12.07.2015 Views

Rhagfyr - Tafod Elai

Rhagfyr - Tafod Elai

Rhagfyr - Tafod Elai

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

EFAIL ISAFGohebydd Lleol:Loreen WilliamsGenedigaethLlongyfarchiadau i Phillipa a ChrisGriffiths ar enedigaeth yr efeilliaid MaxIolo ac Esme Rhiannon yn Ysbyty’rBrifysgol Caerdydd ar Hydref 13eg.Mae Mam­gu, sef Shelagh Griffiths,Heol y Ffynnon, wrth ei bodd gyda’rddau fach.CydymdeimloEstynnwn ein cydymdeimlad dwysaf iMrs Barbara Griffiths, Heol y Ffynnona’r teulu yn eu galar o golli gŵr, tad athad­cu. Bu Mr Trevor Griffiths yn waelei iechyd am gyfnod hir, a mawr fugofal Barbara a’r teulu amdano yn ystodei gystudd. Cafodd Trevor ei eni yn YRhondda ond roedd gwreiddiau’r teuluyng Nghei Newydd, Ceredigion. YnGymro Cymraeg, roedd ei ferch Ann ynun o’r disgyblion cyntaf pan sefydlwydYsgol Gynradd Gymraeg Garth Olwg.Bu Trevor yn gweithio i’r BwrddTrydan am saith mlynedd ar hugain cynsymud i weithio gyda Chyngor SirMerthyr Tudful. Rydym yn meddwlamdanoch fel teulu yn eich hiraeth.Gwellhad BuanDymunwn wellhad buan i Liz West,Nant y Felin, sydd wedi bod yn herciano gwmpas ar ffyn baglau ar ôl syrthio ynyr ysgol yng Ngarth Olwg.Merched y GarthBydd Côr Merched y Garth yn canu yngPriodasSarah a GarethAr ddydd Iau y 14eg o Awst priodwydSarah Unett, merch Gordon a GlenysUnett, Neyland Close, Ton­teg â GarethOwen Davies, mab Derek a HazelDavies, Penarth. Pridowyd yn neuadd ydref gan faer San Gimimgiano ynTuscany, yr Eidal. Laura Unett, chwaery briodferch oedd y forwyn ac EmilyDavies, nith y priodfab.Bu Sarah a Gareth yn byw ynBangalore, India am ddwy flynedd llebu Gareth yn gweithio’n dechrau cwmninewydd. Mae nhw nawr yn byw ymMhenarth hefo’i mab bach, DylanOwen. Llongyfarchiadau mawr i’r triohonynt gan y teulu, Mam, Dad a Laura.Tafod Elái Rhagfyr 2008 5Ngŵyl Nadolig Sain Ffagan nos Iau,Rhagfyr 4ydd a hefyd yng NghartrefDewi Sant, Pontyclun nos Lun, Rhagfyr15fed. Croeso cynnes i Gavin Ashcroftsydd wedi cymryd yr awenau felarweinydd y Côr. Nos Lun yw ein nosonymarfer erbyn hyn ac mae croeso iaelodau newydd ymuno â’r Côr ynfestri’r Tabernacl am chwarter i wytho’r gloch.Parti’r EfailBu aelodau Parti’r Efail yn cystadlu ynyr Ŵyl Cerdd Dant yn y Rhyl. Roeddyna gystadlu brwd a’r safon yn ucheliawn. Ymddangosodd Parti’r Efail ar yllwyfan (ac ar y teledu) mewn dwygystadleuaeth a chawsant y drydeddwobr yn yr adran alawon gwerin.Y TABERNACLMerched y TabernaclAr fore diflas glawog fe gychwynnoddrhyw ddeg ar hugain o wragedd TTabernacl ar daith i’r Ffair Nadolig gerChippenham. Gwnaeth y tywydd mo’ndigalonni gan fod y ffair dan do. Roeddyna ddigonedd o stondinau amrywiol i’ndenu a’n temptio i wario ein harian hebsôn am gyfle i gael coffi bach a theisen iorffwyso traed blinedig. Diolch Ros amdrefnu’r daith ac am sicrhau fod elw’rdaith yn cael ei gyflwyno i’r elusenWateraid.Ein cyfarfod nesaf fydd ein CinioNadolig yn y Llew Coch ymMhendeulwyn ar Ragfyr 9fed.Teulu TwmDiolch i Suzanne Rees am drefnu taith iaelodau Teulu Twm i Gaerfaddon ar y15fed o Dachwedd.Noson GymdeithasolNos Fa wr t h T a ch wedd 25aincynhaliwyd Noson Gymdeithasol ynMSc mewn YnniAdnewyddadwyLlongyfarchiadau gwresog i GethinWhite, mab hynaf Margaret a SteveWhite, Forest Hills, Tonysguboriau, arennill gradd MSc mewn YnniAdnewyddadwy a Rheolaeth Adnoddauo Brifysgol Morgannwg. Mae Gethin,sy'n byw ym Meisgyn, yn gweithio iGyngor Gofal Cymru.Neuadd y Pentref, Efail Isaf. Daeth niferfawr o aelodau a ffrindiau’r Tabernaclynghyd a chafodd pawb gyfle i brynuanrhegion Nadolig unigryw. Roedd ynoamrywiaeth o stondinau a chyfle i gaelsgwrs dros baned o goffi neu ddiodNadoligaidd a Mins Pei.Diolch i Gwerfyl Morse, Catrin Rees aLowri Roberts a’u ffrindiau am drefnu’rnoson hyfryd. Rhoddwyd elw’r noson ielusen Wateraid.Gwasanaeth Noswyl NadoligFe fydd y cyfarfod arferol ar Noswyl yNadolig am 11 o’r gloch yr hwyr yn ycapel. Cofiwch fynd ati i baratoieitemau unigol, teuluol neu fesul pentrefneu ardal er mwyn gwneud y noson ynun llwyddiannus. Croeso cynnes i bawb.Trefn yr oedfaon Rhagfyr 7fed oedfaGymun o dan ofal y GweinidogRhagfyr 14eg Oedfa Nadolig y plantRhagfyr 21ain Oedfa Nadolig TeuluTwmRhagfyr 28ain Y Parchedig CynwilWilliamsIonawr 4ydd Oedfa Gymun o dan ofalein GweinidogIonawr 11eg Y Parch Aled EdwardsIonawr 18fed Oedfa DeuluolIonawr 25ain Apêl De Affrica, YParchedig Tom DefisCYNNAL A CHADW GWAITHPLYMIO, GWRESOGI A NWY> GWASANAETHU BWILERI A THANAU> TYSTYSGRIFAU DIOGELWCH LANDLORD> ATGYWEIRIO PLYMIO A GWRESOGI> TRWSIO GOLLWNG DŴR A TORIADAU> GALWADAU BRYSGWASANAETH DIBYNNOLFfôn: 07859 001 482ebost: rbplumbing@hotmail.com

6 Tafod Elái Rhagfyr 2008DIWRNOD PLANT MEWN ANGENRoedd hi’n ddiwrnod o gyffro mawr yn yrysgol ar Dachwedd y 12fed wrth i bobplentyn wisgo fyny fel y cymeriad yroedden nhw am fod ar ôl tyfu fyny. Buambell un o’r athrawon yn ddigon dewr ifentro gwisgo fyny hefyd ­ yn eu plithroedd Wonder Woman! Bu’r plant wrthiyn ystod yr amserau chwarae hefyd yngwerthu cacennau ac yn cynnig adloniantcerddorol. Roedd hi’n bleser gallucyflwyno siec o yn agos iawn i £900 i“Blant Mewn Angen” ar ddiwedd y dydd.Diolch am ymdrechion a chyfraniad pawb.OPERATION CHRISTMAS CHILDDiolch hefyd i bawb a fu’n brysur ynllenwi bocsys esgidiau ag anrhegion i’whanfon drwy law “Operation ChristmasChild” i blant bach llai ffodus na ni.Cludwyd yn agos i 130 bocs i lawr i’rganolfan yn Nhonysguboriau.NOSON TÂN GWYLLTCafwyd noson lwyddiannus arall eleni etowrth i blant, rhieni a chyfeillion heidio i’rysgol i fwynhau gwledd o dân gwyllt….ac wrth gwrs, ambell i fyrger neu gi poeth!Diolch i Gyfeillion yr Ysgol am nosonwych eleni eto ac i bawb a fu’n estyncymorth.NOSON YN Y GADEIRLANAr Dachwedd y 24ain, cynhaliwydcyngerdd arbennig yn y Gadeirlan ynLlandaf i godi arian i elusen LATCH.Ysgol Plasmawr oedd yn gyfrifol amdrefnu’r noson a gwahoddwyd yr ysgolioncynradd hynny sy’n ei bwydo i gyfrannutuag at eitemau’r noson. Unodd plantBlynyddoedd 5 a 6 Ysgol Creigiau â drosgant o blant eraill i berfformio fel CôrUnedig. Roedd yn braf iawn gweldcymaint o gyn­ddisgyblion yno hefyd yncymryd rhan mor flaenllaw.LLYFR MAWR Y PLANTYn ddiweddar, aeth yr Adran Gymraeg igyd i lawr i Ganolfan y Mileniwm i weldperfformiad Cwmni Drama Bara Caws oLyfr Mawr y Plant. Wedi llwyddo i gaelyn agos i 150 o blant i’w seddau yn ynefolion leoedd, fe gawsom wledd. Roeddhi’n braf gweld Wil­Cwac­Cwac, SiônBlewyn Coch a’u ffrindiau yn fyw o flaenein llygaid.Mae Dosbarthiadau 3 a 4 wedi bod arddau drip yn ddiweddar – un i ymweld â’rcapel yn Efail Isaf ac yna’r EglwysGadeiriol yn Llandaf ac un arall i SainFfagan i astudio’r gwahanol fathau o dai achartrefi sydd yno. Bu’r ddau ynllwyddiannus iawn.YsgolGymraegCastellauYmweliadauAeth plant Blwyddyn 5 a 6 ar daithgerdded i Bontypridd o dan arweiniad MrBrian Davies, Amgueddfa Pontypridd, iolrhain hanes James James ac Evan Jamesfel rhan o waith Hanes y tymor.Cawsant amser hyfryd hefyd yn ymweldag Eglwys Llantrisant a diolch yn fawr i’rFicer Parkinson am ddangos symbolau’rEglwys iddynt a son am ei waith. Ar ôlhynny aethant i siop Borders, ynLlantrisant ar gyfer lansiad cyfieithiadCymraeg Llyfrau ‘Tin­tin’.Bu Mr Brian Davies yn ymweld â’rysgol i sôn am y ‘Tuduriaid’ gyda phlantBlwyddyn 4 hefyd.Wythnos gwrth – fwlio.Daeth Linda James o’r elusen ‘Bulliesout’, i’r ysgol i siarad â phlant Blwyddyn5 a 6 i godi ymwybyddiaeth o’r gwahanolfathau o fwlio. Hefyd gwnaethpwydamryw o weithgareddau yn yr ysgol ynystod yr wythnos hon eleni. Crewyd walffrindiau ym mhob dosbarth yn yr ysgol ermwyn hyrwyddo cyfeillgarwch ymhlith yplant. Cyflwynodd plant y ‘CyngorYsgol’, wasanaeth yn esbonio gwaith ycynllun clust’, ar yr iard yn ystod amserchwarae lle maent yn gofalu am blantsydd yn unig, yn drist neu angen cymorth.Gwisgodd pawb sticer, yr athrawon hefyd,yn dangos wyneb hapus. Diolch i’r plantam ymateb mor frwd.CroesoCroeso i Miss Delyth Owens, a fydd yntreulio sawl wythnos yn yr ysgol yn gyntafgyda phlant blwyddyn 1 ac yna ar ôl yNadolig gyda phlant y Meithrin.Ymweliad.Daeth P.C. Siân Jones i drafod materionpwysig gyda’r plant. Trafodwyd siaradgyda dieithriaid gyda phlant Blwyddyn 2,moddion a chyffuriau gyda phlantBlwyddyn 3 ac eto agweddau ar fwliogyda disgyblion Blwyddyn 4. Diolch iddiam ei chyflwyniadau trwyadl.Bonjour Castellau.!Dathlwyd diwrnod Ffrengig ynnosbarthiadau’r Derbyn ym misTachwedd. Roedd y plant wrth eu boddyn gwisgo dillad streipïog ac yn bwytabara Ffrengig . Très Bien.Cafodd Dosbarth 2 ymweliad arbenniggan feddyg yn ddiweddar. Daeth Dr Evansi’r dosbarth i siarad â’r plant am y corffa’r esgyrn. Daeth â lluniau pelydr­x gydafe ac fe wnaeth blaster caled i Iestyn,Angharad a Holly. Dyna beth oedd hwyl!Rygbi TagHybu’r iaith Gymraeg drwy fwynhauchwarae rygbi tag yw nod clwb newydd iblant sy’n dechrau ar ôl y Nadolig.Mi fydd clwb Sgorio58 yn cynnalsesiynau i blant yng Nghanolfan DysguGydol Oes Gartholwg, Pentref Eglwys, ofis Ionawr ymlaen ar nos Wener.Mae’r clwb ar agor i ddisgybliondosbarth derbyn a blynyddoedd 1 i 6 acyno byddent yn cael y cyfle i wneudffrindiau a dysgu sgiliau newydd gangynnwys pasio, dal, a chicio.Arweinwyr Sgorio58 yw GethinThomas, 34, ac Owen Thomas, 28, sy’ngyn­ddisgyblion o Ysgol Gyfun Llanhari ameibion i John ac Judith Thomas, EfailIsaf. Mae nhw wedi agor dau glwb ynbarod yng Nghaerdydd ers mis Hydref acmae’r ddau yn llwyddiannus iawn. Daw’rffigwr 58 o’r flwyddyn 1958 ­ blwyddynlwyddiannus i chwaraeon yng Ngymru.”I gofrestru eich plentyn ac am fwy ofanylion ewch i www.Sgorio58.com neuffoniwch 07986 177008.Plant Mewn Angen.Casglwyd £270 ar gyfer yr elusen ymaeleni am y fraint o wisgo pyjamas am ydiwrnod, hyd yn oed yr athrawon. Daiawn chi blant.Jambori’r Urdd.Aeth plant Blwyddyn 3 a 4 i ganolfanHamdden Llantrisant ar gyfer y jambori.Maent yn dal i ganu’r caneuon.Bocsys Nadolig’.Derbyniwyd dros 60 o focsys ar gyfer yrelusen ‘Operation Christmas Child’, etoeleni, diolch yn fawr.Pantomeim.Aeth plant Blwyddyn 1 a 2 am drip i weldy pantomeim yn theatr y ‘Miwni,’ ymMhontypridd ar ddiwedd Mis Tachwedd.Enw’r sioe oedd ‘Martyn , Mam a’r WyauAur’ ac fe gafodd pawb yr hwyl arferol.Côr yr ysgol.Bydd côr yr ysgol yn canu yngngwasanaeth Carolau’r Gymuned ynEglwys St. Michael yn y Beddau nosWener Tachwedd 28 a hefyd yn eglwysLlantrisant dydd Sadwrn Rhagfyr 13 am2.00 yn y prynhawn.Dyddiadur yr ysgolDydd Gwener, Rhagfyr 5 – Ffair Nadoligyr ysgol 3.30­6.30.Cyngherddau NadoligMeithrin – Bore dydd Mawrth, Rhagfyr 9am 10.00.Plant y Cyfnod Sylfaen a C.A.2 –Prynhawn dydd Mawrth Rhagfyr 8 a dyddMercher Rhagfyr 10 am 1.45 y prynhawn.

Cwmdalent – Ffactor X y CymoeddNos Wener, Tachwedd 7 oedd Nosonrownd derfynol Cwmdalent. Hon oeddnoson derfynol yr holl rowndiau gafoddeu cynnal mewn ysgolion ar hyd a lled ySir ac mi welwyd canu, dawnsio, actio,breakdawnsio... hyd yn oed dawns yglocsen “a cappella”. Mi gafodd y rhaiohonoch wnaeth fynychu Theatr GarthOlwg y noson honno, noson werth eichofio a mawr oedd y clod a roddwyd ibob un o’r cystadleuwyr. Ond yn ôl ybeirniaid Bethan McLean a LloydGriffiths ­ Dawnsio Latin ­ YGGRhydywaun, ddaeth yn drydydd, GrŵpDawnsio Hip Hop FBA ­ Ffion Berry,Alex O’Brien, Bethan Haines ­ YGGRhydywaun ddaeth yn ail, ond ynfuddugol roedd Jacob Lewis ­ Unawd ­YGG Llanhari wnaeth fersiwna n h yg oel o’ r g â n M yfa n w y.Llongyfarchiadau i bawb, ac amserdechrau ymarfer nawr ar gyfer yflwyddyn nesa.Drama­Dâr­ Cynllun Drama Newyddyn AberdârMi fydd y Fenter yn cynnal cynllundrama Cymraeg yn Aberdâr yn yflwyddyn newydd. Cynhelir y cynllunyng Nghanolfan Cwmamam ac mi fyddyn agored i ddisgyblion YsgolionCynradd yr ardal ac mi fydd mewn 2sesiwn awr yn cychwyn am 4.00 y.h.Bwriedir iddo ddechrau nos Lun,Ionawr 12fed 2009 a rhedeg tan yr Haf( gyda thoriadau adeg gwyliau ysgol).Mae'r niferoedd yn gyfyngedig ac fellyos oes gennych ddiddordeb i'ch plentynfynychu'r cynllun, cysylltwch â'r Fenterar naill ai 01443 226386 neu 01685882299. Hefyd allwch chi ofyn amfa n yl i on pel l a ch ar e­bost :prifswyddog@menteriaith.orgDatblygu Sustem e­achlysur yFenter !Ryn ni’n gobeithio ychwanegu ynsylweddol at ein bas data o gyfeiriadaue­bost pobl sydd yn awyddus i dderbyngwybodaeth am weithgareddau’r Fentera mudiadau Cymraeg eraill o gwmpasRhondda Cynon Taf. Os hoffech chigofrestru, mi allwch wneud ar y wefan:Cliciwch ar Gwasanaethau ac wedynTafod Elái Rhagfyr 2008 7Hanes LlyfrauTintinDim ond pump llyfr Tintin a droswyd i’rGymraeg cyn nawr ac fe’u troswyd o’rFfrangeg gan Roger Boore ac fe’ucyhoeddwyd gan Wasg y Dref Wenrhwng 1978 a 1982. Dyma enwau’rllyfrau; Y Cranc a’r Crafangau Aur,Cyfrinach yr Uncorn, Trysor RackhamGoch, Teyrnwialen Ottokar a Tintin a’rDyn Eira Dychrynllyd.Yn anffodus, a hyd y gwn i, ond unargraffiad maen nhw wedi gwneuderioed ac maen nhw allan o brint ers troJacob Lewis gyda’i gwpan a siecCronfa’r Loteri tuag at gwaithieuenctid y Fenter.cliciwch ar Cofrestru e­bost. Neu os oesyn well ‘da chi, anfonwch e­bost at:prifswyddog@menteriaith.org gan nodieich dymuniad.Cartref a Delwedd Newydd y FenterMi fydd y Fenter yn symud i gartrefnewydd ar ddechrau mis Rhagfyr ac iddathlu, mae'n mabwysiadu logo adelwedd newydd hefyd. Ein cyfeiriadnewydd fydd : Llawr Cyntaf, 9, Y StrydFawr, Pontypridd. CF37 1QJ a hwnfydd unig swyddfa'r Fenter o'r flwyddynnewydd.Clwb Pêl­droed a Rygbi Tag NewyddBydd Sgorio '58 yn cynnal clwbchwaraeon ar ôl ysgol cyffrous iddisgyblion ysgolion cynradd Cymraeg.Mi fydd yn dechrau yn y flwyddynnewydd ar Ionawr y 9fed, ac yn cael eigynnal yn wythnosol. Bydd y clwb yncael ei gynnal ar nos Wener i ddechrauond mae hi'n fwriad estyn hyn ar ôl yPasg. Dyma fydd yr amserlen iddechrau:Nos Wener: 5.00 ­ 5.50pm: Rygbi TAGDerbyn; Bl1 a Bl2. Yn y gampfa, GarthOlwg.Nos Wener: 6.10 ­ 7.00pm: Pêl droed:Bl 3 & 4 + Bl 5 & 6. Astroturf, GarthOlwg.byd ac ni wn faint o gopïau o bob un agafodd eu hargraffu. Felly gallafddychmygu eu bod yn brin iawn ydyddiau hyn ac nad oes fawr o gyfle iblant Cymru eu darllen.Addaswyd y llyfrau newydd ganDafydd Jones a dywedodd iddo gaelblas drwy bori drwy lyfrau Tintin ermwyn gwella ei Ffrangeg. Rwy’n galluuniaethu â hyn. Gwnes i union yr unpeth wrth astudio’r Llydaweg yn yBrifysgol. Prynais i bentwr o lyfrauTintin yn yr iaith honno a mawr oedd ycymorth imi wrth imi geisio meistroli’riaith.Enw’r ci bach yn y llyfrau cynt ywSmwt, y gwyddonydd yw OdfaBenchwiban a’r ddau dditectif yw Johnsa Johnes. Tuedda rhai pobl i gredu body ddau yn efeilliaid (the ThomsonTwins) ond y gwir yw nad ydynt ynperthyn i’w gilydd o gwbl. Yr unigwahaniaeth rhyngddynt yw’r ffordd ymaen nhw’n torri eu mwstas.Wyth llyfr Asterix a droswyd i’rGymraeg rhwng 1976 a 1981 ac maennhw ‘n glasuron yr iaith Gymraeg. Fe’utroswyd o’r Ffrangeg gan Alun Jones,cyn ddisgybl ysgol Rhydyfelen, oscofiaf yn iawn a brawd i Dafydd Jones,rwyf newydd sôn amdano. Unwaitheto, ond un argraffiad maen nhw wedicael ac mae rhai ohonynt yn brin iawn.Dyma enwau’r llyfrau: Asterix yGaliad, Asterix a Cleopatra, Asterix yny Gemau Olympaidd, Asterix ac AnrhegCesar, Asterix ym Mhrydain (clasur ydylai fod copi gan bawb), AsterixGladiator , Asterix ym Myddyn Cesar acAsterix a’r Ornest Fawr.Maen nhw’n werth arian mawr ydyddiau hyn. Dwy flynedd yn ôl talais i£50 am gopi o Asterix a Cleopatra ­ erfy mod i wedi bod yn casglu’r llyfrauhyn ers blynyddoedd, dyma oedd y trocyntaf erioed imi weld copi o’rcampwaith hwn. Hefyd rwyf wedigweld Asterix ym Mhrydain ar e­bay.A’r gost? ­ £70.Wrth gwrs nid y Cymry o’rrheidrwydd sydd yn prynu’r llyfrau hynond Tintinologists a fans Asterix syddyn hoffi casglu’r llyfrau ym mhob iaith.Hoffwn i weld Gwasg y Dref Wen ynargraffu’r llyfrau hyn o’r newydd ynogystal â rhagor i ddod gan gwmniDalen.Fis yn ôl, rhoddais i fenthyg cwpl o’mllyfrau Asterix i rywun yn y gweithle.Perodd hyn iddo fynd i chwilio; yn llofftei dŷ ac er syndod iddo, roedd ganddo 6o’r 8 llyfr hyn.Felly ewch eto ffrindiau i chwilio ymmhob twll a chornel. Pwy a ŵyr, efallaieich bod yn eistedd ar ffortiwn?Colin Murphy

8 Tafod Elái Rhagfyr 2008CREIGIAUGohebydd Lleol:Nia WilliamsTO NEWYDD IGAPELBETHLEHEM,GWAELOD Y GARTHWyresDyma lun o Eleni Grace, merch fachgyntaf­anedig Bethan a Michael Ritchie,sy’n byw yn Llundain. Ganwyd Eleni yngynnar fore Sul, Hydref 19eg. Hi ywwyres gyntaf Gill a Bryn Jones, Parc yCoed a Christine a Ronnie Ritchie, sy’nbyw ar Ynys Jersey. Mae’r ddau deuluyn cyd­lawenhau ar yr achlysur ac ynedrych ymlaen at ymweliadau mynychEleni a’i rhieni i Greigiau ac i Jersey.Dechrau ‘dwl’ i’r tymor newyddMae hi wedi bod yngyfnod prysur i JoshMorgan yr actor apherfformiwr ifanc oGreigiau. Ym misMedi, fe ddechreuoddyn ei ysgol newyddym Mhlasmawr acmae newid ysgol ynddigon o sialens iunrhyw un, dybiwn i!Ond o fewn dyddiaudaeth y cynnig i gymryd rhan mewndwy gyfres deledu i blant, Mees aGorsaf Hud.Fe oedd llais Dylan a Bleu, yrymwelydd o Ffrainc. Dim ond unrhaglen y bu Josh ynddi gyda’r Meeesond gyda Gorsaf Hud, dyma fe’ndechrau gweithio ar 26 ohonynt. Pypedo’r enw Dwl ydy ef (adlewyrchucymeriad Josh i’r dim meddai ei famIngrid!) ac mae’r rhaglen yn cael eidarlledu fel rhan o ddarpariaeth Cyw arS4C.Yn ddisgybl blwyddyn saith ymMhlasmawr, mae e wedi cael cyfleoeddnewydd i brofi ei ddoniau. Bythefnos ynôl, dyma fe’n cael ei wobrwyo gan yrysgol fel Canwr y Flwyddyn (blwyddynsaith, wyth a naw). Ac yna, arDachwedd 24, bu’n arwain yperfformwyr lawr yr eil, ar ddechraunoson o gerddoriaeth yr ysgol er buddelusen LATCH. Fe’i cynhaliwyd ynEglwys Gadeiriol Llandaf o flaencynulleidfa o 800. Bu’n canu felunawdydd, mewn deuawd ac fel aelodo’r côr iau.Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, fefydd yr amryddawn Josh yn cymrydrhan yng Ngŵyl Dawnsio Gwerin y Byd2009 ar ynys Majorca, gyda chriwAdran Bro Taf. Yn wir, mae wedi bodyn gyfnod prysur ac yn argoeli felly amgryn amser i ddod.L.M.CydymdeimladEstynnwn ein cydymdeimlad â JimProsser, Meryl a’r bechgyn. Bu farwMam Jim yn ddiweddar – brodor oAbertawe oedd Mrs Eileen Prosser.DyweddiadO’r diwedd! Llongyfarchiadau Dr RwthEllis Owen a Stewart Baines, o MeltonMowbray sy newydd ddyweddio. Mae’rddau yn gweithio yn y byd meddygol –Rwth yn Gofrestrydd yn AdranRadioleg, Ysbyty’r Waun a Stewart ynbennaeth Adran C.T. scans YsbytyBrenhinol Llantrisant. Pob hapusrwydd ichi eich dau. (Syr Wynff – onid oes ynaagoriad fan hyn am gyfeiriad at borcpeis bach? Sori!)Priodas hafDymuniadau gorau i Sara Ellis Owen acEdward Crosse a briodwyd yng NghapelBethlehem, Gwaelod y Garth ar Awst16eg eleni. Gweinyddwyd y briodas gany Parch. Ddr. R. Alun Evans ac fegynhaliwyd y wledd ym Maes Mynach.Mae’r ddau wedi gwneud eu cartref ynLlundain. Pob hapusrwydd i chi eichdau.GeniCroeso i’r byd – Gwenllian ElizabethMeade­Owen! Fe’i ganed ar y 3ydd oHydref yn ferch fach i Catrin EllisOwen a Stephen Meade, yngNghaerwrangon. Llongyfarchiadau adymuniadau gorau i’r teulu bach.Gwenllian Elizabeth Meade­OwenTestun llawenydd i aelodau a chyfeillioncapel Bethlehem, Gwaelod y Garth oeddclywed yn ddiweddar fod CronfaDreftadaeth y Loteri, a Cadw hefyd,wedi cefnogi eu cais i ail doi y capel a’rfestri. Bydd y Loteri yn cyfrannu£53,400 a Cadw yn rhoi £25,576.Cododd yr eglwys dros £15,000 eihunan i dalu’r gweddill.Ma e Beth l eh em yn a d e i l a dcofrestredig, a godwyd yn 1872 ynarddull capeli diymhongar y pentrefi i’rgogledd o Gaerdydd. Cadwodd laweriawn o’i nodweddion syml gwreiddiol.Yn wahanol i sawl capel arall lleol, foddbynnag, os blinodd ei do, ni flinodd eiysbryd. Mae ei aelodaeth yn ffynnu danarweiniad y Parchedig Ddr R AlunEvans, a cheir cynulleidfa gref ar foreSul a llu o weithgareddau eraill drwygydol y flwyddyn.Gwneir yr ail doi yn y flwyddynnewydd. Neil Smith a’i Gwmni o’rBontfaen fydd yn ymgymryd â’r gwaith,dan ofal Alwyn Jones, Penseiri oFfynnon Taf sy’n arbenigo ar gadwraethadeiladau hanesyddol.Dwedodd Rhys Dafis, Ysgrifennydd yCapel: “Mae hyn yn newyddion gwych iFethlehem ar drothwy’r Nadolig! Byddy gwaith hanfodol hwn yn sicrhaudiddosrwydd y Capel, fel gall ycenedlaethau nesaf o addolwyr hwythaugynnig ‘lle yn y llety’ hwn. Rydym ynddiolchgar iawn i’r Loteri a Cadw amweld yn dda i’n cefnogi.”Edward Crosse a Sara Ellis Owen

www.mentercaerdydd.org029 20 56 56 58Menter Caerdydd yndathlu 10 oedCynhaliwyd nifer o weithgareddau ynystod mis Tachwedd i ddathlu 10mlynedd ers sefydlu Menter Caerdydd.Un o uchafbwyntiau’r dathlu oeddderbyniad yn y Senedd yng nghwmniAlun Ffred Jones AS, Meri Huws,Ffwrnais Awen a Chlwb Clocsio MenterCaerdydd.Edrych ymlaen tuag at y ddengmlynedd nesaf nawr!Gwyl Aeaf CaerdyddDydd Mercher,Rhagfyr 104pm – 6pmSali Mali, Superted, Norman Pricea Mr Urdd6pm – 8pmFfwrnais Awen a Chôr y GleisionAdloniant, Sglefrio, Olwyn Fawr,Ffair,Caffi, Bar a llawer mwy….I archebu sesiwn sgelfrioffoniwch 20 230130Tafod Elái Rhagfyr 2008 9NewyddionDysgwyrMorgannwgBydd y tymor dysgu yn dod i ben yrwythnos nesa ar ôl tymor prysur oddysgu a gweithgareddau anffurfiol.Mae’r Clwb Cerdded yn mynd o nerthi nerth. Walter Jones oedd yr arweinyddar yr ail daith ym mis Tachwedd achawson ni fore pleserus iawn yncerdded i ben y bryn tu ôl i Goedely achael tipyn o hanes amaethyddiaeth ynyr ardal yn ogystal ag ymweld â dauffermdy oedd yn deillio nôl i’r ail ganrifar bymtheg. Roedd pawb wedimwynhau eu hunain yn fawr iawn.Bydd y daith gerdded nesa am 10.30fore Sadwrn 13 Rhagfyr, cwrdd yngNgwarchodfa Natur Cynffig (CF334PT). Croeso cynnes i unrhyw un sy’nmwynhau cerdded.Mae ein dau glwb cinio yn dal ynllwyddiannus – fis Tachwedd daeth dros20 o bobl i fwynhau pryd a chlonc ymmwyty’r Tymhorau yng ngholeg Pen­ybont.Roedd hi’n braf iawn gweld nifero wynebau newydd yno.Byddwn ni’n cwrdd yno nesa am 12o’r gloch ddydd Mercher 21 Ionawr.Roedd tua 15 wedi dod i gaffi JustBecause ym Mhontyclun, cartrefnewydd ein clwb cinio arall. Unwaitheto croeso cynnes i Gymry lleol alwdraw yn y naill neu’r llall. Byddwn ni’ncwrdd yn Just Because ddydd Mawrth2 Rhagfyr ac wedyn ddydd Mawrth 6Ionawr am 1 o’r gloch.Ddydd Iau diwethaf aeth criw ohononni ar daith i Gaerfyrddin a Llanelli.Cafwyd ych ydig o oriau yngNghaerfyrddin i gael pryd ac ychydig osiopa ac roedd hi’n braf iawn i’r dygwyrallu mynd i mewn i’r siopau a’r bwytailleol a chlywed pawb yn siaradCymraeg. Yna ymlaen i stiwdioCynllun AddysgGymraegMae Cyngor Sir Rhondda Cynon Tafwedi paratoi Cynllun Addysg Gymraegsy’n egluro sut y bydd y Cyngor yndarparu gwasanaethau addysg yn yGymraeg ac yn ddwieithog. Mae moddgweld copi o’r Cynllun Drafft achyflwyno sylwadau drwy wefan yCyngor, www.rhondda­cynontaf.gov.uk,neu mae modd mynnu copicaled o’r cynllun draft yn rhad ac amddim trwy gysylltu â Keith Davies,01443 744084.Mae’r ymgynghoriad yn parhau hyd13 Chwefror 2009 ac mae angen anfonunrhyw sylwadau i Mr Gareth Rees,C yfa r w yd d wr G w e i t h r e d ol yGwasanaeth Addysg, Ty Trevithick.Abercynon. C45 4UQ.Tinopolis i gael taith o amgylch ystiwdio yno cyn gweld rhaglen Wedi 7yn cael ei darlledu’n fyw.Ar dr oth wy’r Nadol i g byddGwasanaeth Carolau’r Ganolfan am 11o’r gloch yng nghapel Salem, Pentre’rEglwys fore Iau 4 o Ragfyr. Bydd nifero’n dysgwyr yn cymryd rhan yn darllencarolau, actio drama’r Nadolig, canucarolau a bydd grŵp clychau Porthcawlyno hefyd. Dewch i ddathlu gyda ni achael paned a sgwrs wedyn.Mae nifer o gynlluniau Pontio wedibod yn cymryd lle yn ystod y tymorhefyd. Gyda’r cynllun mae siaradwyrr h ugl yn m yn d i m e wn i ’ndosbarthiadau i sgwrsio yn gwblanffurfiol mewn grwpiau bach gyda’rdysgwyr am tua ugain munud. Mae hwnyn brofiad da iawn i’n dysgwyr ahoffwn i ddiolch yn fawr iawn i’r rhaihynny sy wedi gwirfoddoli i fynd imewn i’r dosbarthiadau yn ystod tymoryr hydref. Bydd y cynllun yn parhau yny flwyddyn newydd gyda dau ymweliady tymor yn y gwahanol ddosbarthiadau.Os hoffech chi gymryd rhan yn ycynllun baswn i’n falch iawn clywedoddi wrthoch chi.I gael mwy o wybodaeth am y Pontioneu unrhyw un o’n digwyddiadaucysylltwch â Shân ar 07990578407Y Gymraeg bob troYdych chi eisiau i’r cyngor gyfathrebu â chifel unigolyn, naill ai drwy lythyr neu dros yffôn, trwy gyfrwng y Gymraeg?Os felly, ffoniwch, anfonwch lythyr neuneges ebost yn nodi’ch manylionUned Gwasanaethau CymraegTŷ Trevithick Abercynon AberpennarCF45 4UQ . 01443 744033Caroline.m.mortimer@rhondda­cynon­taf.gov.uk

10 Tafod Elái Rhagfyr 2008Canolfan IechydY cwestiwn ar wefusau pawb yn Gilfachy dyddiau hyn yw 'Ydych chi wedi bod imewn i'r Ganolfan Iechyd newydd?' Ersbron i ddwy flynedd mae gwaith wedibod yn mynd ymlaen yn adeiladu'rGanolfan Newydd ac mae pawb yncanmol y gwaith cerrig a'r gwaith prensydd tu allan i'r adeilad a nawr rydymyn aros i weld beth fydd yn digwydd i'rto sydd â math arbennig o laswellt yntyfu arno. Tybed a fydd rhywun yngorfod torri'r gwair ar y to yn yr haf?Cawn weld yn yr haf. Mae pawb ynfalch o'r adeilad newydd a'r hollgyfleusterau sydd tu fewn. Diolch ogalon i Ymddiriedolaeth IechydRhondda Cynon Taf am y Ganolfannewydd hyfryd yma.MarwolaethRoedd trigolion Sŵn yr Afon a'iffrindiau i gyd yn flin iawn i glywed amfarwolaeth sydyn Mrs Eirwen Gwilliam.Symudodd Mrs Gwilliam a'i gŵrGeorge o Donyrefail i fyw yn y fflatiaurhai blynyddoedd yn ôl. Roedd yn hapusiawn yno ac ymunodd ym mhob pethoedd yn mynd ymlaen. Bu amflynyddoedd yn glanhau yr YsgolGILFACH GOCHGohebydd Lleol:Betsi GriffithsGymraeg yn Nhonyrefail. Anfonwn eincydymdeimlad at ei theulu, George eigŵr a Clair ei merch a Paul ei mab a'rwyrion Mali, Twm a Branwen. Bu'rGwasanaeth yn Eglwys Sant Barnabasac yna yn Amlosgfa Llangrallo. Carai'rTeulu ddiolch am dros £800 ogyfraniadau at Glefyd Alzheimer.CyngerddHyfryd oedd mynd i Gyngerdd ganGymdeithas Gorawl Pontypridd ynddiweddar a gwrando ar yr unawdyddSioned Ellis. Merch a fagwyd ynNhonyrefail yw Sioned (Hunt gynt) ondsymudodd i'r Wyddgrug wedi derbynswydd yno ac erbyn hyn mae Sioned yngantores broffesiynol yn canu mewncyngherddau ac yn cymryd rhannaupwysig gyda ch wmnïau operaproffesiynol. Mae ei ffrindiau a'i theuluyn y Gilfach yn falch iawn ohoni.Llongyfarchiadau Sioned a dymuniadaugorau am y dyfodol.Dosbarth Gwnio a ChrefftauMae merched y dosbarth wrthi'n brysurar hyn o bryd yn gwerthu'r pethau awnaethant yn ystod yr haf a'r hydref erbudd Tŷ Hafan. Diolch i'r holl bobl syddmor barod i brynu er mwyn cefnogi TŷHafan.Y GuildBu sawl noson ddiddorol yn ddiweddar.Bu'r merched wrthi'n brysur yn pacioparseli ar gyfer 'Operation ChristmasChild' er mwyn anfon parseli at blantanffodus mewn gwledydd eraill a daethMrs Edwina Smallman yno i'w casglu.Mae Mrs Smallman wedi cael dros 200o barseli ac mae rhagor i ddod eto a£140 o gyfraniadau gan bobl Gilfach.Cafwyd noson pryd y bu Mrs SheenaCrossley yn dangos sleidiau oblanhigion sydd yn addas ar gyferroceri, felly does dim esgus ar gyfer yflwyddyn nesaf! Noson arall daeth MrWalter Jones a hen offer tŷ, fferm a'rpwll glo ac roedd yn ddiddorol iawn iweld yr hen offer .Cyn y Nadolig mae Côr CymunedolGilfach yn dod i roi Noson Dymhorol.NadoligyPlantLliwiwch Siôn CornBeth sydd yn un o‛r pasreli hyn? Rhaidi chi ddatrys y pos yma i gael gweld.Mae un llythyren ar gyfer pob rhif.Mae‛r ateb yn ddau air.Lliwiwchy lluniau

Ysgol GynraddGymraegEvan JamesFfarwelio a ChroesawuDiolch yn fawr i Gemma Mearns a JohnRivers am eu gwaith caled yn ystod ytymor. ’Rydym yn falch o groesawuMeinir Morris a Kate Spencer yn ôl i’rysgol ar ôl cyfnodau mamolaeth.GwasanaethauCafwyd gwasanaeth diolchgarwcharbennig yn cynnwys eitem gan hollddosbarthiadau’r ysgol a diolch i Mrs.Gillian Frowen am addurno’r neuadd ynhyfryd. Casglwyd £205 i elusen DrBarnardos a daeth cynrychiolydd o’relusen Mrs. Iris Williams i’r ysgol idderbyn yr arian.Casglwyd £565 ar ddiwrnod PlantMewn Angen eleni. Daeth y plant i’rysgol mewn gwisg ffansi ac ’roeddentyn llawn cyffro wrth weld yr athrawonyn gwisgo crysau­T “Pudsey” a“bandanas”.Yn ystod wythnos Gwrth Fwliancafodd pob dosbarth amser i feddwl amy pwnc a gwnaeth plant yr adran iauddarllen darnau o farddoniaeth’roeddent wedi wu llunio ar gyfercystadleuaeth Y Cynulliad mewngwasanaeth. Neges y gwasanaeth oedd‘Nid oes lle i fwlian yn ein byd ni’.Diolch i’r Parch. Simon Walkling amddod i’r ysgol i gynnal gwasanaeth asiarad gyda dosbarthiadau 8 a 9 am eiwaith yn y gymuned.Cyngor Ysgol’Roedd cyffro mawr ym mis Medi pandrefnodd Mrs. Rhian Ratcliffe y byddaiblychau pleidleisio go iawn yn y neuadda bu’r plant yn pleidleisio drosgynrychiolwyr i’w dosbarthiadau.Erbyn hyn mae aelodau’r Cyngor Ysgolwedi cael eu dewis ac maent yn cyfarfodyn rheolaidd i drafod materion ynymwneud â’u dosbarthiadau.ChwaraeonLlongyfarchiadau i dîm pêl­droedmerched yr ysgol am gyrraedd rowndderfynol cystadleuaeth saith bob ochrPontypridd.Côr yr ysgol a pharatoadau ar gyfer yNadoligMae côr yr ysgol wedi mwynhau dysgucarolau newydd ar gyfer gŵyl gorawl ynEglwys Gadeiriol Llandaf unwaith etoeleni. Mae pob dosbarth yn brysur ynparatoi ar gyfer y Nadolig : byddcyngherddau plant y cyfnod sylfaen ynyr ysgol a bydd gwasanaeth carolau1 1 2 2 3 4 3 5 6 57 87 8 9 109 1112 13 1011 12 1314 15 1714 15 16 17 17 1819 20 21 2219 1922 20 23 2421 2227Tafod Elái Rhagfyr 2008CC R O E S A I RLAtebion erbyn 20 Rhagfyr 2008 i: Croesair Col34, Pen Bryn Hendy, Yr Encil, Meisgyn, Pontyclun. CF72 8QXAr Draws7 Cyfrif (4)8. Gwneuthurwr llestri pridd (8)9. Dyfarniad (11)11. Heb fod yn hawdd (4)12. Cnewyllyn (8)14. Cerrig gwerthfawr (8)18. Pwysi (4)19. Teimlad caredig (11)21. Byddaf yn gwneud sŵn fel y frân(8)22. Bwrw oen (4)I Lawr1. Puro o hadau clefyd (9)2. Rhodd er cof am rywun (6)3. Arwerthiant (6)plant yr adran iau yn Eglwys SantesCatherine ym Mhontypridd.Diolch i Gymdeithas Y Rhieni acAthrawon am drefnu’r Ffair Nadolig.Edrychwn ymlaen at groesawuteuluoedd plant yr ysgol i ganu carolauyn anffurfiol a chymdeithasu ar Ragfyry 18fed.Lluniau tudalen 16.Dyma gyfle arall i chiennill Tocyn Llyfrau4. Anifeiliaid anwes i’w cadw mewncaets (6)5. Rhywiogaeth (6)6. Llygoden goch, chwistlen (3)10. Ffwlcrwm (9)13. Cynnyrch electroleiddiad (3)1 5 . U n s y’ n g w e i t h i o m e w nmwynglawdd (6)16. Aros (6)17. Dweud y llythrennau mewn gair (6)18. Blinder, gofid (6)20. Clod, enw da (3)Atebion Tachwedd11Enillydd Croesair Mis Tachwedd:Sheila a Rhys Dafis, Creigiau.P A W B A T Y P E TH A TL E N Y B OE I R A I D C LLN TH R A I E ET R I G F A N L A W N TY A T I IN E N T Y DD B O N LL E FD M C 17 E EO E L I O N E I D I O DDD 19 E 20 L O 21 A A I22 I A CH T A R A N ALL O N F 23 D NI G C A N O L B W Y N T

12 Tafod Elái Rhagfyr 2008Ysgol GynraddGarth OlwgPêl­rwydMae’r tîm pêl rwyd wedi cymryd rhanmewn gweithdy ym MhrifysgolMorgannwg. Mwynheuodd y plantymarfer eu sgiliau a chwrdd â phlant oysgolion eraill. Diolch yn fawr ifyfyrwyr y Brifysgol am arwain ysesiynau.Wythnos EcoMae’r ysgol gyfan wedi bod yn dathlu‘Wythnos Eco’ ym mis Tachwedd. Felrhan o’r dathliad, mae dosbarth MrsDavies wedi bod yn edrych ar ynni.Cafodd dosbarth Mr Meredith sgwrs amsafio dŵr, a mwynheuodd yr AdranFabanod gwrdd â ‘Rhys Recycle’ a‘Freda Frog’. Yn ogystal, gwisgoddpawb rhywbeth gwyrdd ddydd Gwener,21ain er mwyn codi ymwybyddiaethEco. Diolch i bawb am eu cyfraniad.‘Bullies Out’Daeth cwmni ‘Bullies Out’ i ymweld âBlwyddyn 5. Buodd y plant yn trafodmewn gweithdy brwd, ac fe gafoddpawb gyfle i wneud llaw cyfeillgarwch.Clwb CarcoDewch yn llu i ymuno â’r hwyl yngNghlwb Carco yr ysgol. Edrychwnymlaen at y gweithdy Celf Nadoligddydd Mercher, 3ydd Rhagfyr, a’r partiNadolig ar y 18fed Rhagfyr. Cysylltwchâ’r ysgol am fwy o fanylion. Cofiwch,cynta’ i’r felin…..!Cyngor YsgolPenderfynodd Cyngor yr Ysgol gasglu ielusen ‘Operation Christmas Child’ yflwyddyn hon. Mae plant a rhieni’rysgol wedi bod yn brysur felly yn llenwihen focsys esgidiau gydag anrhegion argyfer plant llai ffodus. Casglon ni dros60 bocs. Diolch i Mrs Leyshon a phlantCyngor yr Ysgol am drefnu’r holl waith.Gweithdy IndiaFel rhan o’r prosiect UKIERI, aethBlwyddyn 6 i’r Ganolfan Gydol Oes ifwynhau bore llawn hwyl mewnGweithdy Indiaidd. Fel rhan o’rgweithdy, fe wnaeth y plant ‘Saris’, achwrdd â dawnswraig a chantorionIndiaidd.Ddydd Gwener, Tachwedd 14 eg aethblwyddyn 6 i’r Ganolfan Gydol Oes iwneud dawnsio Indiaidd gyda thairysgol arall o Gymru: Ysgol GynraddMaes­yr­Haul o Ben y bont, YsgolGynradd Gilwern o Fynwy ac YsgolTONYREFAILGohebydd Lleol:Helen Prosser671577L L O N G Y F A R C H I A D A U IHANNAN A DELUNLlongyfarchiadau i ddwy o drigolionTonyrefail a’r Gilfach Goch ­ HannahDando a Delun Jones. Mae’r ddwy ymmlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llanhari.Cawson nhw gyfle i gymryd rhan yn ygystadleuaeth darllen cyhoeddus ynrowndiau terfynol Prydeinig yFfermwyr Ifainc. Mewn cystadleuaetho safon uchel rhwng deg tîm, daethonnhw’n ail. Roedd yn ddiwrnod da iawni Gymru gan i’r tîm buddugol ddod o SirBenfro.Yn y gystadleuaeth bu’n rhaid i’rmerched ddarllen tudalen o lyfr addewiswyd gan y beirniaid. Maennhw’n cael gwybod o ba lyfr y byddantyn darllen cyn y gystadleuaeth, ond yncael rhif y tudalen ddeg munud cyngorfod codi a darllen o flaencynulleidfa. Da iawn ferched.Llun ­ tudalen 13Gynradd Malpas Court o Gasnewydd.Hefyd daethon nhw i’n hysgol ni i fwytaeu cinio gyda ni a chwarae pêl droed ynein cwrt. Cawson ni lawer o hwyl acrydym yn hapus daethon nhw i’n gweldni.Gan James ChristopherRydyn ni wedi pleidleisio dros ydisgyblion dylai fod ar Gyngor yr Ysgola’n Cyngor Eco. Roedd gennym flwchpleidleisio iawn a ffurflenni pleidleisio.Pleidleision ni yn deg wrth gael y plant iddewis. Ysgrifennon nhw ar ddarn obapur pwy roedden nhw’n meddwlfyddai orau i fynd ar y pwyllgorau.Cawson ni ddau o bob Dosbarth ac unychwanegol o flwyddyn 6. Dyma’r plantgafodd y fwyaf o bleidleisiau ymmlwyddyn 6 i’r Cyngor Eco : BrookeWebb ac Elis Widgery a Zac Mather ynaros ymlaen am flwyddyn arall. ArGyngor yr Ysgol roedd Erin Jones,Grace Jones a Gruff Bowen­ Jones.Gan Eleri Anwen RobertsDdydd Gwener, Tachwedd 14eg cododdyr ysgol arian ar gyfer Plant MewnAngen. Rhoddodd bawb arian i wisgodillad eu hunan. Gwnaeth plantblwyddyn 6 stondinau yn gwerthu henbethau, raffl, “Enwi’r Tedi” a ‘LuckyDip’ a mwy. Gwnaeth rhai plantweithgareddau yn y cwrt. Noddodd 3phlentyn Mr Meredith (cefnogwrLledu’r gair am‘Gwstard’ gwychWyddech chi fod 411,422 o lyfrau wedieu cyhoeddi yn 2007? Random Deathsand Custard gan Catrin Dafydd oWaelod y Garth oedd un o’r llyfrauhynny ac mae’n wych o beth bod einofel Saesneg gyntaf wedi cyrraeddrhestr o 50 teitl ar gyfer ymgyrch‘Spread the Word: Books to Talk About2009’. Dyma’r unig lyfr o wasg yngNghymru i gyrraedd y rhestr, ac maeGwasg Gomer yn falch iawn olwyddiant un o’i awduron ifanc.Trefnir y gystadleuaeth fel un oymgyrchoedd Diwrnod y Llyfr a byddrhestr fer o 10 teitl yn cael ei chyhoeddiar 30 Ionawr 2009 a bydd yr enillydd yncael ei gyhoeddi ar Ddiwrnod y Llyfrsef 5 Mawrth 2009.Y cyhoedd i bleidleisio ­ dyna’r drefnrydyn ni’n gyfarwydd â hi bellach, fellybeth am fynd ati i roi pleidlais i RandomDeaths and Custard gan Catrin Dafydd?Ewch i wefanwww.spread­the­word.org.uk a rhowchGymru ar y map!Apêl i helpu’rsefyllfa yn y CongoMae DEC Cymru a sêr tîm rygbi Cymruyn galw ar bobl Cymru i gefnogi apêl iroi cymorth i’r rheiny sydd wedi eu dalyn yr argyfwng yng NgweriniaethDdemocrataidd y Congo.Dros yr wythnosau diwethaf mae mwyna 250,000 o bobl wedi eu gorfodi i ffoio’u cartrefi i osgoi'r rhyfela, ganychwanegu at y filiwn a mwy o boblsydd eisoes yn ddigartref.I gyfrannu ewch i’n gwefanwww.dec.org.uk neu ffoniwch y DEC ar0370 60 60 900 neu gallwch gyfrannumewn unrhyw fanc ar y stryd fawr neuswyddfa bost, neu yn un o siopau YGroes Goch Brydeinig, Help the Aged,Oxfam ac Achub y Plant ar hyd a lledCymru.Aelodau DEC Cymru yw Y GroesGoch Brydeinig, Cymorth Cristnogol,Help the Aged yng Nghymru, OxfamCymru, Achub y Plant a Tearfund.Lerpwl) i wisgo crys a het Chelsea a’r£27 i gyd yn mynd at y casgliad. Arddiwedd y dydd, casglon ni gyfanswmenfawr o £403.33! Cafodd pob plentynhwyl yn prynu a gwerthu pethau.Gan Gruffydd Bowen Jones

Catrin DafyddTafod Elái Rhagfyr 2008 13Nofel Newydd iBlantCyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol amoesol plant rhwng 7 ac 11 oed ywgobaith yr awdures Eurgain Haf gyda’inofel newydd Siencyn a Dan Draed agyhoeddir gan Wasg y Dref Wen yngNghaerdydd.Crwydryn yw Siencyn. Does ganddoddim cartref, dim arian, a gan ei fodwedi colli ei gof, does ganddo ddimgorffennol chwaith. Nid Siencyn ydi eienw go iawn, ond mae Siencyn yn odlihefo trempyn, a dyna’r cwbl ydi o iblant y fro sy’n galw enwau arno ­ hendrempyn budr, blêr.Dyma’r llyfr cyntaf o bedwar yngnghyfres Siencyn a Dan Draed ganE u r ga i n Ha f, s y’ n b yw ymMhontypridd, a bydd y llyfr yn y siopauo’r mis yma.Ffermwyr IfancTonyrefailLluniauYsgol Garth OlwgGweithdy ‘Bwlis Mas’Delun a Hannah o Glwb FfermwyrIfainc Llantrisant gyda MorganWilliams o Glwb Pen­y­bont ar OgwrBocsys Esgidiau ar gyfer ‘Operation Christmas Child’‘Freda Frog’

14 Tafod Elái Rhagfyr 2008PONTYPRIDDGohebydd Lleol:Jayne ReesBrysiwch wella!Gwellhad buan i Jane Aaron, Trefforestsydd wedi bod yn derbyn triniaeth ynddiweddar. Hefyd i Dan Thomas, YComin sydd wedi treulio ychydig oamser yn yr ysbyty.PriodasDymuniadau gorau i Rhodri Francis,gynt o Graigwen ­ mab hyna’ David aMargaret ­ a briododd Noi o Wlad Thaiar Ragfyr 6ed. Maent wedi ymgartrefuyn Aberystwyth lle mae Rhodri wedibod yn gweithio ers nifer oflynyddoedd.Merched Y WawrCynhelir ail gyfarfod y gangen newyddyn y YMCA yng nghanol y dref nos Iau,Rhagfyr 11eg am 7.30. Bydd LunedJones, Caerdydd sy’n gweithio i Oxfamyn annerch ­ cawn wybod mwy amymgyrch y bras ­ dewch â’chcyfraniadau gyda chi! Bydd coffi a minspeis a chyfle am glonc ar ddiwedd ynoson.Diolch o galon i’r ugain ddaeth y trodiwetha’. Ein nod yw dyblu'r nifer y troymaCroeso cynnes i bawb. Am fwy ofanylion cysylltwch â Margaret Francisneu Jayne Rees.CAM RADICAL YMMYD CREFYDDMae gwefan Gymraeg newydd wedicael ei sefydlu ar Ragfyr 1af i drafodCristnogaeth radical, gyfoes. Cafodd eidisgrifio fel ymgais gyffrous i ailddehongliCristnogaeth ar gyfer yr oesbresennol, a bydd yn rhoi cyfle i boblgyfnewid syniadau heb ddisgwylunffurfiaeth barn.Meddai Vivian Jones, un o’rsefydlwyr, “Ymdrech yw Cristnogaeth21 i gynnal fforwm i roi llais i ystodeang o safbwyntiau diwinyddolCristnogol er mwyn miniogi achyfoethogi meddylfryd CristnogolGymraeg.”Dywedodd Pryderi Llwyd Jones,“Rwy’n gweld y datblygiad hwn fel camcwbl angenrheidiol i ddyfodolCristnogaeth Gymraeg, wrth i ni greucymuned ar y We a fydd yn medrutrafod pynciau diwinyddol a moesolYsgol GyfunLlanhariCynghrair CymruUnwaith eto tîm rygbi hŷn Llanharifydd yr unig gynrychiolydd o ardalPontypridd yng Nghynghrair SadwrnYsgolion Cymru. Eleni mae’r ysgolwedi cael ei roi yn yr adran orllewinol.Adran sy’n cynnwys ysgolion cryf,megis Brynteg, Y Bontfaen a Strade.Sialens enfawr gan mai tîm ifanc iawnfydd gan yr ysgol, yn cynnwys nifer oddisgyblion blwyddyn 11.Mae’r bechgyn i’w canmol am yr hollamser y maent yn fodlon ei rhoi igynrychioli'r ysgol, ymarfer ddwywaithyr wythnos, chwarae ar ddydd Sadwrngan gynnwys teithio mor bell âChaerfyrddin a Llandeilo.Ar ddiwedd yr hanner tymor fedeithiodd y bechgyn i Aberhonddu achuro Coleg Crist mewn gêm gyffrous.Rygbi’r GynghrairYn ystod mis Tachwedd maehyfforddwyr o dîm y ‘Celtic Crusaders’wedi bod yn ymweld â’r ysgol i baratoiy disgyblion ar gyfer cystadleuaethranbarthol rygbi’r gynghrair. Hwn fyddy tro cyntaf erioed i ysgol Llanharigystadlu yn y gêm tri dyn ar ddeg. Poblwc i’r bechgyn!sy’n berthnasol i’n hoes ni.”Sefydlwyd y wefan gan griw oweinidogion profiadol a lleygwyr sy’nteimlo bod y Gymru Gymraeg wedidioddef yn ystod y blynyddoedddiweddar o ddiffyg trafodaeth eang arnatur Cristnogaeth yn ein dyddiau ni. Yteimlad ymhlith y sefydlwyr yw bod y'meddwl crefyddol' yng Nghymru ynofnus a mewnblyg, oherwydd mai dynanatur byw mewn cyfnod o gilio. Ygobaith yw y bydd hyn yn cael eiystyried yn ddatblygiad cyffrous ­ a rhaiyn ei weld yn gam beiddgar ­ tuag atwn eud Cristn oga eth radi cal achynhwysol yn allweddol i ffydd gyfoesmewn cyfnod pan mae ceidwadaeth achulni crefyddol ar gynnydd.Y bwriad yw cyhoeddi cyfres oerthyglau ar ystod eang o bynciau, gydachyfle i ymateb a thrafod. Ymhlith yLlythyr i’r Golygydd5, Stryd Pwll y Garth,Mynydd Cynffig,Penybont ar Ogwr,CF33 6ES,Annwyl Olygydd,Ar yr 11eg o Dachwedd 2008dangosodd rhaglen “Y Byd ar Bedwar”taw nifer fach o bobl sydd yn defnyddiogwasanaethau drwy gyfrwng yGymraeg. Mae hyn yn hynod osiomedig wrth ystyried yr ymdrech a’raberth gan unigolion, Cymdeithas yrIaith ac eraill i gael yr hawl iddefnyddio’n hiaith ym mhob agweddo’n bywydau. Rhaid cofio’r ffaith symlbod angen defnyddio iaith er mwyn eichadw.Fodd bynnag, mae’n ddyddiau cynnareto. Mae’n debyg y bydd yn cymrydamser i bob siaradwr Cymraeg ddod i’rarfer â defnyddio gwasanaethau yn euhiaith eu hunain.Mae mwy o wasanaethau newydd yndechrau cael eu cynnig drwy gyfrwng yGymraeg trwy’r amser. Er enghraifftmae Tesco wedi cyflwyno gwasanaethC ym r a e g yn e u p e i r i a n n a uhunanwasanaeth. Mae hwn yn wych.Wedi defnyddio’r gwasanaeth einhunan, gallwn argymell y broses symlhon. Y cyfan sydd angen ei wneud ydygwasgu’r botwm “Cymraeg” ar y sgrin,ac yna parhau i sganio eich eitemau.Dim problem, ond os oes problem, maestaff Tesco wastad yn barod i’ch helpuchi! Mae’n rhaid i ni fel CymryCymraeg ddefnyddio’r gwasanaethauyma, neu mi fyddwn yn eu colli.Cofiwch fod yna nifer o wasanaethaueraill y medrwn eu defnyddio drwygyfrwng y Gymraeg, gan gynnwysllinellau ffôn Cymraeg, cael llyfrau siecCymraeg, ysgrifennu sieciau Cymraeg,defnyddio’r “twll yn y wal” a hefyd yrhawl i ysgrifennu at awdurdodau lleola.y.y.b yn y Gymraeg, a chael ateb yn yriaith. Cofiwch fod hwn yn fwy na hawlyn unig, mae hefyd yn etifeddiaeth maeCymry’r dyfodol yn ei haeddu.Yn gywir, Janette a Colin LewisGallwch weld y rhifau ffôn Cymraeg arwww.cymorth.comcyfranwyr cyntaf i’r wefan y mae JohnGwilym Jones, D. Eirian Rees,Desmond Davies, Pryderi Llwyd Jonesa Vivian Jones.Mae’r wefan ar gael arwww.cristnogaeth21.org

YSGOL GYFUNGARTH OLWGwww.rhydfelen.org.ukYr Adran GerddoriaethYn ystod y ddau fis diwethaf mae nifero ddisgyblion yr ysgol wedi bod ynm yn ychu gweithdai offer ynnolLlinynnol, Chwythbren a Lleisiol adrefnwyd gan Wasanaeth Cerddoriaethy Pedair Sir. Ymysg y rhain o Flwyddyn10­13 oedd Catrin Evans, Elinor Rhys,Tomas Watkins, Eleanor BreenO’Byrne, Eluned Tucker, Gwern Parri,Reeve Wilson a Rhian Davies.Mynychodd pedwar o ddisgyblion oFlwyddyn 8 gwrs sylfaen i Delynorionsef Megan White, Anwen Dean, LaurenPrice a Mari Rees. Byddant ynperfformio mewn Cyngerdd Mawreddogar ddechrau mis Rhagfyr.Llongyfarchiadau hefyd i Mari aLauren ar gael eu dewis i berfformioyng Ngŵyl Gerddorol y Sir yn Llandafar y cyd gyda disgyblion o Ysgol yGadeirlan, Caerdydd.A llongyfarchiadau mawr i LiamSimons ­ sydd wedi cael clyweliad gydachwmni Opera Cenedlaethol Cymru!Adran Ymarfer CorffLlwyddiannau Chwaraeon 2008Rydym yn llongyfarch y canlynol areu gorchestion !Owen Sheppard ­ Rygbi Gleision­17Lewis Jones, Dale Parsons, LloydMontague – Gleision ­16Scott Pickering, Sam Owens, DillonLewis, James Edwards ­Rygbi RCT ­12Liam Rees – Nofio CaerdyddIeuan Winterburn ­ Rygbi’r GynghrairGorllewin Cymru ­13Ryan Bonsu ­ Caerdydd ­15Carwyn Rees, Cai Morgan ­ AcademiPêl­droed RCTThomas James ­ Academi Pêl­droedCaerdyddJoseff Thomas, Rhys Cutts ­ CarfanDatblygu Pêl­droed CaerdyddNicole Aston – Dawnsio – CymruCarys Thomas – Rygbi Cymru – 20Hannah Thomas – Rygbi – Gleision­16 /Gorllewin CymruSara Prosser ­ Dreigiau ­16Cerys Britton – Hoci Sir ­18Amber Jones ­ Pêl­rwyd y Sir ­16Georgia Cooper ­ Gymnasteg CymruKelsie Ryan ­ Hoci Sir ­18C y s t a d l e u a e t h G a l a N o f i oRhanbarthol yr UrddLlongyfarchiadau i Elise Rees,Blwyddyn 10 ac i Liam Rees, Blwyddyn8 ar ennill eu cystadlaethau a hefyd i’rtîm ras gyfnewid merched ar gyrraedd yrownd genedlaethol.Tafod Elái Rhagfyr 2008 15Dyddiadur TaithCosta RicaRhan 34Awst 2008Ar ôl dau ddiwrnod o deithio, roeddemyn falch i gyrraedd tref o’r enw PuertoJimenez. Roeddem wedi teithio oogledd y wlad reit lawr i’r de, lle'r oeddy tywydd yn boethach fyth! Cawsomgyfle i ymlacio mewn hostel a nofio yny Môr Tawel, cyn dechrau rhan fwyafanturus ein taith ­ 5 diwrnod o gerddedtrwy’r goedwig law.5 Awst 2008Ar ôl mwynhau ein noson olaf mewngwely cyfforddus, fe adawom iddechrau ein taith gerdded, i le o’r enwCarate. I gyrraedd Carate roedd rhaid ini sefyll ar gefn lorri llawn pobl amdaith hir o 45km ar draws ffyrddanesmwyth! Ar ôl cyrraedd feddechreuom ar ein taith ar drawstraethau at yr orsaf gyntaf lle roeddemyn mynd i fod yn gwersylla, La Leona.6 Awst 2008Roedd rhaid codi’n gynnar i baratoibrecwast a phacio’n holl bebyll i fyny ermwyn dechrau ar ein diwrnod llawn ogerdded. Roedd y diwrnod hwn yn unLluniau Tudalen 16Adran Hanes – TaithBayeux 2008Ar 6 Tachwedd dechreuodd grŵp oddisgyblion Blwyddyn 7 ar y daith hir oysgol Gyfun Garth Olwg i Bayeux.Pwrpas y daith oedd gweld brodwaithBayeux sy’n adrodd stori ymosodiad yNormaniaid yn 1066.Ar ôl brecwast hyfryd mewn gwestyyn Bayeux, cawsom gyfle i weld ybrodwaith a’r gadeirlan ac i ymlwybrotrwy strydoedd y dref yn mwynhau’rhaul a gweld y siopau! Cawsom ginioyn Gaen mewn “Mall” lle'r oedd yprofiad o ofyn am bethau mewnFfrangeg wedi herio rhai o’r athrawon!Wedyn cyfle i weld Pont Pegasus lleglaniodd milwyr y Cynghreiriad yn1944 ­ mae’r caffi a gafodd eirhyddfreinio ar 4 Mehefin 1944 dal ynoac yn gwerthu coffi blasus!Roedd llawer o hwyl ar y llong ar yffordd adre ­ cwis, bingo, sinema, bwydac wrth gwrs, siopa!Diolch i’r disgyblion oedd wediymddwyn yn wych ac i’r athrawonsydd, erbyn hyn, wedi cael amser i ddoddros eu blinder!Disgyblion Bl 7anodd dros ben yn cerdded weithiautrwy’r goedwig ac weithiau ar drawstraethau gyda bagiau enfawr a trwm arein cefnau. Roedd yn enwedig o anoddoherwydd roedd rhaid i ni gerdded yngyflym drwy’r dydd er mwyn gallucroesi afonydd cyn i’r llanw ddod imewn. Roedd yn ddiwrnod llawn aheriol dros ben ac roeddem yn falch igyrraedd ein gorsaf nesaf La Sirena.7 Awst 2008Roeddem yn arbennig o falch i gyrraeddLa Sirena oherwydd roeddem yn mynd ifod yn treulio dwy noson yno. Felly,treuliom ni’r diwrnod yn gorffwyso acyn gwneud ychydig bach o gerdded oamgylch yr orsaf.8 Awst 2008Roedd rhaid deffro cyn toriad gwawr ary diwrnod hwn ­ roeddem yn mynd igerdded 24km trwy’r goedwig.Roeddem yn lwcus dros ben i gaelarweinydd oedd yn arbenigo yn yr ardalar gyfer y rhan yma o’r antur. Roeddeto’n ddiwrnod hir o gerdded ond roeddysbryd ein grŵp yn uchel wrth i nigyrraedd ein gorsaf olaf Los Patos.9 Awst 2008Ar ôl gwario ein noson olaf yn y babell,roedd dechrau cynnar arall yn ein haros,wrth i ni ddechrau ar ein diwrnod olaf ogerdded a mynd yn ôl i gymdeithas.Wrth i ni gerdded yn eiddgar ac ynfrwdfrydig i gyrraedd tref, roedd rhaidcroesi afon 17 o weithiau ac felly wediamser hir o gerdded roeddem yn hapus igyrraedd tref a chael manteisio ar y siopleol. Neidiom ar fws ac roeddem ynhapus i gyrraedd yr Hostel ac i gaelgwely clud i gysgu ynddo a hefyd bodrhan anodd ein taith wedi dod i ben. Yrhan nesaf oedd ymlacio ar lan môr yCaribî!Mwy y tro nesaf!Alun Evans, Blwyddyn 13CÔR MERCHED CANNACÔR MEIBION TAF“Dathliad Y Nadolig”9 Rhagfyr 2008TABERNACL Yr Ais, Caerdydd7.30 pm.Tocynnau: £5Elw tuag at “OperationChristmas Child” a ChronfaOrgan Y Tabernacl.

16 Tafod Elái Rhagfyr 2008Ysgol GynraddDolauPlant mewn AngenCynhaliom ni ddiwrnod ‘pyjamas athedi’ ar gyfer codi arian at elusen Plantmewn Angen. Yn ogystal â gwisgo ifyny coginiom ni fisgedi Pudsey hefyd.Cafodd pawb ddiwrnod o hwyl yn eugwisgoedd a chasglom dros £200.Gala NofioDa iawn i dîm nofio’r ysgol achystadlodd yng ngala’r Urdd ymMaesteg. Nofiodd pawb yn chwim yne r b y n n o f w y r g o r a u ’ r s i r .Llongyfarchiadau i Aled Webb amennill ei ras broga a nawr fydd yncystadlu’n genedlaethol ym mis Ionawr.Ymweliad â Chastell HenllysAeth yr adran Iau ar ymweliad aChastell Henllys fel rhan o’nhastudiaethau Hanes. Cafodd pobplentyn hwyl wrth ddysgu am Oes yrHaearn trwy weithgareddau amrywiol.Cawsom gyfle i adeiladu waliau,coginio bara, peintio ein hwynebau,gwehyddu basgedi a mwynhau yn nawsy pentref Celtaidd. Ymweliad gwych!Pêl­droed gyda Cardiff CityDros yr wythnosau diwethaf maeCardiff City wedi bod yn hyfforddidisgyblion blwyddyn 5. Cawsom gyfle iymarfer a dysgu sgiliau newydd achwarae gemau gyda’n gilydd. Diolch ihyfforddwyr Cardiff City am ein dysguni a rhoi’r cyfle i ni dderbynh yffor ddian t gan ch wa r a e wyrproffesiynol.Menter gwrth­fwlioAeth blwyddyn 6 i Ysgol GyfunLlanhari i gwrdd ag aelodau NSPCC ynystod wythnos gwrth­fwlio. Cawsantgyfle i siarad am y pwnc llosg, cynnigsyniadau a thrafod pwysigrwydd atalbwlio ym mhob man ­ o fewn yr ysgol athu allan yn eu bywyd personol.Oliver!!Aeth blwyddyn 5 a 6 i weld ’Oliver’ ynYsgol Gyfun Llanhari. Cawsom sioefendigedig gan weld yr actio a’r canu aoedd o safon uchel iawn. Diolch iLanhari am y cyfle i weld y sioe cyn yNadolig.Castell HenllysGwehyddu basgediYsgol Evan JamesDosbarth 8 ar daith o gwmpasPontypridd.ac ar y ddeAelodau Cyngor yr YsgolElusen ‘Shoe Box’Hyfforddwr pêl­droed CaerdyddTaith hir ar draws y traeth ynCorcovado, Costa RicaElusen ‘Shoe Box’Diolch i bawb a gyfrannodd focsysNadolig at yr elusen bwysig yma.Casglom focsys ar gyfer gwahanoloedrannau i’w rhoi i blant llai ffodus nani dros y byd. Gobeithio nawr fydd nebheb anrheg y Nadolig yma.Taith i weld brodwaith Bayeux

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!