08.03.2020 Views

Cylchlythyr Merched Plaid - Cymraeg

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

8 MAWRTH 2020

DIWRNOD RHYNGWLADOL

Y MENYWOD

C Y L C H L Y T H Y R W E D I ' I G Y N H Y R C H U G A N

M E R C H E D P L A I D , A D R A N M E N Y W O D P L A I D C Y M R U

Croeso i gylchlythyr Merched Plaid. Mis Mawrth rydym yn dathlu

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, i ddathlu pob menyw, grŵp,

teulu a chefnogwr sy’n gweithio tuag at fyd ble mae pobl yn

rhydd i fod y fersiwn gorau ohonynt eu hun.

Mae Cerdyn Sgorio Ffeministaidd Cymru’n dangos gwelliant yn

erbyn rhai dangosyddion ond fel menywod gwyddwn o brofiad

bod yna gost ychwanegol i fod yn fenyw. Rydym mwy tebyg i

ennill llai o arian am waith tebyg, mwy tebyg o ddioddef o gamdrin

yn y cartref ac ym maes iechyd nid oes ymchwil digonol i’n

cyflyrau ac ystyrir poen yn rhywbeth y gall menywod ei oddef!

Mae angen grwpiau menywod yn fwy nag erioed i gefnogi a

herio’n gilydd, ac i feiddio breuddwydio am well Gymru.

Yn y cylchlythyr hwn:

Y S Y S T E M G Y F I A W N D E R

M A S N A C H D E G

P E N D E R F Y N I A D A U , P O L I S I . . . A

M E R C H E D P L A I D I F A N C

2

4

6

Gellir digalonni wrth ystyried y byd o’n cwmpas ac mae’r baich yn fawr, ond gwyddwn os ydyn yn llwyddo bydd yn

well fyd i bawb. Hoffem glywed beth rydych chi, ferched Plaid Cymru yn ei wneud i ddylanwadu ar y byd o’ch

cwmpas. Mae gennym uchelgeisiau sefydliadol a phersonol - cael llu ohonom yn y Senedd, cyfleoedd gwaith da a

lleol, amser i fod yn greadigol a charedig a bywyd carbon-isel. Mae menywod Plaid Cymru yn gweithio ar hyn yn

ddiddiwedd - yn gyhoeddus neu heb gydnabyddiaeth. Yn y misoedd nesaf anelwn i ddatblygu cyfleoedd

hyfforddiant a rhwydweithio i ni ddod i adnabod ein gilydd yn well er mwyn cyflawni ein hamcanion gyda’n gilydd.

Hoffem ddiolch i Blaid Pride a Phlaid Ifanc am eu gwaith cynhwysol i gefnogi hawliau pobl traws ac i’n hysbrydoli.

Gwelwn ni chi yn y Gynhadledd Wanwyn!

Llio Elgar, Cyd-gadeirydd Merched Plaid

@MerchedPlaid

merchedplaid

Merched Plaid

merchedplaidcymru@gmail.com


Y system gyfiawnder

yng Nghymru – a yw'n

gweithio i fenywod?

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddatganoli'r

system gyfiawnder i Gymru ers blynyddoedd, ac

yn parhau i wneud. Beth yw'r prif resymau dros

hyn? Mae Sioned James, ein Trysorydd, wedi

graddio fel bargyfwreithraig, ac mae hi'n

amlinellu'r prif ddadleuon isod.

Yn gyffredinol, nid yw cyfiawnder yn bwnc sy’n cyrraedd seice’r cyhoedd yn yr un ffordd

â’r system addysg na’r system iechyd, er ei fethiannau dwfn. Erbyn hyn, mae mwy a mwy

o bobl yn dechrau galw am ddatganoli cyfiawnder i Gymru.

Mae’r system gyfiawnder yn arbennig o arw ar bobl BAME, pobl ag anableddau, a phobl

LDHT, a rhaid creu gwagle i ddatgymalu'r system bresennol. Dyma 3 ffordd mae’r

system gyfiawnder yn methu menywod, a’r hyn gall Plaid Cymru ei wneud i’w cywiro.

1.

Cyfiawnder i oroeswyr

Yn y flwyddyn yn arwain at Fawrth 2019, roedd yna 58,657 cyhuddiad o drais, ond dim

ond 1,925 euogfarn o drais a welwyd. Ers 2016, mae nifer yr achosion a erlynwyd gan

Wasanaeth Erlyn y Goron wedi cwympo 52 y cant, er gwaetha'r ffaith bod cynnydd o 43

y cant yn nifer y cyhuddiadau trais a wnaed i’r heddlu.

Mae mwy na chwarter o fenywod yng Nghymru wedi dioddef o drais domestig ar fwy

nag un achlysur, gan gynnwys trais ffisegol, rhywiol a seicolegol. O Wasanaeth Erlyn y

Goron a’r ffordd maent yn derbyn achosion, i weithredaeth y llysoedd sy’n achosi oedi ac

i achwynwyr orfod cynrychioli eu hunain, i’r gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael i

ddioddefwyr ac i oroeswyr. Nid yw’r status quo yn ffit i’w bwrpas.

Mae yna bethau gall Plaid Cymru eu gwneud yn San Steffan. Gallwn alw am Gofrestr

Cam-drinwyr Domestig. Gallwn sicrhau bod deddfwriaeth ddiweddar a chyfarwyddyd ar

ystelcwyr yn cael ei weithredu’n iawn ar draws Cymru er mwyn i’r rheiny sy’n dioddef o

ystelcio deimlo’n hyderus i adrodd gofidion ac y bydd gweithredu yn digwydd.

Drwy gomisiynu gwasanaethau cefnogaeth dioddefwyr, byddai dioddefwyr cam-drin

domestig yn cael cefnogaeth emosiynol ac ymarferol, help i ymdopi a gwella, a

chymorth i gyrraedd y canlyniad gorau o fewn y system gyfiawnder drosedd.

Yn olaf, o dan y model pwerau presennol, mae Plaid Cymru yn y Senedd yn gwthio am

sefydlu gwasanaethau cwnsela â chyllid digonol gan fod dioddefwyr trais yn aml yn

dioddef o broblemau eraill fel problemau iechyd meddwl, camddefnyddio alcohol a

chyffuriau, yn enwedig o achos hunan-feddyginiaethu.

2


2.

Cylched cam-drin a thrawma

Mae yna dystiolaeth helaeth am y problemau iechyd meddwl eang sydd gan nifer o

ferched bregus sydd wedi’u dal yn y system gyfiawnder troseddol. Mae’r rheiny sydd

wedi dioddef Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) fel trawma a pherthnasau

ymosodol yn fwy tebygol o gael eu carcharu rywbryd yn eu bywydau. Mae dros hanner y

merched mewn carchar wedi dioddef o drais domestig gyda 53% yn adrodd eu bod

wedi profi camdriniaeth emosiynol, ffisegol neu rywiol fel plentyn.

Byddai datganoli cyfiawnder i Gymru yn ein helpu i dorri’r cylched wrth uno ein

gwasanaethau iechyd a chymdeithasol gyda’n polisi cyfiawnder. Fe all Plaid Cymru

ddefnyddio dull ataliol sy’n tynnu oddi ar ardaloedd iechyd, cyfiawnder, addysg ac eraill

er mwyn taclo ACEs wrth iddynt ddigwydd, a’r ymddygiad troseddol posib sy’n arwain o

hyn. Mae ymyrraeth gynnar yn allweddol.

Trwy waith ein Comisiynwyr Heddlu a Throsedd mae Plaid Cymru wedi cymryd camau

yn y maes hwn yn barod wrth lansio Cronfa Ymyrraeth Gynnar 3 blynedd. Mae hwn yn

cefnogi gwaith ataliol Heddlu Gogledd Cymru o daclo profiadau niweidiol mewn

plentyndod fel achos gwaelodol o drosedd.

3.

Y system garchar

Mae merched o fewn y system garchar yn fwy tebygol na dynion i gael dedfryd fer. Yn

2016, roedd 74% o’r holl ferched oedd ag euogfarn wedi derbyn dedfryd o 6 mis neu’n llai.

Serch hynny, mae dedfryd byr-dymor yn aml yn dod ag anhrefn ac aflonyddwch

sylweddol i fywydau merched a’u teuluoedd. Un canlyniad yw bod merched sy’n cyflawni

dedfryd byr-dymor yn fwy tebygol o ail-droseddu na’r rheiny a’u dedfrydwyd i orchymyn

llys. Mae merched hefyd yn cael eu danfon ar lefel llethol i’r carchar am ddwyn yn

hytrach na throseddau treisiol. Yn aml, maent yn dwyn i fwydo eu plant neu i gefnogi

dibyniaeth cyffuriau partner.

Carcharu ddylai fod yr opsiwn olaf ar gyfer troseddau di-drais. Gyda system gyfiawnder

wedi’i datganoli, byddai Plaid Cymru yn defnyddio dedfryd ohiriedig, trwy gynlluniau fel

Checkpoint Cymru, ar gyfer merched sydd wedi’u cyhuddo o droseddau di-drais, gan

leihau’r anrhefn a achoswyd iddyn nhw a’r teulu. Mae polisi yn seiliedig ar waith ataliol,

ymyrraeth gynnar, ac sy’n amlddisgyblaethol yn gallu bod yn fwy effeithiol na dibynnu ar

ddedfryd o garchar byr sy’n cynnig bach iawn o gyfle ar gyfer adsefydlu.

Mae merched o Gymru sydd wedi'u carchau wedi'u lleoli yn un o’r deuddeg carchar i

ferched yn Lloegr. Yn aml mae hwn yn arwain at wahanu plant ifanc a mamau, ac yn

gwneud ymweliadau teulu yn anodd. Pan fydd dedfryd o garchar yn addas i ferch,

dylem gefnogi carchardai neu ganolfannau diogel bach, ymroddedig ar gyfer merched

yng Nghymru, er mwyn sicrhau hygyrchedd i rwydweithiau cefnogaeth deuluol.

Does dim angen edrych yn rhy bell i weld pam nad yw ein system gyfiawnder yn gweithio.

Rhwng 2010 a 2016 bu rhaid i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder weithredu toriadau cyllid o dros

drydydd, a lleihawyd nifer y Llysoedd Ynadon o 330 i 150. Dydy fformiwla y DU ddim yn rhoi

unrhyw sylw i rôl cyfiawnder, a hygyrchedd cyfiawnder, yn ein cymdeithas. Ond, mae arfer da

i'w weld ar lawr gwlad diolch i Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd Plaid Cymru. Mae'r gallu, y

sgiliau a’r syniadau gennym yma yng Nghymru. Nawr rhaid i ni wthio am y pwerau.

3


Cynhyrchu

cydraddoldeb

Heddiw (8 Mawrth) yw diwrnod olaf

pythefnos Masnach Deg. Dros yr ychydig

wythnosau diwethaf, mae'r sefydliad, sy'n

hyrwyddo amodau a chyflogau teg i

gynhyrchwyr ledled y byd, wedi bod yn

pwysleisio hawliau meynwod yn benodol.

Fel y llynedd, 'Mae hi'n haeddu incwm

byw' oedd enw'r ymgyrch eleni. Ein

Swyddog Cyfathrebu, Sioned Treharne,

sy'n cynnig blas o'r sesiwn a gynhaliwyd

yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf.

Roedd neuadd Portland House, Bae Caerdydd, yn agos at fod yn llawn erbyn i'r sgwrs ar

Fasnach Deg ddechrau. Yn ymarferol, roedd y neuadd yn cynnig digon o le i ddenu

cynulleidfa deilwng iawn i'r digwyddiad. Ac eto, roedd rhywbeth eironig ynglŷn â'r

cyferbyniad rhwng ysblander y neuadd a'r hanesion o dlodi enbyd roedden ni ar fin eu

clywed.

Jenipher, ffermwraig coffi o Uganda, a ddechreuodd y sgwrs. Soniodd mor anodd yw hi i

ennill cyflog byw yn Uganda wrth gynhyrchu coffi, ac mai dim ond drwy ffurfio cydweithfa

masnach deg o fewn y gymuned y gellir ennill digon o incwm i fyw. Er bod pris y farchnad

am ffa coffi yn amrywio ac yn gallu gostwng yn llai na phris cynhyrchu, bydd Jenipher a

gweddill aelodau ei chydweithfa bob amser yn ennill cyflog teg oherwydd eu cysylltiad â

Masnach Deg. Mae'r gydweithfa hefyd yn derbyn swm ychwanegol oddi wrth y sefydliad,

i'w ail-fuddsoddi o fewn y gymuned, o dan gyfarwyddiadau'r bobl leol. Diolch i Masnach

Deg, mae'r sefyllfa i ferched hefyd wedi gwella'n sylweddol. Un trywydd oedd i ferched cyn

nawr – priodi, magu teulu a gofalu

am y cartref. Bellach, mae menywod

fel Jenipher yn gallu perchen tir a'u

ffermydd eu hunain, ennill cyflog, a

bod yn annibynnol. Soniodd hefyd

fod newid hinsawdd yn effeithio ar

gymunedau bregus yn Affrica eisoes,

a bod tirlithriadau yn dilyn glaw trwm

yn ei hardal hi, Mt Elgon, yn digwydd

yn amlach, gan ladd trigolion a

dinistrio cnydau.

Llun: Cyfrif Twitter Fair Trade Wales

4


Llun: Cyfrif Twitter Fair Trade Wales

Y panelwyr (chwith i'r dde):

Hannah Pudner (United Purpose),

Julia Nicoara (Masnach Deg), Chisomo Phiri

(cyn-Swyddog Menywod UCM Cymru),

Jenipher Wettaka Sambazi, Rosine Bekoin,

Katie Colvin (CRU Kafe)

Ffermwraig coco o Côte d'Ivoire oedd Rosine. Yn debyg i ffa coffi, mae'r farchnad coco yn

newidiol iawn, ac yn aml, nid yw'r ffermwyr yn derbyn cyflog digonol i dalu am gostau

cynhyrchu. Byddai Rosine wedi bod yn wraig tŷ am weddill ei hoes pe bai ei mam-gu heb

frwydro dros ei hawl i etifeddu tir y teulu. Doedd Rosine yn sicr ddim yn cael dim gan ei

gŵr. Ar ôl etifeddu ychydig hectarau o dir ei mam-gu, dechreuodd Rosine werthu coco yn

lleol, ond byddai'r arian yn diflannu'n syth ar gostau byw. Yn ffodus, daeth i wybod am

fenter Masnach Deg, ac o ganlyniad dechreuodd dderbyn incwm teg am ei chynnyrch.

Gallai wedyn wario'r arian ychwanegol ar wella'r tir a'r cnwd. Un sylw dadlennol iawn o stori

Rosine oedd ei hymateb pan ofynnwyd iddi gymryd rhan mewn gweithdy arweinyddiaeth i

ffermwyr benywaidd yn y rhanbarth. Ei chwestiwn cyntaf oedd, 'Pam fi? Does dim digon o

brofiad gen i i wneud hyn.' (Swnio'n gyfarwydd i unrhyw un?!) Ond ar ôl mynd i'r sesiwn

cyntaf (heb ddweud wrth ei gŵr!), sylweddolodd mai hi oedd yr union berson i fod yn

cymryd rhan mewn cynllun o'r fath. Ei hapêl, ar ddiwedd ei chyfraniad, oedd i bob un

ohonom brynu siocled Masnach Deg – prynwch, prynwch, prynwch! Drwy Masnach Deg,

mae cynhyrchwyr coco, a menywod yn enwedig, yn gallu cymryd rheolaeth dros eu

bywydau eu hunain, fel y digwyddodd yn ei hachos hi.

Un peth gwnaeth fy nharo yn ystod y sesiwn oedd pa mor aml roedd y ddwy fenyw hynod

hyn yn sôn am 'y gymuned'. Roeddwn i'n cael yr argraff bod ymdeimlad o undod

cymunedol a chydweithio yn rhan gwbl greiddiol o'u profiadau gyda sefydliad Masnach

Deg. Dw i'n ofni, efallai, fod yr agwedd gydweithredol honno wedi diflannu o'n cymdeithas

ni, a'n bod yn dod yn fwyfwy unigolyddol yn y ffordd rydym yn byw ein bywydau o ddydd i

ddydd. Dros y blynyddoedd nesaf, mae Brexit yn mynd i osod straen ychwanegol ar ein

busnesau lleol yma yng Nghymru. Yr her, i'r sawl sydd â'r gallu i wneud, yw ymwrthod â

chyfleustra a themtasiwn prisiau rhad, a buddsoddi mewn gwasanaethau lleol i adfer

ffyniant y stryd fawr yn ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi. Yn ogystal â hynny, dylem

wneud ymdrech gydwybodol i brynu nwyddau masnach deg, er mwyn cefnogi Jenipher,

Rosine a miloedd o fenywod eraill sy'n goresgyn rhwystrau o bob math, bob dydd, i ennill

cyflog teg.

5


Penderfyniadau,

polisi...a Merched

Plaid Ifanc

Ar ddydd Sadwrn braf ym mis Chwefror,

cyn i'r llifogydd darannu drwy'r cymoedd,

daeth aelodau Plaid Ifanc, mudiad

ieuenctid Plaid Cymru, ynghyd ym

Mhontypridd i drafod polisi, gweledigaeth

a theori wleidyddol. Un o'r sesiynau a

gynhaliwyd oedd gweithdy polisi, yn

arbennig i'r merched. Sioned James,

Cyd-gadeirydd Plaid Ifanc, sy'n esbonio ei

rhesymeg dros drefnu'r sesiwn.

Roedd gen i deimlad nad oedd digon o gynigion polisi gan ferched yn

dod o flaen cynhadledd Plaid Ifanc, ond doedd dim syniad gen i am lefel y

diffyg tan i mi edrych ar y data. Yn y pedair blynedd diwethaf daeth 41

cynnig gerbron cynhadledd Plaid Ifanc, ac o’r rheiny, dim ond 5 merch a

gyflwynodd gynnig erioed. I’w rhoi ffordd arall, o'r holl gynigion dros y

pedair blynedd ddiwethaf, 22% oedd wedi'u cyflwyno gan ferched. Felly,

mae dylanwad merched ar y math o bolisïau yr ydym yn eu trafod yn

fach iawn. Fel unrhyw fater cydraddoldeb, mae diffyg lleisiau yn arwain at

ddiffyg cynnydd, a diffyg syniadau. Rwy’n gwybod mai diffyg hyder, diffyg

gwybodaeth am brosesau, a diffyg anogaeth sy’n arwain at y niferoedd

isel yma. Mae gan bob merch syniadau disglair yn cuddio rhywle sydd

angen ychydig o fentora er mwyn arwain at gynnig ar bapur. Es ati i greu

sesiwn i’r merched yn unig yn Ysgol Aeaf Plaid Ifanc er mwyn amlygu'r

bylchau yn ein dylanwad, effaith pellgyrhaeddol polisi da, a chyngor

ymarferol ar sut yn union i ffurfio polisi. Rwy’n gobeithio bydd cynhadledd

Plaid Ifanc eleni yn gweld mwy o gynigion gan ferched nag erioed. Gwell

fyth fyddai gweld hunanhyder yn blodeuo o fewn merched ieuengaf Plaid

Cymru a fydd yn sicr o greu tonfeydd trwy’r blaid i gyd.

6


Beth am y merched a ddaeth i'r

sesiwn, felly? Pwy ydyn nhw, a beth

oedd eu hargraffiadau o'r gweithdy?

Dyma ddod i adnabod dwy ohonynt,

Gwenno a Maiwenn.

Un o ble wyt ti?

Gwenno: Rwy’n dod o fferm fach yng Nghwm

Prysor ger Trawsfynydd, ac yn fy nhrydedd

flwyddyn yn y Brifysgol yn Aberystwyth.

Maiwenn: O Ddinbych yng Ngogledd Dwyrain

Cymru.

Pam mynychu Ysgol Aeaf Plaid Ifanc?

Gwenno: Gan ei fod yn rhoi cyfle i mi ddysgu

mwy am syniadaeth Plaid Ifanc a sut mae

mynd ati i ymgyrchu. Mae digwyddiadau Plaid

Ifanc hefyd wastad yn gyfle da i weld ffrindiau

a gwneud ffrindiau newydd!

Maiwenn: Dwi wedi bod yn aelod o Blaid Ifanc

ers tua 5 mlynedd ac wedi cael profiadau

anhygoel wrth fynychu digwyddiadau

amrywiol. Roedd yr Ysgol Aeaf yn gyfle arall i

gwrdd â hen ffrindiau ac aelodau newydd, i

ddysgu, i drafod, ac i weithredu.

Pa fenyw rwyt ti'n ei hedmygu ar hyn o

bryd?

Gwenno: Greta Thunberg. Fel merch ifanc mae

Greta wedi gallu creu symudiad sydd wedi cael

miliynau o bobl ifanc ar draws y byd ar y

strydoedd yn gwthio ar y llywodraethau i newid

eu hagwedd tuag at newid hinsawdd. Mae ei

hareithiau i sefydliadau, llywodraethau, a

thorfeydd hefyd wir yn ysbrydoledig.

Maiwenn: Cwestiwn da! Mae'r rhestr

yn newid yn aml neu efallai ond yn tyfu, a

dwi wedi sylweddoli hefyd fy mod yn cael

fy nylanwadu yn fawr gan eiriau, boed wrth

ddarllen neu wrando. Yn ddiweddar mae

areithiau yr Aelod Cynulliad Delyth Jewell wedi

fy nghyffwrdd, yn enwedig yr un yng

nghynhadledd ddiwethaf y blaid a hefyd

yn yr orymdaith dros annibyniaeth ym Merthyr.

Ni allaf gofio yr un araith arall

yn fy ngwneud i yn ddagreuol cyn hyn.

Bydd pobl ifanc 16 oed yn gallu pleidleisio

yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf. Pa

faterion yn yr etholiad hwn sy’n debygol o

danio dychymyg pobl ifanc?

Gwenno: Materion a pholisïau sy’n ymwneud â

iechyd meddwl a hefyd newid hinsawdd.

Maiwenn: Cytuno! Mae brwydro dros yr

amgylchedd a phwysigrwydd gweithredu ar

newid hinsawdd wedi tanio dychymyg yr

ifanc yn ddiweddar, ac mae'n bwnc a fydd

yn parhau i ennyn sylw yn yr etholiad nesaf.

Dwi’n gobeithio y bydd iechyd, gofal

cymdeithasol, hawliau cyfartal, swyddi, tai

fforddiadwy ac annibyniaeth i Gymru hefyd

yn denu pobl ifanc i ymgysylltu’n wleidyddol.

Wyt ti’n teimlo’n fwy hyderus i rannu dy

syniadau ar ôl cymryd rhan yn y gweithdy

polisi?

Gwenno: Yndw yn bendant!

Maiwenn: Roedd y gweithdy yn wych, ac yn

agoriad llygaid. Yn anffodus, nifer bach iawn

o ferched Plaid Ifanc sydd wedi cynnig polisi yn

ein cynadleddau dros y blynyddoedd. Ond

roedd y gweithdy wedi ysgogi'r merched

oedd yno i drafod, rhesymegu, a rhannu eu

teimladau ar pam nad oeddynt yn teimlo’n

ddigon hyderus i gynnig polisi a sut oedd

goresgyn hynny. Yn sicr fyswn i’n deud bod

y gweithdy wedi gwella hyder y sawl oedd

yno yn sylweddol, a finnau hefyd.

7

Cynhelir cynhadledd flynyddol Plaid Ifanc yng Nghonwy ar 4 Ebrill.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag info@plaidifanc.org.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!