12.07.2015 Views

Hydref - Tafod Elai

Hydref - Tafod Elai

Hydref - Tafod Elai

SHOW MORE
SHOW LESS
  • No tags were found...

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

tafod eláiwww.tafelai.com<strong>Hydref</strong> 2005 Pris 60cRhif 201Gwenwyn bwyd yneffeithio arysgolionMae’r afiechyd E.coli wedi achosipryder i rieni a phlant yr ardal gydadros 100 wedi eu heintio. Mae’nanarferol iawn i weld afiechyd felhyn yn lledu i’r fath raddau acmae’n sicr fod llawer o gwestiynaui’w gofyn am reolaeth y sefyllfa.Erbyn hyn credir fod yr haint wedilledu i ysgolion drwy ddosbarthu cigwedi ei goginio o gyflenwyr ymMhenybont. Ond yn ogystal mae’ndebyg fod yr haint wedi ei basio ofewn teuluoedd a llawer o bobl hŷnwedi eu heffeithio.Mae’r Cynulliad wedi sefydluymchwiliad cyhoeddus i’r hyn syddwedi digwydd ac i sicrhau fodsafonau'r gadwyn fwyd yn cael eucadw.Mae’n meddyliau gyda’r plantsydd yn cael triniaeth yn yr ysbyty adymunwn wellhad buan i bawb syddwedi eu heffeithio gan yr haint.“ACHUB IAITH”GARETH MILES,DRAMODYDD ACYMGYRCHYDD7PM, NOS IAU,20 HYDREF 2005Y MIWNI PONTYPRIDDCYFARFOD CYFFREDINOLBLYNYDDOLMENTER IAITHGWYBODAETH BELLACH01443 226386Adeiladau newydd Ysgol Garth OlwgMae plant ac athrawon YsgolGynradd Gymraeg Garth Olwg wrtheu bodd ar ôl symud i mewn i’whadeilad newydd ym mis Medi.Mae’r adeilad ar yr un campws âhen adeiladau’r ysgol ac maeadeiladau newydd Ysgol Gyfun<strong>Tafod</strong> Elái yn dathlu 20 mlynedd eleniCofiwch archebu eich copi£6 am y flwyddynMerched yn swyno’r DwrlynCyflwynwyd noson gerddorolgan deulu’r Coombes oBentyrch a’u ffrindiau ig y c h w y n b l w y d d y n oweithgarwch Clwb y Dwrlyn.Mae Faye o Borthcawl ynhyfforddi i fod yn bianyddclasurol. Mae Linda yn athrawesym Mhorthcawl ac yn cymrydrhan mewn sioeau cerddorol.Mae Amy, merch Linda, ynastudio Drama ac Addysg ynUWIC a daw Sioned sy’nastudio yn y Coleg Cerdd aDrama o Gastell Nedd.Eleni mae Clwb y Dwrlyn, odan ofal y Cadeirydd, JudithEvans a’i phwyllgor prysur,Rhydfelen yn brysur datblygu ar yrun safle.Trist oedd clywed am farwolaethElwyn Hughes, Prifathro yr ysgol,un a fu’n brwydro am flynyddoedd isicrhau gwell adeiladau i blant GarthOlwg.Faye, Linda, Amy a Sionedwedi trefnu llu o weithgareddau amrywiolac ysgafn. Mae croeso i bawb ymuno.Manylion yn yr hysbys drosodd.


Teyrnged i Elwyn Hughes,Prifathro Ysgol Garth OlwgRoedd Capel Salem Tonteg ynorlawn ar gyfer gwasanaeth i gofioam Elwyn Hughes, Prifathro YsgolGynradd Gymraeg Garth Olwg arddydd Iau 22 Medi. Ymhlith ygynulleidfa roedd llu o blant yrysgol, llawer o gyn­ddisgyblion yrysgol o’r ysgolion cyfun a chynddisgyblionoedd wedi cymrydamser o’r gwaith i fod yn bresennol.Hefyd roedd cynrychiolwyr o lawero ysgolion yr ardal yn cynnwysprifathrawon ac athrawon aswyddogion y cyngor sir. Ac ynbennaf roedd ei deulu a’i ffrindiauyno i deulu eu teyrnged.Roedd yr angladd yng ngofal yParch Peter Cutts, GweinidogSalem, a dyma ran o’i deyrnged ef iwaith un a wnaeth gyfraniad gloyw ifyd addysg Gymraeg ac a fu’neithriadol gefnogol i’r ‘pethe’.Fe’i magwyd yn Llanfairpwll. Efoedd yr unig blentyn i Richard aMary Hughes. Fe’i addysgwyd ynysgol Ramadeg Biwmares ac yn1964 aeth i Goleg Cyncoed ­ erioedwedi gadael Sir Fôn o’r blaen. Fedreuliodd yn agos i ddeugainmlynedd yn dysgu yn gyntaf ynysgol Pont Siôn Norton ac ynaYsgol Garth Olwg lle bu’n brifathrohyd y diwedd.Roedd ei swydd gyntaf fel athroyn Ysgol Pont Siôn Norton. A phanddechreuodd ym mis Medi 1967cafodd lety gyda Mrs PeggyWilliams, (a edrychodd ar ei ôl felmab) ‘Gai weld os fyddai’n hoffiond os na ­ af adref.’ Cymerodd MrsTreharne ef dan ei gofal ac ynacyfnod gyda Dorothy Todd felpennaeth. Roeddynt yn ddyddiauhapus fel athro a dirprwy. Rhoddoddddosbarthiadau Cymraeg i rieni.Bu’n cynnal Dosbarth Ysgol Sul ynEglwys Ddiwygiedig Unedig HeolGelliwastad.Yn 1985 fe’i penodwyd ynbennaeth Ysgol Garth Olwg. Amy mr o n i 4 0 ml y n e d d f eddylanwadodd ar filoedd o fywydauer lles a thros yr iaith Gymraeg.Roedd cyn­ddisgyblion Garth Olwgyn Ysgol Gyfun Rhydfelen wedidanfon cerdyn arbennig yncydymdeimlo.Fel mae’n siŵr yr ydych yngwybod, fe dreuliodd oriau yn yrysgol, nosweithiau, penwythnosau,gwyliau, ac nid dim ond y pethau ybyddech yn disgwyl i brifathro eugwneud ­ roedd e’n torri’r cloddiaua pheintio. ‘Tasen ni’n sefyll ynllonydd faset ti’n paentio ni.’dywedodd Mrs Tomlinson wrtho arfwy nag un achlysur. Roedd amsicrhau fod ei athrawon yn hapus.Byddai’n gofyn iddynt ‘Gallai’chhelpu? Oes unrhyw ffordd allai eichhelpu?’ Roedd yn hapus wrth eiwaith. Dyna oedd ei fywyd. Bu’nllywio ysgol ardderchog ... ac maeadroddiad diweddar yn profi hyn.Mae e wedi dylanwadu argenedlaethau o blant a rhieni, erdaioni. Roedd Elwyn yn athro wrthreddf, a’r gallu ganddo nid yn unig isymbylu’r disglair ond hefyd igodi’r gwan i fyny, ac ennyn hunanhyder yn y disgybl mwyaf ansicr.Meddai ef ar bersonoliaethhawddgar ac urddasol. Roeddcyfarfod ag ef yn fraint. Bydd gangydweithwyr a chyn­fyfyrwyratgofion melys iawn ohono.Roedd Elwyn o hyd wedi gwisgoyn drwsiadus; crys a thei a siaced;ond roedd hefyd yn arddwr o fri a’rpryd hynny byddai’n gwisgo crys athrowsus anffurfiol. Un diwrnodaeth rhywun heibio a dweud wrthAlison, “Mae eich garddwr yngwneud gwaith arbennig”. Roedd ynhoffi chwerthin am hynny.Roedd yn falch iawn o’i wreiddiauyn sir Fôn a byddai’n mynd yno iweld ei rieni bob gwyliau gan arosyn Llanbrynmair am goffi ar yffordd. Roedd ganddo lu o straeonam ei fagwraeth ac am fynd i Ffair yBorth a bywyd Cymraeg yr ardal.Ac yno y cleddir ef nesaf at ei dada’i fam yn Llanfairpwll.Hyd yn oed yn ei waeledd ni fu’ncwyno. Wynebodd ei afiechyd ynwrol ac roedd staff yr ysbyty yn eibarchu’n fawr.Ond er y bydd Ysgol Garth Olwgac addysg Gymraeg y sir yngyffredinol yn gweld ei golli ynfawr, yn sicr y bydd ei deulu agosafyn gweld bwlch mawr diwaelod yneu bywydau hwythau hefyd. FeAr Lwyfan y BydCyhoeddwyd llyfr newydd yn ygyfres Cantorion o Fri. Mae ganGymru doreth o gantorionbydenwog ar hyn o bryd, a chwaethyr awdur, Alun Guy, sy’n gyfrifolam y detholiad hwn sy’n cynnwysBryn Terfel, Rhys Meirion, GwynHughes Jones, Rebecca Evans,Katherine Jenkins a Stuart Burrows ­dyna i chi fawrion y byd cerddorolyn ddi­os!Ydyn, maen nhw’n enwaucyfarwydd ond yn y gyfrol hon cawngyfle i ddod i’w hadnabod yn well ­mwy am eu cefndir, y person tu ôli’r wyneb cyfarwydd ­ a darganfodrhai pethau na wyddai neb amdanyntcyn hyn!Ar lwyfan y Byd. Alun Guy.Gwasg Gomer £8.99welwn ninnau yma yng NghapelSalem golled ar ei ôl. Roedd ynffrind dibynadwy a ffyddlon i lawer.Roedd Elwyn Hughes yn ŵrbonheddig yng ngwir ystyr y gair.Mae’r hyn mae wedi gadael ar eiôl i genedlaethau o blant a’u rhieniyn llawer mwy na’r CwricwlwmC en e d l a et h o l ­ y r U r d d ,eisteddfodau, diwylliant Cymraeg;ond yn fwy na dim ac yn bwysicach,ei hynawsedd a’i garedigrwydd, eiymroddiad a’i ddidwylledd. Roeddparch mawr iddo ac roedd pawb ynei hoffi.Roedd Elwyn wedi brwydro i gaeladeiladau digonol i Ysgol GarthOlwg a bu llawer yn sôn am ytristwch na chafodd gyfle i weld yrysgol newydd yn agor. Ond meddaiAlison “Mae ffordd arall o edrych arbethau. Mae’r ysgol wedi cau nawr– ei ysgol ef.”Mae’n cydymdeimlad yn mynd iAlison a’r teulu. Roeddynt i gyd ynei hoffi a’i barchu a llwyddodd iberswadio rhai o’r teulu i ddanfoneu plant i Ysgol Gymraeg Penybontar Ogwr. Er ei fod yn ddyn preifatiawn, roedd yn gallu siarad drosGymru, yn arbennig addysgddwyieithog yn Ne­ddwyrainCymru. Drwy ei gymeriad hoffusa’i ymroddiad fe chwaraeodd rhanblaenllaw yn nhwf addysg Gymraega chryfhau’r iaith yn yr ardal hon.Bydd colled mawr ar ei ôl. 3


4TONTEG A PHENTRE’R EGLWYSDyrchafiadLlongyfarchiadau calonnog a phobdymuniad da i Emyr Adlam ar eiddyrchafiad i fod yn RheolwrSystemau Gwybodaeth Technegolyn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.Gohebydd Lleol: Meima MorseMarwolaethTristwch llwyr oedd y newyddionam farwolaeth Elwyn Hughes.Brwydrodd yn ddygn i goncro’iafiechyd a hynny gyda’r undyc n wch a dyfa lb ar ha d addefnyddiodd pan yn athro yn YsgolGynradd Gymraeg Pont Sïon Nortonac wedi hynny, hyd ei farwolaeth,fel Pennaeth Ysgol GynraddGymraeg Gartholwg. Anodd ywcredu mai brodor o’r Gogledd oeddElwyn gan iddo roi ei wasanaethdiflino o ddechrau ei yrfa yma yn yDe ac anodd, erbyn hyn, oeddgwahaniaethu rhwng ei acen ef agun y rhai oedd wedi eu geni a’umagu yma yn y De. Mae pawb agafodd y fraint o gyd­droedio ag efneu a fu o dan ei ddylanwad tawel achadarn yn gytûn nad aiff enwElwyn neu “Mr Hughes” byth ynangof. Os bu person erioed agysegrodd ei fywyd i AddysgDdwyieithog Elwyn Hughes oedd yperson hwn. Ein braint ni oedd eiadnabod.Cymrodd ei wasanaeth angladdolle ar yr ail ar hugain o Fedi yngNghapel Salem ac, fel y disgwylid,roedd y capel dan ei sang. YParchedig Peter Cutts oedd â’r gofalam y gwasanaeth ac roedd yrawyrgylch yn gynnes a chytûn.Darllenwyd gan Mr Herbie Rees aM r s . M a r i l y n T o m l i n s o n ,chwaraewyd yr organ gan HowardMorse gwrandawyd ar ddatganiadcerddorol ardderchog gan blantYsgol Gartholwg ar dâp. Estynnircydymdeimlad gwresog yr ardal atAlison, ei gymar ffyddlon, ac atdeulu Elwyn.Capel Salem:Rhwng y Gwasanaeth Cymraeg a’rCwrdd Teuluol ar fore Sul mae’rbobl ifainc yn brysur wrth eustondin Masnach Deg ac mae’rfenter yn profi i fod yn llwyddiantysgubol. Daliwch ymlaen i’nharwain i fod o fudd i eraill.Llongyfarchiadau i Ieuan Cutts arei lwyddiant yn ei arholiadau LefelA. Bydd Ieuan yn dilyn cwrsB.Eng. ym Mhrifysgol Abertawe adymunir y gorau posibl iddo.Nid yn Ne Amerig mae Megan,chwaer Ieuan, bellach. Ail gydioddyn ei thaith oddi amgylch y bydwedi cyfnod adref yn helpu i edrychar ôl ei thaid, y diweddar GwynThomas. Erbyn nawr mae hi weditroi ei llwybrau tua’r Dwyrain athreulio ychydig o amser yngNghambodia a Vietnam. Diddoroliawn yw ei disgrifiadau o’r tlodisy’n para i amlygu ei hun yn PhnomRanh, sef prif ddinas Cambodia ­creithiau sy’n dwyn i gof y gyflafany bu’r Kmer Rouge yn gyfrifolamdano’n yr 80au. Mae’n debygbod y terfysgwyr hyn am sicrhau eubod yn cael gwared ar y rhai a allaidarfu ar eu pŵer nhw. O ganlyniad,lladdwyd athrawon, meddygon ac,yn ychwanegol, pobl a oedd yngwisgo sbectol?! Cyferbyniad llwyri’w phrofiad yng Nghambodia oeddymweliad Megan â’r temlau, o’r7fed. ganrif, yn Nha Trang ynVietnam. Gorffennodd Megan eillythyr gan ddweud ei bod yn arosam fws i Hoi An. Enwau o fyd arallbron,­ Phnom Ranh, Nha Trang, HoiAn. Cariwch ‘mlaen i rannu’chprofiadau â ni Megan.Aelwyd y Bont7.30 Bob nos Lunyng Nghlwb y Bont,Pontypriddcroeso i aelodau newyddFfoniwch Del Caffrey01443 493184Gwefan GwyliauNewyddAnnwyl Gyfeillion,Fedrwch chi ein helpu?Y mae cynllun Gwyliau Cymraeg yMentrau Iaith yn cael gwefannewydd.www.gwyliaucymraeg.co.ukFe fydd yn adnodd gwerthfawr iunrhyw un sydd â diddordeb yn yriaith Gymraeg ac am gael gwyliaudrwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflegwych i ddysgwyr gael mwy o gyflei ymarfer yr iaith.Ydych chi yn adnabod rhywynsy’n darparu llety/bwyty/tafarn/atyniad drwy gyfrwng y Gymraeg?Does dim cost i gael bod ar eingwefan, cyfle arbennig i gaelhysbysebu'n rhad ac am ddim!Fe fyddwn yn falch iawn o glywedgennych.Cysylltwch â Carys Dafydd,Swyddog Gwyliau Cymraeg, MenterIaith Gwynedd, 38 – 40 Stryd Fawr,Caernarfon.LL55 1RHFfôn 01286 674112ebost post@gwyliaucymraeg.co.ukdiolch yn fawrCarys DafyddSwyddog Gwyliau CymraegMenter Iaith Gwynedd38 ­ 40 Stryd Fawr, Caernarfon,Gwynedd, LL55 1RH.01286 674112Gwefan MaesAwyrMae Maes Awyr RhyngwladolCaerdydd (CWL) wedi cyhoeddinewidiadau helaeth i’w hunaniaethgorfforaethol a fydd yn cael eugweithredu dros y misoedd nesaf.Bydd strategaeth y maes awyr yncanolbwyntio ar rôl fwy gweithredolyn y broses o drefnu teithiau a byddgwasanaeth archebu dros yrhyngrwyd tebyg i’r rhai a ddarperirgan gwmniau hedfan.Ewch i weld y gwybodaeth arwww.cwlfly.com.Yn anffodus does dim gwybodaethyn Gymraeg.


PENTYRCHGohebydd Lleol: Marian WynnePRIODASDymuniadau gorau i Awen Penri,Pantbach, ar ei phriodas â GarethSkelding yng Nghastell Ffwnmwn ary 3ydd o Fedi. Y morwynion oeddLlio Penri a Lisa Skelding,chwiorydd y briodferch a’r priodfab,a’r forwyn fach oedd Robyn, merchcyfnither Gareth. Rhodri Llywelyn aRhys Gruffydd oedd y gweision.Cafwyd noson o adloniant yngngwmni’r grŵp Radio Feynman,ffrindiau Gareth, cyn­ddisgyblion oYsgol Gyfun Cwm Rhymni.Mae Gareth yn gweithio felRheolwr Lleoliadau i gyfres Dr Whoy BBC ac mae Awen yn gweithio ynElwa. Maent wedi ymgartrefu ymMhenylan, Caerdydd.PRIODASLlongyfarchiadau i Angharad Rees aMarc Evans ar achlysur eu priodasyng Nghapel y Tabernacl, Efail Isafar Fedi 10fed.Gweinyddwyd y gwasanaeth gan yParchedig Eirian Rees, yr organyddoedd Carey Williams a’r delynores,Ceri Anwen James. Darllenwyd rhano’r ysgrythur gan Rhian Huws asoned gan Andrew Johnston.Catrin Rees, chwaer y briodferch,oedd y forwyn a’r morwynion bachoedd nithoedd y priodfab, Bethan aPoppy Evans. Stephen Evans, brawdy priodfab, a Conrad Andersen oeddy gweision.Cynhaliwyd y wledd briodas yngNghastell Ffwnmwn gyda’rgerddoriaeth yng ngofal y LibertyStreet Stompers, Jac y Do a’r DaveCottle Band. Yn dilyn mis mêl ynne­orllewin yr Unol Daleithiau,bydd y ddau yn dychwelyd iLundain lle maent yn gweithio felcyfreithwyr.LLONGYFARCHIADAULlongyfarchiadau i Heledd a JonHall ar enedigaeth Iestyn Teifi allanym Melbourne. Mae Mamgu,Elenid, wedi cyrraedd nôl oAwstralia ac yn falch iawn o’i hŵyrbach cyntaf, cefnder i Fflur ac Eiryallan yn Ffrainc.Awen Penri a Gareth SkeldingCYDYMDEIMLADEstynnwn ein cydymdeimlad agEirlys Davies ar ôl colli ei brawdyng nghyfraith yn ddiweddar.’Roedd John Evans yn byw ynBydd arddangosfeydd yr hydref ynAmgueddfa ac Oriel GenedlaetholCaerdydd yn dechrau cyn bo hir, abydd y rhaglen eleni yn cynnwysd a t h l i a d a g o r A m g u e d d f aGenedlaethol y Glannau ynAbertawe, a chyfle arbennig i weldenghr eifft iau ardder chog ogelfyddyd Oes Victoria o gasgliadaupreifat cyfoes.Mae arddangosfa Cymru wrth eiGwaith (16 Medi ­ 8 Ionawr 2006)yn edrych ar ddelweddau o'rdiwydiannau a fowldiodd Cymru.Bydd peintiadau olew a lluniaudyfrlliw gan artistiaid fel ThomasHorner, Ceri Richards, JosefHerman ac L.S. Lowry yn dangosdiwydiannau mawr Cymru, yncynnwys glo, llechi, llongau, dur achopr. Mae'r arddangosfa'n dangossut ddatblygodd y golygfeydddiwydiannol o fod yn rhan o'rtraddodiad tirluniau rhamantaidd ifod yn destunau celf yn eu hawl euhunain. Bydd taith tywys am ddim oamgylch Cymru wrth ei Gwaith bobdydd Sadwrn am 12.30pm.Angharad Rees a Marc EvansLlundain ac yn frawd i’r gantoresAnn Evans sydd yn adnabyddus amganu gweithiau Wagner ac yn un ofeirniaid Canwr y Byd yma yngNghaerdydd.<strong>Hydref</strong> yn Amgueddfaac Oriel Genedlaethol CaerdyddMae arddangosfa BreuddwydionOes Victoria: Casgliadau Celf y19eg ganrif yng Nghymru (22<strong>Hydref</strong> ­ 8 lonawr 2006), yn edrychar beintiadau a gweithiau ar bapuro'r Oes Victoria oedd yn eiddo igasglwyr preifat a fu mor hael agadael eu casgliadau i'r Amgueddfa.Bydd yna gyfle i weld gweithiau celfrhagorol Oes Victoria o gasgliadaupreifat yng Nghymru, a dyma'r trocyntaf i lawer ohonyn nhw gael euharddangos. Bydd y rhain yncynnwys gweithiau Cyn­Raffaelaiddgan Holman Hunt, Millais aRossetti, paentiadau neo­Glasurolgan Leighton a Moore a thirluniaugan Brett, Watts ac Inchbold. Byddtaith tywys am ddim o amgylchBreuddwydion Oes Victoria bobdydd Sadwrn am 2pm.Gobeithio y byddwch chi'n galluymuno â ni yn ystod yr hydref i weldyr arddangosfeydd rhad ac am ddimyma. Bydd cyfres o sgyrsiau agweithgareddau i'r teulu yn cyd­fynda'r arddangosfeydd. Yn y cyfamser,os hoffech ragor o wybodaeth croesoi chi roi galwad ar 029 2057 3171.5


Swyddi NewyddDyma'r amser o'r flwyddyn pan fyddamryw o bobl yn newid swyddineu'n dechrau mewn swyddi newyddam y tro cyntaf.Mae Gethin, mab hynaf Judith aJohn Llewelyn Thomas, Nantcelynwedi trosglwyddo o Ysgol GynraddY Dolau i Ysgol Gymraeg PwllCoch yng Nghaerdydd. Bydd Gethinyn gofalu am Ymarfer Corff aChwaraeon yn yr ysgol.Mae Menna Israel, Ffordd y Capelwedi ei phenodi'n athrawesAstudiaethau Busnes yn YsgolUwchradd Maesteg.Llongyfarchiadau gwresog i EiriJones, Nantcelyn, sydd wedi eidyrchafu i Swydd DirprwyGyfarwyddwr Nyrsio gydagYmddiriedolaeth Iechyd Penybontar­Ogwr.Mi ddechreuodd Gareth Eyres,mab Dave a Rhian Eyres, HeolIscoed ar ei swydd gyntaf ynSwyddog Datblygu gyda Menter aBusnes yn yr Hendy ger Llanelli ar ycyntaf o Fedi.Dymunwn yn dda iawn i'r pedwaryn eu swyddi newydd.GENEDIGAETHAULlongyfarchiadau i Iolo a CatrinRoberts, Nant y felin, Heol FfrwdPhilip ar enedigaeth merch fach ymMis Mehefin. Mae Branwen aGruffydd wrth eu boddau gyda'ichwaer fach newydd, Beca Haf.Llongyfarchiadau hefyd i PetraDavies a Lee Bowen, l Clos y Coed,Pentre'r Eglwys ar enedigaeth merchfach, Megan Elin. Dymuniadauarbennig i chi eich tri oddi wrth hollaelodau Côr Merched y Garth.BRYSIWCH WELLA.Dymunwn yn dda i MaralynGarnon, Heol y Ffynnon sydd wedibod yn derbyn triniaeth yn YsbytyFrenhinol Morgannwg yn ystod MisAwst. Dymunwn adferiad iechydbuan a llwyr i chi, Maralyn.Dymunwn yn dda hefyd i JohnJames, Heol y Ffynnon sydd wedi6EFAIL ISAFGohebydd Lleol:Loreen Williamsbod yn derbyn triniaeth ar ei lygadyn ddiweddar.PRIODAS ARIANLlongyfarchiadau i Liz a MartinWest, Nantyfelin a fu'n dathlu penblwyddpriodas arbennig yn ystodMis Awst. Llongyfarchiadau i Davea Rhian Eyres, Heol Iscoed ahwythau hefyd wedi dathlu eupriodas Arian yn ystod Mis Medi.PRIODAS DDEIMWNT.Mae gan Liz, Martin, Rhian a Daveamser go faith i fynd i ddal i fynygyda record rhieni John LlewelynThomas, sef Gwen a Len LlewelynThomas o Gwmafan a fu'n dathluchwe deg blynedd o briodas ynystod gwyliau'r Haf.ARHOLIADAUAddewais yn rhifyn Mis Medifanylu ychydig ar ganlyniadau'rarholiadau. Llongyfarchiadau i FfionRees, Penywaun ar ganlyniadauteilwng iwan yn ei Arholiad Uwch.Mae Ffion wedi mynd i Goleg yBrifysgol Abertawe i astudio Hanesac Astudiaethau Americanaidd. Pobhwyl iti, Ffion.Llongyfarchwn Dewi, brawdFfion, ar ganlyniadau da iawn hefydyn ei arholiadau TGAU.Yn ôl i'rchweched dosbarth fydd hanes Dewii a s t u d i o M a t h e m a t e g ,Cyfrifiadureg, Hanes a Bioleg.PRIF SWYDDOG YSGOLRHYDFELEN.Cafodd Meilyr Dixey, Heol yFfynnon ei benodi'n Brif SwyddogY s g o l G y f u n R h y d f e l e n .Llongyfarchiadau a phob dymuniadda i ti. Llongyfarchiadau gwresoghefyd i Meilyr ar ei ganlyniadauarbennig yn yr Arholiad UwchGyfrannol.Y TABERNACL.Bedydd.Yn y Gwasanaeth Cymun ddechrauMedi bedyddiwyd Moli, merch fachGethin a Carys Watts. Roedd nifer odeulu Gethin o ardal Rhydaman atheulu Carys o'r Rhondda ynbresennol yn yr oedfa i gefnogi Molia'r teulu bach.Aelodau Newydd.Derbyniwyd tri o aelodau newyddyn ystod yr Oedfa Gymun. MaeRobert a Bethan Emanuel newyddgartrefu yn y pentref yn Efail Isaf.Mae Rob yn frodor o Dref Aberteifia Bethan yn hanu o'r Wyddgrug.Bu Huw Roberts yn weithgar yn yreglwys ers tro, yn arwain TeuluTwm gyda'i wraig Bethan. GanwydHuw ym Mhentyrch a bu'n aelod oYsgol Sul Y Tabernacl cyn i'w deulusymud i fyw i Fangor. Croeso nôlatom Huw a chroeso cynnes iawn iRob a Bethan a Ioan bach i'n plith.TEULU TWM.Rwyf eisoes wedi sôn fod MeilyrDixey wedi ei benodi’n BrifSwyddog yn Ys gol Gyfu nRhydfelen. Gallwn ymfalchïo feleglwys fod y ddwy ddirprwyswyddog yn Ysgol Rhydfelen ynaelodau o Deulu Twm hefyd, sefLisa Jones ac Eleri Evans. Tair allano bedair o'r Prif Swyddi yn cael eudal gan aelodau Teulu Twm.Go dda chi'r Twmiaid.TREFN YR OEDFAON ARGYFER MIS HYDREF.<strong>Hydref</strong> 2. Oedfa Gymun o dan ofalein Gweinidog.<strong>Hydref</strong> 9. Gwasanaeth Cynhaeaf<strong>Hydref</strong> 16. Mr Geraint Rees,Efail Isaf.<strong>Hydref</strong> 23. Mr Alan James,Llantrisant.<strong>Hydref</strong> 30. Y Parchedig AledEdwards, Cilfynydd.CefnogwchY CYMROPapur Cenedlaethol Cymruers 1932.Ffonwich Edwina01970 615000am fanylion tanysgrifio.


YsgolGynraddGymraegLlantrisantCroesoBraf yw gweld pawb yn ôl ar ôlgwyliau’r haf. Croeso arbennig i raiaelodau newydd o staff, sef MissLowri Rees (staff addysgu), MissRhian Griffiths (Cymorth Athrawon)a Mrs Helen Phillips (CymorthUnigol). Croeso cynnes hefyd i’rdisgyblion newydd sydd wediymuno â ni. Yn ogystal â 32 o blantbach newydd yn yr Uned Feithrin,mae Jane a Jamie Gerry wedi dodatom o Ysgol Gynradd GymraegLlwyncelyn, Sophie Vaughan oYsgol Gymraeg Casnewydd a LeonScott o Brighton. Gobeithio ybyddant i gyd yn hapus yn eincwmni.Profiad gwaithDiolch i Miss Rhian Myhre fu arbrofiad gwaith yn yr ysgol ynddiweddar. Fe dreuliodd gyfnod ymmhob dosbarth, yn arsylwi ac ynhelpu’r athrawon. Pob lwc iddi ar eichwrs ymarfer dysgu.Goruchwylwyr CinioMae Karen Pike, Cerris Davies aSarah Grant wedi dechrau gyda nifel goruchwylwyr cinio, ond rydymyn dal i chwilio am fwy o gymorth.Os oes diddordeb gyda chi yn ygwaith, cysylltwch â’r ysgol osgwelwch yn dda.Arholiadau telynL lon gyfa r chia da u i’n cynddisgybliona wnaeth yn arbennig odda mewn arholiadau telyn ynddiweddar. Fe basiodd MeganStacey gydag Anrhydedd ac AmyNicholls, Jodie Rackley ac IsabellaJones gyda Teilyngdod. Daliwch atiferched!LlangrannogAr y trydydd ar hugain o Fedi feaeth 33 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a6 i Langrannog i fwynhaupenwythnos o gymdeithasu ynGymraeg. Diolch i Mr RyanO’Neil, Mr Siôn Williams, MissLisa Thomas a Mrs Mair Hulse amroi eu penwythnos i ofalu am yplant.Croeso Ms SmithCroeso i Ms Smith i’r ysgol. MaeMs Smith yn dod o gwmpas ydosbarthiadau am fore neubrynhawn tra bod yr athrawon yncael eu cyfle i gynllunio, paratoi acasesu.CroesoCroeso i’r plant bach sydd newyddddechrau yn y Feithrinfa a’rNursery. Gobeithio eu bod ynmwynhau gwneud ffrindiau newydd.BarclaysDiolch yn fawr iawn i Fanc Barclaysam roi siec o £1,500 i’r Feithrinfa.Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt.Sioe BranwenDdydd Iau y pymthegfed o Fedi fegafodd yr adran Iau Gymraeg a’radran Iau Saesneg wledd ganStephen Atwell a oedd ynperfformio stori Branwen. Roeddyn anhygoel sut yr oedd yn gallucyfleu y cymeriadau i gyd a chynnaldiddordeb pawb. Ardderchog ynwir!LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Joel Dyer syddwedi llwyddo i gael lle yn yGerddorfa Genedlaethol i Blant ync h w a r a e’r C or n F fr eng i g .Llongyfarchiadau Joel!CerddorfaBydd cerddorfa’r ysgol yn dechraugydag arweinwraig newydd o’r enwSamantha Morgan. Fe fydd Sam yncymryd drosodd oddi wrth ZoeCoombes. Mae Sam yn gyfarwyddâ rhai o’r plant oherwydd bod hi’ndysgu piano iddynt.MyfyrwraigMae Zoe Coombes nawr ynfyfyrwraig yn Nosbarth 4 gyda MsRoberts ac wrth ei bodd yn gweithiogyda’r plant.Cystadleuaeth Class 4 a 5Yn ystod tymor yr Haf fe gymroddC l a s s 4 a 5 r a n y n gnghystadleuaeth Dave JenkinsHeritage Award. Roedd safon ygwaith yn uchel yn ôl y beirniad,ond dim ond un enillydd allai fod, agwaith Class 4 oedd y gorau. Hefydfe gymrodd Class 5 ran mewncystadleuaeth ar Bute Dowry, ar ôlcael eu hysbrydoli gan eu hathrawesMrs Julie Elliot a oedd wedi bod yngweithio ar Gastell Caerdydd.Mae’n rhaid ei bod wedi gweithio’ngaled iawn oherwydd erbyn hyn maepecyn addysg ar gael i arwainastudiaeth ar Gastell Caerdydd. Fefydd rhywfaint o waith y plant yncael ei arddangos yn ArddangosfaBurges yn yr Hen Lyfrgell, WorkingStreet am dair wythnos yn dechrauar y 7fed o <strong>Hydref</strong>. Fe fydddisgyblion yn cael mynychu cyrsiauymarferol fel ­ trin cerrig a cheisiocerfio gargoel eu hunain.Dirgelion yrOgofauMae Don Llewellyn, Pentyrch, wedicyhoeddi llyfryn arall yn y gyfresGarth Domain sy’n disgrifio’rogofau a’r darganfyddiadau o’r OesEfydd ar fynydd y Garth Isaf i’rgogledd o Radyr. Mynnwch gopidrwy ffonio 029 20890535.MaeYsgol Steiner Caerdyddyn chwilio am athro neuathrawesi ddysgu Cymraeg i’n plantoed 6 i 8. Dwy wers yr wythnos.Rhaid gallu addasui'r ffordd Steiner o addysgu.Ymholiadau:029 2019 0099ebost:cardiffsteiner@aol.com7


CREIGIAUGohebydd Lleol: Nia Williams8PriodasRai misoedd yn ôl priodwyd Bethan,merch Gill a Bryn Jones, Parc yCoed a Michael Ritchie, brodor oYnys Jersey, yn adeilad harddC y m d e i t h a s F r e n h i n o l yCelfyddydau ( y Royal Society ofArts ) yn Llundain. Yn ystod yseremoni darllenwyd cerdd AnneMorrow Lindbergh Gift from theSea, gan un o ffrindiau’r pâr ifanc,Stuart Philip. Yna canwydBugeilio’r Gwenith Gwyn gan griwo ffrindiau, i gyd yn gynddisgyblionYsgol Gyfun Llanhari, odan arweiniad Geraint Pickard.Wedyn darllenodd Geraint benilliono waith tad y briodferch. Tra bodBethan a Michael a’u tystion ynllofnodi’r gofrestr, canwyd madrigalgan Rachel Palmer, ( cyfnitherBethan), Sarah Draper a GarethMoss, triawd sy’n canu’n gysongyda’i gilydd. Ar ddiwedd yseremoni ymunodd y gynulleidfa ig a n u C a l o n L â n i g l o igweithrediadau ffurfiol diwrnodhwyliog a chofiadwy. Cynhaliwyd yneithior a pharti’r hwyr hefyd yn yrun adeilad a threuliodd y pâr ifanceu mis mêl ar Ynys Cuba yn India’rGorllewin. Mae’r ddau yn parhau ifyw a gweithio yn Llundain.I Bethan a MichaelYr haul yn llonni EbrillA blagur ar y coed,Y gog ar fin dychwelydA ninnau’n cadw oed;Yn llawn o hwyl yn llawenhauYn wenau down i uno dau.Boed heulwen ar y fodrwy,Boed heulwen ar y daith,Boed esmwyth y tramwyoAr hyd y siwrnai faith,A boed y byd i gyd yn gânYn seiniau mwyn y plantos mân.B.J.Cyflwynwyd yr englyn hwn owaith y diweddar J. Lloyd Jones,tad­cu Bethan, i’r ddau, ganddymuno pob bendith, hapusrwyddac iechyd iddynt gyda’i gilydd.Happiness and God’s blessing – on you bothMany be your offspring;To each other closer cling –Hearth love makes life worth living.Doctor MennaLlongyfarchiadau gwresog i DrMenna Davies, Tŷ Sïon. GraddioddMenna gydag Anrhydedd mewnMeddygaeth yr haf yma. Bellachmae hi’n gweithio fel meddyg ynysbyty’r Countess of Chester, Caer,ac yno y bydd am gyfnod o ddwyflynedd. Pob dymuniad da i tiMenna.Gradd ddaDa iawn ti, Sara Canning ar ennillgradd dda mewn Mathemateg oBrifysgol Caerdydd yr haf yma.Deallwn dy fod am ddilyn cwrsdysgu ym Mhrifysgol Caerdydd –dymunwn yn dda i ti.Llongyfarchiadau …… i Alison Cox, Maes y Coed arennill Diploma mewn CymraegDwys gyda rhagoriaeth o BrifysgolMorgannwg yr haf yma – ac ar benhynny am sicrhau gradd A ynArholiad Defnyddio’r GymraegUwch. Ardderchog Alison – a na,dyw treulio’r haf yn Ffrainc ddimwedi pylu dim ar dy barabl Cymraegdi!…Morgan Rhys Williams ar ennillpencampwriaeth ‘knock­out’ golffyr ieuenctid trwy guro DavidSkinner ddiwedd y tymor.Bethan a MichaelAtgof melys …Mae’n siŵr bod llawer o drigolionCreigiau yn cofio teulu bacharbennig o dalentog fu’n byw ymaar Heol Pantygored tan ychydig ynôl ­ teulu’r Schutz, symudodd i’rAlmaen oherwydd gwaith y tad.Serch gadael Cymru ­ anghofionnhw mo’u gwreiddiau ­ a bu Rachelyn fuddugol ar yr unawd i ferchedyn Eisteddfod Genedlaethol yllynedd. Wrth bori ar wefannewyddion y BBC darllensom ypennawd ‘Soprano o Gymru i ganuyng nghyngerdd coffa 9/11’ . Aphwy oedd y soprano honno ­ ondneb llai na Rachel Schutz!Cynhaliwyd y gyngerdd gerllawGround Zero, Efrog Newydd igoffau yr holl bobl ddiniwed gafoddeu lladd yng nghyflafan 9/11 bedairblynedd yn ôl.Bellach mae Rachel yn astudioCerdd ym mhrifysgol EfrogNewydd, a bu’n canu pump oganeuon yn y gyngerdd arbennigyna. Pob dymuniad da i ti Rachel –yn dy astudiaethau ac i’r dyfodol –oddi wrth dy gyfeillion yma’n yCreigiau.Rachel Schutz


Tymor llwyddiannus tîm golffieuenctid CreigiauCyfle i dderbynhyfforddiant iaithGymraeg gydabwrsari sabothol!Canlyniadau arbennig!L l o n g y f a r c h i a d a u i h o l lddisgyblion Creigiau wnaeth morarbennig o dda yn eu harholiadau yrhaf yma. Dymunwn yn dda i’rcanlynol wrth iddynt ddilynllwybrau cyffrous wedi ennillgraddau Lefel A arbennig o dda –Lowri Jones sy’n mynd i astudio ymmhrifysgol Aberystwyth, FfionCanning sy’n gadael am brifysgolAbertawe i ddilyn cwrs nyrsio,Heulwen Rees (tair A!) sy’nbwriadu cymryd blwyddyn arall iwneud gwaith gwirfoddol cyndechrau ar gwrs Meddygaeth ynGlasgow a Siwan ap Rhys (tair A!)sy ar fin cychwyn yng NgholegBrenhinol Cerdd a Drama,Caerdydd.Roedd yna gnwd o lwyddiannauyn Lefelau TGAU ac A.S. ynogystal – da iawn chi wir a phob lwcyn y rownd nesa!CerddorionLlongyfarchiadau i’r Herbertiaid areu llwyddiant. Mae Geraint wedicael gradd 6 piano gydag anrhydedda gradd 3 cello gydag anrhydedd,Catrin gradd 5 trwmped gyda chloda gradd 3 piano ac Aled gradd 2corned gydag anrhydedd a gradd 1theori.Priodas AurLlongyfarchiadau gwresog i’r Parch.Hywel Lewis a’i wraig Hilary wediiddynt ddathlu eu priodas aur ymmis Awst eleni. Ymlaen at y garregfilltir nesa, gyfeillion a boed i chwiiechyd a dedwyddwch.Jacob, Tomos, Morgan, Gareth,Mark, Kyle, Mathew, Adam,James, RhysDan gapteiniaeth Gethin Daviesmae tîm ieuenctid Clwb Golff yCreigiau wedi ca el tymorllwyddiannus dros ben.Enillwyd eu cynghrair, sef De­Ddwyrain Cymru, er mai tîm ifanco blant 14­16 mlwydd oed sydd gany clwb. Gareth Phillips yw seren ytîm ac y mae e a’i frawd Mathew,Tomos Rees a Mark Baird wedi caeleu dewis i chwarae i dîmMorgannwg dan 16. Cafodd RhysJones lwyddiant arbennig yngnghysta dleua et h ryngwla dolWeetabix ar gwrs Forest­in­Arden,Swydd Rhydychen, wrth ddod ynbumed allan o blant dan 15 mlwyddoed Prydain.Ym mhencampwriaeth flynyddolieuenctid y clwb, ddiwedd misAwst, Gareth Phillips oedd ynfuddugol, Morgan Williams yn ail aTomos Rees yn drydydd. Chwaraeo’r safon uchaf oedd yn nodweddu’rgystadleuaeth.Dymunwn bob llwyddiant i’r tîmyng ngemau olaf y tymor yn erbyntimoedd gorau Cymru. G.T.CAPEL SALEMTONTEGGWASANAETHAU CYMRAEGDYDD SUL 9.30 ­10.30amY GYMDEITHAS GYMRAEGPOB NOS WENER 7.00 ­ 8.30pmCyfle i gymdeithasu a mwynhau cwmniCymry Cymraeg.CROESO CYNNES I BAWBParch Peter Cutts(02920 813662)Diben y Cynllun Sabothol iaith­Gymraeg yw rhoi cyfle i athrawon,darlithwyr neu hyfforddwyr sy’ndymuno dysgu trwy gyfrwng yGymraeg neu’n ddwyieithog idderbyn hyfforddiant iaith ddwys,ynghyd â hyfforddiant methodolegolmewn dysgu cyfrwng­Cymraeg adwyieithog, a gwybodaeth arbenigolo derminoleg benodol ei maes neuarbenigedd.I ddechrau, mae’r cynllun wedi’ianelu at y rheini sy’n gallu siaradCymraeg yn weddol rhugl, naill aifel siaradwyr iaith gyntaf neuddysgwyr, ond bod diffyg hyderganddynt neu ddiffyg terminolegarbenigol yn y Gymraeg er mwyngallu defnyddio’u sgiliau mewn cyddestunproffesiynol.Bydd ymgeiswyr llwyddiannus argyfer y Cynllun Sabothol yn cael llear y Rhaglen Genedlaethol iHyfforddi Ymarferwyr, cwrshyfforddi llawn­amser am dri mis.Bydd y Cynllun Sabothol yn ad­dalucostau staff dros­dro i ymgymryd âdyletswyddau’r ymgeisydd igyflogwyr yr ymgeisydd, a bydd ycynllun hefyd yn ad­dalu costauteithio a chynhaliaeth i’r ymgeisydd.Bydd pump cwrs yn cael eu cynnaldros y ddwy flynedd nesaf. Mae’rcwrs cyntaf yn cychwyn ym misIonawr 2006 a bydd yn cael ei redeggan Ganolfan Bedwyr. Bydd y cwrsyn cael ei gynnal mewn dau leoliad,Prifysgol Cymru, Bangor aPhrifysgol Caerdydd. Y dyddiad cauar gyfer derbyn ceisiadau yw 21<strong>Hydref</strong> 2005.Os hoffech chi dderbyn mwy owybodaeth a ffurflen gais,cysylltwch â:Sector Ysgolion: Tîm SabotholFfôn: 029 2082 3047E­bost:Cynllun.Sabothol@Wales.gsi.gov.ukSector Addysg Bellach aHyfforddiant Tîm SabotholFfôn: 01443 663714E­bost:CynllunSabothol@elwa.org.uk9


www.mentercaerdydd.org029 20565658Diwrnod i’r TeuluRoedd Diwrnod Teulu'r Fenter ynlwyddiant ysgubol ar Fedi’r 18fed,daeth dros 200 o bobl i'r Mochyn Dui fwynhau'r BBciw a sioe MartynGeraint! Y gobaith yw cynnaldigwyddiad tebyg eto cyn yNadolig, os y cawn ni hyd i leoliaddigon mawr o dan do!!Gŵyl Gymraeg i GaerdyddMae Menter Caerdydd yn cynnalcyfarfod cyntaf Fforwm MudiadauCymraeg Caerdydd yng NgwestyChurchills, Llandaf, Ddydd Iau,<strong>Hydref</strong> y 13eg am 1yp. Prif nod yfforwm yw trefnu Gŵyl Gymraeg yny ddinas fis Mehefin nesaf – Gŵylfydd yn cwmpasu’r Celfyddydau,Chwaraeon, Ysgolion, Busnesauayb. Os hoffech fod yn rhan o’rŴyl gyffrous hon, cysylltwch â Sianyn y swyddfa neu ebostiwchsianlewis@mentercaerdydd.org.Taith Siopa i GaerfaddonFe fydd y Fenter yn trefnu bws isiopa i Gaerfaddon Ddydd Sadwrn,<strong>Hydref</strong> y 29ain. Cyfle gwych iwenud eich siopa Nadolig!Tocynnau’n £12 ar gael drwy ffonioAngharad yn y swyddfa neuebostiwchangharad@mentercaerdydd.orgCynlluniau Gofal Hanner TymorMenter CaerdyddFe fydd y Cynlluniau yn cael eucynnal mewn 2 ganolfan yn ystod yrHanner Tymor – Ysgol Treganna acYsgol y Berllan Deg. Fe fydd ycynlluniau yn rhedeg o <strong>Hydref</strong> y24ain i <strong>Hydref</strong> yr 28ain. Mae’nbosib y bydd y cynlluniau yn brysuriawn, felly’r cyntaf i’r felin…. Amffurflen gofrestu, cysylltwch âRachael Evans ar 029 20 56 56 58neurachaelevans@mentercaerdydd.orgMartyn Geraint yn cael hwyl gyda’r plantCwis CymraegFe fydd cwis Cymraeg nesaf yFenter yn cael ei gynnal Nos Sul,<strong>Hydref</strong> y 30ain yn y Mochyn Duam 8yh. £1 y personNoson Blasu GwinNos Lun, Tachwedd 14, 2005Le Gallois7.30yh£12Fe fydd lluniaeth ysgafn yngynwysiedig yn y prisMae cynllun cyffrous gan Cyd ihelpu troi dysgwyr yn siaradwyrCymraeg go iawn ­ Y CynllunPontio.Sut mae'n gweithio?Mae Cyd yn llunio rota o bobl syddyn barod i roi hanner awr i fynd is ia r a d â d y s g w y r y n eudosbarthiadau. Bydd eu tiwtor yndweud wrthych beth i'w wneud.Bydd trefnydd Cyd yn rhoi amser;dyddiad a lleoliad i chi fynd iddosbarth Cymraeg am yr hannerawr olaf. Bydd y tiwtor wedirhannu'r dysgwyr yn grwpiau bach abydd pob gwirfoddolwr/aig fel chiyn sgwrsio ag un o'r grwpiau.Pam mae'n gynllun mor dda?Mae Cymry Cymraeg fel chi adysgwyr yn yr ardal yn dod i nabodei gilydd yn yr iaith Gymraeg, ac yndod i arfer siarad Cymraeg a'i gilyddWrth gael nifer o siaradwyr rhugl ary rota mae'r amser y mae gofyn i chifel un unigolyn ei roi yn fychan,rhyw awr neu ddwy y flwyddyn.Cynllun Pontio CYDBeirdd mewn BarNoson yng nghwmni’r TaeogionCeri Wyn Jones, Tudur DylanJones ac Emyr DaviesNos Wener, Tachwedd y 4ydd7.30yhTafarn y Duke of Clarence,TregannaTocynnau’n £5 o flaen llawneu £6 wrth y drwsMae'r dysgwyr yn dod i arfer âChymraeg go iawn yn yr ardal llemaen nhw'n byw; a hynny'nrheolaidd.Mae llawer sydd wedi ymuno â'rcynllun hwn i hyrwyddo'r defnyddo'r Gymraeg ym mhob ardal yngNghymru yn dweud cymaint maennhw'n mwynhau'r profiad. Fforddfach syml i wneud cyfraniad mawr igynnal y Gymraeg a'i hadfer i'wphriod leOnid y ffaith bod y plant yndysgu'r Gymraeg yn yr ysgol syddyn bwysig? Mae hynny'n bwysigwrth gwrs ond cofiwch mai'roedolion yn y cartref sydd yngwneud y penderfyniadau pwysig,rhai fel beth yw iaith y cartref, ac iba ysgol mae'r plant yn mynd.Dewch, ymunwch â ni i helpucynnal ein hiaith.Felicity Roberts Is­gadeirydd Cyde­bost: cyd@aber.ac.ukneu cysylltwch âRhian James 01685 877183 11


MENTERIAITHar waith ynRhonddaCynon Taf01443 226386www.menteriaith.orgTRAFODAETH AR “ACHUBIAITH” GARETH MILESByddai yn braf pe bai modd addo achubyr iaith Gymraeg ar 20/10/05! Mae’nsiŵr na fydd hi ddim mor hawdd. Serchhynny fe fydd trafodaeth ddifyr ar ydiwrnod yna fel rhan o gyfarfodblynyddol y Fenter Iaith wrth i nigroesawu sylwadau Gareth Miles,dramodydd a c ym gyr ch ydd oBontypridd, wrth edrych yn ôl acymlaen ar y frwydr dros yr iaith. Mae’rcyfarfod yn cael ei gynnal rhwng 7­9pmar 20/10/05 yn Y Miwni, Pontypridd.Bydd y materion busnes yn cael eugwneud rhwng 7­8pm gan edrych ar einhadroddiad blynyddol, ein cyfrifon adewis pwyllgor a swyddogion newyddat y flwyddyn nesaf. Cawn ni anerchiadGareth Miles ar ôl 8pm a thrafodaethwedyn. Os ydych chi am chwarae rôlyn ymdrechion y Fenter o blaid yr iaith,eisiau gwybod beth mae’r Fenter yn eiwn e u d n e u e i s i a u ym u n o âphwyllgorau’r Fenter dewch i’rcyfarfod. Does dim rhaid bwcio lleymlaen llaw er gellid gwneud hynnyneu gynnig ymddiheuriadau gan ffonio01443 226386. Os hoffech chi weld ycyfarfod yn ystyried cynnig penodol ymae rhaid rhoi’r cynnig yn ysgrifenedig,gan enwi cynigydd ac eilydd, i’r prifweithredwr erbyn 5 o’r gloch ar 14eg<strong>Hydref</strong> 2005. Bydd offer cyfieithu argael fel bod modd i’r Ddi­Gymraeggyfrannu at y digwyddiad ac fe fydd te/coffi ar gael cyn 7pm a chyn 8pm.Dewch!Ceisiadau am GymorthMae llawer o waith prif weithredwr ynymwneud â rhwydweithio a siarad âphobl eraill yn yr ardal. Yn aml iawn ymae hyn yn golygu pobl nad sy’n siaradCymraeg neu gyrff sy ddim yndefnyddio’r Gymraeg ar hyn o brydoherwydd dyna’r targed i newid ysefyllfa. Braf oedd cael cofrestrididdordeb mawr yn y Gymraeg mewncyfres o gyfarfodydd yn ddiweddar.Mae’r Cynghrair Gwirfoddoli ynbartneriaeth o fudiadau cymunedol a12 gwirfoddol a drefnir gan Interlink ynddigon tebyg i’n Fforwm o FudiadauGwirfoddol Cymraeg ond heb ypwyslais ar yr iaith a chafwyd sawl corffyn holi am gymorth cyfieithu yn eucyfarfod nhw. Yr un oedd y stori mewncyfarfod Asiantaeth Cyllido Cymru ­cewch ddeall yn syth pam roeddwnwedi mynd i’r fan honno ­ lle roeddymwybyddiaeth cryf iawn o waithmentrau iaith, symudiad tuag atddefnyddio’r Gymraeg ac eto ceisiadauam gymorth cyfieithu a datblyguprosiectau Cymraeg. Prosiect RAW ­sef Rhaglen ddarllen Ac ysgrifennu ynWell y BBC oedd yn enghraifft arall orwydweithio diddorol gan fod cyfle igefnogi ymdrechion staff y BBC isicrhau ymrwymiad y prosiect at yGymraeg yn ogystal ag hyrwyddo enwac amcanion Menter Iaith ymhlith y 40o fudiadau eraill oedd yn y cyfarfod.Mae’r prosiect yn dechrau yn fuan ar yteledu a’r radio ac fe fydd yn parhau amgyfnod o dair blynedd i hyrwyddollythrennedd a diddordeb anffurfiolmewn ysgrifennu a darllen. Yn amlwg ymae hyn yn gyfle gwych i’r Fenter aphobl eraill sydd am hyrwyddo darllenac ysgrifennu Cymraeg ac rydym yngobeithio gweld datblygu nifer oweithgareddau megis clybiau darllen achwisiau ac ati. Os hoffech chi eincynorthwyo ni ­ dewch i’r cyfarfodblynyddol i gynnig eich cymorth. Rwyfy n g o b e i t h i o e i c h b o d yngwerthfawrogi’r gwaith hyrwyddo awnaed ymhlith dros 90 o fudiadaugwahanol a gyfeiriwyd atynt yn y fanyma. Cewch syniad o faint ein gwaithwrth ystyried bod y rhwydweithio hyn igyd wedi digwydd o fewn cyfnod o24awr a bod gwaith arall y Fenter ynparhau ar yr un pryd.Lansio “WAW” yn y FforwmMudiadau Gwirfoddol CymraegCafwyd cyfarfod arbennig iawn oFfor wm Mudiada u Gwir foddolCymraeg Rhondda Cynon Taf ynddiweddar yn Interlink. Lansiwyd“WAW” llawlyfr dwyieithog am hynsy’n digwydd yn y Gymraeg ynRhondda Cynon Taf. Cafwydcefnogaeth Leighton Andrews AC aSwyddogion Cyngor Rhondda CynonTaf Gill Evans o’r llyfrgelloedd aCaroline Mortimer Swyddog Iaith yrawdurdod i lansio’r llawlyfr.Yn anffodus ni fu modd i LindseyJones fod yn bresennol ond y maediolch y Fenter yn fawr iddi hi a RhianJames am eu gwaith caled yn paratoi’rllawlyfr. Mae ambell i gamgymeriadbach yn y llawlyfr ac erbyn hyn rwyf ynsylweddoli taw fy mai i oedd hynny gannad oeddwn wedi gwerthfawrogi fy modi fod wedi prawf ddarllen y copi y ces icyn cyhoeddi.......o wel, dyna ni.Gadewch i ni ganolbwyntio ar yllwyddiant. Mae’r llyfryn yn edrych ynwych ac y mae’n llawn iawn owybodaeth ddefnyddiol iawn. Mae’ng yn n yr c h p a r t n e r i a e t h a g os ,llwyddiannus, rhwng y fenter a’rCyngor Sir. Mae’n gyfraniad anfertholat ddyfodol yr iaith yn Rhondda CynonTaf. Diddorol oedd gwrando ar ysiaradwyr yn y lansiad. Ar ôl i bawbsiarad roeddwn wedi sylweddoli bodpob un ohonom oedd yn siarad wedidysgu’r Gymraeg fel oedolyn sydd yndystiolaeth o lwyddiant y byd dysguCymraeg a CYD a’r ffaith bod moddnewid iaith mewn ffyrdd gweddolddramatig.Aeth y Fforwm ymlaen i drafodgwaith ieuenctid yn yr ardal gydachyfraniadau defnyddiol iawn gan WobrDug Caeredin, Urdd Gobaith Cymrusy’n gwneud anferth o waith gwych yny cymoedd, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a’ustrategaeth gynhwysfawr yn ogystal âchydlynwyr CIC oedd yn gwneud eucyflwyniad cyhoeddus cyntaf ganddefnyddio offer PowerPoint. Nid ynunig oedd swyddogion CIC wedillwyddo i wneud eu cyfraniad roeddynthefyd wedi gwneud ymdrech go dda atateb y cwestiwn mwyaf anodd i ni i gyd­ Ydych yn llwyddo i berswadio poblifanc i ddefnyddio’r Gymraeg?Phillip Cooper, Venture Wales, IagoJohn, Menter a Busnes, U Deserve AMedal yn y Cwlwm BusnesDyma siaradwyr nesaf y Cwlwm Busnessy’n cael ei gynnal o chwech o’r glochymlaen ar 11/10/05 yn swyddfeyddCyngor Rhondda Cynon Taf Abercynon­ arwydd arall o’n partneriaeth gyda’rCyngor Sir. Mae Venture Wales aMenter a Busnes yn asiantaethau sy’ncefnogi pobl sydd am ddatblygubusnesau, syniadau busnes neu ddechraubusnesau hollol newydd. Cawn wybodfaint o gefnogaeth y mae modd iddyntgynnig gan wrando arnynt yn ycyfarfod. Cawn weld hefyd beth y maecwmni newydd u deserve a medal yncynnig trwy eu gwefan dwyieithog sy’nymdrechu yn benodol i gysylltu âsiaradwyr Cymraeg. Trefnwyd y nosongan Rhys James, ein swyddog busnesrhan amser sydd ar gael ar 01685882299. Bydd bwffe ar gael am 6pm agoffer cyfieithu fel bod modd i boblbusnes di­Gymraeg ymuno a ni yn ycyfarfod.GWASANAETHAU PLANT, ARIANA GWLEIDYDDIAETHByddwch wedi sylwi bod sawl cyfeiriadgwerthfawrogol at ein partneriaethlwyddiannus gyda Chyngor Rhondda


Cynon Taf. Rydym yn falch o’r hynrydym yn gwneud mewn partneriaethond nid yw hyn i feddwl ein bod ynhapus gyda phopeth o bell ffordd. Ynaml iawn y mae enghreifftiau o fethu achadw at gynllun iaith yr awdurdod acaelod o’r Tasglu sy’n ceisio gwellahynny rydym yn gweithio i sicrhaullwyddiant y cynllun iaith. Rydym yngweithio hefyd i sicrhau dyfodol eingwasanaethau plant ac rydym wedicyfarfod gyda gwleidyddion CabinetRhondda Cynon Taf a swyddogionuchel adran gwasanaethau plant ycyngor. Yn anffodus yr un yw’r negesgan y ddau. Does dim arian i gynlluniauchwarae’r Fenter.O safbwynt y person cyfrifol sy’nceisio cynnal y gwasanaethau hyn rhaidi mi bwysleisio na fydd dyfodol iddynt ­byddant yn cau ­ os nad oes cefnogaethariannol yn dod gan Gyngor RhonddaCynon Taf. Ydw i wedi dweud hyn ynddigon clir i bawb gael deall y sefyllfa?Mae rhybudd wedi mynd at ein clybiaucarco lleiaf llwyddiannus a gallen nhwgau erbyn Nadolig. Mae Arweinydd yCyngor Russell Roberts wedi awgrymucyfarfod arall gyda Chadeiryddion yFenter os nad ydym yn fodlon arganlyniad ein cyfarfod gyda staff ycyngor. O safbwynt y cyhoedd, rhieni aphrifathrawon y gwahanol ysgolion llemae’r gwasanaethau yn ogystal âchynghorwyr a gwleidyddion eraill acarianwyr efallai y dylech chi feddwl amddod i’n cyfarfod blynyddol a gofyncwestiwn neu ddau?Diolch yn fawr iawn i weddill staff yFenter sy’n gwneud gwaith godidog nadwyf wedi cael cyfle i sôn amdano –rydych yn gwybod ond ydych chi?Cyfieithu, Ieuenctid CIC, DatblyguC ym u n e d o l , b o r e a u c o f f i adigwyddiadau dysgwyr, sesiynau agoredLlantrisant 07/10/05, Rhydywaun,Treorci a Phontypridd – mwy o waith nasydd o le yn y papur.......STEFFAN WEBBPRIFWEITHREDWRMENTER IAITHOs amDIWNIWRPIANOCysyllter âHefin Tomos16 Llys Teilo Sant,Y RhathCAERDYDDFfôn: 029 20484816YsgolGynraddGymraegCastellauCroeso.Croeso i 23 o blant bach newydd i'rFeithrin a chroeso hefyd i Mrs.Helen Jones i'r staff am ddau dymor.Bydd dwy o gyn­ddisgyblionCastellau yn treulio cyfnodau yn yFeithrin a’r dosbarth Derbyn wrthddilyn cyrsiau yng ngholegPenybont. Croeso felly i KellyBressington a Laura Thomas ytymor hwn.Llongyfarchiadau.Llongyfarchiadau i un o athrawon yrysgol ar achlysur ei phriodas ym misAwst. Priododd Clare Kenny aKevin Griffiths yng Nghaerleon ynystod gwyliau’r Haf a dymunwn pobhapusrwydd iddynt.Trawsgwlad yr Urdd.Dymunwn bob lwc hefyd i dîmt ra ws g w la d yr ys g o l y n gnghystadleuaeth trawsgwlad yr Urddyn Nhonyrefail ym mis Medi adiolch i Mr Dafydd Davies amhyfforddi'r plant.Gwasanaeth DiolchgarwchBwriad yr ysgol eleni yw i godiarian tuag at yr elusen U.N.I.C.E.F..Bydd yr adran Iau yn cadw baton iredeg am awr a'r babanod yn canuhwiangerddi. Cynhelir y gwasanaethDiolchgarwch ar <strong>Hydref</strong> 19 a byddMr Allan Pickard yn bresennol iannerch y plant.Diolch hefyd i Gymdeithas rieni affrindiau’r ysgol am gyfrannu’n haeltuag at yr ysgol y llynedd. Cafwydllenni newydd i'r neuadd a bwrddgwyn rhyngweithiol newydd i'radran iau.Llangrannog .Bydd 29 o blant a 6 o staff yr ysgolyn treulio penwythnos ar ddiweddMedi. Byddant yn siŵr o fwynhau’rgweithgareddau a’r bwyd hyfryd.Pob hwyl iddynt.Ymweliad.Yn ystod Mis <strong>Hydref</strong> hefyd byddYSGOL GYNRADDGYMRAEGEVAN JAMESwww.ysgolevanjames.co.ukCROESOCroeso a dymuniadau gorau i MrTrystan Griffiths sydd wedi ymunoa’r staff ers mis Medi.‘Y CYMRO’’Roedd yn hyfryd gweld tudalengyfan am yr ysgol mewn rhifyn obapur newydd wythnosol ‘Y Cymro’yn ystod gwyliau’r haf. ’Roeddlluniau pob dosbarth ar y dudalen adiolch i’r plant ac athrawongyfrannodd i’r dudalen.YMWELIADDiolch i Mrs. Gwen Emyr, sy’nymweld â’r ysgol yn gyson amgynnal dau wasanaeth cofiadwy argyfer adran y babanod a’r adran iau.Mwynheuoddy plant y storïau o’r Beibl a’unegeseuon pwrpasol.ARDDANGOSFAAeth dosbarthiadau 7, 8, 11 ac 12 iAmgueddfa Pontypridd i weldarddangosfa wyddonol ‘Natur Yn EiNerth’. Cafodd y plant gyfle iarbrofi wrth fynd o gwmpas yrarddangosfa.TELEDU’Roedd yn braf gweld rhai o blant yrysgol ar raglenni teledu “ Childhoodin Wales ”.CHWARAEONLlongyfarchiadau i Dylan Lewis aSam Edwards sydd wedi cael eudewis i dîm rygbi rhanbartholYsgolion Pontypridd o dan un arddeg oed.Mrs. Gwen Emyr yn cynnalgwasanaethau yn yr ysgol acedrychwn ymlaen i'r ymweliad.Jambori'r UrddBydd plant blynyddoedd 4,5 a 6 ynmynychu'r jambori flynyddol yngNghanolfan Hamdden Llantrisant ar<strong>Hydref</strong> 17 ac maent yn brysur ynymarfer y caneuon hwylus.13


14FFYNNON TAF NANTGARWA GWAELOD Y GARTHCYMRO’N BODDI YNG NGWLADGROEGMae teulu a chymuned wedi euhysgwyd ar ôl i dad i dri o Ffynnon Taffoddi pan oedd yn deifio ar ei wyliauger ynys Creta yng Ngwlad Groeg.Cafodd Philip Jenkins, 54 oed o KingStreet, ei sgubo gan lif cryf ar Awst 27tra oedd yng Ngwlad Groeg gyda’igariad, Mary Cook o Waelod­y­garth.Bu’r angladd yn Eglwys Sant Cadwg,Pentyrch, ar Fedi 12 a chafodd ei gladduym Mynwent Bronllwyn.“Roedd yn ddyn onest oedd ynmeddwl am bawb,” meddai ei frawdStephen sy’n byw yn Llanilltud Fawr.“Mae ei golli’n ergyd enfawr.”“Rwy’n gweld ei eisiau’n fawr a ddimyn siwr beth i wneud hebddo,” meddaiei fab 20 oed Ben, myfyriwr ymMhrifysgol Morgannwg, Trefforest.Roedd gan Mr Jenkins ddau lysfab,Jason yn 25 oed a Neil yn 27 oed.Cafodd mab hynaf y diweddarGraham a Rosalind Jenkins ei eni ymMhentyrch. Aeth i Ysgol UwchraddFodern yr Eglwys Newydd cyn graddioym Mholitechnig Cymru a gweithio felpeiriannydd sifil i Sir Forgannwg Ganol,cwmni Syr Alexander Gibb a Hyder. Ynddiweddar, bu’n cynllunio pontydd igwmni W S Atkins.Pan oedd yn ifancach fe oedd propTîm Rygbi Ffynnon Taf cyn dod ynddewiswr.GYRRU RHYWUN YN BENWANClywodd llys i ddyn 24 oed o Waelody­garthbwnio dyn busnes oedd wediymddeol â ffon golff oherwydd ffraeparcio.Roedd Michael Joshi wedi pwniowyneb Colin Clarke, 68 oed, ddwywaithwedi i wraig Mr Clarke, Thelma, a’iferch, Helen, deithio adre yn y car achwyno fod car tad Joshi yn eu manparcio nhw.Yn Llys y Goron Caerdydd pledioddJoshi o River Glade yn euog igyhuddiad o anafu Mr Clarke a chafoddorchymyn i wneud gwaith yn ygymuned am 180 o oriau. Bydd rhaididdo dalu £1,000 o iawndal i Mr Clarke.Cafodd tad Joshi, Suryakant Joshi, 56oed, orchymyn i weithio’n ddi­dâl am80 o oriau wedi iddo ymosod ar HelenMorton.Gohebydd Lleol: Martin HuwsDWY GYFRES O DDELWEDDAUAlla i ddim cael y lluniau mas o’rmeddwl, dwy gyfres o ddelweddau sy’nchwalu’r myth Americanaidd – fod ycyfansoddiad yn golygu fod pawb yngyfartal.Y gyfres gynta: yr Arlywydd Bush arei feic mynydd yn Texas, yr Is­arlywyddCheney’n pysgota yn Wyoming aCondoleeza Rice, dirprwy Cheney, ynsiopa am esgidiau yn Ferragamo’s ynEfrog Newydd.Yr ail: llygod ffyrnig yn byta cyrffoedd yn arnofio ar hewlydd dridiauwedi dechrau Corwynt Katrina, a chyrffyn pydru ym mhyllau staer prif ysbytyNew Orleans am fod y marwdy’n llawno ddŵr.A’r neges? Nid nefoedd ar y ddaearyw’r Unol Daleithiau ond gwlad ar eihôl hi o ran paratoi ar gyfer argyfwng.O NERTH I NERTHLlongyfarchiadau i Catherine Blyth oLan­y­ffordd, Ffynnon Taf, sy wediennill gradd B Mus 2:1 yng NgholegBrenhinol Cerdd a Drama Cymru,Caerdydd, ac sy’n dilyn Cwrs Ol­raddAstudiaethau Lleisiol.A llongyfarchiadau i Scott McKenzieo Ffynnon Taf. Mae’r llanc a gafoddddwy A a C yn ei arholiadau AS ynYsgol Cardinal Newman yn dilyn cwrsBagloriaeth Ryngwladol yng NgholegIwerydd, Sain Dunwyd, am ddwyflynedd.ADFERIAD BUAN I EILEENRy’n ni’n dymuno adferiad buan iEileen Jeremy sy wedi diodde o’r eryryn ddiweddar. Diolch i aelodau’r teulusy wedi gofalu am y fenyw sy bron yn93 oed ac yn gofalu am ei mab ei hunMichael.TOM AR Y BRIGYn Lerpwl yr oedd Thomas James o DŷRhiw yn chware i Dîm o­dan­10 DinasCaerdydd, yn amddiffyn Gwobr Evertongafodd ei chipio’r llynedd.Roedd y diwrnod yn llwyddiannus,meddai Thomas. “Trechon ni Evertonyn y gêm gynderfynol a Charlton yn ygêm derfynol. Rwy’n edrych ymlaen atflwyddyn arall yn y tîm.”Mewn un gêm, meddai ei dad, cafoddy bêl ei chicio tu fas i’r cae ac roedd ychwaraewyr a’r dorf yn aros i ddyncanol oed gicio’r bêl yn ôl. Ond cydioddyn y bêl a dianc.CYFLE NEWYDD I WENDYLlongyfarchiadau i Wendy Reynolds,prifathrawes Ysgol Gynradd FfynnonTaf ers chwe blynedd, sy wedi caelsecondiad – yn gweithio i Estyn ganganolbwyntio ar hyfforddi a datblygu. Ydirprwy, Jonathan Davies, fydd yprifathro am ddwy flynedd.MARW JOAN REESYn dawel ar Awst 18 bu farw JoanRees, gwraig y diweddar Glyn, yn eichartre yn Ffynnon Taf. Cydymdeimlwnâ’r teulu, ei merched Linda a Sheila, eimab Stephen a’r wyrion Paul, Vanessa,Paula, Claire, James a Matthew.Bu’r angladd ar Awst 25 yn AmlosgfaGlyntaf, Pontypridd.DIGWYDDIADAUCAPEL BETHLEHEM, Gwaelod­ygarth,10.30am. <strong>Hydref</strong> 2: YGweinidog, Oedfa Gymun; <strong>Hydref</strong> 9: YParchedig Dewi Lloyd Lewis; <strong>Hydref</strong>16: Y Gweinidog; <strong>Hydref</strong> 23: YParchedig Hywel Mudd; <strong>Hydref</strong> 30: YParchedig Dafydd Andrew Jones.GWERSI CYMRAEG, LlyfrgellFfynnon Taf, nos Lun, o Fedi 19ymlaen, 6.30­8.30.CYLCH MEITHRIN Ffynnon Taf,9.30­12, dydd Llun tan ddydd Gwener.Taliadau: £4.75 y sesiwn. Ti a Fi, 1.15­2.30 bob dydd Mawrth. Taliadau: £1.50y sesiwn.CY M D E ITH A S AR D DW RO LFfynnon Taf a’r Cylch: ddydd Mawrthcynta’r mis, Clwb Cyn­Aelodau’rLluoedd Arfog, Glan­y­Llyn. Manylionoddi wrth Mrs Toghill, 029 20 810241.Cwlwm Busnes yCymoeddIago John, Llion Pughe ­Menter a Busnes.Phillip Cooper ­ Venture Walesyn trafod Cymorth Busnes.Stondin gan‘U Deserve a Medal’.11 <strong>Hydref</strong> am 6pmBwyd bys a bawd a gwin!Canolfan Menter yCymoeddParc Navigation,Abercynon.Croeso i bawb.01685 882299


CC R O E S A I RL1 2 3 4 5 6 78 9Dyma gyfle arall i chiennill Tocyn Llyfrau.10 1112Atebion i: Croesair Col34, Pen Bryn Hendy, Yr Encil,Meisgyn,Pontyclun. CF72 8QXerbyn 20 <strong>Hydref</strong> 200513 14 1516 1620 17 18 1920 18Ar Draws1. Cwymp, disgyniad (5)4. Puteindra (7)8. Cerdd i alaru (7)9. Bod â gwynt cas (5)10. Offeryn (3)11. Wedi cael y frech (8)13. Darnau wedi eu torri (6)14. Yn aneglur (6)17. Adnewyddu nerth (8)19. Ymofyn, ceisio (3)21 Whilber (5)22 Mynedfa (7)24 Bro, brwydr (7)25 Llusgo (5)I Lawr1. Barnu’n anghywir (8)2. Mesur lled llaw (7)3. Ynys, gwlad y Medra (3)4. Cefni ar, symud (6)5. Dihoeni, cwympo (9)ATEBION MIS MEDIG S I A N I S L E I B A CHT R A U E WA R G L W Y DD C A D L EL A D O R Y GC Y D L E S C O R DD W RE G O F Y N IN I C O 14 P D T O L CR LL Y G O D 16 LC L O R E N L E I C I OA M T 18 P U O RW E L D Y M A B R E U OO 21 I B A T ND I N I W E I D R W Y DD21 22 232124 256. Diosg (5)7. Amryliw (4)11. Aderyn bach llwyd cerddgar(9)12. Llosgi â rhywbeth berw (8)15 Chwannen (7)16. Praidd, gyr, cenfaint (6)18. Ysgarmes, anghydfod (5)20. Dolur rhydd (1,3)23 Pleidlais (3)WawffactorMae clyweliadau Wawffactor, S4C,yn cychwyn <strong>Hydref</strong> 3ydd yngNghanolfan y Mileniwm, CaerdyddDewch draw i’r ganolfan neucysylltwch â alfresco cyn gynted âphosibl.Mae rhaid i bawb sydd yn cystadlugofrestru drwy alfresco, fellycysylltwch â – 02920 550625DiolchSian Lloyd JonesYmchwilyddAlfresco218 Penarth RoadCaerdyddCF11 8NNFfon : 029 20 550 625Facs : 029 20 550 551CYDNABYDDIR CEFNOGAETHI’R CYHOEDDIAD HWNwww.bwrdd­yr­iaith.org15


PEN­BLWYDD HAPUS T. LLEWI ddathlu pen­blwydd un o awduronamlycaf yr iaith Gymraeg, byddclwb llyfrau Sbondonics yn trefnubod miloedd o gardiau cyfarch yncael eu hanfon ato.Bydd T. Llew Jones, awdur rhai o'rllyfrau plant Cymraeg mwyafpoblogaidd erioed, yn dathlu eibenblwydd yn 90 oed ar 11 <strong>Hydref</strong>eleni, ac mae'r Cyngor Llyfrau yngwahodd holl aelodau clwb llyfrauSbondonics i greu cardiau personol iddiolch iddo am yr holl lyfrau y maewedi eu hysgrifennu.`Mae pen­blwydd un o'n prifawduron llyfrau plant yn rhywbetharbennig i'w ddathlu,' meddai MennaLloyd Williams, Pennaeth AdranLlyfrau Plant y Cyngor Llyfrau, `apa ffordd well i unrhyw awdurddathlu'r achlysur na derbyng w er t h f a w r o g i a d b r w d e iddarllenwyr. Mae cyfraniad T. LlewJones i lenyddiaeth plant yn unarbennig iawn ac mae'n parhau ilwyddo i swyno'i gynulleidfa.'Bydd bocs anrheg T.Llew Jones,yn cynnwys tri o'i lyfrau, yn cael eugwerthu drwy glwb Sbondonics, abydd rhai o'r llyfrau wedi eu llofnodigan yr awdur.Yn goron ar y cyfan, bydd nifercyfyngedig o gardiau arbennig i'wgweld yn rhai o'r llyfrau, a'r rheiny'ncynnwys gwahoddiad personol igwrdd â'r awdur.`Fe fydd yn fraint arbennig i griw o'rplant gael cyfarfod ac T. LlewJones,' ychwanegodd Menna LloydWilliams, `a chael cyfle i'w holi amei ddawn dweud stori.'TI A FI BEDDAUBob Bore Mercher10.00 ­ 11.30a.m.yn Festri Capel Castellau, BeddauTI A FI TONTEGBob Dydd Mawrth10 ­ 11.30yn Festri Capel Salem, TontegTI A FI CREIGIAUBore Gwener 10 ­ 11.30amNeuadd y Sgowtiaid,Y Terrace, CreigiauManylion: 029 20890009CYLCH MEITHRIN CILFYNYDDBore Llun, Mercher a Iau9.30­11.30TI A FI CILFYNYDDDydd Gwener9.30­11.30Neuadd Y Gymuned,Stryd Howell,Cilfynydd.Manylion: Ann 07811 791597CornelyPlantLliwich y llun hwno ddail yr hydrefMae gwiwer fach anghofus ynbyw yn y coed. Dydy hi ddim ynsiwr iawn o enwau‛r ffrwythauna‛r coed. Mae hi wedi blino‛narw yn neidio o frigyn i frigyn acO! mae arni hi eisiau cysgu. Ondmae‛n rhaid iddi hi gasglu bwydat y gaeaf. Wnewch chi ei helpuhi i ysgrifennu enwau‛rffrwythau wrth enwau‛r coedcywir?16

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!