi

ymwybyddiaeth o’r Siarter ar gyfer Gofalwyr

Di-dâl, sydd i wella cymorth ar gyfer

gofalwyr di-dâl o bob oed ac yn hyrwyddo eu

dealltwriaeth o’u hawliau.

Mae Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc hefyd

wedi cael eu dathlu. Mae cardiau adnabod wedi

bod ar gael ledled Cymru ers mis Ebrill 2022

ac fe’u cyd-gynhyrchwyd gydag awdurdodau

lleol ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru,

gyda chymorth

ariannol o £600,000

gan Lywodraeth

Cymru .

Dywedodd Dan

Newman o Credu,

sy’n trefnu’r Ŵyl

Gofalwyr Ifanc:

“Hon fydd

ein hail Ŵyl

Gofalwyr

Ifanc

Cymru i ddathlu

llwyddiannau

gofalwyr ifanc ledled

Cymru.

Eleni mae

gweithgareddau sy’n

cynnwys gweithdai dawns, chwaraeon, celf

a chrefft, disgo tawel, DJs a pherfformiadau

wedi helpu Siop Griffiths i

greu swydd newydd - Rheolwr

Gwasanaethau - ac mae’n ein

helpu i gryfhau ein gwasanaethau a

chynyddu ein hincwm,” meddai Ben

Gregory, Ysgrifennydd Siop Griffiths Cyf.

“Yn y tymor hir rydym yn anelu at

gynyddu nifer y swyddi a’r gwasanaethau

sydd oll yn gweithredu drwy gyfrwng y

Gymraeg ac yn cael eu cynnig i’r cyhoedd

yn ddwyieithog. Mae Rhaglen ARFOR

hefyd yn ein helpu i gysylltu â mentrau

cymdeithasol o’r un anian, lle gallwn

ddysgu ar y cyd am y ffordd orau o gefnogi

a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg.”

byw, a llawer mwy. Mae Credu yn diolch i

chi, Ofalwyr Ifanc Cymru, am eich holl waith

caled. Rydym yn gobeithio y byddwch wrth

eich bodd yn yr ŵyl eleni.”

Ychwanegodd Ffion Scott, gofalwr ifanc sy’n

mynychu’r digwyddiad:

“Dw i mor gyffrous i fynd yn ôl i’r ŵyl eleni

oherwydd yr holl hwyl ges i’r llynedd. Cefais

y cyfle i gwrdd â gofalwyr ifanc o bob cwr o

Gymru wyneb yn wyneb a dod i’w hadnabod

a gwneud mwy o ffrindiau. Gall pawb ymuno

â’r gweithgareddau yn yr ŵyl oherwydd mae

rhywbeth yno i bawb gael yr amser gorau.”

z

Sylw arbennig i

faterion ffermio yn

sioe sir Ynys Môn

31

Cafodd Undeb Amaethwyr Cymru

Ynys Môn sioe sir lwyddiannus lle

cafodd materion ffermio sylw arbennig

dros ddau ddiwrnod hynod brysur.

Cafwyd cyfarfodydd gyda gwleidyddion

lleol, yn ogystal â’r Prif Weinidog Mark

Drakeford a Gweinidog Amaethyddiaeth

Cymru Lesley Griffiths.

Defnyddiwyd y cyfarfodydd hyn fel cyfle

i ddwyn sylw at faterion sy’n creu heriau

i ffermydd teuluol Cymru gan fygwth

eu dyfodol fel ffermydd ffyniannus a

chynaliadwy.

Yn siarad ar ôl y sioe, dywedodd

Swyddog Gweithredol UAC Sir Fôn

Alaw Jones: “Rydym wedi mwynhau sioe

lwyddiannus a rhaid i mi ddiolch i bawb a

ymunodd â ni dros y ddau ddiwrnod. Roedd

yn gyfle

gwych i

ddangos

pam fod

ffermio’n

bwysig ac

ymhlith

rhai o’r

materion a

drafodwyd

gyda’n

cynrychiolwyr etholedig oedd y Cynllun

Ffermio Cynaliadwy.

“Mae UAC yn llwyr ymwneud â llunio’r

cynllun hanfodol hwn ac yn ystod ein

cyfarfodydd yma yn sioe Môn fe wnaethom

nodi fod fframwaith y cynllun wedi newid

yn sylweddol gan adlewyrchu llawer o’r

materion yr ydym fel Undeb wedi bod yn

lobïo yn eu cylch ers ymgynghoriad Brexit

a’n Tir yn ôl yn 2018.

“Fodd bynnag, yn ystod ein sgyrsiau yma

yn y sioe, ‘rydym wedi bod yn glir iawn am

ddiffyg cefnogaeth y cynigion presennol

ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy,

cynllunio olyniaeth a diffyg unrhyw fath o

gynllun ar gyfer newydd-ddyfodiaid.

“Cafodd aelodau UAC o fewn y Sir

gyfle i godi eu pryderon am y broblem

TB gynyddol ar yr ynys a hynny gyda

Gweinidogion Llywodraeth Cymru a

Phrif Swyddog Milfeddygol newydd

Cymru, Richard Irvine.”

Amlinellodd swyddogion yr undeb

bryderon hefyd ynghylch toriadau a

wnaed gan Y Trysorlys yn Llundain

i gyllidebau amaethyddol Cymru a’r

peryglon posibl os na chaiff y rhain eu

hadfer i’r lefelau oedd yn bodoli cyn

Brexit.

Lle da i weithio ....chwarae teg

Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn

cydnabyddiaeth genedlaethol am y ffordd

mae’n edrych ar ôl ei staff.

Mae’r cyngor wedi dal gafael ar Safon

Aur yn Fframwaith Ansawdd Iechyd

Genedlaethol. Bwriad y fframwaith yw

cydnabod arferion da o ran iechyd a lles staff

a chanolbwyntio ar anhwylderau a chyflyrau

y gellir eu hosgoi. Gwelir hyn fel ffordd o

leihau absenoldebau a sicrhau nad oes tarfu

na oedi i wasanaethau’r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Menna

Tenholme, Aelod Cabinet dros Adran

Cefnogaeth Gorfforaethol y Cyngor:

“Hoffwn longyfarch pawb sydd y tu ôl i’r

llwyddiant yma. Rydw i’n hynod o falch fod

y cyngor wedi dal y Safon Aur yn gyson ers

2011 sy’n dyst ei fod yn lle da i weithio.”

Dilynwch Y Cymro ar Twitter

Clwb Golff y Bala

- croeso cynnes

bob amser i bawb

Ffon: 01678 520359

@y_cymro
Chwaraeon

O strydoedd Aberystwyth i

fynyddoedd godidog yr Eidal

Clonc gyda’r beiciwr proffesiynol Stephen Williams

gan Llion Higham

Mae Stephen Williams, 27 oed, yn feiciwr proffesiynol o

Aberystwyth, ac eleni roedd yng nghanol mynyddoedd yr

Eidal yn rasio yn y Giro d’Italia.

Mae dilynwyr beicio yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn a

rasio ffordd gwytnwch (endurance road racing) yw un o’r

chwaraeon mwyaf poblogaidd yn y byd. Yng ngeiriau

Stephen Williams: ‘does dim chwaraeon tebyg’.

Mae’r ‘Grand Tours’ yn para 21 o ddiwrnodau

ac yn gofyn i feicwyr wneud yr amhosib. Maen

nhw’n dringo mynyddoedd, yn gwibio i lawr ochrau

clogwyni ac yn rasio i’r diwedd. Does dim llawer o

gampau’n gwthio pobl i’r eithafion hyn yn gorfforol

nac yn feddyliol.

Cefais glonc gyda Stephen Williams i fyfyrio ar

ei daith hyd yma.

Cafodd ei fagu yn Aberystwyth ac yn gyn-ddisgybl

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig. “Roeddwn i’n dda ar unrhyw

chwaraeon dweud y gwir. Rhaid ‘mod i ‘di cael genynnau da achos

roedd Dad yr un peth.

“Nes i ddim dechrau beicio’n iawn tan ‘o ni tua 15/16. Ro’n i’n

reidio ar ben fy hun i ddechrau, wedyn ‘nes i ymuno ag Ystwyth

Cycling Club - y clwb beicio lleol yn Aber - a ‘nes i gwpwl o time

trials a meddwl ooh dw i’n hoffi hwn. Yna’r ras dynion cyntaf i mi

wneud enillais i hwnna, wedyn enillais i eto, ac eto, a chysylltodd

Beicio Cymru â mi wedyn a jyst gwella a gwella o f’yna.”

Roedd yn amlwg bod ei fagwraeth a’i gefndir yn meddwl lot iddo.

“O ie, rwy’n sicr yn Gymro balch iawn, yn dod o Aberystwyth, tref

fach arfordirol. Dydw i ddim yn treulio llawer o amser yno dim mwy

ond dw i’n mynd yn ôl fel arfer am wythnos neu ddwy dros y Nadolig

ac os ydw i byth yn cael cyfle i fynd yn ôl dw i’n mynd amdani. Dw

i am ddal ymlaen i ‘ngwreiddiau, Aberystwyth a Cheredigion. Mae

rhywbeth arbennig am fod yn Gymro, mae’n rhoi mantais i chi.

“Roedd noson Boxing Day diwethaf yn noson dda ac mae’n dipyn o

draddodiad. Mae pawb yn dod yn ôl ac yn defnyddio’r noson honno i

ddal i fyny a dathlu sy’n hyfryd.”

Er y gallwn ni fod wedi sgwrsio am dafarndai lleol Aberystwyth

drwy’r dydd a nos, roeddwn i am wybod pwy oedd wedi dylanwadu

arno fwyaf ac wedi ei helpu i gyrraedd y lefel uchaf.

“Mae sefydliad a chefnogaeth Beicio Cymru wedi bod yn hanfodol

a nhw sydd wedi helpu fy ngyrfa fwyaf.

“Mae Beicio Cymru yn gyffredinol fel sefydliad yn wych, ac roedd

ei gynrychioli llynedd yng Ngemau’r Gymanwlad yn fraint. Mae

dod yn ôl a threulio amser gydag athletwyr o Gymru bob amser yn

sbort. Mae’n bwysig rhoi mensh arbennig i Darren Tudor hefyd, prif

hyfforddwr Beicio Cymru. Cafodd effaith enfawr fel mentor, ac

mae’n rhywun y gallaf bigo’r ffôn i fyny i siarad ag ef am unrhyw

beth, stwff beicio a stwff oddi ar y beic.”

Wrth gwrs, i gystadlu ar y lefel uchaf mewn unrhyw chwaraeon mae

angen bod yn gryf yn seicolegol ond does dim dwywaith am hynny

ym myd beicio ffordd.

Mae pob ras yn hynod beryglus. Mae’r beicwyr yn gwibio i lawr

mynyddoedd serth, yn aml mewn peloton o 200 o feicwyr. Yn

anffodus mae damweiniau’n rhan o’r gamp ac fel gwyliwr, mae’n

anodd dygymod â’r meddylfryd o ddringo yn syth yn ôl ar y beic ar ôl

cael damwain cas.

“Ie dw i’n meddwl bod e wedi cael ei ddweud o’r blaen - nes i

chi fod mewn peloton o 200 o ddynion yn mynd i lawr mynydd ar

100kmh+ ‘sdim modd egluro’r peth. Mae’r natur gystadleuol yn

cymryd drosodd. Yn anffodus, bydd damweiniau bob amser yn rhan

o’r gamp. Fel gwelon ni yn ddiweddar, wrth i ni golli Gino Mäder.”

Yn dorcalonnus, bu damwain erchyll yn Tour de Suisse eleni a bu

farw beiciwr 26 oed o’r Swistir, Gino Mäder.

“Roeddwn i arfer rasio gyda fe yn yr un tîm felly gwnaeth y

newyddion daro fi’n eithaf caled, ond ie mae’r damweiniau hyn yn

anochel ac yn rhan drist iawn o’r chwaraeon yn anffodus.”

Er eu bod nhw’n gystadleuwyr ar y beic, gwelsom y gymuned yn

dod at ei gilydd ar gyfer Mäder. Dyna yw

‘Mae’n gamp

galed iawn, brutal a

dweud y gwir’

Stephen yn

ennill Ras Arctig

Norwy mis diwethaf

Lluniau: SprintCycling

gwir ysbryd y gamp ac mae perthynas

unigryw iawn rhwng y beicwyr i gyd.

“O ran fi fy hun, fel yn y Giro eleni,

lle ges i ddamwain ar gam 4, ti’n dod i

arfer efo fe. Mae bob amser y diwrnod

nesaf. Mae’n wahanol i chwaraeon eraill

lle mae modd cael eich eilyddio neu

ofyn am timeout, mae’n rhaid cyrraedd y

llinell derfyn a gorffen y

cam. Does dim opsiwn ond

dringo yn ôl ar gefn eich

beic a chario ymlaen, ac yn

feddyliol rydych chi’n dod i

arfer â hynny.”

Unrhyw gyngor i bobl

ifanc sy’n meddwl beicio o

ddifrif?

“Rwy’n credu mai’r

prif beth i mi yn bersonol

yw sicrhau eich bod yn

mwynhau ac eisiau cystadlu. Mae’n gamp galed iawn, brutal a dweud

y gwir. Does dim chwaraeon tebyg i hwn. I rasio 21 diwrnod yn

olynol, mewn clwstwr, mae’n rhaid eich bod eisiau gwneud hyn a

sicrhau eich bod bob amser yn mwynhau.”

Beth nesaf i ti?

“Mae’r calendr beicio yn llawn dop gyda chyfleoedd i gystadlu

drwy’r flwyddyn gyfan ond ie, Tour de France yw’r ras mwyaf

eiconig a hanesyddol, ac mae pobl yn gwylio o gwmpas y byd i gyd,

ac nid cefnogwyr beicio yn unig ond y cyhoedd yn gyffredinol. Felly,

byddai’n freuddwyd i mi’n bersonol cael rasio yn y Tour a gobeithio

ga’ i gyfle yn y flwyddyn neu ddwy nesaf.”

Dros lais annibynnol cryf i Gymru...

Mae’r aros

drosodd felly -

dydd Sul amdani!

Dyma’r garfan a gafodd ei gadarnhau gan y Prif

Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland ar gyfer

cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd.

Fe fydd gem gyntaf Cymru yn erbyn Fiji ddydd Sul

(Medi 10)

BLAENWYR (19)

Taine Basham - Dreigiau (13 cap)

Adam Beard - Gweilch (47 cap)

Elliot Dee - Dreigiau (43 cap)

Corey Domachowski - Caerdydd (2 gap)

Ryan Elias - Scarlets (34 cap)

Taulupe Faletau - Caerdydd (100 cap)

Tomas Francis - Provence (72 cap)

Dafydd Jenkins - Caerwysg (7 cap)

Dewi Lake - Gweilch (9 cap)

Dillon Lewis - Harlequins (51 cap)

Dan Lydiate - Dreigiau (71 cap)

Jac Morgan - Gweilch (11 cap)

Tommy Reffell - Caerlŷr (10 cap)

Will Rowlands - Dreigiau (25 cap)

Nicky Smith - Gweilch (44 cap)

Gareth Thomas - Gweilch (22 cap)

Henry Thomas - Montpellier (2 gap)

Christ Tshiunza - Caerwysg (7 cap)

Aaron Wainwright - Dreigiau (39 cap)

OLWYR (14)

Josh Adams - Caerdydd (50 Cap)

Gareth Anscombe - Tokyo Suntory Sungoliath (35 cap)

Dan Biggar -Toulon (109 Cap)

Sam Costelow - Scarlets (4 cap)

Gareth Davies - Scarlets (69 Cap)

Rio Dyer - Dreigiau (9 cap)

Mason Grady - Caerdydd (4 cap)

Leigh Halfpenny - heb glwb (100 Cap)

George North - Gweilch (114 Cap)

Louis Rees-Zammit - Caerloyw (27 cap)

Nick Tompkins - Saraseniaid (28 cap)

Johnny Williams - Scarlets (6 cap)

Liam Williams - Kubota Spears (85 Cap)

Tomos Williams - Caerdydd (48 cap)

Mae barn Llion Higham ar

obeithion Cymru yn Ffrainc - a’r

timau i’w hosgoi! - i’w ddarllen

ar wefan Y Cymro

https://ycymro.cymru/category/chwaraeon/

Chwaraeon

Un gêm ar y tro mae mynd ymhell ...llwybr

Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2023

Llion Higham sy’n craffu’n fanwl ar wir obeithion ein gwlad yn Ffrainc fis nesaf

Gyda Chwpan y Byd 2023 yn prysur agosáu, a phob tîm yn dal ei anadl drwy

gemau’r haf, dyma gipolwg ar y llwybr sydd o flaen Cymru eleni.

Gêm 1: Cymru v Fiji - Dydd Sul, Medi 10, 20:00 (amser y DU)

Aeth ias i lawr cefn pob cefnogwr Cymru wrth glywed Fiji yn cael eu henwi yn yr un grŵp â

ni eto eleni. Collodd Cymru yn eu herbyn yng ngemau grŵp Cwpan y Byd 2007 (yn Ffrainc!)

34-38 a anfonodd y tîm adref yn waglaw.

Arweiniodd hyn at Gareth Jenkins, prif hyfforddwr Cymru, yn colli ei swydd ac ers hynny

maen nhw wedi byw yn hunllefau chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr Cymru.

Dyw mynd ben ben â’r ynyswyr byth yn hawdd,

ac mae eu hysbryd o gyd-chwarae yn ysbrydoledig.

Maen nhw’n mynd o nerth i nerth, flwyddyn ar ôl

blwyddyn.

Mae tîm Fijian Drua bellach yn bodoli ac yn

cystadlu yng nghystadleuaeth y Super Rugby, sy’n

golygu bod mwy o chwaraewyr yn chwarae ac yn

cael eu hyfforddi ar lefel uwch yn rheolaidd. Mae

23 o chwaraewyr Fijian Drua yn rhan o’r 45 yng

ngharfan Fiji ar hyn o bryd.

Mae’r garfan yn llawn enwau fydd yn poeni

unrhyw hyfforddwr, Levani Botia sydd wedi ennill Cwpan y Pencampwyr gyda La Rochelle,

Semi Radradra, cyn-ganolwr Bristol Bears, a chyn-ganolwr Seland Newydd, Seta Tamanivalu.

Eu natur gorfforol sy’n frawychus, a gyda Josua Tuisova fel canolwr bydd rhaid i Gatland

ddewis yn ddoeth*, yn enwedig yng nghanol cae.

Cyfieithydd – Caerdydd (£27,650 - £29,728)

Diolch byth bod mwy o amse rhwng gemau eleni. Gyda thua wythnos rhwng gemau Cymru i

gyd.

Yr 80 munud cyntaf yma all brofi’n dyngedfennol. Curo Fiji, ac mae’n edrych yn debygol y

bydd modd cyrraedd rownd yr wyth olaf.

Gêm 2: Cymru v Portiwgal – Dydd Sadwrn, Medi 16, 16:45 (amser y DU)

Portiwgal fydd nesaf, a dyma fydd yr ail waith iddynt gystadlu mewn Cwpan y Byd.

Gyda’r llysenw ‘Os Lobos’ (Y Bleiddiaid) maen nhw’n dîm anodd ei guro, yn angerddol a

phenderfynol.

Gwnaethant lwyddo i gadarnhau eu lle yng Nghwpan y Byd â chic gosb munud olaf yn erbyn

UDA.

Roedd y dathlu’n dangos arwyddocâd a phwysigrwydd y cyflawniad

i’r garfan, a gyda rhai chwaraewyr megis Anthony Alves a Samuel

Marques yn brofiadol bellach yn y ProD2 yn Ffrainc, ewn nhw y tu

hwnt i’w gallu i wneud bywyd yn anodd i weddill y grŵp.

Gêm 3: Cymru v Awstralia - Dydd Sul, Medi 24, 20:00

(amser y DU)

Heb os, Awstralia yw’r enw mwyaf yn y grŵp.

Nhw yw’r tîm gorau yn hanesyddol ac yn ôl safleoedd y

byd (Awstralia 7fed, Cymru 8fed), ond a oes angen eu hofni

gymaint ag o’r blaen?

Mae Eddie Jones,

cyn-hyfforddwr Lloegr, yn

ôl wrth y llyw ac nid yw

wedi cael y dechreuad gorau yn y

Bencampwriaeth Rygbi.

Ar adeg ysgrifennu’r

erthygl hon, maen nhw wedi

colli dwy gêm o ddwy. Roedd

De Affrica’n llawe rhy bwerus

iddynt** yn y penwythnos cyntaf a gollon nhw yn y munud olaf yn

erbyn yr Ariannin, a oedd yn llwyr haeddiannol o’r fuddugoliaeth.

Ar bapur, roedd gan Awstralia chwaraewyr mwy pwerus na’r

Ariannin, gyda Will Skelton, Rob Valetini ac Allan Ala’alatoa yn

arwain y ffordd, ond roedd yr Ariannin yn barod am hyn. Dechreuon

nhw dri blaenasgellwr yn eu rheng ôl, a nhw ddominyddodd ardal y

dacl.

Tanysgrifiwch am flwyddyn i bapur cenedlaethol

ein gwlad - tud 29

ISSN 0964-0770

9 770964 077028

05

‘Mae’r garfan

yn llawn enwau

fydd yn poeni

unrhyw hyfforddwr’

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chryf ei gymhelliad i ymuno â’n tîm

yng Nghaerdydd. Dyma gyfle i ddefnyddio’ch sgiliau a’ch profiad i gynhyrchu

cyfieithiadau o’r radd flaenaf i CThEF.

Bydd gennych sgiliau iaith rhagorol (Cymraeg a Saesneg), a naill ai gradd yn y

Gymraeg, cymhwyster Cymraeg cyfatebol neu brofiad o gyfieithu i’r Gymraeg.

Dylech hefyd feddu ar brofiad o brosesau, meddalwedd ac adnoddau cyfieithu

Cymraeg, a gallu cynhyrchu a phrawf-ddarllen cyfieithiadau i safon uchel.

Cewch gyfle i ddefnyddio pecynnau meddalwedd modern i gyfieithu dogfennau ac i

fod yn rhan o brosiectau cyfieithu allweddol. Cewch gyfle hefyd i drafod terminoleg

ac arddull ysgrifennu newydd a phenderfynu arnyn nhw.

I gael gwybodaeth am y buddion a sut i wneud cais, chwiliwch am

swydd rhif 302111 ar borth Swyddi’r Gwasanaeth Sifil drwy fynd i

www.civilservicejobs.service.gov.uk

Fel arall, cysylltwch â jennifer.needs@hmrc.gov.uk ar 03000 591276.

Ymysg y mawrion ...Fffrainc v Seland Newydd (Llun:James Coleman)

- trowch i dudalen 31

* Yn ôl Matt Giteau, pan oedd Tuisova yn Toulon gofynnwyd

iddo stopio codi pwysau gan ei fod yn mynd yn rhy fawr. Mae’n

5 troedfedd 11 modfedd ac yn pwyso 17.5 stôn, ond rhywsut,

mae’n gallu rhedeg 21mya.

** Cymharodd Drew Mitchell, cyn-asgellwr Awstralia, y gêm i

Space Jam, gan fod Awstralia’n edrych fel eu bod yn chwarae yn

erbyn bwystfilod mwy na dwbl eu maint.

Dros lais annibynnol cryf i Gymru...

‘Curo Fiji, ac

mae’n edrych yn

debygol y bydd

modd cyrraedd

rownd yr wyth olaf’

Tanysgrifiwch am flwyddyn i bapur cenedlaethol

ein gwlad - tud 29