12.07.2015 Views

Y Tincer 333 Tach 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 333 Tach 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 333 Tach 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

14 Y TINCER TACHWEDD 20<strong>10</strong>GwellaRydym yn falch i glywedfod Dr Mike Leggett,Nantlais, yn dal i wellaar ôl cyfnod yn YsbytyBron-glais yn ddiweddar.MarwolaethTrist yw cofnodimarwolaeth Dr HywelDavies, gynt o Penrhos. Arôl ei ymddeoliad o’r swyddYmgynghorydd Radiolegyn Ysbyty Bron-glaisdychwelodd i’w hengynefin yng NghemaesRoad, Powys. Yr oedd yngymeriad tawel, a parchwydef gan bawb a’i adnabyddai.Ei brif ddiddordebauDOLAUoedd yn gyntaf oll eideulu. Ei gasgliad niferuso wahanol goed a llwynioedd wedi ei plannu ardir ger ei gartref - llawerohonynt o wledydd estron.Bu yn dilyn hynt tîmpêl-droed Lerpwl ers panoedd yn fyfyriwr ynyr Ysgol Feddygol yn yddinas honno, a byddaiyn dal i fod yn bresennolmewn llawer gêm.Wedi ymddeol yr oeddcerdded llwybrau gwledigy ddwy gymdogaeth ybu’n cartrefu ynddyntyn bwysig iawn iddo.Cydymdeimlwn â’i briodElizabeth, a’i dair merch- Susan, Ruth a Sian a’uteuluoedd yn ei colled.Ddiwedd mis Gorffennaf priodwyd Euryl Rees a Bethan Lewis yngNghapel Bethania, Bethesda. Y gwas priodas oedd brawd Euryl -Julian, a’r tywyswyr oedd Rhydian Phillips ddaeth draw o Awstralia,Peter James, James Thomas - ffrindiau, a brawd Bethan - Aled Lewis.Y forwyn briodas oedd Nia Lewis, chwaer-yng-nghyfraith, y forwynblodau oedd Elain Lewis, nith, a Sion Lewis a Sam Rees, neiaint, oeddy gweision bach. Maent wedi ymgartrefu ym Mhenrhyn-coch ers sawlblwyddyn. Llongyfarchiadau mawr iddynt oddi wrth y ddau deulu.ytincer@googlemail.comNid oes signal ffôn fach ar YnysIona. Fe ddysgais hyn ar fy ngwyliaudiweddar i Oban, taith a gynhwysaiddiwrnod ar Ynysoedd Mull ac Iona.Fe roedd lleoliad fy ngwyliaueleni wedi bod yn gryn destuntrafod. Nid oedd gennyf stumogi fynd i Marmaris er fe af eto i lesydd yn agos iawn at fy nghalon.Ynbersonol, nid oedd gennyf fawr oawydd mynd i unman ond yr oeddy teulu yn benderfynol fy modyn mynd ac yn mynd ar fy mhenfy hun, oni bai fod plant Meirionyn siarad Saesneg a’m brodyr a’ugwragedd yn siarad Cymraeg, fefyddent wedi medru canu duetberffaith cymaint eu cytundebar y pwnc. Eu dadl fawr oedd ybyddai yn meithrin annibyniaeth ahyder i deithio ar fy mhen fy hunynof gan fy mod yn amlwg ynmwynhau teithio. A phan yw teulua theulu yng nghyfrairh rhywunyn cytuno, mae’n bryd bodloni i’rdrefn ac ufuddhau. Ac mae’n rhaidi mi gyfaredd eu bod yn llygad eulle.Fy newis cyntaf oedd ynysCreta ond syrthiodd y cynllunhwnnw rhwng y cãn a’r brain ondo bendroni, cefais syniad. Arferai fynain a fy modryb fynd gyda Caelloi*ac onid dyma’r ateb i minnau? Nifyddwn fy hun a byddwn yn sicro Gymry eraill yn gwmni a chanein bod yn genedl mor fechan, feroedd yna hefyd siawns da y byddwnunai yn adnabod rhywun neu ynadnabod cyfeillion un o’m cyd -deithwyr. A gwir y gair a mwynheaisfy hun yn rhyfeddol.Fe roeddwn wedi bod yn yr Albano’r blaen, flynyddoedd meithionyn ôl pan oeddwn yn blentyn.Roeddwn wedi awgrymu sawl gwaithi Meirion ein bod ninnau yn myndond, am ryw reswm, nid oedd y lleyn ei ddenu o gwbl.Gormod o lawa rhy debyg i Gymru fyddai ei atebbob tro gan ei chychwyn hi am yrIwerddon neu Dwrci am sgawt. Ondfe roedd gennyf fi awydd dychwelydyno a mynd i ardal yr Ucheldiroedda’r Ynysoedd a dyna yn union awneuthum.Cawsom dywydd braf iawn ond,ynwir,y mae’r Alban yn debyg iawn iGymru ond ei bod ar raddfa fwy olawer, rhyw un dafn o Loch Lomondyw Llyn y Bala, mae gennyf ofna chorrach eiddil yw’r Wyddfa o’ichymharu a mynyddoedd enfawryr Ucheldiroedd. Ond yr un ywnatur y tirwedd a’r un yw lliwiau ygrug a’r rhedyn a’r un yw croeso ybobl - atom ni Gymry, o leiaf, digonffwrbwt oedd eu hymagweddu at ySassenach!COLOFN MRS JONESUn gwahaniaeth mawr a welaisy tro hwn oedd arwyddiondwyieithog Saesneg a Gaeleg ymmhobman, bron, er mai ychydig o’riaith a glywais. Synnu o weld maiY Garsiwn yw’r enw Gaeleg ar FortWilliam, enw cwbl gywir, wrth gwrs,oherwydd fe’i sefydlwyd fel troedle ifyddin Lloegr ymosod ar gyfundrefnGeltaidd a Gaeleg yr Ucheldiroedd.A synnu deubeth yn Fort Williamei hun. Yr oeddem yno ar brynhawnSul ac yr oedd y lle yn farw gorn, unsiop elusen, tafarn a chaffi yn unigoedd ar agor. Dyna y syndod cyntaf,yr ail un oedd pa mor hir y bumi cyn cofio paham, roeddwn wedillwyr anghofio mai dyna sut oeddhi arnom ninnau tan yn gymharolddiweddar.Pan aethom i Mull, ni ddeallwni yn iawn frwdfrydedd pobl drosweld Tobermory, nid oes dim o’i lear y lle, mae’n bentref digon lliwgarond, yn fy myw, ni allwn ddeall pamfod pobl mor frwd a bu’n rhaid i middisgwyl hyd oni ddeuthum adref achydweithiwr i mi esbonio mai dymagartref Ballamory a chartref rali geirenwog…….Ac ni fedrwn ddeall pam fodyna homar o Tesco’s nid nepello borthladd Oban na pham fodmerched yn dod oddi ar y fferi gydachesys dillad,yn wir, daeth un lleiangyda dau. Holais yrrwr y bys a dymafo yn dweud wrthyf,’mi ddywedai wrthych chi heno pan fyddwnyn sefyll ar Mull i ddal y fferi ynôl…‘Hynny a fu a phan oeddemyn disgwyl yno gyda’r nos,wele’rmerched - a’r lleian - yn ôl a’r cesysyn amlwg drymach…ac roedd yresboniad yn syml pan ddaeth.Rhaidmewnforio popeth i Mull ac Iona amynd i siopa oedd y merched gydaeu cesys a dyna paham fod Tesco morhwylus i’r porthladd. Ac ni fedrwnbeidio a meddwl sawl un ohonynta gyrhaeddai adref wedi anghofiorhywbeth, mi wn mai dyna fyddaify hanes i. A hwnnw y feri peth yroeddwn ei angen fwyaf, mae’n siwr.Roedd Iona yn gyfareddol aswyn yr Abaty,crud Cristnogaethyr Alban,drosti i gyd. Ac er ei fodyn ymddangos yn lle anhygyrchiawn inni heddiw, rhaid cofio nadfelly yr oedd hi pan oedd gafael yCeltiaid ar y moroedd yn sownd.Yr oeddwn wedi addo i’m brodyr yranfonwn neges destun iddynt oddiyno,dyna sut y sylweddolais nad oessignal ffôn fach yno. Ond mae signalgwerthoedd a chredo hñn yn gryfiawn yno.*Caelloi –cwmni bysus o Bwllheli(Gol.)

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!