8 Y TINCER TACHWEDD 2010GOGINANCydymdeimlwnTrist yw cofnodi marwolaeth Cyril Davies,Bwthyn y Cwm yng Nghartref PlasCwmcynfelin. Cydymdeimlwn gyda’i ferchJacqueline.WyresLlongyfarchiadau i Colin a June Baxter,Oakdale ar enedigaeth eu hwyres fachnewydd yn Llangwyryfon. Ganed Erin Lili arHydref 13 i Stephen a Charlotte ac yn ôl pobsôn mae ei brawd mawr wedi dotio arni.Pen blwydd ArbennigPen blwydd hapus i Kath Hughes, Bryn Pica,ar ei phen blwydd arbennig. Mae yn siwr odeithio tipyn yn awr gan na fydd rhaid iddidalu am y bws.Pob LwcDymuniadau gorau i Susanne Vaughan,Gwelfryn, yn y rownd derfynnol ynLlundain yng nghystadleuaeth cwmni Sparam y person delfrydol fel gweithiwr siop. Fewnaeth rheolwr y siop y mae yn gweithioynddi yn Aberystwyth ei henwebu gan eibod mor bleserus bob amser ac hefyd yngofalu am y bobl mewn oed sydd yn siopayno ac o’r herwydd mae Susanne wedi mynddrwyddo i’r rownd derfynol dros Gymru aLloegr. Pob lwc iddi yn Llundain.CLWB CW^Penrhyn-cochAr Agor Llun - Gwener3.30 - 5.30£6 y sesiwn . £5 ail blentynBwyd a Diod Iachus yn GynwysedigGofal Plant CofrestredigClwb GwyliauMae’r clwb hefyd ar agor yn ystodgwyliau’r ysgol a diwrnodau HMS08.30 y.b. – 5.30 y.p.£18 y diwrnod plentyn cyntaf£16 y diwrnod ail plentynSesiwn hanner diwrnod08.30 – 1.00 y.p. neu 1.00 y.p. – 5.30 y.p.£9 plentyn cyntaf . £8 ail plentynLI fwcio cysylltwch âNicola Meredith neu Katy Nash ar07972 315392clwbcwl@googlemail.comNeu cipiwch mewn i’r clwb ar ôl YsgolCelf a Chreft, Gemau tu mewn ag allan,Wii a Playstation, Pwll Pelau a mwy!Priodwyd merch Brian a Liz Ashton, Araul, ym Mhortmeirion adeg y Pasgeleni. Mae Jenni a’i gw^r Nicholas Hadfield wedi ymgartrefu yn Efrog llemae Jenni yn athrawes ysgol gynradd a Nick yn ymgynghorwr pres. Poblwc i’r ddau am y dyfodol.Cwmni Actorion Theatr Felin-fach yn cyflwynoO’s Ffos? O’s! O’s!Dewch i ymuno â Tegi Wegi a’r criw yn anturiaethau’r panto!04 – 11.12.10Ffôn: 01570 470697www.theatrfelinfach.comR.J.EdwardsAdeiladau Fferm y CwrtCwrt Farm BuildingsPenrhyn-cochContractiwr, masnachwrgwair a gwellt.Arbenigwr ar ailhaduCyflenwi a gwasgaru calchGwrthtaith Fibrophos a rhaiorganigYmgymymerir â phob math owaith amaethyddolam brisiau cystadleuolLorïau a pheirianauamaethyddol i’w llogi01970 82014907980 687475GWELY ABRECWAST MAIR9 Heol Llangrallo, Pen-y-Bontar Ogwr CF31 3ARCroeso cynnes Cymreig mewnlleoliad delfrydol i ganolfanausiopa gorau de Cymru, Canolfan yMileniwn, Stadiwm y Mileniwm aCae Pêl-droed Caerdydd.www.mairsbedandbreakfast.co.uke-bost : mairbandb@hotmail.com01656 65544207768 286303Cysylltwch â Huw a Sarah Tudur
Y TINCER TACHWEDD 2010 9Suliau Rhagfyr2.005 Bugail12 Oedfa’r Plant19 Arwyn Pierce26 Terry EdwardsMADOG, DEWI ACEFN-LLWYDGenedigaethAr Hydref 29ain ganwyd merchferch i Sioned a Llywelyn,Rhydyceir, Capel Madog sefLleucu Elen ap Llywelyn –wyres i Alwyn a MargaretHughes, Gwarcwm Hen, agor-wyres i Mrs Nan Hughes,Gellinebwen.CroesoYn ddiweddar mae Arthur acEirian Hughes wedi ymgartrefuyn Lluest Fach, Capel Madog,sef hen gartref Eirian er eubod wedi byw yn Bow Streetam bron i ddeugain mlynedd.Croeso cynnes i’r cwm;edrychwn ymlaen i’ch cael felcymdogion.TaithBraf yw gweld Tegwen acAldwyth Lewis, Rhos-goch wedidod nôl yn ddiogel ar ôl eu taithi Batagonia.DiolchgarwchNos Fawrth, 9fed o Dachweddcynhaliwyd cyfarfodDiolchgarwch yng NghapelMadog. Croesawodd y gweinidogy Parchg Wyn Rh Morris bawbynghyd gan estyn croeso cynnesi’r pregethwr gwadd, y ParchgEifion Roberts. Cafwyd oedfafendithiol ac amserol a’r capelwedi ei addurno’n hardd gan ychwiorydd. Yr organyddes oeddAngharad Rowlands.DyweddiadLlongyfarchiadau i MichaelReeves, mab Eirlys a TonyReeves, Rickmansworth, wñry diweddar Mr a Mrs ElfynWilliams, Ysgubornewydd ar eiddyweddïad â Ursula O’Leary,merch y diweddar Mr a MrsWilliam O’Leary, Llundain.CydymdeimladCydymdeimlwn â Dai a WendyEvans, Fferm Fronfraith, ar gollimodryb Mrs Ceinwen Page o’rAmwythig, gynt o Llawr y Cwmbach, Bont-goch;hefyd i Gwenda ac Alun Hughes,Troedrhiwgwinau ar golli mamGwenda – Mrs Bet Jones oLanddeiniol.Swydd newyddDymuniadau gorau i WynMorris, Plas y Fronfraith yn eiswydd newydd yn ddarlithyddastudiaethau busnes ymMhrifysgol Aberystwyth.Wedi’r stormBu un pen o’r Parsel hebgysylltiad ffôn (a gwe) am o leiafwythnos ar ôl i bolyn teligraffsyrthio yn y storm. Gyda’r Tincerar fynd i’r wasg nid oes dim sônam neb yn dod i’w drwsio.CYNGOR CYMUNED TIRYMYNACHLlywyddwyd cyfarfod yrHydref o’r Cyngor gan yris-gadeirydd y Cyng HeulwenMorgan. Yn dilyn rhaiargymhellion yn y cyfarfoddiwethaf penderfynwydmai gorau fyddai cael rhagoro brisiau am feinciau syddwedi eu llunio o ddeunyddail-gylchu. Nid oes sicrwydderbyn hyn bod trydan wedi eigysylltu i’r lamp ger Bryndolenyn Blaenddol. Gofynnir i’rtrydanwyr edrych i mewn i’rmater. Disgwylir i’r gordyfiantger Capel Noddfa gael ei dorriyn fuan.Derbyniwyd adroddiadmisol gan y Cyng Sir, y CyngPaul Hinge. Dywedodd body gwaith papur partheduwchraddio rhan o Maesafallenyn mynd yn ei flaen, a bodcyfarfod i fod yn fuan, yn ôly drefn, i’w gynnal yn FestriNoddfa. Cyflwynodd gopio adroddiad sefydlu gorsaftrên yn Bow Street. Mae’rawdurdodau wedi derbynmai yn Bow Street y bydd yrorsaf yn hytrach nag ariannuun arall ym Mhowys. Maegolau Maes Ceiro wedi eiddiwygio fel bod y lampauyn gwybod y gwahaniaethrhwng nos a dydd. Gyda gofidyr adroddodd nad yw fforddClarach o Bow Street yn caelblaenoriaeth i’w graeanu panddaw tywydd drwg. Gobeithirgosod arwyddion i arafu’rdrafnidiaeth wrth groesfforddLlangorwen yn fuan. Maenifer o ddamweiniau yndigwydd wrth y bont ger yreglwys hefyd. Gyda thristwchy cyfeiriodd at ddamwainarall ger Dolgau, a brofoddyn angheuol, ac mae eisoesyn trafod gydag Adrannau yFfyrdd am gael sythu’r gornelberyglus hon.Codwyd y mater bod lorïauuchel yn methu mynd o danBont Rhydhir ac yn gorfodbacio yn ôl i Bow Street ganachosi trafferth i fodurwyra niweidio ffensys IBERS. Osgellir symud yr arwyddionsy’n dynodi uchder y bont ynôl i Bow Street, efallai y gellirosgoi y broblem hon.CYNLLUNIO. Derbyniwydgwybodaeth fod cais am newiddefnydd unedau yn Nantllanwedi ei ganiatáu. Roedd hwnyn mynd yn ôl i 2008.Derbyniwyd cais oddi wrthGlwb Pêl-droed Bow Streetam gyfraniad tuag at ei nosongymdeithasol o Dân Gwyllt.Penderfynwyd cyfrannu £125.Datgelodd y Cyng VernonJones ei ddiddordeb yn yreitem hon ac ni chyfrannoddi’r drafodaeth. Yr un modddatgelodd y Cyng Harri Petcheei ddiddordeb pan ddaethllythyr oddi wrth Bwyllgory Cae Chwarae yn gofyn amgefnogaeth (trwy lythyr) i’radrannau priodol am gaelehangu y cwrt chwarae tennisa’r man ymarfer chwaraeon.Penderfynwyd cefnogi’r cais.Yr unig fater ariannol oeddtalu bil torri porfeydd am yflwyddyn sef £800. Bydd ycyfarfod nesaf ar 25 Tachwedd.ABER-FFRWD A CWMRHEIDOLDiolchHoffai Eirlys Davies, Caehaidd,ddiolch o galon i bawb am ydymuniadau da a dderbynioddyn ystod ei salwch diweddar. Maeyn ei werthfawrogi yn fawr iawn.Urdd y BenywodCafwyd noson ddiddorol iawnddechrau Hydref yng nghwmniLloyd Edwards, Penrhyn-coch pany bu yn datgelu rhai cyfrinachaugwneud jam a tsytni ar gyfersioeau. ‘Roedd wedi dod a nifer owahanol ddanteithion er mwyn ini gael eu blasu. Nos Lun gyntafyn Nhachwedd cawsom noson yngwneud gwahanol bethau allano hen glytiau. Llwyddodd rhai iwneud bandiau ar gyfer eu gwisgoyn y gwallt. Croesawodd einllywydd Norma Stephens pawb yngynnes iawn i’r ddau gyfarfod ymaa da oedd cael cwmni cymaint owragedd yr ardal yn y ddwy noson.TeleduBu Mair Stanleigh, Dolfawr,ar y rhaglen deledu Wedi 7 ynddiweddar yn dreifio ei char arhyd ffordd y Cwm. Mae hi yn 97oed ac yn dal i ddreifio ac ar hyno bryd hi yw yr yrrwraig hynafyng Nghymru. Tipyn o record agobeithio y deil i fynd am nifer oflynyddoedd eto!Capel Llwyn-y-groesCynhaliwyd ein CwrddDiolchgarwch eleni eto gyday Parchg Eifion Roberts,Capel y Morfa, yn bregethwrgwadd. Cafwyd gair o groesogan Elizabeth Lewis a’rorganyddes oedd Delyth Davies,Maencrannog. Roedd y Capelwedi ei addurno yn hyfryd iawna diolch o galon i bawb am eupresenoldeb eleni eto.DyrchafiadLlongyfarchiadai i GlenysWilliams Ty’n Wern ar gael eidyrchafu yn Uwch-ddarlthydd ynAdran y Gyfraith ym MhrifysgolAberystwyth.Priodas RuddemLlongyfarchiadau hwyr i Hywelac Ann Ellis, Hywelfan, arddathlu eu priodas ruddemddechrau mis Hydref.