12.07.2015 Views

Chwefror - Tafod Elai

Chwefror - Tafod Elai

Chwefror - Tafod Elai

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

tafod e l áiCHWEFROR2008Rhif 224Pris 60cCerdyn CyswlltCymraegLlwyddiant Blodyn y GarthHoffech chi ddod o hyd i rifau ffôngwasanaethau amrywiol drwy gyfrwngy Gymraeg heb orfod chwilio amdanynnhw bob tro?Mae Cyngor Sir Rhondda Cynon Tafwedi cyhoeddi Cerdyn CyswlltCymraeg yn nodi rhifau ffôn defnyddiola phoblogaidd o faint hylaw i eistedd yndaclus dwt yn eich waled neu bwrs.Ffoniwch 01443 744069 neua n f o n w c h n e g e s e b o s t a tcaroline.m.mortimer@rhondda­cynon­taf.gov.uki gael cyflenwad o Gardiau Cyswllt ynrhad ac am ddim.Diwedd mis Ionawr perfformiwyd ‘Blodyn y Garth’, cynhyrchiad cyntaf CwmniDrama Cymunedol Gartholwg. Roedd tri deg o blant a phobl ifanc yn y ddrama amlgyfryngoloedd wedi ei chreu wrth drafod syniadau a chlywed hanesion am ardal yGarth. Yn ôl Einir Siôn, y Cydlynydd Artistig, prif amcan y cwmni yw codiymwybyddiaeth a balchder cymunedol ymlith pawb o bob iaith a chefndir. Roeddllawer o unigolion a chorau wedi cyfrannu i wneud y noson yn llwyddiant arbennig acyn brofiad amhrisiadwy i’r criw talentog ifanc. (Lluniau ychwanegol ar dudalen 13)Troi i’r SaesnegMae Catrin Dafydd, o Waelod y Garthwedi cyhoeddi ei nofel gyntaf ynSaesneg yn dilyn llwyddiant ei nofelGymraeg gyntaf ‘Pili Pala’.Mae ei llyfr diweddaraf, ‘RandomDeaths and Custard’, yn nofel ysgafnam ferch gafodd addysg ddwyiethog acsy’n gweithio mewn ffatri gwneudcwstard yn y Rhondda. Tybed faint ogyn­ddisgyblion Rhydfelen fydd ynadnabod y cymeriadau?Meddai Catrin "Mae gen i gyfeillionCymraeg a Saesneg ac rwy’n sylweddolibod y ddau ddiwylliant yn berthnasol.Mae angen pont rhyngddynt. Dydy eddim yn raniad syml oherwydd bodCymry di­Gymraeg yn ogystal âChymry sy’n siarad yr iaith.”Gyda’i digrifwch tywyll a’i harddullysgafn yn trafod pobl cyffredin acanghyffredin bydd y nofel yn gwneud ichi chwerthin i mewn i’ch cwstard!Gwasg Gomer £7.99Cit Newydd Tîm RygbiDyma lun o dîm rygbi Ysgol Evan James gyda'i cit rygbi newydd a roddwyd ganGymdeithas Rhieni ac Athrawon. Dymuna'r tîm ddiolch iddynt am eu cefnogaeth adiolch i Siop Pontypridd Embroidery yn y dref am ddylunio'r cit. Gobeithio y byddantyn chwarae cystal a maent yn edrych!!w w w . t a f e l a i . c o m


Priodas ym MhentyrchDydd Sul, 16 Rhagfyr, priodwydBethan Willis, Groesfaen âBenjamin Levine.Cyflwyniad Nadolig Ysgol Sul Tabernacl, Efail IsafRifiw y DwrlynAchub ShamboMagu’r Babi4Y Ddawns FlodauMadam Dwrlyn


GILFACH GOCHGohebydd Lleol:Betsi GriffithsPONTYPRIDDGohebydd Lleol:Jayne Rees8Y NadoligDathlwyd y Nadolig yn y cwm gyda'rgweithgareddau arferol. CynhaliwydGwasanaeth Carolau Capel Moreia arNos Sul Rhagfyr 15ed pan ymunoddcyfeillion o gapeli eraill yn y dathlu.Cynhaliwyd Gwasanaethau NoswylNadolig yn Eglwys Sant Barnabas acyn eglwys y Dyfroedd Byw sy'ncyfarfod yn y Ganolfan Gymdeithasolyn hen Gapel Bethania.Operation Christmas ChildAnfonwyd 228 parsel i blant tlawdRwmania gan drigolion Gilfach dannawdd 'Operation Christmas Child.'Diolch i Mrs Edwina Smallman am eigwaith caled yn trefnu'r ymgyrch achasglu'r blychau. Gwneir y gwaithdan nawdd Eglwys Sant Barnabas ondmae mudiadau eraill yn y cwm, gangynnwys Guild y Merched yn eichefnogi wrth lenwi'r blychau a'u rhoii Edwina. Llongyfarchiadau a diolchyn fawr Edwina am yr holl waithcaled. Mae Edwina wedi dechraucasglu blychau yn barod ar gyfer yflwyddyn nesaf, felly os byddwch ynprynu esgidiau newydd gofynnwch amy blwch a'i gadw i Edwina!Dosbarth Gwnio a ChrefftauBu merched y Dosbarth Gwnio aChrefftau wrthi ers yr Haf yn gweuhosanau a brodio sêr â blychauNadolig a'u llenwi a losin i'w gwerthuer budd Tŷ Hafan. Codwyd y swm o£1,700 drwy eu hymdrechion i'wgyflwyno i Dŷ Hafan. Mae'r merchedam ddiolch o galon i lu o gyfeillion yny cwm a fu mor barod i weithio morgaled i'w gwerthu. Diolch yn fawriawn.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Mrs GillianEdwards (Fletcher) gynt, un o blantGilfach sy nawr yn b yw ynNhonyrefail, ar ennill gradd M.A.mewn Hanes Lleol. Mae Gillian sywedi dysgu'r Gymraeg yn athrawes ynYsgol Gyfun y Cymmer ArdderchogGillian, mae'r teulu i gyd yn falch iawnohonoch.CydymdeimloCyn y Nadolig bu farw Mrs. MariBlainey, Caernarfon. Estynnwn eincydymdeimlad i Gareth, Delyth aHuw, Lanwood Road, Graigwen. Arddiwedd y pumdegau fe dreulioddrhieni Gareth gyfnod yn byw yn yRhondda ­ yn gweithio fel gweinidogac athrawes. Roedd Mari Blainey yngyfrifol am gôr plant yno ­flynyddoedd yn ddiweddarach ar ôlymuno â Chôr Godre’r Garth fe ddaethGareth i adnabod dwy o’r merched ogôr ei fam sef Win Wade, Penybont aBeryl Edwards, Y Comin.CroesoUn o drigolion diweddara Trehopcynyw Elin Merriman. Yn wreiddiol oDreorci mae Elin yn gweithio felcyfreithwraig yng NghaerdyddCefn GwladTybed a wnaethoch chi adnabod ymodelau ar un o raglenni diweddar DaiJones? Buodd Dai yn ymweld âSolfach mewn rhaglen ddiddorol arAlan Davies ­ perchennog hwyaid acieir anarferol ­ heb anghofio am ei“braidd” o Alpacas. Gwelwyd JoMorris a’i merch, Bridie yn modeludillad a wnaed o wlân yr Alpacas. MaeJo yn wreiddiol o Solfach ond wediymgartrefu ers nifer o flynyddoedd ynTyfica Road, Pontypridd.PriodasPriodas hapus i Helen Webb a CarlPomeroy ar eu priodas ar Nos Galanyn Swyddfa Gofrestru Pontypridd.Mae Helen yn ferch i Tim a GaynorWebb ac yn wyres i Jacqueline a MikeWebb a Rachel ac Arthur Morgan.Llongyfarchiadau a dymuniadau gorauam flynyddoedd lawer o hapusrwydd.MarwolaethSyfrdanwyd y cwm gyda'r newyddiontrist am farwolaeth sydyn Mr GerwynRoberts tra allan yn loncian. RoeddGerwyn yn hoff iawn o loncian igadw'n heini. Roedd yn gweithio yn yBathdy Brenhinol ac yn aelod o GlwbRygbi Gilfach. Anfonwn eincydymdeimlad at ei wraig, ei fam, a'iblant Kate, Cara ac Owen ar yrachlysur trist yma.Matthew a Catherine WebbLlongyfarchiadauMae Catherine a Matthew Webbbellach nol wrth eu gwaith felathrawon ar ôl treulio eu mis mêl ynLas Vegas. Pob dymuniad da i chi areich priodas ar ddiwedd Rhagfyr.Nôl yng Nghymru hefyd mae BrettDuggan a’i wraig, Michelle. Ar ôlpriodi yn yr Unol Daleithiau fegynhalion nhw barti i deulu a ffrindiauyn y Miwni, Pontypridd i ddathlu’rachlysur. Pob hapusrwydd i’r ddauohonoch.Gwobrwyo.Ym mis Rhagfyr cynhaliwyd nosonwobrwyo yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.Llongyfarchiadau i enillwyr lleol ­ iAled Wilcox, Graigwen am dderbynGwobr Lily Richards a’r WobrDdrama. I Seren Evans, Porth adderbyniodd Wobr y Prifathro a hefydam Gelf a Mathemateg ac i HuwBlainey, Graigwen ac Elinor Rees,Trefforest am eu gwaith yn CA3.Y m d d i h e u r i a d a u a m a d a e ldisgyblion disglair lleol allan o’r rhestryma.Gwaith TramorMae Gethin Smart sy’n gyn ddisgyblYsgol Evan James ac Ysgol GyfunRhydfelen wedi treulio nifer o fisoeddyn gweithio gyda phlant allan yn SriLanca. Mae Gethin yn hyfforddwrcriced yn Seenigama o dan nawdd yrelusen “Foundation of Goodness”.Buodd ei rieni, Edwina a John allan ynei weld cyn y Nadolig.Gethin Smart yn Sri Lanka


YsgolHeol­y­CelynMae'r ysgol wedi bod yn brysur iawn ynddiweddar gyda chwaraeon ac actio. Iddechrau fe aeth Mrs Chatterley â chriwo ferched i'r twrnament Urdd pêl­rwydble y bu iddynt chwarae pedair gêm. Buiddynt ennill dwy gêm a cholli dwygêm. Roedd pawb wedi mwynhau a daiawn chi ferched. Fe aeth y merchedpêl­rwyd i Brifysgol Morgannwg igymryd rhan mewn gŵyl pêl­rwyd aoedd yn cael ei drefnu gan Chwaraeon yDdraig. Yn ystod y bore roedd y plantyn chwarae gemau a dysgu sgiliaugwahanol drwy gymysgu a phlant oysgolion eraill.Rhaid llongyfarch tîm rygbi'r ysgolmaent drwodd i'r rownd gynderfynol arôl curo Cilfynydd 25­10.Mae dau gwmni yn noddi'r ysgol igael cit rygbi newydd a gafodd ei,ddylunio gan Gethin Hopkins dosbarth6E. Y cwmnïau yw WingfieldConstruction a Carpet and FlooringDirect. Diolch yn fawr iawn iddynt.Rhaid llongyfarch nifer o blant oflynyddoedd 3 a 4 ar basio bathodynB.A.G.A. 5 yn y clwb gymnasteg. Daiawn chi pawb.Roedd yr Adran Gymraeg wedi bodyn Ysgol Rhydfelen yn gwylio eucynhyrchiad o `Honc. Llongyfarchiadaumawr i Mr Davies a'r plant am eugwaith caled i gynhyrchu'r sioe.Roeddem wedi mwynhau yn arw eugwylio. Fe aeth yr Adran Saesneg iYsgol Hawthorn hefyd i wylio eucynhyrchiad hwy o `Calamity Jane'. Etoroedd y plant a'r athrawon i gyd wedimwynhau gwylio cynddisgyblion ynactio a chanu.Daeth cwmni theatre `Spectacle' i'rysgol i berfformio eu drama `BadMammy' i flwyddyn 6 ac yna i wneudgweithdy am y ddrama gyda'r plantwedyn.Bu'r ysgol yn creu bocsys ar gyfer`Operation Christmas Child' adanfonwyd 48 bocs ar gyfer yr achos da.Diolch yn fawr bawb a roddodd yn hael.Rhaid llongyfarch Samantha Irelandhefyd am gael gwobr am fynychu'rllyfrgell leol yn gyson. Da iawnSamantha.Croesawom athro newydd i'r ysgol sefMr Marc Condron ar ôl hanner tymorond yn anffodus roedd rhaid i Mr GarethHodgson ein gadael ni. Diolch i Garetham ei holl waith caled yn yr ysgol drosyr hanner tymor fe gafodd eiwerthfawrogi yn fawr iawn a chroesomawr i Marc i'r ysgol. Yn anffodus arddiwedd y tymor yma byddwn ynffarwelio ag aelod o staff sydd wedi bodyn gweithio yn yr ysgol ers deunawmlynedd sef Mrs Claire Charles. MaeMrs Charles wedi cael swydd newyddfel dirprwy brifathrawes yn YsgolLlwyn Crwn a bydd yn dechrau yno yny flwyddyn newydd. Llongyfarchiadaumawr i Mrs Charles a dymunwn boblwc iddi ond byddwn yn gweld ei cholliyn fawr yn Heol­y­Celyn ar ôl y fathflynyddoedd.Mae Cymdeithas Rhieni ag Athrawonyr ysgol wedi bod yn brysur yn trefnupartïon Nadolig a disgo yn yr ysgol athrefnwyd trip siopa i Gaerfaddon aoedd yn llwyddiant mawr.Ac yn olaf diolch i'r plant ac i’rathrawon am eu gwaith caled yn paratoia perfformio eu cyngherddau Nadolig.CornelyPlantCofiwch ei bod hi‛nddiwrnod crempogar y 7fed o‛r misyma.Mwynhewch!Oeddech chi wedi dathludydd Santes Dwynwen -dydd y cariadon.Beth am i chi gwblhau‛rchwilair yma -Calon CariadCardiau RhamantAnrhegion RhosodSiocled10


CC R O E S A I RLEnillydd croesair mis Rhagfyr:Mrs Siân WebbPontyclunDyma gyfle arall i chiennill Tocyn Llyfrau.Atebion i: Croesair Col34, Pen Bryn Hendy, Yr Encil,Meisgyn,Pontyclun. CF72 8QXerbyn 16 <strong>Chwefror</strong> 2008Ar Draws1. Gwely crog ar long (5)4. Ymlusgiad â phlisgyn caled ar eigefn (6)7. Mab i frawd neu chwaer (3)8. Gwlybwr gloyw ar baent (7)10. Tarddiad (8)11. Bryn, rhiw (4)13. Dosraniadau, dosbarthiadau (13)15. Llynges (4)17. Heb ddicter (8)20. Swm y dŵr yn disgyn o’r cymylau( 7)21. Ffordd gul (3)22. Dysgu (6)23. Sawl trigain munud (5)I Lawr1. Nodedig, enwog (5)2. Un sy’n gofalu am foch (7)3. Newid er gwell (8)4. Gweithiau creadigol (13)5. Heol fach (4)6. Mynychlog (5)9. Gyrru o arf (5)12. Terfyn, clo (8)Atebion Rhagfyr1 P E N B Y L I A I D 7C E M S A EA N N Y N O L N E S A FR F E 10 O O EE D E N A D A R L O LD DD A U M YI A W N DD A M A D A R CHG A 20 C L N IR I M S L A F 24 B O L AW E R R A 18 B 19 DY M L I W B Y N G A L ODD F Y O N I L24 B A R DD O N I A E TH1 2 3 4 5 6 67 8 910 14 111017 1213 142015 16 23 17 1819 18 1920 212822 2313. Nam, eisiau (5)14. Teigr (7)16. I ffwrdd (5)18. Toi (5)19. Masw, gwan (4)NOLAN YN CYNNIGGOLWG ARALL IYMWELWYR ARGANOLFAN MILENIWMCYMRUMae Nolan uPVC, Busnes Cymreigc yn h e n i d , w e d i ’ i l e o l i yn gNghaerfyrddin a Chaerdydd, wediadnewyddu ei nawdd i deithiau tywysdyddiol Canolfan Mileniwm Cymru argyfer 2007­08, yn dilyn llwyddiant eiflwyddyn gyntaf. Yn y Gwobrau Celf aBusnes diweddar cafodd y cwmniG ym e r a d wya e t h Uc h el a m ygweithgarwch hwn yn y categoriHunaniaeth Celf, Busnes a Brand.Yn 2006 bu dros 22,500 o ymwelwyryn rhan o’r rhaglen teithiau tywysffurfiol, a bu hynny’n gymorth i godiymwybyddiaeth o’r cwmni ymysgcynulleidfaoedd yng Nghymru a thuhwnt.Bydd Nolan uPVC, y cwmni ffenestri,drysau ac ystafelloedd gwydr uPVCannibynnol mwyaf yng Nghymru, ynparhau fel Cefnogwr Teithiau TywysSwyddogol. Mae’r teithiau, sydd ynagored i unigolion a grwpiau ynparhau’n un o’r gweithgareddaucymunedol mwyaf llwyddiannus yn yGanolfan. Mae teithiau’n cael eu cynnaldair gwaith y dydd ar gyfartaledd ganddarparu golwg unigryw tu hwnt i’rllenni ar un o ryfeddodau newyddCymru.Gyda chefnogaeth o’r newydd ganNolan, bydd pob ymwelydd ar y teithiautywys nawr yn gallu hawlio gwobr amddim pan fyddant yn dychwelyd talebarbennig i un o ystafelloedd arddangosNolan. Wrth gyflwyno’r daleb caiff pobymwelydd ar daith tywys 2 docyn i weldperfformiad yn y Ganolfan a bydd pobenw hefyd yn cael ei roi mewn raffl iennill gwobrau VIP, gan gynnwysgwahoddiadau i bartïon ar ôl sioeau adeunydd cofio sioeau wedi’u llofnodi.Dywedodd Prif WeithredwraigCanolfan Mileniwm Cymru, JudithIsherwood:“ Yn dilyn llwyddiant blwyddyn gyntafNolan fel partner busnes gyda ni, rwyfwrth fy modd bod Nolan wediadnewyddu ei gefnogaeth i’r TeithiauTywys. Caiff pob ceiniog o’u nawdd eisianelu i gynnal ac ymestyn amcanion yGanolfan o gefnogi’r cymuned acrydym yn ddiolchgar am eu cefnogaethbarhaus a gwerthfawr”.Mae Nolan uPVC yn fusnes teulusydd yn cyflogi 100 o staff ac maeganddo ystafell arddangos 5000troedfedd sgwâr ar Heol Richmond yngNghaerdydd ac ystafell arddangos arallyn ei bencadlys yn Fair Lane,Caerfyrddin.11


CREIGIAUGohebydd Lleol:Nia Williams029 20890979Anrhydedd i ArwelYchydig cyn y Nadolig cyhoeddoddRhodri Glyn Thomas, y Gweinidog drosDreftadaeth, bod Mr Dafydd Wigley aMr Arwel Ellis Owen wedi’u penodi’nLlywydd ac yn Is­lywydd LlyfrgellGenedlaethol Cymru a hynny i gychwynar Ragfyr y cyntaf, 2007 ac i bara ambedair blynedd. Mewn ymatebdywedodd Arwel:"Rwy wrth fy modd bod gen i'r cyfle iweithio gyda Bwrdd LlyfrgellGenedlaethol Cymru i ddatblygustrategaeth gynaladwy a hirdymor iddyfodol sefydliad sydd, yn ddi­os, ynun o drysorau pennaf y genedl."Llongyfarchiadau mawr, Arwel!Croeso i’r byd, Gwilym!Llongyfarchiadau Sarah ac AlistairMacDonald ar enedigaeth GwilymRussel ym mis Rhagfyr! Etifedd arall ideulu Pen y bryn. Mae’r tri bach ynymgartrefu yn Llysfaen bellach a brafyw eu cael nôl yng Nghymru.Emyr ar wib!Ac yntau yn dal yn ddisgybl chwecheddosbarth mae gorchestion EmyrHoneybun ­ Parc y Coed ­ ym mydrasio ceirt yn anhygoel! Wedi cystadlumewn saith o rowndiau pencampwriaethy ‘Biland Saxon Super series’ llyneddcipiodd Emyr y brif wobr trwy ennillrownd ola’r gystadleuaeth yn ogystal, ardrac rasio Llandow ym mis Hydref. Ynrasio dan faner ‘Saxon Motorsport’ ynHenffordd enillodd Emyr bedair allano’r saith cystadleuaeth gynhaliwydmewn cyrchfannau dros Brydain – oGaint i Sunderland, o Gaergrawnt nôl idde Cymru. Wrth dderbyn ei dlws yn y‘Kartmania Kart Show’ ym misTachwedd cafodd Emyr wahoddiad igystadlu ym Mhencampwriaethau’r Bydyn Sao Paulo ym Mrazil ddiwedd mis<strong>Chwefror</strong>! Gwyliwn y gwibiwr bachifanc yma gyda chryn ddiddordeb. Poblwc i ti Emyr yn y dyfodol!Dymuniadau gorau i ...... Marilyn Shewring, wedi iddi dderbynllawdriniaeth ar ei garddwrn ynddiweddar – doedd y feiolins ‘na ddimyn swnio cystal hebddot ti, Marilyn!... Rhys Dafis yntau, dderbynioddlawdriniaeth (‘dim byd mawr’ – mynteSheila!) yn ddiweddar. Da gweld y ddau12 yn gwella yn wych.Emyr HoneybunPenblwydd hapus iawn ...... Syr Wynff! Roedd hon yn flwyddyngo arbennig glei ac yn fwy felly yn fisgo arbennig! Llongyfarchiaau i tiWynford ar gyrraedd carreg filltirarbennig! Ymlaen at y cant!!GraddioLlongyfarchiadau Huw ap Rhys arennill dy radd mewn Pensaerniaeth aChynllunio o Brifysgol Bryste ynddiweddar. Ar hyn o bryd mae Huw yngweithio efo cwmni o benseiri ynLimerick yn Iwerddon. Pob dymuniadda i ti, Huw.Wele’n cychwyn dri chant chwedeg ...... o gerddwyr talog ar fore Gŵyl SanSteffan – i fwynhau taith gerddedddifyr dros ben – rhaid ei bod hi’nddeng milltir a mwy!! Rhaid diolch ogalon i drefnwyr gofalus a manwl ydaith eleni eto – Creigiau 23 sy’ngyfrifol am ein cael ni i gyd allan amychydig o ymarfer er mwyn lleihautipyn ar floneg yr Ŵyl!Cwlwm BusnesCaerdyddCynhelir Cinio Blynyddol CwlwmBusnes Caerdydd yng ngwesty’r HiltonCaerdydd nos Iau Mawrth 13eg 7.00 yham 7.30 yh. Y gŵr gwadd yw Mr IeuanWyn Jones AC Dirprwy Brif WeinidogCymru a’r Gweinidog dros yr Economia Thrafnidiaeth.Mae’r cinio hefyd yn gyfle i ddathlu15 mlynedd o’r Cwlwm Busnes yngNghaerdydd. Bydd y noson yn dechraugyda derbyniad rhwng 7.00yh a 7.30yhdiolch i nawdd hael oddi wrth un oaelodau selog y Cwlwm sef cwmnicyfathrebu StrataMatrix. Yn ystod ynoson cyflwynir am y tro cyntaf wobr“Busnes y Flwyddyn Cwlwm BusnesCaerdydd” ar ôl derbyn sawl cais osafon uchel iawn.Mae ’na alw mawr am docynnau sy’n£40 y pen. Mawrth 3ydd ydy’r dyddiadcau. Os am ragor o wybodaethcysylltwch â Dafydd Hampson­Jones ar0 2 9 2 0 3 9 4 0 2 1 n e u e b o s tDafydd.hampson­jones@wh­ireland.co.uk.Cantorion Creigiauyn Hong KongDechrau mis Rhagfyr aeth CantorionCreigiau ar daith i Hong Kong. Roedd ycynllunio a’r trefniadau wedi bod ar ygweill am fisoedd a llawer o’rcyfrifoldeb wedi disgyn ar ysgwyddauteulu’r Tudno­Jones. Mair Roberts,Cyfarwyddydd Cerdd y Côr, oedd wedidarganfod a sicrhau nawdd ar gyfer ydaith ac roedd Nia ei merch sy’n bywgyda’i theulu yn Hong Kong, wedi rhoillawer o wybodaeth leol er mwynparatoi'r côr am yr ymweliad.Cyflwynwyd pedwar cyngerdd ­ unyng Ngwesty’r Ritz Carlton ac un yn yDe c o Re st a ur a n t ar y P ea k.Cyflwynwyd cyngerdd yn y ganolfansiopa foethus y Landmark sy’n cael eireoli gan y Cymro, Huw Andrew sydda’i rieni’n dod o Landybie.Roedd Eglwys Gadeiriol Hong Kongyn llawn i’r ymylon ar gyfer y brifgyngerdd ac mae’r côr yn deall fod tua800 yn y gynulleidfa a chodwyd dros£7,000 y noson honno i elusen roedd yreglwys wedi penderfynu cynorthwyo.Adlewyrchwyd llwyddiant y gyngerddwrth i’r gynulleidfa i gyd godi ar eutraed ar gyfer y gymeradwyaeth ar ydiwedd. Yna cafwyd derbyniadardderchog yng ngerddi’r eglwysgadeiriol.Nid oedd llawer o aelodau’r côr wedibod yn Hong Kong o’r blaen a’r hyn aoedd wedi tynnu sylw pawb oedd ybensaernïaeth syfrdanol ar ynys ganologHong Kong, a thrwch y boblogaethmewn ardal mor gyfyng. Cafwyd ypleser pellach o weld Hong Kong wediei addurno yn swmpus ar gyfer yNadolig.Trefnwyd nifer o weithgareddaucymdeithasol yn cynnwys taith ar junk iweld y golygfeydd (taith a drefnwydgan Gymro arall, Huw Jenkins o’rcyfreithwyr Clifford Chance, sy’n dod oardal Llanbedr Pont Steffan). Hefydcafwyd noson fywiog dros ginio gydagaelodau côr meibion CymdeithasGymraeg Hong Kong a hefyd dathliadarbennig pen­blwydd Siwan Dafis,cyfeilydd y côr, yn 21. Roedd digon oamser rhydd i bawb grwydro a daethnifer yn arbenigwyr ar y sustem tramiauardder ch og. Roedd bargeinionmarchnad Stanley, y Big Budda a’rfynachlog, a’r siopau electroneg a jadeyn Kowloon yn boblogaidd iawn.Felly gellir ychwanegu Hong Kong i’rrhestr faith o leoliadau tramor sydd wedigoroesi ymweliad gan GantorionCreigiau. Ble nesaf? Belfast ym misMai. Mae’r côr yn byrlymu. Dewch iymuno â ni ­ a chymryd rhan yn yrhwyl!


Cantorion Creigiauyn Hong KongY Côr yn canu yn Eglwys Gadeiriol Hong KongSiwan Dafis,cyfeilydd y côr,fu’n dathlu eiphenblwydd yn 21.Cyflwyniad i Mair Roberts, Arweinydd Cantorion CreigiauGolygfeydd o’r cynhyrchiad ‘Blodyn y Garth’ (tudalen 1)Llun Lliw o’r GorffennolGwobrwyo Cwrs Technoleg Gwybodaeth Arloesol Mawrth 200113


FFYNNON TAF NANTGARWA GWAELOD Y GARTHGohebydd Lleol: Martin Huws029 20 811413 neu martin@huws1.fsnet.co.ukO NANTGARW I’R DWYRAINPELLMae menyw wedi cael ei hanfon yn ôl iFalaysia ar ôl cyrch yn Nantgarw yngnghanol Ionawr.Cafodd hi ei harestio ac aed â hi iOrsaf Heddlu Pontypridd cyn gorfod dalawyren yn ôl i’w gwlad genedigol.Roedd hi’n gweithio’n anghyfreithlonyng Nghegin Cheineaidd Chan yn HeolRhydychen a dywedodd yr AsiantaethFewnfudo eu bod nhw wedi trefnu’rcyrch ar ôl derbyn gwybodaeth am yrhyn oedd yn digwydd yn y siop.“Fe fyddwn ni’n targedu gweithwyranghyfreithlon a’r busnesau diegwyddorsy’n eu cyflogi,” meddai Jane Farleighar ran yr asiantaeth. Dywedodd y gallaicyflogwr oedd yn torri’r gyfraith golli’rhawl i recriwtio o wledydd y tu allan iEwrop.“Yn fwy na hynny, os yw pennaeth yngwybod ei fod wedi cyflogi gweithwyranghyfreithlon, gallai gael dirwyddiddiwedd neu fynd i garchar.”MYND I LYGAD Y FFYNNON?Roedd stori ychydig o fisoedd yn ôl amNant Llywydd, hen enw ar fapiauordnans y bedwaredd ganrif ar bymtheg,a’r angen i atgyfodi enwau sy wedidiflannu.Wedyn fe ges i gopi o lythyr yr oedd yDr Ceinwen Thomas wedi ei anfon arDachwedd 11, 1985 wrth amgáu eichyfraniad blynyddol i Ysgol FeithrinFfynnon Taf. Ffynnon Daf yr oedd DrThomas yn ei ddweud.“Pan oeddwn yn blentyn,” meddai“byddai fy nheulu i a llawer eraill o’mcwmpas bob amser yn cyfeirio at ypentref fel Trelywi ac un tro, wedi i un ofrodyr fy mam fod yn ein tŷ ni’n caelsgwrs â’m tad a dweud yr enw nifer oweithiau, gofynnais pam yr oeddynt ollyn galw Trelywi ar y pentref. OnidFfynnon Daf oedd yr enw ­ gan feddwlam y ffurf Taffs Well?“Eglurwyd i mi mai’r ffynnon oeddFfynnon Daf. Enw’r pentref oeddTrelywi. Ac ni ddiflannodd yr enwTrelywi hyd ddiwedd y chwedegau adechrau’r saithdegau wrth i drigolionCymraeg y cylch ddiflannu.”Dywedodd ei bod hi wedi edrych arhen fap yng ngwanwyn 1985 a gweldtaw Nant Llywydd oedd enw’r nant alifai drwy ganol y pentre.14 “Erbyn i’r mapwyr ddechrau ar eugwaith,” meddai “tebyg bod pobl ypentref wedi anghofio ystyr yr elfenllywi ac wedi mynd i gredu maitalfyriad ar y gair llywydd oedd yr enw.Mewn gwirionedd, enw merch ywLlywi ac y mae Trelywi yn debyg iTredelerch yng Nghaerdydd.”Yn ei pharagraff ola dywedodd: “Braffyddai gweld yr hen enw, nad yw wedidiflannu rhagor na 20 mlynedd, yn caelei adfer unwaith eto.”Diolch i Alwyn Harding Jones am yrwybodaeth. Un cwestiwn bach. Pwyoedd Llywi?ENNILL TIRHwn, yn sicr, oedd dyfyniad y mis i fi.Ar raglen Cofio un bore Sadwrn roeddJohn Hardy’n holi rhywun oedd wediymuno â Menywod y Tir yn yr AilRyfel Byd, menyw o Lundain oedd hebfod yn agos i fferm cyn cyrraedd cefngwlad Cymru.“Roeddwn i’n gwybod y gwahaniaethrhwng tarw a buwch,” meddai ar yradio. “Roedd modrwy drwy drwyn ytarw.”COLLED FAWRAr Ionawr 4 bu angladd Betty Newman,Heol Caerdydd, Ffynnon Taf ­ ygwasanaeth yn Eglwys Highfields, HeolMonthermer, y Waun Ddyfal, cyn ycladdu ym Mynwent Tŷ Rhiw.Roedd Mrs Newman wedi bod ynYsbyty’r Eglwys Newydd am gyfnod achydymdeimlwn â’i merch a’i gŵr,Susan a Jim Montgomery.Collodd Ifor Jenkins, 6 Tŷ Bryncoch,ei wraig Rachael, yn ddiweddar.Cydymdeimlwn ag ef a’i deulu.DECHRAU SWYDD NEWYDDFe ges i alwad ffôn oddi wrth EirwenPrice, Pontypridd, yn sôn am ei mab yngnghyfraith Carl Brown yn dechrau eiswydd newydd, dirprwy brifathro, ynYsgol Gynradd Ffynnon Taf yn Ionawr.Pob lwc iddo fe.Roedd Carl yn arfer bod yn athro ynYsgol yr Hen Gastell, Pen­y­bont, acmae Nia, un o gyn­ddisgyblion YsgolGynradd Bryntaf, a Carl yn byw yn YBontfaen. Pan oedd Lodwig Jones ynweinidog roedd Eirwen yn mynd i gapelHeol y Crwys ac yn byw yn 175 HeolRichmond, Y Rhâth. Roedd ein teuluni’n byw yn 129. Mae’r byd yn fach.Diolch i Eirwen am yr wybodaeth.O DAN EIN TRWYNAUMae’n rhy hwyr. Am fod rhan o hanes ypentre wedi diflannu o dan ein trwynau.Yn ail wythnos Ionawr roedd criw,dwsin o bobol ifanc ym maes parcio’rCo­op, yn gwylio’r tarw dur yn chwaluhen siop Arthur Bickerton. Cafodd ygwaith ei adael ar ei hanner a’r borecanlynol roedd llenni glas ffenest ystafell wely’n hongian yn fregus cyn yrergyd ola.Fyddai Sain Ffagan wedi mynegididdordeb yn yr adeilad hwn? Ddylairhywun fod wedi gwneud cais iddynnhw? Dyfalu yw hwn, mor ddiwerth â’rrwbel gafodd ei adael ar ôl.Mae rhai’n cysuro eu hunain gan ybydd perchennog pob tŷ trefol ar ysafle’n parcio ei gar dan ddaear. Dimffwdan, dim problemau parcio. Dim ondbod rhan o’n hanes ni wedi mynd o’rgolwg am byth.POB LWC I RHIANNONRydyn ni’n dymuno’n dda i RhiannonPayne o Drefforest gafodd ei phenodi’nWeinyddes Feithrin/Cynorthwywraig i’rAthrawon yn Ysgol Gynradd Gwaelody­garth.Dechreuodd ei swydd yn Ionawr.Roedd y cyn­ddisgybl Ysgol GyfunRhydfelen yn arfer gweithio felGweinyddes Feithrin yn y feithrinfa ymMhrifysgol Morgannwg, Pontypridd.Diolch yn fawr i Menna Rogers, sy’ngweithio i gwmni Hays Education, amgyflenwi yn ystod y cyfnod ers i DawnThomas adael.CERDD SEICEDELIGPan o’n i yn Y Fenni’n ddiweddar, ynsiop Boots y fferyllydd, daeth gwên i’rwyneb ynghanol y diflastod wth dindroirhwng rhesi o nwyddau. Ro’n i’nmeddwl ar y pryd ‘mod i’n darllen rhano gerdd seicedelig wedi ei hysgrifennugan rywun o dan ddylanwad cyffuriau.Oherwydd y geiriau a welais i ar yrarwydd oedd gwylan cotwm. Ycyfieithiad oddi tano, wrth gwrs, oeddcotton wool.DIGWYDDIADAUCAPEL BETHLEHEM, Gwaelod­ygarth,10.30am. <strong>Chwefror</strong> 3: YParchedig Dafydd Andrew Jones;<strong>Chwefror</strong> 10: Y Parchedig R AlunEvans, Cymundeb; <strong>Chwefror</strong> 17: YParchedig Denzil James; <strong>Chwefror</strong> 24:Y Parchedig R Alun Evans.CYLCH MEITHRIN Ffynnon Taf,Neuadd y Pentre, Ffynnon Taf.9.30am­1pm, ddydd Llun tan ddyddGwener. Plant dwy oed ymlaen. Mwy ofanylion: Michelle Owens ar 07939701284.


YSGOL GYFUNRHYDFELENwww.rhydfelen.org.ukMs. T. Anne Morris ­ Pennaeth NewyddMae dechreuad y flwyddyn ysgol bob tro yngyfnod o deimladau cymysg. I ddisgyblionnewydd, mae cyffro a her. I’r rhai sy’n dodyn ôl, mae cyfle i gwrdd â ffrindiau eto. I raieraill mae’n gyfle newydd. Ond eleni roeddy cyffro a’r edrych ymlaen yn sicr yn fwy,oherwydd mai dyma oedd tymor cyntaf einpennaeth newydd ni, Ms T. Anne Morris.Mae hi wedi derbyn croeso cynnes gan yrysgol, ac yn cymryd pob cyfle i ddechrauadnabod y disgyblion, y staff, y rhieni, a’rllywodraethwyr ­ sy’n dipyn o dasg ynddo’ihunan.Mae gwreiddiau Ms Morris yn ddwfn ynnhir Cwm Tawe. Cafodd ei magu ynYstradgynlais, a chyn graddio buodd ynddisgybl yn Ysgol Gyfun Maes y Dderwen.Mae Ms Morris yn dod â llawer o brofiad i’rswydd Mae’n dod atom ni o’n chwaerysgol, Ysgol Gyfun Llanhari, lle roedd hi’nBennaeth, ond mae hi hefyd wedi gweithioyn Ysgol Ystalyfera ac fel Ddirprwy ynYsgol Gyfun Gwyr. Ymhlith ei diddordebaumae dawnsio gwerin – maes lle mae nifer oddisgyblion Rhydfelen wedi disgleirio dros yblynyddoedd.Yn ei swydd newydd, bydd Miss Morris achyfrifoldeb arbennig dros yr ysgoluwchradd, wrth gwrs. Agwedd bwysig acarloesol y swydd, serch hynny yw, mai hifydd â chyfrifoldeb strategol dros amcaniona pholisïau addysgol y campws newydd. Ynbarod mae hi wedi dod â gweledigaeth abrwdfrydedd i’r dasg yma, a dymunwn yndda iawn iddi wrth iddi ymgymryd â’idyletswyddau.Wrth groesawu pennaeth newydd hoffemddiolch i Dr Phil Ellis am ei waith arbennigyn arwain yr ysgol yn ystod Tymor yrHydref. Bu’n gyfnod digon prysur rhwng unpeth a’r llall, ac roedd ei arweiniad bob troyn ddoeth ac yn gadarn. Mae bellach wedidychwelyd i’w rôl fel Dirprwy'r ysgol.Taith Blynyddoedd 12 a 13 i Goleg yDrindodDdydd Mawrth 20 Tachwedd aeth deg oddisgyblion o flwyddyn 12 a 13 i Goleg yDrindod, Caerfyrddin, i fynychu cwrsadolygu Astudiaethau Crefyddol. Buom yngwrando ar ddarlithoedd ar Fwdïaeth, Islama Moeseg.Cawsom y cyfle i drafod llawer o faterionmoesol a sefyllfa’r Mwslemiaid yngNghymru. Roedd yn braf cael cyfarfod adisgyblion eraill o Dde Cymru.Cassandra Hughes, Bl 12.Taith Addysg Grefyddol Blwyddyn 8Ddydd Mercher 21 Tachwedd aeth criw oddisgyblion Blwyddyn 8 i weld sioe “Josephand the Amazing Technicolour Dreamcoat”ym Mryste.Roedd y sioe yn ardderchog ac roedd ygerddoriaeth a’r actio yn wych a’r dyrfa wrtheu bodd yn ymuno yn y canu a’r dawnsio.Roedd tri Joseph o’r rhaglen deledu “AnyDream Will Do” yn y sioe. Craig Chalmersoedd yn chware rhan Joseph a Keith Jackoedd y llefarydd. Roedd yn wych eu gweldyn perfformio’n fyw ar ôl eu gwylio ar yteledu.Hannah Hughes, Blwyddyn 8LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Rhys Downes ar gael eiddewis i fod yn gapten ar dîm rygbi 7 bobochr Cymru dan 18. Mae’r tîm yn cael eidrefnu gan yr Urdd. Mae Rhys yn dilyn ôltraed Jonathan Edwards, un o gynddisgyblionRhydfelen, sy’n gaptenpresennol tîm llawn 7 bob ochr Cymru.Eleni mae tîm yr Urdd yn teithio i DdeAffrica ac yn cystadlu yn erbyn amryw odimau o’r rhan yna o’r byd.Mae Rhys yn ei flwyddyn olaf ac yngobeithio dilyn cwrs gradd mewn AddysgGorfforol. Mae ar hyn o bryd yn rhan oacademi'r Gleision ac yn chware i dîm 1afPontypridd.Hyderwn y bydd y daith yn brofiadgwerthfawr iddo.Ffair NadoligCodwyd dros £1600 yn y Ffair a gynhaliwydyn Neuadd Chwaraeon yr ysgol nos Wener30 Rhagfyr. Er bod y tywydd yn arw iawn,daeth torf o bobl i gefnogi a mwynhau’rarlwy a ddarparwyd iddynt.Roedd llu o ddisgyblion yn cynnalstondinau amrywiol ­ gemau achystadlaethau; a nifer o rieni a staff ynddyfal yn cynnal gweithgareddau ac yngwerthu nwyddau.Gwahoddwyd Mr Peter Griffiths y cynbrifathronôl i dynnu’r raffl a chafwydymweliad gan Siôn Corn! Diolch i bawb!Y Noson GarolauCynhaliwyd y noson, eleni eto, yn y Theatrnos Fawrth 18 Rhagfyr. Bu disgyblion a’rstaff yn rhoi darlleniadau, ac yn perfformioeitemau corawl amrywiol, gyda’r gynulleidfayn ymuno i ganu’r carolau.Gosodwyd naws arbennig, a chyfle iystyried gwir neges y Nadolig.Byw yn iach, bwyta’n dda.Cafodd yr ysgol ymwelydd arbennig ddyddLlun 12 Tachwedd y llynedd, sef Mrs GillianJones. Daeth Mrs Jones fel rhan oArolygaeth ei Mawrhydi. Y bwriad oeddcasglu gwybodaeth a fyddai’n cyfrannu atadroddiad ar sut mae ysgolion Cymru ynhelpu disgyblion i fyw yn iach. A ydyysgolion yn helpu plant i wybod paddewisiadau ymarferol sy’n mynd i wneudgwahaniaeth?Cafodd Mrs Jones ddiwrnod hapus drosben yn ein plith. Mwynhaodd hi frecwast(gan gynnwys y samplau uwd oedd ifrecwast y bore hwnnw!), egwyl a chinio yny Ffreutur gyda’r disgyblion. Siaradodd âstaff y Ffreutur, gan gynnwys y rheolwraig,Mrs Stacey Baker, athrawon yr ysgol ac,Rhys Downeswrth gwrs, y disgyblion. Un ouchafbwyntiau’r ymweliad oedd y cyfarfodgafodd ei gynnal gyda Chyngor yr ysgol.Rhan bwysig arall o’r diwrnod oeddymweld â gwersi Addysg Gorfforol. Roeddhi’n falch iawn gweld y ffordd yr oedd ydisgyblion yn ymroi i weithgareddau’rgwersi. Ei hunig siom oedd cyrraeddychydig yn rhy hwyr i gymryd rhan mewngwers aerobig gyda merched Blwyddyn 10!Roedd Mrs Jones yn ganmoliaethus iawn obopeth a welodd. Braf oedd cael cyfle iddangos adnoddau gwych ein safle newyddiddi, ac i ymfalchïo o’r newydd yn y gwaithmae staff a disgyblion yn ei wneud yma.Taith i’r BBCCyrhaeddom stiwdio’r BBC ar ôl taithhwylus ar fws llawn cerddoriaeth a sgwrsio.Wrth edrych lan at ddrysau’r BBC roeddcyffro yn llanw pawb am yr hyn y buasemyn ei weld.O’r dderbynfa aeth aelod o’r staff â ni i’rcaffi lle mwynhaom bryd o fwyd twym ablasus. Cynyddodd y cyffro, a chyn bo hirdeath arweinydd i nôl pawb er mwyncychwyn ar y daith i weld rhyfeddodau’rBBC.Enw’r arweinydd oedd Claire.Arweiniodd Claire ni lawr sawl corridor traroedd pawb yn sgwrsio’n dawel. Agorodd ydrws i’r ystafell gyntaf sef stiwdio recordioar gyfer Radio Cymru. Syllodd pawb ar ybocsys oedd yn sefyll mas o’r wal a’rtrynciau oedd yn debyg i rai eliffantod ynhongian yn ddistaw o’r to. Esboniodd Clairepwrpas y pethau hyn oedd gwneud yn siŵrbod y lefel sŵn a thymheredd yn gywir argyfer recordio. Roedd y dechnoleg yn wych.Yn ail, arweiniodd Claire y grŵp i ffenestoedd yn ymestyn lawr i goridor, ac wrth ibawb sbïo trwy’r gwydr gwelsom beth oeddyn edrych ar yr olwg gyntaf fel strydgyffredin. Pan agorodd Claire y drwssylweddolodd pawb nad stryd oedd hon ondy set recordio ar gyfer y sebon Cymraegmwyaf poblogaidd “Pobl y Cwm”. Wrth ibawb edrych yn fwy manwl ar bopethgwelsom nad tai a siopau lliwgar oeddyntond propiau! Roedd yr holl beth yn syndodac roedd clician i’w glywed ym mhobmanwrth i bawb dynnu llun ar ôl llun. Fe wnaethun aelod o’r grŵp, Ieuan, sefyll yn ymyl ypropiau er mwyn cael tynnu ei lun, roeddpawb gan gynnwys Claire yn chwerthin.Adele, Ellen, Angharad ac Adam,Blwyddyn 11.15


TONYREFAILGohebydd Lleol:Helen Prosser671577LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Aaron Daye, Maesy­Bryn,ar basio ei brawf gyrru arIonawr 9fed, dim ond pedair wythnos arôl ei ben­blwydd yn 17 oed. Da iawn tiAaron! Gyrra’n ddiogel!Nawdd i’r tîm pêl­droedMae tîm pêl­droed dan 10 oedTonyrefail yn edrych yn smart iawn ydyddiau hyn. Mae cwmni Bryants wediprynu cit newydd iddyn nhw. MeddaiDavid Swidenbank o’r cwmni, “Maetîm dan 10 Tonyrefail yn dîm gwych acry’n ni’n falch o’u cefnogi”. Ar benhyn, mae’r tîm hefyd wedi derbyn pecynhyfforddi gwerth £2,000 gan FancBarclays. Mae’r pecyn yn cynnwyscrysau­t, hetiau, poteli dŵr a llawermwy. Cafwyd nawdd Barclays trwywefan o’r enw ‘Spaces for Sports’.POBL Y TONMike ProsserWrth i’r <strong>Tafod</strong> fynd i’r wasg, mae MikeProsser (fy mrawd) wrthi’n chwaraeb o w l s d r o s G y m r u y mmhencampwriaeth y byd yn SelandNewydd. Mae’r merched wedi gwneudyn dda iawn – cipion nhw’r fedal arianyn y gystadleuaeth i bedair mewn tîm,gan golli i Awstralia yn y rowndderfynol.Sioned EllisMae Sioned yn prysur gwneud enw iddihi ei hun fel cantores glasurol. Mae’nferch i John a Myfanwy Hunt, dau oddarllenwyr Y <strong>Tafod</strong> a dau sy wedicefnogi dosbarthiadau Cymraeg y cylchers blynyddoedd. Bu Sioned yn aelodo’r Ysgol Sul yng Nghapel y Ton. Maehi’n gwneud llawer o waith elusennol iGerddoriaeth mewn Ysbytai’. Yn ystod2008 bydd yn canu yn ‘The MagicFlute’ ac ‘Il Travatore’.YSGOL GYNRADDGYMRAEGTONYREFAILClwb SyrcasMae disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ynbrysur yn ymarfer eu sgiliau syrcas arhyn o bryd fel rhan o gynllun‘Cymunedau’n Gyntaf’.Mike Prosser yn lliwiau Cymru oddiar wefan swyddogol pencampwriaethy byd – worldbowls2008.comTîm pêl­droed dan10 oed Tonyrefailgyda’uhyfforddwyrAndrew Bridges aJohn Clements.Beibl ChwilotwrEleni eto mae Blwyddyn 5 yn cael ycyfle i ddysgu am rai o hanesion yr HenDestament fel rhan o gynllun ‘BeiblChwilotwr’, dan arweiniad y Parch.Carwyn Arthur.AilgylchuHoffai’r Cyngor Eco ddiolch i bawb amailgylchu eu ‘Yellow Pages’ trwy law’rysgol. Maen nhw eisoes wedi casglu132 copi ond mae angen 30 arall arnynnhw i gyrraedd eu targed. Felly, os oesgan ddarllenwyr y <strong>Tafod</strong> gopïau o hen‘Yellow Pages’, byddai’r ysgol yn falchiawn o’u derbyn.Byrddau AdarCafodd aelodau Cyngor yr Ysgol a’rCyngor Eco gyfle i fynychu gweithdy arsut i adeiladu byrddau adar. Y bwriadnawr yw eu gosod o amgylch yr ysgol ermwyn hybu mwy o adar i nythu. Diolchyn fawr i ‘Grŵp AmgylcheddolTonyrefail’ am y cyfle i fod yn rhan o’rgweithdy.Trip Blwyddyn 5Aeth disgyblion Blwyddyn 5 arymweliad ag Ysgol Maestir yn SainFfagan yn ddiweddar. Roedd pawbwedi mwynhau’r profiad o brofi addysgoes Fictoria, gan gynnwys Mr Phillips,eu hathro. Diolch i Miss Rachel Phillipsam ei chymorth yn ystod y dydd hefyd.16Daw’r llun hwn o wefan Sioned ­www.sionedellis.co.ukCôr Ysgol Gymraeg Llantrisant yn Nghyngerdd Nadolig Tabernacl Efail Isaf

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!