12.07.2015 Views

Mai - Tafod Elai

Mai - Tafod Elai

Mai - Tafod Elai

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Ysgol GyfunGarth Olwg<strong>Tafod</strong> Elái <strong>Mai</strong> 2013 15Ffisegwyr Garth Olwg yn tracioEiddo’r BBC.Dawns GreadigolLlongyfarchiadau i ferched blwyddyn 8Ysgol Gyfun Garth Olwg ar ddod yngyntaf yng nghystadleuaeth y DdawnsGreadigol yn yr Eisteddfod Sir ym misMawrth. Aelodau’r grŵp yw CarysBowen, Taome Edwards, Georgia Jenkinsa Jessica Davies. Dyma’r tro cyntaf i’rmerched gystadlu yn y gystadleuaeth hona derbyniodd y grŵp feirniadaeth addawoliawn! Pob lwc i chi yn yr EisteddfodGenedlaethol yn Sir Benfro!Gwaith BlasusEnillodd Megan Meadows 7H, TallisGriffith 7H ac Indeg Lacey 7H y wobr 1af,2ail a 3ydd yn y gystadleuaeth Gwaithcreadigol 3D ar gyfer Eisteddfod yr Urddeleni. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw!Mentoriaid CyfoedionMae menter gyffrousnewydd ar y gweill yngNgarth Olwg. Yn dilyntrafodaethau yn y CyngorYsgol am bob math o fwlian, hyfforddwydnifer o aelodau o flwyddyn 10, 11 a 12 ifod yn Fentoriaid Cyfoedion. Mae’r criwwedi creu fideo i ddangos i blant iau'rysgol yn esbonio beth yw eu rôl a’ucyfrifoldebau. Rydym yn edrych ymlaenat weld dylanwad eu gwaith!Noson GwobrwyoFe ddaeth disgyblion a chyn ddisgyblionat ei gilydd i ddathlu eu llwyddiannau ynein noson wobrwyo. Y gŵr gwadd oeddDr. Phil Ellis ac fe gyflwynodd ef sawlgwobr gan gynnwys tystysgrifau TGAU aLefel A a gwobrau arbennig fel gwobrgoffa Gwenan Brooks. Cyflwynwyd ywobr er cof am Athrawes Ffiseg yr Ysgol iAled Humphreys cyn ddisgybl yr Ysgol,am ddangos agwedd frwdfrydig tuag at ypwnc. Roedd hi’n noson arbennig iawn!Cychwynnodd y daith i’r “Celtic Manor”ym mis Hydref 2012, gyda phedwarpererin brwdfrydig fel rhan ogystadleuaeth flynyddol Cynllun AddysgPeirianneg Cymru (www.eesw.org.uk).Bwriad y cynllun yw denu mwy ofyfyrwyr disglair i astudio Peirianneg felpwnc yn y brifysgol, trwy gydweithio arbrosiect gyda chwmni peirianneg lleol adefnyddio adnoddau prifysgol.Aeth y pedwar ohonom ymlaen i’rgweithdy deuddydd ym MhrifysgolMorgannwg ym mis Rhagfyr. Yncydgerdded gyda ni oedd ein partnerDavid Williams, peiriannydd o’r BBC. Eintasg oedd ffeindio ffordd o dracio offerdrudfawr y peirianwyr a dynion camera asain ar hyd safleoedd y BBC yngNghymru. Roedd angen i ni’r pedwarpererin gwydn rannu’r gwaith a brwydoymlaen hyd fis Mawrth i greu dogfenbroffesiynol i gyflwyno i’r panelbeirniadu.O’r diwedd, pen y daith! Ystafelloeddcynadledda'r Celtic Manor, a’r cyflwyniadllafar i’r panel beirniadu. Trafodon ni eincynlluniau gyda’r panel am ugain munudac ateb cwestiynau lu. Roedd cyflearbennig ar y diwrnod i ni ymweld âstondinau Prifysgolion a chwmnïau, i holiam yrfaoedd a nawdd.Llongyfarchiadau i Liam Collins-Jones,Jacob Pahulo-Smith, Matthew James aJoshua Sayle ar eu hymdrech. Bydd yprofiad o fantais mawr iddyn nhw wrthgeisio am le yn y Brifysgol.Hoffai’r ysgol a’r disgyblion ddiolch ynfawr i David am ei waith caled ac i’rEESW am drefnu’r cwbl ers dros 20mlynedd bellach. Pob lwc i dîm 2014!Taith Gwlad Yr IaAm 1 o’r gloch y bore ar y 21ain oFawrth, cychwynnodd 41 o ddisgyblion a5 athro o Ysgol Gyfun Garth Olwg ar eutaith i Wlad yr Iâ. Ni chysgodd lawer oblant ar y bws na’r awyren felly roeddennhw’n flinedig iawn. Serch hyn, nid oeddyn broblem gan fod cyffro ac adrenalin yplant yn eu cadw ar ddihyn. Ar y diwrnodcyntaf aethon nhw i’r Blue Lagwn lleymlaciodd pawb yn y dŵr twym. Roeddyna arogl cryf o sylffwr yn yr awyr, ondroedd pawb yn mwynhau gormod i boeni!Ar yr ail ddiwrnod, roedd pawb wediblino’n lân, a chysgodd nifer ohonynt ar ybws. Roedd y tywydd yn oer ac ynwyntog, ond roedd golygfeydd rhaeadrGulfoss, y geiser a’r llosgfynydd ynddigon i atal y plant rhag cwyno gormod!Ar ddiwrnod olaf y daith, ymwelon nhw ârhagor o raeadrau, rhewlif enfawr a thraethhynod o wyntog! Am tua hanner awr wedideg y noson honno gwelodd y grŵp lwcusOleuadau’r Gogledd! Cafodd y plant eumesmereiddio gan y lliwiau estron. Roeddyr athrawon Daearyddiaeth bron â chriogyda’r cyffro! Wrth lwc, llwyddodd MrJones i ddal y cyfan ar gamera.TelynorionDdydd Sadwrn, Mawrth 23ain aeth dwydelynores o flwyddyn 7, sef Ella Jones-Isles a Morgan Evans ar gwrs TelynauMorgannwg yn Theatr Soar, Merthyr.Hefyd, buon nhw, a thair merch arall, sefRebeca a Carys Preddy a Caitlin Sparkesyn canu’r delyn ym Mhen-y-bont fel rhano ddathliadau i gofio’r telynor enwog JohnThomas.“First campus”Yn ystod yr wythnos ddiwethaf aethdisgyblion blwyddyn naw ar drip i’rBrifysgol Fetropolitan yng Nghaerdydd.Cafon nhw gyfle i ymweld â’r brifysgol achael cip olwg ar y math o gyrsiau sy’ncael eu cynnig ar y safle. Cafon nhwamser arbennig o dda. Dywedodd JackOsborne “Roedd y cwrs yn dda ac yn rhoiblas i ni ar gyfer ein dyfodol”.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!