12.07.2015 Views

Y Tincer 333 Tach 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 333 Tach 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 333 Tach 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Y TINCERPRIS75cRhif 333Tachwedd2010PAPUR BRO GENAU’R-GLYN, MELINDWR, TIRYMYNACH, TREFEURIG A’R BORTHBUDDUGOLIAETH IMELINDWRLLWYDDIANTCERDDOROLDyma lun o dîm buddugoliaethus Criced Melindwr ar ôl ennill Cwpan Criced HafAberystwyth. Wrth gyrraedd y rownd derfynol fe fu i Melindwr guro Rachel’sDairies, Penpadarn a Llanfihangel-y-Creuddyn. Yn y rownd derfynol Tregaron oeddeu gwrthwynebwyr ac ar ôl gêm gyffrous Melindwr ddaeth i’r brig pan fethoddTregaron gael yr wyth rhediad angenrheidol o’r belawd ddiwethaf.Rhes Gefn: Martin Aston a’i fab Morgan (o’i flaen), Mark Evans, Jake Jones, AlexPerry, Patrick Jones, Lee Evans. Rhes Flaen: Brian Ashton, Toby Spain, RichardJones (Capten), Chris Sprawl, Dylan EvansMared Emyr gyda Michael Jakobiec, Cadeirydd y Panel Beirniaid a Cyfarwyddwr yConservatoire yn Tournai. Gweler tudalen 4PLANNUCOEDENRhai o aelodau CangenMercher y WawrRhydypennau, rhanbarthCeredigion a rhai o drigolionCartref Afallen Deg yn plannucoeden gerddinen tu allani’r Cartref i ddathlu deugainmlynedd Merched y Wawr felrhan o gynllun Coed Cadw.

2 Y TINCER TACHWEDD 2010Y TINCER- un o bapurau bro Ceredigion | Sefydlwyd Medi 1977CYDNABYDDIRCEFNOGAETHISSN 0963-925X | Rhif 333 | Tachwed 2010SWYDDOGIONGOLYGYDD - Ceris GruffuddRhos Helyg, 23 MaesyrefailPenrhyn-coch % 828017Rhoshelyg@btinternet.comTEIPYDD - Iona BaileyCYSODYDD - Dylunio GraffEG % 832980CADEIRYDD - Elin Hefin, Ynyswen, Stryd Fawr,Y Borth % 871334IS-GADEIRYDD - Bethan Bebb, Penpistyll,Cwmbrwyno. Goginan % 880228YSGRIFENNYDD - Anwen Pierce46 Bryncastell, Bow Street % 828337TRYSORYDD - Hedydd Cunningham, Tyddyn-Pen-y-Gaer, Llandre, Aberystwyth SY24 5NX% 820652 hedyddcunningham@live.co.ukHYSBYSEBION - Rhodri Morgan, Maes MieriLlandre, % 828 729 rhodrimoc@yahoo.co.ukLLUNIAU - Peter HenleyDôleglur, Bow Street % 828173TASG Y TINCER - Anwen PierceTREFNYDD GWERTHIANT A THREFNYDDCYFEILLION Y TINCER - Bryn Roberts4 Brynmeillion, Bow Street % 828136GOHEBYDDION LLEOLABER-FFRWD A CHWMRHEIDOLMrs Beti Daniel, Glyn Rheidol % 880 691Y BORTHElin Hefin, Ynyswen, Stryd Fawrelin.john@yahoo.co.ukBOW STREETMrs Mair Lewis, 40 Maes Ceiro % 828 102Lynn Phillips, 1 Cae’r Odyn % 820908Anwen Pierce, 46 Bryncastell % 828 337CAPEL BANGOR/PEN-LLWYNMrs Aeronwy Lewis, Rheidol BancBlaengeuffordd % 880 645CAPEL MADOG, CEFN-LLWYD A CAPEL DEWIDai Evans, Fferm Fronfraith, Comins-coch,% 623660Elwyna Davies, Tyncwm % 880275DÔL-Y-BONTMrs Llinos Evans, Dôlwerdd % 871 615DOLAUMrs Margaret Rees, Seintwar % 828 309GOGINANMrs Bethan Bebb, Penpistyll,Cwmbrwyno % 880 228LLANDREMrs Mair England Pantyglyn, Llandre % 828693PENRHYN-COCHMairwen Jones, 7 Tan-y-berth % 820642TREFEURIGMrs Edwina Davies, Darren VillaPen-bont Rhydybeddau % 828 296DYDDIADUR Y TINCERY DYDDIAD OLAF Y BYDD GOHEBWYR LLEOL YN DERBYN DEUNYDD ARGYFER Y RHIFYN NESAF FYDD RHAGFYR 2 a RHAGFYR 3 I’R GOLYGYDD.DYDDIAD CYHOEDDI RHAGFYR 16TACHWEDD 13 – 22RHAGFYR “Peidiwch dweudwrth y diaconiaid...” Arddangosfao waith diweddara’r arlunyddlleol Ruth Jên ym Morlan,Aberystwyth.TACHWEDD 25 – 26 DyddiauIau a Gwener Cwmni Mega yncyflwyno Myrddin am 9.45am a12.45pmTACHWEDD 26 Nos WenerCwis dan ofal Gwyn Jenkins,Tal-y-bont. CymdeithasLenyddol y Garn yn festri’r Garnam 7.30TACHWEDD 27 Bore SadwrnFfair Nadolig Capel y Garn, ynNeuadd Rhydypennau rhwng 10a 12.00.RHAGFYR 1 Dydd MercherCwmni Martin Geraint ynCyhoeddir y Tincer yn fisol o Fedii Mehefin gan Bwyllgor y Tincer.Argreffir gan y Lolfa, Tal-y-bont. Nidyw’r Pwyllgor o angen-rhedirwydd yncytuno ag unrhyw farn a fynegir yny papur hwn. Dylid cyfeirio unrhywnewyddion i’ch gohebydd lleol neui’r Golygydd, ac unrhyw lythyr neuddatganiad i’r wasg i’r Golygydd.Telerau hysbysebuTudalen lawn (35 x 22 cm)£100Hanner tudalen£60Chwarter tudalen£30neu hysbyseb bach ca. 5 x 8 cm £6 yrhifyn - £40 y flwyddyn (10 rhifyn -misol o Fedi i Fehefin); un rhifyn - £10neu dau rifyn £15Cysyllter â Rhodri Morgan os amhysbysebu.cyflwyno ‘Martyn Geraint a’r lamphudol’ am 10.00 ac 13.00RHAGFYR 2 Nos Iau Theatr BaraCaws yn cyflwyno’r ddrama ‘100’yng Nghanolfan y Celfyddydauam 7.30RHAGFYR 2 Nos Iau FfairNadolig Cylch Meithrin Trefeurigac ymweliad gan Siôn Corn yngNghlwb Pêl-droed Penrhyn-cochrhwng 3.45-6.45. Bydd cawl ar gael.RHAGFYR 3 Nos Wener NosonGoffi a Raffl Fawr ; adlonianti ddilyn gan Eleri, Trefor a’uffrindiau yn Neuadd yr Eglwys,Capel Bangor rhwng 7 – 8.00RHAGFYR 3 Nos Wener Nosongoffi Nadoligaidd a stondinau acymweliad arbennig gan Siôn Cornyn festri Bethlehem, Llandre am6.30 yr hwyr. Yr elw i goffrau’rTincer. Trefnir gan Banc Bro.RHAGFYR 4 Nos Sadwrn Gwinpoeth a mins peis ac ymweliad ganSiôn Corn yn Neuadd Eglwys SantIoan, Penrhyn-coch rhwng 6 – 8.00RHAGFYR 7 Nos FawrthCyfarfod PACT yn festri Horeb,Penrhyn-coch am 7.00RHAGFYR 8 Nos FercherCyngerdd Bois y Fro ym mhentrefCapel Seion am 7.30RHAGFYR 16 Nos Iau PlygainTraddodiadol dan nawddCymdeithas y Penrhyn yn EglwysSant Ioan, Penrhyn-coch am 7.30RHAGFYR 17 Nos WenerDathlu’r Nadolig gyda AlanWynne Jones ac Alun Jones.Cymdeithas Lenyddol y Garn ynfestri’r Garn am 7.30CYFEILLION Y TINCERDyma fanylion enillwyr Cyfeillion Y TincerMis Hydref 2010.£25 (Rhif 112) Mair Evans, 24 Glan Ceulan,Penrhyn-coch.£15 (Rhif 115) Margaret Williams, Bryn Golau,Llandre.£10 (Rhif 54) John Ifor Jones, 4 Maes Y Felin,Penrhyn-coch.Fe dynwyd y rhifau buddugol gan Eleri Robertsa Ceris Gruffudd yn dilyn ymarfer Côr Cantre’rGwaelod nos Sul 9fed o Hydref. Cysylltwch â’rTrefnydd, Bryn Roberts, 4 Brynmeillion, BowStreet, os am fod yn aelod.Am restr o Gyfeillion y Tincer 2010 gwelerhttp://www.trefeurig.org/uploads/cyfeilliontincer2009.pdfY Tincer ar dâp - Cofiwch fod modd cael Y Tincer ar gaset ar gyfer y rhai sydd â’r golwg yn pallu. Mae pymthegeisoes yn manteisio ar y cynnig. Os hoffech chi dderbyn copi o’r tâp, cysylltwch â Mrs Vera Lloyd, 7 Maes Ceiro,Bow Street % 828555.Camera’r Tincer - Cofiwch am gamera digidol y Tincer – mae ar gael i unrhyw un yn yr ardal fydd am eifenthyg i dynnu llun ar gyfer y papur o gyngerdd, cinio neu ddigwyddiad a gynhelir o fewn ein dalgylch. Fe’icedwir gan Mrs Mair Lewis, 40 Maes Ceiro, Bow Street (% 828102). Os byddwch am gael llun eich noson goffiyn Y Tincer defnyddiwch y camera.

Y TINCER TACHWEDD 2010 3Cyfle i Ymarfer eichCymraegAnnwyl Gyfeillion,Ydych chi’n adnabod rhywunsy’n dysgu Cymraeg, neusydd heb siarad rhyw lawer oGymraeg ers sbel ? Rydym ni’ntrefnu noswaith bob mis i boblgael cymdeithasu yn anffurfiolac ymarfer eu Cymraeg ynNhafarn y Rhydypennau.Trefnir yr un nesaf am 9 o’rgloch, nos Lun 29 Tachwedd.Croeso i bawb, gan gynnwyssiaradwyr rhugl a hoffai roi helpllaw.Yn gywir,Matthew ClubbDiolchDymuna’r Parchg ElwynPryse ddiolch yn gywir iawnam yr haelioni a’r cyfarchiona dderbyniodd ar achlysurarbennig yn ddiweddar. Hebanghofio am Y Parti arbennig(a hynny yn gwbl annisgwyl acyn dipyn o syndod) a drefnoddCymdeithas y BorthCymdeithas BrodwaithCymruMae Cymdeithas BrodwaithCymru yn cynnig ysgoloriaeth ohyd at £300 i fyfyriwr Cymraegsy’n dilyn cwrs tecstilaumewn coleg. Dyma’r pumedtro i’r Gymdeithas gynnig yrysgoloriaeth hon. Amcanionein Cymdeithas yw hyrwyddobrodwaith drwy gyfrwng yGymraeg, a threfnir cyrsiau,darlithoedd, dosbarthiadau acarddangosfeydd mewn ardaloeddledled Cymru.Diffinnir Brodwaith fel unrhywwaith sydd yn addurno ganddefnyddio edau a nodwydd, acheir amrywiaeth o dechnegauar gyfer hyn. Mae gennymarddangosfa o waith yr aelodauyn yr Eisteddfod Genedlaetholbob blwyddyn.I gael ffurflen gais neu ychwanego wybodaeth cysylltwch âMedwen Charles, Maes Meini,Rhyduchaf, Y Bala, LL23 7SD.maes.meini@lineone.net Ydyddiad cau fydd 30 Ionawr, 2011.30 Mlynedd ’NôlYsgol yr Hendre – Trelew, ChubutPatagonia – Yr ArianninRydym yn chwilio am athro/athrawes Cymraeg, syddwedi derbyn hyfforddiant argyfer addysgu mewn YsgolGynradd i weithio am 10 misyn Ysgol yr Hendre yn ninasTrelew ym Mhatagonia. Byddy tymor addysgu yn cychwynym mis Mawrth ac yn dodi ben ym mis Rhagfyr, gydaphythefnos o wyliau ym misGorffennaf.Mae Ysgol yr Hendre yncynnig gwersi trwy gyfrwngy Sbaeneg yn ogystal âthrwy gyfrwng y Gymraeg.Blwyddyn 4 yw’r dosbarthuchaf ar hyn o bryd, ond o fisMawrth 2011, bydd yr ysgol yncynyddu i gynnwys Blwyddyn5. Ystod oed y disgyblion yw3 i 10, ond nid ydynt yn siaradCymraeg gartref. Mae’r systemaddysg ym Mhatagonia ynwahanol iawn i’r drefn oaddysgu sy’n bodoli yngNghymru. Yr ydym felly ynchwilio am berson brwdfrydig,sydd yn hoffi gweithio gydaphlant, ac sy’n abl i weithio’nhyblyg mewn amryw owahanol sefyllfaoedd.Bydd y sawl a benodiryn cydweithio yn yr ysgolgydag Athrawes Sbaeneg, adisgwylir iddo/iddi fod ynbarod i ymgymryd â gwahanolweithgareddau allgyrsiolgyda phlant yr ysgol, felEisteddfodau a nosweithiaullawen.Bydd y diwrnod gwaithyn cychwyn am 8 y bore acyn gorffen am 4 y pnawn.Darperir cinio canol dydd ynyr ysgol.Bydd yr ysgol yn talu amdocyn awyren o Lundain iDrelew. Telir cyflog athro/athrawes ar raddfa tâl yWladfa. Darperir llety a bwydgyda theulu o’r ardal, o bosibyng nghartref un o’r rhienisydd â phlentyn yn mynychu’rysgol.Os oes gennych chiddiddordeb yn y swydd, neuos ydych chi am dderbyn mwyo fanylion cysylltwch â’r ysgola/neu anfonwch eich CV at:ysgolyrhendre@gmail.comOs am air anffurfiol am yswydd gellir cysylltu hefyd âTegid a Nant Roberts ar 01286870760Diolch ymlaen llaw am eichcydweithrediad.Tegid a Nant Roberts.Bu newid dwylo yn hanesSwyddfa Bost, Bow Street,yn ddiweddar ac yn yllun hwn gwelir yr hena’r newydd. Ar y dde ymae Mr a Mrs Wookey,sydd newydd ymadael â’rardal. Dymunwn yn ddaiddynt ar eu hymadawiad,adiolchwn iddynt ameucaredigrwydd a’ucymwynasgarwch yn ystodeu harhosiad cymharolfyr yn ein plith, ac am ydiddordeb a ddangosodd yddau ym mywyd yr ardalhon. Ar y chwith , y maeeu holynwyr, Mr a MrsJohn Owen, Ganed MrJohn Owen yn Llanidloes,ond maged ef yn NhñCam, Cwmrheidol, aganed ei briod, Maria, ynLlwyn-y-gog, Cwmpadarn.Croesawn y ddau yngynnes iawniardal y Tincera dymunwn bob llwyddiantiddynt ar ddechrau’rbennod newydd hon yn euhanes.Llun: Bill Evansytincer@googlemail.comGolygydd y Tincer gyda disgyblion Ysgol yr Hendre, Trelew ar ymweliad diweddarY TINCER

4 Y TINCER TACHWEDD 2010Amnest RhyngwladolAr ddydd Gwener Hydref 22ain,cynhaliodd Jenny a StuartEvans eu parti blynyddol igodi arian tuag at AmnestRhyngwladol. Roedd Jennywedi paratoi digonedd o gyriblasus i fwydo’r hanner cantdrodd i fewn, ac fe aeth ynoson rhagddi’n hwylus drosben! Daeth cyfraniadau blasusar ffurf saladau a phwdinauo bob rhan o’r Borth ac fegodwyd £300 tuag at achosteilwng dros ben.ArddangosfaCafwyd agoriad o arddangosfaar nos Wener 29ain yn‘Adrift’, Styd Fawr, y Borth- yr artist dan sylw oeddTracy Anne Smith. Roeddllawer iawn o’r paentiadau ynportreadu golygfeydd o droeon(roofscapes) Aberystwyth,achawasant ymateb da ganbawb-mor dda yn wir, nesi sawl un ohonynt gael eugwerthu yn y fan a’r lle. Byddyr arddangosfa i’w gweld nes yr20fed o Dachwedd.Pêl droed – Helyg Geryr HeliPrynwyd yr holl goedoedd ar werth (25ain i gyd),gan drawsdoriad o bobl yBeth yw eich enw? AlisonHincksFaint yw eich oed? Rwy’nhanner cant oed.Ers faint ydych chi wedibod yn dysgu Cymraeg?Dechreuais i ddysgu Cymraegpan oeddwn i’n bymtheg oed.Doedd dim modd i neb ddysguyn yr ysgol ar y pryd, ond es iddosbarth nos, a hefyd ymuno âgrãp bach o bobl lleol i ymarfersiarad.Ble oeddech chi’n dysguCymraeg?Roedd y dosbarth nos yn yGanolfan Hamdden, ac roeddyr athro yn Ficar. Roedd ynhoff iawn o chwarae recordiau obobl yn canu yn Gymraeg inni.Er mod i’n cofio mwynhau, ‘dwBorth-rhai i gofio am anwyliadac eraill gan sefydliadau oeddam gyfrannu. Edrychwnymlaen i’w gweld yn harddu’rmaes , heb anghofio’r elfenymarferol, sef y byddant ynarbed y peli rhag diflannu i’rafon! Mae’n debyg y bydd mwyo goed ar werth gyda hynrhywbymtheg arall i gyd (osam brynu coeden, cysyllter âPeter ar 871042.)Plenir y coed fore Sul Tachwedd21ain gan Rob Davies a PhillJones.Noson Calan GaeafTrefnwyd noson yn Neuaddy Pentre i ddathlu CalanGaeaf gan y Clwb Pêl Droedar nos Sadwrn 30ain o Hydref.Roedd yr hen ffefrynau ‘TheVillage Idiots’ yn difyrru’rdorf. Cyflwynwyd sieciau’rCarnifal i amryw sefydliadau’rpentre, trefnwyd loteri/ocsiwna chodwyd y swm anrhydedduso dros £3,000. Cafwyd nosonardderchog i’w chofio.Llwyddiant cerddorolLlongyfarchiadau i MaredEmyr, 5 Ffordd Clarach, arei llwyddiant rhyngwladoldiweddar. Teithiodd Mared,sy’n ddisgybl 12 oed ynYsgol Penweddig, i Tournaiyng Ngwlad Belg i gystadluY BORTHDysgwr y misddim yn credu y dysgais i laweriawn fel ‘na! Roedd dysgwyr yrardal yn cwrdd mewn ystafellgefn mewn tafarn o’r enw ‘YGwesty Bach’ ym Mryn-mawr, agawsom ni lawer o hwyl yno!O le ydych chi’n dod ynyng Nghystadleuaeth TelynFelix Godefroid. Roedd ygystadleuaeth yn agored idelynorion hyd at 30 oed, igystadlu mewn pedwar grãpoedran, ac enillodd Mared ywobr gyntaf o 250 Euro ynyr adran iau o dan 16 oed.Trefnwyd y GystadleuaethRyngwladol am y tro cyntafi ddathlu canmlwyddiantmarwolaeth Felix Godefroid ynNhachwedd 1997. Cynhelir ygystadleuaeth pob tair blyneddgyda phanel o chwe beirniad,yn delynorion byd-enwoga cherddorion o Ewrop, anoddir y gystadleuaeth gany gwneuthurwyr telynauo Ffrainc, Telynau Camac.Yn dilyn perfformiad 10munud o dri darn o’r cofgosodwyd Mared ar y briggyda thelynoresau o Ffrainc,Yr Almaen a Sbaen yn ail,trydydd a phedwerydd, gansicrhau fod y gystadleuaethyn un wir ryngwladol. Er maidyma lwyddiant cyntaf Maredar y llwyfan rhyngwladol maewedi ennill nifer o wobrauyng Nghymru, gan gynnwysy wobr gyntaf ar yr UnawdTelyn dan 16 oed yn EisteddfodGenedlaethol Meironnydda’r cyffiniau 2009 pan yn 11oed, a’r wobr gyntaf ar yrUnawd Telyn Oedran Cynraddyn yr ãyl Cerdd Dant ymMhontrhydfendigaid ynwreiddiol? ‘Dwi’n dod oNant-y-glo ym MlaenauGwent (Sir Fynwy gynt). Roedd‘na dueddiad pan oeddwni’n blentyn i bobl ddweudbod Sir Fynwy ddim, mewngwirionedd, yn perthyn iGymru. Er hynny, roeddwni wastad yn meddwl yn gryfmod i’n rhyw fath o Gymraes,hyd yn oed cyn dysgu yr iaith.Pam benderfynoch chiddysgu Cymraeg? Roeddwni’n frwd i ddysgu oherwyddmod i wastad wedi teimlo bodrhywbeth ‘ar goll’, rhywsut.Pryd, neu gyda phwy ydychsiarad Cymraeg? ‘Dw’n siaradCymraeg gyda fy nheulu, fyffrindiau, yn y gwaith bobdydd, ac hefyd gyda unrhyw unarall sy’n fodlon!Nhachwedd 2007.O ganlyniad i’w llwyddiantyn Tournai, derbyniodd Maredwahoddiadau i fynychu gãyldelynau yn Lloegr yn 2011 ac iberfformio mewn cyngerdd oenillwyr rhyngwladol yn ail ãylDelynau Bangkok ym mis Awst2012.Hoffai Mared ddiolch i’whathrawes Caryl Thomas, YBont-faen am ei hysgogiad a’ihanogaeth barhaus; a hefydi Mr Gwenallt Llwyd Ifan,Pennaeth Ysgol Penweddig, amei holl gefnogaeth.Hirddisgwyl am yMorglawddMae’r gwaith ar Penro yn dali fynd yn ei flaen; yr hen goedyn cael haen newydd ar eupennau, a’r cyfan yn cael eigryfhau gogyfer â’r Gaeaf. Ondar hyn o bryd does dim cyffroar y gwaith newydd. Y gobaithyw y bydd y traeth yn fwrlwmo beipiau a dynion y mis nesa’.Brysied y dydd.Gwen LloydMae’r pentre’n cyd alaruâ Deryk Lloyd ar golli eichwaer ar yr 8fed o Hydref.Roedd Gwen yn 97 oed, rhaiblynyddoedd yn hŷn na’ibrawd Deryk, (gãr hynaf yBorth). Bu’r ddau yn cydfywam flynyddoedd ar ôl dodi Gymru o Rotterdam.Cydymdeimlwn hefyd â brawdarall i Gwen, sef–Eddie, sy’nbyw yn Middlesborogh.Olwen EnglandBu farw un arall o’r pentrefwyrddiwedd mis Hydref, sef Mrs.Olwen England, Annedd Wen,y Borth. Cydymdeimlwn â’iphlant Paul a Sally yn eucolled.GeniGanwyd Louise Evans, merch iRobin a Luana Evans, MundingHouse, ddechrau mis Hydref.Wyres newydd i Idris ac ErylEvans , Ger Y Don, a chwaer iTom a Dan Evans.Y Bad Achub -GwirfoddolwyrMae’r Bad Achub ar hyn o brydyn chwilio am ferched a dynioni ymuno â thîm Bad Achub

Y TINCER TACHWEDD 2010 5y Borth. Os oes diddordebgennych i ymuno, a wnewchchi, os gwelwch yn dda, alw iweld Ronnie yng ngorsaf y BadAchub ar fore Sul am 10.00.Cymdeithas Gymraeg yBorth a’r CylchDaeth yr aelodau ynghyd iFestri’r Gerlan i gyfarfod cyntafy tymor newydd nos FercherHydref 13 i drefnu rhaglen ygaeaf. Diolchwyd i’r cyn-lywyddy Parchedig Wyn Morris am eilafur ac yn arbennig am y daithddiddorol ddiwedd y tymor iodre Ceredigion a drefnwyd ganJudith ac yntau. Yn absenoldebMair Lewis y Llywydd newyddllywyddwyd gan Richard eiphriod ac ar ôl rhoi trefn ary rhaglen cafwyd orig ddifyryn ateb cwestiynau’r cwis adrefnwyd gan y ParchedigRichard Lewis gyda’r ddau dîmyn gyfartal ar y diwedd!GOLCHDYLLANBADARNCYTUNDEB GOLCHIGWASANAETH GOLCHIDUFET MAWRCITS CHWARAEONFFÔN: 01970 612 459MOB: 07967 235 687GERAINT JAMESDiolchwyd hefyd i’nhysgrifennydd Llinos Evans aci Glynne ac Elizabeth Evans, ynaill wedi bod yn drysoryddgofalus am flynyddoedd a’r llallwedi gofalu cynnwys hanes eincyfarfodydd yn Y Tincer. Eincofion atynt gan obeithio fodGlynne yn gwella ar ôl ei salwch.Bydd Llinos yn parhau ynysgrifennydd, etholwyd JohnHughes yn is-Lywydd a DavidS. Evans yn Drysorydd.Cynhaliwyd ein hailgyfarfod ar Dachwedd 10 danlywyddiaeth Mair Lewis agan nad oedd Elwyn Pryse yngwybod fod yna barti wedi’idrefnu i ddathlu’i ben blwyddyn 80 oed, cafodd dipyn oSYRPRYSE! Roedd MargaretGriffiths wedi paratoi pobmath o fwyd a danteithion arein cyfer a diolchwn iddi hiac i Mair a Llinos am baratoinoson hwyliog. Sioc i tad-cuhefyd oedd gweld Eilir ei ãyr aMeleri ei wyres yno’n disgwylam Tegwen ac yntau yngnghwmni Maldwyn ac Eleri.Gwerthfawrogwyd cyflwyniadaullafar Eilir a datganiadaucerddorol Meleri a’i chyflwyniadi Karate - mae’n bencampregCymru ac yn un i’w hosgoi!Ar ôl gair gan Wyn Morris aW.J.Edwards darllenodd Mairenglyn Huw Ceiriog i gyfarchElwyn:Heddiw mae’r henwr diddan –oedd yn gawrDdoe’n y Garn a’r Gerlan,Yn edrych llai na’i oedranO fod yn ei garafan.Wrth longyfarch Elwyndymunwn i Tegwen ac yntauflynyddoedd llawen gyda’igilydd eto.Cadeirydd FforwmBraf oedd gweld RhysHedd Pugh-Evans ar lwyfanPafiliwn Pontrhydfendigaidyn ddiweddar. Yn rhinweddei swydd fel CadeiryddFforwm Ieuenctid yr Urdd2009-2010, cafodd y frainto gario medal enillyddYsgoloriaeth Bryn Trefel i’wchyflwyno i’r enillydd. Buhyn yn fraint arbennig iddogan gloi blwyddyn arbennigfel Cadeirydd. Yn ystod yflwyddyn, cafodd y cyfle i gydysgrifennu Neges Ewyllys Dayr Urdd, ynghyd a’i lansio ynyr Ardd Fotaneg a’r Cynulliad.Fe’i welwyd yn rhai o brifseremoniau Eisteddfod yr Urddyn Llanerchaeron a chafodd ycyfle i deithio allan i SeneddEwrop i gwrdd a Jill EvansASE, heb sôn am y cyfleoedd ifynychu cyfarfodydd amrywiolgan yr Urdd.Diolch i Anwen Eleri,Swyddog Datblygu’r Urddyng Ngheredigion am roi’rcyfleoedd arbennig hyn i Rhysac i Ysgol Penweddig y llyneddam eu cefnogaeth wrth eiryddhau i fynychu amryw oweithgareddau.CIGYDDBOW STREETEich cigydd lleolPen-y-garnFfôn 828 447Llun: 9-4.30Maw-Sad 8.00-5.30Gwerthir ein cynnyrch mewnrhai siopau lleol

8 Y TINCER TACHWEDD 2010GOGINANCydymdeimlwnTrist yw cofnodi marwolaeth Cyril Davies,Bwthyn y Cwm yng Nghartref PlasCwmcynfelin. Cydymdeimlwn gyda’i ferchJacqueline.WyresLlongyfarchiadau i Colin a June Baxter,Oakdale ar enedigaeth eu hwyres fachnewydd yn Llangwyryfon. Ganed Erin Lili arHydref 13 i Stephen a Charlotte ac yn ôl pobsôn mae ei brawd mawr wedi dotio arni.Pen blwydd ArbennigPen blwydd hapus i Kath Hughes, Bryn Pica,ar ei phen blwydd arbennig. Mae yn siwr odeithio tipyn yn awr gan na fydd rhaid iddidalu am y bws.Pob LwcDymuniadau gorau i Susanne Vaughan,Gwelfryn, yn y rownd derfynnol ynLlundain yng nghystadleuaeth cwmni Sparam y person delfrydol fel gweithiwr siop. Fewnaeth rheolwr y siop y mae yn gweithioynddi yn Aberystwyth ei henwebu gan eibod mor bleserus bob amser ac hefyd yngofalu am y bobl mewn oed sydd yn siopayno ac o’r herwydd mae Susanne wedi mynddrwyddo i’r rownd derfynol dros Gymru aLloegr. Pob lwc iddi yn Llundain.CLWB CW^Penrhyn-cochAr Agor Llun - Gwener3.30 - 5.30£6 y sesiwn . £5 ail blentynBwyd a Diod Iachus yn GynwysedigGofal Plant CofrestredigClwb GwyliauMae’r clwb hefyd ar agor yn ystodgwyliau’r ysgol a diwrnodau HMS08.30 y.b. – 5.30 y.p.£18 y diwrnod plentyn cyntaf£16 y diwrnod ail plentynSesiwn hanner diwrnod08.30 – 1.00 y.p. neu 1.00 y.p. – 5.30 y.p.£9 plentyn cyntaf . £8 ail plentynLI fwcio cysylltwch âNicola Meredith neu Katy Nash ar07972 315392clwbcwl@googlemail.comNeu cipiwch mewn i’r clwb ar ôl YsgolCelf a Chreft, Gemau tu mewn ag allan,Wii a Playstation, Pwll Pelau a mwy!Priodwyd merch Brian a Liz Ashton, Araul, ym Mhortmeirion adeg y Pasgeleni. Mae Jenni a’i gw^r Nicholas Hadfield wedi ymgartrefu yn Efrog llemae Jenni yn athrawes ysgol gynradd a Nick yn ymgynghorwr pres. Poblwc i’r ddau am y dyfodol.Cwmni Actorion Theatr Felin-fach yn cyflwynoO’s Ffos? O’s! O’s!Dewch i ymuno â Tegi Wegi a’r criw yn anturiaethau’r panto!04 – 11.12.10Ffôn: 01570 470697www.theatrfelinfach.comR.J.EdwardsAdeiladau Fferm y CwrtCwrt Farm BuildingsPenrhyn-cochContractiwr, masnachwrgwair a gwellt.Arbenigwr ar ailhaduCyflenwi a gwasgaru calchGwrthtaith Fibrophos a rhaiorganigYmgymymerir â phob math owaith amaethyddolam brisiau cystadleuolLorïau a pheirianauamaethyddol i’w llogi01970 82014907980 687475GWELY ABRECWAST MAIR9 Heol Llangrallo, Pen-y-Bontar Ogwr CF31 3ARCroeso cynnes Cymreig mewnlleoliad delfrydol i ganolfanausiopa gorau de Cymru, Canolfan yMileniwn, Stadiwm y Mileniwm aCae Pêl-droed Caerdydd.www.mairsbedandbreakfast.co.uke-bost : mairbandb@hotmail.com01656 65544207768 286303Cysylltwch â Huw a Sarah Tudur

Y TINCER TACHWEDD 2010 9Suliau Rhagfyr2.005 Bugail12 Oedfa’r Plant19 Arwyn Pierce26 Terry EdwardsMADOG, DEWI ACEFN-LLWYDGenedigaethAr Hydref 29ain ganwyd merchferch i Sioned a Llywelyn,Rhydyceir, Capel Madog sefLleucu Elen ap Llywelyn –wyres i Alwyn a MargaretHughes, Gwarcwm Hen, agor-wyres i Mrs Nan Hughes,Gellinebwen.CroesoYn ddiweddar mae Arthur acEirian Hughes wedi ymgartrefuyn Lluest Fach, Capel Madog,sef hen gartref Eirian er eubod wedi byw yn Bow Streetam bron i ddeugain mlynedd.Croeso cynnes i’r cwm;edrychwn ymlaen i’ch cael felcymdogion.TaithBraf yw gweld Tegwen acAldwyth Lewis, Rhos-goch wedidod nôl yn ddiogel ar ôl eu taithi Batagonia.DiolchgarwchNos Fawrth, 9fed o Dachweddcynhaliwyd cyfarfodDiolchgarwch yng NghapelMadog. Croesawodd y gweinidogy Parchg Wyn Rh Morris bawbynghyd gan estyn croeso cynnesi’r pregethwr gwadd, y ParchgEifion Roberts. Cafwyd oedfafendithiol ac amserol a’r capelwedi ei addurno’n hardd gan ychwiorydd. Yr organyddes oeddAngharad Rowlands.DyweddiadLlongyfarchiadau i MichaelReeves, mab Eirlys a TonyReeves, Rickmansworth, wñry diweddar Mr a Mrs ElfynWilliams, Ysgubornewydd ar eiddyweddïad â Ursula O’Leary,merch y diweddar Mr a MrsWilliam O’Leary, Llundain.CydymdeimladCydymdeimlwn â Dai a WendyEvans, Fferm Fronfraith, ar gollimodryb Mrs Ceinwen Page o’rAmwythig, gynt o Llawr y Cwmbach, Bont-goch;hefyd i Gwenda ac Alun Hughes,Troedrhiwgwinau ar golli mamGwenda – Mrs Bet Jones oLanddeiniol.Swydd newyddDymuniadau gorau i WynMorris, Plas y Fronfraith yn eiswydd newydd yn ddarlithyddastudiaethau busnes ymMhrifysgol Aberystwyth.Wedi’r stormBu un pen o’r Parsel hebgysylltiad ffôn (a gwe) am o leiafwythnos ar ôl i bolyn teligraffsyrthio yn y storm. Gyda’r Tincerar fynd i’r wasg nid oes dim sônam neb yn dod i’w drwsio.CYNGOR CYMUNED TIRYMYNACHLlywyddwyd cyfarfod yrHydref o’r Cyngor gan yris-gadeirydd y Cyng HeulwenMorgan. Yn dilyn rhaiargymhellion yn y cyfarfoddiwethaf penderfynwydmai gorau fyddai cael rhagoro brisiau am feinciau syddwedi eu llunio o ddeunyddail-gylchu. Nid oes sicrwydderbyn hyn bod trydan wedi eigysylltu i’r lamp ger Bryndolenyn Blaenddol. Gofynnir i’rtrydanwyr edrych i mewn i’rmater. Disgwylir i’r gordyfiantger Capel Noddfa gael ei dorriyn fuan.Derbyniwyd adroddiadmisol gan y Cyng Sir, y CyngPaul Hinge. Dywedodd body gwaith papur partheduwchraddio rhan o Maesafallenyn mynd yn ei flaen, a bodcyfarfod i fod yn fuan, yn ôly drefn, i’w gynnal yn FestriNoddfa. Cyflwynodd gopio adroddiad sefydlu gorsaftrên yn Bow Street. Mae’rawdurdodau wedi derbynmai yn Bow Street y bydd yrorsaf yn hytrach nag ariannuun arall ym Mhowys. Maegolau Maes Ceiro wedi eiddiwygio fel bod y lampauyn gwybod y gwahaniaethrhwng nos a dydd. Gyda gofidyr adroddodd nad yw fforddClarach o Bow Street yn caelblaenoriaeth i’w graeanu panddaw tywydd drwg. Gobeithirgosod arwyddion i arafu’rdrafnidiaeth wrth groesfforddLlangorwen yn fuan. Maenifer o ddamweiniau yndigwydd wrth y bont ger yreglwys hefyd. Gyda thristwchy cyfeiriodd at ddamwainarall ger Dolgau, a brofoddyn angheuol, ac mae eisoesyn trafod gydag Adrannau yFfyrdd am gael sythu’r gornelberyglus hon.Codwyd y mater bod lorïauuchel yn methu mynd o danBont Rhydhir ac yn gorfodbacio yn ôl i Bow Street ganachosi trafferth i fodurwyra niweidio ffensys IBERS. Osgellir symud yr arwyddionsy’n dynodi uchder y bont ynôl i Bow Street, efallai y gellirosgoi y broblem hon.CYNLLUNIO. Derbyniwydgwybodaeth fod cais am newiddefnydd unedau yn Nantllanwedi ei ganiatáu. Roedd hwnyn mynd yn ôl i 2008.Derbyniwyd cais oddi wrthGlwb Pêl-droed Bow Streetam gyfraniad tuag at ei nosongymdeithasol o Dân Gwyllt.Penderfynwyd cyfrannu £125.Datgelodd y Cyng VernonJones ei ddiddordeb yn yreitem hon ac ni chyfrannoddi’r drafodaeth. Yr un modddatgelodd y Cyng Harri Petcheei ddiddordeb pan ddaethllythyr oddi wrth Bwyllgory Cae Chwarae yn gofyn amgefnogaeth (trwy lythyr) i’radrannau priodol am gaelehangu y cwrt chwarae tennisa’r man ymarfer chwaraeon.Penderfynwyd cefnogi’r cais.Yr unig fater ariannol oeddtalu bil torri porfeydd am yflwyddyn sef £800. Bydd ycyfarfod nesaf ar 25 Tachwedd.ABER-FFRWD A CWMRHEIDOLDiolchHoffai Eirlys Davies, Caehaidd,ddiolch o galon i bawb am ydymuniadau da a dderbynioddyn ystod ei salwch diweddar. Maeyn ei werthfawrogi yn fawr iawn.Urdd y BenywodCafwyd noson ddiddorol iawnddechrau Hydref yng nghwmniLloyd Edwards, Penrhyn-coch pany bu yn datgelu rhai cyfrinachaugwneud jam a tsytni ar gyfersioeau. ‘Roedd wedi dod a nifer owahanol ddanteithion er mwyn ini gael eu blasu. Nos Lun gyntafyn Nhachwedd cawsom noson yngwneud gwahanol bethau allano hen glytiau. Llwyddodd rhai iwneud bandiau ar gyfer eu gwisgoyn y gwallt. Croesawodd einllywydd Norma Stephens pawb yngynnes iawn i’r ddau gyfarfod ymaa da oedd cael cwmni cymaint owragedd yr ardal yn y ddwy noson.TeleduBu Mair Stanleigh, Dolfawr,ar y rhaglen deledu Wedi 7 ynddiweddar yn dreifio ei char arhyd ffordd y Cwm. Mae hi yn 97oed ac yn dal i ddreifio ac ar hyno bryd hi yw yr yrrwraig hynafyng Nghymru. Tipyn o record agobeithio y deil i fynd am nifer oflynyddoedd eto!Capel Llwyn-y-groesCynhaliwyd ein CwrddDiolchgarwch eleni eto gyday Parchg Eifion Roberts,Capel y Morfa, yn bregethwrgwadd. Cafwyd gair o groesogan Elizabeth Lewis a’rorganyddes oedd Delyth Davies,Maencrannog. Roedd y Capelwedi ei addurno yn hyfryd iawna diolch o galon i bawb am eupresenoldeb eleni eto.DyrchafiadLlongyfarchiadai i GlenysWilliams Ty’n Wern ar gael eidyrchafu yn Uwch-ddarlthydd ynAdran y Gyfraith ym MhrifysgolAberystwyth.Priodas RuddemLlongyfarchiadau hwyr i Hywelac Ann Ellis, Hywelfan, arddathlu eu priodas ruddemddechrau mis Hydref.

10 Y TINCER TACHWEDD 2010PENRHYN-COCHSuliau RhagfyrHOREB5 2.30 Oedfa Gymun Gweinidog12 10.30 Oedfa deuluol Gweinidog19 2.30 Oedfa Nadolig Gweinidog25 7.30 y bore Oedfa gymunfore’r Nadolig26 10.30 Oedfa ddiweddblwyddyn GweinidogSALEM12 2pm - Y Parchedig Richard HLewis24 Rhagfyr – 5.30pm – Bethel,Tal-y-bont – Gwasanaeth yPlant25 10am – Y Nadolig, Bethel,Tal-y-bont – Y ParchedigRichard H LewisCinio CymunedolPenrhyn-cochBydd y Clwb yn cyfarfod ynNeuadd yr Eglwys dyddiauMercher 24 Tachwedd a 8 a 15Rhagfyr. Cysylltwch â EgrynEvans 828 987 am fwy o fanylionneu i fwcio eich cinio.PriodasLlongyfarchiadau i Mandy Jones,Tal-y-bont a Derek Glennie o’rDdol Fach, ar eu priodas ynNhwrci yn Awst a chroeso iMandy i Benrhyn-coch!GenedigaethLlongyfarchiadau i Kelly aMathew Bishop, Glan Seilo, arenedigaeth mab-Aron William,brawd i Lowri.Eisteddfod 2011Cyhoeddodd Mairwen Jones,ysgrifennydd EisteddfodGadeiriol Penrhyn-coch enwaubeirniaid a llywyddionEisteddfod2011 a fydd i’w chynnal ar 8-9Ebrill.LlywyddionNos Wener: Janice MorrisPrynhawn Sadwrn: AlwenFanningNos Sadwrn:Y CynghoryddRichard OwenBeirniaidLleol (nos Wener)Cerdd: Meinir Edwards, LlandreLlefaru: Enfys Hatcher, Gors-gochCerdd:Helen Wyn, BrynamanLlên a Llefaru: Aled Gwyn,CaerdyddCydymdeimladCydymdeimlwn â Ken Evans,Coedgruffydd, ar farwolaethei chwaer Ceinwen ElizabethPage, - fu yn gweithio a bywam flynyddoedd yn SwyddAmwythig.Cymdeithas y PenrhynUn o gymeriadau mwyaf lliwgaryr ardal oedd testun sgwrsAndrea Parry, ein gwraig waddfis Hydref. Merch o’r Bala ywAndrea sy’n athrawes ddramaac ymarfer corff yn Llanrwst.Tra’n ddisgybl yn Ysgol yBerwyn daeth o dan ddylanwady ddiweddar Buddug neu BJ aphriodol iddi olygu ei chofiantBuddug James: Brenhines yddrama (Cyhoeddiadau Barddas)y llynedd. Hyfryd oedd caelcroesawu nifer o gwmni dramaLicris Olsorts a chafwyd sawlhanesyn digri ganddyn nhwhefyd.Yn ystod y nos cawsom wleddo atgofion a throeon trwstan.Disgrifiodd BJ fel ‘corwynt oddynes, byth ag amser, ond agamser i bawb’. Aeth ar drywyddy C’s yn ei bywyd – y car, ycathod, crwydro, caredigrwydd,cymwynasgarwch, cymdeithas,y capel a’r cystadlu oedd morbwysig iddi. Ac yn treiddiodrwy’r cwbl – y diffyg cadwtrefn, y diffyg cadw amser a’rdiffyg cydymffurfio! Enaidrhydd â chalon fawr. DynaYr Athro Dafydd Johnston, Dr Tedi Millward, a’r Dr Huw Meirion Edwards yn Horeb,Penrhyn-coch pan draddodwyd darlith gyntaf Cymdeithas Canolfan Dafydd apGwilym fis Hydref gan yr Athro Johnston.oedd B.J. Prin yw cymeriadauo’r fath erbyn hyn! Gadawoddfwlch ar ei hôl ond roedd eichyfraniad unigryw i do ar ôl too ieuenctid Cymru benbaladrym amhrisiadwy.Gwefan Trefeurigwww.trefeurig.comYchwanegwyd adran Ffilma Sain i wefan y plwyf ynddiweddar lle gellir gwrando arrai o gerddi Dafydd ap Gwilymyn cael eu perfformio; LindaGriffiths a Lisa yn canu yn ySmithsonian yn Washingtonyn 2009; gwrando ar gyfweliadgyda Niall Griffiths; NigelHumphreys yn darllen rhaicerddi allan o’i lyfr diweddar TheFlavour of Parallel; gwrando ar DrRhiannon Ifans yn darlithio arDwm o’r Nant yn LLGC; a gwelddarnau o ffilm gideon KoppelSleep furiously.Cylch Meithrin TrefeurigBydd y Ffair Nadolig ychydigyn wahanol eleni –fe’i cynhelirnos Iau Rhagfyr 2il yng NghlwbPêl-droed Penrhyn-coch rhwng3.45 – 6.45, Bydd ymweliad ganSiôn Corn a bydd cawl ar gael.Urdd y Gwragedd,Penrhyn-cochY Parchedig Alan White oeddgwestai mis Tachwedd, fe fu’nein diddori gyda’i gasgliadau ohen gardiau post a hanesion amrai ohonynt a fu ym meddiantei deulu ers dechrau’r ugeinfedganrif. Mae ei wreiddiau ynddwfn yn Llandre, ac er iddogrwydro tipyn yn rhinweddei swydd, mae bellach wediymddeol ac yn byw ynAberystwyth.Sul Y CofioCafwyd gwasanaeth ger ygofgolofn ar sgwâr Penrhyn-cochfore Sul, Tachwedd 14eg dan ofalMrs Lona Jones, Glanceulan.Cafwyd darlleniad gan MrsGwenan Price, Dolmaeseilo agosodwyd pum plethdorch ger ygofgolofn, a thorch fach ar ran yBrownies. Chwaraewyd yr ‘AlwadOlaf’ ar y trymped gan OsianJames, Taigwynion.Eglwys St IoanPenrhyn-cochMi fydd Siôn Corn ynymweld â Neuadd yr Eglwys,Penrhyn-coch, ar nos Sadwrn y4ydd o Ragfyr rhwng 6-8y.h., amychydig o ‘Win Poeth a MinsPeis’. Mae’n estyn gwahoddiad iblant y pentref i ddod a’u rhestranrhegion ganddynt i hwyluso’iwaith rhag ofn ceir streic post,ac mi fyddant yn derbyn anrhegfechan am eu trafferth. Ynogystal, mi fydd yna stondincynnyrch Nadolig; raffl;cystadleuaeth i’r plant; posau amwy. Hwyl i’r teulu oll, galwchheibio i ymuno â’r hwyl.Merched y WawrNos Iau 14eg o Hydref aeth ygangen i ymweld â siop cigyddY Garn a chafwyd yno groesoarbennig gan Heath Raggeta’i wraig Rhian. Fe gafwydcwpanaid yn y caffi bach cyncychwyn y noson ac yna fe aethpawb drwodd i’r siop lle oeddpob math o gigoedd a hefyd siopgroser. Aeth ymlaen i ddangos

Y TINCER TACHWEDD 2010 11i ni sut oedd trin gwahanolfathau o gig a sut i’w goginio.Fe roddodd rhai syniadaugwych i ni sut i baratoi aty Nadolig sydd wrth law.Yn ystod y noswaith roeddMeirion Roberts ei brentis ynei helpu yn y siop. Yna yn ôli’r caffi lle oedd bwffe gwycho bob math o ddanteithionwedi eu paratoi i ni ac iymgymryd ohono. Cyn myndtua thre diolchodd WendyReynolds i’r cigydd a phawbam noswaith arbennig iawn.Nos Lun, 8fed o Dachwedd,aeth criw drwy wahoddiadi lawr at gangen Llanafani’r Eisteddfod Ffug oeddyntwedi ei threfnu. Ar wahân ini roedd cangen Ffair-rhosyno hefyd. Pawb yn caelhwyl yn cystadlu yn erbyn eigilydd wrth i Alun Jenkins,Pontarfynach fod yno yn einbeirniadu. Cymerwyd rhano gangen Penrhyn-coch ganGlenys Morgan, Mair Evans,Janice Morris, ElizabethWyn, Sandra Beechey, CeriWilliams a Mairwen Jones. Ermai cangen Llanafan ddaethi’r brig bu cangen Ffair-rhosyn agos iawn atynt. Cafwydgwledd i fwyta ar ddiwedd ynoson. Diolchodd ein llywyddGlenys i bawb ar ran eincangen ni am noson wych.YsbytyDymunwn wellhad buan iHenry Thomas, Cwmfelin,a fu yn Ysbyty Bron-glais aThreforus yn cael triniaeth ynddiweddar.Hefyd gwellhad buan i SionJames, a fu yn yr ysbyty ar ôldamwain pêl-droed.DiolchDymuna’r Parchg John aMrs Kathryn Livingstoneddiolch o galon i bawb ameu dymuniadau carediga’u gweddïau cariadus drosgyfnod salwch John ynddiweddar. Mae’ch cefnogaethwedi bod o gymorth ac ogysur mawr.Pen blwydd arbennigDymuniadau gorau i EllenSheppard, 1 Dôl Helyg, addathlodd ben blwyddarbennig ar Dachwedd 18fed.Dyma Ellen yn dathlu gyda grw^pcrefft Llandre gyda chacen a wnaethElisabeth Wyn i’r achlysur.Roedd mis Hydref mor brysurâ’r arfer wrth imi fynychudigwyddiadau ar hyd a lledCeredigion. Fodd bynnag, ymis hwn fe fynychais ddaugyfarfod ynghylch YsbytyBron-glais a’r gwasanaethausydd ar gael yno. Cyfarfod yroeddwn wedi ei drefnu ar gyferGrãp Ymgyrchu aBer gydaChadeirydd a Phrif WeithredwrBwrdd Iechyd Hywel Ddaoedd y cyntaf. Yn ystod ycyfarfod, fe glywyd mwyam y bwriad i ymgynghorigyda’r cyhoedd ar gynlluniaui ddarparu mwy o driniaethauyn ein cymunedau ac fe gafwydtrafodaeth dda ar yr angen igynnal ymgynghoriad agored achynhwysfawr.Wythnos yn ddiweddaraf,roeddwn yn falch i groesawu’rGweinidog Iechyd i YsbytyBron-glais er mwyn cynnalsesiwn holi ac ateb ar y cyd argyfer staff yr Ysbyty. Roeddmodd i weithwyr godi unrhywbryderon yn uniongyrcholgyda fi a’r Gweinidog ac rwy’nddiolchgar iawn i Edwina HartAC am deithio i Aberystwyth ifynychu’r sesiwn hwn.I lawr yn Llambed, roeddwnyn falch iawn i fynychugwasanaeth arbennig igyflwyno Gwobr Ddeimwnt iGynghrair Cyfeillion CartrefHafan Deg. Rwy’n gwybodCydymdeimladEstynwn ein cydymdeimlad âtheulu Pantydwn ar farwolaethchwaer i Gwesyn a Gerallt, sefEnid Howells, Maes Ceiro.Cydymdeimlwn hefyd a theuluBryndderwen ar farwolaeth nithi John a chyfnither i Sian Elin. Bufarw Helen Buchanan (merch RosaO’R CYNULLIADDÔL-Y-BONTbod trigolion ycartref, ynghydâ phoblLlambed a’rardal, ynddiolchgariawn amgyfraniadpwysig ystaff a’r GynghrairCyfeillion i fywyd bob-dydd ycartref.Ym Mhontrhydfendigaid,roedd hi’n fraint i fynychucystadleuaeth Ysgoloriaeth BrynTerfel yn y pafiliwn. Cafwydcystadleuaeth dda a braf oeddgweld adeilad y pafiliwn yncael ei ddefnyddio ar gyfercystadleuaeth genedlaetholfel hyn. Hoffwn longyfarchpawb oedd yn cystadlu eleni adymuno’n dda iddynt ar gyfery dyfodol.Yn olaf, mae lleoliad siop yrelusen leol Ffagl Gobaith wedisymud yn Aberystwyth i 14 YStryd Fawr ac roedd hi’n frainti gael fy ngwahodd i agor ysiop newydd yn ffurfiol ynddiweddar. Mae Ffagl Gobaithyn darparu gwasanaethamhrisiadwy ar gyfer cleifionâ chancr ac rwy’n gobeithioy bydd y lleoliad newydd ynhelpu codi hyd yn oed ynfwy o arian ar gyfer gwaith yrelusen.Elin Jones ACa Ray) yn 52 mlwydd oed ganolmis Hydref.DiolchgarwchCynhelir Cyfarfod DiolchgarwchCapel y Babell bnawn Sul, 28Tachwedd am 2 o’r gloch.Y Parchg Wyn Morris fydd yngngofal y gwasanaeth ac estynnircroeso cynnes i bawb.RHODRI JONESBrici a chontractiwradeiladu07815 121 238Gwaith cerrigAdeiladu o’r newyddEstyniadau PatiosWaliau garddLlandre Bow StreetFFENESTRIIMEJFFENESTRI PVCu, HEULFANNAU,DRYSAU a.y.y.b. Am y GWASANETH, PRISa’r SAFON GORAU gan GWMNI LLEOLSefydledig dros 30 mlyneddEdrychwch am yTy^ Twt01970 880330Marilyn a Ifor JonesCofrestrwyd gydaytincer@googlemail.com

12 Y TINCER TACHWEDD 2010BOW STREETSuliau RhagfyrCapel y Garn10 a 5http://www.capelygarn.org/5 John Price 10Siôn Meredydd 512 Oedfa’r Plant19 Arwyn Pierce 10Bugail 526 Terry EdwardsNoddfa5 2.00 Gweinidog12 10.00 Y Parchg Ddr TerryEdwards, Cymundeb19 5.00 Gweinidog NadoligNoddfa24 Oedfa noswyl Nadolig am 11.30yr hwyr25 Uno yn y Garn ar gyfer oedfabore Nadolig26 Uno yng NghartrefTregerddan am 3.30GenedigaethLlongyfarchiadau i Helen aDylan Huw Jones, Bryncastellar enedigaeth mab - Huw LloydJones yn Awst, brawd bach i ElenNon.Pen blwydd hapusBu Vi Jones, gynt o Bow Street,yn dathlu ei phen blwydd yn102 ar yr 8fed o Dachwedd yn eichartref yn Llundain. Mae ynmwynhau ei bywyd yn fawr iawnyng nghwmni ei theulu ond maebob amser yn cofio’n gynnesiawn am ei ffrindiau i gyd yn yrardal hon ac am eich cyfarch igyd a diolch am gofio amdani.Merched y WawrRhydypennauSiaradwr gwadd nos Lun 10Hydref oedd Mr Iwan Jones,Dolau. Testun ei sgwrs oedd“Lluniau Hanes John Thomas”.Symudodd John Thomas oCellan i weithio yn LerpwlTAFARN TYNLLIDIARTTy Bwyta a BarPrydau neilltuol y dyddPrydau pysgod arbennigCinio Dydd SulBwydlen lawn hanner dyddneu yn yr hwyrCROESO(mantais i archebu o flaen llaw)CAPEL BANGOR01970 880 248pan oedd yn bymtheg oed.Datblygodd ddiddordeb mewnffotograffiaeth gan deithio gyda’igamera i dynnu lluniau ar drawsgogledd Cymru. Mae tair milo’r lluniau hyn mewn casgliadyn y Llyfrgell Genedlaethol. Ynystod y noson cawsom gyflei werthfawrogi ystod eang o’rlluniau hyn yn gymeriadau,lleoliadau, ffeiriau a gweithwyr.Diolchwyd i Iwan gan BerylHughes, ein llywydd. Paratowydlluniaeth ysgafn gan RhianJones-Steele a Menna Dafydd.Enillwyd y raffl gan Cerys Jones.Ar nos Lun, Rhagfyr 13 byddaelodau’r gangen yn canu carolauar hyd y pentref.Newid aelwydErbyn hyn mae Eirian acArthur Hughes wedi symudo 31 Tregerddan i hen gartrefEirian yn Lluest Fach, CapelMadog. Diolchwn iddynt ameu cyfeillgarwch ac am fodyn gymdogion da er 1983 adymunwn bob bendith iddyntyn yr hen gynefin.CydymdeimladCydymdeimlir â theulu’rddiweddar Enid Howells, MaesCeiro, a fu’n farw’n dawel yn eichartref ar 13 Medi.Pen blwydd arbennigMae’n anodd credu fod yParchedig Elwyn Pryse wedidathlu’i ben-blwydd yn bedwarugain ond dyna ddigwyddoddar 2 Tachwedd pan oedd Tegwenac yntau yn mwynhau yngNghaerefrog. Wrth longyfarchElwyn dymunwn flynyddoedddedwydd iddo eto yng nghwmniTegwen sydd mor ofalus ohono.Wedi gwellaRydym yn falch fod KathleenLewis, Llys Alban, yn well ar ôlbod yn yr ysbyty a’i bod yn ôlyn gwasanaethu capel y Garn aChartref Tregerddan. Ein cofionat Trefor ei thad a hithau.FFAIR NADOLIGPLAID CYMRUyn y Morlan, Aberystwyth2 o’r gloch 4ydd o RagfyrAgorir gan Elin Jones ACTra ar ymweliad â’r Wladfa yn ddiweddar bu Alun Jones yn beirniadu llên a llefaruyn yr Eisteddfod flynyddol. Gwelir ef ar y llwyfan yn ystod seremoni y cadeiriopan enillodd Esyllt Nest Roberts de Lewis, y Gaiman. Mae Esyllt yn frodor o’r Ffôr,Gwynedd ac yn nith i Moss Jones, Taigwynion, Llandre. Llun: Daniel FeldmanRoedd gêm fawr ar Gae’r Piod dydd Sadwrn 13 Tachwedd pan gollodd y tîmcartref i Athrofa Caerdydd (UWIC) ar ôl amser ychwanegol a chiciau cosb ynnhrydydd rownd cwpan Cymru. Yn y llun gwelir Bow Street yn mynd 1-0 ar yblaen ar ôl cic o’r smotyn Phil Evans. Llun : Richard HuwsGwenno Fflur Dafydd, Maes Afallen, a Sa’ipolu Tapa’atoutai Uhi o Tonga abriodwyd yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth dydd Sadwrn, 13 Tachwedd,gyda’r wledd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid. Dymunwn yn dda iddynt yn eucartref yng Nghaerdydd. Llun: Einion Dafydd

Y TINCER TACHWEDD 2010 13Yr Archentwyr a ni!Yn ddiweddar aeth saith oaelodau’r Urdd o Geredigiona’n Swyddog Datblygu AnwenEleri ar daith fythgofiadwygyda aelodau eraill o’r Urdd iBatagonia yn yr Ariannin. Trayno, buont yn cadw dyddiadura dyma gip i chi o beth y buElgan, Cadi, Hana, Ifan, Meirian,Holly, Guto ac Anwen Eleri yn eiwneud ystod eu hymweliad â’rWladfa.“Mae’r profiadau rydym wedicael nid yn unig yn fythgofiadwyond yn agoriad llygad. Ar ôl gweldyr holl ysgolion, y ffordd o fywa.y.b rwyf nawr yn gwerthfawrogibeth ydw i di cael adre” Elgan22 HydrefWedi bod yng Ngholeg Camwy,Gaiman heddiw yn diddanunhw - gêmau dod i adnabod eingilydd, gêmau ymddiried ac ati ahynny drwy’r Gymraeg. 6 awr oddiddanu gyda phobl ifanc o boboed – blinedig iawn!Rhai o ni di bod mewnrhagbrofion Steddfod bore ma– am drefn, 2 awr yn hwyr yncychwyn!! Gwell trefn gan AnwenEleri!Yn y Pnawn buom yn ymarferat yr eisteddfod yn y gegin yn ygimnasio (ein llety yn y Gaiman)a chwrdd â’r cerddor HectorMcDonald. Mlaen i’r steddfodgyda’r hwyr! Yr Eisteddfod ynwahanol iawn i Steddfod yr Urdd!Y feirniadaeth ar lafar o’r ford,yn Gymraeg ac yna Sbaeneg! Migawsom ni 2il gyda’r côr mercheda’r côr emyn, y ddeuawd Elgan aMeirian di cael 1af, Georgina (oYsgol y Fro, Y Barri) di cael 1af ar yrunawd a Meirian 3ydd – whooo!Noson hwyr iawn!!!!!24 HydrefWedi bod mewn cymanfa ganuyng nghapel Bethel a chanu lotfawr o emynau!Yna nôl am Asado yn yGymnasiwm - dathliad diweddSteddfod!. O nhw di dechre cwcany cig ers 7 y.b – tu fas ein stafellgysgu ni! mi oedd yna loads ogig!!!!!!Canu i berthynas MorfuddSlaymaker o Lambed oedd yn100 oed. Ni di canu a diddanu ynbobman!!Dawnsio a joio da criw ColegCamwy yn y pnawn a gyda’rhwyr – Steddfod ddwl yn lot olaff!25 HydrefYsgol Feithrin y Gaiman bore ‘mayn canu a chwarae gêmau, criwhyfryd. Profiad anhygoel clywedy criw dan 4 oed yn canu HenWlad fy Nhadau air am air yngywir.Gadael y Dyffryn a symudymlaen!Diwrnod ym Mhuerto Madrynyn gwylio’r morfilod, ymweldâ’r amgueddfa a’r ogofau.Noson gymdeithasol a the gydaChymdeithas Gymraeg PuertoMadryn26 HydrefCyrraedd Esquel ar ôl 8 awr arfws. Cyrraedd hostel - Casa verdeGolygfeydd a llety lush!Ymweld ag Ysgol Gymraeg yrAndes,Trevelin - joio chwarae pêldroed a chymdeithasu gyda’r criwifanc.Asado ar fferm leol - y Greens -noson neis a joio!28 HydrefYmweld ag Ysgol y Felin ynNhrevelin heddiw. Mae baner ywlad tu allan i bob ysgol yn yrAriannin, ac mae hi’n cael ei chodii dop y polyn bob dydd ondhanner ffordd lan oedd hi heddiwachos bod Cyn-Arlywydd y wladwedi marw.Mynd i Tñ Te Nain Maggie amde bach - na beth oedd spread ocacs!Fashion show heno! J CymdeithasGymraeg Esquel yn trefnu. Nosono ddiddanu eto - rhai o’r criw ynmodelu a sylwebu!29 HydrefDiwrnod yn y Parc Cenedlaethol– tywydd diflas ond golygfeyddstunning! Twmpath Dawns henoa chyfle i gyfarfod â Maer Trevelin(fe di bod yn Aberteifi!)30 HydrefPeintio arwyddion Ysgol Gymraegyr Andes a Chapel Seion, Esquelac wedyn mi fuom ni yn gwneudcacs i Ferched y Wawr i’wgwerthu mewn stondin gacennau- ein cacs ni ddim yn edrych yngrêt ond yn tasto yn iawn!31 HydrefPlannu capsiwl amser (bocs oatgofion - lluniau, papur newydd,baner o Gymru, gonc MistarUrdd, amserlen ein taith ....) yngngerddi Casa Verde. Cofnod acatgof o’n taith - gobeithio rhywddiwrnod dychwelyd i weld a ywyn dal yno!Gadael Trevelin am Bariloche. 5awr ar fws i’r maes awyr!2 TachweddCyrraedd Caerdydd ar ôlsiwrne hir!!!!!!!. Pawb yn hiraethuam Batagonia ac am golli eincyfeillgarwch – dagre mowr!!!!!!Lwc out, re-union amdani!“Mae’n od meddwl mai misChwefror gathon ni glywed amy daith ac mae wedi dod ac wedimynd! Gwerthfawrogaf y cyflema yn fawr iawn, diolch i’r Urddam roi’r cyfle i fi. Taith syddwedi bod yn brofiad a hanner! “MeirianBraslun o’r daith sydd uchod,os am fwy o’r hanes neu am weldlluniau mae croeso i chi gysylltuâ un ohonom. Diolch i bawbwnaeth gefnogi a’n cynorthwyomewn unrhyw ffordd tuag at eintaith anhygoel - profiad y gwnaiffpob un ohonom eu trysori ambyth.O’r criw o Geredigion dawIfan Hywel o Gapel Dewiac mae Meirian Morgan ynwyres i Eirlys Davies, CaehaiddCwmrheidol. Mae Meirian acElgan yn rai sydd wedi bod yncefnogi a chystadlu EisteddfodGadeiriol Penrhyn-coch. (Gol.)

14 Y TINCER TACHWEDD 2010GwellaRydym yn falch i glywedfod Dr Mike Leggett,Nantlais, yn dal i wellaar ôl cyfnod yn YsbytyBron-glais yn ddiweddar.MarwolaethTrist yw cofnodimarwolaeth Dr HywelDavies, gynt o Penrhos. Arôl ei ymddeoliad o’r swyddYmgynghorydd Radiolegyn Ysbyty Bron-glaisdychwelodd i’w hengynefin yng NghemaesRoad, Powys. Yr oedd yngymeriad tawel, a parchwydef gan bawb a’i adnabyddai.Ei brif ddiddordebauDOLAUoedd yn gyntaf oll eideulu. Ei gasgliad niferuso wahanol goed a llwynioedd wedi ei plannu ardir ger ei gartref - llawerohonynt o wledydd estron.Bu yn dilyn hynt tîmpêl-droed Lerpwl ers panoedd yn fyfyriwr ynyr Ysgol Feddygol yn yddinas honno, a byddaiyn dal i fod yn bresennolmewn llawer gêm.Wedi ymddeol yr oeddcerdded llwybrau gwledigy ddwy gymdogaeth ybu’n cartrefu ynddyntyn bwysig iawn iddo.Cydymdeimlwn â’i briodElizabeth, a’i dair merch- Susan, Ruth a Sian a’uteuluoedd yn ei colled.Ddiwedd mis Gorffennaf priodwyd Euryl Rees a Bethan Lewis yngNghapel Bethania, Bethesda. Y gwas priodas oedd brawd Euryl -Julian, a’r tywyswyr oedd Rhydian Phillips ddaeth draw o Awstralia,Peter James, James Thomas - ffrindiau, a brawd Bethan - Aled Lewis.Y forwyn briodas oedd Nia Lewis, chwaer-yng-nghyfraith, y forwynblodau oedd Elain Lewis, nith, a Sion Lewis a Sam Rees, neiaint, oeddy gweision bach. Maent wedi ymgartrefu ym Mhenrhyn-coch ers sawlblwyddyn. Llongyfarchiadau mawr iddynt oddi wrth y ddau deulu.ytincer@googlemail.comNid oes signal ffôn fach ar YnysIona. Fe ddysgais hyn ar fy ngwyliaudiweddar i Oban, taith a gynhwysaiddiwrnod ar Ynysoedd Mull ac Iona.Fe roedd lleoliad fy ngwyliaueleni wedi bod yn gryn destuntrafod. Nid oedd gennyf stumogi fynd i Marmaris er fe af eto i lesydd yn agos iawn at fy nghalon.Ynbersonol, nid oedd gennyf fawr oawydd mynd i unman ond yr oeddy teulu yn benderfynol fy modyn mynd ac yn mynd ar fy mhenfy hun, oni bai fod plant Meirionyn siarad Saesneg a’m brodyr a’ugwragedd yn siarad Cymraeg, fefyddent wedi medru canu duetberffaith cymaint eu cytundebar y pwnc. Eu dadl fawr oedd ybyddai yn meithrin annibyniaeth ahyder i deithio ar fy mhen fy hunynof gan fy mod yn amlwg ynmwynhau teithio. A phan yw teulua theulu yng nghyfrairh rhywunyn cytuno, mae’n bryd bodloni i’rdrefn ac ufuddhau. Ac mae’n rhaidi mi gyfaredd eu bod yn llygad eulle.Fy newis cyntaf oedd ynysCreta ond syrthiodd y cynllunhwnnw rhwng y cãn a’r brain ondo bendroni, cefais syniad. Arferai fynain a fy modryb fynd gyda Caelloi*ac onid dyma’r ateb i minnau? Nifyddwn fy hun a byddwn yn sicro Gymry eraill yn gwmni a chanein bod yn genedl mor fechan, feroedd yna hefyd siawns da y byddwnunai yn adnabod rhywun neu ynadnabod cyfeillion un o’m cyd -deithwyr. A gwir y gair a mwynheaisfy hun yn rhyfeddol.Fe roeddwn wedi bod yn yr Albano’r blaen, flynyddoedd meithionyn ôl pan oeddwn yn blentyn.Roeddwn wedi awgrymu sawl gwaithi Meirion ein bod ninnau yn myndond, am ryw reswm, nid oedd y lleyn ei ddenu o gwbl.Gormod o lawa rhy debyg i Gymru fyddai ei atebbob tro gan ei chychwyn hi am yrIwerddon neu Dwrci am sgawt. Ondfe roedd gennyf fi awydd dychwelydyno a mynd i ardal yr Ucheldiroedda’r Ynysoedd a dyna yn union awneuthum.Cawsom dywydd braf iawn ond,ynwir,y mae’r Alban yn debyg iawn iGymru ond ei bod ar raddfa fwy olawer, rhyw un dafn o Loch Lomondyw Llyn y Bala, mae gennyf ofna chorrach eiddil yw’r Wyddfa o’ichymharu a mynyddoedd enfawryr Ucheldiroedd. Ond yr un ywnatur y tirwedd a’r un yw lliwiau ygrug a’r rhedyn a’r un yw croeso ybobl - atom ni Gymry, o leiaf, digonffwrbwt oedd eu hymagweddu at ySassenach!COLOFN MRS JONESUn gwahaniaeth mawr a welaisy tro hwn oedd arwyddiondwyieithog Saesneg a Gaeleg ymmhobman, bron, er mai ychydig o’riaith a glywais. Synnu o weld maiY Garsiwn yw’r enw Gaeleg ar FortWilliam, enw cwbl gywir, wrth gwrs,oherwydd fe’i sefydlwyd fel troedle ifyddin Lloegr ymosod ar gyfundrefnGeltaidd a Gaeleg yr Ucheldiroedd.A synnu deubeth yn Fort Williamei hun. Yr oeddem yno ar brynhawnSul ac yr oedd y lle yn farw gorn, unsiop elusen, tafarn a chaffi yn unigoedd ar agor. Dyna y syndod cyntaf,yr ail un oedd pa mor hir y bumi cyn cofio paham, roeddwn wedillwyr anghofio mai dyna sut oeddhi arnom ninnau tan yn gymharolddiweddar.Pan aethom i Mull, ni ddeallwni yn iawn frwdfrydedd pobl drosweld Tobermory, nid oes dim o’i lear y lle, mae’n bentref digon lliwgarond, yn fy myw, ni allwn ddeall pamfod pobl mor frwd a bu’n rhaid i middisgwyl hyd oni ddeuthum adref achydweithiwr i mi esbonio mai dymagartref Ballamory a chartref rali geirenwog…….Ac ni fedrwn ddeall pam fodyna homar o Tesco’s nid nepello borthladd Oban na pham fodmerched yn dod oddi ar y fferi gydachesys dillad,yn wir, daeth un lleiangyda dau. Holais yrrwr y bys a dymafo yn dweud wrthyf,’mi ddywedai wrthych chi heno pan fyddwnyn sefyll ar Mull i ddal y fferi ynôl…‘Hynny a fu a phan oeddemyn disgwyl yno gyda’r nos,wele’rmerched - a’r lleian - yn ôl a’r cesysyn amlwg drymach…ac roedd yresboniad yn syml pan ddaeth.Rhaidmewnforio popeth i Mull ac Iona amynd i siopa oedd y merched gydaeu cesys a dyna paham fod Tesco morhwylus i’r porthladd. Ac ni fedrwnbeidio a meddwl sawl un ohonynta gyrhaeddai adref wedi anghofiorhywbeth, mi wn mai dyna fyddaify hanes i. A hwnnw y feri peth yroeddwn ei angen fwyaf, mae’n siwr.Roedd Iona yn gyfareddol aswyn yr Abaty,crud Cristnogaethyr Alban,drosti i gyd. Ac er ei fodyn ymddangos yn lle anhygyrchiawn inni heddiw, rhaid cofio nadfelly yr oedd hi pan oedd gafael yCeltiaid ar y moroedd yn sownd.Yr oeddwn wedi addo i’m brodyr yranfonwn neges destun iddynt oddiyno,dyna sut y sylweddolais nad oessignal ffôn fach yno. Ond mae signalgwerthoedd a chredo hñn yn gryfiawn yno.*Caelloi –cwmni bysus o Bwllheli(Gol.)

Y TINCER TACHWEDD 2010 15COLOFNYDD Y MISRhydian Mason(gynt o Gwmisaf, Trefeurig)Mae 8 mlynedd ers i mi symudi Fachynlleth o Gwmisa’.Bellach, yn briod ag Elen, acyn dad i ddau o blant hyfryd– Gwenllian Meleri a MorganElwyn.Ychydig yn ôl, daeth ypedwar ohonom nôl adre’ iGwmisa’ am bnawn i gael panedgyda Mam a Dad.“Dyna lle aeth dadi i’r ysgol”dywedais wrth Gwenllian wrthddod heibio ysgol Trefeurig.“Oes lot o blant ‘na?”gofynnodd.“Nagoes cariad. Mae’r henle wedi cau.” - Bois bach miwasgodd yr ateb yna arnai.I ysgol Trefeurig aeth fyhen Dad-cu –James (Jim), fyNhad-cu - Elwyn, fy Nhad –Dai, a finne.Ond daeth y gadwyn i ben– fel croes goch Mrs MeganCreunant Davies neu Mrs DellaWilliams ar un o’m llyfrau‘sgwennu - pan roddodd rywfiwrocrat hunan bwysig ei groesgoch ar ddyfodol yr ysgol.Ond, yn ffodus iawn, mae’rgymuned wedi bod yn weithgardros y blynyddoedd yn cynnaldigwyddiadau yn yr adeilad –mae ysbryd Trefeurig, os nad yrysgol ei hun, yn dal yn fyw.Ac mae hyn yn bwysig. Mae’rysgol wedi bod yn bwyntffocws i’r ardal – ysgol, cwrddcystadleuol, sioe’r fro, sinema,dosbarthiadau nos, ffair haf, - miallwn ni sôn am fwy o bethauond dwi’n credu fod y pwyntdwi’n drio’i neud yn glir. MaeYsgol Trefeurig yn parhau i ddalei dir fel canolbwynt Pen-bont,Cwmsymlog, Cwmerfin, aBancydarren.Mae’n adeilad ‘balch’, yno’nsefyll yn sentinel i unrhyw una ddaw fewn i’r hen blwy’. Ar eiwaliau mae’r enwau a naddwydgan y disgyblion i gerrig yradeilad yn ystod amserauchwarae, a thu fewn, ar dalcen ydosbarth mae enwau plant y frona ddaeth yn ôl o’r rhyfeloedd.Ac ambell enw arall, i goffau adathlu’r rhai hynny a ddaeth ynôl yn ddiogel ar ôl gwasanaethu(ac enw’n Nhad-cu ac ambellberthynas arall i mi yn eumysg).Ond nawr, mae bygythiadarall i’r adeilad sy’n symbylutraddodiad ac ysbrydcymunedol y fro.Mae gan y gymuned ond 6mis i ymdrechu i gadw’r ysgol ofewn eu perchnogaeth. 6 mis igodi miloedd ar filoedd – neumi fydd yr hen le yn cael ei roiar y farchnad agored. Cywilydd.Bu cau’r Ysgol Gynradd ynglec flynyddoedd yn ôl. Heb os,mi fydd gwerthu’r hen aelwydbwysig yma’n un caletach fyth.Mi fuaswn wrth fy modd pebuaswn yn gallu prynu’r lle a’iroi yn ôl yn nwylo’r gymuned– wedi’r cyfan, mae fy nyled iysgol Trefeurig yn enfawr.Ond na, does dim tocyn aurgennai.Mi wnâi beth allai – wrthgwrs. A dwi’n siãr, y gwnewchchi hefyd beth allwch chithau.Os gallwch chi helpu mewnunrhyw ffordd, cysylltwch â’rCyngor Cymuned – mae ‘naymgyrch ar gychwyn yno.Ar ôl ei werthu, tybed bewneith Cyngor Ceredigion â’rarian?Prynu mwy o ‘grit’ ar gyferstrydoedd Aberystwyth? Neubrynu swing fach arall i’r caechwarae am ein trafferth efallai?Gobeithio’n wir y cawn einsiomi o’r ochr orau.Mae Rhydian yn YmgynghoryddCysylltiadau Cyhoeddus gydaStrataMatrix.Wil Griffiths: Dyn y MêlGwasg Carreg Gwalch. 112t. £6.50Y gyfrol hon yw rhif76 yn y gyfres ‘LlyfrauLlafar Gwlad’ a fu’nymddangos yn gysono Wasg Carreg Gwalcher 1986. Cyfres ynymwneud â phob matho bynciau a themâuydyw, ac yn y gyfrolddiweddaraf hondyma ein cyflwynoi faes arall eto. A phwy gwell iwneud hynny na’r gwenynwradnabyddus a phrofiadol, ycyn-brifathro Wil Griffiths, sy’nfrodor o ardal Llangwyryfon,ac sy’n byw ar gyrion ardal yTincer yng Nghomins-coch?O’i flynyddoedd cynnar yn eidrowser cwta y mae Wil, ar eigyfaddefiad ei hun, wedi treulioblynyddoedd lawer erbyn hyna’i ‘ben mewn cwch gwenyn’, acfel y dengys y llyfr hwn, wedicrynhoi gwybodaeth eang iawnam fyd rhyfeddol gwenyn amêl. Ond na feddylier neb mairhyw lawlyfr sych a thechnegolar gyfer y rhai sydd eisoes ynwenynwyr yw hwn. Stori syddyma, mewn Cymraeg cartrefol,graenus, am un o ryfeddodaubyd natur, am y modd y byddgwenynen yn dechrau ar eillafur ar ddydd ei genedigaeth,am wahanol ddawnsfeydd ygwenyn sy’n rhoi gwybodaethi ddeiliaid eraill y cwch ambellter, cyfeiriad, dwyster a blasy neithdar cyn iddyntgychwyn ar eu taith i’wgyrchu, ac mor ofalusy mae angen iddyntsylwi ar y wybodaeth,gan bod eu bywydyn dibynnu ar hynnyi raddau helaeth.Dadlennir y modd ybydd gwenynwr yngorfod marcio cefnbach iawn y frenhineser mwyn iddo ei adnabodymhlith y gwenyn eraill yn ycwch, a’r gwahanol ddeunydda ddenyddir i wneud hynny– y lliw a rydd merched areu hewinedd, er enghraifft, acweithiau, ‘tippex’ hyd yn oed.Yn ychwanegol at ymdriniaethdrylwyr â byd y gwenyn – ‘eutrefnusrwydd, eu diwydrwydda’r hyn sy’n perthyn iddynt’chwedl yr awdur, y mae hefydluniau (rhai ohonynt mewn lliwllawn), deiagramau, cartwnaua nifer o anecdotau am ambelldro trwstan a ddigwyddoddi’r awdur mewn perthynas â’iwenyn – un ohonynt yn yBabell Lên ar faes yr EisteddfodGenedlaethol, o bob man. Ceirhefyd Eirfa ddefnyddiol ar ydiwedd. Ddarllenwyr y Tincer,HEIDIWCH ar fyrder i’r sioplyfrau agosaf i chwilio am ygyfrol felys hon.Tegwyn JonesCYMDEITHAS GWENYNWYRCYMRAEG CEREDIGIONMae sôn cynyddol ar led nad yw popeth yn dda ym myd y gwenynac er mwyn ceisio arbed eu tranc mae yna nifer o bobl wedi myndati i ddechrau cadw gwenyn. Fel cymdeithas o wenynwyr rydymyn barod iawn i fod o gymorth i rai sydd â diddordeb ac efallai amddechrau, trwy redeg cwrs dechreuwyr yn y flwyddyn newydd. Amfwy o fanylion ffoniwch Wil Griffiths ar 01970 623334 neu arleinwilmair@btinternet.comTy^ Coch ym 1951. Safai Ty^ Coch ar y gyffordd rhwng y briffordd Aberystwyth- BowStreet lle mae’r tro am Benrhyn-coch. Allt Ty^ Coch enwir yr allt rhwng y briffordd a’rbont rheilffordd a groesir cyn dod at Glyn Deri (arferai gael ei alw yn Royal Oak) aMaes y Deri. Y rhai olaf i fyw yn Ty^ Coch oedd Mr O. Williams a Mrs Mary Williamsa’u mab Gwyn fu’n byw yno o tua 1950 hyda y 1960au. Yn ddiweddarach fedynnwyd y ty^ i lawr. Diolch i Agnes Morgan, Penrhyn-coch am gael benthyg y llun.

16 Y TINCER TACHWEDD 2010John Meredith. Yr Hwn Ydwyf:Hunangofiant John Meredith. YLolfa. 141t. £7.95.I unrhyw un drosdrigain oed byddai’nanodd anghytuno âdwy frawddeg a welirym mhennod gyntaf ygyfrol hon, sef ‘’Rwy’nteimlo mai ‘nghenedlaethi oedd yr ola cyn ynewid cymdeithasolmawr. Am genedlaetheroedd yr ardal wedibod yn ddigyfnewid’. A chofnod o’rparhad hwnnw pan oedd yr awduryn mwynhau ei blentyndod yn yBont yw un o benodau difyrraf ygyfrol ddifyr hon. Ond cyn dodat ei fabinogi y mae’n rhoi inniadroddiad llawn a manwl o’r nosonryfeddol honno ym Medi 1997pan gyhoeddodd i’r genedl – oflaen pawb arall – ac yn ramadegolgysact, fod Cymru wedi cymrydcam sylweddol tuag at ei rhyddidgwleidyddol. Campus o stori ydyw,ac nid llai diddorol yw’r gweddillchwaith. Yn wahanol i lawer ohonoma fagwyd mewn pentrefi gwledigyng Ngheredigion, yr oedd gan Johnberthnasau’n cadw siop yn Llundain,a byddai’n mynd ei hunan bach ostesion Strata i Paddington, ac yncael cyfle adeg gwyliau ysgol i brofibywyd tipyn prysurach y Babylonfawr honno, a rhoi i ni yn y fargenddarlun o fywyd bob dydd y siopa rownd laeth a oedd yn eiddo i’wewythr a’i fodryb. O Ysgol y Bonti Ysgol Tregaron, ac oddi yno iweithio mewn labordy yngNgholeg Aberystwyth lle buiddo ran, ymhlith pethaueraill, yn datblygu sebongwallt i Johnson & Johnson.Aeth ei waith ag ef a’i deulu iAmerica, a diddorol eto yw’rhanes a gofnodir am y daithhonno. Fel gohebydd trylwyrar y cyfryngau y bydd y rhanfwyaf ohonom yn synio amJohn Meredith, a chawn ymahanes ei yrfa ar y radio a’r teledu,hanes sy’n llawn o bethau diddorolmegis hedfan yn Concord, achosSiôn Jenkins a hyd yn oed y tornadohwnnw a drawodd Bow Street bethamser yn ôl. Daw ei ddiddordebmewn chwaraeon, yn enwedigpêl-droed a chriced, i’r amlwg yngyson, a bydd yr atgofion a’r hanesionam y timau pêl-droed lleol yncanu clychau yng nghof llawer un.Adroddir y cyfan mewn Cymraegglân a chartrefol, ac mewn cyfrol sy’norlawn o ffeithiau, ni sylwais i ondar ddau lithriad bach. Ar dudalen 80dywedir i Richard Burton farw ynAmerica. Yn y Swistir y digwyddoddhynny. Ac ar dudalen 96 cyfeiria at uno’i gyd-ohebwyr ar ‘Helo Bobol’ gyntwrth yr enw Catrin Stephens lle dylaifod yn Catrin Stevens. Ond mewncyfrol mor ddiddan nid yw hynnyond mân lwch y cloriannau.Tegwyn JonesYSGOL PENRHYN-COCHRuth JenCroesawyd Ruth Jen i’rysgol i weithio gyda hollddisgyblion yr ysgol. Buyma am ddau ddiwrnod yncreu baneri yn seiliedig ary tymhorau. Bydd y banerihyn yn cael eu gosod ynneuadd yr ysgol. Cafwydllawer o hwyl wrthi yngweithio a chrewyd baneriarbennig iawn. Diolch i Rutham ddod atom.Ysgol PenweddigYn ddiweddar, gwahoddwyddisgyblion blynyddoedd5 a 6 i ymweld â YsgolGyfun Penweddig. Pwrpasyr ymweliad oedd igymryd rhan mewngwers Wyddoniaeth odan arweiniad Mr GarethLewis a Mrs Sandra Laverty.Treuliwyd prynhawnarbennig yno yn arbrofiwrth losgi amryw o eitemau.Bu hyn yn gyfle gwych i’rdisgyblion i ddysgu sgiliaugwyddonol newydd o danamgylchiadau arbenigol.Diolch yn fawr iawn i’rPennaeth, Mr Llwyd Ifan amy gwahoddiad ac i’r staff am ycroeso a gafwyd. Gobeithiwndrefnu ymweliadau tebyg yny flwyddyn newydd.DiolchgarwchCynhaliwyd ein GwasanaethDiolchgarwch ar ddyddGwener olaf cyn hannertymor. Bu pob dosbarthwrthi yn cymryd rhana chasglwyd nwyddauamrywiol o’r disgyblion. Ynystod y prynhawn teithioddClwb Côr yr ysgol i GartrefTregerddan, Bow Street iddiddanu’r trigolion. Bu’rdisgyblion yn canu nifer oganeuon ac yna rhannwydy nwyddau o amgylch ytrigolion. Diolch i’r staff amy croeso.Inter Milan Ceredigion!Rhwng 1948 a 1953 bu Trefeurig& District United yn chwaraepêl-droed yng nghynghrairAberystwyth a’r Cylch. Mewnpum tymor chwaraeasant 94o gêmau cynghrair gan ennillond 13. Adroddir eu stori mewnllyfryn newydd dwyieithog Canerismelyn Trefeurig / Trefeurig’s yellowcanaries, o waith Richard E. Huws, agyhoeddwyd ym mis Tachwedd.Mae’r llyfr nid yn unig yn rhoihanes y tîm, ond mae’n groniclpwysig hanesyddol a chymdeithasolo oes a fu. Chwaraeai’r tîm argae oedd dros 700 troedfedduwchben y môr ym Manc-y-darrenmewn ardal ddiarffordd yngngogledd Ceredigion, a thynnwydchwaraewyr o bentrefi pell ac agosi’w gynrychioli. Dibynnai’r clwb ynbennaf ar chwaraewyr o bentrefiplwyf Trefeurig fel Banc-y-darren,Cwmerfin, Cwmsymlog aPhen-bont Rhydybeddau, ond ynogystal bu’n rhaid denu chwaraewyro bentrefi cyfagos fel BowStreet, Capel Bangor, Derwen-las,Llanbadarn Fawr, Llanfarian,Taliesin, Tal-y-bont a Thrawsgoed.Daeth nifer o fechgyn hefyd oAberystwyth a Phenparcau, acymhlith y 70 a fu’n cynrychioli’rtîm roedd nifer o fyfyrwyr ybrifysgol. Mae’r llyfryn yn cynnwysbywgraffiad byr o bob chwaraewr,ac mae’n ddiddorol i nodi bod yneu plith fechgyn o dras Albanaidd,Almaenaidd, Eidalaidd a Gwyddelig,yn ogystal â nifer o Saeson aymsefydlodd yn yr ardal. Fel InterMilan roedd Trefeurig hefyd yndîm rhyngwladol !Yr awdur yw Richard E. Huws,Bont-goch, cyn-aelod o staff LlyfrgellGenedlaethol Cymru, a gyhoeddoddThe football and rugby playing fieldsof Wales o wasg Y Lolfa yn 2009.Ysgrifennwyd y rhagair gan TegwynJones, Bow Street, a fu’n chwaraewrac yn gefnogwr Trefeurig. Mae’r llyfrhefyd yn cynnwys nifer o luniaugrãpiau ac unigolion.Cyhoeddir Caneris melyn Trefeurig/ Trefeurig’s yellow canaries, 72tt,(ISBN:978-1-84771-311-7) gan yrawdur, Richard E. Huws, Pantgwyn,Bont-goch, Ceredigion, SY24 5DP.(01970-83256 / rehuws@aol.com) Ei brisyw £6 yn y siopau, neu £7 i gynnwyscludiant a phacio os archebir drwy’rpost.Disgyblion Ysgol Penrhyn-Coch wrthi yn mwynhau gwers Gwyddoniaethyn Ysgol PenweddigAelodau o Clwb Cor yr ysgol yn diddanu trigolion Cartref TregerddanCYFLE I ENNILL COPI!Gyrrwch ateb i'r cwestiwnisod gyda'ch enw a'chcyfeiriad mewn e-bost neudrwy'r post at y golygyddcyn Rhagfyr 10fedPa dim pêl-droed o Gymru sy'n cael ei adnabod fely Caneris?

18 Y TINCER TACHWEDD 2010YSGOL RHYDYPENNAUDiolchgarwchAr ddydd Mercher yr 20fed oHydref, cynhaliwyd cyngerddDiolchgarwch blynyddol yr ysgol.Yn dilyn traddodiad, rhoddwydcroeso i henoed yr ardal athrigolion y gymuned. Cafwydgwledd o ganu a llefaru graenuso flynyddoedd 1 i 6 ac yn dilyny perfformiad, cafodd yr henoedgyfle i sgwrsio am ymdrechiony disgyblion dros wledd arall,sef te hynod o flasus wedi eibaratoi gan staff y gegin. Ynystod y prynhawn cyflwynwydein casgliad Diolchgarwch iSharon Woodcock, cynrychiolyddein helusen eleni, sef ‘FfaglGobaith’ - elusen sy’n cynorthwyopobl a phlant yn ein hardal leol.Casglwyd £270.25. Diolch yn fawriawn i bawb.Adran yr UrddCynhaliwyd Noson Calan GaeafAdran Yr Urdd yn yr ysgol ynddiweddar. Cafodd aelodau’rUrdd gyfle i wisgo gwisg ffansi amwynhau ychydig o hwyl a sbri’rnoson arbennig hon. Cafodd nifero blant wobrau hael a chytunoddpawb fod y noson wedi bod yn unddifyr iawn.TrawsgwladCynhaliwyd Trawsgwlad CylchAberystwyth ar ddydd GwenerHydref yr 8fed ar gaeau’r Ficerdy.Cynrychiolwyd yr ysgol gan56 o blant blynyddoedd 3 i 6.Llwyddodd pob un ohonynti gyflawni’r cwrs a chafwydperfformiadau arbennig gan ycanlynol gan iddynt orffen yny deg cyntaf - Tomos Lyons bl 3(8ed); Catrin Manley bl 4 (6ed);Megan Jackson bl 5 (7ed); ShaunJones bl 5 (8ed); Sion Manley bl 6(4ydd). Mi fyddant nawr yn rhedegyn erbyn y goreuon o Geredigionyn y flwyddyn newydd. Pob hwyliddynt!Ymweliad AddysgolFel rhan o thema’r tymor, ‘Bwyda Ffermio’, fe aeth dosbarth MrsWilliams i Fferm Ffosygrafel aFferm Dolclettwr er mwyn gwelda deall sut mae’r diwydiant amaethyn gweithio. Diolch yn fawr iawn ideulu’r Griffiths a theulu’r Daviesam y croeso a’r profiadau gwych.Mynd am DroFe aeth y dosbarth Derbyn ar daithyn y bws yn ddiweddar. Pwrpasy daith oedd cyrraedd y goedwigwrth ymyl Gogerddan. Wrth fyndam dro drwy’r coed, gwelwyd nifero bethau diddorol iawn yn cynnwysbywyd gwyllt a phlanhigionamrywiol. Cafwyd cyfle hefyd iarsylwi ar yr holl ddail sydd wedidisgyn o’r coed yn ddiweddar a bu’rplant wrthi’n ddiwyd yn cymharueu siapiau a’u lliwiau.DiogelwchRhai diwrnodau cyn Calan Gaeafa Noson Guto Ffowc; cafoddblwyddyn 5 a 6 ymweliad gan einHeddwas Cymunedol, PC HefinJones a Swyddog CymunedolGorsaf Dân Aberystwyth, KarenRoberts. Rhybuddiwyd y plant o’rproblemau diogelwch a all godiyn sgîl ffolineb a diffyg synnwyrcyffredin ar y nosweithiau hyn.Dyfeisio a DarganfodAr y 3ydd a’r 4ydd o Dachweddcafwyd ymweliad arall gan MrEifion Collins, XL Wales. Cafoddpob plentyn o’r flwyddyn 1 iflwyddyn 6 gyfleon i ddatblygueu sgiliau datrys problemau. Ac, felarfer, roedd gweithgareddau MrCollins yn arbennig o dda.Codi ArianCynhaliwyd diwrnod gwisgffansi yn ddiweddar er mwyn codiarian at ‘Ambiwlans Awyr Cymru’yn enw Elain Gwawr James -babi bach lleol sydd wedi elwa owasanaeth yr elusen. Casglwyd£250 tuag at yr achos.Am fwy o wybodaeth a llwyth oluniau:http://www.rhydypennau.ceredigion.sch.ukPlant y dosbarth Derbyn yn y goedwig.Rhai o blant yr ysgol yn perfformio ynystod Y Diolchgarwch.Dosbarth Mrs Williams yn ymweld a Fferm Ffosygravel.Trigolion yr ardal yn mwynhau te asgwrs yn dilyn Y Diolchgarwch.P.C.Hefin Jones yn rhybuddio cyn Noson Calan Gaeaf a Noson Tan Gwyllt.Am bob math owaith garddioffoniwch Robert ar(01970) 820924CYSYLLTWCHÂ NIytincer@googlemail.com

Y TINCER TACHWEDD 2010 19YSGOL PEN-LLWYNTaith noddedigAr nos Wener, Hydref 1af, fe fullawer o’r disgyblion, rhieni a’rstaff yn cymryd rhan mewn taithnoddedig yng Nghwmrheidol.Trefnwyd y noson gan BwyllgorCodi Arian y Gymdeithas a rhaiddweud ei bod hi wedi bod ynnoson hyfryd i gerdded. Ar ôly daith aethom yn ôl i NeuaddPen-llwyn, Capel Bangor i gaelychydig o luniaeth ac i gymrydrhan yn y ffair. Casglwyd £730 arôl y daith noddedig felly diolch ibawb a gyfrannodd.TrawsgwladCawsom brynhawn arbennigar gaeau’r Ficerdy ar gyfergãyl trawsglwad yr ardal.Llongyfarchiadau i bawb agymerodd ran ymhob ras. Butri o fechgyn yn llwyddiannusac yn cael mynd ymlaen i’r camnesaf. Tomos Evans ddaeth yn ail,Gethin ap Dafydd a ddaeth ynbedwerydd a Jo Jones yn ddegfed.Da iawn chi!GwasanaethDiolchgarwchCynhaliwyd ein GwasanaethDiolchgarwch ar brynhawn dyddMercher, Hydref 20fed ac ar ôly gwasanaeth cawson amser Igymdeithasu dros gwpaned ode a chacen. Casglwyd £68 atAmbiwlans Awyr Cymru ynystod y gwasanaeth.Tîm Plismona BroYn ystod yr wythnosau diwethafbu un o Dîm Plismona BroAberystwyth yn yr ysgol yngosod cystadleuaeth ysgrifennui’r plant hynaf. Gan mai ManonDavies enillodd y gystadleuaethhi sydd yn cynrychioli’rysgol ac yn mynychu’r orsafheddlu unwaith yr wythnoser mwyn cymryd rhan mewnamrywiaeth o weithgareddau.Llongyfarchiadau Manon!Croeso nôlAr ôl hanner tymor dychweloddMrs Williams ar ôl cyfnod osalwch ac fe hoffwn ei chroesawuyn ôl i Ben-llwyn a diolch iMiss Angharad Jones am ei helpgwerthfawr yn ystod y cyfnodyma.Diwrnod T. Llew JonesBuon yn darllen darnau o waithT. Llew Jones. Cawson hwyl gydaamrywiaeth o weithgareddauiaith yn ein dosbarthiadau.Pen blwyddiAr ôl astudio thema ‘Penblwyddi’, aeth dosbarth 1 atii drefnu parti i ddathlu penblwydd Ianto. Daeth plant a staffo Ysgol Feithrin Pen-llwyn atom iymuno gyda’r dathliadau. Roeddnifer fawr o weithgareddau iwneud yn ystod y bore cyffrousa llawer o hwyl yn addurnocacennau a gwledd anferth ablasus i’w fwynhau. Chwaraeonni gêmau a chymryd rhan mewncystadlaethau dawnsio ac aethpawb adre yn hapus dros ben.DiolchCarwn ddiolch i rieni dosbarth1 am eu help yn ystod y tymoryma eto yn enwedig Mr IeuanJoyce a Mr Paul Hancox a fu’npeintio a theilo yng nghyntedddosbarth 1.Taith noddedig yng NghwmrheidolTrawsgwladParti Pen blwydd IantoParti Pen blwydd IantoParti Pen blwydd Ianto

20 Y TINCER TACHWEDD 2010TASG Y TINCERWel, mae sawl peth wedidigwydd ers Tasg misHydref! Fuoch chi allanyn rhoi braw i bobl ardalY Tincer ar noson CalanGaeaf? A beth am nosonGuto Ffowc? Rwy’n siwr ichi gael hwyl yn gwylio’rgoelcerthi a’r rocedi.Diolch i bob un ohonochchi fu’n lliwio llun ydylluan yn chwarae golffy mis diwethaf. Dymapwy anfonodd eugwaith ata’i:Ceri Ann, 12 Y DdôlFach, Penrhyn-coch; NoaRowlands, Henley, MorfaMawr, Aberystwyth; MeganFflur Lewis, Ystrad, CapelBangor; Mirain Gregory,Y Deri, 6 Elysian Grove,Aberystwyth; Fabien OwenRoberts, Llwyngwair,Tal-y-bont; Ffion Wyn, 10Carreg Wen, Bow Street;Alison Keegan, Fferm MaesBangor, Capel Bangor.Roedd eich lluniau’n hyfryd.Hoffais drowsus dy dylluandi, Noa, a lliw gwyrdd dygwrs golff di, Alison, ond tiMirain sy’n cael y wobr y trohwn. Llongyfarchiadau!Rwy wedi teithio’n bell ersllunio’r Dasg ddiwethaf!Wyddoch chi i ba wladfues i? I Queensland,yng ngogledd ddwyrainAwstralia! Falle yr hoffechMirain Gregoryedrych mewn atlas, neu ar y weer mwyn gweld lle yn unionmae Queensland. Gwelais ibob math o anifeiliaid yno –cangarw, coala, emiw, walabi,aderyn kookaburra, ystlumod obob math, a sawl pilipila lliwgar,heb sôn am bryfed o bob lliwa llun! Roedd y tywydd ynbraf iawn ac mi ges i amserwrth fy modd. Y mis hwn,beth am liwio baner Awstralia,ond cofiwch ddefnyddio’rlliwiau cywir. Hefyd, dymalun cangarw, gan fy mod wedicael cyfle i roi bwyd i ambellun cyfeillgar! Anfonwch eichgwaith ata’i erbyn Rhagfyr1af i’r cyfeiriad arferol: Tasgy Tincer, 46 Bryncastell, BowStreet. Ceredigion, SY24 5DE. Tata tan toc!EnwCyfeiriadOedRhif ffônLletyMaes-y-môrAberystwytho £20 y nosonYstafell yn unig . Teledu . Te a choffi .Wi Fi am ddim . Parcio. Shed i feicswww.maesymor.co.ukFfon: 01970 639 270Amrywiaeth eang olyfrau, cardiau,cerddoriaethac anrhegion Cymraeg.Croesawir archebion gan unigolionac ysgolion13 Stryd y BontAberystwyth01970 626200Rhif 333 | TACHWEDD 2010

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!