12.07.2015 Views

Y Tincer 333 Tach 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 333 Tach 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 333 Tach 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Y TINCER TACHWEDD 2010 15COLOFNYDD Y MISRhydian Mason(gynt o Gwmisaf, Trefeurig)Mae 8 mlynedd ers i mi symudi Fachynlleth o Gwmisa’.Bellach, yn briod ag Elen, acyn dad i ddau o blant hyfryd– Gwenllian Meleri a MorganElwyn.Ychydig yn ôl, daeth ypedwar ohonom nôl adre’ iGwmisa’ am bnawn i gael panedgyda Mam a Dad.“Dyna lle aeth dadi i’r ysgol”dywedais wrth Gwenllian wrthddod heibio ysgol Trefeurig.“Oes lot o blant ‘na?”gofynnodd.“Nagoes cariad. Mae’r henle wedi cau.” - Bois bach miwasgodd yr ateb yna arnai.I ysgol Trefeurig aeth fyhen Dad-cu –James (Jim), fyNhad-cu - Elwyn, fy Nhad –Dai, a finne.Ond daeth y gadwyn i ben– fel croes goch Mrs MeganCreunant Davies neu Mrs DellaWilliams ar un o’m llyfrau‘sgwennu - pan roddodd rywfiwrocrat hunan bwysig ei groesgoch ar ddyfodol yr ysgol.Ond, yn ffodus iawn, mae’rgymuned wedi bod yn weithgardros y blynyddoedd yn cynnaldigwyddiadau yn yr adeilad –mae ysbryd Trefeurig, os nad yrysgol ei hun, yn dal yn fyw.Ac mae hyn yn bwysig. Mae’rysgol wedi bod yn bwyntffocws i’r ardal – ysgol, cwrddcystadleuol, sioe’r fro, sinema,dosbarthiadau nos, ffair haf, - miallwn ni sôn am fwy o bethauond dwi’n credu fod y pwyntdwi’n drio’i neud yn glir. MaeYsgol Trefeurig yn parhau i ddalei dir fel canolbwynt Pen-bont,Cwmsymlog, Cwmerfin, aBancydarren.Mae’n adeilad ‘balch’, yno’nsefyll yn sentinel i unrhyw una ddaw fewn i’r hen blwy’. Ar eiwaliau mae’r enwau a naddwydgan y disgyblion i gerrig yradeilad yn ystod amserauchwarae, a thu fewn, ar dalcen ydosbarth mae enwau plant y frona ddaeth yn ôl o’r rhyfeloedd.Ac ambell enw arall, i goffau adathlu’r rhai hynny a ddaeth ynôl yn ddiogel ar ôl gwasanaethu(ac enw’n Nhad-cu ac ambellberthynas arall i mi yn eumysg).Ond nawr, mae bygythiadarall i’r adeilad sy’n symbylutraddodiad ac ysbrydcymunedol y fro.Mae gan y gymuned ond 6mis i ymdrechu i gadw’r ysgol ofewn eu perchnogaeth. 6 mis igodi miloedd ar filoedd – neumi fydd yr hen le yn cael ei roiar y farchnad agored. Cywilydd.Bu cau’r Ysgol Gynradd ynglec flynyddoedd yn ôl. Heb os,mi fydd gwerthu’r hen aelwydbwysig yma’n un caletach fyth.Mi fuaswn wrth fy modd pebuaswn yn gallu prynu’r lle a’iroi yn ôl yn nwylo’r gymuned– wedi’r cyfan, mae fy nyled iysgol Trefeurig yn enfawr.Ond na, does dim tocyn aurgennai.Mi wnâi beth allai – wrthgwrs. A dwi’n siãr, y gwnewchchi hefyd beth allwch chithau.Os gallwch chi helpu mewnunrhyw ffordd, cysylltwch â’rCyngor Cymuned – mae ‘naymgyrch ar gychwyn yno.Ar ôl ei werthu, tybed bewneith Cyngor Ceredigion â’rarian?Prynu mwy o ‘grit’ ar gyferstrydoedd Aberystwyth? Neubrynu swing fach arall i’r caechwarae am ein trafferth efallai?Gobeithio’n wir y cawn einsiomi o’r ochr orau.Mae Rhydian yn YmgynghoryddCysylltiadau Cyhoeddus gydaStrataMatrix.Wil Griffiths: Dyn y MêlGwasg Carreg Gwalch. 112t. £6.50Y gyfrol hon yw rhif76 yn y gyfres ‘LlyfrauLlafar Gwlad’ a fu’nymddangos yn gysono Wasg Carreg Gwalcher 1986. Cyfres ynymwneud â phob matho bynciau a themâuydyw, ac yn y gyfrolddiweddaraf hondyma ein cyflwynoi faes arall eto. A phwy gwell iwneud hynny na’r gwenynwradnabyddus a phrofiadol, ycyn-brifathro Wil Griffiths, sy’nfrodor o ardal Llangwyryfon,ac sy’n byw ar gyrion ardal yTincer yng Nghomins-coch?O’i flynyddoedd cynnar yn eidrowser cwta y mae Wil, ar eigyfaddefiad ei hun, wedi treulioblynyddoedd lawer erbyn hyna’i ‘ben mewn cwch gwenyn’, acfel y dengys y llyfr hwn, wedicrynhoi gwybodaeth eang iawnam fyd rhyfeddol gwenyn amêl. Ond na feddylier neb mairhyw lawlyfr sych a thechnegolar gyfer y rhai sydd eisoes ynwenynwyr yw hwn. Stori syddyma, mewn Cymraeg cartrefol,graenus, am un o ryfeddodaubyd natur, am y modd y byddgwenynen yn dechrau ar eillafur ar ddydd ei genedigaeth,am wahanol ddawnsfeydd ygwenyn sy’n rhoi gwybodaethi ddeiliaid eraill y cwch ambellter, cyfeiriad, dwyster a blasy neithdar cyn iddyntgychwyn ar eu taith i’wgyrchu, ac mor ofalusy mae angen iddyntsylwi ar y wybodaeth,gan bod eu bywydyn dibynnu ar hynnyi raddau helaeth.Dadlennir y modd ybydd gwenynwr yngorfod marcio cefnbach iawn y frenhineser mwyn iddo ei adnabodymhlith y gwenyn eraill yn ycwch, a’r gwahanol ddeunydda ddenyddir i wneud hynny– y lliw a rydd merched areu hewinedd, er enghraifft, acweithiau, ‘tippex’ hyd yn oed.Yn ychwanegol at ymdriniaethdrylwyr â byd y gwenyn – ‘eutrefnusrwydd, eu diwydrwydda’r hyn sy’n perthyn iddynt’chwedl yr awdur, y mae hefydluniau (rhai ohonynt mewn lliwllawn), deiagramau, cartwnaua nifer o anecdotau am ambelldro trwstan a ddigwyddoddi’r awdur mewn perthynas â’iwenyn – un ohonynt yn yBabell Lên ar faes yr EisteddfodGenedlaethol, o bob man. Ceirhefyd Eirfa ddefnyddiol ar ydiwedd. Ddarllenwyr y Tincer,HEIDIWCH ar fyrder i’r sioplyfrau agosaf i chwilio am ygyfrol felys hon.Tegwyn JonesCYMDEITHAS GWENYNWYRCYMRAEG CEREDIGIONMae sôn cynyddol ar led nad yw popeth yn dda ym myd y gwenynac er mwyn ceisio arbed eu tranc mae yna nifer o bobl wedi myndati i ddechrau cadw gwenyn. Fel cymdeithas o wenynwyr rydymyn barod iawn i fod o gymorth i rai sydd â diddordeb ac efallai amddechrau, trwy redeg cwrs dechreuwyr yn y flwyddyn newydd. Amfwy o fanylion ffoniwch Wil Griffiths ar 01970 623334 neu arleinwilmair@btinternet.comTy^ Coch ym 1951. Safai Ty^ Coch ar y gyffordd rhwng y briffordd Aberystwyth- BowStreet lle mae’r tro am Benrhyn-coch. Allt Ty^ Coch enwir yr allt rhwng y briffordd a’rbont rheilffordd a groesir cyn dod at Glyn Deri (arferai gael ei alw yn Royal Oak) aMaes y Deri. Y rhai olaf i fyw yn Ty^ Coch oedd Mr O. Williams a Mrs Mary Williamsa’u mab Gwyn fu’n byw yno o tua 1950 hyda y 1960au. Yn ddiweddarach fedynnwyd y ty^ i lawr. Diolch i Agnes Morgan, Penrhyn-coch am gael benthyg y llun.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!