12.07.2015 Views

Parenting Plan Welsh - Cafcass

Parenting Plan Welsh - Cafcass

Parenting Plan Welsh - Cafcass

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

CYNLLUNIAU RHIANTARhoi eich plant yn gyntafCanllaw i rieni sy’n gwahanu

Rhoi eich plant yn gyntafCanllaw i rieni sy’n gwahanu

2-7Cyflwyniad18-19Cefnogi eich plant4 Ffeithiau allweddol am yr hyn sydd oraui’r plant5 Yr hyn i’w wneud a’r hyn i beidio â’iwneud20-3319 Gwrando ar eich plant19 Dweud wrth y plantBeth os ydych yn ei chael hi’n anodd cytuno?8-17Cysylltiadau teuluol eich plentyn9 Beth yw eich nodau wrth wneudtrefniadau ar gyfer eich plant?10 Trefniadau o ddydd i ddydd11 Pa bethau eraill y byddwch yn eutrafod gyda’ch gilydd?11 Gwyliau12 Ysgol neu feithrinfa14 Crefydd neu ddiwylliant21 Beth sy’n eich ‘rhwystro’ rhag cytuno?22 A oes unrhyw drefniadau yr ydychwedi cytuno arnynt?22 A oes unrhyw gyfle i gyfaddawdu?23 Beth sy’n bosibl yn eich amgylchiadauarbennig chi?26 A oes angen rhywun annibynnolarnoch i’ch helpu i ddod i gytundeb?33 Beth y mae rhieni eraill yn ei wneudpan na allant gytuno?14 Iechyd15 Arian34-37Cyfrifoldeb rhieni16 Newidiadau i’r trefniadau35 Beth yw cyfrifoldeb rhieni?17 Penodi gwarcheidwad36 Pwy sydd â chyfrifoldeb rhieni?37 Pam byddech chi am gael cyfrifoldebrhieni?38-39Ble i gael help i blant40-44Ble i gael help i oedolion41 Cymorth43 Cyfryngu43 Cyngor cyfreithiolCynnwys

2 Rhoi eich Plant yn Gyntaf CYFLWYNIADCyflwyniad

Pan fydd rhieni yn gwahanu, bydd ynamser emosiynol iawn. Beth bynnagyw eich teimladau, mae’n bwysig iawnrhoi anghenion eich plant yn gyntaf acheisio sicrhau na chânt eu dal yn ycanol rhwng y gwrthdaro a’r dadlau.Mae’r canllaw hwn yn eich helpu iweithio allan y trefniadau gorau posibler mwyn ceisio sicrhau eu bod yn glir,yn gyson ac yn ddibynadwy i bawbdan sylw.Mae’r canllaw yn rhoi penawdau i’chDoes dim rhaid i chi gwblhau’r llyfryncyfan nag unrhyw ran ohono. Efallai yrhoffech ddarllen y wybodaeth neu eiddefnyddio fel canllaw i’r materion ymae angen i chi siarad amdanynt. Maepob teulu a’u hamgylchiadau ynwahanol a bydd angen i chi weithioallan beth sydd fwyaf addas i chi.Cofiwch, mae anghenion a sefyllfaoeddplant yn newid felly bydd angen i chiadolygu’r trefniadau a wnewch ar eucyfer o bryd i’w gilydd.helpu i feddwl am yr holl agweddau arfywydau eich plant, a’r trefniadau awnewch ar eu cyfer. Mae hefyd yncynnig awgrymiadau ar sut y gallwchgefnogi eich plant drwy’r newid ac arôl hynny yn y ffordd orau, ac ynawgrymu ble y gallech fynd i gaelcefnogaeth a help.“Mae eich meddwl yn gymysg –dydych ddim yn credu y byddwchyn llwyddo mewn unrhyw bethbyth eto.”“Chi’n ysu am gael map –rhywbeth i’ch helpu i sylweddolibod golau ar ddiwedd y twnel.”“Er eich bod yn teimlo’n ofnadwy,rydych yn ceisio gwneud y goraudros eich plant, ond gall fod ynddryslyd iawn gwybod beth ynunion yw hynny.”

4 Rhoi eich Plant yn Gyntaf CYFLWYNIADFfeithiau allweddol am yr hynsydd orau i’r plantMae gan blant hawl i gael perthynas gyda’udau riant, pa un a ydynt yn byw gyda’igilydd ai peidio. Dengys ymchwil mai’r hynsydd orau i’r plant yw:• Dylai’r plant gael eu magu gan yddau riant pa un a ydynt yn bywgyda’i gilydd ai peidio, cyhyd â bodhynny’n ddiogel.• Dylai’r ddau riant gefnogi eu plant ifwynhau perthynas gadarnhaol gyda’rrhiant arall.• Dylai’r plant fod yn gwbl ymwybodolo’r trefniadau ar gyfer treulio amser“Roeddwn yn poeni’n arw bethoedd yn mynd i ddigwydd, a blebyddai fy chwaer a minnau ynbyw...ond pan eisteddodd mam adad lawr gyda ni, doedd pethauddim yn edrych mor ddrwgoherwydd roedd y ddau ohonyntyn dweud yr un peth wrthym acroeddem yn gwybod beth oeddyn digwydd.”gyda’r ddau riant.• Ni ddylid newid trefniadau’r plant ynsydyn oni ellir osgoi hynny.• Ni ddylai plant gael eu hamlygu iwrthdaro parhaus gan y gallai wneudniwed iddynt.“Roeddwn yn poeni’n arw nafyddwn yn gweld fy Nain mwyach,ond addawodd mam y gallemgadw mewn cysylltiad â hi.”• Dylai’r rhieni gefnogi plant i gadwmewn cysylltiad â phobl sy’n bwysig yneu bywydau, fel aelodau ehangach o’rteulu a ffrindiau agos i’r teulu.• Dylai partneriaid newydd gefnogi’rtrefniadau a chael perthynas ddagyda’ch plentyn. Gallant helpu iwneud i bethau weithio heb gymrydeich lle fel rhiant.“Teimlais ryddhad pan wahanoddmam a dad. Doedd dim rhaid i middod gartref i’w gweld nhw’nymladd mwyach.”

Yr hyn i’w wneud a’r hyn i beidio â’iwneudByddwch yn onest gyda’ch plant am bethsy’n digwydd a beth sy’n mynd i ddigwydd.Nid yw ceisio cuddio gwrthdaro na’r ffaitheich bod yn gwahanu yn eu hamddiffyn. Ynhytrach, gallai eu gwthio i ffwrdd os ydyntyn credu bod eu rhieni yn dweud celwyddac na allant ymddiried ynddynt.Rhowch sicrwydd i’ch plant nad eu bai nhwyw hyn a bod y ddau ohonoch yn eu caru.Rhowch gyfle i’ch plant siarad am sut maentyn teimlo a byddwch yn ymwybodol y gallainewidiadau mewn hwyl ac ymddygiad fodyn arwydd o’u hymateb i’r sefyllfa.Rhowch amser i bawb yr effeithir arnynt iaddasu – efallai na fydd pob dadl rhwngoedolion yn cael ei datrys ac efallai y byddangen amser ar blant i ddod i arfer â’r ffaithna fydd eu rhieni yn dod yn ôl at ei gilydd.Os bydd angen help arnoch i gytuno ar ypethau hyn, dewch o hyd i wybodaeth ameich gwasanaethau cyfryngu teulu lleol.Anogwch a helpwch eich plant i gadwmewn cysylltiad â’u rhiant arall drwygyswllt wyneb yn wyneb neu dros y ffôn,drwy’r post, dros yr e-bost neu drwynegeseuon testun. Bydd hyn yn rhoitawelwch meddwl iddynt.Gofynnwch am help yn gynnar – gall teulu,ffrindiau a gweithwyr proffesiynol eichhelpu chi a’ch plant i addasu i’r newidiadauyn eich teulu.Peidiwch â phwyso ar eich plant a disgwyliddynt fod yn gyfrinachwyr, yn gynghreiriaidneu’n ffrindiau. Bydd ganddynt deimladaucryf tuag at y ddau riant o hyd.Trafodwch fanylion cyswllt, manylion byw amanylion ariannol heb wylltio fel bod pawbyn gwybod beth sy’n digwydd – bydd yngwneud y broses yn llai poenus i’ch plant.

6 Rhoi eich Plant yn Gyntaf CYFLWYNIAD

CADW PLANT YN DDIOGELRhaid amddiffyn plant rhag clywed neu weld gwrthdaro niweidiol, yn ogystalâ’u hamddiffyn yn gorfforol. Mae enghreifftiau pan mai torri cysylltiad â rhianttreisgar yw’r peth gorau er lles y plentyn, a dylai’r rhiant arall a’r plant deimloy gallant fynegi’u barn, a chael cymorth i gadw’u hunain yn ddiogel. Maehefyd yn bwysig cofio y gall colli cysylltiad â rhiant wneud niwed i blant ondgallai hyn fod yn angenrheidiol, am gyfnod o amser o leiaf, tan y gellir rhoidulliau diogelu ar waith i sicrhau na fydd eich plant yn gweld nac yn profi traisyn y dyfodol.Gall unrhyw un a gaiff ei effeithio gan drais yn y cartref gysylltu â’r LlinellGymorth Trais yn y Cartref Genedlaethol. Mae’r llinell gymorth ar gael amddim, 24 awr y dydd ar 0808 200 0247.

8 Rhoi eich Plant yn Gyntaf CYSYLLTIADAU TEULUOL EICH PLENTYNCysylltiadau teuluoleich plentynMae’n bwysig meddwl pa bobl sy’nbwysig i’ch plant. Efallai y byddwcham wneud trefniadau sydd nid ynunig yn eich cynnwys chi fel rhieniond aelodau eraill o’r teulu hefyd,fel neiniau a theidiau a pherthnasaueraill, yn ogystal â ffrindiau agos.

Beth yw eich nodau wrth wneudtrefniadau ar gyfer eich plant?Mae rhieni eraill wedi dweud:Mae gan ein plant hawl i gael perthynasâ’r ddau ohonom.Mae’r ddau ohonom am i’r plantdreulio amser gyda phob un ohonom.Mae’r ddau ohonom yn awyddus isicrhau ein bod yn ystyrieddymuniadau a theimladau’r plant am ytrefniadau a wnawn.Byddwn yn osgoi cynnwys y plant panfyddwn yn anghytuno.Mae gan ein plant hawl i gael perthynasgyda theulu’r ddau ohonom.Efallai eich bod yn credu bod nodaupwysig eraill.

10 Rhoi eich Plant yn Gyntaf CYSYLLTIADAU TEULUOL EICH PLENTYNTrefniadau o ddydd i ddyddBle bydd y plant yn byw?Pryd byddant yn treulio amser gydaphob un ohonoch?Sut byddwch yn dweud wrthynt am ytrefniadau yr ydych wedi eu gwneudiddynt? A fyddwch yn dweud wrthyntgyda’ch gilydd neu ar wahân? Gellircael rhagor o gyngor ar hyn ardudalen 19.Sut byddwch yn delio ag unrhywnewidiadau i’r trefniadau hyn? Mae’nsyniad da meddwl am isafswmcyfnod amser i hysbysu’r rhiant arallam newidiadau, a sut bydd y plant yncael gwybod.A fydd unrhyw un arall yn gofaluam y plant (e.e gwarchodwyr plant,perthnasau, partneriaid newydd,ffrindiau a chymdogion) ac osfelly, pryd?A fydd galwadau ffôn, negeseuontestun ac e-byst rhwng y ddau ohonocha’ch plant?A oes unrhyw reolau pwysig yr ydychyn eu hystyried yn hanfodol ar gyfer yplant (e.e amser gwely, pryd y caiffgwaith cartref ei wneud, aros allan ynhwyr ac ati)? A yw’r ddau ohonoch yncytuno bod angen i’r rheolau hyn gaeleu dilyn? Pa drefniadau yr ydych wedi eugwneud er mwyn i’ch plant allu treulioamser gyda ffrindiau, perthnasau acaelodau eraill o’r teulu? A oes unrhyw bethau eraill y maeangen i chi gytuno arnynt? Erenghraifft, pwy fydd yn gyfrifol amanifeiliaid anwes y teulu?Efallai y byddai’n syniad da cadw dyddiadurneu galendr teulu gyda’r holl drefniadauwedi’u nodi fis ymlaen llaw.

Pa bethau eraill y byddwch yn eutrafod gyda’ch gilydd?GwyliauA oes pethau allweddol eraill a allaieffeithio ar eich plant yr ydych yn cytunoi’w trafod gyda’ch gilydd? Er enghraifft: Cyflwyno eich plant i’ch partnernewydd; Symud tŷ, yn enwedig os bydd i ranarall o’r wlad; Triniaeth feddygol.Efallai y gallwch feddwl am rai eraill.Beth yw’r trefniadau ar gyfer eichplant yn ystod gwyliau’r ysgol?(Gallech ystyried gwyliau banc adiwrnodau hyfforddiant mewn swydd,yn ogystal â gwyliau’r ysgol a gwyliauhanner tymor.)A oes unrhyw gytundeb rhyngoch amun ohonoch yn mynd â’r plant allan o’rwlad? Os felly, beth ydyw?Ble y caiff pasbortau eich planteu cadw?A oes unrhyw gytundebau eraillgennych am drefniadau gwyliau?MYND DRAMORMae angen cydsyniad pob un sydd â chyfrifoldeb rhieni cyn y gellir mynd âphlentyn allan o’r DU, waeth pa mor fyr yw’r daith, oni bai bod y llys yn rhoicaniatâd. Fodd bynnag, mae rheolau arbennig yn gymwys lle mae gorchymynpreswylio neu orchymyn gwarcheidwad arbennig mewn grym o ran y plentyn:gall y person y mae’r gorchymyn o’i blaid fynd â’r plentyn allan o’r DU am hydat fis gyda gorchymyn preswylio a thri mis os oes ganddynt orchymyngwarcheidwad arbennig, heb gydsyniad unrhyw un arall sydd â chyfrifoldebrhieni na chaniatâd y llys.I gael rhagor o wybodaeth am gyfrifoldeb rhieni, gweler tudalen 34. Os oesangen cyngor arnoch ar fynd â’ch plentyn y tu allan i’r awdurdodaeth, gallechgysylltu â chyfreithiwr. I gael manylion am sut i gysylltu â chyfreithiwr,edrychwch ar gefn y canllaw hwn.

12 Rhoi eich Plant yn Gyntaf CYSYLLTIADAU TEULUOL EICH PLENTYNYsgol neu feithrinfaBydd angen i ysgol neu feithrinfa eich plantgael y wybodaeth sylfaenol am y trefniadauyr ydych wedi eu gwneud ar eu cyfer apha wybodaeth y dylent ei hanfon i’r ddauohonoch am ddatblygiad eich plant, ac amddigwyddiadau’r ysgol neu’r feithrinfa.Byddai’n dda pe gallech gytuno ar ytrefniadau eich hunain yn hytrach na rhoi’rysgol mewn sefyllfa anodd rhwng y ddauohonoch.Dyma rai cwestiynau i feddwl amdanynt. Beth y byddwch yn ei ddweud wrth yrysgol neu’r feithrinfa am y trefniadau yrydych wedi’u gwneud ar gyfer eich plant?A fyddwch yn mynychu nosweithiaurhieni gyda’ch gilydd, ar wahân neu amyn ail?A fyddwch yn mynychu diwrnodaumabolgampau a digwyddiadau eraill ynyr ysgol neu’r feithrinfa gyda’ch gilyddneu ar wahân?Sut byddwch yn mynd ati i ddewisysgol(ion) eich plant yn y dyfodol?A oes unrhyw faterion eraill sy’ngysylltiedig â’r ysgol a allai godi, e.e.dewisiadau TGAU, caniatâd ac arian idalu am dripiau ysgol? Os felly, sut ybyddwch yn delio â hwy?Pwy fydd yn dod â’ch plant i’r ysgolneu’r feithrinfa ac yn eu casglu bobdydd? Mae angen hysbysu’r ysgol am ytrefniadau hyn.A fyddwch yn gofyn i’r ysgol neu’rfeithrinfa hysbysu’r ddau ohonoch amddatblygiad eich plant a digwyddiadauyn yr ysgol? Beth yw’r trefniadau ar gyfergweithgareddau allgyrsiol eich plant, felchwaraeon a diddordebau?Mae llythyr enghreifftiol ar y dudalen nesafy gallech fod am ei ddefnyddio i roi’rwybodaeth hon iddynt.

Llythyr enghreifftiol i ysgol neu feithrinfaMae’n bwysig bod ysgol neu feithrinfa eich plant yn gwybod yn union pa drefniadau syddwedi cael eu gwneud ar gyfer eich plant, ac at bwy y dylent anfon gwybodaeth. Isod, maeenghraifft o lythyr y gallech ei ddefnyddio o bosibl i hysbysu ysgol neu feithrinfa’ch plant amy trefniadau yr ydych wedi eu gwneud a pha wybodaeth y dylent ei hanfon at bob un ohonoch.PennaethEnw a chyfeiriad yr ysgol neu’r feithrinfaDyddiadAnnwyl (enw’r pennaeth),Rydym yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu am y trefniadau rydym wedi’u gwneud ar gyfer einplant (enwau) gan ein bod wedi gwahanu. Gobeithiwn y byddwch yn ein cefnogi i sicrhaubod y trefniadau hyn yn gweithio.Bydd (enwau’r plant) yn byw gyda (rhowch y trefniadau byw o ran cyfeiriad(au) cartref)Bydd (enwau’r plant) yn cael eu casglu gan:• X ar (nodwch pa ddiwrnodau),• Y ar (nodwch pa ddiwrnodau)(Nodwch os oes unrhyw hyblygrwydd yn y trefniant hwn ac a oes unrhyw oedolion eraill e.eneiniau a theidiau, a allai gasglu’r plant o’r ysgol.)Rydym hefyd wedi cytuno y bydd (enwau’r plant) yn...(rhowch unrhyw wybodaeth berthnasolam addysg grefyddol, personol, cymdeithasol, iechyd, rhyw a chysylltiadau ac ati.)A fyddech cystal â sicrhau yr anfonir gwybodaeth am ddatblygiad (enwau’r plant) adigwyddiadau yn yr ysgol neu’r feithrinfa at...(nodwch sut ac i bwy).Mewn argyfwng, cysylltwch â...(rhowch rifau ffôn cartref, gwaith a rhifau ffôn symudol).Er gwybodaeth, noder bod gan y bobl ganlynol gyfrifoldeb rhieni(nodwch pwy sydd â chyfrifoldeb rhieni)Llofnodwyd

14 Rhoi eich Plant yn Gyntaf CYSYLLTIADAU TEULUOL EICH PLENTYNCrefydd neu ddiwylliantIechydPa drefniadau yr ydych wedi euPwy fydd yn gyfrifol am drefnu:gwneud ynglŷn â chrefydd neuddiwylliant eich plant?Pa ddiwrnodau a digwyddiadau sy’nrhai arbennig i’ch plant ac i’ch teulu?• Apwyntiadau meddygol arferol, felbrechiadau?• Archwiliadau deintyddol arferol?Beth yw’r trefniadau ar gyfer eich plant• Apwyntiadau ysbyty?ar yr achlysuron hyn?• Unrhyw driniaeth neu therapiOs yw eich plant yn siarad iaith heblawSaesneg, sut y byddwch yn eu cefnogirheolaidd arall y mae eich plentynyn ei gael?gyda hyn yn y dyfodol?Os yw un o’ch plant yn cael triniaethannisgwyl, sut y byddwch yn rhoigwybod i’ch gilydd?Os yw un ohonoch yn sâl ac na allwchofalu am eich plentyn fel y trefnwyd,sut y byddwch yn delio â hyn?A ydych wedi cyfnewid manylioncyswllt mewn argyfwng rhag ofn ybydd angen i chi gysylltu â’ch gilyddar frys?

ArianPa daliadau rheolaidd mae’r ddauohonoch yn eu gwneud i gynnal eichplant, ac os felly, i bwy y gwneir ytaliadau?Pwy fydd yn talu am ddillad ac esgidiaui’r plant?Pwy fydd yn talu am wisg ysgol, offer adillad chwaraeon ac ati?Pwy fydd yn talu am deithio, erenghraifft i weld y ddau ohonoch, ac iweld perthnasau, ffrindiau ac ati?Pwy fydd yn talu am dripiau ysgol?Pwy fydd yn rhoi arian poced i’r plant?Pwy fydd yn talu am eitemau mawr, felbeiciau, cyfrifiaduron, offerynnau cerddac ati?Sut y byddwch yn cynnal eich plantdrwy goleg, prifysgol neu gyrsiauhyfforddi eraill?Sut a phryd y byddwch yn adolygu’rtrefniadau ariannol hyn?A ydy’r ddau ohonoch wedi ystyriedgwneud ewyllys?CYNNAL PLANTOs hoffech gael cyngor ar faint y byddai’r ACP yn disgwyl i chi ei dalu am ofaleich plant heb wneud cais ffurfiol i’r ACP, gallwch ffonio llinell gymorth yrAsiantaeth yn ddienw ar: 08457 133 133, mynd i’r wefan yn www.csa.gov.ukar gyfer defnyddio’r gyfrifiannell neu gallwch gysylltu â’ch canolfan cyngor arbopeth leol.

16 Rhoi eich Plant yn Gyntaf CYSYLLTIADAU TEULUOL EICH PLENTYNNEWIDIADAU I’RTREFNIADAUCofiwch:Bydd angen adolygu’r trefniadau o bryd i’w gilydd. Maeamgylchiadau teuluol yn newid ac mae pethau annisgwylyn digwydd, fel profedigaeth teulu a newid swydd neugartref. Bydd eich plant am wneud newidiadau eu hunainwrth iddynt dyfu’n hŷn a bydd eu hanghenion a’ublaenoriaethau yn datblygu.

PENODI GWARCHEIDWAD• A ydych wedi ystyried penodi gwarcheidwad i ofalu am eich plant rhagofn y byddwch yn marw tra’u bod yn dal o dan 18?• Gall rhiant benodi gwarcheidwad i ofalu am eu plentyn (hyd at 18 oed)ar ôl iddynt farw, ar yr amod bod ganddynt gyfrifoldeb rhieni dros yplentyn hwnnw.• Er mwyn penodi gwarcheidwad, gallwch ei gynnwys yn eich ewyllys,a/neu gallwch ei wneud yn fwy anffurfiol drwy ysgrifennu enw’r person yrydych yn ei benodi ar ddarn o bapur, ond rhaid i chi sicrhau eich bod ynllofnodi’r papur ac yn nodi’r dyddiad arno.• Noder bod penodi gwarcheidwad yn dod yn weithredol ar unwaith wedimarwolaeth y rhiant a’i penododd heblaw lle mae un rhiant sydd âchyfrifoldeb rhieni yn dal yn fyw – o dan yr amgylchiadau hyn, yr unigbryd y daw’n weithredol yw:• Os oedd gan y rhiant a benododd y gwarcheidwad orchymynpreswylio cyn iddynt farw; neu• Os yw’r rhiant sydd â chyfrifoldeb rhieni a oedd yn dal yn fyw ynmarw hefyd. (a.5 Deddf Plant 1989)

18 Rhoi eich Plant yn Gyntaf CEFNOGI EICH PLANTCefnogi eich plantGall fod yn gyfnod anodd a thristiawn i blant pan fydd eu rhieni yngwahanu. Fodd bynnag, mae’r rhanfwyaf yn gweld fod pethau’n gwellagydag amser ac yn y pen draw,gallant deimlo’n iawn am yr hynsydd wedi digwydd. Mae adran yngnghefn y canllaw hwn sy’n rhoigwybodaeth am sefydliadau a allhelpu plant.

“Beth fydd yn digwydd i Dad apryd fyddaf yn ei weld?”Gwrando ar eich plantGall fod yn anodd siarad â phlant am eudymuniadau. Gall fod yn anodd iddyntddweud beth maent ei eisiau oherwydd bodofn arnynt wneud niwed i un ohonoch. Ond,mae gwrando arnynt yr un mor bwysig âsiarad â nhw.Nid yw hyn yn golygu rhoi’r cyfrifoldeb owneud penderfyniadau oedolion iddynt, ondmae’n golygu caniatáu iddynt ddweud pwysy’n bwysig iddynt, a gofyn iddynt am eupryderon. Mae hefyd yn bwysig sicrhau ygallant ddweud os oes rhywbeth yndigwydd nad ydynt yn fodlon ag ef a’u bodam iddo ddod i ben.Dweud wrth y plantBydd angen i chi ddweud wrth eich plant amy trefniadau yr ydych wedi eu gwneud iddynt.Bydd yn haws iddynt os yw’r trefniadau ynglir ac yn dilyn patrwm rheolaidd, yn hytrachna’n cael eu newid ar y munud olaf.Bydd yn well i’r plant os byddwch yn dweudwrthynt beth yw’r trefniadau yr ydych wedieu gwneud gyda’ch gilydd, ar yr amod eichbod yn cytuno, ond byddai’n niweidiol iawniddynt os byddant yn eich gweld ynanghytuno neu’n dadlau am y trefniadau.Cofiwch ddweud wrth eich plant bob amser: Nid nhw sydd ar fai bod hyn yn digwydd;“O leiaf ar ôl iddynt wahanu, nidoedd gen i gywilydd i ddod â’mffrindiau gartref gan fod y gweiddiwedi dod i ben.”“A fydd rhaid i ni adael gartref?”Bydd y ddau ohonoch bob amser ynrhieni iddynt hyd yn oed os nad ydychgyda’ch gilydd mwyach;Nid yw byw ar wahân i un ohonoch yngolygu na allant barhau i gael perthynasgyda’r ddau ohonoch. Hyd yn oed osbydd un ohonoch yn byw ymhell i ffwrdd,byddwch yn rhan o’u bywyd, a chofiwchwneud defnydd o’r ffôn, cardiau,llythyrau, negeseuon testun neu e-byst.Os yw’n rhy anodd i chi glywed yr hynmaent yn ei ddweud neu yn rhy anoddiddynt ddweud eu dymuniadau ynuniongyrchol wrthych, beth am ofyn iaelodau o’r teulu, oedolion eraill yr ydych ynymddiried ynddynt neu asiantaethau allanoli helpu? Mae rhestr o asiantaethau a allhelpu yng nghefn y canllaw hwn.“Os byddem wedi gofyn i fy mabbeth oedd ei ddymuniad, byddaiwedi dweud ei fod am i Dadi arosgyda Mami.”“A fydd gennym ddigon o arian?”

Beth sy’n bosibl yn eichamgylchiadau arbennig chi?Bydd angen i chi ystyried amgylchiadaupawb: eich rhai chi eich dau – acamgylchiadau eich plant. Gallai hyn wneudgwahaniaeth gwirioneddol ac ymarferol i’rhyn sy’n bosibl a’r hyn nad yw’n bosibl.Ymhlith yr amgylchiadau allweddol i’whystyried mae:• Oedran, ysgol, diddordebau a ffrindiaueich plant. Ceisiwch gadw’r rhain i gydyn sefydlog os yn bosibl. Mae plant hŷnyn debygol o gael eu ffrindiau, eudiddordebau a’u hobïau eu hunain.Rhaid ystyried y rhain pan fyddwch yngwneud trefniadau iddynt i dreulioamser gyda’r ddau ohonoch.• Y swydd sydd gan y ddau ohonoch. Paalwadau sydd i’r swyddi o ran yr amsera’r trefniadau y gallwch eu gwneud iweld eich plant?• Perthnasau eraill. Gall fod yn niweidiolac yn boenus i chi os yw eich cynbartner mewn perthynas newydd – agall eu brifo os ydych chi mewnperthynas newydd. Ceisiwch roi eichteimladau chi o frifo a phoen i’r naillochr a chanolbwyntio ar eich plant;efallai eu bod yn teimlo’r un peth â chi.Iddynt hwy, gallai rhiant mewnperthynas newydd fod yn arwyddpendant nad yw eu rhieni yn mynd ifynd yn ôl at ei gilydd eto, ac efallai ybydd hyn yn boenus iawn iddynt.• Rydych yn debygol o weld y byddangen i chi ail-drafod y trefniadau amweld eich plant a gofalu amdanynt. Niall partner newydd byth gymryd llerhiant ond gallant fod yn gefnogaethychwanegol i chi a’ch plant.• Ble mae’r ddau ohonoch yn byw. Osydych yn byw yn agos at eich gilydd,mae’n aml iawn yn haws gwneudtrefniadau rheolaidd a chyson i weld yplant, ond os ydych yn byw ymhellach iffwrdd, gall hyn fod yn fwy cymhleth.

24 Rhoi eich Plant yn Gyntaf BETH OS YDYCH YN EI CHAEL HI’N ANODD CYTUNOMae’r hanesion achos yn yr adran honyn rhoi enghreifftiau o sut mae rhieniwedi datrys gwahanol sefyllfaoedd a allgodi pan mae rhieni yn gwahanu.Cofiwch mai dim ond enghreifftiau yw’rrhain. Nid ydynt yn golygu eich bod yngorfod gwneud yn union yr un pethond efallai y byddant yn rhoi syniadau ichi. Bydd yr hyn a benderfynwch yndibynnu ar sefyllfa unigol eich teulu a’rhyn sydd orau i’ch plant.“Rwy’n ei hoffi pan fydda i a dadyn mynd i’r parc.”Dywedodd Tyrone: “Gwnaeth fy nghariadTracey a fi wahanu pan oedd ein babi ynfach iawn. Roedd y broses o wahanu yn unannymunol, ac er fy mod yn byw gerllaw,dim ond am awr yr wythnos ar ddydd Sul yroeddwn yn cael gweld y babi.Mae’n anodd pan rydych yn cael eichgwahanu oddi wrth eich mab pan mae ondyn ddeg mis oed. Roeddwn yn ysu am gaelbod yno wrth iddo dyfu i fyny, ond byddwnyn mynd yno ac yn ei weld yn cysgu – a oeddyn ei wneud yn anodd i ni ddod yn agos.Roeddwn am roi’r neges glir nad oeddwn ynmynd i roi’r gorau i wneud ymdrech gyda’mmab a fy mod yn benderfynol o fod yn rhano’i fywyd. Ar yr un pryd, doeddwn i ddim ynteimlo y byddai mynd i’r llys yn datrysunrhyw beth. Roedd fy mherthynas gydaTracey yn ddigon drwg yn barod – ac roeddangen ei wella fel y gallai’r ddau ohonomfod yn rhieni i’n plentyn.Llwyddais i berswadio Tracey i gymryd rhanmewn sesiynau cyfryngu, a wnaeth iddigytuno i gynyddu’r amser yr oeddwn yn eigael gyda’m mab bob wythnos yn raddol.Nid oedd yn ymddiried ynof i fod yn rhiantda ac roedd hynny yn fy mrifo’n fawr.Llwyddodd y cyfryngwr i’n helpu i gytuno ary pethau sylfaenol – trefn, bwyd, amsergwely – y math yna o beth. Roedd yngymhleth gan fy mod i’n gweithio yn ystody nos. Roedd y datblygiad yn araf iawn,iawn, ond roeddwn i’n barod i aros. Bob troyr oeddwn yn gweld fy mab, roeddwn yngwybod bod yn rhaid i mi gadw ati a cheisiogwneud i bethau weithio.Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae fymab yn yr ysgol ac mae’n aros dros nos gydami yn rheolaidd ac mae Tracey a minnau ynymddiried yn ein gilydd llawer mwy.”

Dywedodd Mandy: “Gadawodd Georgeychydig fisoedd yn ôl. Roedd yn sioc fawr –a chefais fy ngadael gyda thri o blant o danbump oed.Am wythnosau, ni chlywais ganddo ac yna,ymddangosodd heb rybudd a mynnu caelgweld y plant. Roeddwn i wedi drysu ac ynflin a dywedais wrtho am adael. Wedi’rcyfan, gadawodd yr holl filiau i mi a bu’nrhaid i mi ofyn i fy mam am help tra fy modyn cael swydd rhan amser.Mae’n dod draw i’w gweld bob yn ailwythnos bellach ac mae’n cyfrannu tuag at ybiliau. Rydym wedi cytuno y byddaf yndechrau gadael y plant gydag ef am ychydigo oriau ac yna’n adeiladu ar hynny wrthiddynt fynd yn hŷn.Mae’r plant yn llawer mwy sefydlogbellach. Rwy’n teimlo fy mod i wedi gwneudy peth cywir.”Aeth sawl wythnos heibio, heb glywed gairganddo, ac yna ysgrifennodd George ataf yngofyn am gael gweld y plant. Nid oeddwnam gael unrhyw beth i wneud ag ef, ondroedd y plant yn ysu am gael gweld eu tad.Ffoniais ef a dywedais y gallai eu gweld achytunodd ar drefn reolaidd.

26 Rhoi eich Plant yn Gyntaf BETH OS YDYCH YN EI CHAEL HI’N ANODD CYTUNOA oes angen rhywun annibynnolarnoch i’ch helpu i ddod i gytundeb?Gall trydydd parti helpu’r ddau ohonoch iweithio allan y meysydd i gyfaddawduarnynt, er lles eich plant. Cofiwch hefyd ygallai eich teulu a’ch ffrindiau fod yn barod ihelpu, ac efallai bod ganddynt awgrymiadaudefnyddiol, cyhyd ag y gallant roi anghenioneich plant yn gyntaf. Weithiau, caiff teulu affrindiau eu tynnu i mewn i’r teyrngarwcha’r gwrthdaro rhanedig sydd mor gyffredinpan fydd rhieni yn gwahanu.Dywedodd Debbie: “Pan adewais fy ngŵram rywun arall, daeth fy mhlant blwydd oeda thair oed gyda mi. Nid wyf erioed wediteimlo mor euog.Erfyniodd arnaf i beidio â mynd ac oedais,ond roeddwn yn gwybod bod y briodas arben. Ac yn ddiweddarach, pan wnaethomysgaru, buom yn brwydro’n ddiddiwedddros arian. Roedd yn amser hir cyn i ni allueistedd i lawr gyda’n gilydd a rhoi trefn arddyfodol ein plant. Nid oeddwn yn credu ybyddai’n bosibl.Aethom i weld cyfryngwr, a oedd yn golygubod y ddau ohonom wedi dechrau ymlacio asiarad yn onest, a thros nifer o gyfarfodydd,daethom i’r pwynt lle y gallem drafodpethau heb gymaint o anghytuno.Y canlyniad oedd ein bod wedi lluniocytundeb a ddechreuodd fel hyn:Ni yw rhieni A a B. Eu lles nhw syddfwyaf pwysig i ni. Rydym am gydweithio iddiogelu’r hyn sydd orau iddynt. Credwny bydd patrwm cyswllt rheolaidd ynddefnyddiol i bob un ohonom ond rydymyn cydnabod bod angen i ni fod yn hyblygynghylch y manylion. Er lles ein plant,mae angen i’r ddau ohonom ymddiriedyn ein gilydd.”

Dywedodd Mike: “Roedd Frances a minnauyn dadlau am bopeth pan wnaethom briodia phan gawsom ysgariad, buom yn dadlauynglyn â’r un peth a oedd yn gyffredinrhyngom o hyd: ein plant.Pan aethom am sesiynau cyfryngu,dywedwyd wrthym fod rhai cyplau ynllwyddo i gymryd ymagwedd ymlacedigtuag at gyswllt. I ni er hynny, yr unigffordd y gallem symud ymlaen oedddogfennu popeth.Rwyf yn gweld y plant bob dydd Sul(10.00am – 5.00pm) ar wahân i ddiwrnodauarbennig, fel pen-blwydd neu’r Nadolig, ybyddwn yn eu trefnu ymlaen llaw.Rwy’n casglu’r plant o’n canolfan hamddenleol. Fi sy’n cyrraedd gyntaf ac rwy’n aros yny caffi. Os nad wyf yno o fewn 15 munud i’ramser y cytunwyd arno, mae gan Frances yrhawl i ganslo’r ymweliad.Mae’n gadael y bechgyn yno ac yn eugwylio’n mynd i mewn i’r caffi, cyn iddiadael. Rwy’n prynu diod i’r bechgyn cynmynd, sy’n rhoi cyfle i Frances adael.Mae’r un peth yn digwydd pan fydd Francesyn casglu’r plant ond i’r gwrthwyneb – gydaFrances yn aros yn y caffi.Ymysg y pethau eraill yr ydym yn eu nodi arbapur mae ysgol Sul a hobïau. Rwy’n myndâ nhw i’r eglwys bob dydd Sul ac i’wdosbarthiadau jiu-jitsu. Rwyf hefyd yn myndâ’r bechgyn i’r partïon y maent yn caelgwahoddiad iddynt, os ydynt ar ddydd Sul,a bod Frances a minnau’n cytuno.Efallai bod hyn yn ffurfiol iawn, ond mae’ngweithio i ni.”“Mae’n od bod mam a dad yngwrthod gweld ei gilydd, ond oleiaf rydym yn cael gweld y ddauohonynt.”

28 Rhoi eich Plant yn Gyntaf BETH OS YDYCH YN EI CHAEL HI’N ANODD CYTUNODywedodd Jack, sy’n yrrwr lori: “Rydw i’ngweithio oriau od, ac rwy’n bell iawn ogartref yn aml iawn, ond mae’r arian yn ddaac rwyf wrth fy modd gyda’r bywyd. RoeddSue yn benderfynol na fyddem yn gallugweld y plant ar ôl i ni wahanu, oherwyddroedd yn dweud na allwn ddilyn unrhywdrefn reolaidd. Digon teg – ond fi yw eu tad,ac rwy’n talu amdanynt gyda’r hyn rwy’n eiennill drwy yrru. Buom yn ffraeo ac ynffraeo. Es i at gyfreithiwr a dywedodd wrthyfam beidio â mynd i’r llys ond i geisiogweithio’r manylion allan ein hunainoherwydd y byddai’n well i bob un ohonomyn y pen draw. Awgrymodd ein bod yn gweldcyfryngwr i’n helpu gyda hyn, a dyna’n uniona wnaethom.Gwnaethom gytuno i beidio â chynlluniounrhyw drefn reolaidd – yn lle hynny, rydymyn defnyddio fy amserlen weithio fisol, acmae hynny’n golygu y gallwn drefnu bod fymhlant yn dod i aros pan na fyddaf yngweithio. Pan rwy’n gyrru rwy’n anfonnegeseuon testun atynt ac yn ffonio. Maentyn hapus â’r drefn honno oherwydd maentyn gwybod fy mod i’n eu caru ac am gadwmewn cysylltiad â nhw.”“Rwy’n gwybod bod dad yn meddwlamdanaf oherwydd rwy’n caelnegeseuon testun ganddo bob dydd.”

Mae Sara a Mohammed yn Fwslemiaid acnid oedd eu teuluoedd yn hapus o gwbl panwnaethant wahanu.Dywedodd Sara: “Roedd y ddau ohonomam i’r plant werthfawrogi eu diwylliant a’ucrefydd, ac i adnabod eu perthnasau i gyd abod yn rhan o’u teuluoedd ehangach.Daethom i gytuno bod y plant yn byw gydami, ond yn ystod gwyliau’r ysgol, mae einmab yn treulio dydd Gwener gyda’i dad acmaent yn mynd i weddïo gyda’i gilydd.Maent yn treulio bob yn ail benwythnosgyda’u tad a gyda’i deulu ehangach. Nidydym yn gwpwl rhagor, ond rydym yn dal ifod yn rhieni iddynt.”“Roedd yn ofnadwy peidio â gallugweld ein cefndryd. Mae pethaugymaint yn well nawr.”

Beth y mae rhieni eraill yn ei wneudpan na allant gytuno?Mae’r enghreifftiau blaenorol yn dangos suty mae rhieni wedi datrys materion eraill oanghytuno.Fodd bynnag, os nad ydych yn gweld bodcyfle i gyfaddawdu, mae gan rieni hawl iwneud cais i’r llys am orchymyn – am blebydd eich plant yn byw, pa mor aml ygallwch eu gweld neu benderfyniadaupwysig eraill am fagwraeth eich plant.Bydd penderfyniad y llys bob amser ynseiliedig ar yr hyn y cred fydd orau i’chplentyn. I gael rhagor o gyngor ar hyn,cysylltwch â chyfreithiwr. Mae manylionam sut i ddod o hyd i gyfreithiwr sy’narbenigo mewn cyfraith teulu yng nghefny canllaw hwn.

34 Rhoi eich Plant yn Gyntaf CYFRIFOLDEB RHIENICyfrifoldeb Rhieni

Beth yw cyfrifoldeb rhieni?Caiff Cyfrifoldeb Rhieni ei ddiffinio yn ôl ygyfraith fel ‘Yr holl hawliau, dyletswyddau,pwerau, cyfrifoldebau ac awdurdod syddgan riant yn ôl y gyfraith mewn perthynasâ’r plentyn a’i eiddo. (a.3 Deddf Plant 1989)Mae hyn yn golygu bod person sydd âchyfrifoldeb rhieni yn gyfrifol am ofal a lleseu plentyn. Nid yw’r Ddeddf Plant yn nodidiffiniad manwl o’r hawliau, y dyletswyddau,y pwerau a’r cyfrifoldebau. Ystyrir mai’ragweddau pwysicaf yw’r canlynol:• Rhoi cartref i’r plentyn;• Cael cyswllt â’r plentyn;• Diogelu a chynnal y plentyn;• Trefnu addysg y plentyn;• Penderfynu ar grefydd y plentyn;• Rhoi caniatâd i’r plentyn gael triniaethfeddygol;• Cytuno i fabwysiadu’r plentyn;• Cytuno i gael a gwrthod rhoi pasborti’r plentyn;• Mynd â’r plant allan oawdurdodaethau’r DU a chydsynio agallfudiad y plentyn;• Gweinyddu eiddo’r plentyn;• Cynrychioli’r plentyn mewngweithrediadau cyfreithiol;• Penodi gwarcheidwad i’r plentyn;• Cydsynio â chymryd gwaed i’w brofi;• Meddu’n gorfforol ar y plentyn;• Caniatáu i’r plentyn gael ei gyfweld;• Caniatáu i wybodaeth gyfrinachol sy’nymwneud â’r plentyn gael ei datgelu.• Enwi’r plentyn;• Cytuno os yw’r plentyn yn newid ei enw;• Cydsynio â phriodas y plentyn;

36 Rhoi eich Plant yn Gyntaf CYFRIFOLDEB RHIENIPwy sydd â chyfrifoldeb rhieni?Mae’r gyfraith yn datgan bod gan y boblganlynol gyfrifoldeb rhieni:• Mamau,• Tadau:• Os ydynt yn briod, neu wedi bod ynbriod, â’r fam ar unrhyw adeg ersgeni’r plentyn.• Os ydynt wedi’u cofrestru ar y cydgyda mam y plentyn ar y dystysgrifgeni (ers 1.12.03).• Os ydynt wedi ei gael drwygytundeb cyfreithiol swyddogolgyda’r fam neu drwy orchymyn llys.(a.4 Deddf Plant 1989)• Unrhyw un arall sydd wedi caelcyfrifoldeb rhieni o dan orchymyn llysfel gorchymyn preswylio, gorchymyngwarcheidwad arbennig neu orchymynmabwysiadu.• Awdurdod lleol lle mae gorchymyngofal mewn grym.• Gwarcheidwaid sydd wedi eu penodi’nffurfiol yn unol ag a.5 Deddf Plant 1989.Am ragor o wybodaeth ar warcheidwaidgweler tudalen 17.Gellir cael rhagor o gyngor ar hyn gangyfreithiwr neu asiantaeth gynghori. Maerhestr o asiantaethau a all helpu yng nghefny canllaw hwn.• Llys-rieni, os ydynt wedi cael cyfrifoldebrhieni drwy gytundeb ffurfiol gyda’rddau riant sydd â chyfrifoldeb rhieni.(a.4A Deddf Plant 1989)

Pam byddech chi am gaelcyfrifoldeb rhieni?Mae angen cyfrifoldeb rhieni arnoch ermwyn gallu penderfynu ar bethau pwysigym mywyd eich plentyn, fel:• Dewis ysgol, crefydd neu gyfenw eichplentyn;• Penodi gwarcheidwad ar eichmarwolaeth;• Llofnodi ffurflenni caniatâd ar gyfertripiau ysgol neu driniaeth feddygol.

38 Rhoi eich Plant yn Gyntaf BLE I GAEL HELP I BLANTBle i gael help i blant

Ble i gael help i blantMae ChildLine yn cynnig llinell gymorthgyfrinachol 24 awr am ddim.ChildLine,Freepost NATN1111,London E1 6BRMae The Site yn wefan i bobl ifanc sydd âgwybodaeth am amrywiaeth eang owasanaethau lleol, yn ogystal â fforymautrafod.~ www.thesite.org.uk~ Rhadffon 0800 1111~ Gwefan www.childline.org.ukMae It’s not your fault yn wefan ar gyferplant a phobl ifanc am ysgariad a gwahanu,gyda gwybodaeth ddefnyddiol.www.itsnotyourfault.orgMae’r Gwasanaeth Cenedlaethol drosEiriolaeth Ieuenctid yn darparugwasanaethau eiriolaeth i blant a phoblifanc hyd at 25 oed. Maent yn cynnig helparbenigol ym maes hawliau plentyn, plantsy’n derbyn gofal, materion cyswllt, addysga chyfiawnder ieuenctid. Mae ganddyntrwydwaith o eiriolwyr ledled y wlad a’ucyngor cyfreithiol eu hunain.Mae gan Mynediad Ieuenctid gyfeirlyfr ogyngor, gwybodaeth, cefnogaeth agwasanaethau cynghori i bobl ifanc ledled yDU. Gellir dod o hyd i’r rhain drwy ffonio eullinell gyfeirio neu drwy edrych ar ycyfeirlyfr ar-lein ar eu gwefan.~ Gwybodaeth gyfeirio ar 020 8772 9900(Llun – Gwener 9.00am – 1.00pm a2.00pm – 5.00pm)~ Gwefan www.youthaccess.org.uk~ E-bost admin@youthaccess.org.uk~ Llinell gymorth am ddim i blant a phoblifanc 0800 616 101~ Gwefan www.nyas.net~ Cyngor dros yr e-bost i blant a phobl ifanchelpline@nyas.net

40 Rhoi eich Plant yn Gyntaf BLE I GAEL HELP I OEDOLIONBle i gael help i oedolion

Ble i gael help i oedolionCymorthGall y sefydliadau a restrir isod roi help asyniadau ymarferol, amrywiaeth o gyngor, achefnogaeth emosiynol i’ch helpu i ddod idelerau â rhianta ar ôl i chi wahanu.Mae Parentline Plus yn elusen genedlaetholsy’n cynnig help a gwybodaeth i rieni atheuluoedd drwy amrywiaeth owasanaethau gan gynnwys llinell gymorthgyfrinachol 24 awr am ddim, gweithdai agrwpiau Parents Together, taflennigwybodaeth, llinell gymorth dros yr e-bost agwefan.~ Llinell gymorth 24 awr gyfrinachol, amddim 0808 800 2222~ Ffôn testun am ddim i bobl sydd â nam areu lleferydd neu ar eu clyw 0800 783 6783~ Gwefan www.parentlineplus.org.uk~ Llinell gymorth dros yr e-bostparentsupport@parentlineplus.org.ukMae Gingerbread yn darparu gwasanaethcynghori rhadffon proffesiynol i deuluoeddun rhiant, gwasanaethau aelodaeth, arhwydwaith o grwpiau hunan-gymorth.Mae’r wefan yn cynnwys grŵp rhithwir argyfer teuluoedd un rhiant.~ Llinell gymorth 0800 018 4318 (Llun –Gwener 9.00am – 5.00pm)~ Gwefan www.gingerbread.org.uk~ E-bost advice@gingerbread.org.ukMae Teuluoedd Un Rhiant yn darparu llinellgymorth gyda gwybodaeth am ddim i rieniunigol am faterion sy’n cynnwys budddaliadau,treth, hawliau cyfreithiol, cyfraithteulu a materion cyswllt, ACP a dychwelydi’r gwaith. Gallant roi rhieni unigol mewncysylltiad â sefydliadau a grwpiau lleol eraill.~ Llinell gymorth 0800 018 5026(Llun – Gwener 9.00am – 5.00pm)~ Gwefan www.oneparentfamilies.org.ukMae Families Need Fathers yn elusengofrestredig sy’n darparu gwybodaeth achymorth ar faterion rhianta a rennir sy’ndeillio o deuluoedd sy’n chwalu i rieni sy’nysgaru a gwahanu, waeth beth yw eu rhywneu statws priodasol. Darperir cymorth drwylinell gymorth genedlaethol, gwefan,rhwydwaith o wirfoddolwyr a chyfarfodyddgrŵp rheolaidd, a gynhelir mewnamrywiaeth o leoliadau.~ Llinell gymorth 0870 760 7496 (Llun –Gwener 6.00pm – 10.00pm)~ Gwefan www.fnf.org.ukRelate: Mae’r canolfannau Relate lleol yncynnig cyngor ar gysylltiadau a chyrsiausgiliau bywyd. Gall y swyddfa genedlaetholeich rhoi mewn cysylltiad â chanolfannaulleol. Gellir cael cyngor hefyd dros y ffôn amffi fach – mae’r manylion ar eu gwefan.~ Rhif ffôn 0845 456 1310 (swyddfa ganolog)(Llun – Gwener 9.30am – 4.00pm)~ Llinell gymorth 0845 130 4010~ Gwefan www.relate.org.uk~ E-bost enquiries@relate.org.uk

42 Rhoi eich Plant yn Gyntaf BLE I GAEL HELP I OEDOLIONMae’r Llinell Gymorth Trais yn y CartrefGenedlaethol (a gaiff ei rhedeg mewnpartneriaeth rhwng Cymorth i Fenywod aRefuge) yn cynnig llinell gymorth am ddim iferched sy’n profi trais corfforol, traisemosiynol neu drais rhywiol yn y cartref.Gall y llinell gymorth 24 awr am ddim eichcyfeirio at lochesi lleol a llety mewnargyfwng ledled y DU.~ Llinell gymorth 0808 200 0247~ Gwefan www.womensaid.org.ukMae’r Llinell Dyledion Genedlaethol ynllinell gymorth genedlaethol i bobl sydd âphroblemau dyled. Mae’n cynnig cyngorarbenigol dros y ffôn a thrwy’r e-bost. Mae’rgwasanaeth am ddim, yn gyfrinachol ac ynannibynnol.~ Llinell gymorth 0808 808 4000(Llun – Gwener 9.00am – 9.00pm,Sadwrn 9.30am – 1.00pm)~ Gwefan www.nationaldebtline.co.uk~ E-bost advice@nationaldebtline.co.ukMae Cymdeithas Genedlaethol CanolfannauCyswllt Plant yn hyrwyddo cyswllt plantdiogel o fewn rhwydwaith genedlaethol oganolfannau cyswllt plant. Mae canolfancyswllt plant yn lle diogel lle y gall plant odeuluoedd sydd wedi gwahanu dreulioamser gydag un rhiant neu’r ddau ohonyntac weithiau, gydag aelodau eraill o’r teulu.Gellir cael manylion am ganolfannau lleol areu gwefan neu drwy eu ffonio.~ Rhif ffôn 0845 4500 280 (Llun – Gwener9.00am – 5.00pm)~ Gwefan www.naccc.org.ukMae’r Asiantaeth Cynnal Plant yn rhan o’rAdran Gwaith a Phensiynau ac mae’ngyfrifol am asesu, casglu, talu a gorfodicynhaliaeth plant.~ Llinell gymorth genedlaethol08457 133 133Nod y Samariaid yw rhoi cyngor emosiynolcyfrinachol i unrhyw un, waeth beth fo’u hil,credo, oed neu statws, sydd mewn trallodemosiynol neu mewn perygl o gyflawnihunanladdiad.~ Llinell gymorth 08457 909090~ Gwefan www.samaritans.org~ Gwasanaeth cymorth dros yre-bost jo@samaritans.orgMae Shelter yn rhoi cyngor a gwybodaeth ibobl sy’n ddigartref neu sydd â phroblemtai. Mae’n rhoi cyngor ar leoliadau hostel,dod o hyd i lety, hawliau tai, budd-daliadautai, ôl-ddyledion rhent.~ Llinell gymorth 24-awr am ddim0808 800 4444~ Gwefan www.shelter.org.uk~ Gwefan www.csa.gov.uk

CyfrynguOs ydych yn ei chael hi’n anodd trafod ytrefniadau ar gyfer eich plant ar eich peneich hunan, gall cyfryngwr sydd wedi caelhyfforddiant eich helpu gyda hyn. I ddod ohyd i gyfryngwr, cysylltwch ag un o’rsefydliadau isod:Gall Cymdeithas y Cyfryngwyr Teuluol eichrhoi mewn cysylltiad â chyfryngwyr syddwedi cael hyfforddiant sy’n gweithio gydarhieni a phlant.~ Llinell Gymorth Genedlaethol0808 200 0033Mae Cyfryngu Teuluol Cenedlaethol ynsefydliad ymbarél ar gyfer gwasanaethaucyfryngu teuluol lleol a gall roi manylion amy gwasanaethau lleol yn y DU.~ Rhif ffôn 01392 271 610 (Llun – Gwener9.00am – 5.00pm)~ Gwefan www.nfm.u-net.comGall Coleg Cyfryngwyr Teuluol y DU eichhelpu i ddod o hyd i gyfryngwr. Gellircysylltu â hwy yn:UK College of Family Mediators,Alexander House,Telephone Avenue,Bristol BS1 4BS~ Ffôn 0117 904 7223~ Gwefan www.ukcfm.co.ukDatrys anghydfod yn y llysMae CAFCASS yn gofalu am fuddiannauplant a phobl ifanc sy’n rhan o achosionmewn llysoedd teulu gan sicrhau y caiff eulleisiau eu clywed. Mae’n helpu teuluoedd igytuno ar drefniadau ar gyfer eu plant. Dimond os yw’r llys yn cyfeirio achosion atynt ymae CAFCASS yn gweithio gyda theuluoeddond mae ei wefan yn cynnwys gwybodaethddefnyddiol, astudiaethau achos, cyngor achysylltiadau cyswllt.~ Gwefan www.cafcass.gov.ukCyngor cyfreithiolOs na allwch gytuno ar fanylion y trefniadauar gyfer eich plant, efallai y byddwch amgael cyngor cyfreithiol gan un o’rsefydliadau canlynol:Mae’r Ganolfan Gyfreithiol Plant yn cynniggwybodaeth am yr holl agweddau argyfraith plant yng Nghymru a Lloegr, ynenwedig cyswllt, cyfrifoldeb rhieni agorchmynion preswylio. Mae gwasanaethffôn sydd wedi ei recordio ymlaen llaw ynrhoi gwybodaeth am gwestiynau cyffredinar amrywiaeth eang o faterion. Maegwasanaeth ymateb gwefan ac e-bostdefnyddiol hefyd ar gael.~ Gwasanaeth ffôn wedi’i recordio ymlaenllaw 0845 120 3747~ Gwefan www.childrenslegalcentre.com~ E-bost clc@essex.ac.uk

44 Rhoi eich Plant yn Gyntaf BLE I GAEL HELP I OEDOLIONMae’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth ynsefydliad annibynnol sy’n rhoi cyngorcyfrinachol, di-duedd, am ddim ar unrhywfaterion i unrhyw un. Mae cyfeiriad a rhif ffôneich Canolfan Gyngor ar Bopeth leol yn y llyfrffôn. Mae cyngor ar-lein ar eu gwefan hefyd.~ Gwefan www.citizensadvice.org.uk~ Gwefan cyngor ar-leinwww.adviceguide.org.ukMae’r Comisiwn Gwasanaethau CyfreithiolCymunedol yn gyfrifol am gynnal daugynllun – y cynllun sifil ar gyfer ariannuachosion sifil a’r Gwasanaeth AmddiffynTroseddol i bobl sy’n wynebu cyhuddiadautroseddol. Mae Gwasanaethau CyfreithiolCymunedol Uniongyrchol yn rhoigwybodaeth yn uniongyrchol i’r cyhoedd amddim am amrywiaeth o faterion cyfreithiolcyffredin ac yn ei gwneud yn haws i ddod ohyd i help a gwybodaeth gyfreithiol o safon.~ Rhif ffôn 0845 345 4345(Wedi’i staffio yn ystod oriau swyddfa,gyda pheiriant ateb a gwasanaeth ffonionôl ar gael y tu allan i oriau)~ Gwefan www.legalservices.gov.ukMae’r Grŵp Hawliau Teuluol yn rhoi cyngorarbenigol a gwasanaethau gwybodaeth ideuluoedd yng Nghymru a Lloegr, sydd mewncysylltiad â’r gwasanaethau cymdeithasol amofal eu plant, a’u cynghorwyr a’u cefnogwyr.~ Llinell Gymorth 0800 731 1696(Llun – Gwener 10am – 12 hannerdydd a 1:30pm – 3:30pm)~ Gwefan www.frg.org.ukEr mwyn cael eich cyfeirio at gyfreithwyr,cysylltwch â:The Law Society,Information Services,Ipsley Court,Berrington Close,Redditch,Worcs,B98 0TD~ Gwybodaeth am gyfreithwyr arbenigol0870 606 6575~ Gwefan www.lawsociety.org.uk/choosingandusing/findasolicitor/view=solsearch.law~ E-bost info.services@lawsociety.org.ukBydd y gwasanaethau gwybodaeth yn rhoirhestr wedi’i diweddaru o’r cyfreithwyr lleolsydd ar Banel Plant Cymdeithas yCyfreithwyr.Mae Resolution (Cymdeithas CyfraithTeulu’r Cyfreithwyr gynt) yn gymdeithas ogyfreithwyr sy’n arbenigo mewn cyfraithteulu sy’n mabwysiadu ymagwedd gymodolac adeiladol tuag at berthynas yn chwalu.Anfonwch amlen â chyfeiriad a stamp arnier mwyn cael rhestr o’r cyfreithwyr lleol sy’naelodau. Noder na ellir rhoi cyngorcyfreithiol dros y ffôn.PO Box 302, Orpington,Kent, BR6 8QX~ Rhif ffôn 01689 850 272(Llun – Gwener 9.00am – 5.30pm)~ Gwefan www.resolution.org.uk~ E-bost info@resolution.org.uk

Gellir archebu copïau o’r Cynllun Rhianta o’r wefan ganlynol:www.orderprocessor.co.ukFel arall, gellir eu harchebu dros yr e-bost o:parentsandchildren@accelerated-mail.co.ukneu drwy’r post o:Freepost,PO Box 2001,Burgess Hill,West Sussex,RH15 8BR

h Hawlfraint DFES 2006

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!