6 Tafod Elái Mai 2013Bethlehem,Gwaelod-y-garthTrefn yr Oedfaon (ar y Sul am 10:30a.m. oni nodir yn wahanol) :Mis Mai 20135ed Oedfa Ardal – Aelodau Radyr12fed Oedfa Gymun - Parchedig R.Alun Evans (Gweinidog)19eg Oedfa Cymorth Cristnogol26ain Parchedig R. Alun Evans(Gweinidog)Mis Mehefin 20132il Parchedig Aled Edwards9fed Oedfa Gymun - Parchedig R.Alun Evans (Gweinidog)16eg Parchedig Dewi Myrddin Hughes23ain Parchedig R. Alun Evans(Gweinidog)30ain Parchedig Derwyn Morris Jones“Daw haul a’i hud-wialen” ym mis Maiyn ol T Arfon Williams, ond i ni ymMethlehem, ac mewn llawer Bethlehemarall ar hyd a lled Cymru, mis CymorthCristnogol ydi mis Mai yn ddiwahan. Afydd eleni’n ddim gwahanol.Bydd criw o’r aelodau yn crwydrostrydoedd Gwaelod-y-garth yn dosbarthu(gwaith gweddol hawdd), a chasglu (ddimmor hawdd) amlenni Cymorth Cristnogol,gan ofyn yn garedig i’r trigolion a ydyntyn dymuno cefnogi ymdrechion diflino’relusen i greu cymdeithas decach i bawbtrwy’r byd i gyd.Mae’r ymateb ar stepan y drws yn gallubod yn gymysglyd iawn, rhai wrth reswmwedi paratoi, a’r amlen yn llawn ac wediei selio’n barod, eraill yn awgrymu nadoes newid ganddynt, rhai yn gwrthod arhai yn gwrthod hyd yn oed agor y drws!Ond dal ati o flwyddyn i flwyddyn fyddhanes y casglwyr, gan sicrhau fod y negesyn cael ei hail-adrodd, a wynebcyhoeddus Bethlehem yr un mor daer bethbynnag yr ymateb.Cynhelir Oedfa Cymorth Cristnogol Sul y19eg o Fai, a byddwn bryd hynny yndilyn oedfa a fydd yn cael ei rhannu ardraws Cymru benbaladr.Mae’n fwriad hefyd cynnal Bore Coffiyn y Festri fore Sadwrn y 25ain o Fai(rhwng 10 a 12 o’r gloch), er buddCymorth Cristnogol, gan ddefnyddiohynny i agor y drws i’r pentrefwyr syddyn ymwybodol o’r adeilad ond heb erioeddeimlo’r gwres sydd o’i fewn.Fel arfer, ar adegau o ofyn, maeBethlehem a’i haelodau eisioes wediymateb i Apel Syria Cymorth Cristnogolgan obeithio y bydd clustiau’rgwleidyddion yn clywed y gri amgymorth, a’r dyhead i roi terfyn ar yrymladd a’r lladd sy’n dinistrio cymdeithasa gwareiddiad.TONTEGGohebydd Lleol:Gill WilliamsGenedigaeth ŵyr bachCroeso mawr i Elis Morgan, mab bachAled a Sara Davies sy'n byw ynNhreganna ond yn hannu o Donteg aPhentyrch. Ganed Elis, ddydd sul, Ebrill14eg a phawb yn gwneud yn dda.Llongyfarchiadau i'r rhieni balch, ac wrthgwrs i Elwyn a Carys, Y Dell, (aGwyneth, Pentyrch) ar ddod yn nain adadcu (a mamgu) am y tro cyntaf, maentar ben eu digon.Yn ystod y mis hefyd bydd Holiadur yncael ei ddosbarthu i’r aelodau i ofyn ameu barn ynglyn ac addoli ym Methlehem.Awgrym y Gweithgor Addoli oedd hyn,gan geisio sicrhau fod awgrymiadau amle’r plant a’r bobl ifanc, yn ogystal â’raelodau hŷn yn yr oedfaon yn cael euhystyried.Bydd yr Holiadur yn gofyn barn am ydefnydd o’r dechnoleg ddiweddaraf mewnoedfa, awgrym sut i wella gwefan y capel,parodrwydd i fod o gymorth gydagwahanol weithgareddau, ac hefyd sutmae estyn llaw i gymell mwy o drigoliony Gwaelod i gynnwys y capel fel rhan o’ucylchoedd a’u pentref.Bydd yn sicr yn ddiddorol cael adbortho’r fath wrth baratoi i symyd ymlaen ibennod newydd arall yn hanes Bethlehem.Daeth tymor arall yn hanes “DrwsAgored” i ben yn ystod mis Ebrill, aphawb wedi mwynhau trin a thrafodWaldo, ac wedi dod i’w adnabod dipyn ynwell ers mis Medi diwethaf. O fis Medinesaf ymlaen bydd “Drws Agored” yndilyn gwaith Ann Griffiths ac eraill oemynwyr Cymru (gan roi pwyslais efallaiar y merched eraill fu’n cyfansoddiemynau?).Os oes chwant troi i mewn i oedfarhywbryd yn y dyfodol, bydd croeso yneich disgwyl bob amser ym Methlehem,Gwaelod-y-garth. Cofiwch y cynhelirYsgol Sul i’r plant bob Sul heblaw amwyliau Ysgol a hynny i gyd fynd ac amseryr oedfa am 10:30 a.m.Cofiwch hefyd am wefan Bethlehem syddi’w chanfod ar www.gwe-bethlehem.orgYmwelwch yn gyson â’r safle i chwi gaely newyddion diweddaraf am hynt a helyntyr eglwys a’i phobl. Hefyd mae ganBethlehem gyfri trydar (twitter).Dilynwch ni ar @gwebethlehem.PENTYRCHGohebydd Lleol:Marian WynneClwb y DwrlynFrank Lincoln oedd y siaradwr yngnghyfarfod mis Ebrill, Clwb y Dwrlyn adaeth tyrfa gref i wrando arno. Gan dynnuar ei brofiad hir ym myd darlledu, ei waithfel cyflwynydd cyngherddau, a’iwybodaeth eang o fyd yr opera, sonioddam rai troeon trwstan yn y meysydd yma.Yn gymysg â’r straeon cafwyd cyfle hefydi wrando ar rai o’i hoff gantorion gydagair neu ddau am gefndir pob un. Diolchyn fawr Frank am noson o ddiddanwchpur.Penblwydd HapusLlongyfarchiadau i Dewi Hughes arddathlu penblwydd arbennig ynddiweddar. ‘Roedd y deisen adderbyniodd yn gampwaith, ynadlewyrchu diddordeb Dewi mewncerdded a dringo’r mynyddoedd.GenedigaethauLlongyfarchiadau i Siân a John arenedigaeth yr efeilliaid Ela ac Owen, yngwmni i Nansi fach. Mae Nain a Tad-cu,Gwyneth a John Williams yn mynd i fodyn brysur iawn.Llongyfarchiadau hefyd i Sara ac AledDavies ar enedigaeth Elis Morgan, ŵyrcyntaf i Gwyneth Lewis, Pentyrch a Carysac Elwyn Davies, Tonteg.Priodasau RuddemFel y gwelwch mae sawl pâr wedimwynhau dathlu deugain mlynedd ofywyd priodasol yn ddiweddar.Aeth Yvonne a Gareth Williams ardaith i Awstralia i ddathlu eu priodasruddem cyn dod nôl i gyd –ddathlu gyda’rteulu ym Mhortiwgal.Mae’n siwr i Judith a Ken Evans gaelamser da yn ninas rhamantus Paris wrthiddynt hwythau ddathlu a dihangoddCarol a Penri Williams rhag yr oerfel ifwynhau’r haul a dathlu yn Gran Canaria.Llongyfarchiadau iddynt i gyd.Merched y WawrUn o brosiectau Gill Griffiths, y llywyddcenedlaethol, yw rhoi cyfleoedd iddysgwyr Cymraeg ymarfer mewnsefyllfa anffurfiol a dyna a ddigwyddoddyng nghyfarfod Merched y Wawr ymMethlehem, Gwaelod y Garth, ym misEbrill. ‘Roedd criw da o ddysgwyr, euhathrawon ac aelodau Merched y Wawrwedi dod at ei gilydd i sgwrsio drosbaned a bara brith. Yn ogystal clywsomam yr ymgyrch i sefydlu canolfangymunedol Gymraeg y Mimosa yn YBarri gan Kay Holder, enillydd dysgwr yflwyddyn 2011. Felly, os ydych yn YBarri, galwch yno am baned a sgwrs.
Ysgol GynraddGymunedolGymraegLlantrisantTrip Blwyddyn 2Aeth disgyblion o Flwyddyn 2 iGanolfan Addysgiadol Cilfynydd ym misChwefror. Bu’r plant yn mwynhau bodyn yr awyr agored yn chwilota! Buont yndysgu am bwysigrwydd ailgylchu acarbed dŵr a’r modd y gallant hwy helpuyn y tŷ ac yn yr ysgol. Da iawn chi!Trip Blynyddoedd Cynnar y CyfnodSylfaenGan mai’r thema yn y Cyfnod Sylfaen ytymor hwn yw ‘Cymru’, aeth disgyblionBlynyddoedd Cynnar y Cyfnod Sylfaenar drip i Sain Ffagan. Roedd hi’nddiwrnod braf gyda phob un yn mwynhauymdrochi ei hunan yn ein hanes ni. Brafoedd gweld y plant yn cwestiynu’r rhai afu’n gweithio yn Sain Ffagan ynsynhwyrol ac yn gwrtais.Ymweliad PC JonesBu P.C. Siân Jones yn ymweld â’r ysgol idrafod gwahanol bethau gyda disgybliono’r Cyfnod Sylfaen. Gwrandawodd yplant o’r dosbarthiadau Meithrin a’rDerbyn yn astud arni wrth iddi gyflwynoy math o waith y mae’r heddlu yn eiwneud. Caswant gyfle i wisgo gwahanolddillad ac hetiau – un neu ddau o’r plantyn awyddus i fod yn blismon neu’nblismones pan yn hŷn!Trip Blwyddyn 6 i’r EglwysEr mwyn dysgu mwy am stori’r Pasg,aeth disgyblion o Flwyddyn 6 i EglwysBethel ym Mhontyclun. Cawsant gyfle iweld pobl yn actio rhannau’r stori a bu’rprofiad yn un gwerth chweil gyda phobun yn mwynhau ac wedi elwa o’r profiad.EisteddfodEr mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewicynhaliwyd Eisteddfod yr ysgol ynogystal â gwneud amrywiolweithgareddau yn seiliedig arni yn ystodyr wythnos. Llongyfarchiadau mawr ibob un a gymrodd rhan yn einhesiteddfod ysgol ar Fawrth 1af. Cafwyddiwrnod o fwynhau gyda rhai yn adrodd,canu a dawnsio. Aeth y rhai a fu’nfuddugol i Ysgol Llanhari i gystadlu ynyr Eisteddfod Gylch. Wedi bore ogystadlu brwd, daeth pob un nôl i’r ysgolyn gyffrous i rannu eu newyddion da eubod nhw’n mynd i’r Eisteddfod Sir ymMhorthcawl. Ym Mhorthcawl, diddanoddy disgyblion y gynulleidfa a’r beirniad ynyr Eisteddfod Sir ac o ganlyniad maentwedi llwyddo mewn sawl cystadleuaeth igyrraedd Eisteddfod yr Urdd yn SirTafod Elái Mai 2013 7Adran Chwaraeonyr UrddHelenw@urdd.org0797600 3358Mae gan adran chwaraeon yr Urdd nifer oglybiau cymunedol, sydd yn rhedeg ynardal Taf. Mae croeso i unrhyw unfynychu’r clybiau yma i gadw’n heini,gwneud ffrindiau newydd a chymdeithasutrwy gyfrwng y Gymraeg:Gymnasteg yn Ysgol Garth OlwgBob Nos Iau4yp-4.45yp: derbyn i flwyddyn 14.45yp tan 5.45yp: blwyddyn 2 i 5Pris £2.50TenisYm Mharc Pontypridd bob nos Lun5.30yp tan 6.30yp Blwyddyn 3- 6Ac hefyd ar gyrtiau Tenis Fynnon DafBob Nos Fawrth5yp - 6yp Blwyddyn 3-6 Pris £2.50Aml Gamp - Cymysgedd o wahanolchwaraeonTrefforest bob nos Iau 5yp tan 6ypBlwyddyn 1-4 Pris £2AthletauYsgol Uwchradd Garth OlwgBob nos Fercher 4.45 tan 5.45,Blwyddyn 3-6 Pris £2Plantos Heini TafI Blant 0-4 oed. Clwb wythnosol i hybudatblygiad corfforol eich plentyn a maguhyder mewn awyrgylch gyfeillgar. £3 ysesiwn. Rhaid i rieni aros gyda’r plant.Yn Gym Fusion, PontyclunPob bore Iau 10yb tan 11.30. Pris £3Benfro. Dymunwn pob hwyl i bawb!Myfyrwyr newyddCroeso mawr i’n myfyrwyr newydd.Bydd Miss Enfys Owen yn Nosbarth 3 ynaddysgu plant Derbyn, bydd MissAngharad Wright yn Nosbarth 4 ynaddysgu plant Derbyn a Blwyddyn 1 abydd Mr Zack Williams yn addysguBlwyddyn 4. Pob hwyl i’r tri ohonynt agobeithio y byddant yn mwynhau euhamser yn yr ysgol.TrawsgwladLlongyfarchiadau mawr i dîm trawsgwladyr ysgol fu’n cystadlu yn Llanhariddechrau mis Ebrill. Da iawn i chi gyd!Dyma ganlyniadau y gystadleuaeth tîm.Blynyddoedd 3 a 4 ~ Tîm y bechgyn yn1af. Tîm y merched yn 2ilBlwyddyn 5 ~ Tîm y bechgyn yn 1af.Tîm y merched yn 2ilBlwyddyn 6 ~Tîm y bechgyn yn 2il. TîmLlwyddiant ysgubolCwmni SelsigLlongyfarchiadau fil i *Dale Evans a'i gyd-aelodau o gast y sioe gerdd 'Jekyll &Hyde' a berfformiwyd gydag angerdd arlwyfan theatr y Parc a Dâr dros wythnosola mis Ebrill. Cynhyrchiad ardderchog -cystal os nad gwell nag unrhyw sioegaech chi ar lwyfannau'r West End! Daleoedd y Cyfarwyddwr Cerdd ond ynogystal roedd ganddo ran amlwg - sefSimon Stride - yn y cynhyrchiad. Do'n ierioed wedi gweld y sioe ar lwyfan o'rblaen - er yn gyfarwydd â rhai o'r caneuon- megis 'Take me as I am' a 'Once upon adream' a'r enwog 'This is themoment' felly roedd yn brofiad gwychclywed y caneuon yn eu cyd-destun.Sefydlwyd Cwmni Selsig 'nôl ym 1948gan garedigion cerdd a drama top yRhondda. Fe'i ffurfiwyd yn ardalBlaenrhondda ac fe benderfynwyd ar yrenw 'Selsig' - (dim byd i wneud â sosejysfel y sicrhaodd Dale fi!) oherwydd bodyna afonig fechan yn yr ardal o'r enwGlanselsig, yng Nghwm Selsig ger CraigSelsig! Tybed all rhywun fy ngoleuo ardarddiad yr enw? Pob llwyddiant i'rCwmni yn y dyfodol ac os fethoch chigyfle i fwynhau'r sioe yma gellwchymweld â gwefan y Cwmni -www.selsig.net - neu eu dilyn arFacebook er mwyn dal y cynhyrchiadnesa ac i brofi pytiau o hollberfformiadau'r gorffennol.*Dale - uwch athro yn ysgol gynraddTreorci - ond wedi treulio tri mis ar gwrsSabothol yn dysgu Cymraeg ymMhrifysgol Morgannwg y Gwanwyn yma- a bellach yn Gymro i'r carn - werth eigl yw e d yn s i a r a d C ymr a e g.Llongyfarchiadau!y merched yn 1af.Dyma ganlyniadau cystadlaethau yrunigolion.Blynyddoedd 3 a 4 Bechgyn1af ~ Jack Clay. 2il ~ Tomi Booth.3ydd ~ Gruff MorganBlwyddyn 5 Bechgyn1af ~ Gethin Evans 2il ~ Dylan Edwards3ydd ~ Siôn PariBlwyddyn 5 Merched3ydd ~ Ela PorterBlwyddyn 6 Bechygyn3ydd ~ Rhys MorganBlwyddyn 6 Merched1af ~ Lili Gaskin3ydd ~ Grace Daunter