12.07.2015 Views

Y Tincer 333 Tach 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 333 Tach 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 333 Tach 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Y TINCER TACHWEDD 20<strong>10</strong> 9Suliau Rhagfyr2.005 Bugail12 Oedfa’r Plant19 Arwyn Pierce26 Terry EdwardsMADOG, DEWI ACEFN-LLWYDGenedigaethAr Hydref 29ain ganwyd merchferch i Sioned a Llywelyn,Rhydyceir, Capel Madog sefLleucu Elen ap Llywelyn –wyres i Alwyn a MargaretHughes, Gwarcwm Hen, agor-wyres i Mrs Nan Hughes,Gellinebwen.CroesoYn ddiweddar mae Arthur acEirian Hughes wedi ymgartrefuyn Lluest Fach, Capel Madog,sef hen gartref Eirian er eubod wedi byw yn Bow Streetam bron i ddeugain mlynedd.Croeso cynnes i’r cwm;edrychwn ymlaen i’ch cael felcymdogion.TaithBraf yw gweld Tegwen acAldwyth Lewis, Rhos-goch wedidod nôl yn ddiogel ar ôl eu taithi Batagonia.DiolchgarwchNos Fawrth, 9fed o Dachweddcynhaliwyd cyfarfodDiolchgarwch yng NghapelMadog. Croesawodd y gweinidogy Parchg Wyn Rh Morris bawbynghyd gan estyn croeso cynnesi’r pregethwr gwadd, y ParchgEifion Roberts. Cafwyd oedfafendithiol ac amserol a’r capelwedi ei addurno’n hardd gan ychwiorydd. Yr organyddes oeddAngharad Rowlands.DyweddiadLlongyfarchiadau i MichaelReeves, mab Eirlys a TonyReeves, Rickmansworth, wñry diweddar Mr a Mrs ElfynWilliams, Ysgubornewydd ar eiddyweddïad â Ursula O’Leary,merch y diweddar Mr a MrsWilliam O’Leary, Llundain.CydymdeimladCydymdeimlwn â Dai a WendyEvans, Fferm Fronfraith, ar gollimodryb Mrs Ceinwen Page o’rAmwythig, gynt o Llawr y Cwmbach, Bont-goch;hefyd i Gwenda ac Alun Hughes,Troedrhiwgwinau ar golli mamGwenda – Mrs Bet Jones oLanddeiniol.Swydd newyddDymuniadau gorau i WynMorris, Plas y Fronfraith yn eiswydd newydd yn ddarlithyddastudiaethau busnes ymMhrifysgol Aberystwyth.Wedi’r stormBu un pen o’r Parsel hebgysylltiad ffôn (a gwe) am o leiafwythnos ar ôl i bolyn teligraffsyrthio yn y storm. Gyda’r <strong>Tincer</strong>ar fynd i’r wasg nid oes dim sônam neb yn dod i’w drwsio.CYNGOR CYMUNED TIRYMYNACHLlywyddwyd cyfarfod yrHydref o’r Cyngor gan yris-gadeirydd y Cyng HeulwenMorgan. Yn dilyn rhaiargymhellion yn y cyfarfoddiwethaf penderfynwydmai gorau fyddai cael rhagoro brisiau am feinciau syddwedi eu llunio o ddeunyddail-gylchu. Nid oes sicrwydderbyn hyn bod trydan wedi eigysylltu i’r lamp ger Bryndolenyn Blaenddol. Gofynnir i’rtrydanwyr edrych i mewn i’rmater. Disgwylir i’r gordyfiantger Capel Noddfa gael ei dorriyn fuan.Derbyniwyd adroddiadmisol gan y Cyng Sir, y CyngPaul Hinge. Dywedodd body gwaith papur partheduwchraddio rhan o Maesafallenyn mynd yn ei flaen, a bodcyfarfod i fod yn fuan, yn ôly drefn, i’w gynnal yn FestriNoddfa. Cyflwynodd gopio adroddiad sefydlu gorsaftrên yn Bow Street. Mae’rawdurdodau wedi derbynmai yn Bow Street y bydd yrorsaf yn hytrach nag ariannuun arall ym Mhowys. Maegolau Maes Ceiro wedi eiddiwygio fel bod y lampauyn gwybod y gwahaniaethrhwng nos a dydd. Gyda gofidyr adroddodd nad yw fforddClarach o Bow Street yn caelblaenoriaeth i’w graeanu panddaw tywydd drwg. Gobeithirgosod arwyddion i arafu’rdrafnidiaeth wrth groesfforddLlangorwen yn fuan. Maenifer o ddamweiniau yndigwydd wrth y bont ger yreglwys hefyd. Gyda thristwchy cyfeiriodd at ddamwainarall ger Dolgau, a brofoddyn angheuol, ac mae eisoesyn trafod gydag Adrannau yFfyrdd am gael sythu’r gornelberyglus hon.Codwyd y mater bod lorïauuchel yn methu mynd o danBont Rhydhir ac yn gorfodbacio yn ôl i Bow Street ganachosi trafferth i fodurwyra niweidio ffensys IBERS. Osgellir symud yr arwyddionsy’n dynodi uchder y bont ynôl i Bow Street, efallai y gellirosgoi y broblem hon.CYNLLUNIO. Derbyniwydgwybodaeth fod cais am newiddefnydd unedau yn Nantllanwedi ei ganiatáu. Roedd hwnyn mynd yn ôl i 2008.Derbyniwyd cais oddi wrthGlwb Pêl-droed Bow Streetam gyfraniad tuag at ei nosongymdeithasol o Dân Gwyllt.Penderfynwyd cyfrannu £125.Datgelodd y Cyng VernonJones ei ddiddordeb yn yreitem hon ac ni chyfrannoddi’r drafodaeth. Yr un modddatgelodd y Cyng Harri Petcheei ddiddordeb pan ddaethllythyr oddi wrth Bwyllgory Cae Chwarae yn gofyn amgefnogaeth (trwy lythyr) i’radrannau priodol am gaelehangu y cwrt chwarae tennisa’r man ymarfer chwaraeon.Penderfynwyd cefnogi’r cais.Yr unig fater ariannol oeddtalu bil torri porfeydd am yflwyddyn sef £800. Bydd ycyfarfod nesaf ar 25 <strong>Tach</strong>wedd.ABER-FFRWD A CWMRHEIDOLDiolchHoffai Eirlys Davies, Caehaidd,ddiolch o galon i bawb am ydymuniadau da a dderbynioddyn ystod ei salwch diweddar. Maeyn ei werthfawrogi yn fawr iawn.Urdd y BenywodCafwyd noson ddiddorol iawnddechrau Hydref yng nghwmniLloyd Edwards, Penrhyn-coch pany bu yn datgelu rhai cyfrinachaugwneud jam a tsytni ar gyfersioeau. ‘Roedd wedi dod a nifer owahanol ddanteithion er mwyn ini gael eu blasu. Nos Lun gyntafyn Nhachwedd cawsom noson yngwneud gwahanol bethau allano hen glytiau. Llwyddodd rhai iwneud bandiau ar gyfer eu gwisgoyn y gwallt. Croesawodd einllywydd Norma Stephens pawb yngynnes iawn i’r ddau gyfarfod ymaa da oedd cael cwmni cymaint owragedd yr ardal yn y ddwy noson.TeleduBu Mair Stanleigh, Dolfawr,ar y rhaglen deledu Wedi 7 ynddiweddar yn dreifio ei char arhyd ffordd y Cwm. Mae hi yn 97oed ac yn dal i ddreifio ac ar hyno bryd hi yw yr yrrwraig hynafyng Nghymru. Tipyn o record agobeithio y deil i fynd am nifer oflynyddoedd eto!Capel Llwyn-y-groesCynhaliwyd ein CwrddDiolchgarwch eleni eto gyday Parchg Eifion Roberts,Capel y Morfa, yn bregethwrgwadd. Cafwyd gair o groesogan Elizabeth Lewis a’rorganyddes oedd Delyth Davies,Maencrannog. Roedd y Capelwedi ei addurno yn hyfryd iawna diolch o galon i bawb am eupresenoldeb eleni eto.DyrchafiadLlongyfarchiadai i GlenysWilliams Ty’n Wern ar gael eidyrchafu yn Uwch-ddarlthydd ynAdran y Gyfraith ym MhrifysgolAberystwyth.Priodas RuddemLlongyfarchiadau hwyr i Hywelac Ann Ellis, Hywelfan, arddathlu eu priodas ruddemddechrau mis Hydref.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!