12.12.2012 Views

ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR 2006-2007 - Netring

ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR 2006-2007 - Netring

ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR 2006-2007 - Netring

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

ADRODDIADAU’R SWYDDOGION DATBLYGU

SWYDDOG DATBLYGU Y DE-DDWYRAIN A GORLLEWIN MORGANNWG

Malvina Ley

Ym mis Medi cefais gyfle i wasanaethu ym Mhenwythnos Preswyl Llanbedr Pont Steffan.

‘Roedd yn braf bod yn ôl mewn lle cyfarwydd wedi profiadau penwythnos Caerdydd.

Dechrau blwyddyn Dathlu’r Deugain oedd hi ac edrychem ymlaen yn eiddgar at nifer o

ddigwyddiadau cyffrous. Buom yng Ngerddi Botaneg Cymru yn Llanarthne ar brynhawn

Sadwrn y Penwythnos mewn haul tanbaid. ‘Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr ac yn troi

am adre gyda bag o ddeugain o fylbiau Cennin Pedr i’w plannu i gofio’r achlysur.

Cefais y fraint o ymweld â changen Merthyr nes ymlaen yn y mis a hefyd cael y cyfle i gynnal

sgwrs â rhai o ddysgwyr cangen Tonysguboriau er mwyn iddynt ymarfer a gloywi eu

Cymraeg.

Cynhaliwyd wythnos Cymraeg yn Gyntaf ym Mhontardawe ym mis Hydref a chynhaliwyd

taith gerdded o gwmpas yr ardal gan Nest Davies, Cangen Pontardawe. Mynychais y Cwis

Hwyl yn Aberafan gyda Rhanbarth Gorllewin Morgannwg. Bu’n ddathliad o lwyddiant

Eisteddfod Genedlaethol Abertawe hefyd ac yn gyfle i ddiolch i Catrin Stevens am ei holl

waith ynglŷn â’r Eisteddfod. ‘Roedd yn gyfle i’r aelodau weld baner newydd hardd y

rhanbarth a wnaethpwyd gan Esyllt Jones a Mary Jones. Bu dathlu mawr yn Rhanbarth Y Deddwyrain

wrth i aelodau tîm cangen Bro Radur sef Glenys Thomas, Rhiannon Alun Evans a

Heulwen Jones ennill y cwis yn genedlaethol.

Cynhaliwyd cyfarfod o gynrychiolwyr rhanbarthau’r gogledd o’r Is-bwyllgor Gŵyl a

Hamdden yn Llanrwst i ddewis cystadlaethau Sioe Llanelwedd 2008. ‘Roedd yn gyfarfod

bywiog a chawsom lawer o syniadau ardderchog. Bûm yn gwasanaethu yn Y Ffair Aeaf.

Calendr Adfent a Chardiau Nadolig oedd y ddwy gystadleuaeth a safon y gwaith yn uchel eto.

Profiad newydd oedd cynorthwyo Swyddog y Clybiau Gwawr ar daith Groto Plant Bach S4C.

Mynychais Wasanaeth Carolau rhanbarth Y De-ddwyrain, Cinio Nadolig Cangen Treforys a

chwrs crefft rhanbarthau’r de yn Llwyngwair.

Ym mis Mawrth bûm yn cynorthwyo Menter Iaith Abertawe a Menter Castellnedd/Port

Talbot ag ymgyrch “Kids Soak It up” Bwrdd yr Iaith. Ym mis Ebrill mynychais Noson Goffi

Rhanbarth Y De-ddwyrain ym Mhentyrch. Cynhaliwyd Taith Gerdded gan Ranbarth

Gorllewin Morgannwg yn Aberafan a chynhaliwyd cystadleuaeth ranbarthol Sioe Llanelwedd

2007. Mynychais ymarferion Pasiant Y Dathlu y ddau ranbarth. Cefais lawer o bleser yn

paratoi Llyfr Lloffion i Orllewin Morgannwg. Mynychais gynhadledd Cymdeithasau

Gwirfoddol Cymru yn Abertawe a chyfarfod Ombwdsman Cymru yng Ngholeg Y Drindod.

Mynychais lansiad DVD newydd Bron Brawf Cymru yng Nghaerdydd a braf oedd gwybod

bod yna gopi Cymraeg ar gael i bawb. Bu aelodau Rhanbarth Y De-ddwyrain yn cymryd rhan

yn Ŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008. Rhaid llongyfarch aelodau

Rhanbarth Gorllewin Morgannwg ar ennill y drydedd wobr yng nghystadleuaeth Sioe

Llanelwedd 2007. Trist iawn ym mis Gorffennaf oedd mynychu angladd Mair James,

Llandeilo - un a roddodd wasanaeth hir a chlodwiw i’r Is-bwyllgor Celf a Chrefft, Sioe

Llanelwedd ac yn wir i Gymru. Mawr yw’r golled ar ei hôl.

Braint oedd cael gwasanaethu yn holl ddathliadau Dathlu’r Deugain - yng Nghinio’r Llywydd

yn y De, Dathlu’r Deugain yn Y Bala, Sioe Llanelwedd ac Eisteddfod Genedlaethol Y Fflint.

Bûm yn gwasanaethu ym Mhicnic Rhanbarth Gorllewin Morgannwg a chawsom brynhawn

arbennig iawn, diolch i’n gwestai Catrin Stevens, a nifer fawr o aelodau’r rhanbarth a oedd

wedi dod ynghyd i fwynhau cwmni ei gilydd a rhannu profiadau deugain mlynedd.

26

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!