12.07.2015 Views

Mai - Tafod Elai

Mai - Tafod Elai

Mai - Tafod Elai

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

6 Tafod Elái Mai 2013Bethlehem,Gwaelod-y-garthTrefn yr Oedfaon (ar y Sul am 10:30a.m. oni nodir yn wahanol) :Mis Mai 20135ed Oedfa Ardal – Aelodau Radyr12fed Oedfa Gymun - Parchedig R.Alun Evans (Gweinidog)19eg Oedfa Cymorth Cristnogol26ain Parchedig R. Alun Evans(Gweinidog)Mis Mehefin 20132il Parchedig Aled Edwards9fed Oedfa Gymun - Parchedig R.Alun Evans (Gweinidog)16eg Parchedig Dewi Myrddin Hughes23ain Parchedig R. Alun Evans(Gweinidog)30ain Parchedig Derwyn Morris Jones“Daw haul a’i hud-wialen” ym mis Maiyn ol T Arfon Williams, ond i ni ymMethlehem, ac mewn llawer Bethlehemarall ar hyd a lled Cymru, mis CymorthCristnogol ydi mis Mai yn ddiwahan. Afydd eleni’n ddim gwahanol.Bydd criw o’r aelodau yn crwydrostrydoedd Gwaelod-y-garth yn dosbarthu(gwaith gweddol hawdd), a chasglu (ddimmor hawdd) amlenni Cymorth Cristnogol,gan ofyn yn garedig i’r trigolion a ydyntyn dymuno cefnogi ymdrechion diflino’relusen i greu cymdeithas decach i bawbtrwy’r byd i gyd.Mae’r ymateb ar stepan y drws yn gallubod yn gymysglyd iawn, rhai wrth reswmwedi paratoi, a’r amlen yn llawn ac wediei selio’n barod, eraill yn awgrymu nadoes newid ganddynt, rhai yn gwrthod arhai yn gwrthod hyd yn oed agor y drws!Ond dal ati o flwyddyn i flwyddyn fyddhanes y casglwyr, gan sicrhau fod y negesyn cael ei hail-adrodd, a wynebcyhoeddus Bethlehem yr un mor daer bethbynnag yr ymateb.Cynhelir Oedfa Cymorth Cristnogol Sul y19eg o Fai, a byddwn bryd hynny yndilyn oedfa a fydd yn cael ei rhannu ardraws Cymru benbaladr.Mae’n fwriad hefyd cynnal Bore Coffiyn y Festri fore Sadwrn y 25ain o Fai(rhwng 10 a 12 o’r gloch), er buddCymorth Cristnogol, gan ddefnyddiohynny i agor y drws i’r pentrefwyr syddyn ymwybodol o’r adeilad ond heb erioeddeimlo’r gwres sydd o’i fewn.Fel arfer, ar adegau o ofyn, maeBethlehem a’i haelodau eisioes wediymateb i Apel Syria Cymorth Cristnogolgan obeithio y bydd clustiau’rgwleidyddion yn clywed y gri amgymorth, a’r dyhead i roi terfyn ar yrymladd a’r lladd sy’n dinistrio cymdeithasa gwareiddiad.TONTEGGohebydd Lleol:Gill WilliamsGenedigaeth ŵyr bachCroeso mawr i Elis Morgan, mab bachAled a Sara Davies sy'n byw ynNhreganna ond yn hannu o Donteg aPhentyrch. Ganed Elis, ddydd sul, Ebrill14eg a phawb yn gwneud yn dda.Llongyfarchiadau i'r rhieni balch, ac wrthgwrs i Elwyn a Carys, Y Dell, (aGwyneth, Pentyrch) ar ddod yn nain adadcu (a mamgu) am y tro cyntaf, maentar ben eu digon.Yn ystod y mis hefyd bydd Holiadur yncael ei ddosbarthu i’r aelodau i ofyn ameu barn ynglyn ac addoli ym Methlehem.Awgrym y Gweithgor Addoli oedd hyn,gan geisio sicrhau fod awgrymiadau amle’r plant a’r bobl ifanc, yn ogystal â’raelodau hŷn yn yr oedfaon yn cael euhystyried.Bydd yr Holiadur yn gofyn barn am ydefnydd o’r dechnoleg ddiweddaraf mewnoedfa, awgrym sut i wella gwefan y capel,parodrwydd i fod o gymorth gydagwahanol weithgareddau, ac hefyd sutmae estyn llaw i gymell mwy o drigoliony Gwaelod i gynnwys y capel fel rhan o’ucylchoedd a’u pentref.Bydd yn sicr yn ddiddorol cael adbortho’r fath wrth baratoi i symyd ymlaen ibennod newydd arall yn hanes Bethlehem.Daeth tymor arall yn hanes “DrwsAgored” i ben yn ystod mis Ebrill, aphawb wedi mwynhau trin a thrafodWaldo, ac wedi dod i’w adnabod dipyn ynwell ers mis Medi diwethaf. O fis Medinesaf ymlaen bydd “Drws Agored” yndilyn gwaith Ann Griffiths ac eraill oemynwyr Cymru (gan roi pwyslais efallaiar y merched eraill fu’n cyfansoddiemynau?).Os oes chwant troi i mewn i oedfarhywbryd yn y dyfodol, bydd croeso yneich disgwyl bob amser ym Methlehem,Gwaelod-y-garth. Cofiwch y cynhelirYsgol Sul i’r plant bob Sul heblaw amwyliau Ysgol a hynny i gyd fynd ac amseryr oedfa am 10:30 a.m.Cofiwch hefyd am wefan Bethlehem syddi’w chanfod ar www.gwe-bethlehem.orgYmwelwch yn gyson â’r safle i chwi gaely newyddion diweddaraf am hynt a helyntyr eglwys a’i phobl. Hefyd mae ganBethlehem gyfri trydar (twitter).Dilynwch ni ar @gwebethlehem.PENTYRCHGohebydd Lleol:Marian WynneClwb y DwrlynFrank Lincoln oedd y siaradwr yngnghyfarfod mis Ebrill, Clwb y Dwrlyn adaeth tyrfa gref i wrando arno. Gan dynnuar ei brofiad hir ym myd darlledu, ei waithfel cyflwynydd cyngherddau, a’iwybodaeth eang o fyd yr opera, sonioddam rai troeon trwstan yn y meysydd yma.Yn gymysg â’r straeon cafwyd cyfle hefydi wrando ar rai o’i hoff gantorion gydagair neu ddau am gefndir pob un. Diolchyn fawr Frank am noson o ddiddanwchpur.Penblwydd HapusLlongyfarchiadau i Dewi Hughes arddathlu penblwydd arbennig ynddiweddar. ‘Roedd y deisen adderbyniodd yn gampwaith, ynadlewyrchu diddordeb Dewi mewncerdded a dringo’r mynyddoedd.GenedigaethauLlongyfarchiadau i Siân a John arenedigaeth yr efeilliaid Ela ac Owen, yngwmni i Nansi fach. Mae Nain a Tad-cu,Gwyneth a John Williams yn mynd i fodyn brysur iawn.Llongyfarchiadau hefyd i Sara ac AledDavies ar enedigaeth Elis Morgan, ŵyrcyntaf i Gwyneth Lewis, Pentyrch a Carysac Elwyn Davies, Tonteg.Priodasau RuddemFel y gwelwch mae sawl pâr wedimwynhau dathlu deugain mlynedd ofywyd priodasol yn ddiweddar.Aeth Yvonne a Gareth Williams ardaith i Awstralia i ddathlu eu priodasruddem cyn dod nôl i gyd –ddathlu gyda’rteulu ym Mhortiwgal.Mae’n siwr i Judith a Ken Evans gaelamser da yn ninas rhamantus Paris wrthiddynt hwythau ddathlu a dihangoddCarol a Penri Williams rhag yr oerfel ifwynhau’r haul a dathlu yn Gran Canaria.Llongyfarchiadau iddynt i gyd.Merched y WawrUn o brosiectau Gill Griffiths, y llywyddcenedlaethol, yw rhoi cyfleoedd iddysgwyr Cymraeg ymarfer mewnsefyllfa anffurfiol a dyna a ddigwyddoddyng nghyfarfod Merched y Wawr ymMethlehem, Gwaelod y Garth, ym misEbrill. ‘Roedd criw da o ddysgwyr, euhathrawon ac aelodau Merched y Wawrwedi dod at ei gilydd i sgwrsio drosbaned a bara brith. Yn ogystal clywsomam yr ymgyrch i sefydlu canolfangymunedol Gymraeg y Mimosa yn YBarri gan Kay Holder, enillydd dysgwr yflwyddyn 2011. Felly, os ydych yn YBarri, galwch yno am baned a sgwrs.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!