25.03.2021 Views

Y Casglwr - Rhifyn Gwanwyn 2021

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Y Casglwr, rhif 131, Gwanwyn 2021

Llun o Garn Fadrun yn Llŷn a geir ar glawr y rhifyn hwn. Y tu mewn, mae’r arlwy mor amrywiol

ag arfer. Mae Philip Lloyd yn ei erthygl Cofiwch Dryweryn a murweithiau eraill yn mynd â ni’n ôl i

ddyddiau’r peintio, pan oedd ef a’i gyfeillion yn mynd o gwmpas i beintio ‘Free Wales’ ar waliau a

ffyrdd ac ambell le arall, fel giatiau barics Aberhonddu. Llyfr cyfrifon John Jones o Abercin yn

Llanystumdwy sy’n cael sylw Dawi Griffiths yn Hynt a helynt y porthmon moch. Cawn beth o

hanes Abercin, oedd yn gallu bod yn dra chynhyrfus ar adegau, cyn canolbwyntio ar y llyfr a’i

wybodaeth am gostau’r porthmon yn 1804-1805, megis y taliadau i’r giatiau tyrpeg gwancus a’r

cyflogau a dalai i’w gynorthwywyr. Dal i drwsio a chynhyrchu o’r newydd mae Gwyn Jones yn yr

olaf o’i dair erthygl Yr adferwr dodrefn. Mae hen fainc ysgol wedi cael bywyd newydd fel cist

ddroriau ganddo ac ochr hen wardrob wedi mynd yn faromedr yn null y ddeunawfed ganrif.

Wyth rhifyn o gylchgrawn misol ‘Tarian Rhyddid’ a gyhoeddwyd, a hynny rhwng Ionawr ac Awst

1839. Yn ei herthygl Dim rhyddid i Darian Rhyddid mae Gwawr Jones yn mynd ar ôl hanes y

cylchgrawn gan nodi peth o’i gynnwys. Mae’n bosib mai am nad oedd yn plesio’r awdurdodau y

daeth i ben yn ddisymwth ar ôl dim ond wyth rhifyn, a chawn ein hatgoffa ar y diwedd bod

dyddiau’r sensro mor fyw heddiw ag erioed. Doedd dim llawer ohono’n digwydd yn hanes Gregory

Isaacs chwaith, y canwr reggae o Jamaica. Yn erthygl Dewi Lewis, Casglu recordiau Gregory

Isaacs, cawn wybod iddo gyhoeddi 1047 o recordiau sengl a 150 o recordiau hir rhwng 1969 a

2010, y flwyddyn y bu farw, ac mae gan Dewi 978 o’r rhai sengl yn ei gasgliad.

Y gannwyll gorff sy’n mynd â sylw Geraint Roberts yn ei erthygl Tân glas y nos, lle cawn

hanesion am ddigwyddiadau yn ardal Harlech a Morfa Bychan yn 1693 ac 1694. Tân o fath arall

llawer peryclach sydd gan Mai Roberts yn Llwch, lliw a llun, sef ffrwydrad llosgfynydd Krakatoa

yn Awst 1883, ffrwydrad y gwelwyd ei effaith drwy’r byd gyda gwawriau a machludoedd nas

gwelwyd eu tebyg. Mae gan Mai botelaid o lwch y ffrwydrad, wedi’i gasglu o ddec llong yr oedd

brawd ei thaid yn gapten arni ar y pryd.

Pwy oedd Emily Wood? gofyn Goronwy Wynne. Hi enillodd gystadleuaeth yn Eisteddfod

Genedlaethol y Rhyl yn 1904 ar gasgliad o flodau gwyllt unrhyw ardal. Cyfrannodd hefyd wyth

gant o luniau i’r gyfrol ‘Flora of the Liverpool District’. Yn Lerpwl hefyd mae D Ben Rees yn y

gyntaf o ddwy erthygl Portread o Gymry Lerpwl, a gwerthfawrogiad o’r ‘Casglwr’ ei hun sydd gan

Robin Gwyndaf yn ei erthygl Trysor amhrisiadwy.

Argraffydd a chyhoeddwr o Lanymddyfri oedd William Rees, ac mae Edward Holdaway wrthi’n

paratoi llyfr arno. Mae wedi darparu rhestr o’r cyhoeddiadau a ddaeth o’r wasg, ac fe’i ceir yn

gyflawn yn Llyfrau William Rees Llanymddyfri. Gwahoddir y darllenwyr i gysylltu â’r awdur os

gwyddant am deitlau eraill. Mae’n debyg i wasg William Rees rwymo’r llyfrau a argreffid ganddi

ond go brin iddi ddefnyddio’r dull y mae Alun Jones, y Golygydd, yn sôn amdano yn Rhwymiad

addas i’w destun, sef rhwymo llyfrau mewn croen dynol, neu Fibliopegiaeth Anthropodermig,

arferiad sydd (gobeithio) wedi hen ddod i ben.

Mae’r ddau golofnydd rheolaidd mor brysur ag erioed. Yn ei golofn Briwsion Bruce, mae Bruce

Griffiths yn mynd â ni i ddyddiau coleg a’u caneuon hurt, yn ogystal â choleg Saunders Lewis.

Cawn hefyd gerdd gan Kate Roberts, ac mewn darn sy’n goffâd cynnes i Emyr Humphreys cawn

beth o hanes drama deledu, ar dynged y bardd Lorca, a sgrifennodd Bruce ar gais Emyr yn 1975.

Gerald Morgan yw’r conglfaen arall. Yr hyn sydd ganddo yn ei golofn O’r Silff Lyfrau y tro hwn

yw Rhys Jones o’r Blaenau, y gyfrol o’i farddoniaeth, ‘Gwaith Prydyddawl y Diweddar Rice

Jones’, a’r gyfrol ‘Gorchestion Beirdd Cymru’. Cawn wybod fod y sensor wedi bod yn brysur eto

hefo’r ‘Gwaith Prydyddawl’, a bod y llyfr fymryn yn llai na’r llawysgrif wreiddiol yn y Llyfrgell

Genedlaethol, yn ogystal â bod sêr bychain wedi’u cynnwys yn rhai o’r cerddi a gyhoeddwyd yn lle

llinellau nad oeddent yn plesio lledneisrwydd y golygydd Rice Jones Owen.

Ceir hefyd yn y rhifyn nifer o hysbysebion am lyfrau ar werth ac yn eisiau, a phum llythyr yn

cyfeirio at gyfraniadau o’r rhifyn blaenorol. Mae’r cylchgrawn yn croesawu llythyrau bob amser.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!