12.07.2015 Views

Y Tincer 333 Tach 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 333 Tach 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 333 Tach 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

16 Y TINCER TACHWEDD 2010John Meredith. Yr Hwn Ydwyf:Hunangofiant John Meredith. YLolfa. 141t. £7.95.I unrhyw un drosdrigain oed byddai’nanodd anghytuno âdwy frawddeg a welirym mhennod gyntaf ygyfrol hon, sef ‘’Rwy’nteimlo mai ‘nghenedlaethi oedd yr ola cyn ynewid cymdeithasolmawr. Am genedlaetheroedd yr ardal wedibod yn ddigyfnewid’. A chofnod o’rparhad hwnnw pan oedd yr awduryn mwynhau ei blentyndod yn yBont yw un o benodau difyrraf ygyfrol ddifyr hon. Ond cyn dodat ei fabinogi y mae’n rhoi inniadroddiad llawn a manwl o’r nosonryfeddol honno ym Medi 1997pan gyhoeddodd i’r genedl – oflaen pawb arall – ac yn ramadegolgysact, fod Cymru wedi cymrydcam sylweddol tuag at ei rhyddidgwleidyddol. Campus o stori ydyw,ac nid llai diddorol yw’r gweddillchwaith. Yn wahanol i lawer ohonoma fagwyd mewn pentrefi gwledigyng Ngheredigion, yr oedd gan Johnberthnasau’n cadw siop yn Llundain,a byddai’n mynd ei hunan bach ostesion Strata i Paddington, ac yncael cyfle adeg gwyliau ysgol i brofibywyd tipyn prysurach y Babylonfawr honno, a rhoi i ni yn y fargenddarlun o fywyd bob dydd y siopa rownd laeth a oedd yn eiddo i’wewythr a’i fodryb. O Ysgol y Bonti Ysgol Tregaron, ac oddi yno iweithio mewn labordy yngNgholeg Aberystwyth lle buiddo ran, ymhlith pethaueraill, yn datblygu sebongwallt i Johnson & Johnson.Aeth ei waith ag ef a’i deulu iAmerica, a diddorol eto yw’rhanes a gofnodir am y daithhonno. Fel gohebydd trylwyrar y cyfryngau y bydd y rhanfwyaf ohonom yn synio amJohn Meredith, a chawn ymahanes ei yrfa ar y radio a’r teledu,hanes sy’n llawn o bethau diddorolmegis hedfan yn Concord, achosSiôn Jenkins a hyd yn oed y tornadohwnnw a drawodd Bow Street bethamser yn ôl. Daw ei ddiddordebmewn chwaraeon, yn enwedigpêl-droed a chriced, i’r amlwg yngyson, a bydd yr atgofion a’r hanesionam y timau pêl-droed lleol yncanu clychau yng nghof llawer un.Adroddir y cyfan mewn Cymraegglân a chartrefol, ac mewn cyfrol sy’norlawn o ffeithiau, ni sylwais i ondar ddau lithriad bach. Ar dudalen 80dywedir i Richard Burton farw ynAmerica. Yn y Swistir y digwyddoddhynny. Ac ar dudalen 96 cyfeiria at uno’i gyd-ohebwyr ar ‘Helo Bobol’ gyntwrth yr enw Catrin Stephens lle dylaifod yn Catrin Stevens. Ond mewncyfrol mor ddiddan nid yw hynnyond mân lwch y cloriannau.Tegwyn JonesYSGOL PENRHYN-COCHRuth JenCroesawyd Ruth Jen i’rysgol i weithio gyda hollddisgyblion yr ysgol. Buyma am ddau ddiwrnod yncreu baneri yn seiliedig ary tymhorau. Bydd y banerihyn yn cael eu gosod ynneuadd yr ysgol. Cafwydllawer o hwyl wrthi yngweithio a chrewyd baneriarbennig iawn. Diolch i Rutham ddod atom.Ysgol PenweddigYn ddiweddar, gwahoddwyddisgyblion blynyddoedd5 a 6 i ymweld â YsgolGyfun Penweddig. Pwrpasyr ymweliad oedd igymryd rhan mewngwers Wyddoniaeth odan arweiniad Mr GarethLewis a Mrs Sandra Laverty.Treuliwyd prynhawnarbennig yno yn arbrofiwrth losgi amryw o eitemau.Bu hyn yn gyfle gwych i’rdisgyblion i ddysgu sgiliaugwyddonol newydd o danamgylchiadau arbenigol.Diolch yn fawr iawn i’rPennaeth, Mr Llwyd Ifan amy gwahoddiad ac i’r staff am ycroeso a gafwyd. Gobeithiwndrefnu ymweliadau tebyg yny flwyddyn newydd.DiolchgarwchCynhaliwyd ein GwasanaethDiolchgarwch ar ddyddGwener olaf cyn hannertymor. Bu pob dosbarthwrthi yn cymryd rhana chasglwyd nwyddauamrywiol o’r disgyblion. Ynystod y prynhawn teithioddClwb Côr yr ysgol i GartrefTregerddan, Bow Street iddiddanu’r trigolion. Bu’rdisgyblion yn canu nifer oganeuon ac yna rhannwydy nwyddau o amgylch ytrigolion. Diolch i’r staff amy croeso.Inter Milan Ceredigion!Rhwng 1948 a 1953 bu Trefeurig& District United yn chwaraepêl-droed yng nghynghrairAberystwyth a’r Cylch. Mewnpum tymor chwaraeasant 94o gêmau cynghrair gan ennillond 13. Adroddir eu stori mewnllyfryn newydd dwyieithog Canerismelyn Trefeurig / Trefeurig’s yellowcanaries, o waith Richard E. Huws, agyhoeddwyd ym mis Tachwedd.Mae’r llyfr nid yn unig yn rhoihanes y tîm, ond mae’n groniclpwysig hanesyddol a chymdeithasolo oes a fu. Chwaraeai’r tîm argae oedd dros 700 troedfedduwchben y môr ym Manc-y-darrenmewn ardal ddiarffordd yngngogledd Ceredigion, a thynnwydchwaraewyr o bentrefi pell ac agosi’w gynrychioli. Dibynnai’r clwb ynbennaf ar chwaraewyr o bentrefiplwyf Trefeurig fel Banc-y-darren,Cwmerfin, Cwmsymlog aPhen-bont Rhydybeddau, ond ynogystal bu’n rhaid denu chwaraewyro bentrefi cyfagos fel BowStreet, Capel Bangor, Derwen-las,Llanbadarn Fawr, Llanfarian,Taliesin, Tal-y-bont a Thrawsgoed.Daeth nifer o fechgyn hefyd oAberystwyth a Phenparcau, acymhlith y 70 a fu’n cynrychioli’rtîm roedd nifer o fyfyrwyr ybrifysgol. Mae’r llyfryn yn cynnwysbywgraffiad byr o bob chwaraewr,ac mae’n ddiddorol i nodi bod yneu plith fechgyn o dras Albanaidd,Almaenaidd, Eidalaidd a Gwyddelig,yn ogystal â nifer o Saeson aymsefydlodd yn yr ardal. Fel InterMilan roedd Trefeurig hefyd yndîm rhyngwladol !Yr awdur yw Richard E. Huws,Bont-goch, cyn-aelod o staff LlyfrgellGenedlaethol Cymru, a gyhoeddoddThe football and rugby playing fieldsof Wales o wasg Y Lolfa yn 2009.Ysgrifennwyd y rhagair gan TegwynJones, Bow Street, a fu’n chwaraewrac yn gefnogwr Trefeurig. Mae’r llyfrhefyd yn cynnwys nifer o luniaugrãpiau ac unigolion.Cyhoeddir Caneris melyn Trefeurig/ Trefeurig’s yellow canaries, 72tt,(ISBN:978-1-84771-311-7) gan yrawdur, Richard E. Huws, Pantgwyn,Bont-goch, Ceredigion, SY24 5DP.(01970-83256 / rehuws@aol.com) Ei brisyw £6 yn y siopau, neu £7 i gynnwyscludiant a phacio os archebir drwy’rpost.Disgyblion Ysgol Penrhyn-Coch wrthi yn mwynhau gwers Gwyddoniaethyn Ysgol PenweddigAelodau o Clwb Cor yr ysgol yn diddanu trigolion Cartref TregerddanCYFLE I ENNILL COPI!Gyrrwch ateb i'r cwestiwnisod gyda'ch enw a'chcyfeiriad mewn e-bost neudrwy'r post at y golygyddcyn Rhagfyr 10fedPa dim pêl-droed o Gymru sy'n cael ei adnabod fely Caneris?

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!