Portal 2023 (CYM)
Portal yw ein harddangosfa grŵp blynyddol o artistiaid a gwneuthurwyr. Gyda gwaith sy’n ystyried crefftwaith, positifrwydd corff, yr iaith Gymraeg a gweithredu, gobaith yr arddangosfa yma yw gafael yn yr ysbryd a’r syniadau sy’n dod allan o ysgolion celf eleni. Cyflwynir gwaith gan: Ananda Hill, Bonnie Grace Barker, Clare Stephens, Ffion Williams, Gabriel Showell-Nicholas, Hannah Sharpe, Jackie Stephens, Jessica Agar, Madelaine Atkinson, Niamh O'Dobhain, Rosie Merriman, Rowan Lickerish, Sarah Grounds, Thomas Radburn, Valerie O'Donnell.
Portal yw ein harddangosfa grŵp blynyddol o artistiaid a gwneuthurwyr.
Gyda gwaith sy’n ystyried crefftwaith, positifrwydd corff, yr iaith Gymraeg a gweithredu, gobaith yr arddangosfa yma yw gafael yn yr ysbryd a’r syniadau sy’n dod allan o ysgolion celf eleni.
Cyflwynir gwaith gan:
Ananda Hill, Bonnie Grace Barker, Clare Stephens, Ffion Williams, Gabriel Showell-Nicholas, Hannah Sharpe, Jackie Stephens, Jessica Agar, Madelaine Atkinson, Niamh O'Dobhain, Rosie Merriman, Rowan Lickerish, Sarah Grounds, Thomas Radburn, Valerie O'Donnell.
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
2023
CYNNWYS
RHAGAIR 02
CYFLWYNIAD 03
ANANDA HILL 04
BONNIE GRACE BARKER 06
CLARE STEPHENS 08
FFION WILLIAMS 10
GABRIEL SHOWELL-NICHOLAS 12
HANNAH SHARPE 14
JACKIE STEPHENS 16
JESSICA AGAR 18
MADELAINE ATKINSON 20
NIAMH O’DOBHAIN 22
ROSIE MERRIMAN 24
ROWAN LICKERISH 26
SARAH GROUNDS 28
THOMAS RADBURN 30
VALERIE O’DONNELL 32
DIOLCHIADAU 34
Portal 2023 01
RHAGAIR
Mae Portal wedi dod yn fwy nag arddangosfa. Mae’r
cysylltiadau a wneir rhwng Llantarnam Grange a’r artistiaid
graddedig yn mynd ymhellach na pharhad y sioe yn unig.
Mae wedi dod yn rhan bwysig iawn o’n hetifeddiaeth a’n
hymrwymiad i greu perthnasoedd a chydweithrediadau
hirbarhaol.
Oherwydd, gall gadael byd addysg fod yn gyfnod heriol i artistiaid
graddedig. Trwy Portal rydyn ni’n cynnig cymorth, cyngor, a man lle
gall artistiaid fagu eu hyder er mwyn i’r cyfnod pontio hwn deimlo’n
llai dychrynllyd.
ei greu. Rwyf bob amser yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y
syniadau newydd a chymelliadol mae Portal yn eu cyflwyno i’r oriel.
Mae graddedigion eleni wedi codi’r bar – maent nid yn unig yn
cyflwyno gwaith sy’n esthetaidd ogoneddus, ond maent hefyd yn
rhannu storïau pwysig a difrifol mewn ffyrdd dychmygus a chain.
Rwy’n gwerthfawrogi’r amser a’r egni mae pob artist wedi eu
cysegru i Portal, ac rwy’n gobeithio y bydd y cyfle hwn yn eu helpu
i dyfu, i wneud cysylltiadau, ac i feithrin cydweithrediadau a fydd yn
ddefnyddiol iddynt yn y dyfodol.
Fel Swyddog Arddangosfeydd, rydw i wrth fy modd yn cwrdd ag
artistiaid newydd a gweld yr angerdd sydd y tu ôl i’r hyn maent yn
Savanna Dumelow
Swyddog Arddangosfeydd
Llantarnam Grange
02 Portal 2023
CYFLWYNIAD
Portal yw ein harddangosfa flynyddol o grwp ^ o artistiaid a
gwneuthurwyr graddedig, a’i nod yw datgyfrinio gweithio yn
y celfyddydau. Trwy roi cymorth, offer a’r cyfle i ddatblygu
sgiliau i leisiau newydd, mae Portal yn ymestyn y tu hwnt
i waliau’r oriel gan roi’r cychwyn gorau posibl i artistiaid
datblygol wrth iddynt sefydlu gyrfaoedd cynaliadwy.
Trwy amrediad o ymarferion sy’n amrywio o gerameg, tecstilau,
gwaith metel, ffotograffiaeth a gosod, mae Portal 2023 yn
arddangos casgliad o waith 15 o raddedigion eleni. Daw’r artistiaid
o sefydliadau Cymreig fel Met Caerdydd, PCDDS Abertawe ac
Ysgol Gelf Caerfyrddin, ac o brifysgolion o rannau eraill o Brydain fel
Coleg Celf Henffordd, Ysgol Gelf Manceinion a Phrifysgol Caeredin.
Gobeithiwn y bydd yr arddangosfa hon yn cipio’r syniadau a’r
ysbryd cyfunol sy’n dod allan o ysgolion celf eleni.
Mae rhai wedi edrych tuag i mewn i archwilio sut rydym yn
ymdeimlo â’n hunain a’n cyrff, o’r masgiau a wisgwn i’n lles
emosiynol, a’r hyn sy’n llythrennol yn rhedeg trwy ein gwythiennau;
tra bod eraill wedi ystyried sut rydym ninnau, a’r prosesau a
ddefnyddiwn, yn dwyn perthynas â’r tir.
Wrth fod yn ymwybodol o leihau effeithiau amgylcheddol eu crefft,
dogfennu bywyd ar ecofferm, neu drwy gerfluniau sy’n caniatáu i
ni ddod yn rhan o lawr y goedwig, mae’n amlwg bod buddsoddiad
mewn ffyrdd amgen o fod.
Trwy’r holl bynciau gwahanol hyn, mae gwleidyddiaeth yn
bresennol bob amser. O ffeministiaeth a phositifrwydd corff, i
amgylcheddaeth, y Gymraeg, neu wrth goffáu digwyddiadau trasig
penodol.
Mae’r gwaith a ddangosir yn archwilio perthynas sy’n sensitif i grefft
a phroses, ac mae’r artistiaid yn dangos gofal a meddylgarwch yn
eu dewis o ddeunyddiau, eu pynciau dewisol, a sut mae’r rhain yn
cael eu cyfleu.
Gan fod protestio a gweithredaeth yn dylanwadu ar lawer o
artistiaid, mae Portal 2023 yn rhannu dymuniad cyfunol i sefyll o’n
plaid ein hunain, dros bobl eraill, a thros ein hamgylchoedd.
Portal 2023 03
ANANDA HILL
Coleg Celf Henffordd, BA (Anrh) Crefftau Dyluniad Cyfoes
Mae Ananda Hill yn artist tecstilau sy’n creu brodwaith cyfoes
pryfoclyd. Mae’n pwytho â llaw yn araf yn ei stiwdio gardd
dros dro, gan greu darnau manwl o decstilau cynaliadwy a
thraddodiadol.
Mae celf Ananda yn ceisio ysbrydoli syniadau a thrafodaeth yn
dringar ynglyn ^ â’r byd rydym yn byw ynddo heddiw, a’r effaith
mae’n ei gael arnom ninnau fel bodau dynol. Gan dynnu ar ei
hysbrydoliaeth o hanes, storïau, y cyfryngau, a’r profiad dynol,
mae’n rhoi ystyriaeth chwareus i’r pynciau sy’n aml yn ein gorlethu
neu’n gwneud i ni gwestiynu ein hunaniaeth.
Mae’n defnyddio brodwaith fel erfyn gofalgar, therapiwtig i’w helpu
i amgyffred cyflwr y fodolaeth fodern. Mae angerdd Ananda dros
decstilau yn ymgodi o’i chysylltiad ag artistiaid a menywod a fu
wrthi’n gwnïo o’i chwmpas drwy gydol ei phlentyndod. Mae ganddi
chwilfrydedd diddiwedd dros ddeall ein cysylltiad dynol â thecstilau
a dadbwytho’r storïau sydd o’u mewn. Nod Ananda yw defnyddio
ei phlatfform fel artist i annog sgwrs ynglyn ^ â’r pethau sy’n agos at
ei chalon.
Uchod: Embroidered and Overwhelmed, detail, 2023
Dde: Embroidered and Overwhelmed, 2023
04 Portal 2023
04 Portal 2023
BONNIE GRACE BARKER
Coleg Celf Abertawe (PCDDS), MA Dylunio Patrwm Arwyneb, Deialogau Cyfoes
Mae Bonnie yn artist amlddisgyblaeth sy’n gweithio ym
meysydd darlunio, peintio, printio, tecstilau, gwaith papur a
cherameg. Gan ddechrau fel cyfrwng i fynegi ei meddyliau
a’i theimladau, mae ei gwaith wedi datblygu i greu jygiau
addurnedig.
Mae Bonnie yn cael anhawster i feddwl mewn 3D felly mae’n
defnyddio clai fel pe bai’n bapur. Gan ddechrau gyda llinluniau
sigledig, mae’n defnyddio slabiau o glai i greu ffurfiau 3D wedi’u
fflatio, gan drawsnewid ei siapiau sy’n cael eu llinlunio’n barhaus
yn jygiau. Yna mae’n addurno’r rhain â dyluniadau a ysbrydolir gan
hen grochenwaith dathliadol. Mae Bonnie yn defnyddio tanwydredd
lliw, pensil cerameg, decalau gweadog, testun mewn cod (decal) a
gloyweddau i fywiogi’r gwaith hwn.
Yn y dyluniadau hyn, mae Bonnie wedi mewnosod iaith gyfrinachol
a ysbrydolir gan god deuaidd a’r gridiau a welir mewn tecstilau.
Mae’r cod hwn yn unigryw iddi hi ac mae’n cynnwys llythrennau
Cymraeg fel ‘dd’ ac ‘ll’. Trwy hyn mae Bonnie yn datguddio
elfennau ohoni hi ei hunan, gan rannu pethau na allai eu mynegi fel
arall.
Chwith: Meddyliau ar Chwarter // Thoughts at a Quarter, 2023
Uchod: Meddyliau ar Chwarter // Thoughts at a Quarter, 2023
Portal 2023 07
CLARE STEPHENS
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, MA Cerameg a Gwneuthurwr
Mae Clare Stephens yn creu llestri sy’n cynnal sgwrs â’i
gilydd, â’u hamgylchedd, ac â’r rhai hynny maent yn dod ar
eu traws. Mae cyfathrebu yn digwydd mewn llawer o ffyrdd,
yn gorfforol, yn ofodol, yn emosiynol, ac yn ysbrydol – wrth i
ni weld, cyffwrdd, neu ystyried yr hyn sydd o’n blaen.
Mae ffurfiau Clare yn cipio’r rhyngweithiadau hyn, yr hanfod
gwerthfawr hwnnw o ‘fod gyda’, a all feithrin derbyn, sgyrsio, a
chydweithredu i gynnal ein llesiant. Mae’r agweddau hyn, sy’n
atseinio ac yn ysbrydoli creadigrwydd Clare, wedi bod yn bwysig
hefyd yn ei gyrfa flaenorol fel bydwraig.
Fel y ffurf ddynol, mae pob darn o glai yn debyg ond eto’n unigol
ac yn unigryw. Mae eu lliw, eu gwead, a’u hystwythder yn amrywio
yn ôl ble cawsant eu ffurfio. Yn ystod y broses o wneud, mae Clare
yn ymgysylltu â’r priodweddau materol hyn, a thrwy wybodaeth
ddealledig, sydd wedi’i llywio gan genedlaethau o grochenyddion
blaenorol, mae’n dod yn rhan o’r rhyngweithio digyfnewid hwn.
Uchod: Presence, 2023
Dde: Presence, 2023
08 Portal 2023
Portal 2023 09
10 Portal 2023
FFION WILLIAMS
Prifysgol Caeredin, BA (Anrh) Peintio
Mae Ffion Williams yn defnyddio testun a’r Gymraeg i
archwilio’r themâu Cymreictod, protestio a gobaith. Trwy
wneud camgymeriadau a defnyddio geiriau Saesneg yn lle’r
rhai Cymraeg, a elwir yn Gymraeg Ddrwg gan Ffion, maent yn
croesawu iaith fel erfyn esblygol ar gyfer creu.
Cynhaliodd Ffion gyfweliadau ynglyn ^ â’r Gymraeg a’i pherthynas â
hunaniaeth yng ngorsaf drenau eu tref enedigol, Y Fenni. Daeth hyn
yn sail i’w gwaith seiliedig ar destun. Mae’r gosodiadau terfynol yn
corffori’r cyffro mewn gorsaf drenau, ac mae sain yn tywys y gwyliwr
ar hyd y gwaith.
Mae protestio yn rhan bwysig o etifeddiaeth Cymru. Trwy eu setiau
metel a’u motiffau baneri protestio, mae Ffion yn ceisio arddangos
pwer ^ protestio fel erfyn sy’n creu newid. Mae gostegu diwylliannau
trwy drefedigaethu yn brofiad byd-eang, sy’n digwydd mewn llawer
o wahanol gyd-destunau. Mae’r gwaith hwn yn mynd y tu hwnt i
brofiad Ffion yng Nghymru – mae’n rhannu storïau a rhoi llais i bobl
eraill, mewn gweithred o gydlyniad.
Chwith: Cymraeg Ddrwg, 2023
Uchod: Cymraeg Ddrwg, 2023
Portal 2023 11
GABRIEL SHOWELL-NICHOLAS
Coleg Celf Henffordd, BA (Anrh) Gofannu Artistig
Mae ymarfer Gabriel Showell-Nicholas yn cael ei lywio
gan gysyniad y dylunydd dodrefn David Pye o grefftwaith
rhydd, sy’n gwerthfawrogi sgiliau gweithwyr yn fwy na
chywirdeb neu fanwl gywirdeb offer. Mae’r ymagwedd hon yn
gwrthwynebu’r safonau crefft sydd wedi cael eu normaleiddio
gan weithgynhyrchu awtomatig. Yn lle hynny, mae’n dathlu
marciau achlysurol ac anghymesuredd.
Mae’r athroniaeth Japaneaidd Wabi-Sabi, sy’n gwerthfawrogi
harddwch sy’n “amherffaith, yn fyrhoedlog ac yn anghyflawn”, wedi
dylanwadu ar Gabriel hefyd, gan beri iddo greu ffurfiau cain, syml
sy’n rhoi’r argraff o symudiad egnïol.
Trwy gyfuno ei ddau hoffter, sef gofannu a choginio, mae Gabriel
wedi creu amrywiol ddarnau o offer cegin a chyllyll a ffyrc, yn
cynnwys: potiau perlysiau a halen; powlenni a hambyrddau tra
arddullaidd, sydd wedi cael eu sleisio a’u torri i ddangos llaw’r
gwneuthurwr; citiau cyllyll a ffyrc cryno, yn cynnwys hashioki a gweill
bwyta; a photiau pupur a halen, sy’n stacio’n daclus gyda’i gilydd.
Cafodd yr holl ddarnau eu gofannu i fod yn ymarferol ac i’w
defnyddio bob dydd.
Uchod: Open Movement Ironware, 2023
Dde: Open Movement Ironware, 2023
12 Portal 2023
Portal 2023 11
HANNAH SHARPE
Coleg Celf Abertawe (PCDDS), BA (Anrh) Crefftau Dylunio 3D
Mae Hannah Sharpe yn geramegydd sy’n byw yn Abertawe
ac sydd wedi datblygu tro cyfoes ar ymarfer traddodiadol.
Trwy ymchwilio i’r ffurf ddynol, mae’n archwilio syniadau yn
ymwneud â’r grotésg, hunaniaeth, a phositifrwydd corff a
rhyw. Trwy gyfuno ffurfiau slip â lliwiau llachar, mae Hannah
yn ceisio ennyn teimladau o chwilfrydedd ac anghysur.
Mae ‘Enemy or a Friend?’ yn ddathliad o’r ffurf ddynol. Mae’r
cerfluniau’n symboleiddio fersiynau heb eu ffiltro neu eu haddasu
ohonom ni ein hunain, gyda siapiau lluniaidd, tagellau, a diffygion
croen. Mae pob un corff yn haeddu cael ei garu a’i dderbyn, a’r
peth lleiaf y gallwn ei wneud yw gwneud hyn yn hael, wrth iddynt ein
cario ar hyd ein hoes.
Chwith: Enemy or a Friend, 2023
Uchod: Enemy or a Friend, 2023
Portal 2023 15
JACKIE STEPHENS
Ysgol Gelf Caerfyrddin, BA (Anrh) Tecstilau
Mae Jackie Stephens yn ddylunydd tecstilau wedi’u
gwehyddu arbrofol sy’n archwilio’r cydgysylltiad hir rhwng
testun a gwehyddu, gan ail-ddehongli storïau ag edau i greu
naratifau cofiadwy trwy decstilau wedi’u gwehyddu â llaw.
Mae ‘MAKE IT RIGHT’ yn adrodd stori Ffenestr Cymru yn Alabama.
Crëwyd y ffenestr gwydr lliw hon gan yr artist Cymreig John Petts
mewn ymateb i fomio Eglwys y Bedyddwyr Sixteenth Street,
Birmingham, Alabama yn 1963, pan gafodd pedair merch ifanc eu
lladd. Rhoddwyd y ffenestr gan bobl Cymru fel symbol o gydlyniad
mewn ymgyrch codi arian democrataidd dan arweiniad y Western
Mail.
Mae pum panel wedi’u gwehyddu â llaw yn cynrychioli enydau
allweddol yn y stori, y ffrwydrad, y llofruddio, pedair merch fach,
penderfyniad Petts i ‘wneud iawn am hyn’, ymgyrch y papur
newydd, a’r ffenestr derfynol. I goffáu 60 mlynedd ers y bomio,
mae’r gwaith hwn yn dweud y stori wrth genhedlaeth newydd.
Uchod: MAKE IT RIGHT detail, 2023
Dde: MAKE IT RIGHT Castell Llansteffan, 2023
16 Portal 2023
18 Portal 2023
JESSICA AGAR
Coleg Celf Henffordd, BA (Anrh) Gofannu Artistig
Mae perthynas Jessica â’r tir yn seiliedig ar weithredaeth, ond
hefyd ar agosatrwydd. Dychmygont ba roddion fyddai’n tyfu
dros eu corff pe byddent yn gorwedd ar lawr y goedwig. Pa
gryfder fyddai’r byd naturiol yn benthyg iddi i’w hamddiffyn ei
hunan, a sut fyddai yntau’n ei amddiffyn ei hunan?
Ysbrydolwyd y gwaith hwn gan y syniad o arfwisg natur, ac mae’n
ddilledyn defodol i’w wisgo mewn perfformiadau preifat sy’n
cysylltu’r gwisgwr â’r tir. Mae Jessica wedi creu’r darn o fetel wedi’i
ofannu, gan droi’r dur oer yn rhywbeth cain, benywaidd ac organig,
sydd wedi’i ysbrydoli gan fathau ar gen, a’r berthynas symbiotig
rhwng algâu a ffwng.
Drwy osod y brestblad ar ei chorff, mae Jessica yn dod yn rhan o’r
berthynas hon, gan beri iddi ofyn i ba raddau mae hi’n meithrin y
celfwaith, ac i ba raddau mae hithau’n cael ei maethu. Mae hyn yn
adlewyrchu perthynas Jessica â’r amgylchedd naturiol, lle maent yn
fam ac yn ferch bob un, ac yn dderbyniwr ac yn rhoddwr bob un.
Chwith: Fertile Land, 2023
Dde: Fertile Land, 2023
Portal 2023 19
MADELAINE ATKINSON
Prifysgol Dinas Birmingham, BA (Anrh) Dylunio Tecstilau
Mae Trigger warning for infant and child loss.
‘The Uncovered Secret Sin’ yn gasgliad o decstilau gan
Madelaine Atkinson sy’n amlygu rhai o’r enghreifftiau o
gamdriniaeth a ddigwyddodd yn yr Eglwys Babyddol.
Yn 2015 clywyd y newyddion bod gweddillion cannoedd o fabanod
a phlant wedi cael eu darganfod mewn bedd torfol dienw ger Cartref
Mamau a Babanod y Santes Fair yn Tuam, Sir Galway, Iwerddon.
Roedd y cartref yn rhan o rwydwaith o sefydliadau ar gyfer mamau
di-briod a’u plant.
Mae casgliad Madelaine yn deyrnged i’r holl fabanod a theuluoedd
oedd ynghlwm wrth y drasiedi. Mae dyluniad ei mantell yn cynnwys
802 o feillion shamroc o wahanol feintiau a lliwiau, i goffáu’r rhai
hynny a gollodd eu bywydau.
Trwy ddelweddau, technegau, a chelfyddyd draddodiadol sy’n
gysylltiedig â Phabyddiaeth, mae ‘The Uncovered Secret Sin’
yn gofeb sy’n cyfosod y cyfoeth a’r harddwch sydd wedi cuddio
cymaint o ddigwyddiadau trasig. Mae Madelaine yn credu bod
creu gwaith sy’n dadlennu’r storïau hyn yn gallu helpu i godi
ymwybyddiaeth a sbarduno sgyrsiau am flynyddoedd i ddod.
Uchod: The Uncovered Secret Sin, 2023
Dde: The Uncovered Secret Sin, 2023
20 Portal 2023
NIAMH O’DOBHAIN
Coleg Celf Abertawe (PCDDS), BA (Anrh) Celfyddyd Gain
Mae actoresau a chymeriadau o Oes Aur Hollywood wedi
ysbrydoli Niamh O’Dobhain i archwilio syniadau am hunanddyfeisio
a mynegiant. Wrth ystyried cymhlethdodau’r ‘hunan’
a’i natur anwadal, dechreuodd Niamh ymddiddori yn ein
perthynas â harddwch a heneiddio.
Trwy ffotograffiaeth a steilio, mae wynebau dychmygol inciog Niamh
yn defnyddio colur i ystyried sut mae rhywedd a hunaniaethau’n
cael eu cuddio, eu dadlennu, a’u perfformio. Yn sgil blynyddoedd o
astudio hen luniau llonydd o ffilmiau Hollywood, y posteri, darluniau
ffasiwn, a’r ‘saethiadau glamor’, mae Niamh yn troi’r camera at ei
hunan mewn gweithred o hunan-fyfyrio a hunan-ddyfeisio.
Trwy fasgiau a golygon esblygol, mae eu gwaith yn archwilio pa
wynebau sy’n ‘ffitio’, sy’n cynrychioli, ac sy’n adlewyrchu’r hunan
mewnol, ac o bosib yn y dyfodol.
Chwith: Veil, 2023
Uchod: Mask, 2023
Portal 2023 23
ROSIE MERRIMAN
Coleg Celf Henffordd, BA (Anrh) Dylunio Tecstilau
Mae Rosie Merriman yn ddylunydd tecstilau ac yn artist
sy’n defnyddio dweud storïau i archwilio’i diddordeb mewn
bydoedd dychmygol a’r cymeriadau o’u mewn. Trwy ffantasi a
llên gwerin, mae Rosie yn creu darnau i’w gwisgo sy’n pylu’r
ffiniau rhwng celf a ffasiwn.
Mae ‘Tools for Empowerment’ yn driptych o feliau sy’n herio’r
portread traddodiadol o fenywod mewn celf a llenyddiaeth. Yn
hytrach na bod yn ‘rhianedd mewn cyfyngder’, mae’r darnau hyn
yn dangos taith tuag at rymuso. Mae pob fêl gain, wedi’i gwau â
pheiriant, yn cynrychioli cam gwahanol yn y trawsnewid hwn.
Mae’r fêl gyntaf yn cynrychioli breuder ac wedi’i haddurno â dagrau
metel o waith llaw. Mae’r ail yn dangos y dagrau hyn yn ‘caledu’
drwy dyfu grisialau halen. Caiff y fêl olaf ei hysbrydoli gan faelwisg,
gyda dolennau a chadwynau metel gweadog sy’n cynrychioli
cryfder a gwydnwch.
Ar y cyd â hyn, mae casgliad o arteffactau a ysbrydolwyd gan
straeon fel Y Mabinogi. Mae’r darnau tecstil hyn yn cynrychioli
tameidiau o wrthrychau mytholegol sy’n gysylltiedig â phurdeb a
brad.
Uchod: Tools for Empowerment, 2023
Dde: Tools for Empowerment, 2023
24 Portal 2023
Portal 2023 25
ROWAN LICKERISH
Coleg Celf Henffordd, BA (Anrh) Gofannu Artistig
Mae Rowan yn cael ei gyfareddu gan gerddoriaeth a’r
delweddau mae’n eu creu yn y dychymyg. Mae ganddo
ddiddordeb arbennig yn y seiniau synthetig mewn drymiau
a bas cyfoes. Caiff y seiniau hyn eu creu’n ddigidol trwy drin
tonffurfiau.
Mae ei ymarfer yn ymwneud â chreu cerfluniau metel haniaethol
wedi’u gofannu, sy’n cynrychioli’r ffurfiau a’r strwythurau sy’n
ymgodi yn ei feddwl pan fydd yn clywed y seiniau hyn. Mae Rowan
yn ystyried ei strwythurau yn fonolithau onglog, anferth a ysbrydolir
gan yr amgylchedd Bwystfilaidd y mae’r gerddoriaeth yn tarddu
ohono.
Mae lluniau awtomatig a grëwyd i gyfeiliant cerddoriaeth yn
ymddangos gyda’r cerfluniau. Ynddynt mae Rowan yn gadael
i’w ysgrifbin symud yn rhydd ar draws y dudalen, gan archwilio
ymhellach sut mae sain yn ymddangos yn llygad ei feddwl.
Chwith: Sine Compression, gosodwaith, 2023
Uchod: Exodus, 2023
Portal 2023 27
SARAH GROUNDS
Coleg Celf Abertawe (PCDDS), BA (Anrh) Ffotograffiaeth a Gweithredaeth Weledol
Mae Sarah Grounds yn artist gweledol sy’n gweithio mewn
ffotograffiaeth a pherfformio. Trwy gyfuniad o hunanddogfennu
a ffotograffiaeth onest mae’n cipio bywyd ar
ecofferm yn Ne Orllewin Cymru.
Mae ‘The Links Project’ yn gorff o waith parhaus sy’n archwilio’r
strwythurau sy’n bodoli yn ein cymdeithas. Mae hyn yn dod â’r
personol, y gwleidyddol, a’r cyffredinol at ei gilydd mewn cyfres
o osodiadau, delweddau llonydd, a pherfformiadau. Gan dynnu
ar agweddau o Ecoleg Gymdeithasol a Pharamaethu, ynghyd
ag athroniaeth Deleuze a Guattari, ac yn benodol eu cysyniad o’r
Rhisom 1 , mae Sarah yn gweithio mewn dull trawsddisgyblaethol
sy’n ceisio herio a dathlu’r cysylltiadau sydd gennym â phopeth a
phawb o’n cwmpas.
1
ffordd o feddwl sy’n ymbellhau oddi wrth ddilyniant llinol at weoedd
cymhleth sy’n parhau i dyfu heb bwynt canolog clir.
Uchod: The Links Project, 2023
Dde: The Links Project, 2023
28 Portal 2023
Portal 2023 29
30 Portal 2023
THOMAS RADBURN
Ysgol Gelf Manceinion MMU, BA (Anrh) Dylunio Cynnyrch a Chrefft
Mae Thomas Radburn yn grefftwr cyfoes sy’n archwilio’r
alcemi mewn gwydr i greu gwrthrychau o waith llaw sy’n cipio
ymdeimlad o le. Mae’n gweithio gyda deunyddiau a gyrchir
o leoliadau penodol – yn aml, rhai sydd wedi dylanwadu
arno neu sydd â daeareg ddiddorol. Mae defnydd Thomas
o ddeunyddiau naturiol yn hanu o’i ddealltwriaeth o sut mae
gwydr yn cael ei ffurfio a’r lleoliadau o ble mae’n tarddu. Mae
hyn yn llywio’i ddefnydd o liw a ffurf.
Trwy gasglu deunyddiau fel tywod, cregyn a lludw planhigion yn
fwriadol, mae Thomas yn ymwybodol ei fod yn cael yr effaith lleiaf
posibl ar yr amgylchedd. Yna caiff yr adnoddau hyn eu prosesu’n
ofalus a’u coethi, cyn cael eu caboli a’u torri i greu gwrthrychau
hardd. Mae dull Thomas yn herio’r defnydd o emau traddodiadol,
gan greu deunyddiau ag ansoddau tebyg, ond heb y materion
moesegol cymhleth.
Chwith: Cynefin a Hiraeth, 2023
Uchod: Cynefin a Hiraeth, 2023
Portal 2023 31
VALERIE O’DONNELL
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, MA Cerameg a Gwneuthurwr
Mae ymchwil Valerie O’Donnell yn archwilio prosesau mewnol
gwaed. Mae’n cael ei chyfareddu gan y modd y mae’n llifo
trwy ein gwythiennau i gynnal bodolaeth, ond ar yr un pryd
mae’n ein gosod ar ymylon marwolaeth. Er bod gwaed yn
gallu bod yn dda ac yn ddrwg, mae Valerie yn credu y bydd
deall y croesddywediad hwn yn ein galluogi i harneisio ei
bwer ^ i achub bywydau. Gall gwaed hefyd fod yn drosiad ar
gyfer ymgysylltu, gan ei fod yn dod â maeth, yn gwaredu
gwastraff, ac yn hwyluso cyfathrebu, i gefnogi’r cyfanwaith.
Mae cerfluniau Valerie yn cael eu hysbrydoli gan gelloedd gwaed:
wrth iddynt ymddangos fel modelau moleciwlaidd, mae eu
pigynnau yn pigo ac yn gwaedu, gan ddeffro’r ymdeimlad o anaf
drwy staeniau sy’n diferu. Mae’r archwiliad hwn o strwythur atomig
celloedd gwaed yn cwestiynu sut mae celloedd yn gweithredu fel
llestri miniatur, sy’n dal yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnom i
fyw.
Tra bod pob un endid microsgopig yn cynnwys yr holl egni, y
maetholion metaboleiddio, ac yn storio biofoleciwlau i ladd bacteria
a chynnal bywyd, ni allant fyw ar eu pen eu hun. Mae’n rhaid i’r
gwaedlestri hyn fod yn rhan o’r corff cyfan fel y gallant gynnal
parhad bodolaeth.
32 Portal 2023
Chwith: Hypothetical Forms, 2023
Uchod: Hypothetical Forms, 2023
Portal 2023 32
DIOLCHIADAU
Portal 2023
Arddangosfa gan Llantarnam Grange
Cyhoeddwyd gan Llantarnam Grange ©LG 2023
Mae Llantarnam Grange yn rhan o ‘Bortffolio Celfyddydol Cymru’ Cyngor
Celfyddydau Cymru. Elusen Gofrestredig rhif: 1006933. Cwmni Preifat a Gyfyngir
drwy Warant: 2616241
Ariennir Llantarnam Grange gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor
Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Ni chaniateir atgynhyrchu’r cyhoeddiad hwn fel cyfanwaith neu’n rhannol ar
unrhyw ffurf heb gydsyniad ysgrifenedig gan y cyhoeddwr.
Gyda diolch i:
Dewiswyr Gwadd Sarah James MBE, Cyfarwyddwr, Craft Festival
Find a Maker, Cyngor Celfyddydau Cymru a Gyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen.
Llantarnam Grange
Heol Dewi Sant, Cwmbrân
Torfaen, NP44 1PD
01633 483321
llantarnamgrange.com
Portal 2023 34