12.07.2015 Views

Y Tincer 324 Rhag 09 *D a G - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 324 Rhag 09 *D a G - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 324 Rhag 09 *D a G - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Y TINCER RHAGFYR 2009 3Carol NadoligGwyn yw’r ewyn ar y glannau,Gwyn yw blodau’r pren afalau,Tecach gwyn y golau cannaidSydd ar wyneb Mair Fendigaid.Glas yw lliw y môr a’i donnau,Glas yw brodwaith yr wybrennau,Mwynach glas y llygaid dwysafSydd yn gwylio’i baban cyntaf.Euraid ydyw tonnau’r cnydauPan fo medi’n lliwio’r caeau,Tlysach aur y gwellt sathredigA gysgododd Faban unig.Tlws yw lliwiau’r wawr ddydd tawelStaen y porffor gwrid y cwrel,Tlysach fyth i fyd annedwyddDoriad gwawr y gobaith newydd.Gwenith Davies (o T. J. DaviesGwneith Gwasg John Penry, 1975)CYFARCHIONY NADOLIGNadolig llawen ablwyddyn newydd dda igyfeillion a darllenwyr yTincer. Eleni byddaf yncyfrannu arian i’r elusenGISDA (Grãp SenglDi-gartref Arfon) yn llegyrru cardiau Nadolig.Ceris Gruffudd(Golygydd)TREFNIADAUCASGLU SBWRIELDOS Y NADOLIGBydd sbwriel yn caelei gasglu fel arfer yngNgheredigion arddyddiauLlun, Mawrth, Merchera Iau dros y Gwyliau.Daw y faniau ar ddyddSadwrn igasglu y rhai sydd ynarfer cael eu casglu arddydd Gwener. Hyn arRagfyr 26 ac Ionawr 2il.30 Mlynedd ’NôlY swyddogion yng Nghartref Tregerddan ar ddiwrnod agoriadswyddogol y Cartref. Y Cyng J.O.Morgan, Y Cyngh Nicholls, Y CyngJ.O. Williams, Cadeirydd Cyngor Sir Dyfed, Mr M. Thomas, Pensaer,Mrs Mair Parffit, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r CynghR. Wynn-Cowell. Llun: Bill Evans. (Tincer Rhagfyr 1979)Aelodau “OS MÊTS” yn mwynhauamrywiaeth o brofiadauMae aelodau “Os Mêts” wedimwynhau profi nifer o wahanolweithgareddau yn ddiweddar.Aeth criw niferus i Llain gerLlanarth yn ystod yr hanner tymora chawsant fwynhad arbennigwrth herio sawl gweithgaredd awyragored. Trefnwyd yr ymweliad ganCeri Williams a’r Parchg JudithMorris. Gwefreiddiwyd y gynulleidfaa ddaeth ynghyd yn Nhal-y-bont,gydag aelodau o “Os Mêts” yn euplith, gan gyflwyniad bywiog “AradGoch” yn seiliedig ar helyntion TwmSiôn Cati. Diolchir i Falyri Jenkinsam y trefniadau.Yna, canol fis Tachwedd, cafwydnoson brysur o “Hwyl a Sbri”dan arweiniad Eleri Jones. MaeEleri’n fyfyrwraig ym MhrifysgolAberystwyth ac fe dreuliodd yflwyddyn flaenorol yng Ngholegy Bala. Y Parchg Wyn Morris adrefnodd y gweithgaredd.Nos Iau Rhagfyr 3ydd daethnifer i Dal-y-bont i fwynhau nosonamserol “Carol a cherdyn” gydaFalyri Jenkins, Ruth Jên, MairNutting a Helen Jones.I gloi tymor prysur ac amrywiolbydd aelodau “Os Mêts”, fel rhan o’ugweithgarwch dyngarol, yn cynnalnoson o ganu carolau yn Afallen Degnos Fercher Rhagfyr 16eg.Bydd cyfle i ailafael yn yr hwyl a’rgymdeithas yn y Flwyddyn Newydd.Croesewir aelodau newydd bobamser.“Pa fodd y cwympodd y cedyrn?” Dymchwel wal fawr Gogerddan.Llun: Hugh JonesGyda thristwch dymchwelwyd yn ddiweddar enghraifft o adeiladwaithgodidog y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef rhan o’r mur neu’r wal, fely gelwir, sydd yn amgylchynu’r tir oedd un amser yn fyw o ddynion yngweithio yn yr hen ardd, Plas Gogerddan.Adeiladwyd y wal yn 1875 gan Mr Daniel Hamer, saer maen ar stadGogerddan am dros hanner can mlynedd. Yr oedd yn dad-cu i Miss FHamer, Pembroke House, Penrhyn-coch, mae ganddi hi hefyd y “plan”gwreiddiol yn ei meddiant a wnaed gan John Boyd.Erbyn heddiw mae’r tir yn cynnwys adeiladau a lawntiau’r FridfaGymreig. Dywedwyd iddi gael ei thynnu i lawr er diogelwchtrafnidiaeth - rheswm digonol yn yr oes hon. Ar nodyn mwy llawen,mae’r adeilad newydd yn edrych yn urddasol, wrth edrych arno dros ywal fach. (Tincer Rhagfyr 1979)HoffaiBerwyn LewisPant-glas, Y BorthddymunoNadolig Llawen aBlwyddyn Newydddda i’w ffrindiaua darllenwyr yTincer.

4 RHAGFYR 2009 Y TINCERY BORTHLlongyfarchiadauCroeso i ‘r byd i Grace, merchnewydd i Jonathon ‘Tegid’ Thomasa Kim, Athlone (It’s a Gift).Gwellhad buanDeallwn fod Mrs. Eileen Morris,Belair, wedi cael anaf i’w phen-glinyn ddiweddar- gobeithiwn y caiffwellhad cyn bo hir.Clwb pêl-droed BorthUnitedDymunwn wellhad llwyr a buan iDr. Aileen Smith, 1 Beach Cottage,sydd wedi bod yn ysbyty Singleton,Abertawe yn cael llawdriniaeth ynddiweddar. Edrychwn ymlaen ynfawr i’w chael yn ôl yn holliach yny dyfodol agos iawn.• Beth yw eich enw? TeresaWalters• Faint yw eich oed? Mwy na 21!• Beth yw eich gwaith? Rydw iwedi bod yn gweithio efo Ecodyfi– cwmni datblygu cynaliadwyers 2001, ond byddaf yn symudyn y flwyddyn newydd iAbertawe i ddechrau swyddnewydd efo prosiect pobl ifanc‘Down to Earth’.• Ers faint ydych chi wedi bodyn dysgu Cymraeg? 20 mlynedd(rydw i’n ddysgwr araf iawn!!)• Ble oeddech chi’n dysguCymraeg? Mewn dosbarthyn Ysgol Craig yr Wylfa, yn yBrifysgol yn Aberystwyth, yny Tabernacl ym Machynlleth,ysgolion haf a ‘dosbarthiadau’sgwrsio anffurfiol efo ffrindiau.• O le ydych chi’n dod ynwreiddiol? Swydd Rhydychen,Lloegr• Pam benderfynoch chi ddysguCymraeg? Penderfynais i fymod i eisiau siarad Cymraegefo fy nghymdogion affrindiau Cymraeg!A dechreuais idddysgu efoein plant ni,pan roeddennhw dechrauYsgol Feithrinac Ysgol Craigyr Wylfa yn yBorth.• Pryd, neu gydaphwy ydych chi’nsiarad Cymraeg? Rydw i’n siaradCymraeg yn fy ngwaith –mae Ecodyfi yn gyfundrefngymunedol dwyieithog – ac efoffrindiau. Mae pawb wedi bodyn gefnogol iawn, yn siarad ynaraf ac yn syml! Ond eto, rydwi’nffiendio ei fod yn anodd iawn iglywed dechrau brawddegau. Aicwestiwn sydd wedi cael ei ofyn?Dysgwr y misAeth wyth mlynedd heibio ersi ni weld clwb pêl–droed yn yBorth. Ar yr adeg honno, er mawrsiom i aelodau’r pwyllgor, doedddim digon o ddiddordeb gan ychwaraewyr lleol i chwarae dros ypentref ac roedd yn anodd iawnAmdanon ni, neu amdanonnhw? Gorffennol, neu ddyfodol?Ayb! Weithiau, mae fy atebionmor araf fel bod fy ffrind yndechrau siarad yn Saesneg. Ondmae gen i eirfa eitha mawr –achos rydw i’n ysgrifennu llawero bethau yn Gymraeg (efo helpGeiriadur Mawr a safle we BBC!)Cyfarfod Cyhoeddus- CynllunAmddiffyn Arfordir y BorthAr noson stormus ar y 3yddo Ragfyr, wynebodd llu odrigolion res faith o swyddogionyn neuadd y pentre. Cafwydtair awr o drafod y morglawddnewydd. Trafodwyd hir hanes ycynllun-yr arbrofion diri, buddi’r syrffwyr, budd i’r economileol, yr effaith ar yr amgylchedda’r sachau tywod tanddwr, hynoda.y.y.b.. Byrdwn y cyfan oedd bodna frys mawr i gwblhau y gwaitherbyn diwedd yr haf nesafoherwydd amodau grantiau o 7miliwn. Cysur oedd clywed fodyr hen goedwig , sydd yn eincysylltu â chwedl Cantre’rGwaelod yn mynd ifod yn ddiogel.Wedi’r manylugan y lluarbenigwyr,cafodd ypentrefwyr eucyfle i holi’nfrwd. Rhaicwestiynau’nddoethach nag eraill,ond roeddent i gydyn deillio o gonsyrn didwyllam ddyfodol y gymuned.Edrychwn ymlaen yn eiddgar aty gwanwyn i weld y gwaith yncychwyn- o’r diwedd.Rhaid cofio bod Defi Jones yngyfaill da pan fo’r haul yn gwenuond pan yw’r llanw’n uchel achorwynt o’r de orllewin, mae’nelyn dychrynllyd.dod o hyd i reolwr i redeg y tîm.Bellach mae’n bleser gennymadrodd fod Clwb Pêl-droed BorthUnited wedi ei ail sefydlu. Trefnwydnoson agored yn Neuadd y Pentrefar nos Fercher Mai 13 i weld a oedddigon o ddiddordeb i ail ddechrau’rclwb lleol. Roedd yn bleser gweldtua 40 o bobl yn y cyfarfod.Roeddent yn llawn brwdfrydeddac am weld y Clwb yn cael ei ailsefydlu. Enwebwyd pwyllgor ary noson honno a chynhaliwydnoson cyfarfod cyntaf Pwyllgornewydd Clwb Pêl-droed BorthUnited ar y nos Fercher ganlynolpan etholwyd y swyddogion ynffurfiol. Mae trefniadau bellach ary gweill i’r clwb gael ei dderbyn i ailadran Cynghrair Cambrian Tyres,Aberystwyth.Bu’r Pwyllgor yn hynod brysuryn gwneud eu gorau glas i baratoi’rcae mewn pryd ar gyfer y tymornewydd, yn ogystal â threfnugweithgareddau codi arian er mwyngosod y Clwb ar seiliau ariannolcadarn. Cawsant gyfraniadau haeliawn gan unigolion a mudiadauyn yr ardal a maent yn ddiolchgariawn amdanynt. C’mon Y Borth!Cymdeithas Gymraeg YBorth a’r CylchCyfarfu’r Gymdeithas Gymraeg ynFestri Capel y Gerlan, nos Fercher,11 Rhagfyr. Y Cadeirydd oedd yParchg Wyn Morris.Siaradwr y noson oedd Mr JohnMorris, Llanrhystud, a gyflwynwydgan y Parchg Wyn Morris felamaethwr blaengar a hanesyddlleol adnabyddus. Ei bwnc oeddJohn Brown, Llanrhystud, neu“John Legonna” fel y’i gelwid yngyffredinol, ar ôl y pentref yngNghernyw lle cafodd ei eni a’i fagu.Cymeriad diddorol oedd JohnLegonna, yn ddyn brwdfrydig,egnïol a galluog ond rywsut ynaflonydd ac yn anfodlon gyda’i fyd.Daeth o gartref tlawd, ond cael eianfon, yn llanc ifanc, at berthnasauyng Nghaernarfon i hyfforddi’ngyfreithiwr. Yn awyddus, yn eiugeiniau cynnar, i ddod yn AelodSeneddol, yr oedd yn Sosialyddbrwd hyd at gychwyn y RhyfelCartref yn Sbaen, pan gafodd eisiomi yn agwedd negyddol y BlaidLafur ac fe ddaeth yn gefnogwrPlaid Cymru o dan ddylanwadSaunders-Lewis ac arweinwyr eraill yBlaid. Ym 1939 yr oedd yn Llundainpan, ar fympwy, ar ôl darllen yWelsh Gazette, fe benderfynoddbrynu ffarm yng Ngheredigion.Daeth i Lanrhystud yng nghwmniSaunders-Lewis a Moses Griffith aphrynu’r ffarm Penlan Mabws, ganychwanegu’n hwyrach y ffermyddcyfagos, Penrhos Fach a PhenrhosFawr. Ar ddechrau’r Ail RyfelByd, fe gafodd ddirwy o £5 ganYnadon Aberystwyth am ddangosdiffyg parch tuag at yr Anthem“God Save the King”, gan gael eigaethiwo, wedyn, yng NgwersyllPrestatyn am wrthod ymuno â’rLluoedd Arfog. Ar ôl y Rhyfel, feaeth am flwyddyn i Goleg Harlechac am flwyddyn arall i BrifysgolRhydychen i astudio’r gyfraith; ynRhydychen fe ddaeth yn aelod oGymdeithas Dafydd ap Gwilymar yr un pryd a Havard Gregory aGareth Alban Davies. Gan flino arffermio, fe werthodd Penlan Mabwsa Phenrhos Fawr, a dychwelyd iLlundain i gadw gwesty. Bu farwym 1978 yn 60 oed, ond fe adawoddBenrhos Fach a 61 o erwau, yn eiewyllys, i’r Llyfrgell Genedlaethol:ers hynny, bu’r ffarm o dan reolaethPrifysgol Aberystwyth a rhan oincwm y ffarm yn mynd, bob pummlynedd, at Ysgoloriaeth YmchwilGeltaidd Legonna. Claddwydei ludw, yn ôl ei ewyllys, o fewncylch yr hen Gastell Cadwaladr, ardir Penrhos, er mawr ddryswch iGomisiwn Brenhinol Henebion yngNghymru. Dyn dadleuol i’r diweddoedd John Legonna.Diolchwyd i Mr John Morris ganY Parchg Elwyn Pryse ar ddiweddnoson ddiddorol dros ben.Eglwys Sant MathewSêl Ben y BwrddCodwyd dros £100 er budd EglwysSant Mathew o ganlyniad i Sêl Ben

Y TINCER RHAGFYR 2009 5Ar gof a chadwGair o ffarwel oddi wrth dalgylch YTincer. I’r Athro Desmond a Mrs NansiHayesCof - Pe bai’n ofynnol disgrifio Nansimewn un gair, mae’n debyg mai ‘cof’ fyddai’rgair hwnnw. Gair addas, o gofio mai arlwyfan Eisteddfod Genedlaethol Cymruyn y 1950au, yn fuddugwraig cystadleuaethlefaru (neu ‘Adrodd’ yn y dyddiau hynny)y daeth Nansi i sylw’r genedl gyfan, yn‘Eistedd-FWD’ Ystradgynlais.Erys y cof amdani hefyd yn athrawesfrwdfrydig, dros hanner canrif yn ôl, ynYsgol Gymraeg Aberystwyth. Ymhlithy disgyblion bychain a fu’n eistedd, ynllythrennol, wrth ei thraed roedd yr AthroCeri Davies, a ddaeth maes o law yn Athro’rClasuron a Hanes yr Henfyd ym MhrifysgolCymru Abertawe, ac ymhlith yr ieuangafo dîm cyfieithu’r Beibl Cymraeg Newydd,yn aelod o Banel y Testament Newydd adegdathlu Pedwar-Canmlwyddiant Beibl yrEsgob William Morgan, yn 1988.Mae dylanwad cynnar Nansi ar gof achadw, yn drysoredig gan edmygwyr adisgyblion lu.Cadw - Cadw a thrysori oedd ar flaenmeddwl y Desmond Hayes ifanc yntau, panlwyddodd i berswadio Nansi i’w briodi,union hanner canrif yn ôl. Ychydig ynddiweddarach, (47 mlynedd yn ôl, a bod ynfanwl gywir) daeth y pâr ifanc i’r Borth.Sefydlwyd eu cartref hyfryd yn Dunstall,a osodwyd yn gadarn ar graig – Craig yrWylfa, Y Borth.Yno y magwyd teulu afiaethus – Sharon,John, Mike a Tim – sydd bellach wediymhelaethu i gynnwys pedwar o blant-yngnghyfraithhoff – Pete, Beth, Haf a Rebecca– a’r saith o wyrion – Carys, Dafydd, Mari,Cai, Beca, Marged, Ffred – heb anghofio’rddau fychan hir-ddisgwyliedig sydd iymddangos yn fuan (“wotsh ddus sbês!”).Ar gof a chadw - Byddai ceisio tynnullinyn mesur dros gyfraniad Des a Nansi idalgylch Y Tincer, a hu hwnt, ers eu dyddiaucynnar yn yr ardal, yn llanw cyfrolau o’rPapur Bro a fu mor agos at eu calonnau ersei ddechreuad.Llafuriodd Nansi gyda chyfres ogydweithwyr – Tegwen Pryse, Thelma Lloyd,Eurgain Rowlands, Elizabeth Evans yn euplith – i lunio’r hyn a elwid ar un adeg ‘YBorth Colour Supplement’, ar gyfrif swm,manylder, a chywirdeb ei gynnwys.Yn ddi-ffael, cofiai Nansi ddyddiadau, achau,enwau, pen-blwyddi, tripiau, cymdeithasau adigwyddiadau lu, gan lwyddo i ysgafnhau’rcwbwl drwy ymdrechu i gael ffotograffauaddas ar gyfer bob rhifyn.Bu cyfraniad Des yntau i oroesiad y PapurBro yn amhrisiadwy – y cludo a’r cario a’rmân ddyletswyddau, megis cefnogi’r ffeiriaucodi arian, a chwrdd yn fisol i blygu’r PapurBro yn y dyddiau cyn-dechnoleg.Yn y colofnau hyn, mae diolch ardal gyfanyn eco dros faes a bryn i Des a Nansi amgyd-ysgwyddo baich cenhedlaeth sydd wediymlafnio i gadw Papur Bro Y Tincer ynfyw. Ni ellir gorddweud pa mor bwysig fucyfraniad y Papur hwn, fel pob Papur Broarall, i ffyniant a pharhad yr iaith Gymraeg.I bobl fel Des a Nansi y mae’r diolch, a’ucyfraniad ar gof a chadw tra bydd yr iaithGymraeg yn fyw.Wedi dweud hynny, un elfen fechan fu eugwaith ar y cyd yn cefnogi’r Tincer.Daeth yr Athro Desmond Hayes yn enwblaenllaw ym myd Amaeth yng Nghymru athu hwnt, yn bersonoliaeth amlwg ar faes ySioe Amaethyddol yn Llanelwedd.Yn rhinwedd ei swydd, a hefyd oherwyddei ddiddordeb ysol mewn pobol, gwnaethgyfraniadau gwerthfawr i ddatblygiad apharhad Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth,yn enwedig ymhlith myfyrwyr tramor achyn-fyfyrwyr.Cysylltir enw Nansi Hayes â myrdd osefydliadau’r ardal, yn enwedig unrhyw achos afodolai i gynnal a chadw’r diwylliant Cymreiga’r iaith Gymraeg, gan gynnwys Merchedy Wawr, Mudiad Ysgolion Meithrin, UrddGobaith Cymru, ac Ysgol GyfunPenweddig, lle derbyniodd plant Dunstall euhaddysg gynnar.Yn fwyaf arbennig, trysorir y cof am eullafur cariad yn eglwysi’r Borth.Er i Nansi gael ei magu’n eglwyswraig,llwyddodd Des i’w darbwyllo i ymunoâ rhengoedd yr Annibynwyr Cymraeg,a bu’r teulu oll yn asgwrn cefn i EglwysAnnibynnol y Morfa yn y Borth.Pan gaewyd y capel hwnnw, Des a fu’nfwyaf gweithgar, gyda’r diweddar JohnLloyd, yn llunio cytundeb cyfreithiolpwysig – hanesyddol yn wir – rhwngenwad yr Annibynwyr ac enwad yPresbyteriaid yn y Borth. Drwy’r cytundebhwnnw, daeth cynulleidfa i fod sydd wedicydaddoli am yn agos i ugain mlynedd yngnghapel Y Gerlan, gan sicrhau bod addoldyCymraeg yn para â’i ddrws yn agored yn ypentre.Bu Des a Nansi yn gefn i bob agweddo gynnal y gynulleidfa honno, nid ynunig drwy fod yn gyd-Ysgrifenyddionyr Annibynwyr, ond hefyd mewndigwyddiadau eciwmenaidd megis CymorthCristnogol a Dydd Gweddi Gwragedd y Byd.Ni ellid gwell ffrindiau na Des a Nansi iweinidogion a phregethwyr a swyddogionsydd wedi cadw’r lamp ynghynn mewndyddiau anodd ar lawer ystyr.Faint bynnag fydd y golled i’r Papur Bro,i’r Coleg, ac i lu o achosion teilwng yn ydalgylch, mae’n bosibl mai yn y capel a’rgymdogaeth o amgylch y teimlir colli Des aNansi fwyaf.Mae’r ddau wedi bod yn driw i’wHarglwydd, ac wedi rhoi hyd eithaf eunerth a’u gallu i gynrychioli gwerthoeddCristnogol yn eu cymuned, nid lleiaf yn ycartrefi hynny lle mae ‘ Pryd ar Glud’ yngwneud cymaint o wahaniaeth i ansawddbywyd unigolion diymgeledd.Ac fel cymdogion cymwynasgar o’r iawnryw, mae cyfeillgarwch Des a Nansi ynddiarhebol. Bu tân croesawgar yn gwresogipobol o bedwar ban byd ar aelwyd Dunstall,ond ni fydd neb yn gweld eisiau’r gwreshwnnw’n fwy na thrigolion y pentref syddwedi bod ar eu hennill o gael Des a Nansiyn ffrindiau.Mae’n bur debyg na fyddai’r bardd yngwarafun benthyg, er mwyn ceisio taluteyrnged o waelod calon,‘Aelwyd Dunstall, ys tywell heno,Heb dân, heb wely,Wylaf wers, tawaf wedy…… ond ar gof a chadw, erys y chwerthin, a’rcydaddoli, a’r cyd-ofidio, a’r cyd-ddathlu, a’rcydweithio. Bu’n bleser pur.Diolch, Des a Nansi, a dymunwn bobhapusrwydd i chi’ch dau ar yr aelwydnewydd yng Nghaerfyrddin.y Bwrdd yn Neuadd Gymunedoly Borth, ddydd Sadwrn, 21Tachwedd. Diolchir yn gynnes iMrs Rosa Davies a drefnodd y Sêlac i bawb a gefnogodd yr achlysurar fore gwlyb a gwyntog.Estynnwn ein dymuniadaugorau at Mrs Rosa Davies ar ôliddi dderbyn triniaeth yn YsbytyBron-glais yn ystod y mis, ganddymuno iddi wellhad buan.Gwasanaethau’r NadoligDydd Sul, 20 Rhagfyr am 11.15a.m.: Gwasanaeth Boreol a Drama’rGeni, wedi’i pherfformio gan blantyr Ysgol Sul.Noswyl y Nadolig, dydd Iau, 24Rhagfyr am 3p.m.: Carolau yngngolau canhwyllau.Noswyl y Nadolig, nos Iau, 24Rhagfyr, am 11.30 p.m.: GwasanaethHanner Nos a’r Cymun Bendigaid.Bore Dydd y Nadolig, dyddGwener, 25 Rhagfyr, am 8 a.m.:Cymsun BendigaidDydd Sul, 27 Rhagfyr am 11.15 a.m.:Cymun BendigaidNos Iau, 31 Rhagfyr, sef Nos Galan,am 11.30 p.m.: Gwasanaeth HannerNos a’r Cymun Bendigaid.

6 RHAGFYR 2009 Y TINCERCLWB GOLFF Y BORTHAC YNYS-LASAr ddydd Sadwrn, 17eg o Hydref cynhaliwydserremoni arferol y capteiniaid newydd. Y Captennewydd yw John Murphy a Capten newydd yboneddigesau yw Kathy Price. Yn y llun maeCapten newydd yr Adran Iau, sef Zach Galliford(chwith) a’i Is-gapten Luke Williams. Yn dilyn yseremoni a’r cymdeithasu yn y Clwb arweinioddZach pawb o’r Adran Iau mewn cystadleuaethStableford. Y canlyniadau oedd: Gyrru’r hirafar y 17eg twll a enillwyd gan Angharad Basnett(Bont-goch); agosaf at y pin ar y 16eg twll aenillwyd gan Ioan Lewis (Bow Street). Enillyddy gystadleuaeth Stableford oedd Jacob Billingsley(Dôl-y-bont) gyda 41 pwynt, ail Steffan Richards(Y Borth) 40 pwynt ac yn drydedd oedd y captenymddeol Daniel Basnett (Bont-goch) 39 pwynt.Dros hanner tymor mwynheuodd yr AdranIau gyfnod o dywydd digon dymunol i chwaraecwpwl o gystadlaethau. Canlyniadau:25.10.09 Cystadleuaeth Medal1af Jacob Billingsley (Dol-y-bont) 84:13:712il Zach Galliford (Y Borth) 74:1:73 (9 cefn)3ydd Ioan Lewis (Bow Street) 87:14:7327.10.09 Cystadleuaeth Stableford1af Ben Slater (Y Borth) 41 pwynt2il Gethin Morgan (Pisgah) 38 pwynt3ydd Daniel Basnett (Bont-goch) 38 pwynt29.10.09 Gem rhwng tîm y Capten yn erbyn tîmyr Is-GaptenZach Galliford (Y Borth) - Capten yr Adran Iaua’i dim: Jac Morris (Y Borth), Jacob Billingsley(Dôl-y-bont), Gethin Morgan (Pisgah), Ioan Lewisa Sion Ewart (Bow Street).Luke Williams (Bow Street) - Is-Gapten yrAdran Iau a’i dim: Alex Watt (Machynlleth),Daniel Basnett (Bont-goch), Ben Hughes-Jones(Tal-y-bont), Bryony James (Llanbadarn), Rhodriac Iolo ap Dafydd (Goginan).Tîm y Capten oedd yr enillwyr a ddyfarnwydgan y 5 sgôr orau a ganlyn:Tîm Zach: 173 pwynt Tîm Luke: 157 pwynt30.10.09 Cystadleuaeth Bogey1af Daniel Basnett (Bont-goch) +12il Ioan Lewis (Bow Street) Cydradd (9 cefn)3ydd Chris James (Clarach) CydraddAr ddydd Gwener 30 Hydref chwaraeodd yr AdranIau gem hwyliog yn Y Borth yn erbyn Harlech.Dyma’r ail dro i’r ddau dîm chwarae ei gilydd acmae’r trefniant yn un llwyddiannus dros ben.Hapus i’w cofnodi fod Y Borth ac Ynys-las wediennill eleni gyda sgôr o 2 i 1 ar ôl colli’r llynedd.Suliau Ionawr2 o’r gloch3 Elwyn Pryse10 M J Morris17 Bugail24 Irfon Evans31 Eifion RobertsMADOG, DEWI A CEFN-LLWYDCyfarchionGobeithio bydd pawb yn yr ardal ynmwynhau Gãyl y Geni ac yn cofio am y mabbychan a ddaeth yn waredwr, a dymuniadauda i’r flwyddyn newydd.CroesoCroeso i Alister, Tania a Sebastian i CwmHudol ac i Jo Jones i’r Gelli, Cefn-llwyd.LLANDRELlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i David ac Eileen Griffiths,2 Maeshenllan ar ddod yn dad-cu a mam-guunwaith eto. Ganwyd merch, Megan Lia ar 17o Dachwedd i Neil ac Isla, Tal-y-bont. Chwaerfach newydd i Kayleigh, Lowri, Carwyn a Lewis.Croeso adreMae’n bleser gan David ac Eileen Griffithsa’r teulu, 2 Maeshenllan, groesawu adref eumab Y Rhingyll Andrew Griffiths, syddnewydd ddychwelyd adre yn saff ar ôl 6 mis ynAfghanistan gyda’r 2 Comp Bataliwn Cyntafo’r Gwarchodlu Cymreig . Croeso adre Andrewoddi wrth y teulu i gyd.GenedigaethLlongyfarchiadau i Angharad a Gwion Evans,11 Maeshenllan ar enedigaeth mab bach, IoloDafydd Ifan ar 20fed o Hydref. Brawd bach iGwenllïan ac Esyllt a ãyr i Alun a Mary MorrisAberystwyth.Eglwys Llanfihangel Genau’r-glynCalendr - Mae ychydig ar ôl, os hoffech brynuun cysylltwch â Betty Williams. Ffôn 828355LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Dai Evans, Deilyn amennill nifer o wobrau yn nosbarthiadau’r ãynyn sioe Aeaf Llanelwedd.CydymdeimladCydymdeimlwn a Mrs Nan Hughes,Gellinebwen, ar golli chwaer, Mrs GwerfylJames, Tynpwll; hefyd teuluoedd GwarcwmHen a Rhos-goch.Cydymdeimlwn â theuluoedd y ddiweddarMrs Naomi Jones o Gaerdydd, gynt o ffermLlwyn Ddewi, Capel Dewi – teuluoeddClydfan, Murmur-y-Coed, Grovelands acElonwy.TREFEURIGPen blwydd hapusLlongyfarchiadau i Merfyn, Trawsnant, arddathlu ei ben blwydd yn 65 oed ar y 23aino Ragfyr. Dymuniadau da iddo hefyd amwellhad buan ar ôl llawdriniaeth clun newyddyn Ysbyty Bron-glais. Pob lwc iddo yn ydyfodol.DÔL-Y-BONTGwellhad buanBu Rachel Rowlands, Brynllys, yn derbynllawdriniaeth yn Ysbyty Treforus ddiweddTachwedd. Dymunwn wellhad llwyr a buaniddi a da yw deall ei bod adref erbyn hyn.CydymdeimladCydymdeimlwn â Richard a Bernard Moore,gynt o Dolwar ar farwolaeth priod a mam.Bu farw Mrs. Patricia Moore ddiweddTachwedd.CLWB CW^Penrhyn-cochLAr Agor Llun - Gwener3.30 - 5.30£5 y sesiwn. £4 ail blentynBwyd a Diod Iachus yn GynwysedigGofal Plant CofrestredigI fwcio cysylltwch âNicola Meredith 07972 315392Neu cipiwch i mewn i’r clwb ar ôl YsgolCelf a Chreft, Gemau tu mewn ag allan,Wii a Playstation, Pwll Pelau a mwy!

Y TINCER RHAGFYR 2009 7GOGINANYmddiheuriadauYmddiheuriadau llaes i ohebydda darllenwyr Goginan- diolch iddiawl y wasg ni ymddangosoddnewyddion y pentref y mis diwethaf.Paul KittleTrist yw cofnodi marwolaeth PaulKittle, Gwelfryn, Goginan ag yntauond yn 48 mlwydd oed. Bu farw arddydd Llun , Hydref y 5ed pan ar eiwyliau gyda’i bartner o dros ugainmlynedd Susanne, yn ynysoeddGroeg. Roedd yn llysdad annwyl iAnne a’i gŵr Nic, Barry a’i bartnerClaire ac yn dad-cu balch tu hwnt iHolly. Mab i Jim Kittle a’i wraig Olga,Haulfryn, Cwmbrwyno a brawdAdam, Aberystwyth, Jane a Huw eigŵr, Hafan, Cwmbrwyno. Roeddhefyd yn meddwl tipyn o’i neiaint;Jason, Samantha, Steven a Sioned.Ganed Paul yn Essex and buan ysymudodd gyda’i rhieni i Henfforddac yna i Tyngraig, Swyddffynnon.Aeth i’r ysgol lleol yn Swyddffynnonlle y dysgodd siarad Cymraeg acaeth ymlaen i ysgol Tregaron acwedyn i Ben-glais pan symudoddei dad i Lanbadarn i ofalu amdafarn y “Black Lion.” Wedi gadaelysgol aeth fel prentis peirianaethi Aber-porth lle y dysgodd amlgrefft a oedd i ddod yn ddefnyddioliddo trwy weddill ei fywyd. Ar ôlgorffen ei brentisiaeth bu’n gweithiomewn sawl modurdy lleol ganganolbwyntio ar feiciau modur.Roedd yn berson arbennig gyda’iddwylo a symudodd ymlaen aty gwaith plymio gan weithio ersblynyddoedd bellach i gwmniplymio lleol. Roedd ei allu amryfalyn cael ei adlewyrchu yn y gofala roi i’w gartref, Gwelfryn. Fe fuiddo aildoi y tñ a gwneud amrywo wellianau, yn ddiweddar roeddnewydd baentio’r tu allan.Cynhaliwyd ei gynhebrwng ynAmlosgfa Aberystwyth ar y 15fed oHydref pryd y daeth torf enfawr idalu y deyrnged olaf. Arweiniwydy gwasanaeth gan y ParchedigIfan Mason Davies gyda darlleniadpwrpasol gan Peter Jones a ManselJames yn organydd. Roedd maint ydorf yn dangos cymaint oedd Paula’i deulu wedi gwneud argraff ar eigymuned yng Ngoginan ac hefydo’i blentyndod yn Llanbadarn.Cydymdeilwn gyda’r teulu oll.Prawf GyrruLlongyfarchiadau i Lee Evans,Gwarllan, ar basio ei brawf gyrru.Cofia yrru yn ofalus!GenedigaethLlongyfarchiadau i Aled a Caryl,Hafodau ar enedigaeth mab – JoseffHedd - ar 6 Rhagfyr.Radio CymruBraf oedd clywed Manon Davies,Gilfachglyd, ar raglen Dafydd Duac Eleri Sion yn y bore. Hi oedd DJy dydd ac yn ôl pob fe fydd rhaid isawl un wylio neu fydd Manon yncymeryd ei swydd.GwellaBraf yw cofnodi fod LewisJohnston, Y Druid, wedi gwella arôl ei lawdriniaeth sydyn yn YsbytyBron-glais diwedd Mis Medi.CydymdeimloTrist yw cofnodi marwolaethMargaret Biggs, Royal Oak, yn60 oed, neu fel yr hoffai cael eiadnabod Bigsy. Symudodd hia Mel ei chymar i’r ardal 23 oflynyddoedd yn ôl ond er byw yngNgoginan fe fu yn teithio’r wladyn darlithio ar Gyfraith Tai, ac ynboblogaidd iawn gyda’i myfyrwyrgan ei bod yn berson bywiog adiddorol. Cafodd ei llawdriniaethgyntaf yn Awst 08 ond roeddyn benderfynol i gadw ymlaengyda’i gwaith tan yr ychydigwythnosau diwethaf lle bu Melyn gofalu amdani tan y diwedd.Cydymdeimlwn yn ddwys gydaMel, mam Margaret, a’i brawd.GenedigaethLlongyfarchiadau i Ian a Rose Sant,Ravensclough, ar enedigaeth wyresfach – Elizabeth Amina, merch iThomas a chwaer i Alex sydd ynbyw yn Corinda, Queensland,Awstralia. Mae Mam-gu a Tad-cuyn edrych ymlaen i deithio i weld yteulu bach yn fuanMarwolaethTrist yw cofnodi marwolaeth unarall o hen drigolion yr ardal, sefGwerfyl James, Tynpwll, priody diweddar Richard (neu DickTynpwll fel ei adnabyddid yn ygymuned) a mam i Ceredig acElfed, mam yng ngyfraith Hazela Gwen a mam-gu annwyl iAngharad.Ganed Gwerfyl yn Llanfariancyn symud gyda’i theulu iPenbryn o ble yr aeth i’r ysgollleol. Treuliodd ei blynyddoeddcynnar adref ar y fferm ynhelpu ei rhieni a hefyd gwarchodoedolion eraill. Cyfarfu â Dicka symud i Tynpwll i ffermio amagu ei phlant tra symudoddgweddill y teulu o Benbryn i’rHendre yn Llandudoch. Cyn,ac ar ôl colli ei phriod rhyw drideg mlynedd yn ôl bu hefyd yngweini yn nhafarnau Maesbangor aThynllidiart am flynyddoedd.Bu’n dioddef ers blynyddoeddbellach o’r cryd cymalau a chanfod yn gaeth i’w chadair olwynbu mewn cartref pwrpasol ynLlanybydder. Pob cydymdeimlad â’imeibion a’r teulu oll.CydymdeimloCydymdeimlwn â Olga Kittle,Haulfryn, Lynette Price, Panteg a’uteluoedd ar farwolaeth eu tad sef BillWesterman o Blaen-plwyf.Gwellhad BuanDymunwn wellhad buan i LeeEvans, Gwarllan ar ôl ei driniaeth ynYsbyty Gobowen yn ddiweddar.O’r Cynulliad – Elin Jones ACEr bod y dydd yn byrhau a’rtywydd yn troi’n fwy gaeafol,mae’r wythnosau diwethaf wedibod yn llawn digwyddiadau obwys i drigolion Ceredigion.Ar ddechrau’r mis, fe ddaethcadarnhad bod y GweinidogIechyd, Edwina Hart AC, wedicymeradwyo buddsoddiadgwerth £7.5 miliwn tuagat ran gyntaf o’r prosiect iailddatblygu Ysbyty Bron-glais.Mae’r buddsoddiad hwn ynffurfio rhan o gynllun ehangachgwerth dros £40 miliwn a fyddyn gweld estyniad newydd yncael ei godi er mwyn darparugwell adnoddau i’r ysbyty, gangynnwys adran ddamweiniau atheatrau newydd.Yn gynt eleni, fe gynhalioddy Gweinidog dros yrAmgylchedd, Jane Davidson AC,ymgynghoriad ar gynlluniauposib i gyflwyno ffi ar gyferbagiau plastig mewn siopau.Yn sgil yr ymgynghoriad, fegyhoeddodd y Gweinidog eibod yn gobeithio cyflwynodeddfwriaeth newydd er mwyncyflwyno ffïoedd o’r fath erbyn2011 ac y bydd yn awr yn myndati i edrych ar ba fath o fagiaui gynnwys o dan y cynlluniauhyn. Er ein bod fel cymdeithaswedi llwyddo i leihau eindefnydd o fagiau plastig dros yblynyddoedd diwethaf, mae’nfwyfwy amlwg mai dim ondtrwy gyflwyno ffi amdanynty gallwn leihau’r defnyddymhellach.Mae yna gryn ofid wedibod yn ddiweddar ynghylchdyfodol y swyddfa Cyngor arBopeth, sydd hefyd yn cynniggwasanaethau allymestynmewn nifer o gymunedaueraill ar draws Ceredigion.Mae’n wasanaeth sy’n darparucyngor a chymorth pwysigi drigolion lleol ac mae’nhanfodol bod pob ymdrechyn cael ei wneud i’w ddiogelu.Yn anffodus, mae’r swyddfayn Aberystwyth yn wynebutrafferthion cyllido a all olyguy bydd yn rhaid iddynt gauyn y dyfodol agos. Rwyf wedicodi’r mater gyda’r Cyngor Sirac rwy’n deall eu bod wedi bodyn cynnal trafodaethau gydachynrychiolwyr o’r swyddfaCyngor ar Bopeth er mwynceisio datrys y sefyllfa.Yn ddiweddar, mynychaisseremoni wobrwyo Gwir FlasCymru yn Y Fenni. Roedd hwnyn gyfle bendigedig i gael gweldansawdd a safon ein cynnyrchyng Nghymru a hoffwnlongyfarch yr holl enillwyr addaeth i’r brig ac a oedd, yn felarfer, yn cynnwys nifer fawr ogynhyrchwyr o Geredigion.Llongyfarchiadau i Elin Jones AC arennill gwobr ‘AC y Flwyddyn’!

8 RHAGFYR 2009 Y TINCERBOW STREETMerched y WawrRhydypennauCroesawyd pawb i’r cyfarfod ganGwenda a thrafodwyd gohebiaethy mudiad a materion a godwydo’r llawr. Yna, cyflwynodd einsiaradwraig wadd sef, Mair Jenkinso Gapel Bangor. Roedd Mairwedi gwisgo côt Japaneaidd oeddyn arddangos y pedwar tymor.Yn 1979 bu Alun, gãr Mair, yncanu yn Japan ac ymhlith yranrhegion a ddaeth yn ôl i’wdeulu oedd kimono bach i Gareth,ei fab pedwar mis oed. Erbynhyn mae Gareth wedi ymsefydluyn Japan. Roedd wedi teithioyno gydag Ysgol Penweddig acyn ddiweddarach graddioddmewn Japanaeg. Dylanwad boreoes! Oherwydd hyn mae Mairwedi ymweld â Japan bumgwaith. Rhoddodd sgwrs hynodddiddorol am fywyd yn y wlad- yr ynysoedd; y tywydd; y tai;arferion; gwestai; siopa a bwyd.Soniodd hefyd am ddylanwadteledu gorllewinol ar deleduJapan ac am ei hymweliad â’rAmgueddfa Heddwch a oedd yndangos ffeithiau am Hiroshima.Ar ôl dangos rhai sleidiau aeth atii baratoi swshi i’r aelodau flasu.Barn pawb oedd ei fod yn flasusiawn!Diolchodd Gwenda yn gynnesiawn iddi am agor ein llygaidi fywyd yn Japan. Bethan aShân oedd yng ngofal y te.Enillwyd y raffl gan Mair Davies.Llongyfarchiadau i dîm y gangenaeth i’r “cwis cenedlaethol”.Daethant yn drydydd ynrhanbarth Ceredigion.Edrychwn ymlaen at gaelcwmni Iwan Jones, Dolau yn eincyfarfod nesaf. Nadolig Llawen aBlwyddyn Newydd Dda i bawb.GenedigaethLlongyfarchiadau i Angharad aSteve Welsby ar enedigaeth AmeliaElen ym mis Hydref, chwaer fachi Lily-May, wyres i Gwyneth aMalcolm Hunkin, Bryncastell, anith i Guto ac Adrianna. Croesomawr i’r fechan oddi wrth y teului gyd.Cymdeithas Chwioryddy GarnCynhaliwyd y Ffair flynyddol foreSadwrn 28 Tachwedd yn y Neuaddac fe groesawyd pawb gan GwendaEdwards, y Cadeirydd. Elenigwahoddwyd Alan ac Ann WynneJones i agor y ffair, dau o aelodauffyddlon a gweithgar y capel.Cawsom anerchiad diddorol ganAlan a gwerthfawrogwyd y rhoddhael a gyflwynwyd ganddynt.Cyflwynwyd blodau i Ann ganddau o blant yr Ysgol Sul, Williama Gerwyn, Caergywydd.Fel arfer roedd digon o gyflei brynu amrywiol nwyddau abwydydd oddi ar y stondinauac i brynu tocynnau raffl.Codwyd swm sylweddol o ariana diolchwyd i bawb fu’n gweithioa chefnogi gan y Parchedig WynMorris.Daeth y chwiorydd ynghyd ar 2Rhagfyr gyda Gwenda Edwardsyn llywyddu a chroesawu.Roeddem yn falch o weld NestDavies wedi gwella’n ddigon dai ddod yn ôl atom. Arweiniwydmewn defosiwn gan Llinos Dafisa Kathleen Lewis oedd wrth yrorgan. Diolchodd y Llywydd ibawb fu’n cynorthwyo yn y ffairac yn enwedig i Shân Hayward amyr holl waith trefnu.Cawsom brynhawn diddoroliawn yng nghwmni RuthJên yr artist a’r argraffydd oDal-y-bont sy’n byw yn hensiop esgidiau’r Morganiaid ac ymae’i gweithdy ym mlaen y tñ.Rydym i gyd yn gyfarwydd â’rmurlun mawr o waith Ruth yny pentref ac yn ddiweddar maeAelodau Grw^p Help Llaw y Garn gyda rhai o’r bocsys a baratowyd ar gyfer OperationChristmas Child 2009. Ers degawd bellach mae’r Grw^p Help Llaw wedi bod yn rhan o’rymgyrch Operation Christmas Child drwy lenwi bocsys sgidie gyda rhoddion addas iblant anghenus ledled y byd. Bu eleni yn flwyddyn arbennig iawn pryd y derbyniwyd 59o focsys gorlawn a £258 o bunnoedd o nawdd. Diolch o galon i bawb a gefnogodd yrymgyrch trwy baratoi bocs a chyfrannu’r ariannol.Alan Wynne ac Ann Jones yn agor FfairNadolig y Garn, 28 Tachweddwedi llunio un arall llai ger ysiop trin gwallt. Bu’n dangos innisut i wneud amrywiol gardiaua chafodd pawb gyfle i ddilyn eichyfarwyddiadau a llunio cardiau.I gloi prynhawn diddorol cafwydcyfle i gymdeithasu dros baneda lluniaeth a baratowyd ganchwiorydd Pen-y-Garn.CydymdeimladCydymdeimlwn â Noel a MaureenMorgan, 2 Brynmeillion, arfarwolaeth mam Noel yn ardalCydweli yn ystod y mis diwethaf.Dymuna Mair Lewis, 40 MaesCeiro, Richard a Rheinallt ddiolcho waelod calon i ffrindiau ynardal y Tincer am bob arwydd ogydymdeimlad a fynegwyd iddyntyn sgil y brofedigaeth fawr a ddaethi’w rhan wrth golli John Wyn,brawd arbennig Mair. Diolch amyr holl gardiau, y rhoddion er cofam John a’r ymweliadau niferus.Hefyd diolch o galon i bob un adeithiodd o Geredigion i’r angladdym Mhencaenewydd ac ymlaeni’r fynwent yn Llanaelhaearn.Gwerthfawrogwyd hyn yn fawriawn gan y teulu yn Eifionydd.Ni fyddwn yn anfon cardiauNadolig eleni, felly dyma fanteisioar gornel fach o’r Tincer i ddymunoGãyl fendithiol a blwyddyn newyddheddychlon i bawb.Pen blwydd hapusLlongyfarchiadau i Mari Wyn Lewis,Carregwen, Bow Street sy’n 18oed ar18/12/09. Joia dy bartïon i gyd1Cariad mawr oddi wrth Mam, Dad,Ioan, Elis, Nanna, Grandpa, Mam-guCil-y-cwm a Mam-gu & Tad-cuYstradgynlais.Llun: Ian ColeWynne Melville Jones a Mistar Urddmewn gwasanaeth arbennig ar Sul yrUrdd yn y Garn, 15 TachweddWilliam a Gerwyn, Caergywydd, yncyflwyno blodau i Ann Jones yn Ffair yGarn, 28 TachweddMari Wyn Lewis

Y TINCER RHAGFYR 2009 9HephsibaAm fod ein hynafiaid ynfwy cyfarwydd â r Beibl nani roeddynt yn dewis enwaudiddorol i’w capeli. fel yr un argapel Annibynwyr DyffrynClarach ym 1837. Troi i Eseia62,4, a wnaeth yr hen bobol yngnghwmni’u gweinidog BenjaminRees a bedyddio’r addoldy agodwyd ar dir Tyn-y-Pwll arbwys Tñ’ rabi yn HEPHSIBA: ‘...ti a elwir Hephsiba canys y maeyr Arglwydd yn dy hoffi’. Er bodpregethu yn y ‘Cross’ ym 1805 abod yr addolwyr wedi cwrdd drosdro iyn Nhñ ‘rabi a Phorthangel,oedwyd cyn adeiladu’r capeloherwydd gwrthwynebiad teuluuchel-eglwysig Cwm Cynfelyn igael y fath ddolur llygaid gyferbynâ’u plas. Dewisodd y bobol enwpwrpasol ar eu tñ cwrdd am ycredent fod Duw, yn wahanoli Williamsiaid Cwm Cynfelyn,yn eu hoffi. Yn yr agoriad ym1837 bu wyth pregethwr yntraethu am ddiwrnod a noson achyfansoddodd y gweinidog emyni ddathlu’r agoriad. Tybed a weloddrhywun emyn Benjamin Rees?Roedd Hephsiba yn rhano ofalaeth Soar, Llanbadarna Beulah, Dyffryn Paith ynnyddiau Benjamin Rees a bumewn cysylltiad wedyn â SalemCoedgruffydd. O 1868 ymunoddgyda chapel y Borth. ac o 1868 i1876 y gweinidog oedd WilliamWilliams a hyfforddwyd yngNgholeg Caerfyrddin. Fe’uholynwyd hyd 1887 gan weinidogBethesda Tñ-Nant, Seion Ceulana Thabor y Mynydd, Peter Daviesbrodor o Goed-poeth a fu’nweinidog yn Arthog. Mae fynghyfaill y Parchg. Derwyn MorrisJones o’r un cyff. Symudoddãyr Peter Davies, Eric Dunninga’i briod Joyce o Lundain iLanuwchllyn a buom yn sôn amy taid yn Nhal-y-bont, Clarach a’rBorth. Symudodd i Bant-teg sirGaerfyrddin a gofynnodd Ericimi fynd i fynwent y capel i weldei garreg fedd wedi imi symud iGaerfyrddin.Ym 1887 wedi ymadawiad PeterDavies ordeiniwyd Joseph Llewelyno Gilcennin a gwasanaethoddam ddeugain mlynedd. Tyfoddpoblogaeth Bow Street yn gysonar ôl agor y rheilffordd ym 1864 acerbyn dechrau’r ugeinfed ganrifroedd y gweinidog yn awyddusi gael capel yn y pentre ac feddigwyddodd hynny ym 1903. pangodwyd Noddfa yn ymyl MelinRuel. Adnewyddwyd Hephsiba igynnal Ysgol Sul am gyfnod ondbuan y daeth addoli i ben yno.Byddaf yn cerdded at yr hengapel yn aml ac yn oedi yn yfynwent a’r tro olaf y bûm ynocefais gwmni fy nghyfaill IwanDavies disgynnydd i aelodau selogy capel gynt. Aeth a mi at garregfedd ei hen hen dad-cu RichardJones(1795-1860) ac Elizabeth eiwraig (1794-1866), rhieni Benjamina sefydlodd ei efail yng Nglanrafonyn y lôn fach ger y dafarn yngngwaelod Bow Street. PriododdMyfanwy un o i ferched ef aCatherine ei briod ag Enoc Davieso Benrhyn-coch ac o’r saithplentyn a anwyd iddynt dim ondein cymdoges Eunice Flemingsy’n goroesi. Un o’i brodyr, DavidJohn oedd tad Iwan, a Benjaminbrawd arall oedd tad John fu arstaff y Llyfrgell Genedlaethol ac afu farw yn Ebrill. Fel yr hynafiaidyn Hephsiba bu Iwan, John a’imodryb Eunice yn ffyddlon agwasanaethgar yn Noddfa .Hyd nes imi ddarllen yn y gyfrolCapeli Môn, 2007, Geraint I.L.Jones,fod gan y Presbyteriaid gapel (wedicau bellach) gapel o’r enw Hephsibaym mhlwyf Rhosbeirio tua 2filltir o Lanfechell, roeddwn ynmeddwl mai dim ond HephsibaClarach oedd yn dwyn yr enw. Osgwyddoch am un arall carwn gaelgwybod.W.J.EdwardsPEN-LLWYN /CAPEL BANGORCydymdeimladEstynnwn ein cydymdeimlad aMrs Marian Lewis, Glanrheidol,sydd wedi colli brawd aryr 28ain o Dachwedd, sefMr Gwilym Richard Jones,Rhoscellan Fawr, Clarach.Cofiwn amdani yn ei hiraeth.CyfarchionDymunwn i ddarllenwyr yrardal Nadolig hapus a BlwyddynNewydd dda, yn enwedig i’rrhai sydd yn gaeth i’w cartrefi,ac i’r rhai sydd mewn CartrefiGofal, sef Mrs MyfanwyThomas, Troedrhiwlwba, MrsElizabeth Jones, Rhoslwyn aMrs Megan Crees, Gwelfor.Merched y Wawr –cangen MelindwrCroesawyd pawb i ailgyfarfod y tymor gan einllywydd, Beti Daniel. Cafwydtrafodaeth ynglñn â’n cinioNadolig sydd i’w gynnal ymmis Rhagfyr. Diolchodd yllywydd i Angharad Jonesam gynrychioli’r gangen arbwyllgor y neuadd. CytunoddBeti Daniel i gynrychioli’rgangen o hyn ymlaen.Croesawyd ein gwraig waddam y noson, sef Eirlys Lloyd,sy’n un o wirfoddolwyr ySamariaid yn Aberystwyth.Trwy gyfrwng ffilm a sgwrssoniodd am gefndir y mudiadac am sefydlu’r gangen ynAberystwyth. Clywsom sutmae’r mudiad yn gweithreduac am ei phrofiad hi felgwirfoddolwraig. Roedd ynamlwg bod ganddi wybodaethdrylwyr am y mudiad. Roeddyn barod iawn hefyd i atebcwestiynau’r aelodau. HannahDavies ddiolchodd i Eirlys acroedd yn ddiddorol clywed amy modd y cyfarfu hi a ChadVarah, sefydlydd y Samariaidpan ddaeth ar ymweliad iAberystwyth. Yn ystod ynoson gwnaed casgliad ymhlithyr aelodau tuag at Y Samariaid.Eirlys Davies (Brynmeillion) acEirwen McAnulty oedd yngngofal y te. Enillwyd y wobrraffl gan Llinos Evans.Mis TachweddCyfarfu’r aelodau ar nosFawrth, 3ydd Tachwedd ac fe’ucroesawyd gan y llywydd, BetiDaniel. Gwnaed y trefniadauangenrheidiol ar gyfer ein cinioNadolig. Ein gwraig waddoedd Kate O’Sullivan sydd ynfilfeddyg yn Llanbadarn Fawr.Wrth ei chyflwyno soniodd yllywydd am y rhaglenni radioa theledu y mae wedi cyfrannuatynt.Nid am ei gwaith bob dyddy soniodd y wraig wadd ondyn hytrach am y cyfnoda dreuliodd hi a’i gwr yngweithio yn Cambodia rhwng1991 ac 1994. Aethant yno o dangynllun VSO. Roeddynt yno ihyfforddi milfeddygon y wlad ahynny mewn cyfnod o newidyno. Drwy gyfrwng sleidiau asgwrs cawsom ddarlun o fywydCambodia ganddi.Diolchwyd iddi gan AngharadJones. Paratowyd cwpanaid ode gan Margaret Dryburgh aHeulwen Lewis. Glenys Griffithenillodd y wobr raffl.RHAGHYSBYSIAD16 ChwefrorNos Fawrth YnydNoson Grempog7 - 8 pmAdloniant i ddilyn ganDeulu Ynys ForganNeuadd yr Eglwys,Capel BangorCapel HephsibahLlun: Anthony PughGwasanaethCynnal M.H.Gwasanaeth Torri Porfa aGarddio, Peintio, Teilo, D.I.Y.a manion waith eraill o amgylchy tŷDisgownt i bensiynwyrFfoniwch ni yn gyntaf ar01970 881090 /07792457816Cymorth cyfrifiadurol lleoledig yn AberystwythCyfrifiadurHELP?Ymweliad cartrefFfoniwch07536 022 067

10 RHAGFYR 2009 Y TINCERPENRHYN-COCHSuliau Ionawr -HorebRhagfyr20 2.30 Oedfa Nadolig y plant acieuenctid25 7.30yb Oedfa gymun boreNadolig27 10.30 Oedfa diwedd blwyddynIonawr3 2.30 Oedfa gymrun Gweinidog10 10.30 Oedfa deuluolGweinidog17 2.30 Oedfa bregethuGweinidog24 10.30 Clwb Sul bach ac Oedfabregethu Gweinidog31 10.30 Oedfa bregethuGweinidogSalem10 2.00 Parch.D.A.Lenny24 10.00 Parch. Terrry EdwardsCinio CymunedolPenrhyn-cochyn siomedig oedd y gynulleidfacafwyd noson hwyliog dros ben.Yn ystod y noson cyflwynwydsiec o £1,487 gan SelwynThomas, Llandysul a HywelEvans, Penrhyn-coch a drefnoddddiwrnod ras y tractorau nôlyn yr Hydref i gronfa’r Neuadd.Diolchodd Dai Rees Morgan,Cadeirydd Pwyllgor y Neuadd ibawb a gyfrannodd at y diwrnodac at y Bingo. Rhwng y siec a’rarian a wnaethpwyd ar y nosoncafwyd swm sylweddol a chafwydnoson dda.Dau w^ yr newyddLlongyfarchiadau i John acEirwen Hughes, Pen-cwm, arddod yn dad-cu a mam-gui ddau ãyr newydd. Ganwydmab – Defi Waldo i Elen a Rhys,Llanfihangel-y-creuddyn ar 24Tachwedd– brawd bach i Jona aganwyd mab – Joseff Hedd - iAled a Caryl, Hafodau, Goginanar 6 Rhagfyr.Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-cochDyma gystadlaethau llenyddolyr Eisteddfod a gynhelir yn2010 ar Ebrill 23-24 Dylai’rcyfansoddiadau fod yn yGymraeg ac yn llaw y beirniaiderbyn 10fed o Ebrill.Rhifau 1-5 i Tudur Dylan Jones,Carreglwyd, Heol Penlanffos,Tanerdy, Caerfyrddin SA31 2EZa 6-10 i Dafydd Morgan Lewis,10 Rhes Gogerddan,Aberystwyth, CeredigionSY23 2EXAr gyfer Cystadlaethau Tlwsyr Ifanc a’r Gadair dylidgyrru ffugenw, enw priodola chyfeiriad i’‘r Ysgrifennydd(Mairwen Jones, 7 Tan-y-berth,Penrhyn-coch, Ceredigion SY233XH erbyn 17 Ebrill 2010.1 Cystadleuaeth y Gadair:Cerdd heb fod dros 50 olinellau ar y testun ‘Gofal’2 Telyneg: Ymddiheuro3 Englyn digri: Methu4 Soned: Y LlyfrgellGenedlaethol5 Limrig - Ni welais erioedbeth mwy rhyfedd6 Stori Fer: Gobaith7 Brawddeg: Penweddig8 Tlws yr Ifanc: Stori Fer:Cadwyni9 Erthygl i gylchgrawn yntrafod unai Radio Cymruneu S4C –Cystadleuaeth irai dan 25 oed.10 Llythyr at Aelod Seneddolneu Aelod Cynulliad ynmynegi safbwynt ar unaiMoch Daear neu FelinauGwynt.Bydd y Clwb yn cyfarfod ynNeuadd yr Eglwys dyddiauMercher 12 a 13 Ionawr.Cysylltwch â Egryn Evans (828987) am fwy o fanylion neu ifwcio eich cinio.Atgofion o SalemDerbyniodd Gwefan Trefeurigdair llawysgrif fanwl yn Saesnegsydd wedi eu rhoi ar wefan yplwyf – Atgofion William ElfedDavies o Salem. Ganwyd MrDavies ym 1919 a bu farw yn2002. Ceir ar y wefan y dogfennausydd yn olrhain hanes eiblentyndod yn y pentref, eiaddysg yn Nhrefeurig, ei waithyn Aberystwyth cyn y Rhyfel,yn ogystal â disgrifiadau dwys,ond doniol yn aml, o’i fywydfel milwr yn ystod y Rhyfelcyn iddo ddychwelyd i Salem a’rPenrhyn. Mae’r dogfennau hynyn cynnwys disgrifiadau manwlo’i hyfforddiant yn y DU, ei hanesyn teithio mewn confoi trwyFôr yr Iwerydd, ac ym MrwydrGogledd yr Affrig, ac ymlaen i’rEidal tan iddo adael y fyddin ym1946.Gweler http://www.trefeurig.org/hanesdavies.phpNeuadd Penrhyn-cochNos Wener, 4ydd o Ragfyr fegynhaliwyd noson o Bingo ynNeuadd y Penrhyn. Er mai braiddCydymdeimladCydymdeimlwn â Gaynora Hefin Jones, Ffion a Ben,Ger-y-llan ar farwolaeth tadGaynor – Enock MeredyddWilliams - yng Nghapel Seionddiwedd Tachwedd.YsbytyDymunwn wellhad buan iCeredig Evans, Glanaber, syddwedi cael triniaeth yn yr ysbytyyn ddiweddar.i Glenys Thomas, Cwmfelin, ar ôlcael triniaeth ar ei llygaid;ac i Meirion Jones, Glanceulan, afu yn yr ysbyty yn cael triniaeth.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Ryan Waterssydd wedi cael tymor arbennigar ei feic modur. Mae Ryan syddond yn bymtheg oed wedi bodâ diddordeb yn y beiciau hyn ersyn fach iawn. Mae yn aelod osawl clwb yn cynnwys Clwb PoblIfanc Rhaeadr a’r Warley Waspso Ganolbarth Lloegr. Mae wediennill amryw o wobrau ac maeyn ddyledus iawn i’w dad am fodmor gefnogol iddo.Merched y Wawr,Penrhyn-cochNos Iau, 12fed o Dachwedd,croesawodd ein llywydd, CeriWilliams, bawb i’r cyfarfod. Feddymunodd wellhad buan i’raelodau a fu yn achwyn ac fegydymdeimlodd ar y rhai agollodd anwyliaid yn ddiweddar.Yna aed ymlaen i wneud ybusnes arferol a mynd trwy’rohebiaeth a ddaeth i law. Ynagan fod ein gãr gwadd, MichaelDavies, wedi methu a dodoherwydd salwch fe gymeroddein llywydd ar fyr rybudd at ynoson. Roedd wedi dod a ffilm‘Y Chwarelwr’ i ddangos. Honoedd y ffilm llafar gyntaf erioedyn Gymraeg o waith Syr Ifan apOwen Edwards gyda John EllisWilliams yn ei helpu a hynny yny flwyddyn 1935. Dangoswyd i niar y noson fersiwn diweddaracho’r ffilm oherwydd yn anffodusroedd ansawdd a sain y ffilmwreiddiol yn wael. Yr oeddrhan olaf o’r ffilm wedi myndar goll. Ond fe gafodd y ffilmei hail greu gan Ifor ap Glyn,cyfarwyddwr teledu, gydadiweddglo newydd o’i waith ef.Fe wnaeth hyn drwy fynd yn ôli Flaenau Ffestiniog a chael pobldebyg i’r bobl oedd yn y ffilmwreiddiol gymryd rhan. Deallirfod Archif Genedlaethol Sgrin aSain Cymru newydd ei hadfer i’wchyflwr gwreiddiol. Do! Cafwydnoson wych gyda Ceri yn olrhainhanes yr hen chwarelwyr gan fodei thad wedi body n chwarelwr.Felly roedd ganddi hi dipyn ohanes i ddweud wrthym. Hefyd iwneud y noson yn fwy diddoroldeath Elizabeth Wyn o amgylcha hufen ia a ‘Pop Corn’ i bawb.Cafwyd hwyl gan bawb gan ilawer ohonom fwynhau a chofioa chael blas yr hen amser gyntpan oeddwn yn arfer mynd i’rsinema.Diolchwyd i’n llywydd ganMair Evans ac yna diweddwyd ynoson gyda chwpanaid a sgwrs athynnwyd y raffl fisol.Eisteddfod Penrhyn-coch2010Cyhoeddodd Mairwen Jones,Ysgrifennydd yr Eisteddfod maiLlywyddion 2010 fydd GwyddnoDafydd (Nos Wener), KarenRoberts (Prynhawn Sadwrn) aDai Mason (Nos Sadwrn. Dyddiadyr Eisteddfod fydd 23-24 Ebrill2010.GenedigaethLlongyfarchiadau i Sioned a Rob,101A Ger-y-llan, ar enedigaethbachgen bach - Osian TudurMills ar y 19eg o Dachwedd.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i RhysDobson,Glan Ceulan, am ennillCwpan Pencampwriaeth AilReng Cynghrair Dyfed amchwarae golff.

Y TINCER RHAGFYR 2009 11ABER-FFRWD A CWMRHEIDOLUrdd y BenywodNos Lun Tachwedd30 cawsomnoswaith o Gaws a Gwin yngnghwmni Eurgain James o SiopBronnant. ‘Roedd y bwrdd ynllawn danteithion a chawsomhanes sefydlu y cwmnïoeddcaws Cymreig.Cawsom hefydgyfle i flasu nifer o wahanolgawsiau ynghyd a gwinoeddo wahanol wledydd yr oeddteulu Maloney Maes y Glynwedi eu darparu. Cafwyd llawero flasu a sgwrsio ac mi ‘roeddpawb wedi mwynhau gweldteulu ifanc Siop Bronnant ynllwyddo i wneud busnes yngnghefn gwlad. Hir y parhaed.Diolchodd Carol Marshall ibawb am noson lwyddiannusiawn.ColledTrist iawn yw gorfod cofio amIrfon Meredith, Penbontbren,a fu farw yn ei gartref dyddAm bob math owaith garddioffoniwch Robert ar(01970) 820924Sadwrn 21ain o Dachwedd yn81 oed. Cafodd ei eni a’i faguyn Ystumtuen ac yna symudi Gapel Bangor ac yna ar olsalwch a orfododd iddo gollirhan o’i droed symudodd iGwmrheidol.Bu yn ymgymryd â gwahanolswyddi gan orffen ei yrfayn borthor yn y LlyfrgellGenedlaethol lle yr oedd ynuchel iawn ei barch. ‘RoeddIrfon yn gymeriad hoffus ondyn annibynnol iawn ond etoyn barod iawn ei gymwynas.‘Roedd yn hoff iawn o deithioyn ei gar a gwelwyd ef yn amliawn yn yr haf yn mwynhau ygolygfeydd omgylch Ystumtuena Chwmrheidol. Bu nifer o’ideulu,cymdogion a ffrindiauyn ofalus iawn ohono yn ystody misoedd olaf ac mae fforddy Cwm yn wag iawn heb yrhen gar bach glas a oedd ynmynd yr un amser bob dydd.Estynnwn ein cydymdeiladdwysaf â’r teulu i gyd.Y TINCERCYNGOR CYMUNED TIRYMYNACHOherwydd amgylchiadauarbennig ni chynhaliwydcyfarfod Tachwedd tan nos Iau3ydd Rhagfyr. Yn absenoldeby cadeirydd a’r is-gadeiryddcymerwyd y gadair gan y Cyng.Gwynant Phillips.Cadarnhawyd mai dyddiadnesaf cyfarfod PACT fydd 17egRhagfyr am 7pm yn NeuaddRhydypennau. Adroddwyd bodochrau concrid meinciau i’w caelyn iard Cyngor Sir Ceredigiona bod croeso i’r Cyngor hwn eucymryd. Defnyddir ystyllod oun main sbâr i atgyweirio rhaieraill. Penderfynwyd anghofiomater codi cysgodfan bws gerYsgol Rhydypennau yn bennafoll oherwydd y gost, neu’r gost oddatgysylltu un yn Aberystwytha’i osod yn ei safle. Hefyd costfiwrocrataidd y cynllunio a chaeltrwydded cyn cychwyn. Maepob asiantaeth heddiw yn godro’rgeiniog olaf oddi wrth y cyhoedda’r cynghorau cymuned.Deallir bod deiseb o gwmpasyn gwrthwynebu ymdrechUrdd Gobaith Cymru i gaeltrwydded alcohol yn euHeisteddfod Genedlaethol yngNgheredigion. Penderfynwydanfon llythyr at yr Urdd a’r adransy’n trefnu trwyddedi alcoholyng Ngheredigion ym mynegipryder y Cyngor o weld alcoholyn cael ei gyflwyno yn EisteddfodGenedlaethol yr Urdd.Yn ei adroddiad misoldywedodd y Cyng. Sir PaulHinge bod astudiaeth i’wgwneud dros y ddwy flyneddnesaf ar rodfeydd yn yr ardala phont y rheilffordd ar fforddClarach gyda golwg ar gael pontnewydd bwrpasol. Dywedoddei fod wedi anfon llythyr cryf atuwch arolygydd yr Heddlu yncwyno am y parcio ar y fynedfai’r Lôn Groes a galw am gyfarfodar y safle. Gwnaeth apêl ar ranCAB Aberystwyth am gymorthariannol pan ddaw’r adeg iddosbarthu cymorth i elusennau.Er gwybodaeth, datganwydbod datblygiad preswyl ar dir arClos Corwen, Llangorwen wedi eiwrthod, a bod cais am adnewydduac ehangu dormer blaen yn 106Bryncastell wedi ei ganiatáu. Nichafwyd dim ceisiadau newydd.Derbyniwyd gohebiaeth oddiwrth Gyngor Sir Ceredigionparthed safleoedd datblyguposibl yn lleol, ac eto grwpiauaneddiadau.Yn ariannol, talwyd bil amdorri porfa yn y gymuned, ac yngnghyfarfod nesaf y Cyngor ar 28Ionawr trafodir y gyllideb.Roedd cwyno bod biniausbwriel heb eu gwacau (ar wahân iwaith yr adar) yn y cylch - hyn yngolygu bod llawer o fudreddwcho gwmpas y lle. Mae tipyn ogonsyrn bod rhagor o garafannaustatig yn cael eu gadael ar dir yrheilffordd ger Werndeg yn BowStreet, a hynny heb ganiatâdcynllunio. Unwaith eto gofynniri’r swyddog gorfodaeth ymyrryd.M & D PLUMBERSGwaith plymer & gwresogiPrisiau Cymharol;Gostyngiad iBensiynwyr;Yswiriant llawn;Cysylltwch â ni yngyntaf ar01974 28262407773978352TAFARN TYNLLIDIARTTy Bwyta a BarPrydau neilltuol y dyddPrydau pysgod arbennigCinio Dydd SulBwydlen lawn hanner dyddneu yn yr hwyrCROESO(mantais i archebu o flaen llaw)CAPEL BANGOR01970 880 248

12 RHAGFYR 2009 Y TINCERCOLOFN MRS JONESCOLOFNYDD Y MIS‘Tu ôl i’r dorth mae’r blawd’ meddai’rhen rigwm gan ddirwyn y peth yn ôli’w bendraw eithaf bod Duw y tu ôli’r cyfan. A mi ddeuaf yn ôl at hyn ymmharagraff olaf y golofn hon.Ydi, mae hi’n Nadolig unwaitheto er na wn yn iawn i ba le yr aethy flwyddyn mor sydyn, y mae hollarwyddion y Nadolig i’w gweld allawer o dai’r pentref yn glyd dan eugoleuadau a’r nosweithiau yn fwrlwmo gyngherddau a phartion. Ac mae’rcwynion traddodiadol bod y Nadoligyn rhy seciwlar a chostus wedi cychwynhefyd ond pa mor wir ydi’r cwynionrheini, dybed?Gadewch inni gychwyn gyda’r gost.Mae’r Nadolig yn costio yr hyn afynnwn ni iddo gostio ond y gwir ywfod pob un ohonom ar gyfartaledd ynmynd i wario £ 784 o bunnoedd ar yrŵyl eleni. Gall hyn gael ei roi mewnffyrdd arall, mae 40% y cant ohonomyn mynd i wario mwy na wariasomni llynedd a 25% ohonom yn myndi wario dros fil o bunnoedd. Ar pwyy mae’r bai am hyn? A oes pobl ynprowla’r siopau yn ein gorfodi i warioyn wirion? Yntau ai ni sydd yn methuymddisgyblu? Y ni sydd yn methuymddisgyblu, coelio, ac yn methu affrwyno ein hunain. Y mae’n bosibldewis a dethol a defnyddio profiadwrth farchnata ar gyfer y Nadolig.Un peth pwysig iawn i’w gofio ywmai gŵyl gymharol fer ydyw, fe fyddy siopau yn ailagor yn fuan ar ei hôl,does dim rhaid llenwi trolїau lawerfel petaech yn paratoi ar gyfer hirlwma newyn hyd yn oed os oes gennychdeulu mawr ac ymwelwyr niferus a’rrheiny ar eu cythlwng! Yn ail, does dimrhaid prynu pethau dim ond am eubod yn rhan draddodiadol o fwyd ydathlu. Ni fyddaf i eleni yn prynu sawsmafon cochion na chnau rhost a hynnyoherwydd nad wyf yn eu bwyta, fellypam eu prynu yn y lle cyntaf? Ondfe fyddaf yn ymorol am gacen ac amrolyn Nadoligaidd siocled oherwydd fe’ibwyteir.Rhan ddrutaf y cyfnod yw’ranrhegion, wrth gwrs, ond unwaitheto, nid oes raid mynd dros ben llestri.Gall dewis anrheg yn ddoeth yn ôldiddordebau y derbynnydd fod ynrhatach na phrynu rhywbeth arferolfel sannau neu hancesi poced a gallpotiau bach o jam a siytni cartref fodyn rhatach ac yn fwy blasus na rhaisiop. Neu beth am osod cyllideb i chieich hun a’ch teulu, neb i roi na derbyndim sydd yn werth mwy na deg punt,dyweder.Y mae’n ystrydeb dweud nad ariansydd yn creu hapusrwydd. Y maeserch hynny, yn ddywediad cwbl wirond fe’n harweinir ni i feddwl fodyn rhaid inni wario ar fwydydd acanrhegion am bod pawb yn gwneudac am fod gwario yn mynd i sicrhauhapusrwydd a llwyddiant yr ãyl eihun i ni. Fe’n hudir i gredu fod prynuyr hyn a hysbysebir yn basport i lesa bodlonrwydd. Fe’n hudir i hyngan ofn sylfaenol pob un ohonom yrystyrir unai yn gybyddion direswmneu yn dlawd os gwrthodwn acmae’n well gennym beryglu einlles economaidd na hynny sydd ynagwedd cwbl afresymegol.Ac y mae’n agwedd sydd yn deillioo’r ffordd yr ydym wedi masnachu’rNadolig, wedi mynd i fesur ei bris hebweld na gwerthfawrogi ei werth. Acer mor hawdd beio’r masnachwyr amhyn, y gwir plaen ydi na lwyddasai’rrheiny lastwreiddio geni’r Iesu hebein cymorth ni.Y mae perthynasmasnachwyr â’u cynulleidfa ynod gyda’r naill ochr yn arwain acyn ysgogi’r llall fel na ellir yn iawnsylweddoli pwy sydd fwyaf ar fai.Ond mi ryden ninnau ynseciwlareiddio’r Iesu weithiau heb wariodim, bob tro, er enghraifft, y cyfeiriwnato fel mab y saer neu y credwn maibaban bach yn unig yw’r baban aanwyd inni gan anghofio mai hwn yw’rgair a wnaethpwyd yn gnawd. Mae’nymddangos i mi weithiau mai rhywGristnogaeth neis neis oes gennym, yncanolbwyntio ar y pethau da ond ynanghofio’r syniadau anodd am pwy ywCrist mewn difrif ac am ei farwolaethar y Groes i’n hachub o’n pechod - ynsicr ddigon, fe rydym yn anghofio ei ailddyfodiad i’r ddaear mewn rhwysg agogoniant i farnu y rhai a’i collfarnoddac i achub gwir aelodau ei eglwys.Cofiwch chi, nid oes dim o’i lemewn mwynhau pethau da’r bydhwn yn ddoeth ac yn synhwyrol acyn gymesur a’n hadnoddau ni einhunain.’Y gormod’, fel y dywedodd yrhen Dwm o’r Nant, ‘ydi’r drwg’. Nid oesdim o’i le mewn dathlu dyfodiad Duwi’n byd ar ffurf baban gyda phethau’rbyd hwn a’u mwynhau. ein drwg niyw mynd i feddwl fod y Nadolig ynbodoli er mwyn y pethau hyn. Ondgwir bwrpas y Nadolig yw ein hatgoffao fawredd cariad Duw atom a maint eiymddiriedaeth ynom ei fod yn rhoi EiFab inni,ein Brenin a’n Barnwr,ar ffurfbaban. ‘Tu ôl i’r dorth mae’r blawd’meddai’r rhigwm, wel, y tu ôl i’r crudy mae croes baban y crud, y baban adyfodd i hawlio ei groes er ein glanhauo’n pechod. Wrth inni ddotio ato adathlu ei eni, gadewch i ni hefyd addo iweld ei werth a’i addoli.A Nadolig Llawen a BlwyddynNewydd dda i bob un ohonoch.Hoffai Meirion a minnau ddiolch ichi i gyd am eich dymuniadau da inniyn ystod ei waeledd diweddar. Diolchyn fawr i chi i gyd.Jodi BennettGwersi Cymraeg“Os wyt am fynd i’r toiledbydd rhaid i ti ofyn ynGymraeg” – geiriau MissSian yn atseinio’n glir ynfy nghlust hyd at heddiw.Dwi’n cofio’r un frawddegyn cael ei dweud wrthyfyn Ffrangeg flynyddoeddyn hwyrach – doeddwni ddim mewn sefyllfa wellyn 14 oed nag oeddwn yn5 mlwydd oed yn orffwyllam y toiled a dim syniadsut i ofyn yn yr ieithoedddieithr yma.Mae’r ffaith fy modyn medru cofio’r linellGymraeg, ond nid yrun Ffrangeg (esq que…esq que rhywbeth) ynadlewyrchu’r ffaith fodyr iaith Gymraeg wediaros gyda fi o’r diwrnodsymudais i Aberystwytha chychwyn yn YsgolRhydypennau er mwyndysgu Cymraeg.Ar ôl cyrraedd oedranlle oedd yn dderbynioli mi fynd i’r toiled, aneud tipyn o bethaueraill, heb ganiatâdsymudais i Gaerdydd igychwyn swydd llawnamser gyda OperaCenedlaethol Cymruychydig dros 18 mis yn ôl.Mae Caerdydd yn “homefrom home” i mi. Arwahân i’r holl wynebaucyfarwydd ymhlith ybobl sydd wedi symudyma i fyw neu wedidod i wneud diwrnodo siopa, rwy’n cael fynharo’n ddyddiol gydachymaint o frwdfrydedda chefnogaeth syddam yr iaith yma yngNghaerdydd, weithiaumwy hyd yn oed na panoeddwn dal i fyw ymMhenrhyn-coch.Dwi’n gweithio ymMae Caerdydd ac mae’riaith Gymraeg i’w gweldymhobman – o’r arysgrif“Creu Gwir Fel Gwydr OFfwrnais Awen” ar flaenCanolfan MileniwmCymru, i’r “Twll yn ywal” tu allan i NatWest.Ychydig wythnosau ynôl buais i wylio fy ngêmrygbi cyntaf yn StadiwmMileniwm Cymru achefais fy synnu’n llwyr(mewn ffordd dda!) gansawl un o’r 77,000 oeddyn medru canu’r anthemGymraeg gyda’r unegni a chystadleuwyr ynyr Eisteddfod. Fi yw’runig berson sydd ynmedru siarad Cymraegyn rhugl ymhlith staffswyddfeydd OperaCenedlaethol Cymru– mae hynny’n bethrhyfeddol i mi, i gychwynfel yr unig berson nadoedd yn siarad Cymraeg20 mlynedd yn ôl. Wedidweud hynny, efallaisynnwch chi i glywedfod sawl person yn ycwmni yn cymryd gwersiCymraeg amser cinio, aco leiaf hanner o’r boblyna yn dod o Loegr. Maeyna frwdrydedd am yriaith yma hyd yn oedi’r rhai nad sy’n dod oGymru!Mae’r iaith wedi bodo fantais i mi mewn sawlffordd … mae’n braf peidiogwisgo offer cyfieithu ermwyn deall siaradwyrmewn cynadleddau;mae’n hwyl i ddefnyddio’riaith fel cod ddirgel (sutbynnag, y tro diwethafi mi wneud gyda fychwaer yn Efrog Newyddroedd y teulu tu ôl i niyn y ciw hefyd yn siaradCymraeg felly dyw e ddimwastad yn gweithio); acmae’n ddifyr i dderbynpob neges ar yr heolyddddwywaith!Mae’r gwersi Cymraegyn parhau braidd – dwi’ncael fy mhrofi nawrac yn y man pan fyddcydweithwyr yn gofyni mi gyfieithu pethauiddynt yn amrywio oneges mewn cerdyn inegus destun ar ffônsymudol. Weithiau dwi’ncael trafferth gyda’rpethau mwyaf syml– mae’n anghredadwycymaint o eiriau sydd yndal gen i i’w ddysgu ...Y mis nesaf: Iona Davies

Y TINCER RHAGFYR 2009 13Côr Meibion MelindwrDyma lun o Gôr Meibion Melindwrwedi ei dynnu yn 1960. Diolch i Deia Nansi Evans, Ty-poeth am gaelbenthyg y gwreiddiol, a diolch i IanSant, Goginan am ei atgynhyrchu.Roedd y Côr ar yr adeg yma o danarweiniad Mr Emlyn Felix, ac wedibod felly ers dwy flynedd ynghynt.Yn ôl y son, roedd y côr wedi eigychwyn tua 1950 gan Mr TomWilliams, Cefn-llidiart, gwr a oeddyn byrlymu ynglñn â chanu acyntau oedd ei harweinydd.Diolch i Dei Evans, Alun Jenkinsa Dei Griffiths o Aberystwyth ameu cynhorthwy efo’r enwau. Tristdweud mai dim ond saith ohonyntsydd wedi goroesi. Diolch i FredWilliams hefyd am ei gyfraniad.Erwyd HowellsAmser hyn o’r flwyddyn maentyn gweld y bwysigrwydd o gaelgolau i’n helpu i gerdded ynddiogel yn y tywyllwch.Daeth einharglwydd Iesu Grist i’r byd i rhoigolau i ni yn ein bywydau.Mae’r Nadolig yn amser prysuriawn ac yn ein holl waith obaratoi ar gyfer yr wyl mae’nbwysig bd ni’n cadw’r Iesu yngnghanol ein paratoad, ac yn einmeddyliau. Fel dywedodd rhywunos nad ydynt yn gwneud hyn,mae’n debyg i rhywun yn paratoiparti pen-blwydd ac yn yr hollwaith o baratoi yn anghofio rhoigwahoddiad i’r person oedd ynY TINCERMyfyrdod y NadoligRhes gefn: Glyn Vaughan, EdgarJones, Byron Howells, JohnChamberlain, Will Richards, TomWilliams, Danny Evans, JackStevens, Glyn Jones.Rhes ganol: Goronwy Owen, JohnMoses Evans, Edward Ellis, HenryJones, Edwin Jones, Alun Jenkins,Islwyn Owen, Maldwyn Pugh,Jack Evans, Tom Ellis, John Owen,Dennis Benjamin, Richard Jones.Rhes flaen: Dei Griffiths, JimFischer-Davies, David BenjaminDavies, Danny Richards, IdrisDavies, Dei Charles Evans, EmlynFelix, Mair Jones, Jim OwenMorgan, Owen Jones, Sam Raftree,Tomi Davies.dathlu pen-blwydd.Maent yn hffi rhoi a derbynanrhegion amser y Nadoliga cofiwn am y rhodd mwyafpwysig i ni,yw bod Duw yTad wedi rhoi ei unig fab einHargwlwydd Iesu Grist i’r byd, abod Duw wedi dod i’r byd mewncnawd yn y baban bach yn ypreseb.Dyna’r rheswm i fod yn llawendros y Nadolig, aphob amser gangofio geirie’r carol adnabyddus‘A bywyd bydd i ddyn byth mwyAm fod Nadolig ddydd’Nadolig Llawen i bawbY Parchg Cecelia Charles, Y BorthLletyMaes-y-môrAberystwytho £20 y nosonYstafell yn unig . Teledu . Te a choffi .Wi Fi am ddim . Parcio. Shed i feicswww.maesymor.co.ukFfon: 01970 639 270CYNGOR CYMUNED TREFEURIGCyfarfu’r Cyngor Cymunednos Fawrth, 17 Tachwedd, ynNeuadd y Penrhyn gyda’rCadeirydd, Richard Owen,yn llywyddu. Roedd EdwinaDavies, Gwenan Price, KariWalker, Dafydd Sheppard,Mervyn Hughes, TreforDavies, Melvyn Evans a DaiRees Morgan yn bresennolynghyd â’r Clerc; derbyniwydymddiheuriadau oddi wrthDaniel Jones a Tegwyn Lewis.Cytunwyd i longyfarchpwyllgor PATRASA, cymdeithascae chwarae Penrhyn-coch, ary gwaith a wnaed yn y caeyn ddiweddar. Roedd ElinJones A.C. wedi ysgrifennu aty Cyngor yn rhoi manylionam gynllun newydd oedd yncael ei dreialu gan BT ar gyfergwella darpariaeth band eangmewn ardaloedd oedd yn bell ogyfnewidfa ffôn; penderfynwydanfon yr wybodaeth ymlaeni Dr. Clive King. Trafodwyd ygwasanaeth a gynhaliwyd ar Suly Cofio, a diolchwyd i bawb aoedd wedi cynorthwyo gyda’rdigwyddiad.Adroddodd y Cadeiryddar y Cynllun Iaith yr oeddyn ofynnol i bob awdurdodcyhoeddus ei fabwysiadu. Roeddo’r farn fod yr un a awgrymwydgan Fwrdd yr Iaith yn addasar gyfer Cyngor Trefeurig, achytunwyd i’w fabwysiadu. Ar1 Tachwedd, wythnos cyn Suly Cofio, roedd niwed wedi’iachosi i’r reiliau o gwmpasy Gofeb pan aeth cerbyd iwrthdrawiad â hwy. Roedd enwdreifer y cerbyd yn wybyddusac roedd cwmni yswiriant yCyngor wedi cael eu hysbysu.Disgwylid amcangyfrif o gosttrin y difrod. Fe gafwyd cynnigi symud y gofeb i fan cyfagosond ni chariwyd y cynnig.Penderfynwyd gweld a oeddunrhyw beth y gellid ei wneudi amddiffyn y safle yn well.Roedd Kari Walker wedibod mewn cyfarfod Airtricityyn Nhal-y-bont yn trafod suty gellid dosbarthu arian i’rgwahanol gymunedau pe bai’rcynllun fferm wynt yn myndyn ei flaen. Roedd y Cadeirydda’r Is-Gadeirydd wedi bodmewn sesiwn hyfforddi ynAberaeron, a chafwyd adroddiadCYSYLLTWCH Â NIytincer@googlemail.comar hynny.Daethai dogfennau o’r CyngorSir yn gofyn barn am raiagweddau o’r Cynllun DatblyguLleol. Roedd y Cyngor Sir ynystyried cynnwys Bont-gochfel un o’r ardaloedd i’w cysylltuâ Phenrhyn-coch at ddibeniony Cynllun. Nid oedd gan yCyngor farn gref ar y mater, acroedd yn credu y dylai’r CyngorSir ymgynghori â thrigolionBont-goch i weld beth oeddeu barn hwy. Roedd mapiauar gael yn dangos beth oeddy safleoedd datblygu posib ogwmpas Penrhyn-coch, a sut yroedd y Cyngor Sir yn eu rhoio ran trefn blaenoriaeth. Roeddy Cyngor o’r farn y dylid rhoi’rflaenoriaeth i ddatblygiad arochr orllewinol y pentref ar yffordd i mewn o Aberystwyth;byddai hynny’n golygu llai odraffig drwy’r pentref lle’r oeddy ffordd mewn mannau yn guliawn, a dim palmant i’w gaelmewn rhai mannau ychwaith.Roedd yr archwiliad ariannolallanol ar gyfer 2008 / 09 wedi’iorffen, ac ni chodwyd unrhywfaterion gan yr archwilwyr.Llongyfarchwyd y Clerc ar eigwaith manwl a threfnus elenieto gyda’r cyfrifon. Ystyriwydy cais cynllunio canlynol: tñ arblot 2 ar y tir gyferbyn â Horeb.Nid oedd gwrthwynebiad ondmynegwyd y farn fod hwn yndñ mawr ar safle lle y byddai taifforddiadwy yn ogystal. Gellirgweld y cofnodion llawn arwww.trefeurig.org.

14 RHAGFYR 2009 Y TINCERBlodau i bob achlysurBlodau’r BedolYSGOL RHYDYPENNAUPriodasau . Pen blwydd .Genedigaeth . Angladdau .Blodau i Eglwysi aChapeli neu unrhyw achlysurDonald MorganHen Efail, Llanrhystud SY23 5ABFfôn 01974 202233Danfon am ddim o fewn dalgylch y TincerCIGYDDBOW STREETEich cigydd lleolPen-y-garnFfôn 828 447Llun: 9-4.30Maw-Sad 8.00-5.30Gwerthir ein cynnyrch mewnrhai siopau lleolY plant yn cael eu cyfweld ar ddiwrnod Plant Mewn Angen.Gwerthu nwyddau yn ystod Plant Mewn Angen.Mr Eifion Collins yn egluro un o weithgareddau XL Wales.Y Sgwad Hoci yn derbyn y cit newydd.Noson AgoredAr y 9fed o Dachwedd, cynhaliwydnoson agored i flynyddoedd 1-6.Cafodd y rhieni gyfle i weld gwaithy plant ac i drafod cynnydd adatblygiad y tymor.Ffair LyfrauDaeth yr amser eto i gynnal FfairLyfrau’r ysgol. Mae’r ffair yn gyflegwych i’r plant a’r rhieni ddewisa dethol pob math o lyfrau difyr.Hoffai’r Ysgol ddiolch i siop Inc ameu cydweithrediad.Plant mewn angenRoedd hi’n ddiwrnod Plant mewnangen ar yr 20fed o Dachwedd. Bu’rCyngor Ysgol yn brysur yn trefnunifer o weithgareddau difyr er mwyncodi arian i’r elusen. Ar ddiwedd ydydd casglwyd £200. Ardderchog!ymhellach. Mae’r plant yn mwynhaucwblhau y tasgau yn fawr iawn ac ymae gweithgareddau Mr Collins ynparhau i fod yn hynod o ddifyr.PantoAeth plant blynyddoedd 1 i 6 iGanolfan y Celfyddydau ar y 27aino Dachwedd i fwynhau’r pantoblynyddol. ‘Barti Ddu’ oedd enw’rpanto eleni, a chafodd y plant hwylyn gwylio’r miri ar y llwyfan.ChwaraeonCyflwynwyd cit hoci newydd i’rsgwad yn ddiweddar. Diolch i’rnoddwr; Riverside Caravan Park,Llandre.Oherwydd tywydd gwlyb yrwythnosau diwethaf; prin iawnfu’r cyfleon o chwarae pêl-droed aphêl-rwyd. Ond parhau mae’r gêmauhoci.Am fwy o wybodaeth a llwytho luniau cliciwch ar http://www.rhydypennau.ceredigion.sch.ukCaru NodynGan fod blwyddyn 5 yn astudio’rnofel Caru Nodyn gan Mr GarethWilliam Jones, yn ystod y tymorhwn; gwahoddwyd yr awdur lleoli’r dosbarth i siarad am y nofel achynnig cyfle i’r plant i drafod aholi cwestiynau am ddigwyddiadaua chymeriadau’r llyfr. Cafwyd sesiwnddifyr iawn. Hoffai’r ysgol ddiolch iGareth am ei barodrwydd i ymweldâ’r ysgol.CYSYLLTWCHÂ NIytincer@googlemail.comYmweliadauXLWalesAr y 24ain a’r 25ain o Dachweddcafwyd ymweliad arall gan Mr EifionCollins, XL Wales. Mae Mr Collinsyn ymweld â’r ysgol ddwywaith yflwyddyn er mwyn datblygu sgiliaugwyddonol a thechnolegol y plantDyma ganlyniadau diweddar y ddaudîm hoci.Rhyd. A – 8; Ysgol Gymraeg A – 0.Rhyd. B – 8; Ysgol Gymraeg B – 0.Rhyd. A – 8; Penrhyn-coch A – 0.Rhyd. B – 5; Penrhyn-coch B –0.Rhyd. A – 4; Plas-crug A –1;Rhyd. A – 3; Padarn Sant A– 1.Rhyd. B – 5; Plas-crug B – 0.Yr awdur Gareth Jones yn trafod ei nofelCaru Nodyn gyda blwyddyn 5.

Y TINCER RHAGFYR 2009 15YSGOL PEN-LLWYNClybiauDechreuodd Clwb Hwyl a Chlwbyr Urdd y tymor hwn. Diolch iAnn, Heulwen ac Aeronwy am roieu hamser i ddifyrru ac i arwain yplant yn y gwaith pwysig hwn.Daeth Mrs J Bowen i ddawnsiollinell gyda’r plant yng nghlwb yrUrdd. Rwy’n siŵr fod pawb wedicysgu’n drwm y noson honno. BuMrs Emma Davies yn gwneudchwaraeon dro arall. Diolch i’rddwy am roi o’u hamser.RHODRI JONESBrici a chontractiwradeiladu07815 121 238Gwaith cerrigAdeiladu o’r newyddEstyniadau PatiosWaliau garddLlandre Bow StreetCroesoCroeso cynnes i Miss BethanThomas o Gasnewydd sydd ymagyda ni yn fyfyriwr yn Nosbarth2 a hynny eto am gyfnod ar ôl yNadolig.Plant mewn angenGwisgodd y plant fel môr-ladronar ddiwrnod Plant mewn angen.Bl 5 a 6 – 1af – Gethin, 2il –ManonBl 3 a 4 – 1af – Haf, 2il – RebeccaDosb 1 – 1af – Blake, 2il – Llyr,3ydd- MorganEnillodd Mathias am ddyluniobandanaCasglwyd swm sylweddol at Blantmewn angen.PantomeimCafodd y plant bnawn llawn hwyl asbri yn y pantomeim am y môr-leidrBarti Ddu. Gwisgodd pob plenty felmôr-leidr er mwyn body n rhan ogriw’r llong.GwobrClod mawr i’r ysgol oedd bodAlaw Lois Evans wedi llwyddoyn y gystadleuaeth ysgrifennubarddoniaeth am ddiogelwch adegy Nadolig. Bydd Alaw yn un oddau blentyn yn rhoi goleuadautref Aberystwyth ymlaen ar 4ydd oRagfyr.Arad GochDaeth cwmni drama Arad Gochi’r ysgol i gyflwyno perfformiad‘Gair am Air’ i ddisgyblion dosbarth1. Daeth Ysgol Capel Seion a SyrJohn Rhys yma i rannu’r profiadgyda ni. Diolch i Arad Goch am euperfformiad hwyliog a graenus.ytincer@googlemail.com^Salon cwn^Torri cwn i fri safonolGoginanKath 01970 88098807974677458

16 RHAGFYR 2009 Y TINCERTASG Y TINCERDiolch i bawb fu’n lliwio’rllun o’r morleidr efo’i drysory mis diwethaf. Dyma pwyfu’n brysur: Elisa Martin, 79Ger-y-llan, Penrhyn-coch;Gronw Fychan Downes,Glanrafon, Penrhyn-coch; SaranDafydd, 13 Maes-y-garn, BowStreet; Steffan Huxtable, Y DdôlFach, Penrhyn-coch; TeleriMorgan, Ger-y-nant, Dolau. Erbod eich lluniau i gyd yn ddaiawn, ti Gronw sy’n cael y wobry tro hwn. Roeddwn yn hoffisgarff coch a smotiau gwyrdddy forleidr!Mae’n siwr eich bod i gydyn edrych ymlaen yn fawr aty Nadolig. Rwy’ wrth fy moddefo’r ãyl, ac yn meddwl bod ygoleuadau a’r holl addurniadauyn werth eu gweld! Does fawro amynedd gen i efo’r siopaa’r prysurdeb, ond rwy’nmwynhau lapio anrhegion, aderbyn rhai fy hun, wrth gwrs!Ydech chi’n hoffi canucarolau? Mae’n siwr eich bodwrthi’n dysgu sawl un ar gyfercyngerdd Nadolig yr ysgol,eglwys neu’r capel. Ydech chi’ncanu “Tawel nos”:Tawel nos dros y byd,Sanctaidd nos gylch y crud;Gwylion dirion yr oeddaddfwyn ddau,Faban Duw gyda’r llygaidbach cau,Iesu T’wysog ein hedd.Ond yw hi’n garol hyfryd,ond ydech chi’n gyfarwyddâ’r stori amdani? Yn ôl yrhanes, carol o wlad Awstriayw hi. Flynyddoedd maithyn ôl, ar noswyl Nadolig yn1818, roedd organ eglwyspentref Oberndorf weditorri, a chrwydrai’r ficer, JosefMohr, o amgylch y pentrefyn drist, am na fyddai moddclywed sãn hyfryd yr organ arddiwrnod Nadolig. GwyddaiJosef y dylai eglwys y pentreffod yn llawn canu a dathlu, acwrth iddo syllu’n ddigalon aryr eira dan ei draed, gweloddGronw Fychan DownesJosef rywbeth rhyfedd iawn,sef geiriau cân yn ffurfio ynyr eira! Ysgrifenodd y geiriau’nfrysiog ar ddarn o bapur,a rhuthro i weld organyddy pentref, Franz Gruber, iddweud wrtho beth oedd wedidigwydd. Wel, roedden nhw’neiriau arbennig. Efallai fod rhaiohonoch wedi eu canu mewnAlmaeneg: “Stille Nacht, HeiligeNacht”Gyda’r ddau ohonynt ynllawn cyffro, cyfansoddoddGruber alaw syml i’r geiriau,ond sut oedden nhw’n mynd igael pawb i ganu, heb yr organ?Cafodd Gruber syniad! Betham chwarae’r gitâr? Ac felly, arnoswyl Nadolig yn 1818 mewnpentref bychan yn Awstria ycanwyd un o’r carolau enwocaf,“Tawel nos” am y tro cyntaf,a hynny ar y gitâr! Efallaiyr hoffech edrych ar wefanamgueddfa ‘Tawel Nos’:http://members.aon.at/f.x.gruber-museum-arnsdorf/indexe.htmBeth am liwio’r llun o’rplant yn canu carolau? Tybedbeth yw lliwiau eu gwisgoedd?Mae’n nhw’n edrych yn ddigonoer, ond yn cael amser da.Fyddwch chi’n mynd o amgylcheich pentref yn canu carolaueleni?Nadolig llawen iawn i chigyd, dymuniadau gorau dros yrãyl. Anfonwch eich gwaith i’rcyfeiriad arferol (46 Bryncastell,Bow Street, Ceredigion, SY245DE) erbyn dydd Calan (Ionawr1af). Ta ta tan toc!EnwCyfeiriadOedRhif ffônAmrywiaeth eang olyfrau, cardiau,cerddoriaethac anrhegion Cymraeg.Croesawir archebion gan unigolionac ysgolion13 Stryd y BontAberystwyth01970 626200Rhif 324 | RHAGFYR 2009

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!