ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR 2006-2007 - Netring
ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR 2006-2007 - Netring
ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR 2006-2007 - Netring
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Tro Sir Gâr oedd croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Fel Mudiad cawsom uned

yn ychwanegol at ein pabell. Oherwydd hyn roedd digon o ofod i aelodau'r Clybiau Gwawr

weini diodydd ffrwythau oer ffres. Bu’n wythnos brysur iawn, yn croesawu aelodau o Ferched

y Clybiau Gwawr a ffrindiau oedd yn galw heibio am ddiod a sgwrs ac egwyl i edmygu yr

arddangosfa wych a drefnwyd gan ferched Sir Gâr.

Uchafbwynt 2007 oedd ‘Dathlu’r Deugain’ yn Y Bala. Roedd y 9fed o Fehefin yn ddiwrnod

crasboeth a dyna pryd y daeth merched o bob cwr o Gymru i’r Bala. Rhai wedi aros dros nos

ond eraill wedi codi yn blygeiniol a theithio i’r Bala fore Sadwrn. Braint oedd cael

cyflwyno’r Pasiant, ‘Rhialtwch y Rhuddem’. Ymhyfrydwn fod pob Rhanbarth yn rhan o’r

dathlu. Mair Penri Jones a Nan Lewis fu’n gyfrifol am ysgrifennu’r sgript a chyfarwyddo'r

perfformiad. Diolch am gydweithrediad y Pennaeth a Staff Ysgol y Berwyn, hefyd

swyddogion Capel Tegid, Bala. Paratowyd bwyd i bawb gydol y dydd gan gwmni Dolen 5.

Wedi dau berfformiad a chyfle i gymdeithasu a chael tamaid i’w fwyta roedd yn amser mynd

i Gapel Tegid ar gyfer y Gymanfa Ganu. Cafwyd Cymanfa i’w chofio a chanu gwefreiddiol o

dan arweinyddiaeth Maureen Hughes. Mae’r cyfan ar gof a chadw, diolch i gwmni Avanti

am recordio'r Gymanfa ar gyfer S4/C.

I gyd-fynd â’r dathlu ymddangosodd rhifyn arbennig o’r Wawr. Lowri Rees Roberts fu’n

pori’n ddyfal drwy’r hen rifynnau ac yn dewis a dethol erthyglau a lluniau diddorol ar ein

cyfer. O dan olygyddiaeth fedrus Siân Lewis cawn bedwar rhifyn o’r Wawr yn flynyddol.

Rhaid canmol diwyg a deunydd ein Cylchgrawn lliw llawn gyda digonedd o waith darllen

difyr a defnyddiol.

Unwaith eto ym mis Gorffennaf roedd cyfle i ni ddod at ein gilydd. Y tro yma, taith gerdded

oedd wedi ei threfnu yn Genedlaethol, er mai'r Rhanbarthau oedd yn dewis llwybr y daith

gerdded. Braf yw gallu dweud ei fod wedi bod yn brofiad pleserus iawn, a llawer o’r aelodau

eisiau gwneud taith gyffelyb yn y dyfodol. Diolch i’r cyn-lywyddion a’r swyddogion fu’n

arwain y teithiau yn y gwahanol ranbarthau.

Wedi profi haul crasboeth ar gyfer ein digwyddiadau, tipyn o newid oedd mynd i’r Sioe yn

Llanelwedd yn ystod cyfnod gwlyb iawn. Ond doedd y tywydd ddim yn lladd brwdfrydedd

Merched Penfro. Roedd y babell yn ddeniadol tu hwnt a’r croeso’n gynnes iawn. Diolch i

aelodau rhanbarth Penfro am gyflwyno’r paneli brodwaith hyfryd oedd yn rhan o’r

arddangosfa i’r Ganolfan Genedlaethol. Diolch hefyd i’r rhai ohonoch fu’n cystadlu a

llongyfarchiadau i’r enillwyr.

Un datblygiad newydd eleni oedd cynnal derbyniad pnawn dydd Mercher ar gyfer ein

partneriaid. Rwy’n siŵr y bydd yr arfer yn parhau i’r dyfodol gan ei fod yn gyfle i ddangos

gwerthfawrogiad i’n partneriaid a’n cefnogwyr.

Daeth mis Awst a phrysurdeb yr Eisteddfod Genedlaethol a thywydd gwlyb yn bygwth

distrywio’r cyfan. Ond oherwydd dycnwch gweithwyr diflino Sir Fflint aeth popeth ymlaen

yn ardderchog, ac yn wir daeth yr haul i wenu ar y cyfan. Mae ein presenoldeb ym mhrif

wyliau Cymru yn holl bwysig er hyrwyddo ein Mudiad a chyfarfod aelodau a darpar aelodau.

Tro Rhanbarthau Colwyn a Glyn Maelor oedd bod yn gyfrifol am y babell ac unwaith eto

rhaid diolch i’r merched, am eu gwaith yn addurno’r Babell mor gelfydd a chywrain ac am eu

paned a chroeso.

Ers 2005 rydym yn cael amser penodol ar gyfer perfformiad ar lwyfan y pafiliwn. Eleni

cafwyd perfformiad o ddetholiad o ‘Basiant Cenedlaethol Dathlu’r Deugain’. Yna am 3 o’r

gloch ymgasglodd cannoedd o aelodau a ffrindiau o gwmpas y maen llog i fwynhau ‘te

8