ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR 2006-2007 - Netring
ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR 2006-2007 - Netring
ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR 2006-2007 - Netring
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
addurno’r welington goch yn ogystal. Llongyfarchiadau i’r tîm celf a chrefft am fynd yn eu

blaenau i gipio’r drydedd wobr yn y Sioe yn Llanelwedd.

Fel rhanbarth derbyniwyd grant teithio sylweddol trwy Gronfa Arian i Bawb i gynorthwyo’r

aelodau i fynychu pwyllgorau ac ymarferion yn ymwneud â Dathlu’r Deugain trwy dalu am

logi tacsis iddynt ac am fysiau i’r dathliadau cenedlaethol. Cafwyd hwyl yn ymarfer y sgets

am y dysgwyr ‘Y Treiglad Llaes’ ar gyfer Pasiant y Dathlu yn y Bala ym mis Mehefin ond bu

braidd ‘rhy gormod’ o boeri wrth ymarfer ‘ch; th ac ph’! Diolch o galon i bawb fu’n cymryd

rhan yn y sgets hon. Llongyfarchiadau i Ann Rosser a Rita Rosser am gysylltu elfennau’r

pasiant mor ddeheuig. Diolch i’r aelodau a ddaeth gyda ni o’r rhanbarth i’n cefnogi. Cafwyd

diwrnod cofiadwy yn y Bala a diolch i bawb fu’n trefnu’r pasiant a’r Gymanfa Ganu.

Yn y Cyfarfod Blynyddol a’r Chwaraeon ym mis Mai braf cofnodi i gangen Castell Nedd

ddod yn ail unwaith eto am gynllun eu rhaglen flynyddol a llongyfarchiadau i Wendy

Hopkins (Lon-las) am ddod yn ail ar daflu’r welington goch! Bu cangen Pontarddulais yn ein

cynrychioli yn y gystadleuaeth sgets yn ogystal.

Uchafbwynt y dathlu oedd y Picnic a’r Daith gerdded ar Orffennaf 14. Daeth tua 90 ynghyd i

Theatr Dylan Thomas i fwynhau te mefus a’r deisen fendigedig a wnaethpwyd gan Teifina

Davies, ar ôl bod yn cerdded o gwmpas y Marina yn y tywydd hyfryd. Gwerthwyd balwnau i

gefnogi ‘Cymorth i Fenywod’.

Yn ystod y flwyddyn etholwyd swyddogion rhanbarthol newydd a chroesawn Margaret Jones

fel Is-Lywydd, Iona Mathers fel Is-Ysgrifennydd a Janette Jones fel Is-Drysorydd. At hyn

mae gennym Is-Lywydd Cenedlaethol o’r rhanbarth a llongyfarchiadau i Esyllt Jones ar gael

ei henwebu i’r ‘barchus arswydus swydd’! Dymunwn yn dda i bob un ohonynt pan ddaw

tymor eu gwasanaeth. Bydd Malvina Ley ein Swyddog Datblygu yn ymddeol ym mis Medi

2007 hefyd ond stori ar gyfer Adroddiad Blynyddol y flwyddyn nesa yw honno.

RHANBARTH MALDWYN POWYS

Gweithgaredd cynta'r tymor oedd y Cwis Hwyl, yn Henllan gyda 8 tîm yn cymryd rhan.

Llanfyllin a orfu o 1 marc, Llanerfyl yn ail, a thîm Catrin Y Foel yn 3ydd.

Ym mis Rhagfyr cynhaliwyd Plygain yng Nghapel y Tabernacl, Llanfyllin, roedd y tywydd

yn stormus iawn, ond daeth cynulleidfa dda ynghyd a 9 cangen yn cymryd rhan. Noson

fendithiol ac fe gafodd pawb baned a mins pei cyn troi am adre.

Ar Noson Santes Dwynwen cafwyd achlysur arbennig i ddathlu'r deugain. Daeth 150 o

aelodau'r Rhanbarth ynghyd i'r Ganolfan yn Llanfair Caereinion, yr ystafell wedi ei haddurno

efo balŵns coch wrth gwrs a phawb yn gwisgo rhywbeth coch. Cawsom swper blasus ac awr

o ymlacio a chwerthin yng nghwmni Mair Penri a'i phobol.

Ac wedyn Nos Fawrth Chwefror 13eg cynhaliwyd Cwis yng ngofal y Parch. Glyn Morgan

efo'r dysgwyr yng ngwesty'r Dyffryn, Y Foel. Trefnwyd y noson gan bwyllgor Iaith a Gofal.

Cafwyd Wŷl Haf llwyddiannus i'r Rhanbarth ym Machynlleth:-

Cystadleuaeth Rhaglen y Gangen - 2ail, Bro Cyfeiliog,

Llyfr Lloffion - clod uchel i Llanfyllin,

Badminton - 3ydd, Llanfyllin,

Taflu Welington Goch - 1af, Margaret Davies, Bro Cyfeiliog,

Dartiau - 2ail, Y Foel,

Gyrfa Chwist - 2ail, Bro Ddyfi.

22