Portal 2023 (CYM)
Portal yw ein harddangosfa grŵp blynyddol o artistiaid a gwneuthurwyr. Gyda gwaith sy’n ystyried crefftwaith, positifrwydd corff, yr iaith Gymraeg a gweithredu, gobaith yr arddangosfa yma yw gafael yn yr ysbryd a’r syniadau sy’n dod allan o ysgolion celf eleni. Cyflwynir gwaith gan: Ananda Hill, Bonnie Grace Barker, Clare Stephens, Ffion Williams, Gabriel Showell-Nicholas, Hannah Sharpe, Jackie Stephens, Jessica Agar, Madelaine Atkinson, Niamh O'Dobhain, Rosie Merriman, Rowan Lickerish, Sarah Grounds, Thomas Radburn, Valerie O'Donnell.
Portal yw ein harddangosfa grŵp blynyddol o artistiaid a gwneuthurwyr.
Gyda gwaith sy’n ystyried crefftwaith, positifrwydd corff, yr iaith Gymraeg a gweithredu, gobaith yr arddangosfa yma yw gafael yn yr ysbryd a’r syniadau sy’n dod allan o ysgolion celf eleni.
Cyflwynir gwaith gan:
Ananda Hill, Bonnie Grace Barker, Clare Stephens, Ffion Williams, Gabriel Showell-Nicholas, Hannah Sharpe, Jackie Stephens, Jessica Agar, Madelaine Atkinson, Niamh O'Dobhain, Rosie Merriman, Rowan Lickerish, Sarah Grounds, Thomas Radburn, Valerie O'Donnell.
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
CYFLWYNIAD
Portal yw ein harddangosfa flynyddol o grwp ^ o artistiaid a
gwneuthurwyr graddedig, a’i nod yw datgyfrinio gweithio yn
y celfyddydau. Trwy roi cymorth, offer a’r cyfle i ddatblygu
sgiliau i leisiau newydd, mae Portal yn ymestyn y tu hwnt
i waliau’r oriel gan roi’r cychwyn gorau posibl i artistiaid
datblygol wrth iddynt sefydlu gyrfaoedd cynaliadwy.
Trwy amrediad o ymarferion sy’n amrywio o gerameg, tecstilau,
gwaith metel, ffotograffiaeth a gosod, mae Portal 2023 yn
arddangos casgliad o waith 15 o raddedigion eleni. Daw’r artistiaid
o sefydliadau Cymreig fel Met Caerdydd, PCDDS Abertawe ac
Ysgol Gelf Caerfyrddin, ac o brifysgolion o rannau eraill o Brydain fel
Coleg Celf Henffordd, Ysgol Gelf Manceinion a Phrifysgol Caeredin.
Gobeithiwn y bydd yr arddangosfa hon yn cipio’r syniadau a’r
ysbryd cyfunol sy’n dod allan o ysgolion celf eleni.
Mae rhai wedi edrych tuag i mewn i archwilio sut rydym yn
ymdeimlo â’n hunain a’n cyrff, o’r masgiau a wisgwn i’n lles
emosiynol, a’r hyn sy’n llythrennol yn rhedeg trwy ein gwythiennau;
tra bod eraill wedi ystyried sut rydym ninnau, a’r prosesau a
ddefnyddiwn, yn dwyn perthynas â’r tir.
Wrth fod yn ymwybodol o leihau effeithiau amgylcheddol eu crefft,
dogfennu bywyd ar ecofferm, neu drwy gerfluniau sy’n caniatáu i
ni ddod yn rhan o lawr y goedwig, mae’n amlwg bod buddsoddiad
mewn ffyrdd amgen o fod.
Trwy’r holl bynciau gwahanol hyn, mae gwleidyddiaeth yn
bresennol bob amser. O ffeministiaeth a phositifrwydd corff, i
amgylcheddaeth, y Gymraeg, neu wrth goffáu digwyddiadau trasig
penodol.
Mae’r gwaith a ddangosir yn archwilio perthynas sy’n sensitif i grefft
a phroses, ac mae’r artistiaid yn dangos gofal a meddylgarwch yn
eu dewis o ddeunyddiau, eu pynciau dewisol, a sut mae’r rhain yn
cael eu cyfleu.
Gan fod protestio a gweithredaeth yn dylanwadu ar lawer o
artistiaid, mae Portal 2023 yn rhannu dymuniad cyfunol i sefyll o’n
plaid ein hunain, dros bobl eraill, a thros ein hamgylchoedd.
Portal 2023 03