ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR 2006-2007 - Netring
ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR 2006-2007 - Netring
ADRODDIAD BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR 2006-2007 - Netring
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
ADRODDIAD BLYNYDDOL

MERCHED Y WAWR

2006-2007

MUDIAD GWIRFODDOL SYDD YN TREFNU

GWEITHGAREDDAU CYMDEITHASOL AC ADDYSGOL

I FERCHED AC SYDD YN HYBU ADDYSG,

DIWYLLIANT A’R CELFYDDYDAU YNG NGHYMRU

TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

Rhif Elusen: 506789

SWYDDFA GENEDLAETHOL:

CANOLFAN MERCHED Y WAWR

STRYD YR EFAIL

ABERYSTWYTH

CEREDIGION

SY23 1JH

Ffôn: 01970 611 661

Ffacs: 01970 626 620

E-bost: swyddfa@merchedywawr.com

Safle gwe: www.merchedywawr.com a

www.clybiaugwawr.com

1
CYNNWYS

RHAGARWEINIAD 1

CYNNWYS 2

SWYDDOGION A STAFF CENEDLAETHOL 3

RHESTR CANGHENNAU A CHLYBIAU GWAWR 4

GAIR GAN Y LLYWYDD CENEDLAETHOL 6

GWEITHGAREDDAU AM Y FLWYDDYN 2006-2007 10

ADRODDIADAU’R RHANBARTHAU 15

ADRODDIADAU’R SWYDDOGION DATBLYGU 26

CRYNODEB O STRATEGAETH 38

CYFRIFON 39

Cynhyrchwyd

gyda chefnogaeth

Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Argraffwyd gan Wasg Gomer

2
SWYDDOGION CENEDLAETHOL 2006-2007

Y PWYLLGOR LLYWIO

LLYWYDD ANRHYDEDDUS Marged Jones

LLYWYDD CENEDLAETHOL Mary Price

IS-LYWYDD CENEDLAETHOL Esyllt Jones

YSGRIFENNYDD CENEDLAETHOL Maureen Hughes

IS-YSGRIFENNYDD CENEDLAETHOL Einir Wyn

TRYSORYDD CENEDLAETHOL Elfair Jones

IS-DRYSORYDD CENEDLAETHOL Elinor Davies

CYNRYCHIOLWYR YR IS-BWYLLGORAU ) Siân Lewis

AR Y PWYLLGOR LLYWIO ) Siân Arwel Davies

Ann Jones

STAFF

CYFARWYDDWR CENEDLAETHOL Tegwen Morris

SWYDDOGION DATBLYGU:

Gogledd Orllewin Cymru a Maldwyn Powys Mim Roberts

Y De-Ddwyrain a Gorllewin Morgannwg Malvina Ley

Ceredigion a Phenfro Elizabeth Evans

Gogledd Ddwyrain Cymru Anwen Williams

Caerfyrddin Yvonne Davies-Grodzicka

SWYDDOG HYRWYDDO CLYBIAU GWAWR Ffion Hughes

Y Gogledd

SWYDDOG HYRWYDDO CLYBIAU GWAWR Ruth Morgan

Y De

STAFF Y GANOLFAN

Rheolwr Hyrwyddo Cymraeg Cymunedol Jayne Jones

Swyddog Gweinyddol Delyth Rees

Swyddog Cyllid Miriam Garratt

Gofalwr Ray Shakespeare

Brian Ishmael

IS-BWYLLGOR Y WAWR

GOLYGYDD Siân Lewis

IS-OLYGYDD Annes Glynn

DOSBARTHWR Gwenda John

TREFNYDD HYSBYSEBION Meirwen Hughes

IS-BWYLLGOR GŴYL A HAMDDEN

LLYWYDD Esyllt Jones

YSGRIFENNYDD Ann Jones

TRYSORYDD Meira Evans

IS-BWYLLGOR IAITH A GOFAL

LLYWYDD Siân Arwel Davies

YSGRIFENNYDD Anna Phillips

TRYSORYDD Margaret Jones

3
RHESTR CANGHENNAU A CHLYBIAU GWAWR

Rhanbarth Aberconwy 14

Betws y Coed a’r Fro, Capel Garmon, Carmel, Cyffordd Llandudno, Eglwys Bach, Eigiau,

Glan Conwy, Henryd, Llanddoged, Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst, Mochdre,

Penmachno

Rhanbarth Arfon 16 - 15 + 1

Bangor, Bethel, Bethesda, Brynaerau, Caernarfon, Deiniolen, Dinas Llanwnda a’r Cylch, CG

Glannau Llyfni, Llandwrog, Llanrug, Penrhosgarnedd, Penygroes, Rhiwlas, Tregarth,

Waunfawr, Y Groeslon

Rhanbarth Caerfyrddin 41 - 32 + 9

Abergorlech, Abernant, Bargod Teifi, Berem, Bro Alma, Bro Cennech, Bro Elfed, Bro

Gronw, Bro Gwili, Bro Pantycelyn, Caerfyrddin, Capel Iwan, CG Alltgafan, CG Caerfyrddin,

CG Cwm Gwendraeth, CG Dinefwr, CG Llanllwni, CG Llanymddyfri, CG Maelog, CG

Llangadog, CG Merched Hywel, Cwmfelin, Geler, Glannau Pibwr, Gwendraeth, Hendygwyn

ar Daf, Llandeilo, Llanddarog, Llanelli, Llangadog, Llangyndeyrn, Llannau’r Tywi,

Nantgaredig, Pencader a’r Cylch, Peniel, Penygroes, Pump Heol, Pumsaint, Rhydaman, San

Clêr, Y Tymbl.

Rhanbarth Ceredigion 38 - 33 + 5

Aberporth, Aberystwyth, Beulah, Bro Cranogwen, Bro Ilar, Bronant, CG Cylch Cennin, CG

Cwennod, CG Cwmann a’r Fro, CG Glannau Teifi, CG Y Pennau, Cylch Aeron, Cylch

Emlyn, Cylch Teifi, Cylch Wyre, Cylch y Mwnt, Felinfach a’r Cylch, Ffair Rhos a’r Cylch,

Genau’r Glyn, Glynarthen, Llanafan, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a’r Cylch, Llanfarian

a’r Cylch, Llangwyryfon, Llannon, Llanybydder, Llwynpiod, Melindwr, Mynach a’r Cylch,

Penrhyncoch, Rhydypennau, Talgarreg, Talybont, Tregaron, Y Bryniau, Y Dderi, Y Garreg

Wen

Rhanbarth Colwyn 17

Abergele, Bae Colwyn, Groes, Gwytherin, Hen Golwyn, Henllan, Llanelwy, Llangernyw,

Llangwm, Llansannan, Llanfair Talhaearn, Nantglyn, Pandy Tudur, Pentrefoelas, Prestatyn,

Uwchaled, Y Rhyl

Rhanbarth Y De-ddwyrain 11

Aberdâr, Bro Radur, Caerdydd, Casnewydd - Gwent, Merthyr, Penybont ar Ogwr, Porthcawl,

Tonysguboriau, Y Barri, Y Bontfaen, Y Garth

Rhanbarth Dwyfor 18

Abersoch, Bryncroes, Cricieth, Chwilog, Golan, Llanaelhaearn, Llaniestyn, Llannor ac

Efailnewydd, Llwyndyrus, Morfa Nefyn, Mynytho, Nant Gwynant, Nefyn, Pencaenewydd a’r

Cylch, Pistyll, Porthmadog, Pwllheli, Trefor

Rhanbarth Glyn Maelor 17 - 16 + 1

Bontuchel a’r Cylch, Bryneglwys a Llandegla, CG Maelor, Corwen, Cynwyd, Derwen a’r

Cylch, Dinbych a’r Cylch, Dyffryn Ceiriog, Gwyddelwern, Llanfair Dyffryn Clwyd,

4
Llanrhaeadr Y.C., Rhiwlas a’r Cylch, Rhos a Phenycae, Rhuthun, Treffynnon, Wrecsam, Yr

Wyddgrug

Rhanbarth Gorllewin Morgannwg 13

Abertawe, Afan, Castell Nedd, Glyn Nedd, Gorseinon, Gwaun Gors, Lôn Las, Pontardawe,

Pontarddulais a’r Cylch, Treboeth, Treforys, Ystalyfera, Y Gwter Fawr

Rhanbarth Maldwyn-Powys 15 - 13 + 2

Bro Cyfeiliog, Bro Ddyfi, Carno, CG Glyndwr, CG Tanat, Croesoswallt, Y Foel a’r Cylch,

Glantwymyn, Llanerfyl, Llanfair Caereinion, Llanrhaeadr ym Mochnant, Llanfyllin,

Llanwddyn, Y Canoldir, Y Drenewydd

Rhanbarth Meirionnydd 29 - 27 + 2

Aberdyfi, Blaenau Ffestiniog, Brithdir, Bro Tryweryn, Bryncrug, Corris a’r Cylch, Deudraeth,

Dolgellau, Glanrafon-Corwen, Harlech, CG Y Gwyniaid, CG Y Lechen Las, Llandrillo, Llan

Ffestiniog, Llandderfel, Llanuwchllyn, Maesywaun, Mawddwy, Nantcol, Rhydymain, Pennal,

Sarnau, Talsarnau, Trawsfynydd, Tywyn, Y Bala, Y Bermo a’r Cylch, Y Ganllwyd, Y Parc

Rhanbarth Môn 25 - 23 + 2

Amlwch, Benllech, Bodedern, Bodffordd, Bodwrog, Brynsiencyn, Caergybi, Cemaes,

Gaerwen, CG Y Gors Coch, CG Wariars y Wawr, Llanddeusant, Llandegfan,

Llanfairpwllgwyngyll, Llanfechell, Llangefni, Llannerchymedd, Maelog, Moelfre, Niwbwrch,

Porthaethwy, Rhosmeirch, Rhosybol, Talwrn, Y Fali

Rhanbarth Penfro 14

Blaenffos, Beca, Bro Barti Ddu, Bro Ddewi, Capel Newydd, Crymych, Dinas, Ffynnon

Groes, Hwlffordd, Llandudoch, Maenclochog, Mynachlogddu, Tegryn, Trefdraeth.

5
Gair gan y Llywydd Cenedlaethol

Mary Price

Daeth yn amser cofnodi digwyddiadau yn ystod blwyddyn bwysig ac arwyddocaol iawn yn

hanes ein Mudiad. Aeth deugain mlynedd heibio er pan blannwyd yr hedyn yn y Parc ac i’r

Mudiad dyfu a datblygu yn Fudiad allweddol i Ferched yng Nghymru.

Penwythnos Preswyl Llanbedr Pont Steffan oedd y digwyddiad Cenedlaethol cyntaf i fi ei

lywyddu fel Llywydd Cenedlaethol.

Ffasiwn a cherdd oedd hi nos Wener, Gillian Elisa yn ei dull hwyliog yn cyflwyno Sioe

Ffasiwn o siopau Steil Ni, Cwpwrdd Cŵl, Duet, Cameo, Lambi’s a Masnach Deg a Huw

Llywelyn ac Annette Bryn Parry yn ein diddori gyda cherddoriaeth a chân.

Coginio a garddio oedd yr arlwy fore Sadwrn; coginio gyda Eleri Hughes a Helen McNaulty

o gwmni @maeth; garddio gyda Carys Whelan. Yn dilyn bygythiad S4C i ddiddymu rhaglen

‘Garddio’ oddiar y teledu dangoswyd fideo a baratowyd gan Gerallt Pennant yn dangos rhan

o’r rhaglen.

Uchafbwynt y diwrnod oedd yr ymweliad â Garddwest yn y Gerddi Botanegol, Llanarthne.

Roedd y tywydd yn boeth a’r haul yn gwenu arnom trwy’r dydd. Cyfle i grwydro o gwmpas

y gerddi a mwynhau yr adloniant gan Gôr Bois y Castell o dan arweiniad Nia Clwyd,

Dawnswyr Talog, Phil Dando a’i fand jas a’r delynores Heledd Mitchell. Croesawyd ni’n

gynnes i’r ardd gan Mr. Roy Thomas y prifweithredwr. Allan o wres yr haul roedd

arddangosfa gosod blodau gan Gloria Davies a darlith ar feddygon Myddfai gan Liz Evans.

Daeth yn amser troi tua thre yn rhy fuan o lawer a dyna syndod i’r aelodau oedd derbyn bag

glas amgylcheddol garedig efo 40 o fylbiau Cennin Pedr o Sir Benfro ynddo!

Yn goron ar ddiwrnod bendigedig cafwyd Cyngerdd Mawreddog gydag Annette Bryn Parri,

Dylan Cernyw a Sian Meinir.

Bore Sul roeddem wedi edrych ymlaen at sesiwn efo’r beirdd, Tudur Dylan Jones, Ceri Wyn

Jones ac Emyr Davies a phleser pur oedd bod yno.

Prynwyd englyn, a luniwyd yn arbennig ar gyfer y dathlu, gan Heulwen Parry Jones, Bro

Cyfeiliog. Cyflwynodd Heulwen yr englyn i’r Mudiad ac fe’i gwelir ar ein cardiau cyfarch.

I gloi’r penwythnos cafwyd cyflwyniad gan Dwynwen Lloyd Evans ar y thema, “Dathlu’r

Deugain” gan y Clybiau Gwawr lleol.

Esyllt Jones, yr Is-lywydd Cenedlaethol gyflwynodd y diolchiadau i bawb a fu’n gweithio ac

yn cymryd rhan er sicrhau Penwythnos i’w chofio unwaith eto.

Y digwyddiad cenedlaethol nesa ar y calendr oedd y Cwis Hwyl Cenedlaethol. Cafwyd

cystadlu brwd o fewn y Rhanbarthau a chyhoeddwyd y canlyniadau ar Radio Cymru.

Llongyfarchiadau calonnog i Gangen Bro Radur, Rhanbarth Y De-ddwyrain ar ddod yn

fuddugol.

Yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd roedd mwy wedi cystadlu eleni eto. Da yw gallu dweud bod

y Ffair yn denu mwy o gystadleuwyr o flwyddyn i flwyddyn. Cawn gyfle hefyd i gyfarfod

hen ffyddloniaid y Ffair Aeaf ac i groesawu cyfeillion newydd ar eu hymweliad cyntaf ar

Ffair.

Ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr cawsom gyfle i ymuno â thaith Groto S4C. Roedd hyn yn

golygu teithio o le i le, codi stondin, pan oedd y tywydd yn caniatáu, a gweini gwin cynnes i’r

rhai oedd wedi dwad â’u plant i’r Groto. Diolch i Ruth a Ffion, fel swyddogion datblygu'r

Clybiau Gwawr, am ofalu am y trefniadau. Er garwed y tywydd bu’n gyfle da i roi hysbysiad

i’r Clybiau a denu aelodau newydd.

Ymlaen â ni yn hyderus i’r flwyddyn newydd â Dathlu’r Deugain yn dechrau o ddifri.

Maldwyn Powys oedd y Rhanbarth cyntaf i ddathlu, a hynny ar Noson Santes Dwynwen yn

Llanfair Caereinion. Bu’r Rhanbarthau eraill yn dathlu yn ystod y flwyddyn trwy gynnal Sioe

Ffasiwn, noson o ddarlleniadau gan feirdd a llenorion y Rhanbarth, Ciniawau, noson o

arddangosfa gwaith llaw yr aelodau a theithiau cerdded. Y cyfan oll yn rhoi lliw, llun a stamp

y Rhanbarth ar yr amrywiol weithgareddau ac yn gyfle gwych i’r aelodau gymdeithasu.

6
Torrwyd sawl ‘cacen y dathlu’ yn ystod y flwyddyn. ’Does dim prinder merched sy’n medru

coginio cacennau blasus iawn!

Profiad newydd i fi oedd ymweld â’r Cyrsiau Crefft, yn y De yn Llwyn Gwair ac yn y

Gogledd yn Llysfasi. (Oherwydd yr eira bu’n rhaid gohirio Cwrs y Gogledd hyd ddiwedd

Ebrill) Cafwyd cyfle i rannu syniadau a dysgu sgiliau newydd. Erbyn hyn mae’r cyrsiau yn

benodol ar gyfer cystadlaethau crefft Sioe Fawr Llanelwedd. Diolch i’r tiwtoriaid amryddawn

ac i’r aelodau am ymateb mor frwdfrydig i’r cyrsiau.

Ym mis Mawrth cafwyd cyfle i ddathlu ein Nawdd Sant gyda chiniawau’r Llywydd yn y De

a’r Gogledd. Gwesty Parc y Strade yn Llanelli oedd y man cyfarfod yn y De. Cawsom

anerchiad diddorol ac addysgiadol gan yr adnabyddus Dr Rosina Davies.

Roedd yr adloniant gan fyfyrwyr disglair o Goleg y Drindod, Glesni Fflur a Kieran Carter a’r

delynores oedd Catherine Lodwick.

Y Sadwrn canlynol troi trwyn y car am yn y Gogledd. Venue Cymru, Llandudno, oedd y

gyrchfan y tro yma. Unwaith eto i’r maes meddygol ar gyfer ein siaradwraig amryddawn,

Nerys Jones, y ffysiotherapydd o Ddolanog. Cawsom ein swyno gan ddoniau cerddorol

ieuenctid Maldwyn, Rhys Jones, Elin Blake a Meilir Wyn. Y gyfeilyddes oedd Magwen

Pughe.

Un digwyddiad a erys yn y cof yw cael gwahoddiad i Ynys Môn i ddadorchuddio plac er cof

am Gwyneth Evans, ein Llywydd Anrhydeddus cyntaf. Roedd Rhanbarth Môn wedi cael y

syniad gwych o blannu rhai o’r bylbiau Cennin Pedr, a gawsant yn y Penwythnos Preswyl, o

gwmpas bedd Gwyneth Evans. Felly ym mis Mawrth â’r blodau’n harddu’r fynwent

cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yng Nghapel Bryngwran a the prynhawn i ddilyn.

Ar Fai 19eg cynhaliwyd Gŵyl Haf, Cyfarfod Blynyddol a Chwaraeon Cenedlaethol, yn Ysgol

Bro Ddyfi a Chanolfan Hamdden, Bro Ddyfi. Bob blwyddyn rydym yn ceisio hwyluso a

chynnal gweithgareddau sy’n eang eu hapêl ar gyfer ein haelodau. Diolch am gydweithrediad

Pennaeth a staff Ysgol Bro Ddyfi, a staff y Ganolfan Hamdden.

Paratowyd lluniaeth yn ffreutur yr ysgol. Syniad newydd eleni oedd cael arddangosfa o lyfrau

lloffion, lluniau’r deugain mlynedd a stondinau yn y Gampfa.

Agorwyd y gweithgareddau gyda chyflwyniad gan Iona Jones, Prif Weithredwraig S4/C.

Cafwyd ganddi amlinelliad o’r digwyddiadau cyffrous sy’n digwydd ym myd y cyfryngau

yng Nghymru. Aeth y Cyfarfod Blynyddol rhagddo gydag urddas a phwrpas fel sy’n deilwng

o fudiad mor bwysig yng Nghymru heddiw. Cafwyd adroddiadau a gwahoddiadau i’r Prif

Wyliau. Cyflwynwyd gwobr Patagonia am yr erthygl orau yn Y Wawr a gwobrwyo

buddugwyr, Cystadleuaeth Rhaglen y Gangen/Clwb Gwawr. Gwobrwyo Buddugwyr

Cystadleuaeth Cynllunio Cerdyn Nadolig a buddugwyr Y Cwis Hwyl Cenedlaethol a’r

Llyfrau Lloffion.

Hwyl ac asbri y pnawn oedd eistedd yn ôl a mwynhau yr adloniant ar y thema ‘Rhialtwch y

Rhuddem’. Linda Griffiths gafodd y dasg o gloriannu'r cyfan, nid tasg hawdd ond roedd

ymateb hwyliog y gynulleidfa yn hwyluso’r gwaith. Diolch i bawb a gymerodd ran.

I gloi'r gweithgareddau cafwyd ‘Seremoni wobrwyo cystadlaethau’r dysgwyr’. Yr arweinydd

oedd Siân Arwel Davies, y beirniad Glenys Thomas a’r delynores Rhiain Bebb. Pob clod i

bob un o’r dysgwyr. Rydym yn falch iawn o’u brwdfrydedd a’u hymroddiad i ddysgu

Cymraeg.

Yna tasg bleserus ar ddiwedd y pnawn oedd cyflwyno tystysgrifau a thariannau i enillwyr y

Chwaraeon Cenedlaethol.

7
Tro Sir Gâr oedd croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Fel Mudiad cawsom uned

yn ychwanegol at ein pabell. Oherwydd hyn roedd digon o ofod i aelodau'r Clybiau Gwawr

weini diodydd ffrwythau oer ffres. Bu’n wythnos brysur iawn, yn croesawu aelodau o Ferched

y Clybiau Gwawr a ffrindiau oedd yn galw heibio am ddiod a sgwrs ac egwyl i edmygu yr

arddangosfa wych a drefnwyd gan ferched Sir Gâr.

Uchafbwynt 2007 oedd ‘Dathlu’r Deugain’ yn Y Bala. Roedd y 9fed o Fehefin yn ddiwrnod

crasboeth a dyna pryd y daeth merched o bob cwr o Gymru i’r Bala. Rhai wedi aros dros nos

ond eraill wedi codi yn blygeiniol a theithio i’r Bala fore Sadwrn. Braint oedd cael

cyflwyno’r Pasiant, ‘Rhialtwch y Rhuddem’. Ymhyfrydwn fod pob Rhanbarth yn rhan o’r

dathlu. Mair Penri Jones a Nan Lewis fu’n gyfrifol am ysgrifennu’r sgript a chyfarwyddo'r

perfformiad. Diolch am gydweithrediad y Pennaeth a Staff Ysgol y Berwyn, hefyd

swyddogion Capel Tegid, Bala. Paratowyd bwyd i bawb gydol y dydd gan gwmni Dolen 5.

Wedi dau berfformiad a chyfle i gymdeithasu a chael tamaid i’w fwyta roedd yn amser mynd

i Gapel Tegid ar gyfer y Gymanfa Ganu. Cafwyd Cymanfa i’w chofio a chanu gwefreiddiol o

dan arweinyddiaeth Maureen Hughes. Mae’r cyfan ar gof a chadw, diolch i gwmni Avanti

am recordio'r Gymanfa ar gyfer S4/C.

I gyd-fynd â’r dathlu ymddangosodd rhifyn arbennig o’r Wawr. Lowri Rees Roberts fu’n

pori’n ddyfal drwy’r hen rifynnau ac yn dewis a dethol erthyglau a lluniau diddorol ar ein

cyfer. O dan olygyddiaeth fedrus Siân Lewis cawn bedwar rhifyn o’r Wawr yn flynyddol.

Rhaid canmol diwyg a deunydd ein Cylchgrawn lliw llawn gyda digonedd o waith darllen

difyr a defnyddiol.

Unwaith eto ym mis Gorffennaf roedd cyfle i ni ddod at ein gilydd. Y tro yma, taith gerdded

oedd wedi ei threfnu yn Genedlaethol, er mai'r Rhanbarthau oedd yn dewis llwybr y daith

gerdded. Braf yw gallu dweud ei fod wedi bod yn brofiad pleserus iawn, a llawer o’r aelodau

eisiau gwneud taith gyffelyb yn y dyfodol. Diolch i’r cyn-lywyddion a’r swyddogion fu’n

arwain y teithiau yn y gwahanol ranbarthau.

Wedi profi haul crasboeth ar gyfer ein digwyddiadau, tipyn o newid oedd mynd i’r Sioe yn

Llanelwedd yn ystod cyfnod gwlyb iawn. Ond doedd y tywydd ddim yn lladd brwdfrydedd

Merched Penfro. Roedd y babell yn ddeniadol tu hwnt a’r croeso’n gynnes iawn. Diolch i

aelodau rhanbarth Penfro am gyflwyno’r paneli brodwaith hyfryd oedd yn rhan o’r

arddangosfa i’r Ganolfan Genedlaethol. Diolch hefyd i’r rhai ohonoch fu’n cystadlu a

llongyfarchiadau i’r enillwyr.

Un datblygiad newydd eleni oedd cynnal derbyniad pnawn dydd Mercher ar gyfer ein

partneriaid. Rwy’n siŵr y bydd yr arfer yn parhau i’r dyfodol gan ei fod yn gyfle i ddangos

gwerthfawrogiad i’n partneriaid a’n cefnogwyr.

Daeth mis Awst a phrysurdeb yr Eisteddfod Genedlaethol a thywydd gwlyb yn bygwth

distrywio’r cyfan. Ond oherwydd dycnwch gweithwyr diflino Sir Fflint aeth popeth ymlaen

yn ardderchog, ac yn wir daeth yr haul i wenu ar y cyfan. Mae ein presenoldeb ym mhrif

wyliau Cymru yn holl bwysig er hyrwyddo ein Mudiad a chyfarfod aelodau a darpar aelodau.

Tro Rhanbarthau Colwyn a Glyn Maelor oedd bod yn gyfrifol am y babell ac unwaith eto

rhaid diolch i’r merched, am eu gwaith yn addurno’r Babell mor gelfydd a chywrain ac am eu

paned a chroeso.

Ers 2005 rydym yn cael amser penodol ar gyfer perfformiad ar lwyfan y pafiliwn. Eleni

cafwyd perfformiad o ddetholiad o ‘Basiant Cenedlaethol Dathlu’r Deugain’. Yna am 3 o’r

gloch ymgasglodd cannoedd o aelodau a ffrindiau o gwmpas y maen llog i fwynhau ‘te

8
mefus’ a hynny yn wir ‘yng ngwyneb haul a llygad goleuni’. Profiad pleserus iawn oedd

gweld yn agos i fil o falŵns coch amgylcheddol garedig yn cael eu gollwng i’r awyr i nodi yr

achlysur. Aeth yr arian a godwyd tuag at ‘gymorth i fenywod’.

Bu yn flwyddyn brysur ond pleserus i fi fel Llywydd; rwyf wedi cael y fraint a’r anrhydedd o

ymweld â Changhennau a Rhanbarthau ar adeg bwysig a chynhyrfus yn hanes ein Mudiad.

Diolch am y cyfleon i gynrychioli'r Mudiad mewn sawl digwyddiad cenedlaethol led led

Cymru.

Apwyntiwyd dwy swyddog newydd i hybu a datblygu'r Clybiau Gwawr, rhwydd hynt iddynt

yn eu gwaith. Rhaid yw edrych i’r dyfodol, gan gofio fod unrhyw beth nad yw’n tyfu ac yn

datblygu yn marw.

Rhaid diolch yn ddiffuant i Tegwen ein Cyfarwyddwraig weithgar a byrlymus ac i’r

Swyddogion Datblygu sy’n gweithio mor galed yn y maes. Hefyd y merched yn y swyddfa

sydd bob amser mor barod eu cymwynas. Hoffwn ddiolch hefyd am gefnogaeth yr aelodau.

Daeth blwyddyn y ‘Dathlu’ i ben yn swyddogol yn y Penwythnos ym Mangor. Nid galwad i

laesu dwylo yw hynny ond sbardun ymlaen i ddal ati a dyfalbarhau er sicrhau dyfodol gwerth

chweil i’n Mudiad.

9
GWEITHGAREDDAU AM Y FLWYDDYN

Penwythnos Preswyl 2006

Cynhaliwyd y Penwythnos Preswyl ar 15-17 Medi 2006 yn Llanbedr Pont Steffan ar y thema

“Dathlu’r Deugain”. Fe gychwynnwyd y dydd trwy gofrestru ym Mhrifysgol Llanbed. Roedd

arlwy’r hwyr yn cychwyn gyda’r croeso swyddogol gan Mary Price, Llywydd Cenedlaethol.

Cyflwynwyd platiau i Glenys Thomas, Elinor Davies a Maureen Hughes ein cyn-swyddogion

cenedlaethol. Cafwyd Sioe Ffasiynau gan Steil Ni, Cwpwrdd Cŵl, Duet, Cameo, Lambi’s a

Masnach Deg. Y Cyflwynydd oedd Gillian Elisa ag adloniant cerddorol gan Gareth Huw

John gyda Annette Bryn Parry yn cyfeilio. Fore Sadwrn Coginio iachusol gan @maeth sef

Eleri Hughes a Helen McNaulty Jones, a Chyflwyniad ar arddio gan Carys Whelan. Yn dilyn

bygythiad S4C i ddiddymu rhaglen ‘Garddio’ oddiar y teledu dangoswyd fideo a baratowyd

gan Gerallt Pennant. Prynhawn Sadwrn Garddwest - yn y Gerddi Botanegol, Llanarthne -

Adloniant yng nghwmni Gloria Davies, Darlith ar Feddygon Myddfai, Côr y Castell,

Dawnswyr Hafodwennog, Phil Dando a’i fand jas. Nos Sadwrn - Cyngerdd yng nghwmni

Annette Bryn Parry a Dylan Cernyw ynghyd â Siân Meinir, Opera Genedlaethol Cymru. Bore

Sul - Sesiwn y Beirdd yng nghwmni Tudur Dylan Jones, Ceri Wyn Jones ac Emyr Davies.

Cyflwyniad gan Dwynwen Lloyd Evans am “Ddathlu’r Deugain” - Clybiau Gwawr Cyfeilydd

Mair Selway. Diolchiadau gan Esyllt Jones, Is-lywydd Cenedlaethol.

Cwis Hwyl y Dathlu 2006

Cynhaliwyd y cwis ar 17 Tachwedd 2006. Roedd 60 o gwestiynau wedi’u rhannu’n gyfartal

rhwng pedair thema sef Gwybodaeth Cyffredinol, Merched y Wawr, Cymru, Lluniau a

Chwestiynau. Carwn ddiolch yn fawr iawn i BBC Radio Cymru am gydweithio gyda ni a

charwn estyn ein llongyfarchiadau i’r timau canlynol a ddaeth i’r brig: 1af Cangen Bro Radur,

Rhanbarth y De Ddwyrain, 2il: Cangen Llanuwchllyn, Rhanbarth Meirionnydd, 3ydd: Cangen

Sarnau, Rhanbarth Meirionnydd.

Ffair Aeaf 2006

Bu nifer o staff, swyddogion a gwirfoddolwyr y mudiad yn y Ffair Aeaf, ac roedd awyrgylch

hapus iawn yno. Diolch i’r cystadleuwyr oll a llongyfarchiadau i’r buddugwyr: Calendr

Adfent 1af: Janet Evans, Cangen Beulah, Rhanbarth Ceredigion, 2il: Nia Jones, Cangen Bro

Elfed, Rhanbarth Caerfyrddin, 3ydd: Llinos Roberts, Cangen Henllan, Rhanbarth Colwyn.

Cerdyn Nadolig: 1af ac 2il: Carol Williams, Cangen Llanrhaeadr YC, Rhanbarth Glyn

Maelor; 3ydd: Carol Bickers, Clwb Gwawr y Gwyniaid, Rhanbarth Meirionnydd.

Cyrsiau Crefft y De 2007

Daeth nifer dda o aelodau ynghyd i Gwrs Crefft y De yng Ngwesty Llwyngwair, Trefdraeth ar

Ionawr 27ain. Cynigwyd dewis o bedwar pwnc, Ffotograffiaeth, Gwau, Gosod Blodau a

Choginio gyda’r tiwtoriaid Keith Morris, Eirlys Hughes, Donald Morgan a Winnie James.

Cafodd pawb fwynhad mawr a chynhyrchwyd llawer o waith gwych.

Cwrs Crefft y Gogledd 2007

Gohiriwyd Cwrs Crefft y Gogledd, Coleg Llysfasi, Rhuthun ar 10 Ionawr oherwydd yr eira,

ac ail-drefnwyd ar gyfer 28 Ebrill 2007. Cafwyd cwrs llwyddiannus a hwyliog ynghyd â

phryd o fwyd ardderchog. Cynhaliwyd y cyrsiau canlynol: Ffotograffiaeth, Gwau, Gosod

Blodau a Choginio gyda’r tiwtoriaid Siôn Jones, Rhiannon Parry, Margaret Williams, Nia

Rowlands a Wendy Jones.

Cinio’r Llywydd Cenedlaethol yn y De 2007

10
Cynhaliwyd Cinio Dathlu Gŵyl Ddewi’r Llywydd Cenedlaethol yng Ngwesty Parc y Strade,

Llanelli ar ddydd Sadwrn, 3 Mawrth 2007. Estynnwyd croeso i 300 o’r aelodau gan Enid

Jones, Llywydd Anrhydeddus Caerfyrddin. Y siaradwraig wadd oedd Dr Rosina Davies a

chafwyd anerchiad diddorol a gafaelgar iawn ar y thema Iechyd a Ffitrwydd ganddi. Roedd

yr adloniant yng ngofal Glesni Fflur a Kieran Carter sy’n fyfyrwyr yng Ngholeg y Drindod a

mwynhawyd y canu’n fawr iawn. Catherine Lodwick oedd y cyfeilydd a’r delynores.

Talwyd y diolchiadau am ddiwrnod hwylus iawn gan Esyllt Jones, yr Is-ysgrifennydd

Cenedlaethol. Cyflwynwyd hamperi bwydydd iach i’n haelodau.

Cyflwynwyd Tarian Tegwen Morris am gynnydd aelodaeth i gangen Bro Radur, Rhanbarth y

De-Ddwyrain, Clwb Gwawr Dinefwr, Rhanbarth Caerfyrddin a Chlwb Gwawr y Pennau,

Rhanbarth Ceredigion, ar ennill 10 o aelodau newydd.

Cinio’r Llywydd Cenedlaethol yn y Gogledd 2007

Cynhaliwyd Cinio Dathlu Gŵyl Ddewi’r Llywydd Cenedlaethol yn y gogledd yn Venue

Cymru, Llandudno ar ddydd Sadwrn 10 Mawrth 2007. Daeth 290 o aelodau ynghyd a

chafwyd diwrnod hyfryd iawn yn cyd gymdeithasu gyda’n gilydd. Estynnwyd croeso i bawb

gan Maureen Hughes, yr Ysgrifennydd Cenedlaethol.

Cafwyd cinio blasus iawn. Y siaradwraig wadd oedd Nerys Jones, ffisiotherapydd ac

Ymgynghorydd Iechyd ac fe gafwyd anerchiad diddorol iawn ganddi ar Iechyd a Ffitrwydd ac

arddangosiad cadw’n heini.

I gloi’r cyfan mwynhawyd adloniant yng ngofal Rhys Jones, Elin Blake a Meilir Wyn gyda

Magwen Puw yn cyfeilio a Heledd Mitchell yn feistrolgar iawn yn chwarae’r delyn. Talwyd y

diolchiadau gan Einir Wyn, yr Is-ysgrifennydd Cenedlaethol. Cyflwynwyd hamperi bwydydd

iach i’r aelodau. Cyflwynwyd Tlws Cynnydd Aelodaeth y Gogledd i Glwb Gwawr Glyndŵr

ar ennill 19 aelod newydd.

Gŵyl Haf Machynlleth 2007

Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol yn Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi Machynlleth ar ddydd

Sadwrn 19 Mai 2007 a daeth cannoedd o aelodau ynghyd. Ein gwestai arbennig oedd Iona

Jones, Prif Weithredwr S4C. a chafwyd cyflwyniad amserol ganddi. Llywyddwyd y cyfarfod

gan Mary Price. Profiad braf i Mary oedd cael croesawu pawb i'w thref ei hun a diolchodd fod

yr haul allan eleni. Dymunodd yn dda i bawb oedd yn cystadlu - boed i'r gorau ennill wrth

gystadlu.

Cyhoeddwyd enwau’r Is-swyddogion Cenedlaethol newydd sef: Is-Ysgrifennydd: Mary

Roberts, Rhanbarth Arfon, Is-Drysorydd Cenedlaethol: Elinor Davies, Rhanbarth Colwyn.

Yn ystod y bore gwobrwywyd buddugwr "Gwobr Patagonia", "Cardiau Nadolig", "Cwis

Hwyl" “Llyfr Lloffion”, “Addurno Welington Goch” a'r "Rhaglen Orau".

Roedd y Chwaraeon Cenedlaethol hefyd yn digwydd ar yr un diwrnod yng Nghanolfan

Hamdden Bro Ddyfi sef: bowlio dan do, chwist, dewis dau ddwrn, badminton, rownderi, tenis

bwrdd, dartiau, dominos, taflu welington goch a’r Ras Rhwystr. Cynhaliwyd y gystadleuaeth

golff ar Gwrs Golff y Borth. Yn y prynhawn cynhaliwyd cystadleuaeth Adloniant Gwyneth

Evans ar y thema "Rhialtwch y Rhuddem", Linda Griffiths gafodd y dasg anodd o feirniadu

Gwobr Patagonia: Sioned Jones, Cangen Glanrafon am yr erthygl "Dilyn ôl Troed Mary

Doladd"

Cystadleuaeth Rhaglen y Gangen/Clwb: 1af: Cangen Deudraeth, Rhanbarth Meirionnydd,

Cydradd 2il: Cangen Castell Nedd, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg a Cangen Bro

Cyfeiliog, Rhanbarth Maldwyn Powys, 3ydd: Cangen Felinfach, Rhanbarth Ceredigion.

Cystadleuaeth Cynllunio Cerdyn Nadolig: Glenys Morgan, Cangen Penrhyncoch,

Rhanbarth Ceredigion a Grace Birt, Cangen Abertawe, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg.

Cwis Hwyl Cenedlaethol: 1af: Cangen Bro Radur Rhanbarth y De Ddwyrain, 2il: Cangen

Llanuwchllyn Rhanbarth Meirionnydd, 3ydd: Cangen Sarnau Rhanbarth Meirionnydd.

11
Llyfrau Lloffion: Cydradd 1af: Clwb Gwawr y Gwyniaid, Rhanbarth Meirionnydd a

Changen Pwllheli, Rhanbarth Dwyfor; Cydradd 2il: Cangen Abersoch, Rhanbarth Dwyfor a

Changen Bro Cranogwen, Rhanbarth Ceredigion; 3ydd: Cangen Bryneglwys a Llandegla,

Rhanbarth Glyn Maelor; Clod Uchel: Cangen Llandysul, Rhanbarth Ceredigion, Cangen

Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn Powys, Cangen Llanbedr Pont Steffan, Rhanbarth Ceredigion

a Changen Uwchaled, Rhanbarth Colwyn.

Cafwyd seremoni arbennig i wobrwyo'r dysgwyr yng ngofal Siân Arwel Davies. Y beirniad

eleni oedd Glenys Thomas, Cyn-lywydd Cenedlaethol. Cafwyd datganiad ar y delyn gan

Rhiain Bebb.

Addurno Welington Goch: 1af: Aeres James, Cangen Trefdraeth, Rhanbarth Penfro, 2il:

Glenys Morgan, Cangen Penrhyncoch, Rhanbarth Ceredigion, 3ydd: Mary Griffith, Ann

Shivlock, Brenda Owen, Beti Rowlands, Cangen Pencaenewydd, Rhanbarth Dwyfor.

Enillwyr y gystadleuaeth gyntaf sef “Ysgrifennu Dyddiadur Wythnos ar y Thema Dathlu”

oedd 1af: Sally Carr, 2il: C.A. Jones, 3ydd: Margaret Jones-Robinson. Yn yr ail gystadleuaeth

sef “Sgwrs ar dâp ag aelod o Ferched y Wawr yn trafod unrhyw ddathliad” 1af: Elinor

Joyce Owen, 2il: Geoff Sewell. Enillwyr cystadleuaeth “Poster yn dangos Dathlu” ar gyfer

y rhai sydd ond megis cychwyn dysgu Cymraeg - wedi derbyn hyd at 100 awr o hyfforddiant:

1af: Julia Wilson, 2il: Dennis Stephen a Christine Ryder, Mike Dafforne, Lynda Brodie,

Cydradd 3ydd: Janet Chester a Christina Perry.

Gyrfa Chwist: 1af: Cangen Rhuthun, Rhanbarth Glyn Maelor, 2il: Cangen Bro Ddyfi,

Rhanbarth Maldwyn Powys, 3ydd: Cangen Tegryn A, Rhanbarth Penfro.

Bowlio: 1af: Cangen Bro Alma, Rhanbarth Caerfyrddin, 2il: Cangen Tregaron, Rhanbarth

Ceredigion, 3ydd: Cangen Crymych, Rhanbarth Penfro.

Tenis Bwrdd: 1af: Tîm Rhanbarth Glyn Maelor, 2il: Cangen Felinfach, Rhanbarth

Ceredigion, 3ydd: Cangen Llangwm, Rhanbarth Colwyn.

Golff: 1af: Margaret Jones, Cangen Cemaes, Rhanbarth Môn, 2il: Nans Morgan, Cangen

Genau’r Glyn, Rhanbarth Ceredigion, 3ydd: Ruth Morris, Cangen Bro Ilar, Rhanbarth

Ceredigion.

Badminton: 1af: Cangen Dinbych, Rhanbarth Glyn Maelor, 2il: Cangen Llanuwchllyn,

Rhanbarth Meirionnydd, 3ydd: Cangen Llanfyllin, Rhanbarth Maldwyn Powys.

Taflu Welington Goch: 1af: Margaret Davies, Cangen Bro Cyfeiliog, Rhanbarth Maldwyn

Powys, 2il: Wendy Hopkins, Cangen Lôn Las, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg, 3ydd: Ena

Morgan, Cangen Pencader, Rhanbarth Caerfyrddin.

Ras Rwystr: 1af: Clwb Gwawr Glyndŵr.

Dewis Dau Ddwrn: 1af: Cangen Beca, Rhanbarth Penfro, 2il: Cangen Cylch Aeron,

Rhanbarth Ceredigion, 3ydd: Cangen Pentrefoelas, Rhanbarth Colwyn.

Dominos: 1af: Cangen Amlwch, Rhanbarth Môn, 2il: Cangen Mynytho, Rhanbarth Dwyfor,

3ydd: Cangen Llandeilo, Rhanbarth Caerfyrddin.

Dartiau: 1af: Cangen Tegryn, Rhanbarth Penfro, 2il: Cangen y Foel, Rhanbarth Maldwyn

Powys, 3ydd: Cangen Llandysul, Rhanbarth Ceredigion.

Cystadleuaeth Adloniant Gwyneth Evans: 1af: Cangen y Parc, Rhanbarth Meirionnydd,

2il: Cangen Deudraeth, Rhanbarth Meirionnydd, 3ydd: Cangen Abergele, Rhanbarth Colwyn.

Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2007

Cafwyd Eisteddfod yr Urdd lwyddiannus iawn gyda phabell arbennig. Roedd yr arddangosfa,

y blodau a’r croeso yn wefreiddiol, ac rydym yn ddiolchgar i swyddogion rhanbarth

Caerfyrddin ynghyd â gwirfoddolwyr y rhanbarth a’r swyddog datblygu am eu gwaith

bendigedig. Bu prysurdeb mawr gydol yr wythnos yn gweini paned a phice ar y maen. Bu

Ruth a Ffion ynghyd â 30 o wirfoddolwyr yn brysur yn paratoi smwddis a’u poblogrwydd yn

ehangu hyd y maes.

Dathlu yn y Bala 9 Mehefin 2007

12
Ar ddydd Sadwrn 9 Mehefin roedd y Bala’n fwrlwm o hwyl wrth i Ferched y Wawr dyrru

yno yn eu cannoedd i fwynhau Pasiant y Dathlu ac yna’r Gymanfa Ganu yng Nghapel Tegid.

Mair Penri a Nan Lewis fu yng ngofal trefniadau’r Pasiant, a chafwyd gwledd o

berfformiadau amrywiol a difyr gan bob Rhanbarth yn ei dro.

Yn y prynhawn roedd Capel Tegid dan ei sang wrth i bawb ymgynnull ar gyfer Dechrau

Canu, Dechrau Canmol, o dan arweinyddiaeth fedrus Maureen Hughes a chyfeiliant Nia

Morgan. Cyflwynwyd y casgliad, sef swm o £1,438.26 i gynrychiolwyr Tŷ Hafan a Thŷ

Gobaith. Cafwyd darllediad ar y newyddion cenedlaethol a thipyn o sylw ar y radio - diolch

i’r cyfryngau. Cynhyrchwyd dvd o uchafbwyntiau’r pasiant.

Sioe Llanelwedd Penfro 2007

Er gwaethaf y tywydd a’r broblem trafnidiaeth, bu stondin y mudiad yn llwyddiannus iawn

unwaith eto, a’r cystadlu mor frwd ag erioed. Bu gwirfoddolwyr rhanbarth Penfro gyda

chymorth Elizabeth Evans y swyddog datblygu yn brysur gydol yr wythnos yn gweini paned a

phice ar y maen.. Roedd y pedwar panel o frodwaith, yn wledd i’r llygaid. Cyflwynwyd y

campwaith a wnaed yn arbennig i’r Sioe gan aelodau Penfro i’r Ganolfan Genedlaethol yn

Aberystwyth, a bydd croeso i chi alw i’w gweld.

Trefnwyd derbyniad ar stondin y mudiad ar nos Fercher y Sioe i ddiolch i’n partneriaid,

aelodau staff, cyn-lywyddion, swyddogion rhanbarth. Diolch i Winnie James, Trefdraeth am

wneud y gacen dathlu ac i Eirlys Peris Davies, Cyn-lywydd Cenedlaethol a Llywydd Penfro

eleni am dorri’r gacen.

Cafwyd cystadlu brwd a braf oedd gweld safon arbennig y gystadleuaeth. Rhanbarth

Maldwyn Powys oedd yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Radi Thomas, gyda Rhanbarth

Penfro yn ail a Rhanbarth Gorllewin Morgannwg yn drydydd.

Gwau: 1af: Rhanbarth Maldwyn Powys, 2il: Rhanbarth Penfro, 3ydd: Rhanbarth Gorllewin

Morgannwg. Coginio: 1af: Rhanbarth Penfro, 2il: Rhanbarth Meirionnydd, 3ydd: Rhanbarth

Gorllewin Morgannwg. Ffotograffiaeth: 1af: Rhanbarth Maldwyn Powys, 2il: Rhanbarth

Penfro, 3ydd: Rhanbarth Gorllewin Morgannwg.

Roedd yna wledd i’r llygaid yng nghystadleuaeth y gosod blodau ar y thema “Dathlu’r

Deugain”. Ruth Huws, Rhanbarth Aberconwy oedd yn gyntaf, Nan Jones, Rhanbarth

Ceredigion yn ail a Lilwen Thomas, Rhanbarth Caerfyrddin yn drydydd yn y gystadleuaeth,

ond llongyfarchiadau i bawb a wnaeth gystadlu.

Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau 2007

Cyflwyniad Merched y Wawr ar lwyfan y Brifwyl dydd Mercher 8 Awst am 12 o’r gloch.

“Detholiad o Berfformiad Pasiant Dathlu’r Deugain Merched y Wawr”. Yn cymryd rhan -

Côr - Colwyn, Y Dechrau - Meirionnydd, Noson Lawen - Glyn Maelor, Parti Canu - Dwyfor,

Y Dyfodol - Maldwyn Powys, Côr - Aberconwy.

Cysylltiadau rhwng y golygfeydd: Sulwen Davies a Lona Puw Cyfarwyddwr: Mair Penri

Ar y diwedd gofynnwyd i bawb gyd-ganu cân y Mudiad o dan arweinyddiaeth Maureen

Hughes, gyda Mair Williams yn cyfeilio.

Bu bwrlwm gydol yr wythnos ar stondin Merched y Wawr gydag aelodau Rhanbarthau

Colwyn a Glyn Maelor yng ngofal y stondin gyda chymorth Anwen Williams y Swyddog

Datblygu. Gweithiodd y ddau ranbarth yn galed iawn ar arddangosfa’r stondin ac fe’u

gwobrwywyd drwy ennill Tlws Sefydliad y Merched am Babell Orau’r Maes (Mudiadau

Gwirfoddol).

Parhau gyda dathlu’r deugain wnaeth Merched y Wawr yn yr Eisteddfod yn y Wyddgrug

eleni, gyda the mefus i’r aelodau ar ddydd Mercher, cyn gollwng balwnau coch amgylcheddol

garedig i’r awyr a throi’r awyr yn goch! Roedd yr elw o werthiant y balwnau yn mynd tuag at

Gymorth i Ferched.

13
Y Wawr

Cyhoeddwyd 4 rhifyn graenus o gylchgrawn Y Wawr o dan lywyddiaeth Siân Lewis, y

Golygydd. Diolchwn i’r pwyllgor cyfan am gydweithio yn hapus i sicrhau cylchgrawn

diddorol bedair gwaith y flwyddyn. Cyhoeddwyd “Rhifyn y Rhuddem”, cylchgrawn yn

pontio'r deugain mlynedd, ac yn adlewyrchu'r newidiadau a fu dros y ddeugain mlynedd.

Trefnwyd cystadleuaeth Gardd y Flwyddyn ac roedd yn galonnog gweld fod nifer wedi

cystadlu eleni eto. Diolch yn fawr i Medwyn Williams am feirniadu’r gystadleuaeth hon.

Dyma’r buddugwyr: Enfys Rennie, Cangen Bro Ilar, Rhanbarth Ceredigion yn gyntaf, Dilys

Williams, Cangen Tregarth, Rhanbarth Arfon yn gyntaf, Gaenor Roberts, Cangen Dyffryn

Ceiriog, Glyn Maelor yn ail a Julia Williams, Cangen Bae Colwyn, Rhanbarth Colwyn yn

drydydd. Cydnabyddir gyda diolch y nawdd a dderbynnir gan Gyngor Llyfrau Cymru sy’n

cynorthwyo gyda chostau argraffu Y Wawr a Rhifyn y Rhuddem.

Y Ganolfan Genedlaethol

Eleni eto croesawyd nifer o ganghennau a chlybiau ar ymweliadau â’r Ganolfan yn

Aberystwyth a braf ydyw dweud fod nifer cynyddol o grwpiau a mudiadau yn defnyddio'r

Ganolfan. Mae’r swyddfa yn y ganolfan yn dal yn cael ei llogi gan Wasg Honno.

Staff

Cafwyd Cyfarfod staff yng Ngwesty’r Cliff Gwbert i drafod strategaeth y mudiad.

14
ADRODDIADAU’R RHANBARTHAU

RHANBARTH ABERCONWY

Ar ddechrau tymor newydd, edrychwn ymlaen am dreulio tridiau yn y Penwythnos Preswyl.

Aeth yr aelodau i Lanbedr Pont Steffan, lle dechreuwyd ‘Dathlu’r Deugain’. Anfonwyd

Llyfrau Lloffion o’r rhanbarth i’w harddangos. Yn ein pwyllgor cyntaf llongyfarchwyd

aelodau cangen Mochdre ar eu llwyddiant yng nghystadleuaeth Sioe Llanelwedd a changen

Betws y Coed a’r Fro am ennill tarian Merched y Wawr yn Sioe Llanrwst. Diolchwyd i

Gwenda Jones am ei gwaith diflino fel ysgrifennydd rhanbarth a chroesawyd Maureen

Hughes i’r swydd am y tymor i ddod. Eto gwnaethpwyd apêl daer am is-swyddogion.

Cynhaliwyd y Cwis Hwyl yn Neuadd Talybont gyda 15 o dimau’n cymryd rhan. Cangen

Mochdre oedd yn fuddugol gyda changhennau Llanrwst a Charmel yn gyfartal ail.

Dechreuwn ddathlu Gŵyl y Nadolig gyda Gwasanaeth Carolau ar y nos Lun cyntaf o fis

Rhagfyr bob blwyddyn. Creuwyd naws arbennig ym Mhenmachno, ond oherwydd llifogydd,

bu’n rhaid dod â’r gwasanaeth i’w derfyn ynghynt. Mwynhawyd eitemau’r canghennau a

gwnaed casgliad at Hosbis Dewi Sant.

Cynhaliwyd Ysgol Undydd lwyddiannus i Ddysgwyr, gyda changhennau rhan uchaf y dyffryn

yn sgwrsio â hwynt. Cafwyd Noson Chwaraeon hwyliog a drefnwyd yn Eglwysbach ac aeth

tîm dominos Llanrwst ymlaen i gystadlu i’r Ŵyl Haf. Trefnwyd Ffair Haf llwyddiannus

hefyd gan yr Is-bwyllgor Celf a Chrefft yn Nhalybont ac addurnwyd y neuadd yn hyfryd ym

mlwyddyn Dathlu’r Deugain. Agorwyd y noson gan ein Llywydd Cenedlaethol, Mary Price.

Prynwyd o’r byrddau gwerthu a gwerthfawrogwyd arddangos Trin Gwallt gan gwmni Ceri a

Morus. Aeth rhai o’n haelodau adref ar eu newydd gwedd! Enillwyd y gystadleuaeth Gosod

Blodau ar gyfer Sioe Llanelwedd gan Ruth Huws, cangen Betws y Coed a’r Fro ac enillodd y

gystadleuaeth yn y Sioe hefyd. Bu’n noson hyfryd gyda chefnogaeth frwd. Enillwyd y

drydedd wobr yng nghystadleuaeth Gardd y Flwyddyn gan Julie Williams, cangen Mochdre.

Cynhaliwyd Cinio Llywydd y gogledd yn Llandudno eto eleni. Cafwyd prynhawn arbennig

yn ‘Venue Cymru’ gydag arlwy bendigedig. Croesawyd yr aelodau i’r wledd gan Maureen

Hughes (Ysgrifennydd Cenedlaethol) a chyflwynwyd blodau i’r Llywydd gan Gwenda Jones

(Cyn-ysgrifennydd rhanbarth). Derbyniodd cangen Llanddoged dystysgrif am wneud

cynnydd o 11 aelod.

Oherwydd tywydd garw, ail drefnwyd Cwrs Undydd y gogledd, ond bu’n llwyddiant mawr yn

ystod tywydd braf y gwanwyn a chafodd aelodau fwynhau Gŵyl y Pum Rhanbarth ym

Mangor. Byddwn yn tapio’r papurau bro - Y Pentan a’r Odyn ar gyfer y deillion ynghyd â’r

Wawr y flwyddyn hon. Llongyfarchwn gangen Llanfairfechan am ddathlu pen-blwydd y

gangen yn 30 oed.

Bu dathliadau Rhialtwch y Rhuddem yn gofiadwy iawn inni - cawsom bleser o ffurfio Côr y

Pasiant yn y Bala a’r Eisteddfod Genedlaethol, cymryd rhan yn y Gymanfa, y Daith Gerdded

a’r Te Mefus a’r cyfan mewn heulwen odidog.

Gwerthfawrogwn waith a chefnogaeth swyddogion ac aelodau’r rhanbarth ynghyd â

brwdfrydedd a chefnogaeth Mim, ein Swyddog Datblygu.

RHANBARTH ARFON

Unwaith eto bu’r flwyddyn 2006-2007 yn llawn gweithgaredd. Cynhaliwyd diwrnod o

hyfforddiant crefft ym Methesda ym mis Hydref gyda’r aelodau yn cael dewis o blith gwaith

parchment, paratoi llyfrau lloffion a gwneud cardiau. Bu nifer o’r aelodau yn siarad gyda’r

dysgwyr yn ystod yr Ysgol Undydd i Ddysgwyr ym mis Tachwedd. Bu dros gant o aelodau

15
yn cymryd rhan yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol a gynhaliwyd yng ngwesty Meifod,

Bontnewydd. Cyflwynodd yr Is-bwyllgor Anabl y swm o £3,000 i Uned Therapi Cyflenwol,

Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, sef yr elw a wnaed trwy gynnal distawrwydd noddedig ym

mis Ionawr, gyda ffair haf a bore goffi ym mis Mehefin.

Cynhaliwyd noson Bowlio Deg yng nghanolfan Glasfryn ym mis Ionawr gyda chwe thîm yn

cymryd rhan ac aeth pump o’r timau hyn ymlaen i gystadlu yn erbyn timau o Ddwyfor a

Meirionnydd mewn twrnament a gynhaliwyd ym mis Chwefror. Cynhaliwyd noson

Chwaraeon ym Methel ym mis Mawrth. Aeth nifer dda o aelodau’r rhanbarth i Ginio’r

Llywydd yn y Venue, Llandudno ym mis Mawrth.

Yn rhifyn y gwanwyn o’r Wawr ymddangosodd gwaith dwy o’n haelodau - stori fer gan Mary

Hughes, Y Groeslon ac erthygl gan Margaret Wyn Roberts, Caernarfon. Aeth nifer o

aelodau’r rhanbarth i Basiant Dathlu’r Deugain yn y Bala ym mis Mehefin a bu parti canu’r

rhanbarth o dan arweinyddiaeth Einir Wyn, Rhiwlas yn cymryd rhan yn y pasiant.

Cynhaliwyd noson Dathlu’r Deugain ym Mynydd Gwefru, Llanberis ym mis Mehefin. Bu

pedwar ugain o’r aelodau yn blasu gwin a siocled wrth wrando ar awduron o’r rhanbarth yn

darllen eu gwaith - Meg Elis, Angharad Tomos, Angharad Price, Beryl Stafford Williams,

Alys Jones, Eurgain Haf, Manon Wyn - ynghyd ag aelodau cangen Bethel yn darllen rhan o

‘Te yn y Grug’ Kate Roberts a Mary Hughes, y Llywydd yn darllen englyn a gyfansoddwyd

yn arbennig ar gyfer Dathlu’r Deugain gan Annes Glynn. Roedd hefyd yn gyfle i

gymdeithasu a mwynhau cwmni Mary Price a Tegwen ac roedd torri cacen y dathlu yn goron

ar y cyfan. Yn ogystal bu’r noson yn gyfle i gyhoeddi buddugwyr cystadleuaeth y Llyfr

Lloffion - cangen Bethel a ddaeth ar y brig y tro hwn.

Ym mis Gorffennaf cynhaliwyd taith gerdded Genedlaethol y rhanbarth ym Meddgelert gyda

Jean Evans yn arwain y daith. Derbyniodd canghennau Bethel, Y Groeslon a Chaernarfon

arian o gronfa’r Loteri, Arian i Bawb.

RHANBARTH CAERFYRDDIN

Yn ystod y flwyddyn collodd y rhanbarth ddwy aelod weithgar. Ar ddechrau’r flwyddyn y

Cyn-Lywydd rhanbarth (2003-2005) Sara Leyshon, ac yna wythnos Sioe Llanelwedd Mair

James, fu’n stiwardio yn y Sioe Frenhinol am flynyddoedd. Mair hefyd wnaeth fathodyn

Llywydd y Rhanbarth.

Dechreuwyd y flwyddyn gydag Ysgol Undydd yn Ysgol Nantgaredig. Cymerodd unarddeg o

ganghennau ran yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol a dwy gangen yn dod yn gydradd gyntaf sef

Geler a Chaerfyrddin.

Un o’r uchafbwyntiau oedd cael paratoi’r babell erbyn Eisteddfod yr Urdd a chael croesawu

cyd aelodau a ffrindiau i gymdeithasu gyda ni ac aelodau Clybiau Gwawr y Sir. Daeth

llwyddiant hefyd yn yr Ŵyl Haf ym Machynlleth gyda gwobrau yn dod i ganghennau Bro

Alma, Pencader a Llandeilo. Bu rhai o’r aelodau yn cymryd rhan yn y Pasiant yn y Bala, a

phawb oedd wedi teithio yno wedi mwynhau’r diwrnod. Prynhawn Sadwrn, 14 Gorffennaf

aeth rhai aelodau ar daith gerdded ar Lwybr yr Arfordir yn Llanelli a chael prynhawn hyfryd.

RHANBARTH CEREDIGION

Trefnodd pwyllgor Celf a Chrefft Ceredigion wibdaith i Gaer. Daeth 22 o dimoedd ynghyd i

gymryd rhan yn y Cwis Hwyl. Yng Ngheredigion y rhai a ddaeth i’r brig oedd Bro

Cranogwen ag Aberystwyth (tri) - 49 o farciau; Llanfarian - 47 o farciau; Aberystwyth (un) -

45 o farciau. Cynhaliwyd y chwaraeon yng Ngwesty Llanina, Llanarth ac fe gafwyd dwy

16
noson o gystadlu brwd. Anfonwyd llythyr ar ran y mudiad i Gadeirydd Cyngor Sir

Ceredigion i ddatgan ein hanniddigrwydd ynglŷn â diddymu’r gwasanaeth dyddiol ‘Pryd ar

Glud’ i’r henoed a’r methedig.

Glenys Morgan o Benrhyncoch oedd enillydd y gystadleuaeth Genedlaethol i gynllunio

cerdyn Nadolig. Cynhaliwyd Gŵyl Fai lwyddiannus yn Llanbedr Pont Steffan.

Cymerwyd rhan gan y rhanbarth ymhob cystadleuaeth ond un, yn yr Ŵyl Haf ym

Machynlleth. Y rhai a ddaeth i’r brig oedd:- Dewis Dau Ddwrn - 2ail: cangen Cylch Aeron;

Bowlio - 2ail: cangen Tregaron; Tenis Bwrdd - 2ail: cangen Felinfach; Dartiau - 3ydd: cangen

Llandysul; Golff - 2ail: Nans Morgan, cangen Genau’r Glyn; 3ydd: Ruth Morris, cangen Bro

Ilar; Rhaglen y Gangen - 3ydd: cangen Felinfach; Llyfr Lloffion - 2ail: Bro Cranogwen; Clod

Uchel: cangen Llandysul; cangen Llanbedr Pont Steffan; Addurno Welington goch - 2ail:

Glenys Morgan, Penrhycoch; Cystadleuaeth Llanelwedd - Trefnu Blodau - 2ail: Nan Jones,

cangen Cylch Teifi; Cystadleuaeth y Dysgwyr - Dyddiadur wythnos ar y thema ‘Dathlu’ - 1af:

Joyce Owen, Aberteifi.

Aeth nifer i’r Bala i Ddathlu’r Deugain. Cangen Aberystwyth oedd yn ein cynrychioli yn y

Pasiant. Ymunwyd yn y te mefus yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cafwyd tywydd braf ar gyfer ein taith gerdded yn Llannerch Aeron ym mis Gorffennaf.

Cawsom gwmni Glenys Thomas ar y daith, ac aeth popeth yn hwylus iawn. Ar ddiwedd y

daith roedd yn braf cael ein picnic a chymdeithasu yn yr heulwen.

RHANBARTH COLWYN

Gan fod y Mudiad yn ‘Dathlu’r Deugain’ bu’r flwyddyn 2006-2007 yn un brysur iawn i

Rhanbarth Conwy. Bu’r cwis hwyl ym mis Tachwedd. Cynhaliwyd ein Noson ‘Llith a

Charol’ ym mis Rhagfyr yng Nghapel Mynydd Seion, Abergele, gyda Mererid Jones yn

arwain ac eitemau gan ganghennau Henllan, Abergele a Llanelwy. Rhannwyd elw'r noson o

£300 rhwng Hosbis Dewi Sant a Sant Cyndeyrn. Cafwyd paned a mins pei ar y diwedd.

Aeth nifer o aelodau i’r Cinio ‘Dathlu Gŵyl Ddewi Llywydd Cenedlaethol’ yn Venue Cymru,

Llandudno Dydd Sadwrn 10 Fawrth 2007 a phawb wedi mwynhau'r diwrnod yn fawr.

Cynhaliwyd ‘Bore Dysgwyr’ yn Llansannan a oedd yn llwyddiant mawr. Cafwyd ‘Diwrnod o

wahanol grefftau yn Llysfasi’

Thema ein Gŵyl Rhanbarth eleni i Ddathlu’r Deugain ar 9 Fai 2007 oedd ‘Gwisgoedd

Priodas/Colur/Cacennau a Ffotograffiaeth’ gan Gwmni Dwynwen. ‘Roedd hon yn noson i’w

chofio gyda rhai aelodau a ffrindiau yn arddangos eu gwisgoedd priodas a rhai gan Gwmni

Dwynwen. Cafwyd gair o ‘Atgofion’ gan Mererid Jones (James) Trefnydd Cenedlaethol

cyntaf y Mudiad. Pinacl y noson oedd cael cwmni ac anerchiad byr gan ein Llywydd

Anrhydeddus Marged Jones, ein Llywydd Cenedlaethol Mary Price a rhoddodd Tegwen

Morris, Cyfarwyddwraig ein Mudiad sgwrs ar ‘Heddiw ac Yfory’. Mwynhaodd pawb baned

a chyfle i weld yr arddangosfeydd a chymdeithasu ar y diwedd.

Trefnodd y Pwyllgor Chwaraeon noson o Ddartiau, Dewis Dau Ddwrn a Dominos gyda’r

enillwyr yn cystadlu ar ddiwrnod yr Ŵyl Haf a Chwaraeon Cenedlaethol ym Machynlleth ar

19 Fai 2007 pryd ddaeth Llangwm yn 3ydd yn y Tennis Bwrdd a Pentrefoelas yn 3ydd yn

Dewis Dau Ddwrn. Bu cangen Abergele yn cystadlu yn y Gystadleuaeth Adloniant a daethant

yn drydydd. Cynhaliwyd Helfa Drysor ym mis Mehefin.

Bu Anwen ein Swyddog Datblygu yn brysur yn dysgu ac yn arwain y Côr ar gyfer

uchafbwynt y Dathlu sef ‘Pasiant Dathlu’r Deugain a Chymanfa’r Dathlu’ yn y Bala ar 9fed o

Fehefin 2007. Bu’r Pasiant yn llwyddiant ysgubol a braint fel rhanbarth oedd cael cymryd

17
han. Llwyddiant hefyd oedd ‘Cymanfa y Dathlu’ gydag amryw o’r rhanbarth yn y

gynulleidfa.

Ymunodd nifer o aelodau ar daith gerdded y Dathlu dydd Sadwrn 14 Orffennaf 2007,

aethpwyd ar hyd yr arfordir yng nghwmni ein Is-Drysorydd Cenedlaethol Elinor Davies a

chafwyd picnic a chacen i ddiweddu’r diwrnod. Bu nifer o aelodau yn cystadlu yn y Sioe

Frenhinol yn Llanelwedd gyda rhai aelodau yn llwyddiannus.

Gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug ‘roedd Rhanbarth Glyn Maelor a

Cholwyn yng ngofal Pabell Merched y Wawr a’r Dysgwyr. ‘Roedd yr arddangosfa yn y

babell dan ofal Llinos Roberts ac Ann Jones a Rhanbarth Glyn Maelor gydag aelodau o

wahanol ganghennau wedi benthyg eu gwaith. Cafodd yr arddangosfa ganmoliaeth gan bawb

a ymwelodd â’r babell, a’r uchafbwynt oedd ennill fel Mudiad ‘Tlws Sefydliad y Merched’

am y babell wirfoddol orau ar faes yr Eisteddfod. Mawr oedd ein balchder pan dderbyniodd

ein Llywydd Cenedlaethol y wobr ar lwyfan yr Eisteddfod ar ein rhan.

Ym mhabell y Dysgwyr cafwyd arddangosfeydd ar ‘Drefnu Blodau’, gwneud ‘Crefftau’,

‘Cardiau Cyfarch’, Chwarae Gemau ynghyd â chymell pobl i siarad Cymraeg. Cawsom

gyflwyno perfformiad o ddetholiad o Basiant Cenedlaethol Dathlu’r Deugain ar lwyfan yr

Eisteddfod bore dydd Mercher 8 Awst 2007 ac roedd y gynulleidfa wedi ei fwynhau’n fawr.

Prynhawn dydd Mercher cawsom ‘De Mefus’ o gwmpas cerrig yr orsedd a gollwng y balŵns.

Bu’r swyddogion ac aelodau’r canghennau yn brysur iawn yn gwneud paneidiau o de/coffi

ynghyd â chacennau cri. Cawsom ddiwrnod llwyddiannus yn Sioe ‘Dinbych a Flint’ gyda

chanmoliaeth mawr i’r arddangosfa.

RHANBARTH Y DE-DDWYRAIN

Bu nifer o aelodau yn y Penwythnos Preswyl a gynhaliwyd yn Llanbedr Pont Steffan a dod yn

ôl yn llwythog gyda bylbiau cennin Pedr yn dilyn yr ymweliad â’r gerddi botaneg.

Roedd y Cwis Hwyl yn llwyddiannus iawn, gyda sawl tîm o’r rhanbarth yn cymryd rhan, a

lluniaeth i ddilyn. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod tîm o Bro Radur wedi bod yn ddigon

ffodus (a chlyfar!) i ennill y gystadleuaeth yn genedlaethol, gyda 53 marc allan o 60.

Cawsom noson hyfryd iawn ar 4ydd Rhagfyr pan ddaeth rhyw 120 o ferched i’r Gwasanaeth

Nadolig a drefnwyd gan Gangen Casnewydd ar y thema ‘Nadolig o Gwmpas y Byd’.

Casglwyd £347.65 i Dŷ Hafan.

Ar Fawrth 3ydd aeth sawl aelod o’r De-ddwyrain draw i’r gorllewin i fwynhau bwyta,

cymdeithasu a chael eu diddanu yng nghinio’r Llywydd yn y De yng ngwesty Parc y Strade

yn Llanelli. Gwobrwywyd Cangen Bro Radur unwaith eto gyda thystysgrif yn nodi cynnydd

mewn aelodaeth.

Mis Ebrill oedd mis ein Noson Goffi a gynhaliwyd y tro hwn ym Mhentyrch dan ofal

merched Cangen y Garth. Cawsom noson hwylus gyda chynrychiolaeth o sawl cangen yn

mynychu. Roedd nifer o stondinau a gwnaethpwyd elw o £310.41.

Yn dilyn llawer o ymarfer, ar Fehefin 9fed, yn y bore bach, cychwynnodd bws o Radur ei

daith i’r Bala ar gyfer gweithgareddau Dathlu’r Deugain. Roedd yn fore bendigedig a

chafwyd taith bleserus. Bu’r tywydd yn dda i ni drwy’r dydd a bu’r dathlu yn llwyddiannus

dros ben. Rhaid diolch i Elenid Jones am ysgrifennu’r sgript ar gyfer ein cyflwyniad llafar ar

dwf yr iaith Gymraeg yn ein hardal ac i Rhiannon Evans am ei chyfarwyddo.

I gloi gweithgareddau Dathlu’r Deugain, cynhaliwyd taith gerdded a phicnic ym Mharc

Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr, ar Orffennaf 14eg, a bu’r tywydd yn wyrthiol o gynnes unwaith

18
eto. Cawsom gwmni Esyllt Jones, yr Is-lywydd cenedlaethol a daeth gweinidog lleol, y

Parchedig Eric Jones atom i sôn am hanes y parc a’i ddatblygiad yn dilyn cau’r nifer fawr o

byllau glo yn yr ardal. Gan ei fod yn benblwydd rhuddem, roedd thema goch iawn i’r dathlu.

Gwisgodd bawb rywbeth coch, roedd balŵns coch yn hedfan a daeth rhai â bwydydd a

diodydd coch, hyd yn oed, - o fefus, mafon, tomatos a jelis i sudd llugaeron a gwin coch, a

gwnaeth Gill, ein llywydd rhanbarth, deisen arbennig i’r achlysur.

Drwy gydol y flwyddyn, bu cwmni teledu yn ffilmio cangen Casnewydd wrth eu

gweithgareddau gan ganolbwyntio ar y merched 6ed dosbarth oedd yn aelodau yn y gangen.

Canlyniad yr holl ffilmio oedd rhaglen ar S4C o’r enw ‘Wynebau Newydd’ a ddangoswyd yn

ystod yr haf. Bu llawer o siarad am y rhaglen a daeth â hysbysrwydd nid yn unig i gangen

Casnewydd ond i’r mudiad yn genedlaethol.

Hoffem ddiolch i Malvina Ley, ein Swyddog Datblygu, am ei chefnogaeth yn ein cyfarfodydd

a’n digwyddiadau yn ystod y flwyddyn a dymunwn yn dda iddi yn ei hymddeoliad.

RHANBARTH DWYFOR

Dechreuwyd y tymor newydd drwy ddathlu Dydd Owain Glyndŵr yng Ngwesty Mynydd

Ednyfed, Cricieth, yng nghwmni'r Prifardd Twm Morys - cafwyd dwy wledd arbennig, sef

swper a sgwrs ddifyr gan ein gŵr gwadd.

Mynychodd amryw o'r aelodau'r penwythnos preswyl yn Llanbedr Pont Steffan a chafwyd

mwynhad yno a thywydd braf, yn arbennig pan ymwelwyd â Gardd Fotaneg Llanarthne i

gychwyn dathlu deugeinfed pen-blwydd y mudiad.

Timau canghennau Chwilog a Chricieth ddaeth yn gyfartal gyntaf yn y cwis hwyl a

gynhaliwyd yng Ngwesty'r Marine, Cricieth. Un o dimau cangen Abersoch ddaeth yn ail a

dau o dimau cangen Pwllheli yn gyfartal drydydd. Cynrychiolwyd deg cangen gan ddau dîm

ar hugain.

Cynhaliwyd gwasanaeth carolau'r rhanbarth yng Nghapel yr Annibynwyr, Abersoch dan

arweinyddiaeth Ann Pierce Jones, cangen Golan, ag Elsie Roberts, cangen Mynytho wrth yr

organ. Casglwyd £275.00 at yr Ambiwlans Awyr a chyflwynwyd cyfanswm o £470.00 i'r

elusen - elw raffl y cwis hwyl a chyfraniad dienw gan aelod.

Ar ddiwedd Ionawr, cynhaliwyd cystadleuaeth bowlio deg cyntaf y rhanbarth yng Nghanolfan

Glasfryn, Y Ffôr. Cystadlodd dau dîm ar hugain ac aeth y pum tîm uchaf - Mynytho, dau dîm

o Laniestyn, Llanaelhaearn ac un o Fryncroes - ymlaen i gynrychioli'r Rhanbarth yn y

gystadleuaeth tair rhanbarth (Arfon, Dwyfor a Meirionnydd). Tîm cangen Llanuwchllyn a

orfu'r noson honno ond, daeth un o dimau Llaniestyn yn ail agos iawn.

Cafwyd ysgol undydd y dysgwyr llwyddiannus arall yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli.

Mwynhaodd cynrychiolaeth dda o'r canghennau bnawn difyr yn sgwrsio â'r dysgwyr.

Cynhaliwyd noson chwaraeon yn Neuadd Goffa Chwilog i ddewis cynrychiolwyr y

Rhanbarth yn y Chwaraeon Cenedlaethol yn Machynlleth. Daeth llwyddiant i Menai a Helen

o gangen Mynytho yn y dominos a ddaeth yn ail.

Bu'r Ŵyl Wanwyn yn llwyddiannus eleni eto. Cynhaliwyd cystadleuaeth unigryw yn

genedlaethol eleni, sef addurno welington fel rhan o ddathliadau dathlu'r deugain. Dyfarnwyd

mai welington cangen Pencaenewydd oedd yr orau yn y rhanbarth ac aeth ymlaen i

19
Fachynlleth ymhle dyfarnwyd y drydedd wobr iddi. Daeth llwyddiant i ganghennau Pwllheli

(cyntaf) ac Abersoch (ail) yn y gystadleuaeth llyfr lloffion ym Machynlleth hefyd.

Cafodd y cerddwyr sy'n ein plith amrywiol deithiau trwy'r flwyddyn, ynghyd â mwynhau eu

hunain yn ardal Caerdydd a'r Fro ar eu penwythnos cerdded ym mis Hydref. Cafwyd cwmni

Esyllt Jones, Is-lywydd Cenedlaethol, a Beth Leyshon ar y daith gyntaf.

Mae'n anodd credu efallai bod deugain mlynedd ers bodolaeth Merched y Wawr ond dyna

sy'n wir a dathlodd y mudiad yn genedlaethol gydol y flwyddyn a Rhanbarth Dwyfor hefyd

wedi gwneud ei siâr.

Ffurfiwyd y gangen gyntaf yn y Parc yn Sir Feirionnydd ym Mai 1967 a buan y lledodd y

brwdfrydedd drwy Gymru. Cricieth gafodd y weledigaeth gyntaf yn Nwyfor pan ffurfiwyd

cangen yno ym Medi 1967 ac Abersoch yn dynn wrth ei sodlau yn Nhachwedd yr un

flwyddyn. Erbyn diwedd 1968 roedd cangen ym Mynytho, Pwllheli, Pistyll, Pwllheli a

Threfor.

Cyfarfu'r holl ranbarthau yn Y Bala fis Mehefin eleni i ddathlu a chyflwynwyd pasiant mewn

dau eisteddiad a recordiwyd cymanfa ganu i'w darlledu ar Dechrau Canu, Dechrau Canmol.

Cyfraniad Rhanbarth Dwyfor oedd ffurfio côr i ganu cân wladgarol a gyfansoddwyd gan

Anna Jones o gangen Abersoch. Yr arweinydd oedd y Llywydd Rhanbarth, Enid Owen,

cangen Llaniestyn, a'r cyfeilydd, Elsie Roberts o gangen Mynytho. Gwahoddwyd

rhanbarthau'r gogledd i gyflwyno eu rhan hwy o'r pasiant ar lwyfan yr Eisteddfod yn Yr

Wyddgrug hefyd. Yn ddiweddarach yn y pnawn, mwynhawyd te mefus ger Cerrig yr Orsedd,

ynghyd â rhyddhau 800 o falwnau coch gyda'r arian yn mynd at Gymorth i Fenywod.

Ar Orffennaf 14eg cynhaliodd pob rhanbarth daith gerdded ac, yn wyrthiol, cafwyd tywydd

braf i ni yn Nwyfor gerdded taith gylch o amgylch Porth Dinllaen a gychwynnodd yn Nefyn.

Cafwyd cwmni un o'r Swyddogion Cenedlaethol, sef Einir Wyn o gangen Abersoch, Isysgrifennydd

y Mudiad.

Penderfynu beicio rownd canghennau'r rhanbarth oedd syniad Einir Wyn, Abersoch, a Meryl

Davies, cangen Llaniestyn, i ddathlu'r deugain ac os oedd hi'n braf i'r cerdded, bwrw fel o

grwc oedd hi pan aethant rownd canghennau Llŷn ond cawsant groeso a chinio gan Ann

Stephens Jones ym Morfa Nefyn a chroeso a chlamp o de gan aelodau cangen Trefor pan

ddiweddwyd y daith yno - a hithau'n dal i fwrw!

Roedd hi'n well tywydd pan aethant o amgylch canghennau Eifionydd ac ymunodd Elsie o

gangen Mynytho â nhw. Rhwng y beicio, cafwyd croeso a choffi yn Nant Gwynant, panad

yng Ngolan, gwledd a threiffl ym Mhencaenewydd a chwmni aelodau heini rhai o'r

canghennau i'w hybu ymlaen ar eu taith - diwrnod arall i'w gofio.

Penderfynodd y Rhanbarth mai taith ac oedfa yn Soar-y-Mynydd oedd y ffordd i ddathlu a

ffwrdd â ni ar un o'r ychydig ddyddiau braf a gafwyd ym mis Gorffennaf.

Cymerwyd rhan yn yr oedfa gan Enid Owen, Llaniestyn; Margiad Elias, Cricieth; Ann Jones,

Bryncroes; Ann Shilvock, Pencaenewydd; Eirlys Jones, Pwllheli; Anna Jones, Abersoch;

Megan Lloyd Williams, Golan, ac Agnes Hill, Mynytho. Traddodwyd anerchiad effeithiol

gan y Parch. Eirlys Gruffydd, Yr Wyddgrug, ar wahanol fynyddoedd y Beibl a llanwodd y

canu digyfeiliant y capel a theimlai pawb mai da oedd i ni gael bod yno. Bu'n rhaid siopa yn

Nhregaron wedyn a swpera yn Aberystwyth cyn dychwelyd i Ddwyfor ar ôl treulio diwrnod

yn dathlu.

20
RHANBARTH GLYN MAELOR

Cafwyd blwyddyn lwyddiannus yn Rhanbarth Glyn Maelor. Cynhaliwyd y Cwis

Cenedlaethol yng Nghlwb Golff Dinbych gyda 10 o dimau yn cystadlu. Cynhaliwyd yr Ŵyl

Ranbarth yn Neuadd John Ambrose, Rhuthun pan gafwyd Sioe Ffasiynau drwy’r

blynyddoedd. Cafwyd noson ardderchog gyda modelau o safon uchel yn cynrychioli’r

gwahanol ganghennau. Noson i wir ddathlu’r Deugain. Cafwyd cwmni Mary Price y

Llywydd Cenedlaethol, a mwynhawyd bwffe wedi ei baratoi gan gwmni lleol. Gwnaed fideo

o’r noson, ac mae amryw o ganghennau eleni yn mwynhau gwylio’r fideo fel rhan o’u

rhaglen. Yr un noson cynhaliwyd y gwahanol gystadlaethau tuag at Sioe Llanelwedd. Bu

nifer o aelodau yn cymryd rhan yn y noson cystadlaethau chwaraeon yn Ysgol Brynhyfryd

ym mis Ebrill.

Oherwydd bod y Mudiad yn dathlu ei benblwydd yn ddeugain, gwahoddwyd pob rhanbarth i

gymryd rhan mewn pasiant a gynhaliwyd yn y Bala. Noson Lawen oedd teitl Glyn Maelor, a

mawr yw ein diolch i Anwen Jones Llandyrnog am lunio sgript benigamp ar ein cyfer.

Cafwyd cwmni Margaret Williams, Mair Penri, Tony ac Aloma, Eleanor Bennett, Hogia’r

Wyddfa a llu eraill. Cawsom fyrdd o hwyl wrth ymarfer.

Cafwyd taith gerdded i ledled Cymru a dewisodd ein rhanbarth ni gerdded yn y Maes Glas

ger Treffynnon, cyfle i gymdeithasu a dod i adnabod ardal newydd o’r rhanbarth.

Yn ystod y flwyddyn cawsom groesawu Canghennau yr Wyddgrug a Threffynnon atom i

ranbarth Glyn Maelor. Oherwydd bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn yr

Wyddgrug, braint i ni fel rhanbarth oedd cael croesawu ymwelwyr i babell Merched y Wawr

ar y maes. Cafwyd wythnos ardderchog o ran tywydd, ac roedd pawb yn uchel eu clod am yr

arddangosfa o waith llaw o waith yr aelodau. Cafodd pawb foddhad o wybod i babell

Merched y Wawr ennill y tlws am y babell orau i gymdeithasau ar y maes. Ddydd Mercher

yn y Pafiliwn cafwyd cyfle unwaith yn rhagor i weld rhannau o’r Pasiant gan aelodau’r

gogledd. Roedd yn wythnos brysur, ac yn waith caled ond roedd yn braf cael croesawu

gweddill Cymru yn eu tro i’r babell i fwynhau paned a chacen gri, a chael cyfranogi o’r

cydweithio hapus rhyngom ni a rhanbarth Colwyn. Diolch i bawb am eu cydweithrediad.

GORLLEWIN MORGANNWG

Mae’n anodd credu ‘nawr, ond roedd Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch yn rhan

greiddiol o weithgaredd blwyddyn 2006-07, ac yn sicr, dyna fu’r uchafbwynt. Ond, yn ein

brwdfrydedd, adroddwyd yn llawn arni yn yr Adroddiad Blynyddol blaenorol ac afraid

ailadrodd yma. Fodd bynnag, buom yn adlewyrchu ar ei llwyddiant am rai misoedd wedyn ac

yn y Cwis Cenedlaethol ym mis Tachwedd cawsom gyfle i gyflwyno baner newydd y

rhanbarth, a oedd wedi’i harddangos eisoes ym mhabell y mudiad ar y maes, yn swyddogol i’r

aelodau. Mary Jones (Gwaungors) ac Esyllt Jones (Gorseinon) a’i cynlluniodd ac a’i gwnïodd

a bellach mae’n hongian mewn lle anrhydeddus yn y Ganolfan Genedlaethol yn Aberystwyth.

Yn ystod noson y Cwis hefyd cawsom weld y fideo o’r cyflwyniad ‘Pileri’ fu ar lwyfan y

genedlaethol ac unwaith eto roeddem yn ymfalchïo yn nhalent y rhanbarth. Enillwyr

rhanbarthol y Cwis oedd Merched Gorseinon 1, gydag O’r Gwter yn ail ac Ochor Treforys o’r

Dre yn drydydd ond wnaethon ni ddim cipio gwobr genedlaethol eleni.

Cynhaliwyd bore coffi Nadoligaidd yng Nghanolfan Arddio Pontarddulais unwaith eto a

daeth nifer digon teilwng ynghyd. Tro cangen Afan oedd arwain ein taith gerdded yn y

gwanwyn a chawsom fwynhau harddwch Parc Gwledig Afan Argoed a chymdeithasu yng

Nghanolfan Gymunedol Cwmafan. Yn ystod y bore cynhaliwyd rownd ranbarthol y

gystadleuaeth gelf a chrefft a’r buddugwyr oedd: gwau - Monica Evans (Afan); petit fours -

Teifina Davies (Treforys) a ffotograffiaeth - Esyllt Jones (Gorseinon). Enillodd Esyllt ar

21
addurno’r welington goch yn ogystal. Llongyfarchiadau i’r tîm celf a chrefft am fynd yn eu

blaenau i gipio’r drydedd wobr yn y Sioe yn Llanelwedd.

Fel rhanbarth derbyniwyd grant teithio sylweddol trwy Gronfa Arian i Bawb i gynorthwyo’r

aelodau i fynychu pwyllgorau ac ymarferion yn ymwneud â Dathlu’r Deugain trwy dalu am

logi tacsis iddynt ac am fysiau i’r dathliadau cenedlaethol. Cafwyd hwyl yn ymarfer y sgets

am y dysgwyr ‘Y Treiglad Llaes’ ar gyfer Pasiant y Dathlu yn y Bala ym mis Mehefin ond bu

braidd ‘rhy gormod’ o boeri wrth ymarfer ‘ch; th ac ph’! Diolch o galon i bawb fu’n cymryd

rhan yn y sgets hon. Llongyfarchiadau i Ann Rosser a Rita Rosser am gysylltu elfennau’r

pasiant mor ddeheuig. Diolch i’r aelodau a ddaeth gyda ni o’r rhanbarth i’n cefnogi. Cafwyd

diwrnod cofiadwy yn y Bala a diolch i bawb fu’n trefnu’r pasiant a’r Gymanfa Ganu.

Yn y Cyfarfod Blynyddol a’r Chwaraeon ym mis Mai braf cofnodi i gangen Castell Nedd

ddod yn ail unwaith eto am gynllun eu rhaglen flynyddol a llongyfarchiadau i Wendy

Hopkins (Lon-las) am ddod yn ail ar daflu’r welington goch! Bu cangen Pontarddulais yn ein

cynrychioli yn y gystadleuaeth sgets yn ogystal.

Uchafbwynt y dathlu oedd y Picnic a’r Daith gerdded ar Orffennaf 14. Daeth tua 90 ynghyd i

Theatr Dylan Thomas i fwynhau te mefus a’r deisen fendigedig a wnaethpwyd gan Teifina

Davies, ar ôl bod yn cerdded o gwmpas y Marina yn y tywydd hyfryd. Gwerthwyd balwnau i

gefnogi ‘Cymorth i Fenywod’.

Yn ystod y flwyddyn etholwyd swyddogion rhanbarthol newydd a chroesawn Margaret Jones

fel Is-Lywydd, Iona Mathers fel Is-Ysgrifennydd a Janette Jones fel Is-Drysorydd. At hyn

mae gennym Is-Lywydd Cenedlaethol o’r rhanbarth a llongyfarchiadau i Esyllt Jones ar gael

ei henwebu i’r ‘barchus arswydus swydd’! Dymunwn yn dda i bob un ohonynt pan ddaw

tymor eu gwasanaeth. Bydd Malvina Ley ein Swyddog Datblygu yn ymddeol ym mis Medi

2007 hefyd ond stori ar gyfer Adroddiad Blynyddol y flwyddyn nesa yw honno.

RHANBARTH MALDWYN POWYS

Gweithgaredd cynta'r tymor oedd y Cwis Hwyl, yn Henllan gyda 8 tîm yn cymryd rhan.

Llanfyllin a orfu o 1 marc, Llanerfyl yn ail, a thîm Catrin Y Foel yn 3ydd.

Ym mis Rhagfyr cynhaliwyd Plygain yng Nghapel y Tabernacl, Llanfyllin, roedd y tywydd

yn stormus iawn, ond daeth cynulleidfa dda ynghyd a 9 cangen yn cymryd rhan. Noson

fendithiol ac fe gafodd pawb baned a mins pei cyn troi am adre.

Ar Noson Santes Dwynwen cafwyd achlysur arbennig i ddathlu'r deugain. Daeth 150 o

aelodau'r Rhanbarth ynghyd i'r Ganolfan yn Llanfair Caereinion, yr ystafell wedi ei haddurno

efo balŵns coch wrth gwrs a phawb yn gwisgo rhywbeth coch. Cawsom swper blasus ac awr

o ymlacio a chwerthin yng nghwmni Mair Penri a'i phobol.

Ac wedyn Nos Fawrth Chwefror 13eg cynhaliwyd Cwis yng ngofal y Parch. Glyn Morgan

efo'r dysgwyr yng ngwesty'r Dyffryn, Y Foel. Trefnwyd y noson gan bwyllgor Iaith a Gofal.

Cafwyd Wŷl Haf llwyddiannus i'r Rhanbarth ym Machynlleth:-

Cystadleuaeth Rhaglen y Gangen - 2ail, Bro Cyfeiliog,

Llyfr Lloffion - clod uchel i Llanfyllin,

Badminton - 3ydd, Llanfyllin,

Taflu Welington Goch - 1af, Margaret Davies, Bro Cyfeiliog,

Dartiau - 2ail, Y Foel,

Gyrfa Chwist - 2ail, Bro Ddyfi.

22
Ym Mis Mehefin troi am Y Bala a chymryd rhan yn y Pasiant Rhialtwch y Rhuddem o dan

ofal Mair Penri a Nan Lewis. Roedd Maldwyn yn portreadu'r dyfodol, cawsom lot o hwyl yn

paratoi ac mae ein diolch i Beryl Vaughan, Llanerfyl am ein harwain a chadw trefn. Fe wnaed

ail berfformiad wedyn ar lwyfan y Brifwyl yn Yr Wyddgrug ac roedd y cyfan yn fyw ar y

teledu.

Cymerodd griw o ugain ran yn y Daith Gerdded Genedlaethol ar brynhawn braf ym Mis

Gorffennaf, ein dewis ni oedd cerdded yng Ngregynog, cafwyd amser da a phicnic blasus ar y

diwedd.

RHANBARTH MEIRIONNYDD

Roedd y flwyddyn yma yn un arbennig i ni ym Meirionnydd yn ogystal â phob rhanbarth arall

drwy Gymru - wrth inni flasu naws arbennig ym mlwyddyn 'Dathlu'r Deugain' - cafodd rai

aelodau'r rhanbarth fwynhad arbennig yn y Penwythnos Preswyl. Yna yr uchafbwynt oedd

cael bod yn y Bala, yn cyd-fwynhau gyda'r cannoedd o aelodau a ddaeth i fwynhau Pasiant y

Dathlu â'r naws hyfryd iawn gafwyd yng Nghapel Tegid wrth recordio 'Dechrau Canu

Dechrau Canmol' Diolch arbennig i'r Swyddogion Cenedlaethol hefyd i Tegwen a'i thîm am

yr holl waith caled o drefnu'r cyfan.

Fel rhanbarth cawsom fwynhau cinio'r dathlu yng Ngwesty Portmeirion, yng nghwmni, ein

Llywydd Anrhydeddus, Marged Jones, ein Llywydd Cenedlaethol, Mary Price a'n

Cyfarwyddwraig, Tegwen Morris. Cawsom ein difyrru gan Dylan Rowlands ar y delyn, a

rhaid oedd cael Mair Penri i bortreadu un o'i chymeriadau fel diweddglo i'r prynhawn.

Ychydig aeth ar y Daith Gerdded, ond cafodd y criw bach a ddaeth ynghyd lawer o hwyl, o

dan arweiniad Mim ein Swyddog Datblygu, a braf oedd cael mwynhau'r 'picnic' a phaned

wedi ei baratoi gan aelodau cangen Y Bala, yn Festri Capel Tegid.

Mae'n galonogol o hyd gweld bod rhai canghennau yn dal i ddenu aelodau newydd, a bu i

ganghennau Dolgellau a Rhydmain fod yn ffodus iawn eleni ar ennill wyth o aelodau newydd

yr un - a bod cynnydd o chwe deg o aelodau yn y rhanbarth. Roeddem yn hynod o falch

hefyd o ddeall fod dau Glwb Gwawr wedi eu sefydlu, un yn ardal Dolgellau a'r llall yn ardal

Trawsfynydd.

Ym mis Hydref cynhaliwyd ein Gŵyl Ranbarth, yng nghwmni Mary, ein Llywydd

Cenedlaethol. - noson lwyddiannus iawn, hefo 'Ceri a Morus' yn rhoi noson o drin gwallt a

choluro. Bu i'r noson yma ddenu un ar bymtheg o Glwb Gwawr y Lechen Las! Mis Tachwedd

wrth gwrs yw mis y Cwis Hwyl, a llwyddodd cangen Llanuwchllyn ddod i'r brig, hefyd ar

ddod yn ail yn genedlaethol, cangen Sarnau ddaeth yn ail, ac yn drydydd yn genedlaethol.

Cynhaliwyd gwasanaeth 'Llith a Charol' yn y Bala, ac amser i gymdeithasu dros baned a mins

pei ar y diwedd. Trosglwyddwyd y casgliad eleni i ‘Shelter Cymru'

Yn yr Ŵyl Haf daeth Cangen Deudraeth unwaith eto i'r brig am y 'rhaglen orau', hefyd bu

iddynt ddod yn ail yn y gystadleuaeth llwyfan ar y diwrnod, gyda changen y Parc, yn llwyddo

i ddod i'r brig. Sioned Jones, o gangen Glanrafon enillodd wobr Patagonia am yr erthygl orau

yn 'Y Wawr' am hanes 'Dilyn Troed Mary Doladd' - a thîm cangen Llanuwchllyn yn

llwyddo i ddod yn ail yn Ornest y Badminton yn y Chwaraeon Cenedlaethol.

Mae'r tri Is-bwyllgor yn hynod o brysur yn flynyddol: Mae Is-bwyllgor Iaith a Gofal yn ceisio

codi arian i drosi nofel/au Cymraeg i Braille - mae tua £500.00 wedi dod i law. Mae'r Isbwyllgor

Celf a Chrefft yn gymorth mawr wrth annog rhai i gymryd rhan yn Sioeau

Llanelwedd a'r Sioe Sir - hefyd mae cael arbenigedd Mim yn help mawr wrth iddi gynnal

gwahanol weithdai i baratoi’r aelodau sydd yn awyddus i gystadlu. Diolch hefyd am yr Is-

23
wyllgor Chwaraeon gweithgar sydd bob mis Medi yn trefnu'r dyddiadau ar gyfer yr ornestau

rhanbarthol. Mae'r pwyllgor yma yn trefnu taith gerdded yn flynyddol hefyd - ac un noson

arbennig yn eu calendr yw'r 'Noson Bowlio Deg' - sy'n llwyddo i ddenu dros gant o aelodau i

gymryd rhan. Dyna rwy’n credu oedd prif bwyntiau ein rhanbarth ni - nid yw'r gofod yn

caniatáu i mi ddweud rhagor!

RHANBARTH MÔN

Bu aelodau Merched y Wawr Môn yn brysur yn ystod y flwyddyn a aeth heibio yn cynnal

gweithgareddau yn lleol ac yn genedlaethol. Cymerodd 16 o dimau ran yn y Cwis Hwyl ym

mis Tachwedd. Cynhaliwyd gwasanaeth carolau yn Llangefni, yr elw o £375 yn cael ei

drosglwyddo i gymdeithas clefyd ‘Motorneurone’.

Croesawyd Mrs. Mary Price i bwyllgor rhanbarth mis Ionawr. Yn ystod ei hymweliad

cyflwynodd dusw o flodau i Jane Owen a enwebwyd gan ei changen yng nghystadleuaeth

Syrpreis, Syrpreis, cylchgrawn ‘Y Wawr’, aelod ffyddlon sydd wedi rhoi gwasanaeth

clodwiw i’r mudiad ers ei gychwyn. Cafwyd achlysur arbennig i ni ym Môn pryd y bu Mrs.

Mary Price ein Llywydd Cenedlaethol gyda Mrs. Marged Jones ein Llywydd Anrhydeddus yn

dadorchuddio plac er cof am Miss Gwyneth Evans ein Llywydd cyntaf ym mynwent Salem,

Bryngwran.

Cyfraniad rhanbarth Môn i Rhialtwch y Rhuddem yn y Bela oedd Sioe Ffasiwn dros y

deugain mlynedd diwethaf. Cafodd ambell aelod wisgo dillad ffasiynol am yr eildro yn eu

hanes. Cafwyd diwrnod i’w gofio.

Ym mis Mehefin cynhaliwyd y daith gerdded flynyddol, tro hyn yn ardal Moelfre a sicrhawyd

elw o £2,127 er budd apêl Cancr yr wygelloedd. Ymunodd Gwyneth M. Jones Cyn Lywydd

Cenedlaethol ag aelodau ar y daith gerdded genedlaethol yn y Dingle, Llangefni a chafwyd

picnic i ddilyn. Bu cynrychiolaeth o gangen Maelog yn Sioe Llanelwedd am y tro cyntaf ers

rhai blynyddoedd. Bu amryw o’r aelodau yn gweini ym mhabell Merched y Wawr yn Sioe

Môn ym mis Awst. Cafwyd arddangosfa o luniau a dillad o’r blynyddoedd a fu.

Llawenydd yw cofnodi fod Clwb Gwawr wedi ei ddechrau yng Nghaergybi, Clwb Lawd, ond

yn anffodus daeth un clwb a dwy gangen i ben ar yr ynys ond mae amryw o’r aelodau wedi

ymuno â changhennau eraill.

Cafwyd cynrychiolaeth o’r rhanbarth yng Ngŵyl y Pum Rhanbarth, Cinio’r Llywydd yn y

gogledd a’r Penwythnos Preswyl. Cafwyd llwyddiant ym myd chwaraeon, Margaret Môn

Jones a Jenny Fleck o gangen Amlwch yn gyntaf yn y dominos a Margaret Jones, cangen

Cemaes yn gyntaf yn y golff.

Diolch i swyddogion cenedlaethol am eu cymorth a’u cefnogaeth inni yn y rhanbarth yn ystod

y flwyddyn a aeth heibio.

RHANBARTH PENFRO

Yn anffodus, rhaid dechrau’r adroddiad hwn eleni ar nodyn trist, sef ein colled fel rhanbarth

ac yn wir yn genedlaethol, ym mherson y diweddar Eirlys Peris Davies. Fel y gwyddoch,

roedd Eirlys yn berson llawn bwrlwm ac afiaith, yn ifanc ei meddylfryd, ac yn frwd tu hwnt o

gefnogol i’r ‘pethe da’. Mae’n anodd credu ei bod wedi cael ei chymryd mor annisgwyl o

ganol ei gwaith, fel petai. Ar nodyn personol, rydw i wedi colli ffrind da a theyrngar, a oedd

yn gwmni bendigedig. Ar raddfa sirol, teimlaf ein bod wedi colli arweinyddes gadarn ei barn,

a gweithwraig ddiflino dros y mudiad. Mae Cymru’n dlotach o’i cholli.

24
Os bu’r flwyddyn 2005/2006 yn llawn bwrlwm, gallaf eich sicrhau chi bod y flwyddyn olaf

yma wedi bod yn orlawn o waith caled, ond gwaith pleserus iawn.

Mae’r cyfarfodydd rhanbarthol yn cael eu mynychu’n dda, a gwelir cydweithio’n hwylus

rhwng y swyddogion, y cynrychiolwyr a’r aelodau. Diolchwn i’n Swyddog Datblygu,

Elizabeth Evans am fod yn gefn inni drwy’r amser. Penderfynwyd dychwelyd at yr hen drefn

o ymweld â’r gwahanol ganghennau i gynnal ein pwyllgorau, ac yn ystod 2006/2007

cynhaliwyd cyfarfodydd yn Ffynnongroes, Mynachlogddu, Trefdraeth a Tegryn.

Mae’r canghennau yn eu tro yn darllen y ddau bapur bro ‘Clebran’ a’r ‘Llien Gwyn’ ar dâp at

wasanaeth y deillion, - gwasanaeth amhrisiadwy - gallaf dystio’n bersonol i hyn, oherwydd fy

mod wedi profi droeon y pleser a gaiff mam sy’n rhannol ddall o wrando ar y tâp.

Cynhaliwyd y Cwis Hwyl yng Nghaffi Beca, Efailwen ym mis Tachwedd a dymunwn fel

rhanbarth longyfarch cangen Beca am ddod yn gyntaf ar raddfa sirol, a changen Bro Radyr,

Caerdydd am ennill yn genedlaethol.

Efallai bod rhai ohonoch yn barod yn gwybod hanes merched Sir Benfro ynglŷn ag anfon

defnyddiau allan i Lesotho at waith yr ‘Homemakers’ - wel, rydyn yn ffodus iawn fel

rhanbarth, bod Annie Washbrook, sy’n byw ger Trefdraeth wedi rhoi yn ddi-dâl, fwndeli ar

fwndeli o ddefnyddiau amrywiol i ni. Yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn, bu’r swyddogion

yn brysur dros ben yn cysylltu ag asiant Rae Castro, sydd wedi bodloni ymgymryd â’r gwaith

o’u hanfon allan. Rydw i’n hynod falch o gael dweud o’r diwedd ein bod wedi llwyddo trwy

garedigrwydd ‘Frenni Transport’, cwmni lleol, i wireddu breuddwyd fawr Eirlys, a bod y tri

‘pallet’ ar eu ffordd i Lesotho.

Cafwyd cinio dathlu bythgofiadwy yng Ngwesty Nantyffin, Llandysilio, nos Wener, 23

Mawrth a braf oedd cael cwmni Elizabeth Evans, Tegwen Morris a Mary Price. Roedd yr

ystafell wedi ei haddurno’n bwrpasol ar gyfer yr achlysur, a’r merched wedi eu gwisgo mewn

dillad coch! Roedd yn olygfa hardd iawn.

Mwynhawyd y daith gerdded o amgylch llyn Llys y Fran, a’r tywydd yn garedig a neb llai

na’n hannwyl Eirlys yn croesawu’r cerddwyr.

Yn ystod y Pasg cynhaliwyd noson ‘Bingo’ rhanbarthol yng Nghlwb Rygbi, Crymych. Bu’r

noson yn llwyddiannus iawn gyda llawer o wobrau i’w hennill. Digon o sbort a sbri, a

chymdeithasu gogoneddus! Diolch i gangen Crymych am drefnu’r gweithgaredd a

throsglwyddo’r elw i goffrau’r rhanbarth.

Cafwyd gwefr o fod yn bresennol yng ngweithgareddau ‘Dathlu’r Deugain’ yn Ysgol y

Berwyn, Bala ym mis Mehefin. Mwynhaodd merched Penfro gyfrannu ar y diwrnod wrth

berfformio’r eitem Pwnc - er bu ychydig bach o ofid a sawl ymarfer i berffeithio ar y cydsymud

a chyd-leisio! Diolchwn i Nan Lewis am fod wrth law i’n cefnogi ni.

Llongyfarchwn May Jenkins, cangen Hwlffordd am dderbyn cydnabyddiaeth ‘Syrpreis,

Syrpreis’ sef cystadleuaeth ‘Y Wawr’. Aelod sy’n llawn haeddu’r clod. Da iawn May.

Symudwn ymlaen i Sioe Amaethyddol Llanelwedd gyda’r holl fwrlwm sy’n ynghlwm wrthi.

Gaf i ddatgan ar ran y rhanbarth ein diolch i’r grŵp gweithgar o dan arweiniad a llygad craff

Glenys Davies, am y gwaith gwych a welwyd ar wal stondin y mudiad. Rydw i’n siŵr, y

gwnewch chi gytuno bod yr arddangosfa yn glod i’r rhai a fu wrthi’n llafurio mor ddygn.

Edrychwn ymlaen am flwyddyn o gymdeithasu hwylus o dan lywyddiaeth Elizabeth John.

25
ADRODDIADAU’R SWYDDOGION DATBLYGU

SWYDDOG DATBLYGU Y DE-DDWYRAIN A GORLLEWIN MORGANNWG

Malvina Ley

Ym mis Medi cefais gyfle i wasanaethu ym Mhenwythnos Preswyl Llanbedr Pont Steffan.

‘Roedd yn braf bod yn ôl mewn lle cyfarwydd wedi profiadau penwythnos Caerdydd.

Dechrau blwyddyn Dathlu’r Deugain oedd hi ac edrychem ymlaen yn eiddgar at nifer o

ddigwyddiadau cyffrous. Buom yng Ngerddi Botaneg Cymru yn Llanarthne ar brynhawn

Sadwrn y Penwythnos mewn haul tanbaid. ‘Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr ac yn troi

am adre gyda bag o ddeugain o fylbiau Cennin Pedr i’w plannu i gofio’r achlysur.

Cefais y fraint o ymweld â changen Merthyr nes ymlaen yn y mis a hefyd cael y cyfle i gynnal

sgwrs â rhai o ddysgwyr cangen Tonysguboriau er mwyn iddynt ymarfer a gloywi eu

Cymraeg.

Cynhaliwyd wythnos Cymraeg yn Gyntaf ym Mhontardawe ym mis Hydref a chynhaliwyd

taith gerdded o gwmpas yr ardal gan Nest Davies, Cangen Pontardawe. Mynychais y Cwis

Hwyl yn Aberafan gyda Rhanbarth Gorllewin Morgannwg. Bu’n ddathliad o lwyddiant

Eisteddfod Genedlaethol Abertawe hefyd ac yn gyfle i ddiolch i Catrin Stevens am ei holl

waith ynglŷn â’r Eisteddfod. ‘Roedd yn gyfle i’r aelodau weld baner newydd hardd y

rhanbarth a wnaethpwyd gan Esyllt Jones a Mary Jones. Bu dathlu mawr yn Rhanbarth Y Deddwyrain

wrth i aelodau tîm cangen Bro Radur sef Glenys Thomas, Rhiannon Alun Evans a

Heulwen Jones ennill y cwis yn genedlaethol.

Cynhaliwyd cyfarfod o gynrychiolwyr rhanbarthau’r gogledd o’r Is-bwyllgor Gŵyl a

Hamdden yn Llanrwst i ddewis cystadlaethau Sioe Llanelwedd 2008. ‘Roedd yn gyfarfod

bywiog a chawsom lawer o syniadau ardderchog. Bûm yn gwasanaethu yn Y Ffair Aeaf.

Calendr Adfent a Chardiau Nadolig oedd y ddwy gystadleuaeth a safon y gwaith yn uchel eto.

Profiad newydd oedd cynorthwyo Swyddog y Clybiau Gwawr ar daith Groto Plant Bach S4C.

Mynychais Wasanaeth Carolau rhanbarth Y De-ddwyrain, Cinio Nadolig Cangen Treforys a

chwrs crefft rhanbarthau’r de yn Llwyngwair.

Ym mis Mawrth bûm yn cynorthwyo Menter Iaith Abertawe a Menter Castellnedd/Port

Talbot ag ymgyrch “Kids Soak It up” Bwrdd yr Iaith. Ym mis Ebrill mynychais Noson Goffi

Rhanbarth Y De-ddwyrain ym Mhentyrch. Cynhaliwyd Taith Gerdded gan Ranbarth

Gorllewin Morgannwg yn Aberafan a chynhaliwyd cystadleuaeth ranbarthol Sioe Llanelwedd

2007. Mynychais ymarferion Pasiant Y Dathlu y ddau ranbarth. Cefais lawer o bleser yn

paratoi Llyfr Lloffion i Orllewin Morgannwg. Mynychais gynhadledd Cymdeithasau

Gwirfoddol Cymru yn Abertawe a chyfarfod Ombwdsman Cymru yng Ngholeg Y Drindod.

Mynychais lansiad DVD newydd Bron Brawf Cymru yng Nghaerdydd a braf oedd gwybod

bod yna gopi Cymraeg ar gael i bawb. Bu aelodau Rhanbarth Y De-ddwyrain yn cymryd rhan

yn Ŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008. Rhaid llongyfarch aelodau

Rhanbarth Gorllewin Morgannwg ar ennill y drydedd wobr yng nghystadleuaeth Sioe

Llanelwedd 2007. Trist iawn ym mis Gorffennaf oedd mynychu angladd Mair James,

Llandeilo - un a roddodd wasanaeth hir a chlodwiw i’r Is-bwyllgor Celf a Chrefft, Sioe

Llanelwedd ac yn wir i Gymru. Mawr yw’r golled ar ei hôl.

Braint oedd cael gwasanaethu yn holl ddathliadau Dathlu’r Deugain - yng Nghinio’r Llywydd

yn y De, Dathlu’r Deugain yn Y Bala, Sioe Llanelwedd ac Eisteddfod Genedlaethol Y Fflint.

Bûm yn gwasanaethu ym Mhicnic Rhanbarth Gorllewin Morgannwg a chawsom brynhawn

arbennig iawn, diolch i’n gwestai Catrin Stevens, a nifer fawr o aelodau’r rhanbarth a oedd

wedi dod ynghyd i fwynhau cwmni ei gilydd a rhannu profiadau deugain mlynedd.

26
Wrth i’m cyfnod fel Swyddog Datblygu ddirwyn i ben, hoffwn fynegi fy niolch didwyll iawn

i bawb sydd wedi bod yn gymaint o help i mi dros y blynyddoedd. Mae fy nyled i Tegwen a

staff y Ganolfan yn anfesuradwy, maent wedi bod yn wych. ‘Rwy’n gwerthfawrogi cwmni’r

Swyddogion Datblygu eraill hefyd, mae wedi bod yn bleser mawr i gydweithio â nhw.

‘Rydw’i wedi cael y fraint o gydweithio â phedair Llywydd Cenedlaethol a’r bedair yn gadarn

eu cefnogaeth a’u cyngor. ‘Rydw’i wedi mwynhau yn fawr fy ngwasanaeth i’r Is-bwyllgor

Gŵyl a Hamdden. Bu’r cymorth a’r gefnogaeth gan nifer o bobl yn cynnwys aelodau a

ffrindiau yn rhyfeddol ac mi fyddai’r gwaith wedi bod yn amhosibl hebddynt. Rhaid hefyd

canmol swyddogion medrus ac ymroddgar y canghennau a’r rhanbarthau, mae wedi bod yn

fraint cyd weithio â nhw i gyd. ‘R wy’n edrych ymlaen yn awr at bwyso ‘nôl a mwynhau holl

weithgareddau’r Mudiad fel o’r blaen.

SWYDDOG DATBLYGU GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU

Anwen Williams

Bu’r flwyddyn a aeth heibio yn flwyddyn brysur ac arbennig mewn sawl ystyr yn sgil

“Dathliadau’r Deugain”, a chafwyd digwyddiadau cofiadwy yn Rhanbarthol a Chenedlaethol.

Ym mis Medi pleser fu gwasanaethu yn y Penwythnos Preswyl yn Llanbedr Pont Steffan

unwaith eto. Yn yr Hydref bûm yn cydweithio â staff Menter Iaith Sir Ddinbych a Wrecsam

yn cynorthwyo gyda threfniadau Wythnos Cymraeg yn Gyntaf oedd i’w cynnal yn Ninbych a

Rhos.

Yn Ninbych cafwyd bore coffi pur llwyddiannus yn Neuadd y Dref lle bûm yn gwerthu

nwyddau’r Mudiad a chael cyfle i rannu gwybodaeth.

Ceisiwyd cyfuno gweithgareddau yn Y Rhos gyda chyhoeddusrwydd yr Ŵyl Gerdd Dant a

oedd yn cael ei chynnal yno ym mis Tachwedd. Hefyd bûm yn cydweithio â Menter Iaith a’r

partneriaid i drefnu bore o amrywiol weithgareddau yn Llanarmon Yn Iâl lle mae’r nifer o

Gymry Cymraeg yn lleihau, a gwir gonsyrn am y sefyllfa yno. Braf eto eleni oedd cael

llongyfarch aelod o gangen Llanrhaeadr, rhanbarth Glyn Maelor a fu’n llwyddiannus yng

gystadleuaeth crefft yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd sef Carol Williams - a ddaeth yn gyntaf

ac yn ail am lunio cerdyn Nadolig, a diolch i bawb arall a fu’n cystadlu. Bûm yn ymweld â

changhennau’r Groes a Rhuthun, a chefais y fraint o ymuno â changen Llanfair Dyffryn

Clwyd ym mis Tachwedd i “Ddathlu’r Deugain” a chyflwyno crynodeb byr o hanes

dechreuad y Mudiad yn Y Parc.

Bu’r Cwis Hwyl yn llwyddiant eto lle y daeth nifer dda iawn o’r aelodau ynghyd yn y ddau

ranbarth i gymryd rhan, ac eleni ymunais â Rhanbarth Glyn Maelor yn y Clwb Golff yn

Ninbych. Mynychais Yr Ŵyl Gerdd Dant yn Y Rhos ym mis Tachwedd lle y bûm yn

gwerthu nwyddau a chael cyfle i rannu gwybodaeth am y Mudiad.

Pleser fu cael trefnu gwasanaeth Llith a Charol ar ddechrau Rhagfyr yn y ddau ranbarth y

naill yng Nghapel y Dyffryn Llandyrnog a’r llall yng Nghapel Mynydd Seion Abergele.

Cafwyd dwy noson gofiadwy gyda naws arbennig iddynt, a chafwyd cyfle ar y diwedd i gael

sgwrs a chymdeithasu dros baned a mins peis. Hoffwn ddatgan fy niolch diffuant i bawb am

eu cyfraniadau i’r noson a’u cymorth parod gyda’r paratoadau a’u rhoddion hael i’r ddwy

Elusen Gwasanaeth Cymorth i Fenywod, a dwy Hosbis leol. Cyn y Nadolig ymunais gyda

Thaith Groto Planed Plant S4C yn Ninbych a Llangollen yn rhannu gwin tymhorol a rhannu

gwybodaeth am Glybiau Gwawr i famau ifanc. Oherwydd y tywydd anffafriol bu’n rhaid

gohirio rhai lleoliadau. Mynychais bwyllgorau Staff/Swyddogion Aberystwyth, Is bwyllgor

Iaith a Gofal a’r pwyllgor Rhyngranbarthol. Mynychais bwyllgor pabell Merched y Wawr

Sioe Dinbych a Fflint, cyfarfodydd Partneriaith Menter Iaith, Cyfarfod Blynyddol Menter

Iaith, pwyllgorau'r ddau ranbarth, dosbarthiadau dysgwyr, pwyllgorau pabell Y Dysgwyr

27
Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug, Pwyllgor blynyddol Ffermwyr Ifanc, Pwyllgor yr

Urdd, Pwyllgor trefnu Gŵyl Ranbarth Glyn Maelor.

Pleser oedd croesawu ein Cyfarwyddwr Tegwen Morris a’r Llywydd Cenedlaethol Mary

Price i’r pwyllgor Rhanbarth yng Ngholwyn a Glyn Maelor yn yr Hydref. Diolch i holl

swyddogion y canghennau a’r rhanbarthau am eu dycnwch, eu dyfalbarhad a’u gwaith caled

bob amser.

Bu cyfnod y Gwanwyn a’r Haf yn un hynod o gyffrous a phrysur eleni yn sgil “Dathliadau’r

Deugain”, a chafwyd digwyddiadau cofiadwy a diddorol yn rhanbarthol a Chenedlaethol. Y

prif weithgaredd a chyfrifoldeb oedd paratoi a chroesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r

Wyddgrug ym mis Awst a chafwyd cydweithio hapus rhwng swyddogion ac aelodau'r ddau

ranbarth sef Colwyn a Glyn Maelor i sicrhau llwyddiant Y Babell. Hefyd cafwyd nifer o

weithgareddau eraill yn lleol, rhanbarthol a Chenedlaethol a chefais lawer o bleser a

mwynhad yn mynychu, cynorthwyo a threfnu.

O ran gweithgareddau cenedlaethol cynhaliwyd Cwrs Crefft yn Llysfasi. Bu’r Cinio’r

Llywydd yn y Ganolfan Gynhadledd yn Llandudno. Braf oedd croesawu nifer fawr o’r

aelodau a’n gwraig wadd sef Nerys Jones o Faldwyn ac adloniant gan grŵp ifanc o Fro Ddyfi.

Mynychais y Cyfarfod Blynyddol ym Machynlleth ym mis Mai, a braf oedd cael bod yn rhan

o’r bwrlwm cystadlu a’r gweithgareddau gydol y dydd. Carwn longyfarch canghennau

Bryneglwys a Llandegla ar ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth Llyfr Lloffion a chlod

uchel i gangen Uwchaled. Daeth cangen Abergele yn drydydd yn y gystadleuaeth Adloniant.

Yn y cystadlaethau chwaraeon daeth Rhuthun yn gyntaf yn y Chwist; Tenis Bwrdd -1af: Tîm

Rhanbarth Glyn Maelor - 3ydd: Llangwm, Badminton -1af : Dinbych; Dewis Dau Ddwrn -

3ydd: Pentrefoelas Diolch hefyd i’r holl aelodau eraill fu’n cystadlu.

Cafwyd diwrnod gwych yn Y Bala ar ddechrau Mehefin pan berfformiwyd “Pasiant Y

Dathlu” yn Ysgol Y Berwyn, a’r Gymanfa Ganu yng Nghapel Tegid i ddilyn. Pleser oedd

cael bod yno yn cynorthwyo a chymryd rhan fel arweinydd côr Rhanbarth Colwyn. Ymunais

â Rhanbarth Colwyn ar eu taith gerdded genedlaethol ar y glannau o Abergele i Landdulas.

Taith ddiddorol a chwmni difyr gyda phicnic blasus a chacen Y Dathlu ar ddiwedd y daith

(diolch i Diane y Llywydd!) Bu Rhanbarth Glyn Maelor yn cerdded hefyd yn ardal Maesglas

Treffynnon a chael pnawn pleserus.

Mynychais y Sioe yn Llanelwedd, a bu nifer dda o’r aelodau yn cystadlu yno yng

nghystadlaethau’r Mudiad Yr uchafbwynt mwyaf i’r ddau ranbarth eleni oedd croesawu’r

Eisteddfod Genedlaethol i’r Wyddgrug ym mis Awst. Bu cryn baratoi a gweithio diwyd am

rai misoedd i sicrhau llwyddiant i’r Ŵyl. Bu’r babell yn fwrlwm gydol yr wythnos a

channoedd o ymwelwyr yn mwynhau croeso twymgalon Merched y Wawr. Cafwyd

arddangosfa arbennig o safon uchel o waith llaw unigryw nifer o aelodau o’r ddau ranbarth.

Llawer o ddiolch i’r swyddogion ac aelodau a fu’n gweithio’n ddiwyd ac yn fy nghynorthwyo

gyda’r paratoadau i sicrhau llwyddiant y babell. Hefyd llawer o ddiolch i’r holl aelodau a

fu’n cynorthwyo gyda’r bar te ac am eu rhoddion o GANNOEDD o gacennau cri!. Bu rhai

hefyd yn cynorthwyo ym mhabell Y Dysgwyr, yn cynnal Gweithdai Crefft, ac eraill yn

sgwrsio a chwarae gemau Iaith , diolch i bawb. Ar y dydd Mercher cafwyd perfformiad eto

o’r Pasiant (rhanbarthau’r Gogledd) ar lwyfan Y Brifwyl, a chael mwynhau Te Mefus wrth

feini’r Orsedd. Mae’n siŵr mae’r “syrpreis” mwyaf oedd deall fod y babell wedi ennill y

wobr gyntaf am y babell orau yn y sector gwirfoddol a derbyniwyd tlws Sefydliad Y Merched

i’w dal am flwyddyn

28
Mynychais bwyllgorau Staff a Llywio, Is bwyllgor Iaith a Gofal a Rhyngranbarthol yn

Aberystwyth, ac un yn Aberteifi , lle y bu’r Staff ac aelodau’r Pwyllgor Llywio yn ffarwelio â

Malvina Lay sydd yn ymddeol. Byddwn yn gweld ei cholli’n fawr fel cydweithwraig ddiwyd

a thrylwyr; mae fy niolch personol yn fawr iddi am bob cymorth a chyfarwyddyd a gefais

ganddi yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Diolch Malvina. Mwynhewch eich ymddeoliad!

Mynychais gwrs Iechyd a Diogelwch hefyd yn Aberystwyth.

O ran gweithgareddau rhanbarth mynychais bwyllgorau'r ddau Ranbarth ddechrau’r tymor.

Mynychais nifer o weithgareddau ym mhob rhanbarth. Trefnwyd bore Sadwrn llwyddiannus

i’r Dysgwyr ym mis Ebrill gan Ranbarth Colwyn yn cynnwys gemau a dawnsio gwerin, a

gobeithir trefnu un arall y flwyddyn nesaf. Mynychais y Cystadlaethau Chwaraeon yng

Ngholwyn a Glyn Maelor a chafwyd gornest frwdfrydig a nosweithiau llwyddiannus yn y

ddau Ranbarth.

Bu’r ddau Ranbarth yn “Dathlu’r Deugain” ym mis Mai gyda Sioe Ffasiynau. Nosweithiau

llwyddiannus a diddorol iawn; Colwyn gyda gwisgoedd priodas, hen a newydd, a Glyn Maelor

gyda dillad o wahanol gyfnodau. Cafwyd gŵyl Celf a Chrefft hefyd yng Ngholwyn ynghyd â

chystadlaethau Sioe Llanelwedd.

’Rwyf wedi ymweld â changhennau Bryneglwys, Rhuthun, Llangernyw a Phentrefoelas, a

phleser oedd cael cyfle i gynorthwyo ambell gangen gydag awgrymiadau a threfnu rhaglen.

‘Rwyf wedi mynychu cyfarfodydd ym Mhwllglas a Llanrwst gyda Ffion Hughes i drafod

sefydlu Clwb Gwawr yn yr ardaloedd.

Trefnwyd helfa drysor yng Ngholwyn gan y pwyllgor Chwaraeon yng Ngorffennaf.

Mynychais bwyllgorau Gŵyl Gerdd Dant Dyffryn Clwyd 2008, pwyllgorau Clwyd Sioe

Frenhinol Llanelwedd 2008. Mynychais Eisteddfod Llangollen gyda Phartneriaeth Sir

Ddinbych. Ymgyrch flynyddol codi ymwybyddiaeth o’r iaith ar Mudiadau Cymraeg.

Ddiwedd Awst bûm yn cynorthwyo a gwerthu nwyddau ym mhabell Merched y Wawr yn sioe

Dinbych a Fflint. Cafwyd diwrnod llwyddiannus eto eleni gydag arddangosfa wych o waith

cwiltio gan grŵp cwiltio Dyffryn Clwyd ac arddangosfa o waith yr aelodau fu’n cystadlu yn y

Ffair Aeaf a Sioe Llanelwedd.

SWYDDOG DATBLYGU CAERFYRDDIN

Yvonne Davies-Grodzicka

Cafwyd blwyddyn lwyddiannus a byrlymus gyda gweithgareddau yn digwydd ar draws

Cymru, i ddathlu penblwydd y mudiad yn ddeugain oed.

Mis Hydref ymunais â chynllun Gweithredu Iaith Rhydaman, wythnos o weithgareddau i bob

oed, sef bore coffi, taith cerdded, stondin ar y cei, eisteddfod dafarn. Cafwyd wythnos

bleserus.

Mis Tachwedd trefnodd pwyllgor Gŵyl a Hamdden ysgol undydd yn ysgol Nantgaredig.

Daeth tua hanner cant o aelodau ynghyd i fwynhau cyrsiau, sef gosod blodau, coginio a

ffotograffiaeth, bu’n ddiwrnod llwyddiannus unwaith eto. Bûm yn cynorthwyo gyda'r cwis

hwyl yn neuadd Bronwydd, daeth ugain tîm i gymryd rhan, cawsom noson hwyliog gyda

changen Geler a Chaerfyrddin yn gydradd gyntaf. Yna eto ym mis Tachwedd bu groto s4c ar

daith o amgylch Cymru, bûm yn cynorthwyo yn Llandysul a Rhydaman, cawsom ymateb da

yn Llandysul, ond oherwydd y tywydd glawiog, ni chawsom gystal ymateb yn Rhydaman.

Cafwyd noson ddifyr yng nghwmni dysgwyr a changen cyd gyda'r aelodau o'r gangen leol.

Ymwelais â chlwb gwawr Alltgafan i gyflwyno Ruth, buom yn son am weithgareddau mudiad

ac yn eu hannog i gymryd rhan.

29
Cefais y cyfle i ymuno yng nghinio llywydd y de, yng ngwesty Parc y Strade Llanelli. Y

siaradwraig wadd oedd Dr. Rosina Davies a chafwyd araith bwrpasol iawn ganddi ar sut i

fwyta'n iach a chadw'n heini. Bu criw dawnus o goleg y Drindod yn ein diddanu.

Uchafbwynt eleni oedd croesawu Eisteddfod yr Urdd i Gaerfyrddin a chynhaliwyd yr

eisteddfod ar faes sioe'r tair sir. Cafwyd eisteddfod lwyddiannus iawn gydag arddangosfa

wych gan Merched y Wawr a'r Clybiau Gwawr. Bu'r babell yn brysur drwy'r wythnos gyda

llawer o ddiddordeb yn y smwddis. Daeth cyfle da i hysbysebu'r mudiad a'r clybiau drwy’r

cyfryngau wrth iddynt alw heibio gydol yr wythnos.

Ymunais yn yr Ŵyl haf yn Machynlleth fel arfer, yn cynorthwyo gyda’r chwaraeon. Braint

oedd ymuno gyda Rhialtwch y Rhuddem dathlu'r deugain yn y Bala. Cawsom ddiwrnod i'w

gofio gydag aelodau o bob rhanbarth yn cymryd rhan yn y pasiant yn ysgol y Berwyn a

chapel Tegid yn orlawn ar gyfer Dechrau Canu Dechrau Canmol. Ym mis Mehefin cefais y

cyfle i gynrychioli Merched y Wawr, diwrnod y chwiorydd yn yr Ardd Fotanegol. Unedau

Saesneg eu hiaith oedd y rhan fwyaf yno, felly mae'n bwysig i fudiadau Cymraeg i fod yn

rhan o'r dydd.

Mis Gorffennaf cynhaliwyd noson goffi gan bwyllgor Gŵyl a Hamdden i godi arian ac i

feirniadu cystadleuaeth erbyn sioe Llanelwedd. Mynychais bwyllgorau rhanbarth, gŵyl a

hamdden, staff, rhyngranbarthol, fforwm sirol a mentrau iaith.

SWYDDOG DATBLYGU CEREDIGION A PHENFRO

Elizabeth Evans

Cychwyn blwyddyn ym mis Medi gydag Is-bwyllgor Celf a Chrefft Ceredigion, Fforymau

Iaith Penfro yn Abergwaun a Cheredigion yn Felinfach, Pwyllgor Rhanbarth Penfro yn

Ffynnongroes a chynnal noson yng nghangen Genau’r Glyn. Mynychu’r Penwythnos

Preswyl yn Llanbed - tridiau difyr a phrysur a diwrnod i’w gofio yn y Gerddi Botanegol yn

Llanarthne. Ar ddiwedd y mis bod yn bresennol mewn cyfarfod i wahodd Eisteddfod

Genedlaethol yr Urdd i Geredigion yn 2010, mynychu Pwyllgor Rhanbarth Ceredigion a

chysylltu â nifer o aelodau parthed cymorth yn ystod Wythnos Cymraeg yn Gyntaf. Ymunais

â thrip blynyddol Celf a Chrefft Ceredigion, treulio orig yn Coed y Dinas ger Y Trallwng ac

ymlaen i Gaer. Mwynhaodd grŵp daith ar yr afon a thaith bws o amgylch y ddinas cyn

gwneud ychydig o siopa a throi am adre a swper ger Croesoswallt.

Yn ystod mis Hydref ymwelais â changhennau Bronant, Capel Newydd, Ffair Rhos, Bro

Cranogwen, Bro Ilar a Talgarreg. Mynychais Dydd Hunaniaeth Cymru a dilyniant i’r

rhaglen “Popeth yn Gymraeg” yn y Llyfrgell Genedlaethol, bore coffi Wythnos Cymraeg yn

Gyntaf yn Aberaeron a Phwyllgor Rhyngranbarthol y mudiad.

Bu cryn brysurdeb ym mis Tachwedd. Cynorthwyo Rhanbarth Ceredigion ar noson y Cwis

Hwyl yn Aberaeron a chynhaliwyd cwis Penfro yn Efail Wen fel arfer. Mynychais Isbwyllgor

Celf a Chrefft Ceredigion, cyfarfod cynrychiolwyr canghennau Penfro i gychwyn

trefnu ar gyfer Sioe Llanelwedd, cyfarfod “ Eich Cymuned, Eich Lles, Ceredigion 2020 a dau

bwyllgor rhanbarth, y naill yn Mynachlogddu a’r llall yn Aberaeron. Treuliais nosweithiau

hwyliog yng nghwmni canghennau Y Bryniau, Rhydypennau a Llwynpiod yn ogystal â

Phwyllgor Staff a hyfforddiant defnyddio camera digidol. Diwedd 2006 bu’r mudiad yn rhan

o daith Groto Planed Plant a chychwynnodd y daith ar ddiwrnod hynod o arw yn Abergwaun,

yna i Landysul ac yn olaf i Pentre Bach, Blaenpennal pan fûm yn cydweithio efo Ruth

Morgan, Swyddog Hyrwyddo’r Clybiau yn rhanbarthau’r de yn ogystal â Twf, Mudiad

Ysgolion Meithrin ac S4C.

30
Dechrau Rhagfyr mynychu Pwyllgor Llywio yn Aberystwyth, ymuno â changen Mynach a

changen Llanafan lle cafwyd noson arbennig yn eu cwmni hwy a changen Tregaron. Wedi

seibiant byr dros gyfnod y Nadolig ail afael ar bethau yn ystod Ionawr wrth ymuno â

changhennau Melindwr ac yna’r Garreg Wen a’r Bryniau gyda noson yng nghwmni’r

awdures Caryl Lewis. Cafwyd cryn hwyl hefyd pan fu cangen Mynach a Chlwb Gwawr y

Pennau yn ymgiprys yn yr Eisteddfod a gynhaliwyd ganddynt ar y cyd. Cafwyd dau gyfarfod

o’r Fforymau Iaith, Penfro yn Abergwaun a Cheredigion yng Nghanolfan Merched y Wawr

yn Aberystwyth.

Yn ystod Chwefror pump yn bresennol mewn cyfarfod o Bwyllgor Llywio Ymgyrch Coleg

Cymraeg Ffederal yn Aberystwyth, Pwyllgor Rhanbarth ac Is-bwyllgor Celf a Chrefft

Ceredigion, Pwyllgor Rhyngranbarthol, Pwyllgor Staff ynghyd â chael cwmni Mary Price, ein

Llywydd Cenedlaethol i Bwyllgor Rhanbarth Penfro yn Trefdraeth. Cefais wahoddiad i

ddiwrnod Gweledigaeth Castell Newydd Emlyn lle bu aelodau’r gangen yn cynorthwyo yn

ystod y dydd.

Bu misoedd Mawrth ac Ebrill yn hynod o brysur eleni gan gychwyn efo cynorthwyo ar

ddiwrnod cinio’r Llywydd yn y de yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli. Yna Noson

Agored Bwrdd yr Iaith yn Aberystwyth. Cyfarfod Cynllun Datblygu Gwledig 2007-2013,

Fforwm Ceredigion 50+ , Cynhadledd “ Plethu ein dyfodol” yn Rhosygilwen Penfro a chinio

dathlu’r deugain Penfro yng Ngwesty Nantyffin, Llandysilio. Roedd hon yn noson i’w chofio

pan gyflwynwyd “Syrpreis Syrpreis” i May Jenkins, cangen Hwlffordd am ei gwaith diflino

i’r mudiad a’r gymdeithas dros gyfnod maith. Yna Fforymau Iaith yn Llangrannog ac

Abergwaun, Pwyllgor Rhanbarth a Celf a Chrefft Ceredigion ynghyd â rowndiau rhanbarthol

y chwaraeon yn Llanina a Chrymych. Hefyd ymweld â changen Cylch Aeron ac ymuno â

Chlwb Gwawr y Pennau i gyflwyno tarian y diweddar Mair Kitchener Davies iddynt am

gynnydd aelodaeth yng Ngheredigion yn ystod y flwyddyn.

Dechrau Mai bûm yn cynorthwyo yng Ngŵyl Fai Ceredigion yn Llanbed lle cafwyd cystadlu

brwd a sicrhau cystadleuwyr i gynrychioli’r rhanbarth yn Sioe Llanelwedd. Diwrnod prysur

arall oedd y Cyfarfod Blynyddol a’r Ŵyl Haf yn Machynlleth a braf oedd gweld aelodau o’r

ddau ranbarth ymysg enillwyr yr amrywiol gystadlaethau a chael cyfle i longyfarch aelodau

Penfro ym mhwyllgor rhanbarth olaf y flwyddyn yn Tegryn.

Diwrnod prysur arall oedd y dathliadau yn y Bala - y pasiant a’r gymanfa lwyddiannus yng

ngwres hyfryd Mehefin. Cynhaliwyd taith gerdded ymhob rhanbarth ganol Gorffennaf. Bûm

yn cynorthwyo yng Ngheredigion trwy gerdded sawl llwybr ymlaen llaw yn Llanerch Aeron

gan sicrhau cerdded yr un mwyaf addas yn ôl y tywydd ar y diwrnod penodol. Cafwyd taith

bleserus, nifer wedi ymuno, y tywydd yn fendigedig a’r picnic a’r cymdeithasu yn

ddiweddglo gwych. Cafwyd taith lwyddiannus yn Llys-y-fran ym Mhenfro hefyd a phawb

wedi mwynhau.

Gan mai Penfro oedd y Sir nawdd yn Llanelwedd eleni bu’r aelodau yn brysur tu hwnt yn

paratoi paneli’r dathlu i’w harddangos ar safle’r mudiad yn Neuadd Morgannwg. Diolch i

gynllunwyr ac arweinyddion y prosiect ac i aelodau’r canghennau fu’n cynorthwyo i sicrhau

pedwar panel godidog ynghyd ag albwm cynhwysfawr o luniau. Caiff y paneli gartref

parhaol yn y Ganolfan Genedlaethol maes o law. Diolch diffuant i bawb am bob dim a

gyflawnwyd i sicrhau sioe lwyddiannus er gwaethaf y tywydd. Llongyfarchiadau i dîm

Penfro am ddod yn ail yng nghystadleuaeth yr arddangosfa ac i Nan Jones, Cylch Teifi am

ddod yn ail yn y gystadleuaeth gosod blodau. Ar nos Fercher y sioe cafwyd derbyniad ar y

safle i ddathlu’r deugain pan fu nifer o bartneriaid, ffrindiau a gweithwyr yn mwynhau orig o

31
gymdeithasu dros wydraid, lluniaeth ysgafn a chacen wedi ei gwneud yn arbennig gan Winnie

James o gangen Tegryn, Penfro.

Daeth y flwyddyn i ben ym mis Awst drwy gynorthwyo yn ystod y te mefus yn yr Eisteddfod

Genedlaethol yn yr Wyddgrug a phawb yn mwynhau yn heulwen odidog yr haf yng nghylch

yr Orsedd ar faes y brifwyl.

Ynghanol holl brysurdeb y dathlu bûm yn rhoi adroddiad misol ar ran y mudiad ar Radio

Ceredigion ac yn cyflawni gwaith gweinyddol a chadw cysylltiad agos â’r canghennau /

clybiau drwy alwadau ffôn ac ymweliadau. Yn ystod y cyfnod bûm yn casglu lluniau o’r

gorffennol er mwyn creu arddangosfa genedlaethol a hefyd lluniau arddangosfeydd

Ceredigion yn Sioe Llanelwedd ers 1979 ar gyfer eu harddangos noson dathlu’r deugain yng

Ngheredigion cyn diwedd 2007.

SWYDDOG DATBLYGU GOGLEDD ORLLEWIN CYMRU A MALDWYN-POWYS

Mim Roberts

Mynychais Ddawns Werin rhanbarth Meirionnydd a chafwyd noson llawn hwyl gyda’r

dysgwyr yn ein plith a oedd wedi ei drefnu gan yr is-bwyllgor iaith a gofal y rhanbarth.

Treuliais ddau ddiwrnod yng Nghaerdydd yn derbyn hyfforddiant gan Fwrdd Yr Iaith.

Gwahoddiad gan ranbarth Dwyfor i ginio i ddathlu Owain Glyndŵr yng ngwesty Mynydd

Ednyfed yng Nghricieth. Trefnais ddau lond bys, un o Fôn ac un o Ddwyfor ar gyfer y

penwythnos preswyl ac yna i lawr i Lanbedr Pont Steffan am benwythnos bythgofiadwy

unwaith eto gydag amryw o weithgareddau ar gyfer yr aelodau. Cefais wahoddiad gan

ranbarth Maldwyn-Powys i ginio yng ngwesty Fronoleu i anrhydeddu ein Llywydd

Cenedlaethol, Mary Price.

Roed ymgyrch y Mentrau Iaith ‘Cymraeg Yn Gyntaf’ yn dechrau dydd Llun Hydref 16 ac

roedd Merched Y Wawr yn trefnu paneidiau ar gyfer y dysgwyr. Hydref 16 - prynhawn coffi

yn Y Ganolfan Porthmadog gyda chymorth gan ganghennau Porthmadog, Cricieth a Golan;

Nos Fercher Hydref 18 - noson goffi yn Llanfyllin gyda chymorth gan ganghennau Llanfyllin,

Llanrhaeadr Y Mochnant a Llanwddyn; cangen Porthaethwy yn trefnu paned ar gyfer y

dysgwyr prynhawn dydd Iau.

Ymweld â changen Cyffordd Llandudno i arddangos llyfrau lloffion gyda phawb yn cymryd

rhan. Trefnodd cwrs crefft gan Is-bwyllgor Celf a Chrefft Arfon ym Methesda. Bu dau gwrs

y diwrnod hwnnw sef, cardiau cyfarch a llyfrau lloffion a phawb i’w weld yn mwynhau’r

profiad. Trefnodd rhanbarth Meirionnydd eu gŵyl rhanbarth flynyddol yng ngwesty Fronoleu

yng nghwmni Ceri a Morus a chafodd pedair aelod y fraint o gael trin eu gwallt gan y cwmni.

Diwedd y mis teithiais lawr i Gaerdydd yng nghwmni’r Gwyniaid am benwythnos gwych!

Bu Ffion a minnau yn Llangefni ar gyfer cyfarfod a drefnwyd gan Menter Iaith Môn a TWF

ynglŷn â threfniadau’r Groto ym mis Rhagfyr. Mynychais y pwyllgor staff ac yna ymweld â

changen Llanrhaeadr Y Mochnant i arddangos cardiau cyfarch. Mynychais bwyllgor

Rhanbarth Aberconwy ac ymweld â chlwb gwawr Dyffryn Tanat. Eleni ymunais â rhanbarth

Môn yn y Cwis Hwyl gyda nifer fawr yng ngwesty Bae Trearddur yn cymryd rhan. Ymweld

â changen Bro Ddyfi i arddangos llyfrau lloffion. Mynychu pwyllgor Gŵyl a Hamdden yn

Llanrwst ar gyfer dewis testunau Sioe Llanelwedd 2008. Mynychu pwyllgor Fforwm

Maldwyn. Unwaith eto trefnwyd noson Bowlio Deg (gan yr Is-bwyllgor chwaraeon) yng

Nglan-llyn ar gyfer rhanbarth Meirionnydd gyda changen Rhydymain yn fuddugol ac Alwen

Davies cangen Llanuwchllyn yn cipio’r wobr am y marciau uchaf ar y noson. Mynychu

pwyllgor rhanbarth Arfon a Dwyfor.

32
Ymunais â Ffion yn Y Trallwng ar gyfer y diwrnod cyntaf yn y gogledd o daith Groto S4C a

chawsom ymateb eitha da - pawb yn mwynhau’r gwin cynnes di-alcohol a’r plant wrth eu

bodd yn cael peintio eu hwynebau. Ymweld â changen Glantwymyn i arddangos cardiau

cyfarch. Cynorthwyo Ffion gyda thaith Groto S4C yn Y Bala. Mynychu pwyllgor Llywio

Cynllun Cymhathu ardal Penllyn yn Y Bala. Cynorthwyo Einir Wyn ym Mangor - taith

Groto S4C. Mynychu taith Groto S4C ym Mhwllheli.

Ym mis Ionawr mynychais gyfarfod Fforwm Maldwyn yn Y Drenewydd. Ymweld â changen

Y Ganllwyd i arddangos llyfrau lloffion. Cyfarfod Tegwen a Mary yn Ysgol Y Berwyn a

Chapel Tegid Y Bala ar gyfer trefniadau’r Pasiant. Bu Einir Wyn (Is-ysgrifennydd

Cenedlaethol) a minnau mewn trafodaeth o gynnal twrnament bowlio deg rhwng tri rhanbarth

sef, Meirionnydd, Arfon a Dwyfor. Cawsom ymateb gwych gan y tri rhanbarth ac fe aed

ymlaen i drefnu twrnament y rhanbarthau gyntaf. Roedd Meirionnydd eisoes wedi cynnal eu

twrnament rhanbarth ym mis Tachwedd a bu’r pum tîm gyda’r marciau uchaf yn cynrychioli’r

rhanbarth ddiwedd mis Chwefror. Arfon fu wrthi’n cystadlu yng nghanol mis Ionawr gyda

chwe thîm yng Nglasfryn ger Pwllheli a phawb wedi mwynhau’r noson yn fawr iawn gyda

changen Y Groeslon yn fuddugol. Yr wythnos ganlynol bu rhanbarth Dwyfor yng Nglasfryn

ac ymunodd 20 o dimau a chafwyd noson o gystadlu llawn hwyl a changen Mynytho yn

cipio’r wobr gyntaf. Ddiwedd mis Chwefror bydd 15 tîm (sef pum tîm o bob rhanbarth) o’r tri

rhanbarth yn ceisio ennill Tarian a noddwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru Meirionnydd.

Yn ystod mis Chwefror bûm yn paratoi’r lluniau ar gyfer yr arddangosfa fyddai’n cael ei

arddangos ym mhob gweithgaredd cenedlaethol a hefyd unrhyw ranbarth a fyddai am gael

defnydd o arddangos y lluniau. Bu’r ornest bowlio deg rhwng y tri rhanbarth - Arfon, Dwyfor

a Meirionnydd yn Glasfryn ger Pwllheli. Cafwyd cynrychiolaeth dda iawn o’r rhanbarthau,

sef 5 tîm o bob rhanbarth. Llanuwchllyn ddaeth i’r brig gyda Llaniestyn yn agos iawn. Mair

Roberts o gangen Llanuwchllyn enillodd am y marciau uchaf y noson. Mynychais isbwyllgor

celf a chrefft Aberconwy lle bu trefniadau ar gyfer y Ffair Haf yn cael ei drefnu.

Mynychais bwyllgor staff. Teithiais i Drawsfynydd gyda Ffion i sefydlu clwb gwawr yn yr

ardal a braf oedd gweld dros 20 ohonynt wedi troi allan.

Mynychais bwyllgor Cymhathu Penllyn yn Y Bala. Ymunais a changen Capel Garmon i

ddathlu Gŵyl Ddewi. Teithiais i Gaergybi hefo Ffion i sefydlu clwb gwawr yno.

Cynorthwyo yng nghinio Llywydd y Gogledd a oedd yn y Venue, Llandudno. Ymuno â

changen Y Groeslon i ddathlu 30 a chael gwledd a hefyd teulu Neigwl Plas yn ein diddori.

Mynychu pwyllgor rhanbarth Meirionnydd. Cefais wahoddiad gan ranbarth Môn i wasanaeth

i ddadorchuddio plac er cof am Gwyneth Jones ym Mryngwran ac yna mynychu’r pwyllgor

rhanbarth. Trefnais noson chwaraeon ar gyfer rhanbarth Arfon yn Neuadd Bethel, a chafwyd

noson llawn hwyl yn chwarae dartiau, dominos, chwist a dewis dau ddwrn. Mynychu

Fforwm Meirionnydd a phwyllgor arddangosfa eisteddfod yr Urdd yng Nghonwy. Mynychu

Fforwm Iaith Môn yn Llangefni. Mynychu diwrnod agored ‘Bwrlwm Eryri’ a chael cyfle i

wrando ar y gwaith mae’r bwrlwm yn ei wneud a hefyd cyfle i sgwrsio â gwahanol fudiadau a

busnesau lleol fynychodd y ffair yn ystod y prynhawn.

Mynychu pwyllgor rhanbarth Aberconwy. Trefnu cyfarfod ar gyfer ardal Pennal ynglŷn â’r

Sioe Sir a gynhaliwyd yn Nhywyn eleni. Ymuno â rhanbarth Meirionnydd yn ei noson

dartiau a dominos yn Neuadd Y Cyfnod. Mynychu’r cyrsiau crefft a gynhaliwyd yng ngholeg

Llysfasi a braf oedd gweld cymaint yn mynychu’r cwrs. Mynychu pwyllgor rhanbarth

Maldwyn-Powys.

33
Mynychu cyfarfod a drefnwyd gan y Sioe Sir yn Llanelltyd. Ymweld â chwaraeon rownderi

Meirionnydd yn Llanuwchllyn a mynychu cyfarfod blynyddol clwb gwawr Y Gwyniaid.

Cynorthwyo yng Ngŵyl y Pum Rhanbarth yn ysgol Friars Bangor a chafwyd diwrnod da

iawn yng nghwmni Mair Penri, Ifor ap Glyn a Geraint Lovegreen, criw o blant ifanc ‘Antur

Liwt’ o Ddinbych yn ein diddori ac i grynhoi’r prynhawn Gwenan Gibbard yn rhoi

cyflwyniad ar y delyn. Mynychu cyfarfod Fforwm Conwy yn Llanrwst. Ymweld â changen

Glanrafon a rhoi syniadau ar gyfer eu rhaglen. Ymweld â changen Llanuwchllyn. Trefnwyd

noson gan is-bwyllgor celf a chrefft Arfon sef arddangosfa o bob math o waith llaw yn

Nhregarth a chafwyd canlyniadau cystadlaethau Sioe Llanelwedd yr un noson a chyfle i weld

y llyfrau lloffion. Bûm yn cynorthwyo yn yr Ŵyl Haf a’r Cyfarfod Blynyddol unwaith eto

ym Machynlleth. Mynychu pwyllgor staff a chael hyfforddiant ‘Asesiad Risg’. Mynd gyda

Ffion i Gorwen i sefydlu clwb gwawr yn yr ardal. Ymweld â changen Y Bala.

Bûm yn cynorthwyo Tegwen dyddiau cyn y Pasiant yn Y Bala a hefyd yn cynorthwyo ar y

diwrnod. Mynychu Pwyllgor Llywio Cymhathu Penllyn ac ymweld â changen Harlech.

Mwynhau noson a drefnwyd gan ranbarth Arfon yn Mynydd Gwyrfai, Llanberis - noson yng

nghwmni beirdd adnabyddus a chael ychydig o win a siocled!! Trefnais gwrs Llyfr Lloffion

ar gyfer rhanbarth Môn. Mynychu pwyllgor rhanbarth Môn. Eleni yn Ffair Haf Aberconwy

cafwyd stondinau o bob math gan y canghennau ac i grynhoi’r noson cwmni Ceri a Morus yn

rhoi arddangosfa torri gwallt ar dair o’r aelodau. Trefnu cwrs Llyfr Lloffion rhanbarth

Meirionnydd yn Llanelltyd. Dathlu’r Deugain ym Mhortmeirion fu hanes rhanbarth

Meirionnydd a chafwyd gwledd fendigedig. Mynd ar daith gerdded Meirionnydd ar

brynhawn braf (taith gerdded genedlaethol).

Trefnu cwrs Llyfr Lloffion Colwyn yn neuadd Y Groes, Dinbych. Mynychu cyfarfod Ffair

Arianwyr ym Mhorthmadog a chael llawer iawn o syniadau ynglŷn â grantiau. Mynychu

cyfarfod a drefnwyd i groesawu Eisteddfod Genedlaethol Meirionnydd. Mynychu pwyllgor

Llywio a Staff. Sioe Sir Tywyn eleni - diwrnod gwych a llawer iawn o ganghennau wedi

cystadlu.

SWYDDOG HYRWYDDO CLYBIAU GWAWR Y DE

Ruth Morgan

Dechreuais yn fy swydd fel Swyddog Hyrwyddo Clybiau Gwawr y de ym mis Tachwedd

2006. Yn ystod yr wythnosau cyntaf bûm yn hyrwyddo’r Clybiau Gwawr mewn pum lleoliad

yn Ne a Gorllewin Cymru gyda Taith Nadolig (‘Groto’) S4C. Braf iawn oedd cael cwmni a

chefnogaeth Swyddogion Datblygu’r de ym mhob lleoliad, a dod i’w adnabod yn well. Yn

ystod y Daith Groto, cafwyd y cyfle i siarad â llawer o famau ifainc am y clybiau, a rhoddwyd

enwau a chyfeiriadau ar fas-data er mwyn cysylltu â nhw yn y dyfodol.

Dechreuais gysylltu ag ymweld gyda’r 13 Clwb Gwawr a oedd yn bodoli eisoes yn y de, yn

rhanbarthau Caerfyrddin a Cheredigion. Yn ystod y misoedd cyntaf roeddwn wedi cysylltu

gyda phob clwb a dechrau ymweld â rhai ohonynt. Roedd yn ddiddorol gweld rhaglenni’r

clybiau ac roedd bod yn bresennol yn ystod nosweithiau fel Cawl a Dawnsio Salsa yn

brofiad!

Yn ogystal â chefnogi ac ymweld â’r clybiau oedd yn bodoli eisoes, roeddwn yn gweithio

tuag at sefydlu clybiau newydd a dangoswyd diddordeb mewn sawl ardal. Y clwb newydd

cyntaf i mi ddechrau oedd Clwb Gwawr Dyffryn Aman, a wnaeth gwrdd yn y Mountain Gate,

Tycroes. Mewn ychydig wythnosau, dechreuais Clwb Gwawr Clychau’r Gôg. Roedd y clwb

yma yn cwmpasi’r ardal y tu allan i Gaerfyrddin (Bronwydd, Rhydargaeau, Peniel a

34
Llanpumsaint), â’r enw yn adlewyrchu adeg y flwyddyn dechreuodd y clwb. Braf oedd gweld

nifer sylweddol o fenywod ifainc yn awyddus i ddechrau'r clwb yma gan fod Clwb Gwawr

Caerfyrddin wedi cau rhai misoedd cyn i mi ddechrau fy swydd.

Roedd menywod ifainc o ardal Penybont a Phorthcawl wedi cysylltu yn ystod y gwanwyn yn

awyddus iawn i ddechrau clwb yn yr ardal yn yr hydref. Cefais drafodaeth gyda Menter Iaith

Castell Nedd Port Talbot ac roeddent hwythau yn awyddus i gynorthwyo i ddechrau clwb yng

Nghwm Tawe. Roedd diddordeb hefyd i ddechrau clwb wedi cael ei ddangos yn ardal

Abertawe. Roeddwn yn cydweithio gyda Bwrdd yr Iaith a sawl Menter Iaith wrth geisio

dechrau clybiau newydd ac roedd eu cefnogaeth yn gymorth mawr wrth geisio dechrau a

hysbysebu clybiau newydd. Roeddwn hefyd wedi hysbysebu’r bwriad o ddechrau clybiau

newydd ar Radio Cymru a’r Wasg leol yn yr ardaloedd hynny.

Yn fuan wedi i mi ddechrau’r swydd roeddwn yn ddigon ffodus i dderbyn grant o bron i

£5,000 oddi wrth Cyngor Sir Gaerfyrddin i farchnata Clybiau Gwawr. Dechreuwyd ar y

gwaith o farchnata a chodi proffil y clybiau yn Eisteddfod yr Urdd, Caerfyrddin, a threfnais

fod gwirfoddolwyr o holl Glybiau Gwawr Sir Gâr yn gwneud smwddis drwy’r wythnos.

Trefnais fod llawer o fusnesau lleol yn rhoi ffrwythau yn rhad ac am ddim i’r stondin.

Roeddwn hefyd wedi trefnu bod llawer o aelodau clybiau’r sir wedi cyfrannu crefftau tuag at

yr arddangosfa yn y babell. Prynwyd blychau arddangos gydag arian o’r grant er mwyn

dangos y crefftau. Dangoswyd diddordeb mawr gan y cyfryngau a bu sawl cyfweliad yn ystod

yr wythnos. Roeddwn wedi cyd-weithio gyda Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin ar

brosiect PACT a thrwy hyn, rhoddwyd arian tuag at gostau teithio gwirfoddolwyr y clybiau a

oedd wedi cynorthwyo. Mynychais Lansiad Mentrau Iaith Sir Gaerfyrddin yn yr Eisteddfod.

Mynychais sawl cyfarfod o Bwyllgor Rhanbarth Caerfyrddin i gael gwybod beth oedd

trefniadau pabell y mudiad yn Eisteddfod yr Urdd. Cefais groeso cynnes a chydweithrediad

gan lawer o’r swyddogion.

Roeddwn wedi gweithio yn yr Ŵyl Haf ym Machynlleth ar y 19eg o Fai ac ym Mhasiant

Rhialtwch y Rhuddem yn y Bala. Roedd yn brofiad hwylus iawn i fod yn aelod o Barti Dawns

Rhanbarth Caerfyrddin yn y Bala.

Roeddwn wedi ceisio annog aelodau’r clybiau i gystadlu yn y Cystadlaethau Crefft, a braf yw

nodi mai aelod o Glwb Gwawr Cwmann, sef Gwyneth Richards, oedd wedi ennill y

gystadleuaeth ffotograffiaeth yn Rhanbarth Ceredigion. Aelod o Glwb Gwawr Llanllwni oedd

un o’r unig ddwy oedd wedi cystadlu yng nghystadleuaeth petits fours Rhanbarth

Caerfyrddin, ac er iddi hi beidio a dod yn fuddugol, gallaf dystio i’r ffaith fod ei danteithion

yn ardderchog. Roeddwn hefyd wedi annog aelod o Glwb Gwawr y Gwendraeth i gystadlu

yn y ffotograffiaeth.

Roedd Taith Wanwyn S4C ym mis Mawrth a Thaith Hâf S4C ym Mehefin yn gyfle i

hysbysebu Clybiau Gwawr, ac fe ymunais gyda llawer o fudiadau eraill oedd hefyd â

stondinau ynddynt. Yn y gwanwyn, bues ym Mhenybont, Gwaun-Cae-Gurwen, Arberth ac

Aberteifi. Ym Mehefin bues yn yr Orendy yn Margam ac yn Neuadd Treletert, Sir Benfro.

Dangoswyd diddordeb mawr yn y clybiau yn llawer o’r mannau hyn, ac yn sicr gwnaethpwyd

cysylltiadau a fydd yn werthfawr i ddechrau Clybiau Gwawr mewn ardaloedd newydd yn y

dyfodol.

Parhawyd gyda’r gwaith o farchnata’r clybiau wrth wneud trefniadau ar gyfer Noson

Rhialtwch Clybiau Gwawr y de yng Nghlwb Nos y Waterside, Caerfyrddin ar Hydref 12fed

2007. Hysbysebwyd y clybiau o’r bwriad cyn yr haf, ac ar ddiwedd yr haf danfonwyd

gwahoddiadau i bob aelod o bob clwb yn y de. Cyd-weithiais gyda Chwmni Telem o Gastell

35
Newydd Emlyn i sefydlu Gwefan Clybiau Gwawr. Archebais fyrddau, cadeiriau, llieiniau,

bwffe, a.y.y.b. Cynigwyd i aelodau a oedd yn rhedeg busnesau neu a oedd eisiau mynd i

mewn i fusnes, i arddangos eu cynnyrch ar y noson. Cynigwyd i’r cyfryngau ddod ar y noson

a chafwyd ymateb bositif gan Rhaglen Geraint Lloyd, Radio Cymru.

Yn y cyfnod o dan sylw, mynychais Bwyllgorau Staff a Llywio a chyfarfod o Fforymau Iaith

Abertawe a Sir Gâr. Roeddwn wedi cyfarfod swyddogion Bwrdd yr Iaith Sir Gaerfyrddin a

Swyddog Sir Gaerfyrddin y Clybiau Ffermwyr Ifanc.

ADRODDIAD SWYDDOG HYRWYDDO CLYBIAU GWAWR Y GOGLEDD

Ffion Hughes

Ers cychwyn yn y swydd newydd hon ar y 1af o Dachwedd 2006, dechreuais roi trefniadau

mewn lle ar gyfer Taith Groto S4C. Roedd hynny’n cynnwys archebu’r gazebo, a’r paent i

beintio wynebau, cynllunio posteri a thicedi raffl, creu stensiliau ar gyfer y peintio wynebau,

trefnu’r hamper gyda Hybu Cig Cymru, hysbysu’r digwyddiad yn y Daily Post ac ar Radio

Cymru a mân drefniadau eraill yn ymwneud a chadw rheolaeth ar y stoc yn ystod y daith.

Bues i mewn chwech o’r lleoliadau yng Ngogledd Cymru, gan gael ymateb da iawn.

Yn y flwyddyn newydd cynlluniais holiadur ar gyfer dosbarthu o amgylch y Clybiau Gwawr

trwy Gymru, er mwyn cael ymateb i’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig. Trefnais i gael gwobr

gan Westy Portmeirion, sef noson o Wely a Brecwast i ddau berson, er mwyn troi’r holiadur

yn gyfle i ennill gwobr, yn y gobaith o gael digon o ymateb i’r holiaduron. Mae’r nifer o

ymatebion erbyn hyn yn ffafriol iawn, a bydd Ruth a minnau yn dadansoddi’r wybodaeth

wedi’r dyddiad cau, sef y 30ain o Fawrth.

Rwyf wedi ymweld â Chlybiau Gwawr y Gwyniaid, Glyndŵr, Glannau Llyfni a’r Lechen

Las, Rwyf wedi cyflwyno fy hun i’r aelodau, gan esbonio am weithgareddau Cenedlaethol.

Rwyf hefyd wedi sôn iddynt am y posibilrwydd o ymgeisio am grant “Arian i Bawb”, ac wedi

nodi fy mod ar gael i roi cymorth gyda hyn, neu ar unrhyw fater arall yn ymwneud a’r Clwb

a’r aelodau.

Yn dilyn yr ymateb yng Ngroto Bala fe ymwelais â chriw o ferched yn ardal Dolgellau ar y

1af o Chwefror, er mwyn sefydlu clwb newydd. Mae’r Clwb yn awr wedi ei sefydlu, ac rwyf

wedi llythyru â’r aelodau ac aelodau posib ynglŷn â’r gweithgareddau a drefnir dros y

misoedd nesaf.

Ymwelais â chriw o ferched yn ardal Caergybi ar yr 8fed o Fawrth, gyda’r bwriad o sefydlu

Clwb newydd. Yn dilyn fy ymweliad i Glwb Gwawr y Gwyniaid, cefais enwau / cysylltiadau

oddi wrth ferched oedd â diddordeb mewn sefydlu Clwb yn Corwen.

Rwyf wedi llythyru at yr enwau a gasglom dros y groto yn esbonio ym mha ardaloedd mae’r

Clybiau wedi ei sefydlu ac wedi gadael fy manylion cyswllt er mwyn iddynt gysylltu â mi, os

oes diddordeb, neu hyd yn oed os nad oedd Clwb i’w gael yn agos iddynt.

Yn anffodus yn weddol fuan wedi i mi gychwyn yn fy swydd, bues mewn cyfarfod yn

Llangefni, gyda chriw o ferched Clwb Gwawr Y Wariars, a oedd yn datgan ei bod am gau’r

Clwb, ond er hyn mae pethau i weld yn addawol iawn, gyda thipyn o ddiddordeb yng

Nghaergybi. Cawsom rhai syniadau gan y merched o Glwb Y Wariars, ynglŷn â

gweithgareddau i’w trefnu, ac mi fyddwn yn edrych ar y rhain eto yn y dyfodol.

Rwyf wedi mynychu’r cyfarfodydd isod:

� Pwyllgor Fforwm Môn

36
� Pwyllgor Fforwm Maldwyn x 2

� Cyfarfod Staff

Rwyf wedi mynychu’r cyrsiau hyfforddi isod:

� Cwrs 2 ddiwrnod ar dechnegau Hwyluso

� Cwrs ar ddefnyddio’r Camerâu digidol

Paratoais gais am grant i “Arian i Bawb” ar ran Clwb Gwawr y Pennau lle dwi’n aelod.

Rwy’n gobeithio cael ymateb i hyn erbyn diwedd mis Chwefror.

* Yn fuan ar ôl hyn penodwyd Ffion i’w swydd newydd yn Yr Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

37
CRYNODEB O STRATEGAETH MERCHED Y WAWR YN 2007/2008

1. Cynnal 3,000 o weithgareddau ar lefel leol yn rheolaidd gan geisio denu aelodau

newydd ac agor Canghennau a Chlybiau Gwawr newydd lle bo’r angen.

2. Cynnal pwyllgorau a gweithgareddau Rhanbarthol yn rheolaidd er mwyn sicrhau cysylltiad

rhwng lefel leol a chenedlaethol.

3. Cyflogi 6 Swyddog Datblygu, un yn y Gogledd-Orllewin a Maldwyn Powys, un yng

Nghaerfyrddin, un yn y De-ddwyrain a Gorllewin Morgannwg, un yn y Gogledd-Ddwyrain,

un yn De Powys ac un ym Mhenfro a Cheredigion, a dwy Swyddog Hyrwyddo'r Clybiau

Gwawr - un yn y De a’r llall yn y Gogledd: er mwyn:

• Hybu gweithgaredd y Mudiad

• Cynnal a chynorthwyo’r aelodaeth bresennol

• Denu aelodau newydd

• Sefydlu Clybiau Gwawr a Changhennau newydd

• Trefnu gweithgareddau a chael nwyddau newydd i greu incwm i’r Mudiad

4. Gweithredu Cyfansoddiad y Mudiad ac yn sgil hynny:

• Cynnal o leiaf 4 cyfarfod o Bwyllgor Llywio'r Mudiad

• Cynnal 2 gyfarfod o’r Pwyllgor Rhyngranbarthol

• Cynnal Cyfarfod Blynyddol ym mis Mai

• Parhau gyda’r 3 Is-bwyllgor cenedlaethol, i gwrdd o leiaf 2 waith y flwyddyn a

chynnal pwyllgorau ar y cyd yn ôl y galw.

5. Marchnata a hyrwyddo’r Ganolfan Genedlaethol.

6. Cynnal Penwythnos Preswyl cenedlaethol ym Mangor ar y thema Rhialtwch y

Rhuddem.

7. Trefnu rhaglen Penwythnos Preswyl 2008 ar y thema Doniau a Difyrrwch yn Llanbedr

Pont Steffan.

8. Cynnal Cystadleuaeth Radi Thomas - pedair eitem o grefft, a chystadleuaeth trefnu

blodau ar yr y thema ‘Hwn yw fy nyffryn i’ yn ystod Sioe Amaethyddol Llanelwedd

2008.

9. Cynnal Chwaraeon Cenedlaethol a chystadleuaeth adloniant - a chyflwyno tri thlws y

Dysgwyr, sgwrs ar dâp sain yn trafod ailgylchu a’r amgylchedd, ysgrifennu erthygl yn

mynegi barn ar yr amgylchedd a phoster yn cyfleu’r amgylchedd yn yr Ŵyl Haf ym

Machynlleth i’w drefnu gan y Pwyllgorau Cenedlaethol ar y cyd.

10. Cyhoeddi a dosbarthu 4 rhifyn o gylchgrawn Y Wawr.

11. Cyhoeddi Dyddiadur 2008 ac argraffu cardiau Nadolig 2007.

12. Trefnu stondinau yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Conwy; Sioe

Amaethyddol Llanelwedd (Clwyd) ac Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch.

13. Cynnal Cwis Hwyl Cenedlaethol.

14. Cynnal Cwrs Crefft Undydd yn y De a’r Gogledd.

15. Cynnal Cinio’r Llywydd yn y De a’r Gogledd.

38
ADRODDIAD YR ARCHWILWYR

I YMDDIRIEDOLWYR MERCHED Y WAWR

Yr ydym wedi archwilio’r adroddiadau ariannol ar dudalennau 24 i 28 a baratowyd ar sail

cyfrifo cost hanesyddol ac ar sail polisïau cyfrifo. Mae’r adroddiad yma wedi ei baratoi i’r

Ymddiriedolwyr. Ymgymerwyd ein gwaith archwilio fel ein body n gallu mynegi i’r

ymddiriedolwyr y materion hynny yr ydym angen eu mynegi iddynt yn Adroddiad yr

Ymddiriedolwyr ac i ddim pwrpas arall. I’r ehangder mwyaf ganiateir gan y gyfraith, nid

ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb heblaw am i’r Elusen a’r Ymddiriedolwyr am ein gwaith

archwilio, i’r adroddiad yma, nac am unrhyw farn a seliwyd.

Cyfrifoldebau ymddiriedolwyr ac archwilwyr

Yn unol â disgrifiad ar dudalen 1, eich cyfrifoldeb chwi fel ymddiriedolwyr yw paratoi

adroddiadau ariannol. Ein cyfrifoldeb ninnau yw rhoi barn annibynnol ar yr adroddiadau

hynny, yn seiliedig ar ein harchwiliad, a chyflwyno’r farn honno i chwi. Penodwyd ni fel

Archwilwyr dan Adran 43 o Ddeddf Elusen 1993 ac adroddwn yn unol â rheoliadau a wnaed

dan Adran 44 y Ddeddf honno.

Sail y farn

Cwblhawyd yr archwiliad yn unol â’r Safonau Archwilio a gyhoeddwyd gan y Bwrdd

Ymarferion Archwilio. Y mae archwiliad yn cynnwys astudiaeth, ar sail prawf, o dystiolaeth

sydd yn berthnasol i’r symiau a’r datganiadau sydd yn yr adroddiadau ariannol. Y mae hefyd

yn cynnwys asesiad o amcangyfrifon arwyddocaol a phenderfyniadau a waned gan yr

ymddiriedolwyr wrth baratoi’r adroddiadau ariannol ac asesiad o briodolwyd y polisïau

cyfrifo i sefyllfa’r elusen, o’u cymhwyso yn gyson a’u datgelu’n ddigonol.

Cynlluniwyd a chwblhawyd yr archwiliad mewn modd a’n galluogodd i dderbyn pob

gwybodaeth ac esboniad a oedd yn ein tyb ni yn angenrheidiol er mwyn i ni gael ein cyflenwi

â thystiolaeth ddigonol roi sicrhad rhesymol nad oes unrhyw gam ddatganiad materol o

ganlyniad i dwyll neu afreoleidd-dra neu gamgymeriad arall yn yr adroddiadau ariannol. Wrth

ffurfio barn rhoddwyd ystyriaeth i ddigonolrwydd cyffredinol cyflwyniadau gwybodaeth yn

yr adroddiadau ariannol.

Barn

Yn ein barn ni y mae’r adroddiadau ariannol yn rhoi adlewyrchiad cywir a theg o gyflwr

ariannol yr elusen ar 31 Awst 2006, yr adnoddau a ddaeth i mewn a chymhwysiad yr

adnoddau yn y flwyddyn yn diweddu bryd hynny, ac fe’i paratowyd yn gywir yn unol â

Deddf Elusen 1993.

Davies & John

Cyfrifwyr ac Archwilwyr Cofrestredig

12 Stryd y Frenhines

Aberystwyth

Ceredigion

1af o Fawrth 2007

39