12.12.2012 Views

ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR 2006-2007 - Netring

ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR 2006-2007 - Netring

ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR 2006-2007 - Netring

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Gair gan y Llywydd Cenedlaethol

Mary Price

Daeth yn amser cofnodi digwyddiadau yn ystod blwyddyn bwysig ac arwyddocaol iawn yn

hanes ein Mudiad. Aeth deugain mlynedd heibio er pan blannwyd yr hedyn yn y Parc ac i’r

Mudiad dyfu a datblygu yn Fudiad allweddol i Ferched yng Nghymru.

Penwythnos Preswyl Llanbedr Pont Steffan oedd y digwyddiad Cenedlaethol cyntaf i fi ei

lywyddu fel Llywydd Cenedlaethol.

Ffasiwn a cherdd oedd hi nos Wener, Gillian Elisa yn ei dull hwyliog yn cyflwyno Sioe

Ffasiwn o siopau Steil Ni, Cwpwrdd Cŵl, Duet, Cameo, Lambi’s a Masnach Deg a Huw

Llywelyn ac Annette Bryn Parry yn ein diddori gyda cherddoriaeth a chân.

Coginio a garddio oedd yr arlwy fore Sadwrn; coginio gyda Eleri Hughes a Helen McNaulty

o gwmni @maeth; garddio gyda Carys Whelan. Yn dilyn bygythiad S4C i ddiddymu rhaglen

‘Garddio’ oddiar y teledu dangoswyd fideo a baratowyd gan Gerallt Pennant yn dangos rhan

o’r rhaglen.

Uchafbwynt y diwrnod oedd yr ymweliad â Garddwest yn y Gerddi Botanegol, Llanarthne.

Roedd y tywydd yn boeth a’r haul yn gwenu arnom trwy’r dydd. Cyfle i grwydro o gwmpas

y gerddi a mwynhau yr adloniant gan Gôr Bois y Castell o dan arweiniad Nia Clwyd,

Dawnswyr Talog, Phil Dando a’i fand jas a’r delynores Heledd Mitchell. Croesawyd ni’n

gynnes i’r ardd gan Mr. Roy Thomas y prifweithredwr. Allan o wres yr haul roedd

arddangosfa gosod blodau gan Gloria Davies a darlith ar feddygon Myddfai gan Liz Evans.

Daeth yn amser troi tua thre yn rhy fuan o lawer a dyna syndod i’r aelodau oedd derbyn bag

glas amgylcheddol garedig efo 40 o fylbiau Cennin Pedr o Sir Benfro ynddo!

Yn goron ar ddiwrnod bendigedig cafwyd Cyngerdd Mawreddog gydag Annette Bryn Parri,

Dylan Cernyw a Sian Meinir.

Bore Sul roeddem wedi edrych ymlaen at sesiwn efo’r beirdd, Tudur Dylan Jones, Ceri Wyn

Jones ac Emyr Davies a phleser pur oedd bod yno.

Prynwyd englyn, a luniwyd yn arbennig ar gyfer y dathlu, gan Heulwen Parry Jones, Bro

Cyfeiliog. Cyflwynodd Heulwen yr englyn i’r Mudiad ac fe’i gwelir ar ein cardiau cyfarch.

I gloi’r penwythnos cafwyd cyflwyniad gan Dwynwen Lloyd Evans ar y thema, “Dathlu’r

Deugain” gan y Clybiau Gwawr lleol.

Esyllt Jones, yr Is-lywydd Cenedlaethol gyflwynodd y diolchiadau i bawb a fu’n gweithio ac

yn cymryd rhan er sicrhau Penwythnos i’w chofio unwaith eto.

Y digwyddiad cenedlaethol nesa ar y calendr oedd y Cwis Hwyl Cenedlaethol. Cafwyd

cystadlu brwd o fewn y Rhanbarthau a chyhoeddwyd y canlyniadau ar Radio Cymru.

Llongyfarchiadau calonnog i Gangen Bro Radur, Rhanbarth Y De-ddwyrain ar ddod yn

fuddugol.

Yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd roedd mwy wedi cystadlu eleni eto. Da yw gallu dweud bod

y Ffair yn denu mwy o gystadleuwyr o flwyddyn i flwyddyn. Cawn gyfle hefyd i gyfarfod

hen ffyddloniaid y Ffair Aeaf ac i groesawu cyfeillion newydd ar eu hymweliad cyntaf ar

Ffair.

Ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr cawsom gyfle i ymuno â thaith Groto S4C. Roedd hyn yn

golygu teithio o le i le, codi stondin, pan oedd y tywydd yn caniatáu, a gweini gwin cynnes i’r

rhai oedd wedi dwad â’u plant i’r Groto. Diolch i Ruth a Ffion, fel swyddogion datblygu'r

Clybiau Gwawr, am ofalu am y trefniadau. Er garwed y tywydd bu’n gyfle da i roi hysbysiad

i’r Clybiau a denu aelodau newydd.

Ymlaen â ni yn hyderus i’r flwyddyn newydd â Dathlu’r Deugain yn dechrau o ddifri.

Maldwyn Powys oedd y Rhanbarth cyntaf i ddathlu, a hynny ar Noson Santes Dwynwen yn

Llanfair Caereinion. Bu’r Rhanbarthau eraill yn dathlu yn ystod y flwyddyn trwy gynnal Sioe

Ffasiwn, noson o ddarlleniadau gan feirdd a llenorion y Rhanbarth, Ciniawau, noson o

arddangosfa gwaith llaw yr aelodau a theithiau cerdded. Y cyfan oll yn rhoi lliw, llun a stamp

y Rhanbarth ar yr amrywiol weithgareddau ac yn gyfle gwych i’r aelodau gymdeithasu.

6

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!