12.07.2015 Views

Y Tincer 306 Chwe 08 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 306 Chwe 08 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 306 Chwe 08 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS
• No tags were found...

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Y TINCER CHWEFROR 2008 Cyfeillion y TincerDyma fanylion enillwyrCyfeillion Y Tincer misRhagfyr 2007£50 Gwobr Arbennig YNadolig Rhif (96) MonaEdwards, Hafod, Garth,Penrhyn-coch.£15 Rhif (125) John Griffiths,Fron Wen, Penegoes,Machynlleth.£10 Rhif (51) Gwerfyl P Jones,41 Ger-y-llan, Penrhyn-coch.£5 Rhif (87) Bryn Roberts,Cilgwyn, Bow Street.a Ionawr 2008.£15 Rhif (95) Eddie Jenkins,Eryl, Llandre.£10 Rhif (128) EimearWilliams, Bron Afon, Dolau.£5 Rhif (37) Owen Watkin, 19Maes Henllan, Llandre.Caniadaeth y CysegrDarlledir rhan gyntaf Cymanfaganu Gogledd Ceredigion oBethel, Tal-y-bont brynhawn Sul24 Chwefror am 4.30 ar RadioCymru. Alan Wynne Jones fu’narwain.MessiahOs ydych, fel fi, yn hoff o’r gwaithcorawl “Messiah”, hoffwn eichgwahodd i’w ganu neu wrandoarno ym Morlan, Aberystwyth,dydd Sadwrn Mawrth 15fed.Nid perfformiad ffurfiol gydacherddorfa mohono. ByddCymdeithas Gorawl Aberystwythyn gnewyllyn o’r côr agobeithiwn y daw torf ohonoch iymuno â ni, i ymlacio, mwynhaua chael cyfle i ganu’r gwaith hebfod o dan straen o gwbl!Pe baech yn hoffi dod i ganuond heb gopi o’r gerddoriaeth,bydd ychydig gopïau i’wAnnwyl OlygyddMae’r gwaith wedi cychwynar roi trefn ar gyfeiriadurDyddiaduron 2009 Y Lolfa.Mae’r cyfeiriadur wedidatblygu i fod yn ffynhonnellgynhwysfawr o wybodaetham sefydliadau, cymdeithasaua busnesau Cymreig. Osydych am i’r Lolfa gynnwysgwybodaeth am sefydliadnewydd yn Nyddiadur 2009 neuos ydych am ddiweddaru neugywiro gwybodaeth mae croesoi chi gysylltu â mi.benthyca ar y dydd.Bydd 4 o unawdwyr lleol sefCatrin Aur, Elinor Powell, AlexRoberts a Kees Huysmans, a’rgyfeilyddes fydd Alvina Grant.Fi, Margaret Maddock fydd ynceisio cadw trefn ar y canu corawl.Cawn gyfle i ddod at ein gilyddi gael ymarfer ar y nos Fercherblaenorol yn Ysgol Penweddig, arbnawn Sadwrn yn y Morlan a’rperfformiad yn dilyn y noswaithhonno. (Nid oes rhaid dod i’rymarferion).Y gost fydd £5 – i ganu yn y côrneu i wrando yn y gynulleidfa.Os am fwy o fanylion,cysylltwch â fi, MargaretMaddock, ar 01970 611193 neurowland77@btinternet.com.Diwrnod o ganu. Dewch yn llu.HALELIWIA!RHODDCydnabyddir yn ddiolchgary rhodd isod. Croesewir pobcyfraniad boed gan unigolyn,gymdeithas neu gyngor.Cyngor CymdeithasTirymynach £250Gwenan a R.W. Davies,Ger-y-llan, Penrhyn-coch£10Mae gwerthiant blynyddoly dyddiaduron bellach wedicodi i 16,000 o gopïau, aceleni, fel arfer, bydd cyfle ihysbysebu tu mewn ac ar glawry dyddiaduron A5, A4 a phoced.Os am dderbyn taflen deleraucysylltwch drwy ddanfon e-bosti dafydd@ylolfa.com neu lythyrataf yn Y Lolfa, Tal-y-bont,Ceredigion, SY24 5AP.Yn gywirDafydd SaerGWEITHDY GWERINCLERA(Cymdeithas OfferynnauTraddodiadol Cymru)Dydd Sadwrn 29 Mawrth 2008 ynYsgol Penweddig, Aberystwyth(10.00am - 4.30pm), a sesiwn werinyn yr Orendy yn y nos.****Dewch i chwarae cerddoriaethdraddodiadol Cymru! MaeCLERA (Cymdeithas OfferynnauTraddodiadol Cymru) yn cynnalgweithdy yn Ysgol Penweddig,Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn,Mawrth 29, 2008.Bydd Robin Huw Bowen yn cynnaldosbarth arbennig ar gyfer y delyndeires, a bydd dosbarthiadau hefydar gyfer ffidil, telyn, ffliwt, pib aphibgorn. Mae hwyl fawr i’w gael- ac mae croeso i blant ac oedolion obob safon.Dewch i ymuno a ni yn Yr Orendyyn ystod y nos am sesiwn anffurfiolo chwarae cerddoriaeth werinGymraeg.Am fanylion pellach cysylltwchâ Nia Mai Daniel ar 01970 623936neu nia@niamai.comAm bob math owaith garddioffoniwch Robert ar(01970) 820924

Y TINCER CHWEFROR 2008Ar y TeleduHyfryd oedd gweld y cymeriadhoffus, Mr Dirk Lloyd,Frondirion, yn ymddangos ar yrhaglen ddyddiol, “Wedi Tri”, arS4C prynhawn Mercher 16eg oIonawr.Cafodd ei holi yn ei gartrefam ei fywyd llawn a chyffrous,o’i ddyddiau cyntaf ar y môr.Disgrifiodd mewn iaith goethsut y bu iddo fynd i’r môr panoedd yn rhy ifanc yn wir ary cychwyn, ac yna ymaelodigyda’r Llynges Fasnach gyda’iDad a oedd yn Gapten Llong, ganhwylio o Lerpwl i ddechrau amCadiz yn Sbaen.Ni bu yn hir cyn iddynt gaeleu dal yn Rhyfel Cartref Sbaen,a dod yn rhan o’r gyflafan, trwyfynd i estyn cymorth ar ochry Gweriniaethwyr yn Malaga,Seville a Barcelona. Bu yno amddwy flynedd, cyn dychwelydadref a gadael y môr.Yn fuan wedyn, torrodd yrAil Ryfel Byd allan, a dyma Dirkunwaith yn rhagor mewn sefyllfalle roedd yna ymladd. Y trohwn ymunodd â’r Fyddin, ganwasanaethu am bum mlynedd,ond nid oedd yn rhaid iddo fynddramor y tro yma.Mae Dirk yn falch iawn o’ranrhydedd mae wedi derbynbob blwyddyn gan y LlengBrydeinig, i osod torch bob Suly Cofio er cof am holl forwyr yrardal gollodd eu bywydau. Maee’n hynod o falch hefyd o’r ffaithmai fe yw’r gãr hynaf yn yr ardali wneud hyn.Manteisiwn ar y cyfle yma iddymuno’n dda iddo ar ei benblwydd yn 90 oed pan ddawheibio ym Mis Mai. Da iawnDirk, a phob bendith a iechyd i’rdyfodol.Y Borth, Llandre, aDôl-y-bont.Cynhelir Cyfarfod Cyhoeddusym Methlehem, Llandre, nosFercher, 12 Mawrth am 7.30o’r gloch i drefnu Is-bwyllgorApêl yr ardal i godi arian athrefnu gweithgareddau erbynEisteddfod Genedlaethol UrddGobaith Cymru Ceredigion 2010.Taer erfynnir am bresenoldebtrigolion yr ardal yn y cyfarfodpwysig yma.Cymdeithas Gymraeg yBorth a’r CylchDechreuodd cyfarfod yGymdeithas Gymraeg yn FestriCapel y Gerlan, nos Fercher 9Ionawr, mewn dull dramatig,pan dorrwyd ar draws ycymdeithasu arferol gan stwrwrth y drws a llafarganu croch.Rhuthrwyd i agor y drws, aci mewn a Mathew Clubb, yngngwisg gwerinwr y dyddiaugynt ac yn arwain y Fari Lwyd,sef penglog ceffyl ar ben polynhir, a’r cyfan wedi’i guddio odan gynfas wen wedi’i haddurnoâ rubanau a chlychau. Wedi’iguddio, hefyd, roedd GeraintWilliams, “coesau” yr hen Fari.Ffurf ar wasaela yw’r FariLwyd ac er bod traddoddiadautebyg ar gofnod mewn sawlgwlad ac ar draws Cymru gyfan,cysylltir traddodiad y Fari Lwydyng Nghymru yn arbenniga’r “Hen Blwyf”, sef pentrefLlangynwyd ym Morgannwg.Byddai’r Fari yn mynd o ddrwsi ddrws adeg y Nadolig, a’ichymdeithion yn canu penilliona fyddai’n cael eu hateb gan bobly ty. Pan fyddai’r cof a’r awenyn dechrau pallu, byddai’r Fariyn cael ei gwahodd i mewn abyddai’r rhialtwch yn para hydnes i’r Fari symud ymlaen i’rtñ, neu’r fferm, nesaf. DawMathew o Ben-y-bont ar Ogwr,heb fod ymhell o Langynwyd,ac, ychydig o flynyddoedd ynôl, fe benderfynodd adfywio’rhen arfer yn ardaloedd Tal-y-bonta’r Borth. Mae wedi gwneudymchwil ar achau’r Fari Lwydond mor hen yw’r traddodiad felna all neb ei olrhain i’w darddiad.Yn fwy na thebyg y mae cyswlltteuluol a mudchwaraewyry Canol Oesoedd, ond bethwedyn? A oes cysylltiadcrefyddol â’r Forwyn Fair a’r asyna’i cludodd i Fethlehem, ond,ar y llaw arall, oes yna rywbethpaganaidd yn glynu wrtho, gydarhyw frith gof am addoliad ceffyly Celtiaid gynt?A Mathew a Geraint yn ymlaciodros gwpaned o de, ymunoddpawb mewn trafodaeth amarferion eraill ynghlwm wrthdymor y Nadolig, megis Hela’rDryw a chanu Calennig yFlwyddyn Newydd. Diolchwydi Mathew a Geraint gan y ParchgElwyn Pryse ar ddiwedd nosonddifyr a diddorol.Sefydliad y MerchedNi ddaeth dathliadau’r Nadoligi ben yn SYM Y Borth tanY BORTHMatthew a Geraintddydd Mawrth, 8 Ionawr,pan fwynhawyd cinio hannerdydd yng Ngwesty’r Marine,Aberystwyth. Gofynnwydbendith ar y bwyd gan JoyceBerryman ac, ar ôl ciniohamddenol, yr oedd amser iymlacio a mwynhau sgwrs am yflwyddyn i ddod.Dydd Llun, 14 Ionawr, aethFreda Darby, Susan James aPauline Rickaby i Goleg Denman,Coleg SYM yn Marcham, gerRhydychen, am wythnos ogyrsiau, gan gynnwys “Darlunioar gyfer y rhai dychrynedig”a “Paentio acrilig”. YmunoddSYM Y Borth a SYM Taliesin ynLlanfach, Taliesin, nos Fawrth,5 Chwefror. Y siaradwraig waddoedd Anne Edwards, a roddoddgyflwyniad am Ambiwlans AwyrCymru. Mae’r gwasanaeth, addechreuwyd yngNghymru yn 2001, ynhollol ddibynol ar haelioni eiwirfoddolwyr a’r cyhoedd.Nid oes rhaid pwysleisio pamor bwysig yw’r gwasanaethhwn mewn ardaloedd gwlediga pha mor phwysig yw eigefnogi mewn pob modd posibl.Diolchwyd i Anne gan AnnJones, Cadeirydd SYM Taliesin,a diolchwyd i SYM Taliesin ganMargaret Griffiths, CadeiryddSYM Y Borth, am y lluniaethblasus a fwynhawyd gan bawbcyn troi am adref.Clwb yr HenoedCynhaliwyd Cyfarfod AgoredBlynyddol Clwb yr Henoed ynNeuadd Gymunedol Y Borth,brynhawn dydd Iau, 17 Ionawr.Ailetholwyd Pwyllgor y llyneddac etholwyd swyddogion eraill fela ganlyn:Llywydd: Celia LeGoodCadeirydd: Betty HortonIs-Gadeiryddion: Lydia Davies aSylvia HollandTrysorydd: Freda DarbyYsgrifennydd: Ann NewbyTrefnydd Gwibdeithiau: Joy CookY gãr gwadd yn y cyfarfod,ddydd Iau, 31 Ionawr oeddMr Derek Corfield, CysylltwrRhanbarthol i WasanaethHysbysrwydd GyhoeddusCynulliad Cenedlaethol Cymru.Fe siaradodd am gyfansoddiada gwaith y Cynulliad, gan eingwahodd i ddod i Gaerdydd iweld y Cynulliad ar waith drosomein hunain. Diolchwyd iddo gany Cadeirydd, Betty Horton.SalwchAnfonwn ein dymuniadau gorauam wellhad buan at Sara Hughes,Premier Stores, Y Stryd Fawr,sydd wedi derbyn triniaeth ynYsbyty Bron-glais yn ddiweddar.Y Lleng BrydeinigCynhaliwyd cyfarfod deufisolLleng Brydeinig Y Borth yny Neuadd Gymunedol, nosFercher, 23 Ionawr. Croesawydaelodau a ffrindiau gan YParchg Ddr. David Williams.

Y TINCER CHWEFROR 2008Blodau i bob achlysurBlodau’r BedolPriodasau . Pen blwydd .Genedigaeth . Angladdau .Blodau i Eglwysi aChapeli neu unrhyw achlysurDonald MorganHen Efail, Llanrhystud SY23 5ABFfôn 01974 202233Danfon am ddim o fewn dalgylch y TincerCIGYDDBOW STREETEich cigydd lleolLlandre, Dôl-y-bont, a’rBorth.Cynhelir Cyfarfod Cyhoeddusym Methlehem, Llandre, nosFercher, 12 Mawrth am 7.30 o’rgloch i drefnu Is-bwyllgor Apêlyr ardal i godi arian a threfnugweithgareddau erbyn EisteddfodGenedlaethol Urdd GobaithCymru Ceredigion 2010.Taer erfynnir am bresenoldebtrigolion yr ardal yn y cyfarfodpwysig yma.Eglwys San MihangelGenau’r-glynLLANDREPen-y-garnFfôn 828 447Llun: 9-4.30Maw-Sad 8.00-5.30Gwerthir ein cynnyrch mewnrhai siopau lleolDymuna’r Eglwys eich gwahodd iginio’r Grawys ar ddydd Sadwrny 8fed o Fawrth 2008 o 12-1.30o’r gloch yn Ysgoldy Bethlehem,(pastai’r bugail a llysiau neuddewis llysieuol). Derbynnirrhoddion i’w trosglwyddo iTñ Hafan (Hosbis Plant yngNghaerdydd). Croeso cynnes ibawb, dewch os gwelwch yn dda.Cynhaliwyd Oedfa o Garolaua Llithiau ar y 18fed o Ragfyrpan ddaeth llu o deuluoedd ypentref i fwynhau neges yr Wyl.Arweiniwyd y canu gan FandArian Aberystwyth. Addurnwydyr Eglwys gan y gwragedd i greunaws yr Wyl ,ac fel yr arfer bellachderbyniwyd lilïau godidog i’wgosod ar yr allor oddi wrth Miss ME Hughes a’i brawd o Lundain ercof am eu rhieni.Darllenwyd y llithiau gan :Angela Wise, Sue Jenkins, AvrilThomas, Liz Collins, Hazel Pitt,Glenys Evans a Helen Atkinson.Cyflwynwyd y rhaglen ganTudor Jenkins, aelod o’r band arhoddwyd y fendith gan HelenAtkinson.Wedi’r Oedfa cafwyd cyfle igymdeithasu dros gwpaned ode/coffi a thartenni Nadolig.Treftadaeth LlandreAr ddechrau’r flwyddyn newyddfe ddaeth David Williams,nawr o’r Borth atom i son amddigwyddiadau yn Llandre a’rBorth adeg yr Ail Ryfel Byd.Dangoswyd tipyn o ddiddordebyn y testun a llwyddodd ysiaradwr ein diddanu gyda llu ostraeon pwrpasol.Ganwyd David Williams ynNôl-y-bont, yn fab i blymer acaeth i’r ysgol yn y Borth. Er hynnypentre’ Llandre oedd y lle chwaraea chroeso mawr ym Mhen-y-wern,fferm John Owen a’i chwaer.Yn ddeg oed ar ddechrau’r Ryfelroedd ‘na newidiadau mawr yncymryd lle o’i amgylch megis- sefydlu’r Gwarchodlu Cartref,pobl ddieithr yn ymsefydlu odan orchymyn lletya - faciwîs,aelodau’r lluoedd arfog acymfudwyr eraill yn ffoi o fomiodinasoedd Lloegr. Roedd y plantyn cael tipyn o hwyl wrth wylio’rGwarchodlu Cartref yn ymarfer!Cadwyd y reifflau yng ngarej yGweinidog.Yna sefydlwyd gwersyll trachyfrinachol yn Ynys-las i arbrofidefnyddiau gyrrol ac arfaumilwrol. Gwnaed y safle yn ardalwaharddedig yn cynnwys y twynia’r aber.Yn anffodus does nemor ddimgwybodaeth am y safle ar gaelheddiw, oherwydd diddymu’rgwersyll ar ddiwedd y rhyfel.Roedd ein siaradwr yn caelmynediad i’r gwersyll gan fod eidad yn blymer swyddogol ar ysafle ac fel crwt busneslyd cafoddrwydd hynt i chwilota tipyn hebneb ei rwystro.Un o’r rhyfeddodau oedd dryllmawr 16 modfedd y llynges, adaniwyd tua phedair gwaithy dydd ac yn gwneud tipyn ogynnwrf a difrod i ffenestri’rcabanau. Cafwyd pytiau owybodaeth am arbrofion arrocedau, ambell awyren yn glanioar y safle a bomiau’r gelyn yndisgyn yn ardal Pwll-glas ac Alltgoch.Yn ein cyfarfod nesaf fe fyddCynog Dafis, cyn AS ac AC yndarlithio ar y testun - Atgofion amWleidyddiaeth Cymru, yn YsgoldyBethlehem am 7.30. Croeso cynnesi bawb.Treftadaeth Llandre– Rhaglen 2008Chwefror 28 - Atgofion amWleidyddiaeth Cymru – CynogDafisMawrth 28 - PasgEbrill 24 - Pobl LlanfihangelGenau’r Glyn yn yr 17eg Ganrif- Gerald MorganMai 29 - Llenyddiaeth CerrigBeddi – Vernon JonesMehefin 26 - Ymweld âRheilffordd Fach Lon Glanfred- Alan MillichampGorffennaf 31- Ymweldâ Chanolfan yr Urdd,Llangrannog - Wynne MelvilleJonesAwst - Gwyliau’r HafMedi 25 - Henebion Ceredigion– Susan FieldingHydref 30 - Beddau Rhyfel yngNgheredigion a Thramor - GilJonesTachwedd 27 - CyfarfodCyffredinol Blynyddol (a phanellleol)Rhagfyr 18 - Cinio NadoligCynhelir y cyfarfodydd fel arferyn Ysgoldy Bethlehem, Llandrenos Iau olaf y mis, gan gychwynam 7.30Mynediad am ddim i aelodau.Codir tal o £2 y cyfarfod fel arall- croeso i bawb.Llongyfarchiadau i TreftadaethLlandre ar ennill gwobr“Annog digwyddiadau agweithgareddau mentrus erbudd yr ardal” a drefnwydgan Menter Aberystwyth,partneriaeth adfywioAberystwyth a’r ardal.

Y TINCER CHWEFROR 2008 Suliau MadogMawrth2.00 o’r gloch2 Oedfa plant yr Ofalaeth -y Garn9 Bugail16 Bugail23 Sul y Pasg – Oedfaon yroflaeth – y Garn30 William E. OwenCymdeithas MadogDaeth Cymdeithas Madogynghyd nos Iau, 13 Rhagfyr,pan ddaeth y ffotograffydd,Marian Delyth, atom i sôn amei hymweliad â Swazilandyn yr Affrig. Ymweliad oeddhwn a drefnwyd yn rhannoli gofnodi gweithgareddau’rcrochenydd, Meri Wells agydweithiai am gyfnod gydachrefftwyr y wlad fach hon sydd— fel Lesotho — tua’r un faint âChymru. Gyda chymorth cyfreso luniau trawiadol, cafwydcip ar gymdeithas wledig ymynydd-dir gyda’i dulliau symlo amaethu cnydau, llysiau affrwythau. Eglurodd Marian fodcyfran dda o’r boblogaeth ynGristnogion, a bod pawb yno, ergwaetha’r tlodi a’r problemauiechyd, yn hynod hael achroesawgar. Mae’r gymdeithasyn ymwybodol iawn o’r angeni roi blaenoriaeth i addysg ac ihybu cysylltiadau â gwledydderaill. Daeth Marian yn ffigurcyfarwydd yno, a’i lluniaudigidol yn destun chwilfrydedda boddhad i’r bobl leol. Mae’namlwg fod y profiad o fyw yny gymdeithas syml, wâr honwedi gwneud argraff ddofniawn ar Marian. Fe lwyddodd igyfleu hynny inni mewn fforddgwbl arbennig, gyda’i sgwrshamddenol a’i lluniau celfydd ynasio â’i gilydd yn wych.Diolchodd Mr Alwyn HughesGellinebwen i Marian am roiinni noson gofiadwy iawn.Gweinwyd panaid, brechdanau amins-peis ar ddiwedd y cyfarfodgan Miss Alwen Griffiths LluestFach a Mrs Margaret HughesCynhaliwyd cyfarfodllwyddiannus iawn Nos Iau, 24Ionawr, pan ddaeth y ParchedigIrfon Evans, Comins-coch,atom i sôn am ei ymweliadaudiweddar â Toronto lle y maeMADOGei fab, Deian, yn weinidog ar ycapel Cymraeg tra ffyniannusyno, sef Eglwys Dewi Sant. Yn2007 roedd yr eglwys yn dathluei chanmlwyddiant, a chawsomdipyn o’i hanes ynghyd âdarlun o’r gweithgareddauniferus sydd yn gysylltiedig âhi. Syndod oedd clywed fodrhai o’r aelodau yn teithiodros gan milltir i fynychu’roedfaon yno, a bod cynifer â150 yn dod i’r gwasanaethauCymraeg (a thros 350 i’rrhai dwyieithog a Saesneg).Soniwyd yn gyffredinol amfywyd dinas enfawr Toronto,ac am waith Annette, gwraigDeian, yn wreiddiol o Abersoch,sy’n ddarlithwraig mewnAstudiaethau Celtaidd ymMhrifysgol Toronto. Diolchwydi’r siaradwr gan y cadeirydd,Y Bnr Alwyn Hughes,Gellinebwen, ac yna cafwydte a theisennau wedi’u paratoigan Miss Alwen Griffiths,Lluest Fach, a Mrs MargaretHughes. Pleser oedd croesawu’rParchedig Judith Morris ynogystal â chael cwmni einbugail, Y Parchedig Wyn RhysMorris.Croeso i bawb i’r ddau gyfarfodnesaf ym Madog:Nos Iau 21 Chwefror, 7.30 p.m.Dr Gwyn Penrhyn Jones,Tal-y-bontTroeon yr yrfaNos Iau 13 Mawrth, 7.30 p.m.Dr Owen Roberts, Adran Hanes,Prifysgol AberystwythGolwg ar hanes Aberystwyth feltref wyliauGwellhad buanDymunwn wellhad buan iDilwyn Thomas, Bronheulog,sydd wedi derbyn llawdriniaethyn Ysbyty Treforus.Llongyfarchiadau i Catherineam fod yn llwyddiannus gydagarholiadau nyrsio.DiolchDymuna Dilwyn Thomas ddiolcho galon i bawb am yr holl gardiaua galwadau ffôn, a hefyd i’wdeulu, cymdogion a ffrindiauam bob gofal a charedigrwydd adderbyniodd ar ôl llaw driniaethyn Ysbyty Treforus.CRONFA GOFFA’RFONESIGGRACE JAMESGwahoddir ceisiadau oddi wrth fudiadau neugymdeithasau’r Henoed am gymorthdal o’r gronfauchod. Dylai’r gymdeithas fod o fewn ffiniau hen GyngorDosbarth Aberystwyth. Gellir cael ffurflenni cais oddi wrthyr ysgrifennydd a dylid eu dychwelyd cyn Mawrth 31ain2008. Yr ysgrifennydd yw:Siân Spink1, Cefn Melindwr, Capel Bangor , Aberystwyth,Ceredigion SY23 3LSFfôn: 01970 880467YSGOL THEATRMALDWYNYn eisiau erbyn Medi 2008CYFARWYDDWRCERDDMae Ysgol Theatr Maldwynyn awyddus i benodi personbrwdfrydig ac egnïol iymgymryd â’r swydd hon.Dyddiad cau: Ebrill 30 2008I fynegi diddordeb ac amfwy o fanylion,cysyllter â: Penri Roberts01686 413480^Salon cwn^Torri cwn i fri safonolGoginanKath 01970 88098807974677458

Y TINCER CHWEFROR 2008Gwasanaethau Y Garn10 a 5www.capelygarn.orgMawrth2 Oedfa’r plant - Gofalaeth9 I’w drefnu - Arwyn Pierce16 Bugail23 Bugail – oedfaon yr ofalaeth30 William E. OwenNoddfaMawrth2 3.30 Uno yng NghartrefTregerddan9 10.00 Oedfa undebol yr ofalaethyn Soar, Llanbadarn16 2.00 Y Parchg Marc Morgan21 10.00 Oedfa undebol Gwenery Groglith ym Methel, Tal-y-bontGweinidog23 10 2 a 6 Sul y Pasg OedfaonUndebol yr ofalaeth Sul y Pasg YParchg Ddr John Tudno Williams30 2.00 Gweinidog CymundebNoddfaLlongyfarchiadau mawr i MissJane Gwyneira Evans, Yr Efail,Penrhyn-coch, ar dderbynMedal Gee am ei gwaithgyda`r Ysgol Sul ar hyd yblynyddoedd. Nid yw iechydyn caniatau iddi ddod i`r Capela`r Ysgol Sul yn aml y dyddiauhyn ond y mae ei diddordeba`i chefnogaeth i bopethmor gryf ag erioed ac mae`ndebyg ei bod wedi cyflawnidigon o wasanaeth i haeddu’ranrhydedd ers degawd a mwy.Fe`i hurddwyd â’r Fedal mewnOedfa Arbennig yn y Tymblddydd Gwener 25 Ionawr ac yroedd yn braf bod Miss Evanswedi medru bod yn bresennola bod nifer o`i ffrindiau a`ichefnogwyr a`i chyd-aelodau ynNoddfa yno hefyd.CydymdeimladCydymdeimlwn â theulu’rddiweddar Martha Angell, 11Cae’r Odyn ( gynt o Dregaron)fu farw ar Ionawr 24 yn YsbytyBron-glais.Swydd newyddLlongyfarchiadau a phobdymuniad da i Emyr L. John,Bryncastell, sy’n bennaethYsgol Pennal, Gwynedd ar gaelei benodi yn Bennaeth YsgolGynradd Llancynfelyn. Bydd yndechrau yn ei swydd newydd fisEbrill.GenedigaethauLlongyfarchiadau i Helen a Dylan,52 Bryncastell, ar enedigaeth ElenNon ar ddechrau’r flwyddyn, aci Dr Peter Mendel a’i wraig, 111Bryncastell, ar enedigaeth bachgenganol IonawrCydymdeimladCydymdeimlwn â Mrs MairwenDavies, 19 Maes Afallen, argolli ei brawd, Esmond Jones, afu’n ymgartrefu yng NghartrefTregerddan.Dyddiadadau Sêl Cist CarNeuadd RhydypennauSadyrnau 8 a 22 MawrthHeather BastowAr ôl cystudd blin bu farwHeather Bastow yn ei chartref 38Bryncastell, Bow Street ar y 7fedo Dachwedd 2007, a hithau ymmlodau ei dyddiau.Ganed Heather ym Mhenrhyn-BOW STREETAelodau Ysgol Sul Noddfa gymerodd ran yn y gwasanaeth Nadolig: o’r chwith i’r dde:Cerys, Lowri, Eryn, Leah, Lilly, Nia ac Alis.coch ym 1962, yn ferch i Dilys a’rdiweddar Frank Binks, Maes Seilo,ac yr oedd yn chwaer annwyl iDavid a Michael. Bu’n briod âJohn am ddeuddeng mlynedddedwydd iawn ac yr oedd yn famgariadus i Kristian a Craig. Yroedd yn aelod yng nghapel Horeb.Bu’n ddisgybl yn YsgolGynradd Penrhyn-coch ac YsgolGyfun Penweddig a threulioddei hoes waith ar staff y CyngorLlyfrau yng Nghastell Brychan ynAberystwyth lle’r oedd yn rhano gwmnïaeth glós y sefydliadhwnnw dros bum mlynedd arhugain.Yr oedd Heather yn un o’rcymeriadau mwyaf annwyl. Bu’nffyddlon iawn yn gofalu am eimam ac er iddi ddioddef salwchei hun fe wynebodd Heather yfrwydr hon â dewrder mawr acyn ddi-rwgnach. Bu’n lew iawndrwy’r cyfan.Cynhaliwyd ei hangladd ar y 14Tachwedd yn Eglwys Sant IoanPenrhyn-coch ac fe ddaearwydei gweddillion ym mynwent yreglwys. Yr oedd y gwasanaetho dan ofal y Parchedigion JohnLivingstone a Judith Morris.Cydymdeimlwn yn ddwys â’rteulu yn eu colled enbyd a thrist.Derbyniwyd rhoddion er cofam Heather ac fe gyflwynwyd yswm anrhydeddus o £1275 i FfaglGobaith.Er Cof am Getta MilesChwefror 2007 ‘roedd darllenwyrY Tincer yn dathlu pen blwyddGetta Miles, (Hyfrydle, BowStreet, gynt) yn 90 oed ac fedderbyniodd lu o gyfarchion obob cwr. Dyletswydd drist iawni Catrin nawr yw diolch i bawbam bob arwydd o garedigrwydda chydymdeimlad a estynwydi deulu Getta yn dilyn eihymadawiad Ddydd Sadwrn 20Hydref 2007. Diolch o galon hefydi bawb a wnaeth cyfraniad tuag at“Gronfa Achub y Plant Cymru”.Erbyn hyn, mae ymron i £300wedi cael ei drosglwyddo i’r achoshwn - er cof am fam, nain, chwaer,modryb a chyfaill annwyl.Er iddi symud o Bow Streeti Aberteifi yn 2002, cadwoddmewn cysylltiad â’i holl ffrindiaua chymdogion yn ardal Y Tincer adarllenai Catrin y papur bro iddibob mis o glawr i glawr.DiolchHoffai Mair, Gareth, Lowri a RhysLewis, Brynawel, ddiolch i bawbam bob arwydd o gydymdeimlada ddangoswyd tuag atynt ar golliMam a Mam-gu, sef Mrs HildaDaniel, Aberystwyth.CydymdeimladCydymdeimlir yn ddiffuant âMair, Gareth, Lowri a Rhys Lewis,Brynawel, ar golli ewythr i Mair,sef Mr John Wemyss, SelandNewydd, ddechrau`r flwyddyn.

Y TINCER CHWEFROR 2008 DiolchDymuna Gwen, Elved, Eirian,Aled a Nia, 45 Tregerddan,ddiolch o galon i bawb ambob arwydd o gydymdeimlada chymorth tuag atynt ar ôlcolli Michael. Diolch hefydam y cyfraniadau o £435 tuagat Eglwys Llandre, i westyLlety Ceiro am ddarparulluniaeth wedi’r angladd ac iMr Selwyn Evans am drefnu’rangladd gydag urddas achydymdeimlad.DiolchAr fin cychwyn dringo: Sam, Bethan, Rhydian, Peter ac Euryl (Megan dynnodd yllun).Ydi, mae’r Wyddfa’n grêt – er gwaetha’rtywydd!Gair bach i ddiolch o galon ibawb am y pentwr anfertholo gardiau a chyfarchion adderbyniais ar achlysur dathlupen blwydd arbennig iawn ynddiweddar. Yr oedd yn grynsioc gweld cyhoeddiad am y penblwydd yn rhifyn y mis diwethafo`r Tincer. Hoffwn longyfarcheich Gohebydd ar gael y ffeithiauamdanaf yn hollol gywir, ac ynôl y nifer o gardiau a dderbyniaisfe hoffwn feddwl ei fod yn profibod hysbysebu yn Y Tincer yngweithio’n hynod effeithiol.Diolch yn fawr iawn, Mair Lewis.DiolchRydym ni - Rhydian (Maes Ceiro)a Megan am ddiolch i bawbam eu rhoddion, cardiau a’udymuniadau gorau ar achlysurein dyweddïad. Cawsom amsergwych tra buom adre ym MaesCeiro - yn cwrdd â theulu âffrindiau.Rhai uchafbwyntiau oedddringo’r Wyddfa gyda’nffrindiau Peter a Sam James,Euryl a Bethan. Nhw oedd weditrefnu’r penwythnos fel anrheg.Roedd yn fraint i mi (Megan)gael sgwrsio â dosbarth Mr Reesyn Ysgol Rhydypennau a phobdisgybl wedi paratoi cwestiynaugwych am Awstralia. Clodmawr i Bethan am iddi adnabodllun y possum. (Mae Louisa yndweud nad oes yr un disgyblhyd nawr wedi medru ei enwi).Rydym yn edrych ymlaen atweld pawb eto’r flwyddyn nesaf- adeg y briodas! Nodyn bach i’rffermwyr lleol - mae eich defaidyn dal yn dew!!Merched y WawrRhydypennauAr nos Fawrth 8fed o Ionawrderbyniodd rhai o’r aelodauwahoddiad Cangen Melindwri ymuno â hwy yn eu nosongymdeithasol yng nghwmni’ractor Alun Elidir. Cafwydnoson ddifyr a llawer ochwerthin. Diolchodd einLlywydd i aelodau Melindwram eu croeso a’r lluniaethblasus oedd wedi ei baratoi ini.Nos Lun, 14eg Ionawr, daethKate O’Sullivan, y milfeddyg oLandre atom i sôn am ei gwaithyn yr ardal. Merch o Lurgan,Gogledd Iwerddon, yw Kate, arhaid ei llongyfarch ar ddysguCymraeg. Roedd wedi doda lluniau pelydr-x gyda hi, aceglurodd rhai o’r triniaethausydd yn cael eu gwneud yn yfeddygfa. Mae wedi arbenigomewn orthopedig ac yn trinllawer o anifeiliaid anwes, ynenwedig cðn.Cyfarfu’r Cyngor ar nos Iau 31 Ionawr o danlywyddiaeth y Cyng. John Evans. Croesawoddy Parchg Richard Lewis i’r cyfarfod ahysbysodd y Cyngor bod y Parchg RichardLewis wedi derbyn y gwahoddiad i fod yn glercy Cyngor i olynu Mrs Mary Thomas. Bydd yncychwyn ar y swydd ar y cyntaf o Chwefror.Diolchodd y Parchg Richard Lewis am y croesoa mynegodd ei bod yn fraint cael gwasanaethu’rardal lle’r oedd ef a’i deulu wedi bod yn bywers 1976. Ar ran y Cyngor diolchodd y Cyng.Gwynant Phillips i Mrs Mary Thomas am eigwaith cydwybodol am dros 20 mlynedd acam ei chefnogaeth i bob cadeirydd yn ystod ycyfnod. Dywedodd Mrs Thomas y bydd rhaio bethau perthnasol i’r Cyngor sydd ganddi ynmynd i’r Archifdy.Yn ddiweddarach yn y noson croesawydyr Heddwas Hefin Jones i’r cyfarfod a bu’ntrafod mân faterion ynglþn â phlismona yn yrardal ac egluro am y bwriad i sefydlu tîm PactCymunedol i ddelio â chwynion troseddol ynardal Bow Street, Clarach, Dolau, a Llandre.Hon oedd y noson i benderfynu ar yrarchebiant am y flwyddyn gyfredol. Wedillawer o drafod a dadlau penderfynwyd gofynam £12,000 eleni, hyn yn golygu £14.16 aranheddau yn band D (£11.92 llynedd).CYNGOR CYMUNED TIRYMYNACHMewn ymateb i gais Eisteddfod Genedlaetholyr Urdd am gyfraniadau dros dair blynedd(bydd yr Eisteddfod yng Ngheredigion ymhentair blynedd), penderfynwyd wedi llawer odrafod i gyfrannu £800 y flwyddyn.Penderfynwyd peidio â chyfrannu eleni atelusennau y tu allan i’r ardal, ond parhau igyfrannu’n lleol. Dyma fel y dosbarthwyd yrarian mewn ymateb i’r ceisiadau. FfrindiauTregerddan £100, Neuadd Rhydypennau£1000, Mynwent Capel y Garn £150, MynwentHephziba (Noddfa) £75, Tincer £250, MaesChwarae Rhydypennau £400, Henoed £150.Mae Cyngor Sir Ceredigion wedimabwysiadu un rhan, sef yr ochor ddeheuol oMaesafallen. Mae’r ochor ogleddol yn dal dandrafodaeth.Adroddwyd nad oedd yr arwydd newyddsydd i’w osod ym mhen uchaf Y Lôn Groeswedi cyrraedd eto, ond y mae’r cwteri yny stryd wedi eu glanhau. Yr un yw cyflwry llwybr troed wrth y Bont Wen, ond maeperchennog y tir wedi addo ail osod y llwybrpan fydd y tywydd yn caniatáu. Mewn ymatebi gais am lamp i oleuo rhan dywyll o Y Ddôl,ger Blaenddol, dywedodd y Clerc ei bod wedicysylltu â dau gwmni am brisiau ond heb gaelateb eto.Mae caniatâd cynllunio wedi ei roi i’rcanlynol: Cabanau ac estyniad i YsgolRhydypennau, Arwyddion newydd wrthfynedfa Build Centre (wedi eu gosod).Ceisiadau newydd. Maesawelon, Pen-ygarn,dymchwel garej a chodi un deulawr– dim gwrthwynebiad. Bryncarne, ystafellhaul lle i’r anabl mewn bwthyn gwyliau – dimgwrthwynebiad. Cae Caergywydd, cynlluniau4 tñ – dim gwrthwynebiad. Nantcellan Fawr,4 uned wyliau o’r ysgubor, bync house a thirgwersylla – dim gwrthwynebiad. PentreGwyliau Clarach, toiledau newydd – dimgwrthwynebiad.Adroddwyd bod y ffens newydd o flaenTregerddan wedi ei gosod ond teimlid y dylaibod rhwyd wifren ynghlwm wrthi i atal plantrhag rhuthro i’r ffordd. Mae’r ystâd wedi caelei glanhau a hefyd y rhewyn dãr sy’n rhedeggydag ochr y stad.Cwynwyd fod y ffordd rhwng Rhydypennaua ben lôn Dolau yn dal yn beryglus i’wcherdded a bod angen gwneud y llwybraddawedig ar fyrder. Hefyd bod tipyn odrafferthion o hyd o flaen Ysgol Rhydypennau.Bydd y clerc yn cysylltu unwaith eto â’radrannau priodol. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar28 Chwefror.

10 Y TINCER CHWEFROR 2008Gwasanaethau HorebMawrth2 Clwb Sul 10.30 2.30 Oedfagymun Gweinidog9 10.30 Oedfa deuluolGweinidog16 2.30 Oedfa bregeth Y ParchgWyn Rh. Morris19 Nos Fercher Cofio Swper yPasg 7.3023 10.30 Oedfa Sul y Pasg Gweinidog30 10.30 Oedfa bregethGweinidogGenedigaethLlongyfarchiadau a phob dymuniad da i Eleri aSteve, 53 Dolhelyg, sydd wedi cael merch fach,Catrin, ar y 7fed o Chwefror.CydymdeimladCydymdeimlwn â Brian a Mary Thomas, Caryla Nia, Llys Myrddin, ar farwolaeth tad Brian – yParchg T. Arwyn Thomas, Hwlffordd ganol misIonawr.Priodas ruddemLlongyfarchiadau i Eirian a Dei Rees Morgan,Maes Seilo, ar ddathlu eu priodas ruddem arChwefror 10.ChwaraeonLlongyfarchiadau i Aled Jones, Glan Seilo, amennill Gwobr Addysg Gorfforol Ysgol GyfunPenweddig y llynedd. Rhoddir y wobr amgyfraniad arbennig i’r pwnc. Dywedodd ClemThomas, Pennaeth yr Adran, fod Aled yn ddigybltalentog ym maes gymnasteg ac oherwydd eiymdrech, ymroddiad a’i frwdfrydedd roedd ynenillydd haeddianol.Llongyfarchiadau i Elinor Thorogood, 38Glanceulan, sy’n ddisgybl ym mlwyddyn 11 ynYsgol Gyfun Pen-glais ar ennill medal aur yngNgala Nofio Cenedlaethol yr Urdd a gynhaliwydyn Abertawe yn Ionawr yn y gystadleuaeth nofiobroga 100m ar gyfer blwyddyn 11 a drosodd.Hefyd, roedd Ollie Thorogood (11 oed) yndrydydd mewn ras gyfnewid gymysg gyda thîmYsgol Pen-glais blwyddyn 7 & 8.Ar Chwefror 10fed ym MhencampwriaethNofio Gorllewin Cymru 2008 yn Abertawe daethElinor yn gyntaf yn y ras 200m broga merched15 a 16 , cyntaf yn y ras 400m cymysg unigolmerched 15 a 16, ail yn y ras 100m rhydd merched15 a 16. Daeth Alex yn gyntaf yn y ras 400mcymysg unigol merched 17+ a 5ed yn y ras 100mrhydd merched 17+. Daeth Ollie yn 7fed yn yras 200m pili-pala bechgyn 10 a 11. Da iawn yThorogoods!BinYchwanegwyd bin esgidiau at y lleill y tu allan iNeuadd Penrhyn-coch.PENRHYN-COCHPlâtGadawodd rhywun ddaeth a bwyd i’r blygainblât ar ôl yn Neuadd yr Eglwys. Cysyllter â CerisGruffudd 828017 os gwyddoch pwy sydd piau’rplât.Mynwent HorebByddai Ceris Gruffudd, ysgrifennydd Horeb, ynddiolchgar pe gallai unrhyw ddisgynyddion o’rteuluoedd canlynol gysylltu gydag ef - CatherineEllen a John Owen; Catherine, Edith ac AnnWilliams John ac Eleanor Jones.Merched y Wawr Penrhyn-cochNos Iau 10fed o Ionawr cynhaliwyd ein cinioblynyddol a chroesawodd Mair Evans, einllywydd, ni i gyd i’r cinio. Treuliwyd noson ynNhafarn y Gors, New Cross. Cafwyd nosonhapus a hwylus yng nghwmni ein gilydd achafwyd bwyd heb ei ail. Ein gwraig wadd oeddCatrin M. S. Davies, Tal-y-bont a chafwyd ganddidipyn o hanes ei gyrfa fel cyfarwyddwr ar y radioa’r teledu. Dangosodd i ni rhai sleidiau o’i gwaithwrth iddi fynd o amgylch i wneud rhaglenni arbobl roedd yn ymwneud â hwy. Dangosoddsleidiau o hanes Tom Cairns, gãr lleol a roddoddei waith bob dydd i fyny yn y ddinas fawr i fyndi wneud gwaith da i helpu pobl llai ffodus na nidramor. Soniodd am waith Marian Delyth yncofnodi hanes 30 mlynedd yn ôl Mynydd Bach,ac fel roedd pethau yno heddiw. Yna cafwydeto ar sleidiau hanes y rhaglen am Brian Daviesa gafodd ddamwain erchyll wrth chwarae rygbiac sydd mewn cadair olwyn ond yn ymdopi ynrhyfeddol yng nghwmni ei deulu yn Y Bala. Dyndewr a phenderfynol iawn. Ein dymuniadaugorau iddo i’r dyfodol wrth iddo frwydroymlaen. Diolchwyd i Catrin yn swyddogol ganWendy Reynolds, diolchwyd i berchennog ydafarn a’i staff am y bwyd blasus. Noson wychfythgofiadwy.Gwellhad buanDymunwn wellhad buan i Connie Evans,Gwawrfryn, a fu yn yr ysbyty cyn ac ar ôl yNadolig.CydymdeimladEin cydymdeimlad dwys â Graham a DavidIan Thomas ar golli modryb yn Yr Alban ynddiweddar.Ein cydymdeimlad dwys â theulu’r ddiweddarNesta G Edwards, un o hen stalwards y Penrhyn.Menyw a fu yn weithgar iawn efo popeth yn ypentre ar hyd y blynyddoedd tan iddi orfod rhoigorau i bethau.Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-cochCyhoeddodd Mairwen Jones, ysgrifennydd yrEisteddfod, y bydd Cadair fach Eiseddfod elenia’r wobr ariannol yn cael ei rhoi gan June KennyGriffiths a’r teulu, Aberystwyth, er cof am MrsKenny.Cofiwch gefnogi’r eisteddfod. Dewch yn llu,mae’n argoeli y cawn eisteddfod dda eto, ondmae eisiau cynulleidfa i gefnogi’r cystadleuwyr.Rydych yn colli gwledd wrth beidio mynychu’reisteddfod.DiolchDymuna Gwenan a Richard, Ger-y-llan a’r teuluddiolch o galon i’r holl ffrindiau a chymdogionam y llu cardiau, blodau a’r cydymdeimlad addangoswyd iddynt yn eu colled. Diolch i’rParchedigion Peter Thomas am y gwasanaethurddasol i Mam ac i Judith Morris am wasanaethAunti Blod. Hefyd mawr ddiolch i deulu a staffCwmcynfelin am y gofal tyner a gafodd mamGwenan ac i Cartref Dyfi, Machynlleth am ofaltyner Aunti Blod.Eric ThomasGanwyd Eric ar y 6ed o Dachwedd 1938 yn yFelin, Penrhyn-coch, yr ieuengaf o chwech o blant6 i Joseph a Margaret Thomas. Roedd yn frawd iHenry a’r diweddar Arthur, Janet, Ted a Bronwen.Ar ôl mynychu Ysgol Penrhyn-coch - oedd ar ypryd yn yr hen ysgol y drws nesaf i’r eglwys aethi Ysgol Dinas, Aberystwyth - ger yr orsaf.Ar ôl gadael yr ysgol bu’n gweithio yn yComisiwn Coedwigaeth am flwyddyn cyn myndam brentisiaeth saer gyda W H Jenkins a’i fab.Ym 1967 dechreuodd y cwmni adeiladuThomas Brothers gyda’i frodyr Henry a Ted;cafodd llawer o fechgyn lleol waith gyda’r cwmniDyma’r cwmni adeiladodd Maesyfelin,Glanffrwd, Tan-y-berth, Maesyrefail, Glan Ceulana Garn-wen ym Mhenrhyn-coch heb sôn am nifero rai eraill yn yr ardaloedd o amgylch cyffiniauAberystwyth.Priododd â Gwenda ym 1970 yn Eglwys StIoan, Penrhyn-coch a mynd i fyw yn un o’r tai aadeiladodd ei hun ym Maesyfelin, cyn symud iGolygfa ac yna ei gartref presennol, Gwelfor.Cawsant ddwy ferch - Catrin a Sioned;croesawodd ei feibion yng nghyfraith John aMatthew i’r teulu a thri ãyr - Wil, George acOwen ac wyres – Elisa.Bu’n ymwneud â Chlwb Pêl-droed Penrhyncochers dros ddeugain mlynedd – bu’nchwaraewr i’r clwb yn y blynyddoedd cynnara chwmni y Brodyr Thomas oedd yn arolyguadeiladu’r Clwb Cymdeithasol ym 1981 . Efoedd Cadeirydd cyntaf y Clwb Cymdeithasolac am flynyddoedd bu’n gadeirydd y ClwbPêl-droed cyn ei wneud yn Is-lywydd hiroes yClwb. Byddai’n selog ar ddydd Sadwrn yn rhoicefnogaeth i’r bechgyn pêl-droed boed yn gêmgartref neu yn gyrru’r bws i gêmau oddi cartref.Yfraint fwyaf a gafodd yn ymwneud â’r pêldroedoedd derbyn medal gwasanaeth hiroes ganGymdeithas Pêl-droed Cymru yn 2006.Ymhlith di ddiddordebau eraill oedd chwaraepãl a dartiau yn ystod yr wythnos, mwynhaumynd am ambell wyliau i Twrci gyda Gwenda a’iffrindiau. Ble bynnag yr âi Eric ’roedd yn gwneudffrindiau newydd.Cafodd y pleser o weld Wil a George, ei wyrionhynaf, yn chwarae pêl-droed i dîm dan 9 oedPenrhyn-coch a byddai yn aros yn eiddgar arfore Sadwrn i glywed y sgôr a hanes y gêm gan y

Y TINCER CHWEFROR 2008 11ddau pan na allai fynd i’w gweld yn chwarae.Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys SantIoan ar y 12fed o Dachwedd 2007, dan ofaly Parchedig John Livingstone yn cael eigynorthwyo gan y Parchedigion Ifan MasonDavies a Judith Morris, ac mae ei deulu ynddiolchgar iawn i’r Parchedig Livingstoneam bob cymorth, ac am ei ymweliadau cysonâ’r cartref a’r ysbyty yn ystod gwaeledd Eric.Hefyd ein diolch i Rhian Davies (organydd),Phillip, Graham, Ceinion a Llew yr archgludwyr,i Edwina a Gwyneira (wardeiniaid Sant Ioan), iShirley a’i staff, Clwb Pêl-droed Penrhyn-coch aci W H Daniels am drefnu popeth gydag urddas.Dymuna Gwenda, Catrin a Sioned a Henry,ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlada charedigrwydd a dderbyniasant o golli priod,tad, tad yng nghyfraith, tad-cu, brawd a brawdyng nghyfraith ac ewythr annwyl. Diolch amy llu cardiau, llythyrau, blodau a galwadauffôn a’r ymweliadau gwerthfawr, ac am yrhoddion o £1,000 a dderbyniwyd tuag at WardMeurig (Cronfa Offer), lle cafodd y gofal gorau.Mae’n diolch yn enfawr i’r holl staff yno, hefydmeddygon a nyrsus meddygfa’r Borth.DiolchDymuna Gwyneira Evans, yr Efail Penrhyncochddiolch am y fraint a’r anrhydedd odderbyn y rhodd o ‘Fedal Gee’ Thomas aSuzanna Gee, Dinbych am ffyddlondeb agweithgarwch i’r Ysgol Sul am flynyddoeddmaith. Diolch i’m gweinidog y ParchgRichard Lewis, Noddfa, Bow Street am anfony cais i Gyngor Eglwysi Rhyddion Cymru abod yn llwyddiannus ar fy rhan. Siom iddoa minnau iddo fethu a bod yn bresennol yny cyfarfod anrhydeddus a gynhaliwyd ynEglwys yr Annibynwyr, Bethesda, Tymbldydd Gwener, Ionawr 25ain, 2008, oherwyddamgylchiad trist un o aelodau ei ofalaeth.Dechreuodd y daith at y rhodd werthfawrmewn bywyd trwy arweiniad fy niweddar rienia chwmni fy mrodyr trwy gerdded y ddwy filltiri oedfaon a chwrdd plant wythnosol i Salem,Coedgruffydd ac yn gynnar iawn yn fy mywyd iYsgol Sul, Eglwys Sant Ioan, Penrhyn-coch a oedddafliad carreg o ddrws fy nghartref.Yna symud ym 1941 i Gapel Bach, BowStreet bryd hynny, a enwyd yn Noddfa ym1973. Yna ychydig flynyddoedd yn Sarn,Gendras, Abertawe ac yn ôl i Noddfa. Diolcham y llongyfarchiadau a dymuniadau daa dderbyniais, trwy lafar, galwadau ffôn,cardiau a llythyrau.Diolch i’r gefnogaeth a ddaeth yn y bws alogwyd ac yn eu ceir, o aelodau Noddfa, ffrindiau,a pherthnasau o Benrhyn-coch, Llanllwni,Llangennech a’r Goppa, Pontarddulais.Diolch am y darpariadau o logi’r bws, amgyfraniad hael Noddfa tuag at gostau’r bws, amgyfarwyddiadau ymlaen llaw at fwyty i gaelcinio blasus cyn cyrraedd y capel, a’r te hyfryd aYn dilyn oedfa brynhawn Sul, y 3yddo Chwefror, cynhaliwyd te dathlu yngnghapel Horeb i nodi pen-blwyddarbennig Mrs Morfudd Morris yn 90 oed.Traddodwyd anerchiad pwrpasol gany cyn-weinidog, y Parchedig PeterThomas, a darllenwyd penillion gan MrsMairwen Jones. Yn y llun gwelir MrsMorris yn torri’r gacen a baratowyd ganMrs Meryl Thomas, gwraig y ParchedigPeter Thomas.Yr oedd yn achlysur hapusiawn a phawb wedi mwynhau eu hunain.Dymunwn yn dda i Mrs Morris.drefnwyd i bawb gan Chwiorydd Bethesda ar ôly cyfarfod cyn dechrau yn ôl ar ein taith.Fe’n bendithiwyd â diwrnod heulog sychrhwng y tywydd stormus gaeafol.Derbyniodd un ar ddeg y ‘Fedal Gee’ a thairtystysgrif. Pedwar o Geredigion, dwy i Penllwyn,Capel Bangor, un i Capel M.C. Pennant acun i Noddfa.Dyma’r ail Fedal Gee i Noddfa, anrhydeddwydy diweddar Mr B T Williams, Hendre gwyndir,Bow Street, ag un nôl ym mhumdegau’r ganrifddiwethaf.Hyfryd oedd derbyn yr anrhydedd o setfawr Bethesda’r Tymbl, lle y bu’r Parchg EEurfin Morgan, un o ardal Tincer, un o blantEglwys Siloh, Cwmerfin yn weinidog o 1949-1976 hyd ddiwedd ei yrfa a gofal capel. Hefydyn bresennol yn yr oedfa oedd y Parchg IeuanDavies sydd â chysylltiadau â’r Gerlan, Y Borth, eifam o’r Crossing, Y Borth, a lle y treuliodd llawero’i wyliau gyda’i dad a’i nain. Fe’i ganwyd yn yTymbl a’i ddwyn i fyny yn Bethesda’r Tymbl.Trefnydd yr oedfa ar y diwrnod oeddy llywydd y Parchg Ddr Ian D Morris,Pontarddulais, a groesawodd pawb o’rgwahanol eglwysi. Y rhannau arweiniol,y Parchg Emyr Gwyn Evans gweinidogpresennol Bethesda. Urddo’r is-lywyddi’r llywyddiaeth y Parchg Dyfrig Rees,Rhydaman, gan y Parchg Ddr Ian D Morris a’rweddi. Yna pregeth gan y llywydd presennolyna cyflwynodd y medalau a’r tystysgrifau.Diolch am ddiwrnod i’w drysori a chofioamdano. Diolch i bawb.Urdd Gwragedd Sant IoanGwestai mis Ionawr oedd Mr John Ockey,Milfeddyg sydd wedi ymddeol bellach acyn byw yn Llanbadarn Fawr. Ar ôl hannercan mlynedd o weithio dros y wlad, ganddechrau ei yrfa yn fyfyriwr yn Henffordd,cyn graddio yn Lerpwl, ac yna treuliodegawdau mewn ardaloedd fel yr Amwythig,Buxton a Phenfro. Cawsom hanesion ahelyntion ei yrfa, a sut mae’r proffesiwn wedinewid dros y blynyddoedd.Nos Lun, Chwefror 3ydd, cafwyd sgwrsgan y Parchg John Livingstone am ‘WisgoeddClerigwyr’. Dechreuodd drwy sôn am yterfysg a fu yn Exeter yn y flwyddyn 1840 panymddangosodd y Wenwisg Offeiriadol ynboblogaidd yn lle’r Casog Ddu oedd yn caelei wisgo gan y To Hñn. Daeth ag amrywiaetho ddillad sydd yn ei feddiant i ddangos ac iegluro eu swyddogaeth fel yr ‘Alb’ gwisg wena wisgir yn yr offeren, ar ‘Chasuble’ o amrywiolliwiau a ddefnyddir ar wahanol dymhoraumewn gwasanaeth grefyddol, dywedir i’r‘Chasuble’ fod yn symbol o glogyn di-wniad yrIesu. Diolchwyd i’r Ficer am noson ddiddorolgan ein llywydd, Edwina Davies.Eglwys Sant IoanBedyddYn ystod gwasanaeth bore Sul, Ionawr 13egbedyddiwyd Gwennan Hedd, merch Lynwen acIfor Jenkins, Kerry, Waunfawr, gyda chynulleidfadda yn bresennol.AngladdBu angladd y diweddar Evan Lewis Davies(Ieu), Elan, 16 Maesyrefail, ddydd Mercher,Ionawr 16eg. Roedd y gwasanaeth yng ngofaly Parchg John Livingstone, yr organydd oeddEirwen Hughes. Cydymdeimlir â’r holl deuluyn eu colled.BingoAr nos Wener, Ionawr 18fed, cafwyd nosonBingo llwyddiannus er budd yr eglwys ynyr hen ysgoldy. Roedd y noson yng ngofalBarbara a Terry Couling.

12 Y TINCER CHWEFROR 2008Sefydliad y Merched – Pen-llwyn,Capel BangorCAPEL BANGORCynhaliwyd cyfarfod cyntaf 2008 ar y 9 fed oIonawr. Ar ôl y cyfarfod busnes, gofynnwydi’r aelodau i drafod unrhyw bwnc a fynnentam bum munud! Cafwyd storïau am geir, amdeithiau tramor ac am y profiad o fyw mewnrhan arall o’r byd.Adroddwyd eu hanes yn ymweld â’rSenedd Ewropeaidd yn Strassbourg gany chwech aelod a fu ar y daith yno gyda’rSefydliad. Y teithwyr oedd MargarettaJones, Elizabeth Evans, Brenda Evans, MarieHowells, Ann James a Mair Jenkins. Ynamlwg, cafwyd hwyl arbennig o dda!Talwyd llongyfarchiadau i Margaret Jonesar gyhoeddi ei hunangofiant It came to pass.Mae Margaret yn gyfarwydd i bawb yn yrardal.Ar 16 eg Ionawr, cafwyd cinio bynyddolgaeaf yr aelodau, yng Nghlwb Golff y Borthac Ynys-las. Bu blas ar fwyd!Cynhelir cyfarfod nesaf o’r grãp ar 13 tgChwefror, pan fydd Jane Raw-Rees o AgeConcern yn dod atom. Bydd croeso gwresogo gynnes i unrhyw un a hoffai ymuno â ni.Neuadd y Pentref, Pen-llwyn,Capel BangorEnillwyr Clwb 100Rhagfyr 2007£20 – 12 – Mike Bentham, Cefn Melindwr,Capel Bangor£10 – 59 – John Lewis, Glasfryn, Capel Bangor£5 – 72 – Llewela Thomas, Llwynteg, CapelBangor£5 – 44 – Sian Spink, Cefn Melindwr,CapelBangorIonawr 2008£20 – 65 – Iona Evans, Garej yr Exchange,Capel Bangor£10 – 35 – Merched y Wawr CangenMelindwr, Capel Bangor£5 – 42 – Liz Collinson, Dolcniw,Blaengeuffordd£5 – 28- DIH Jones, Ty’n y Glog, Ffordd Bryny Môr, Capel BangorPwyllgor Apêl MelindwrCynhelir Cyfarfod Cyhoeddus yn NeuaddPen-llwyn nos Fercher 20 Chwefror am 7.30o’r gloch i drefnu Is-bwyllgor Apêl yr ardal igodi arian a threfnu gweithgareddau erbynEisteddfod Genedlaethol Urdd GobaithCymru Ceredigion 2010. Gwerthfawrogirpresenoldeb trigolion yr ardal yn y cyfarfod.Mr Emrys Evans BrynsiriolBu farw Mr Emrys Evans yn dawel yn YsbytyBron-glais, Aberystwyth, ar y 7fed o Ionawryn 82 mlwydd oed. Roedd ei iechyd wedigwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf, ondserch hynny daeth ei farwolaeth yn sioc ibawb a oedd yn ei ‘nabod.Dioddefodd lawer yn ystod ei fywyd ond yroedd bob amser yn berson hapus a llon ac yndipyn o dynnwr coes yng nghwmni cyfeillion.Ganwyd Emrys yn un o bedwar o blant iWilliam a Louisa Evans, a chafodd ei fagu ynNerwen-las. Siaradai lawer am ei blentyndodyno, yr Ysgol Gynradd, ac yn ddiweddarachyr Ysgol Uwchradd ym Machynlleth.Carai chwarae pêl-droed yn fawr iawn, achefnogodd dîm Maenceinion (Unedig)hyd y diwedd. Yn 16 a hanner mlwydd oed,dioddefodd anaf i’w goes, a threulio deunawmis yn Ysbyty Gobowen. Cafodd lwyr iachadar y pryd, ond daeth yr hen achwyniad ynôl wedi 36 o flynyddoedd, ac o’r herwydddioddefodd mewn un ffordd neu’r llall amweddill ei fywyd.Yn ogystal a gweithio yn SmithsMachynlleth pan yn fachgen ieuanc, gwnaethei brentisiaeth fel gweithiwr llenfetel. Pangaeodd y ffatri, cafodd waith gan GwmniDe Haviland Caer, yn cynhyrchu rhannauawyrennau.Priododd â Blodwen Jenkins yng nghapelPen-llwyn ym 1950, ac wedi priodi bu Emrysyn gweithio am gyfnod ar fan ddillad ElwynWilliams, ac hefyd Morgan a Jones, yn teithioo amgylch y ffermydd, fel ‘roedd yn arferoly pryd hynny. Ond yng Nghwmrheidolar Gynllun Trydan Dãr y bu wedynam flynyddoedd, gyda Chwmni TaylorWoodrow. Ym 1961 apwyntiwyd ef yn un odri i weithio y twrbeins, ac yn ddiweddarachbu yn gyfrifol am gyfarpar arbed tân yngNghwmrheidol a Nant-y-moch, tan eiymddeoliad ym 1991.Rhoddodd amser i’r Gymuned Leol, a buam gyfnod yn aelod o’r CyngorMedalau GeeFel y gwyddoch o’r rhifyn diwethaf‘roedd Mr a Mrs Martin ac Anne Davies,Maencrannog, i’w hanrhydeddu a’r fedalGee. Aeth rhai ohonom i gapel Bethesda,Y Tymbl, ger Llanelli ar ddydd GwenerIonawr 25ain, i’r gwasanaeth arbennighwnnw, yng Nghyfarfod BlynyddolCyngor Eglwysi Rhyddion Cymru.Cyflwynwyd medalau Mr a Mrs ThomasGee i un ar ddeg o bobl am eu ffyddlondebi’r Ysgol Sul dros amser maith. Mae’ndebyg mai ond un waith o’r blaen maegãr a gwraig wedi derbyn medal yr un,yn yr un cyfarfod. Yn ddigon naturiol uno’r emynau a gydganwyd oedd Am yrYsgol râd sabothol, Clod, clod i Dduw.Cafwyd gwasanaeth arbennig iawn, a daoedd bod yno.Mwynhawyd te dathlu blasus iawn,wedi’r cyfarfod. Felly llongyfarchiadaueto i Mr a Mrs Davies, a diolch i Dduwamdanynt, y ddau wedi bod yn athrawonpenigamp yn Ysgol Sul Pen-llwyn, a MrDavies wrth gwrs yn dal i fod yn athro arddosbarth yr oedolion. Mae Mrs Davieswedi mynychu lan hyd bump o wahanolYsgolion Sul yn ystod ei bywyd, record godda ynte?Cymuned, a chymryd diddordeb mawrym mhenderfyniadau lleol. Roedd bob amsera chonsyrn am unrhyw un a fyddai yn sâl,a gall ei gymdogion dystio i garedigrwyddEmrys a Blodwen yn y gorffennol, pan oeddeisiau cymorth roeddent wastad yno.Ei gryfderau heb amheuaeth oedd eigonsyrn am ei wraig ac eraill, yn ystodsalwch. Hefyd ei ddewrder yn dod i dermauâ’i salwch ei hun a siomedigaethau bywyd, abod yn achos o chwerthin ble bynnag yr âi.

Y TINCER CHWEFROR 2008 13Mae llawer yn drist o’i golli, achydymdeimlwn yn enwedig â Blodwen eiwraig, ei chwaer goroesol Rhiannon a’i frawdGwilym. Bu gwasanaeth ei angladd ar 12edIonawr yng nghapel Pen-llwyn yng ngofal yParchg Ifan Mason Davies. Cymerwyd rhanhefyd gan Mr Martin Davies, a chwaraewydyr organ gan Mrs Enid Vaughan. Yrarchgludwyr oedd Mr Billy Evans, Mr RoyDryburgh, Mr Raymond Williams a MrGerald Powell. a dosbarthwyr y taflennioedd Mr Eilir Morris a Mr Aneurin Morgan.(cydweithwyr a ffrindiau)Dymuna Blodwen a’r teulu ddiolch i bawboedd yn yr angladd, y Parchg Ifan MasonDavies, Mr M Davies, Mrs Enid Vaughan, yrarchgludwyr a dosbarthwyr y taflenni. Diolcham gyfraniadau tuag at Ward Meurig ac ambob neges o gydymdeimlad yn ystod euprofedigaeth.Ãyr bach newyddLlongyfarchiadau i Meic a Liz Collison,Dolcniw, ar ddod yn dad-cu a mam-gu eto,i faban bach Rachel (eu merch) a Jonathansy’n byw yn Knutsford, Swydd Gaer. Croesoi Iestyn Rees, brawd bach i Evan a Gwion.Priodas AurLlongyfarchiadau mawr a phob dymuniadda i Mr a Mrs Hywel a Enid Jones, AwelDeg, sy’n dathlu pum deg mlynedd o fywydpriodasol ar Fawrth 22ain.Capel Pen-llwynBedyddCafwyd gwasanaeth hyfryd yng nghapel Penllwynfore Sul, Chwefror 3ydd yng ngofaly Parchg W J Edwards, Bow Street, pryd ybedyddiwyd Owen Elis, baban Elystan aCatrin Evans, Ardwyn.Y festriMae’r festri o’r diwedd ar ei newydd wedd,ac i bawb gael gweld y canlyniad, y bwriadyw cynnal noson goffi ar Fawrth 14eg. Maecroeso i holl aelodau y capel a phawb.YmddeoliadDymuniadau gorau i Mr Norman Michell,Ponterwyd, ein dyn llaeth am 44 oflynyddoedd. Diolch am ei ffyddlondeb,gallaswn bob amser ddibynnu ar Norman.Byddai eich peint ar ben drws boed unrhywdywydd, stormydd eira neu hindda!Hyderwn y caiff iechyd da ac ymddeoliadhir. Dymuniadau gorau iw ddilynwyr Paul aTracey Lowe, Ponterwyd.YsbytyWrth fynd i’r wasg, clywsom fod Mr JohnDavies, Glasfryn, yn cael triniaeth yn yrysbyty. Dymunwn iddo wellhad buan.Merched y Wawr – CangenMelindwrAr noson aeafol ym mis Ionawr cyfarfu’raelodau yn Neuadd y Pentref ar gyfer eincyfarfod misol. Wedi ymuno â ni roeddaelodau o ddwy gangen arall, sef cangenMynach a Rhydypennau. Croesawydpawb gan y llywydd, Liz Collison. AlunEdwards oedd y gãr gwadd, ond fel AlunElidir mae pawb yn ei adnabod bellach.Treuliwyd noson ddifyr yn ei gwmni, prydy bu’n sôn am ei brofiadau yn y Brifysgolyn Aberystwyth, ei waith llwyfan a’iwaith o flaen y camera. Nid oedd pallar ei ynni a’i frwdfrydedd wrth iddo roii ni ddarlun o’i fywyd. Clywsom am eiGwyddwn cyn mynd iBatagonia i weinidogaethuam dri mis fod yr hynaf oddeuddeg o blant David acAnne Morgan, fferm Pwllglasyn un oedd ar fwrdd yMimosa ym 1865 ag yntau’n29 oed. Un o’i frodyr oeddWilliam, tad-cu y cyfaillElystan, y gwrda a gododdGarn House ym Mheny-garn,siop a chanolfanbusnes pwysig gynt. Mae’rnodyn sy’n cyfeirio at Johnyn ymfudo yn dweud iddosymud ym 1870 ac ymsefydluyn Santa Fe. Ar ôl imigyfarfod y chwiorydd Nelia,Glenda a Marta Humphreysa’u brawd John y pensaerenwog , welwyd ar un oraglenni Aled Samuel llyneddcefais wybod fod John eu hendaid ac Elizabeth ei wraigwedi cydweithio gyda mabPwll-glas i sefydlu gwladfa i’rCymry.Mab fferm Glyntwymyn,Comins-coch (yno y magedAnnie Edwards, GarregLwyd, cyn i’r teulu symudi fferm Abergwydol) oeddyr hen daid a’i wraig wedi’imagu ym Machynlleth.Priodwyd y ddau yma ar12 Mai 1860 yng nghapel yGraig, Machynlleth, sydddan fy ngofal ar hyn o bryd.Symud i Flaenau Ffestiniog,John yn chwarelwr ,wedigeni Margaret, Elizabeth,Mary a David, ymfudoddy teulu i Pajaro Blanco,Talaith Santa Fe. David oeddtaid Nelia, Glenda, Marta aJohn.. Marta yw hanesyddy tylwyth a chafodd ydrydedd wobr ym Mhrifwylbrofiadau fel actor gyda chwmniau felTheatr Crwban a sut y’i dewiswyd un trofel dawnsiwr. Diddorol oedd clywed am eidroeon trwstan wrth iddo deithio o un peni Gymru i’r llall.Beti Daniel a ddiolchodd i Alun Elidir amein diddori. Yn ystod ail hanner y nosonmwynhawyd sgwrsio tra’n gwledda arfwyd a baratowyd gan aelodau’r gangen.Gwnaed y te gan Eirlys Davies, Brynmeilliona Margaret Stevens.Wrth adael y neuadd ar ddiwedd y noson,roedd pawb yn falch iddynt fentro allan arnoson mor arw ac yn teimlo’n well ar ôl caelllond bol o chwerthin.JOHN MORGAN, PWLL-GLASTeulu Pwll-glasyr Wyddgrug am sgrifennuhanes ei theulu.Gan Marta y cefais wybodam gysylltiad ei hynafiaid âJohn Pwll-glas. Rhoddoddimi ddarn o lythyr ynSaesneg ganddo.’Panoeddem yn Santa Feclywsom fod criw o Gymryyn dod atom. Wrth fyndi gysgu clywem rywrai’nsiarad yr ‘hen iaith’ asynnwyd fi o weld mai fynghefndryd Richard a DavidMorgan oedd yn siarad.Mae’n siãr fod yna dipyno siarad y noson honnocyn clwydo. Mae Martayn parhau i chwilio amragor o hanes y berthynasrhwng John Morgan a’ihynafiaid. Wedi marw Johnac Elizabeth Humphreysa’u claddu yn Santa Femudodd y plant a’r wyrion iDdyffryn Camwy ac y mae’rdisgynyddion yno yn lleng.Llwyddais i gael gafaelar fanylion am John Pwllglasmewn cofnodionam fedyddiadau amarwolaethau. Ar 11Mawrth 1880 nodir fod trio blant i John a WinifredMorgan wedi’u bedyddio– Annie g.29 Awst 1876,David g.4 Gorffennaf 1877,a Sophia g. 18 Ionawr 1879.Chwe mis ar ôl y bedyddiobu farw John y tad o’rdicau yn 46 oed. Byddai’ndda gwybod beth fu hanesy weddw a’r plant – maeMarta yn dweud fod JohnMorgan wedi prynu tiroeddnifer o’r Cymry a bod eiddigynyddion yn Santa Feo hyd. Roedd un o blantJohn yn Buenos Aires ac ymae Elystan yn cofio Dewiei dad yn dweud wrtho fodtad Anna Jones, Pantgwyn,Bow-Street, capten llong o’rBorth wedi galw yn y cartrefyn y ddinas ar ddiwrnodcyntaf y rhyfel ar 4 Awst1914. Collwyd y capten fiscyn diwedd y rhyfel ym MôrIwerydd, pan oedd Anna eiferch yn 8 oed.WJ Edwards

14 Y TINCER CHWEFROR 2008ABER-FFRWD A CHWMRHEIDIOLUrdd y BenywodDOLAUDiolchGanol Ionawr cynhaliwyd ein cinioblynyddol yng Ngwesty’r HafodPontarfynach. Cawsom bryd blasus ofwyd ac yna bu pawb yn dyfalu pwyoedd pwy o luniau ohonom yn blant. Yrenillydd oedd Carol Marshall. Diolch iAmanda Burton ac Ann Ellis am drefnu ynoson.Nos Lun Chwefror 4edd cawsom nosonyng nghwmni John a Carol Marshall. Drosy Nadolig 2006 treuliodd y ddau chwechwythnos yn ymweld â theulu Carol ynSeland Newydd ac Awstralia. Treuliasantbedar diwrnod yn cerdded llwybr ar gyfertwristiaid o amgylch Ynys y De. ‘Roedd ygolygfeydd yn syfrdanol ac mi wnaeth yddau ein tywys o amgylch y wlad yn euffordd gartrefol. Diolchwyd iddynt ganBeti Daniel ac Ann Ellis a Amanda Burtonoedd yng ngofal y te.Swyddi newyddDymuniadau gorau i Rhys Williams,Ty’nwern, yn ei swydd dros dro gydaE&M Motors yn Llanbadarn.Pob hwyl hefyd i John Marshall yn eiswydd newydd gyda chwmni o Awstralia.Menna a Dylan StephensMae Nest a’r teulu, Nantgwyn, yn gwerthfawrogia diolch o galon i bawb am eu cydymdeimlad,caredigrwydd a rhoddion a dderbyniwyd arfarwolaeth Rhys yn ddiweddar.DOL-Y-BONTCynhelir Cyfarfod Cyhoeddus ymMethlehem, Llandre, nos Fercher, 12 Mawrtham 7.30 o’r gloch i drefnu Is-bwyllgor Apêl yrardal i godi arian a threfnu gweithgareddauerbyn Eisteddfod Genedlaethol Urdd GobaithCymru Ceredigion 2010.Taer erfynnir am bresenoldeb trigolion yrardal yn y cyfarfod pwysig yma.TREFEURIGSymudDymuniadau gorau i Llinos a John Evans.Cartrefle, sydd wedi symud o Drefeurigi Maeshendre, Waunfawr, Aberystwyth.Croeso i ddeiliaid newydd Cartrefle.CYNGOR CYMUNED TREFEURIGCyfarfu’r Cyngor Cymuned ynYsgol Trefeurig nos Fawrth, 15Ionawr, gyda’r Cadeirydd, yCyng. Kari Walker, yn y gadaira chwe chynghorydd arall a’rClerc yn bresennol.Nodwyd bod y biniau bawcãn wedi’u gosod yn y caechwarae. Hefyd roedd yffosydd gan ochr y ffordd oGapel Dewi i Gefn Llwydwedi’u glanhau, a’r dail a’rbrigau a oedd wedi crynhoiar y ffordd wedi cael eu clirio.Nodwyd bod y Clwb Cinio agynhelir yn Neuadd yr Eglwysar ail a phedwerydd dyddMercher pob mis ar gyferyr henoed a’r anabl yn caelderbyniad da.Roedd y Cyng. D. MervynHughes wedi bod mewncyfarfod o Gorff Rheoli YsgolPenrhyn-coch. Roedd y corffhwnnw hefyd yn bryderusam ddiffyg ymgynghori gany Cyngor Sir o ran y CynllunLlwybr Diogel i’r Ysgol.Nodwyd fod y Prifathrowedi trefnu cyfarfod ar gyfer21 Ionawr i drafod y mater,ac enwebwyd y Cadeirydda’r Cyng. Daniel Huws i’wfynychu ar ran y Cyngor.Trafodwyd hefyd lythyroddi wrth Adran BriffyrddCeredigion at bwyllgory cae chwarae ynglñn â’rmater. Penderfynwydcysylltu â’r Cyng. RayQuant, yr aelod perthnasolo Gabinet Ceredigion, ermwyn cwyno ymhellach amddiffyg ymgynghori’r AdranBriffyrdd yn y mater hwn,a’u methiant i ateb llythyrau.Roedd Cyngor Ceredigionwedi cychwyn ar y broses olunio Cynllun Datblygu Lleol,ac wedi anfon y ddogfengyntaf allan i ymgynghoriad.Nodwyd fod y Cyng.RichardOwen wedi cytuno i edrychar y ddogfen a llunio unrhywymateb angenrheidiol.Trafodwyd y sefyllfa ariannolyn y flwyddyn bresennol a’rdarpariaethau angenrheidiolar gyfer 2008/09, aphenderfynwyd gosodarchebiant o £11,000 ar gyfer2008/09, sef £2,000 yn llai nagyn y flwyddyn bresennol.Cynhelir y cyfarfod nesafyn Neuadd y Penrhyn, nosFawrth, 19 Chwefror am7.00pm.CydymdeimloGOGINANCymeradwyaeth UchelCLARACH LLANGORWENBore coffiCydymdeimlwn â Mrs. Mair Evans,Idris Villa, ar farwolaeth ei brawdyng nghyfraith ym Mhonterwyd ynddiweddar.Llongyfarchiadau i Lewis Johnston,Tafarn Y Druid ar ôl iddo dderbyntystysgrif o Gymeradwyaeth Uchelmewn cystadleuaeth gyda Barclaysi fusnesau yn ardal Menter BusnesAberystwyth. Braf yw gweldbachgen ifanc lleol yn llwyddiannus.Cynhelir bore coffi tuag at Fâd Achub Aberystwyth ynNeuadd Rhydypennau fore Sadwrn y 15fed o Fawrth o 10- 12. Trefnir gan Eglwys yr Holl Saint Llangorwen.Croesoi bawb. Dewch yn llu i gefnogi achos teilwng mewn ardalarfordirol.Y TINCER

Y TINCER CHWEFROR 2008 15COLOFN MRS JONES ‘O’R CYNULLIAD’ -ELIN JONES ACCyfeiriodd William Salesbury (tua1520- - 1584) at ‘yr iaith sy’n cychwyn ardrangwydd’, ymadrodd sy’n cyfeirioat bryderon Salesbury am barhadyr iaith lenyddol mewn cyfnod awelodd drai ar y traddodiad barddola chynydd yn y defnydd o Saesnegyng Nghymru.Diolch am eich neges. Dw i ddim ynsiwr achos dydy Huw ddim wedi bodyn gweithio. Mi fyddwn i siarid efochi pan dw i wedi chwilio rhywun.Mae dy llythyr yn barod i ti fan hynCafodd y ffordd ei chau am rai oriauer mwyn clirio’r gweddillion ond maeo wedi ail agor.Dywedodd yr heddlu bod gan unanafiadau difrifol ac yn Ysbyty GlanClwyd.A dyma beth y mae’r pedwar ynceisio ei ddweud -Diolch am eich neges. Nid wyf ynsiwr oherwydd nad yw Huw wedibod yn gweithio [yn ddiweddar].Mifyddaf yn siarad a chwi eto pan fyddafwedi dod o hyd i rywun.Mae dy lythyr di yn barod [i’warwyddo] fan hyn.Caewyd y ffordd am rai oriau iglirio’r gweddillion ond y mae wediail agor bellach.Dywedodd yr heddlu fod gan unanafiadau difrifol a’i fod yn ysbytyGlan Clwyd.Paham fod y brawddegau yma, adynnais o ohebiaeth preifat o’r eiddoffy hun ac o wefan Gymraeg y BBCwedi f’atgoffa i o’r hen Salesbury?Poeni yr oedd o y gallasai’r iaithlenyddol fynd i ebargofiant, profi yrydwyf ei bod wedi mynd i ebargofiantyn llwyr a bod ysgrifennu Cymraegcywir wedi mynd yn beth od ar y naw.Ond yr hyn sy’n ddiddorol ywpaham fod y sefyllfa adfydus honwedi codi. Mae’n rhaid datgan unpeth cyn cychwyn, mae Cymraegysgrifenedig yn iaith anodd iawn agiddi sawl rheol sydd nid yn unig ynadlewyrchu gwreiddiau Beiblaiddyr iaith ond rhai rheolau sillafusydd yn dangos perthynas yr iaitha Brythoneg. Sail yr iaith lenyddolyn ei hanfod yw’r gymysgedd yna odafodiaith y Gogledd a’r eirfa farddola ddefnyddiodd y cyfieithwyr ac fely mae gwybodaeth o Feibl 1588 wedicilio, y mae cadw safonau’r iaith wedimynd yn anos. Yn yr un modd, ymae orgraff yr iaith - y ffordd y mae’ncael ei sillafu, os mynnwch - yn periproblemau. Rhoir dwy n yn y gairdyffrynnoedd er mwyn ein hatgoffamai tarddiad y gair yw’r geiriauBrythoneg dubros hentos, ystyr y gairdyffryn yw rhediad y dyfroedd. Y maelle cryf i ddadlau fod rheol fel hyn ynprofi parhad gwyrthiol ystyron geiriauond y mae lle cryfach i ddadlau foddyblu n yn creu problemau diangen acyn milwrio yn erbyn natur ffonetig yGymraeg lle yr yngenir yr hyn a welirac y sillefir yr hyn a glywir.Y mae lle isymleiddio yr iaith lenyddol ond nidar draul cywirdeb sylfaenol.Pwrpas ysgrifennu iaith yw rhoigwybodaeth i eraill yn eglur ac y maemethu ysgrifennu yn gywir yn creuproblemau. Chwi welwch y bachaupetryal sydd mewn dau ddyfyniad.Dynoda geiriau mewn bachau petryalrywbeth y mae golygydd y testunwedi ei roi i mewn i egluro’r darn - adyna yn union yw eu pwrpas yma.Petai’r ddau a anfonodd yr ebystataf yn fwy cyfarwydd a rheolauysgrifennu unrhyw iaith, fe fyddentwedi cynnwys y geiriau drostynteu hunain. A sylwch ar y trydydddyfyniad. Yn y rhan gyntaf, rhydd yrawdur genedl gywir y gair ffordd - eichau - ond erbyn y diwedd, mae wedicolli gafael llwyr ar genedl y gair adefnyddio o gan newid cenedl y gairyn syth!Ac, er gwaethaf fy haeriad fod angensymleiddio’r iaith lenyddol, ni allaffi fy hun faddau camgymeriadau felhyn. Blerwch a difeindrwydd llwyryw a thrasiedi’r sefyllfa yw nad ar yrawduron yn unig y mae’r bai. Gorweddllawer o’r bai ar rieni nad ydynt yngofalu fod plant yn darllen ac yn caelcyfle i ddod i adnabod teithi yr iaith agorwedd y bai ar athrawon ysgol syddyn fodlon derbyn iaith fel hyn ac sy’nfodlon haeru mai y rhyddid i ddweudsy’n bwysig ac nid y sut. Y gwir plaenyw, mae gwybod rheolau sylfaenolgramadeg yn rhyddhau’r gallu i hunanfynegiant nid ei lesteirio a’r gwir plaenarall ydi na fedr llawer o’n hathrawonni ysgrifennu yn gywir oherwydd naddysgwyd hwythau ychwaith i roipwyslais ar ramadeg ac arddull.Yng Nghymru, mae gennym broblemarall. Mae gennym ofn dweud dim rhagofn mae dysgwr ysgrifennodd y darn agiddo dorri ei galon neu rhag ofn y gallhwnnw ein cyhuddo o fod yn hiliol. Nidoes angen ofni hynny o gwbl. Ydechchi’n meddwl am eiliad y derbyniasaiHuw Edwards neu Guto Harri swyddida gyda BBC Lloegr oni bai eu modyn medru ysgrifennu Saesneg cywir asynhwyrol? Pam ein bod ni yn fodlonderbyn llai yng Nghymru ac yn fodlonderbyn Cymraeg ysgrifenedig gwael?Y mae ymgyrch yn bodoli eisoes ihyrwyddo ysgrifennu Saesneg cywir- ac, oes, mae angen honno hefyd- mae’n hen bryd i ninnau ddechrau unhefyd tra y mae gennym bobl fedr greubrawddegau cywir dealladwy. A dylemwneud hynny ar fyrder, mae’n siwrgennyf fod yr hen Salesbury yn troi yn eifedd fel olwyn trol!Ac o na fai gennyf fi fy hun y wynebi anfon fersiynau wedi eu cywiro oohebiaeth yn ôl at bobl!Mae sicrhau dyfodol eingwasanaeth iechyd ni yngNgheredigion wedi bodyn fater pwysig iawn imiers y bygythiad i statwsYsbyty Bron-glais rhywflwyddyn a hanner yn ôl.Ro’n i felly’n falch iawncael gwahodd y GweinidogIechyd, Edwina Hart AC,i Dregaron yn ddiweddarer mwyn cynnal cyfarfodgyda chynrychiolwyro gymdeithasau sy’nymwneud ag iechyd yngNgheredigion. Roedd yngyfarfod adeiladol iawn acroeddwn yn falch dros beni glywed y Gweinidog yndatgan ei bod yn awyddusi gymeradwyo’r cynlluniaui fuddsoddi £33 miliwnmewn adnoddau newyddyn yr ysbyty.Cyn y cyfarfod, cefaisgyfle i ymweld ag YsbytyTregaron gyda’r Gweinidoger mwyn cael gweld ygofal da sydd ar gael ynoa chymaint mae’r cleifionyn gwerthfawrogi’rgwasanaeth. Roeddwnfelly’n falch bod yGweinidog wedi datganyn ystod y cyfarfod ei bodyn bwriadu sicrhau bodgwelyau yn y dyfodol ynYsbyty Tregaron a’i bod amweld buddsoddi pellachyno. Mynegodd hefyd eihymrwymiad i barhaugyda’r cynllun i adeiladuysbyty newydd yn Aberteifi.Mae hyn yn newydd da tuhwnt a rhaid i ni barhaui ddatblygu’r cynlluniauyma er mwyn iddynt gaeleu gwireddu cyn gynted âphosib.Fe gadeiriais gyfarfodyn Llanbadarn Fawr ynddiweddar er mwyn idrigolion lleol gael mynegieu pryderon i gynrychiolwyro Network Rail am y masttelegyfathrebu fydd yn caelei godi gerllaw’r rheilfforddar gyrion y pentref. Maecyfarfodydd tebyg eisoeswedi cael eu cynnal ynLlandre a Bow Street, acrwy’n mawr obeithio y byddNetwork Rail yn cymrydbarn y bobl leol i ystyriaethyn y cyfamser wrth iddyntorffen datblygu’r cynlluniauar gyfer codi’r mastiau.Rwyf wedi mynychudigwyddiad wedi eidrefnu gan Glwb BusnesAberystwyth yn ddiweddarer mwyn codi arian tuag atUned Clefyd y Siwgr er cofam y diweddar Ray Gravell.Cefais hefyd wahoddiadi siarad ag aelodau oBrifysgol y Drydedd Oes ynddiweddar yn Aberystwytham fy ngwaith fel AelodCynulliad. Roedd yn blesercael derbyn y gwahoddiadac roedd gan yr aelodauddiddordeb mawr mewncael gwybod sut mae’rCynulliad yn gweithio.Elin Jones AC

16 Y TINCER CHWEFROR 2008M. ThomasPlymwr lleolPenrhyn-cochGosod gwres canologYstafelloedd ymolchiCawodyddPob math o waith plymwrPrisiau rhesymolFfôn symudol 07968 728 470Ffôn ty 01970 820375Y TINCERYm mis Hydref, byddaf ynymuno â phedwar ddeg o bobleraill o Gymru ar daith gerddedun diwrnod ar ddeg i Batagonia.Yno, o dan arweinyddiaeth IoloWilliams, byddwn yn cerdded ymMharc Cenedlaethol Los Glacieresam 7-9 awr y diwrnod er mwyncodi arian i Mencap. Mae ParcCenedlaethol Los Glacieresyn ymestyn am fwy na 6000o gilomedrau sgwâr yn Ne yrAriannin – gyda’r uchafbwyntiauyn cynnwys Mount Fitzroy(3405m) a Cerro Torre (3128m) .Ar ôl glanio yn Buenos Airesar y diwrnod cyntaf, byddwn ynhedfan i El Chalten, pentre bachwrth droed Mount Fitzroy. O’rfan honno, byddwn yn cerdded iLaguna Toro, dros bum diwrnod,taith o tua 80 km. Bydd ynrhaid campio dros nos, gydachyfleusterau sylfaenol iawn,mewn tymheredd a all amrywio o3-11 selsiws..Ar yr wythfed diwrnod,cawn gyfle i ymlacio ac ymweldâ Penrhyn Valdes, sef SafleTreftadaeth Naturiol y Byd ganTAITH CERYSUNESCO. Mae yn warchodfabywyd gwyllt ar gyfer adar ymôr, ysgyfarnogod Patagonia,gwanacoid, morlewod a morloieliffant y de. Ar ôl ymweld â’rsafle yma, byddwn yn gyrrui’r Gaiman a Dyffryn yr AfonCamwy, i ymweld â’r gymunedGymraeg, cyn teithio nôl i BuenosAires i ddal yr awyren nôl iLundain.Yn naturiol, mae’n rhaid i migodi swm sylweddol o arian cynmynd, er budd Mencap. Byddafyn trefnu nifer o weithgareddauer mwyn gwneud hyn, ganddechrau gyda chyngerdd ganGôr ABC yng Nghapel Bethel,Aberystwyth nos Sul 16 Mawrth2008 am 7.30pm. Byddaf hefydyn gwneud raffl, ac ar hyn obryd yn chwilio am wobrau arei chyfer. Felly, os oes gennychunrhyw beth i’w roi i’r raffl,byddaf yn ddiolchgar iawn!Mae gennyf hefyd safle we ermwyn codi arian, lle gall poblroi nawdd o arian i’r achos(http://www.justgiving.com/ceryshumphreys1).Mae’r misoedd nesaf yn myndi fod yn rhai prysur iawn, onddwi’n edrych ymlaen yn fawrat fynd a gweld tipyn bach o’rAriannin– a helpu eraill wrthgwrs!

Y TINCER CHWEFROR 2008 17Cymdeithas Defaid Mynydd CeredigionCynhaliwyd cyfarfod ynNyffryn Castell, Ponterwydnos Sadwrn, Tachwedd 24, iddathlu hanner can mlyneddsefydlu Cymdeithas DefaidMynydd Ceredigion ar Fai 13,1957. Ni ellir gwerthfawrogi’rachlysur heb yn gyntafystyried ei chefndir fel un o’rPum Sir, sydd yn cynnwysAdran Fynydd y GymdeithasDefaid Mynydd Cymreig.Arfon dorrodd y garw ym1945 trwy ymwrthod adefnyddio hyrddod anaddasy Gymdeithas Defaid MynyddCymreig a hyrwyddwyd gany Weinyddiaeth Amaeth, wrthffurfio Cymdeithas DefaidMynydd Arfon. Pierce Owen, YFfridd, Dyffryn Nantlle; FrankGriffith, Y Bryn, Caernarfona’r Athro E J Roberts, Colegy Gogledd fu ar flaen y gâd.Rhoddodd safiad E J Robertsei gyfle i Gwynn LloydWilliams i ddechrau ar ei daitharloesol o gofnodi’r ddiadellfynydd yn Abergwyngregyn,mewn cydweithrediad âChymdeithas Arfon. Dyma’rfesen a blannwyd ym 1948,a dyfodd yn dderwen erbyn1987, pryd y gwerthwydhyrddod cofnodedig gyntafyn y wlad hon gan CAMDAyng Ngheirnioge Mawr,Pentrefoelas. Dyma’rddiadell gnewyllog (nucleusflock) gyntaf i’w sefydluyn y wlad hon o famogiaiddethol o’r Adran Fynydd ynArfon, Dinbych a Meirionym 1976. Enillodd GwynnWilliams Ddyfarniad GeorgeHedley am ei gyfraniadi’r diwydiant ac yn sicredmygedd a gwerthfawrogiadei gyd-weithwyr yn yr AdranFynydd am ei waith, yn fwyfelly na chydnabyddiaethglaear y sefydliad amaeth ynLlanelwedd.Ym 1958, penodwyd I RJenkins, Tyngraig, Tal-y-bontyn Gadeirydd a W J Lewis,Rhos-goch, Capel Madog ynYsgrifennydd CymdeithasDefaid Mynydd Ceredigion.Dechreuwyd archwilioa chofrestru diadelloeddyn ddiymdroi, yn ogystalâ threfnu arwerthiantblynyddoedd yr hyrddod.Cychwynnwyd ar y profionhyrddod sirol ym 1965 aphrofwyd pedwar o’r hyrddodblwydd gorau trwy eu hepilbob blwyddyn. Y trydyddRhes ôl: Dyfed Glanrafon, Rhodri Moelglomen, Glyn Frondeg, David Allt-goch, Alan Pen-banc, David Ty^-hen Henllys, Rhydian Tynant,Siarl Tynddraenen, Dilwyn Ty^-nant, John Trefaes, Geoff Ffosybleiddiaid, Tegwyn Rhos-gochAil res: Mair Tynddraenen, Bob Penywern, John Pen-cwm, Monica Moelglomen, Sue Pen-y-wern, Dilys Allt-goch, Menna Trefaes,Beryl Glanrafon, Dafydd a Delyth Ceiro, Eira Ffosybleiddiaid, Eirwen Pen-cwm, Ken Coedgruffydd, Eileen Fron-deg, Marion Ty^-nant,Aldwyth Rhos-gochRhes flaen: Geraint Penpompren, Dafydd Penpompren (Trysorydd), Gareth Sw^n y Ffrwd (Ysgrifennydd), Enoc Tyn-y-graig (Cadeirydd,ac w^yr i I R Jenkins, y Cadeirydd cyntaf), Gwyn Jones (gw^r gwadd) a Ann Jones, Llys Maelgwyn, Simon Moelglomen (Isgadeirydd),Gwilym ac Ann Llety’r Bugail, Gomer Fferm y Bont ar y llawr: Lly^r Pen-banc, Dewi Tyn-y-graig, Garmon Ty^-hen Henllys,John Pen-bancYn anffodus, nid oedd Glyn Vaughan, Rhiwarthen, y Llywydd yn gallu bod yno i ddathlu.cam fu troi hyrddod profedigat famogiaith dethol mewncynlluniau cydweithredol neulogi hyrddod o ddiadelloeddfel Glanmerin, Glaspwll aChwm Cilan, Llanrhaeadry-Mochnant.Ym 1967,anfonwyd ãyn hyrddod i’rprawf canolog ym Mangor. Buffald Penpompren, Tal-y-bontyn ganolfan i weithgareddau’rGymdeithas am ddeugainmlynedd, trwy garedigrwyddteulu Tyngraig. Yno byddaiTed Morgan, Perthog, Pen-y-Garn yn dethol yr hyrddod i’rprofion ac yno y dychwelanti’w cneifio bob mis Mai.Cymdeithas fyw a gweithgaryw hi ac, er na chafwyd fawro gefnogaeth o gyfeiriadTregaron, ymaelododd niferfechan yn ardal Ffair-rhos,dan ddylanwad WilliamOwen, Tynddol. Collwydrhai aelodau wrth iddynt droiat y defaid penfrith ond erysgweddill ffyddlon o fewn ygorlan heb laesu dwylo, ac ermai ychydig ydym erbyn hyn,daeth haul ar fryn. EnillwydTarian Perthi gan hwrdd o’rWinllan, Tal-y-bont yn y prawfcanolog a chyflawnodd MrsBeryl Evans gamp unigrywdros y Sir trwy ennill CwpanCoffa Pierce Owen am yddiadell orau yn y Pum Sir.Hi hefyd sydd yn dal TarianRhos-goch am y ddiadellorau o fewn y Sir, gwobr aroddwyd gan y teulu i gofio WJ Lewis. Datblygiad gobeithioloedd sefydlu’r ddiadellganolog ar ffurf CAMDAym Mhwllpeiran, sef CAMP(Cymdeithas Adfer MamogiaidPumlumon) gan yr aelodau.Enoc Jenkins, Tyngraig oeddy cadeirydd yn y cyfarfoddathlu ac ef a gyflwynoddy gãr gwadd, Gwyn Jones,Llys Maelgwyn, Pen-y-Garn.Bu ef yn rhannol gyfrifolam sefydlu’r Gymdeithas acyn cydweithio law yn llawgyda’r ddau ysgrifennydd,W J Lewis ac Ieuan Morgan,Glanfrêd am chwe mlynedd arhugain, cyn ymddeol ym 1984,fel cynghorwr yn ucheldirCeredigion ac ar ffermiomynydd dros Gymru. GarethEvans, Sãn y Ffrwd, Bont-gochyw’r Ysgrifennydd gweithgarers tro byd bellach, tra ni fu iDdafydd Jenkins, PenpomprenUchaf, Tal-y-bont laesu dwyloar ôl cyfnod hir fel Trysorydd.Nid oedd Glyn Vaughan,Rhiwarthen, y Llywydd ac uno’r hoelion wyth, yn gallu bodyno i ddathlu yn anffodus agwelwyd ei eisiau. Ceisioddy gãr gwadd roddi’r cefndirhanesyddol i’r sefydlu, cynnodi rhai cerrig milltir ar ydaith o 1957-2007. CymdeithasGymraeg a gwerinol ywhi, heb sawr brenhinol o’ichwmpas. Sarnu’r iaith awneir heddiw, os na achubirhi gan wladwyr yn arddelyr iaith lafar gyfoethog aphriod-ddulliau traddodiadol.Diolchodd i’r aelodau am eucydweithrediad i wella tir astoc, ac am fod yn gymaintcefn iddo mewn hindda adrycin.Gwyn Jones

18 Y TINCER CHWEFROR 2008Dechreuad da iawn i 2008 i’r Gwartheg Duon Cymreigyn Sioe ac Arwerthiant Y GaeafDechreuodd y flwyddyn newydd2008 yn wych i Gymdeithas yGwartheg Duon yn eu Sioe acArwerthiant yn Farmers Marts,Dolgellau ar Ionawr 15fed 2008,lle roedd diddordeb arbennigiawn yn y gwartheg duon pedigriCymreig.Roedd ffermwyr a phrynwyrwedi dod mor bell â Dumfrieshireyn yr Alban, Pickering o OgleddSwydd Efrog a Dyfnaint aChernywl i weld y 79 o Warthega Teirw Gwartheg Duon Cymreigoedd yn cael eu cynnig.Dywedodd Andrew James,Prif Weithredwr gweithgar yGymdeithas Gwartheg DuonCymreig, ‘Ar ôl blwyddyn waeliawn i’r diwydiant amaeth yn2007 mae’r flwyddyn yma wedidechrau yn arbennig o dda i ni felCymdeithas.’Y pris uchaf ar y dydd oeddPencampwr y teirw, Graig GochBerwyn y 59fed yn pwyso 800 ciloa werthwyd am 12,200 gini ganEmyr Jones, Graig Goch, Nebo,Llanrwst. Roedd mam y tarwyma Graig Goch Marian y 30ainyn gastell o fuwch ac enillodddeitl buwch y flwyddyn yn SioeFrenhinol Cymru yn 1995 a 1996.Tad y tarw yma oedd BrysgagaErddyn 42.Prynwyd y tarw gan MrsGwenfair Jones a’i meibion, HafodYr Esgob Isaf, Y Bala. DywedoddEmyr Jones ‘Rwyn falch iawn ogael pris teg iawn am yr holl waitha aeth mewn i baratoi’r tarw ymai’r Arwerthiant ac os nad ydych ynderbyn prisiau fel hyn am y teirwo’r safon yma nid oes gwerth yn eumagu’. Dywedodd Mrs GwenfairJones, “Rydym wedi bod yn edrycham y tarw iawn ers sawl blwyddynbellach ac mae y meibion wedidotio ar y tarw arbennig yma.’Mae Buches Gwartheg DuonHafod yr Esgob yn enwog iawn acwedi ennill Pencampwr y buchodyn Nolgellau ym mis Tachwedd2007 gan dderbyn pris o 2075 gini argyfartaledd.Is bencampwr y teirw yn y Sioeeleni oedd y tarw ifanc, 22 mis oedBrysgaga Seraff 35 yn pwyso 970cilo wedi ei fagu gan Rowland Rees,Brysgaga, Bow Street. GwerthwydBrysgaga Seraff am 9500 gini iIslwyn Owen, Partneriaeth CefnBodig, Llanycil, Y Bala. DywedoddRowland Rees ‘ Pris teg maeffermwyr eisiau am eu cynnyrch ermwyn sicrhau fod ffermwyr ymayn y tymor hir i gynhyrchu bwydi’r wlad ac roedd yn bleser gennyfweld y gefnogaeth yma heddiw i’nSioe a’r Arwerthiant yma. RoeddBrysgaga Seraff yn darw da iawnac yn 30 cilo yn brin o dunnell ac fewerthodd yn dda iawn’Yn arwain y gwerthiant yn yrheffrod oedd Tynygraig Nerys20fed a gwerthwyd yr heffer gyfloorganic yma gan Y Mri EW ac MJenkins, Tynygraig, Tal-y-bont,Ceredigion. Gwerthwyd hi am 1320gini ac fe’i prynwyd gan Mr LloydRoberts, Waterloo Service Station,Penrefail, Cross Road, Abergele.Dyma’r tro cyntaf i Mr LloydRoberts brynu gwartheg duonCymreig ac fe brynodd 17 i gyd ynyr Arwerthaint yma.Lluniau: Arvid Parry JonesNoddwyd y Sioe ar Arwerthiantgan Tithebarn, d/o RichardLawrence, Rheolwr Cymru.Derbyniodd y gwerthwr ar prynwro’r Tarw a wnaeth y pris uchafvoucher o £25 gan Tithebarn.Roedd yn ddiwrnod arbenigiawn yn y Sioe ar Arwerthiant ymayn Nolgellau, gyda torf o bobolyno i sicrhau Arwerthiant arbennigiawn ar ddechrau’r flwyddynfel hyn. Gobeithiwn fod hwn ynarwydd o wellhad yn y diwydiantAmaeth i’r dyfodol

Y TINCER CHWEFROR 2008 19Wel, dyma gychwyn ar flwyddynnewydd o weithgareddau’rUrdd. I chi sy’n dal yn meddwlmai’r Eisteddfod yw prif ffocws ygweithgareddau, wel, peidiwch âchael eich twyllo! Mae’r Urdd eisoeswedi gweld nifer o blant ifanc yrardal yn arddangos sgiliau corfforolarbennig ar y maes pêl-droed. Pwya ãyr, efallai bod olynydd i CraigBellamy yn ein plith ni!Dyma ganlyniadau CystadleuaethPêl-droed 5 bob-ochr yr YsgolionCynradd:Rownd derfynol:Pen-llwyn yn ennill yn erbynLlangwyryfon (3 v 0).Llongyfarchiadau i’r buddugola diolch i’r holl gystadleuwyr, yrathrawon, yr hyfforddwyr a’r rhieni.Diolch hefyd i Ganolfan HamddenAberystwyth.Pêl-rwyd Cynradd CylchAberystwythLlongyfarchiadau i Ysgol Llanilar amennill y gystadleuaeth, ar waetha’rglaw trwm. Pob lwc eto wrthgynrychioli’r cylch!Fforwm Ieuenctid yr Urdd,Ceredigion - Llongyfarchiadau i’rcanlynol o Ysgol Penweddig amdderbyn eu rôl newydd:Is-gadeirydd: Steffan Nutting;Ysgrifennydd: Elin Huxtable;aelodau eraill: Tomos Hywel a RhysJones.Tâl Aelodaeth: i’r ieuenctid hynnysydd yn dal heb ymaelodi am 2007-08, cofiwch fod y tâl aelodaeth wedicodi i £6. Ewch amdani, Gardis,mae’n werth pob ceiniog! RhowchGynnig Arni! Os ydych yn un am roicynnig ar unrhyw beth, heb boeniam wneud ffãl ohonoch chi eichhun, dyma’r weithgaredd i chi! Eleniaeth tri thîm o GYTS Penweddig igystadlu i’r Marine, gan lwyddo igael digon o hwyl a sbri a dod yn1af ac yn 3ydd. Cyfle da i adeiladusgiliau tîm a chwrdd â ieuenctid oaelwydydd a Chlybiau FfermwyrIfanc eraill y sir.CELF A CHREFFT – os ydychyn bwriadu cystadlu, cofiwchlanw’r cerdyn priodol (ar gael o’chysgol/adran) ac ewch â’ch gwaith iWersyll Llangrannog erbyn 4.30 ar 20Chwefror!Tymor yr Eisteddfodau - Dymani ar fin dechrau cylch arall oEisteddfodau’r Urdd ac fellydyma’r dyddiadau pwysig i’chcalendr. Cofiwch, gystadleuwyr,eich bod chi wedi ymaelodi a llanwffurflen gystadlu a’i chyflwyno cyn7 Chwefror.COLOFN YR URDDEISTEDDFODAU CYLCHABERYSTWYTH:Eisteddfod Ddawns – Cynraddac Uwchradd: Dydd Mawrth, 26Chwefror, Canolfan y Celfyddydauam 4.00Eisteddfod Offerynnol(Cynradd): Dydd Mercher,27 Chwefror, Ysgol GynraddComins-coch - 1.30Eisteddfod Uwchradd: Dydd Iau,28 Chwefror, Neuadd Ysgol GyfunPenweddig am 1.00Rhagbrofion Cynradd: Dydd Iau,28 Chwefror, Ysgol Gymraeg,Plas-crug a Neuadd Aml-BwrpasPenweddig am 9.00Eisteddfod Gylch Cynradd: DyddGwener, 29 Chwefror, NeuaddYsgol Gyfun Pen-glais am 4.00EISTEDDFODAU RHANBARTHCEREDIGION:Eisteddfod Ddawns – DyddMercher, 5 Mawrth, Canolfan yCelfyddydau am 1.30 (Uwchradd3.45)Eisteddfod Aelwydydd – DyddMercher, 5 Mawrth, Canolfan yCelfyddydau am 6.15Eisteddfod Gynradd: DyddSadwrn, 8 Mawrth, PafiliwnPontrhydfendigaid am 9.00Eisteddfod Uwchradd: DyddGwener, 14 Mawrth, Ysgol GyfunPen-glais am 1.00 (a 4.00)Dewch i gefnogi!Pwyllgorau Apêl Ceredigion 2010Melindwr – 20fed o ChwefrorNeuadd Pen-llwyn, Capel Bangoram 7.30Tirymynach – 19eg o Chwefror– Festri Noddfa, Bow StreetTrefeurig – 3ydd o Fawrth, NeuaddPenrhyn-cochDôl-y-bont, Y Borth a Llandre-Cyfarfod yn Ysgoldy Bethlehem,Llandre Nos Fercher, Mawrth12fed am 7.30DIGWYDDIADAUPwyllgor Apêl TirymynachCyngerdd “Talenatu lleol” - 19.03.087.00 y.h. Neuadd Rhydypennau BowStreet Dewch yn llu i gefnogiPwyllgor Dawns01.03.08 - Bore Coffi NeuaddWaunfawr 9.00 – 12.30Cawl â Chan – Neuadd Talybont22.02.08 7.00 y.h.Pwyllgor Apêl Tal-y-bont aCheulanmaesmawr.DIOLCH yw’r un gair bach syddar ôl. Heb os nac oni bai, maeCeredigion yn ffodus iawn o gaelAnwen Eleri yn llywio’r llong.Diolch o galon iddi am ymrwymoi roi cyfleoedd i ieuenctid y sir.E. Olwen JonesO ris i ris: caneuon poblogaidd iblant cynraddY Lolfa 55t £6.95Dyma gyfle arall i fwynhaucyfansoddiadau cerddorol EOlwen Jones yn y casgliad O Ris iRis gan wasg y Lolfa.Mae Olwen Jones yn dweud ynei chyflwyniad ei bod wedi ceisiopontio ystod oedran o’r babanodi’r iau gyda chaneuon syml argyfer plant bach, a chaneuondeulais ar gyfer y plant hŷn odan themâu amrywiol.Gan fod cymaint o themâuamrywiol ar gael yn y gyfrol,ceir sawl cyfle i ddehongli’rcaneuon mewn ffyrdd dramatig achreadigol. Mae’n dechrau gyda“Siôn” sy’n “cuddio yn y lorri”am ei fod wedi pwdu, a gallafddychmygu dosbarth o blant ynmwynhau dynwared teimladau asymudiadau Siôn.Gellir dehongli sawl cân arallhefyd, gan rasio i lawr y mynyddgyda’r “Sgïwr” a dychryn yny tywyllwch pan ddiffoddir ygolau yn “Hen Arfer”. Mae’r“Ffatri” yn rhoi cyfle gwych ibawb symud “rownd a rownd,’nôl a ’mlaen” a neidio i fyny ac ilawr fel peiriannau swnllyd!”Dywed Olwen Jones ei bodwedi ceisio cyfoethogi iaith plantAdolygiaddrwy gynnwys ymadroddionmegis “ heb siw na miw”,“cadw-mi-gei”, “a’i ben yn eiblu”. Rwy’n siŵr y bydd plant yncofio’r ymadroddion ac yn gallueu defnyddio mewn sgwrs, ar ôlcanu’r caneuon dro ar ôl tro.Tua diwedd y gyfrol cawnddeuawdau am yr “Eira” a“Melinau Gwynt” a chyfle iddathlu Calan Mai yn “Yr Ŵyl”.Mae rhywbeth yma ar gyferpawb yn y dosbarthiadaucynradd, felly mwynhewch ycasgliad a’r canu!Eirlys EckleyAdolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâdCyngor Llyfrau Cymru.Apêl Plwyf Trefeurig Urdd 2010Cynhelir dosbarthiadau ymarfer dawnsio i fiwsig ar nos Fercherrhwng 6.30-7.30 yn Neuadd Ysgol Penrhyn-coch £3 y sesiwn – erbudd cronfa leol Eisteddfod yr Urdd 2010. Am fwy o wybodaethcysyllter gydag Anne Morris 820 425Cynhelir noson cArdiCWSTIG yng Ngwesty’r Marine,Aberystwyth ar nos Wener yr 22ain o Chwefror yng nghwmniBob Delyn a’r Ebillion a Linda Griffiths. Tâl mynediad yn £5,a’r noson i gychwyn am 8yh. Mae’n noson o adloniant ysgafnfydd yn apelio at bawb - Cymry Cymraeg a hefyd dysgwyr.Mae’n un o gyfres o nosweithiau a drefnir gan CERED gydachefnogaeth Cynnal Ceredigion a Chanolfan Dysgu Cymraegi Oedolion Canolbarth Cymru dros y misoedd nesaf. Amfanylion pellach ynglñn â’r nosweithiau, cysylltwch â FfionMedi, Swyddog Maes CERED (Menter Iaith Ceredigion) ar01545 572 356.

20 Y TINCER CHWEFROR 2008Llyfrau â chysylltiad lleolNia ElinDoethineb MamDref Wen£4.99Stephen Jones: O Clermont iNantesY LolfaPris: £8.95Nid yw babi newydd yn dodgyda llawlyfr, ond o’r diweddmae llyfr newydd CymraegDoethineb Mam gan Nia Elin,(Tir nan Nog, Cwmbrwynogynt) yn barod i helpu mamaunewydd drwy’r amser mwyafhapus, blinedig a gwerthfawro’u bywydau!Wedi ei gyhoeddi gan y DrefWen, mae Doethineb Mam yncynorthwyo’r fam newyddgyda’r pryderon hynny trwygynnig nifer o awgrymiadauymarferol. Mae pob pennodyn canolbwyntio ar ryw dasggyffredin neu ddigwyddiadym mywyd plentyn bach. O’rdymi i’r dannedd, o’r clytiaui’r tñ bach ac o’r bwyd cyntafi frodyr a chwiorydd, mae’rllyfr bach defnyddiol hwn yncynnig pob math o gymorthwrth wynebu’r profiad cyffrouso fagu babi newydd.Gan gynnwys penodaupwysig ar agweddaugwahanol, cynnig cysur achymorth a syniadau da, mae’rllyfryn, sy’n llawn darluniauhyfryd ac yn seis poced sy’nhawdd i daflu mewn i’r bagbabi, yn anrheg berffaith i famnewydd neu i rywun sy’n famyn barod ond angen cysur amagwedd benodol o fagwraeth.Bydd yr awdures NiaElin yn fwyaf cyfarwydd iddarllenwyr fel un o gyngyflwynwyry rhaglen Uned5. Yn fwy diweddar maeNia, sy’n byw erbyn hyn yngNghaerdydd, wedi bod yngweithio ar Planed Plant,yn cyfieithu ac yn addasusgriptiau, yn lleisio cartãnauac ar y funud yn gweithio felis-gynhyrchu’r rhaglen blantMosgito i’r BBC. A chanddiddau o blant, mae hi hefyd ynbrysur fel arweinydd grãprhieni a phlant bach Cylch Tia Fi sy’n cynnig cyfleoedd irieni a gwarchodwyr fwynhauchwarae gyda’u plant achymdeithasu mewn awyrgylchanffurfiol Gymreig.Dywedodd Nia, “Panoeddwn i yn disgwyl plant,doedd dim deunydd darllenyn yr iaith Gymraeg ar gael ifamau newydd. Roedd digon olyfrau a chylchgronau Saesnega dyma beth sbardunoddfi i feddwl am ysgrifennurhywbeth yn y Gymraeg.Dwi wedi bod yn casglugwybodaeth a chofnodimanylion ers tipyn a cyn i fisylweddoli, dyma oedd sylfaeny llyfr.“Mae bod yn fam newyddyn gyfnod prysur iawn ac fellydwi wedi ystyried hyn wrthysgrifennu’r llyfr. Nid oesrhaid i’r llyfr gael ei ddarllentrwyddo ar un eisteddiadond yn hytrach rhywbeth i’wgadw wrth law a’i agor mewnsefyllfa arbennig wrth i rieniymgodymu â magu plant bachyw e.“Mae llawer o fy ffrindiauwedi dweud y byddent yndwli cael rhywbeth fel hyn.Ar ddiwedd y dydd, maerhannu profiadau ag eraill ynhelp mawr wrth fagu planta gobeithio bydd y llyfr hwnyn gysur ac yn help i famaunewydd.”Wedi’r chwiban olaf gael eichwythu ac wythdeg munudo chwarae caled ddod i ben,mae Stephen Jones yn gorfodwynebu beirniadaeth gannewyddiadurwyr, sylwebwyr achefnogwyr am safon ei chwarae.Ond eleni mae wedi wynebu’rbeirniad anoddaf a chaletaf un,sef ef ei hun wrth iddo gynniggolwg ar fywyd chwaraewr rygbiproffesiynol yn ei lyfr newydda gyhoeddir gan wasg Y Lolfa,Stephen Jones: o Clermont iNantes. .Yn y llyfr hwn mae StephenJones - fu’n byw ym Mhenrhyncochpan yn blentyn -yncofnodi blwyddyn o chwaraewedi iddo ddychwelyd yn ôli dre’r sosban o Clermont ynFfrainc gan ailymuno â thîmy Sgarlets. Ar ffurf dyddiadur,mae’n bwrw golwg dros gemauCynghrair Magners, CwpanHeineken, gemau Rhyngwladolyr Hydref, pencampwriaethy Chwe Gwlad a Chwpan yByd, gan roi sylwebaeth lawnar ei berfformiad, ei anafiadauac ofnau wrth iddo wynebublwyddyn anoddaf ei yrfa.Mae’n trafod ei lawenhad o gaeldychwelyd i dîm y Sgarlets a’rboddhad o wneud yn dda yny Cwpan Heineken, y moddiddo gael ei feirniadu yn ystodPencampwriaeth y ChweGwlad, siom fawr Cwpan yByd, y ‘frwydr’ rhyngddo ef aJames Hook am y crys rhif 10, acymadawiad Gareth Jenkins. Ondyma hefyd mae’n bwrw ei fol arbryderon ei anafiadau, pwysau’rdasg o fod yn Gapten ar ei wlad,a’i ofnau wrth gamu ar y maeschware yn ogystal â’r gwir tuôl i ddigwyddiadau’r ‘noson oyfed’ yna yn yr Alban yn ystodPencampwriaeth y Chwe Gwlad.Ceir hefyd gipolwg tu ôl i’r llen,y gwir tu ôl i benawdau praff ypapurau newydd, y tynnu coes ofewn y garfan a’i hoffter am fwyd,caffis a boules wedi ei gyfnod ynFfrainc. Mae’n trafod ei fywyd ytu hwnt i’r cae rygbi wrth iddobaratoi i agor tñ bwyta ar y cyda’i gyd-chwarewr Dwayne Peela’i obeithion am y dyfodol. Ceirstraeon sy’n egluro sut y daethi gyfarfod a’r paffiwr Sugar RayLeonard mewn maes awyr, a suty daeth cyfeillgarwch ac AlistairCampbell yn ddefnyddiol iddowedi siom pencampwriaeth yChwe Gwlad.“Ers i fi ddod ‘nôl i Lanelli arôl ‘y nghyfnod gyda Clermontfe fu’n flwyddyn ‘lan a lawr’ arsawl cyfri. A dweud y gwir ro’ni wedi anghofio faint o sialensoedd bod yn wharaewr dosbarthcyntaf yma yng Nghymru, achyment y mae rhywun o dany chwyddwydr gan y wasg a’rcyfryngau,” meddai Stephen.Yn ail yn unig i Neil Jenkins felprif sgoriwr Cymru, mae StephenJones yn arwr i gannoedd oddilynwyr rygbi ar hyd a lledy wlad. A hithau wedi bod ynflwyddyn a hanner iddo wrthddychwelyd yn ôl i’w hen glwb,dioddef sawl anaf cas a chyrraeddpen llanw pedair blynedd obaratoi ar gyfer cystadleuaethCwpan y Byd, mae’r llyfr difyrhwn yn cynnig golwg ar y dyntu ôl i gyrs rhif 10 y Sgarlets aChymru.

Y TINCER CHWEFROR 2008 21YSGOL CRAIG-YR-WYLFAPlant NewyddBraf oedd cael croesawu’rplant a’r staff nol i’r ysgol arddechrau’r tymor. Cafwydcwmni pedwar plentyn newyddyn y dosbarth derbyn; croeso iMorwen, Kelsey, Mackenzie aCourtney a gobeithio y byddantyn ymgartrefu’n gyflym yn yrysgol. Mae’r tymor yma’n unbyr iawn gyda ond 10 wythnoscyn gwyliau’r Pasg.Codi ArianBu’r Gymdeithas Rhieni acAthrawon yn brysur iawn yncasglu nwyddau ar gyfer yrhamperi cyn y Nadolig. Buonthefyd yn gwerthu tocynnauraffl a codwyd dros £750 i’rysgol. Diolch o galon i’r rhaihynny a rhoddodd eitemau i’rhamperi ac i bawb a brynoddtocyn er mwyn cefnogi’rysgol. Mae’r arian wedicael ei ddefnyddio i brynucyfrifiaduron newydd ac i greudosbarth awyr agored tu ol i’rysgol.Cyfrifiaduron NewyddMae’r ysgol wedi cael 10cyfrifiadur newydd arddechrau’r tymor. Archebwyd5 oddi-wrth PrifysgolAberystwyth a derbyniwyd 5yn rhodd gan I.G.E.R. Diolcho galon i Wayne Cullen (tadTuen) am drefnu hyn gydaIGER ac am ddod a’r holl offerdraw i’r ysgol.ChwaraeonBu’r plant yn chwarae peldroeda pel-rhwyd yn erbynPadarn Sant. Colli fu hanes ytim pel-rhwyd o 5-1 ond brafoedd gweld y bechgyn ynennill o 1-0.Aeth criw o’r ysgol i gystadluyng ngala nofio ysgolion cylchAberystwyth. Llongyfarchiadaui Isaac, Beth, Simone, Dan,Erin, Jonah a 2 tim cyfnewid ymerched. Bydd y gala terfynolyn cymeryd lle ar yr 21ain oChwefror ym Mhlasgrug.StaffioMae’n braf cael croesawu 3cynorthwydd dosbarth newyddi’r ysgol. Bydd Amanda Jonesa Cath Reeves yn gweithiogyda blwyddyn 3 a 4 ac EmmaDavies yn gweithio yn nosbarthy babanod. Croeso hefyd i CeriJones sydd yma fel myfyrwraigo Brifysgol Aberystwyth felrhan o’r cwrs ymarfer dysgu.Bydd Ceri yn dysgu blwyddyn5 a 6.KingswoodAeth o 9 o blant blwyddyn4 am dair noson i GanolfanKingswood ger Telford. Brafoedd cael ymuno gyda planto ysgolion Comins-Coch,Penrhyn-coch a Llanilar. Mae’rganolfan yn rhoi’r cyfle i’r plantddysgu sgiliau cyfrifiadur agwneud gweithgareddau awyragored.Morwen, Kelsey, Courtney a Mckenzie - y plant bach newyddY Radd Allanol Trwy Gyfrwng y Gymraegn n n n n n n Pwy all ddilyn y Radd Allanol?Gwobr ArbennigBraf yw cael llongyfarchyr ysgol ar ennill gwobrarbennig oddi-wrthCampau’r Ddraig. Rydymwedi bod yn cynnalclybiau ar ol ysgol ers sawlblwyddyn ac derbyniodd yrysgol gwobr arian gan BrynEvans yn ddiweddar. YsgolCraig yr Wylfa yw’r ysgolgyntaf i ennill y wobr yngNgheredigion.Rhagor o wybodaethCydgysylltydd y Radd Allanol,Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes,Prifysgol Cymru Aberystwyth,Aberystwyth SY23 2AXgraddallanol@aber.ac.uk01970-621678http://www.aber.ac.uk/sell/courses/welsh/extdgree/index-cymraeg.htmlHolwch Paul am bris arpaul@ylolfa.comAgraffwyrTA L Y B O N T C E R E D I G I O N S Y 2 4 5 E R01970 832 304ylolfa@ylolfa.comwww.ylolfa.comGwobr Campau’r Ddraig - Dan, Leo a Sam yn derbyn y wobr

22 Y TINCER CHWEFROR 2008YSGOL RHYDYPENNAUYmweliadauYn ystod y flwyddynnewydd, fe ddychweloddRhydian Phillips, mab Alun aLouisa, i Gymru o Awstralia.Ar y 16eg o Ionawr, fe ddaethRhydian, ei gariad Megan aLouisa i flwyddyn 5 i adroddychydig o hanes Awstralia i’rplant. Dyma gofnod TomosGillison o’r ymweliad.Ymweliad o AwstraliaAr ddydd Mercher y 16ego Ionawr daeth ymwelyddarbennig o’r enw MeganDubois o Cleve, De Awstraliai’n gweld ni ym Mlwyddyn 5.Roeddem ni wedi gofyncwestiynau iddi hi am eigwaith a’i chartref. Roeddhi’n gweithio i gwmni oeddyn gwneud papur newyddbach yn Cleve. Roedd hi wedidweud rhai geiriau mae poblAwstralia yn ei ddefnyddioe.e.chips=creision, hotchips=chips.Roedd o’n ddiwrnoddiddorol iawn! ThomasGillisonSain FfaganAr y 24ain o Ionawr fe aethblwyddyn 3 a 4 i Gaerdydd iymweld â’r adeiladau enwogyn Sain Ffagan. Ein thema niy tymor hwn yw ‘Cartrefi;’felly roedd yr ymweliad i’ramgueddfa yn le delfrydol i’rplant arsylwi ar yr hen gartrefihanesyddol. Cafodd pawbddiwrnod arbennig o dda.Leigh DenyerAr y 30ain o Ionawr, fe ddaethLeigh Denyer i’r ysgol fel rhano wasanaeth addysg mentery Comisiwn Coedwigaeth.Cyflwynodd amryw owybodaeth pwysig i’r plant argoed ac anifeiliaid sy’n bywyn y goedwig. Fe aeth ymlaeni drefnu nifer o weithgareddaudifyr i holl blant yr ysgol aragweddau o goedwigaeth.Yn ystod yr un diwrnod bublwyddyn 5 a 6 yn ffodus iawni weld tîm rygbi’r Sgarlets ynymarfer yng nghlwb RygbiAberystwyth. Cafodd y plantlofnod amryw o’r chwaraewyrac ar ddiwedd y sesiwn cafoddpob plentyn becyn unigol yncynnwys tocyn i gêm y Sgarletsyn erbyn Glasgow.Ar y 6ed o Chwefror fe aethy Dosbarth Derbyn i’r goedwigyn Nhregerddan. Roeddyntyn gobeithio gweld bywydgwyllt yr ardal yn byw yn eucynefinoedd naturiol. Trwylwc, roedd hi’n ddiwrnod brafiawn i fynd am dro i’r goedwigac fe gafodd pawb amser daond blinedig braidd.Tra bo’r dosbarth derbynyn mwynhau’r goedwig,fe ddaeth Julie Bromilow oGanolfan y Dechnoleg Amgen,Machynlleth i flwyddyn6. Bu hi yno drwy’r dyddyn codi ymwybyddiaeth yplant o bwysigrwydd yr ‘ôldroed carbon’ ac o broblemauamgylcheddol ein byd cyfoesni. Hoffai’r ysgol ddiolch iJulie am ei chyflwyniadau a’igweithgareddau difyr.ChwaraeonBu’r tîm pêl-rwyd yncystadlu yn ddiweddar ymmhencampwriaeth Yr Urdd,cylch Aberystwyth yn yganolfan hamdden ym Mhlascrug.Enillodd y merchedsawl gêm ond collodd y tîmyn y rownd gyn-derfynol.Perfformiad ardderchog.Cynhaliwyd gala nofio cylchAberystwyth i’r ysgolionmawr ar y 4ydd o Chwefror.Oherwydd perfformiadaugwych nifer helaeth o blantblwyddyn 3 i flwyddyn 6, mifyddant nawr yn mynd ymlaeni’r rownd derfynol ar y 21ain oChwefror.Diwrnod ar gyfer newidAr y 1af o Chwefror,cynhaliwyd ‘Diwrnod ar GyferNewid’er mwyn codi arian iUnicef. Fe ddaeth y plant i’rysgol mewn dillad dewisol acyn sgîl hyn, codwyd £100.00 iwlad Gambia yng nghyfandirAffrica.Cwpan CoffaMae nifer o ddarllenwyr‘Y Tincer’ wedi cysylltu â’rysgol yn ddiweddar yn sgîlgwerthiant ein Cwpan Coffa.Yn anffodus, nid yw’r ysgolyn derbyn rhagor o archebion.Felly, os am dderbyn einCwpan Coffa, cysylltwch âMalcolm yng nghrochendyFelin-gwm ar 01267290489.Plant blwyddyn 5 gyda Megan DuboisYmweliad Leigh Denyer i’r ysgolYSGOL PEN-LLWYNY plant fydd yn cynrychioli Ysgol Pen-llwyn yn y Gala nofio

Y TINCER CHWEFROR 2008 23YSGOL PENRHYN-COCHKingswoodTeithiodd criw o ddisgyblion oflynyddoedd 4 a 5 i GanolfanKingswood yn Swydd Stafford.Bu’r disgyblion yn mwynhauprofiadau Antur ac AwyrAgored a chafwyd llawer iawno hwyl. Tra yno, buont yndringo, abseilio, cyflawni tasgauar y cyfrifiaduron ac yn cymrydrhan mewn gweithgareddautîm. Cafwyd llawer iawn o hwyla phawb yn cyrraedd yn ôl wediblino’n llwyr.Pêl-rwydBu’r ysgol yn cystadlu yngnghystadleuaeth pêl-rwydyr Urdd yn ddiweddar.Chwaraewyd nifer o gêmaugan ennill, colli a chael gêmaucyfartal. Yn anffodus nilwyddwyd i fynd ymlaen i’rrownd derfynol ond cafwydllawer o hwyl a mwynhad.YmweliadauCafwyd ymweliad ynddiweddar gan athrawono Ysgol Morfa Rhianedd,Llandudno. Treuliwyd amseryn yr ysgol yn gwylio gwersiyn seiliedig ar weithgareddau“Dewch i Feddwl / ACTS.”Cafwyd enghreifftiau o wersiyng nghyfnod allweddol 1 a2. Gobeithir trefnu ymweliadtebyg i staff yr ysgol yn ôl iYsgol Morfa RhianeddGala NofioCynhaliwyd gala nofio ysgolionbach yr ardal yn ddiweddar. Bunifer dda iawn o ddisgyblionyn nofio a llwyddodd llawer iennill drwodd i’r gala derfynola gynhelir cyn ddiwedd y mis.Bydd enillwyr gala’r ysgolionmwyaf yn nofio yn eu herbyn.Pob dymuniad da iddynt yn yrond derfynol.CrempogauDathlwyd diwrnod crempogyn yr ysgol eleni eto. Bu’rholl ddosbarthiadau wrthiyn coginio. Cafwyd nifer owahanol fathau o grempogaua bu rhai yn eu llenwi gydagwahanol ddanteithion. Brafoedd gweld pob un wrthi ynmwynhau ac yn cael hwyl.Llwyddodd un dosbarth idaflu crempogau. Er yr hollhwyl, dysgwyd am hanes acarwyddocad dydd Mawrthynyd i’r disgyblion.Gala NofioBu nifer o’r plant yn cystadlu yn y Gala Nofioyn Aberystwyth. Dyma’r rhai fydd yn myndymlaen i’r Gala Nofio Terfynol ar ddydd Iau21ain Chwefror – Tomos Watson, RhodriJones, Daniel Bentham, Shaun Dryburgh,Oliver Hershall, Rhian James, ManonDavies, Jo Jones a Iestyn Watson. Pob lwc chii gyd.Ymweliad Arad GochCafodd Dosbarth 1 fore penigamp yngnghwmni plant ysgolion, Mynach, Syr JohnRhys a Chapel Seion, yn gwylio cyflwyniadgan Gwmni Drama Arad Goch. Pedair ostorïau chwedlenol oedd testun cyflwyniadCatherine Aaron, un o actorion y cwmniac fe fwynhaodd y plant y storiau yn fawriawn.Dosbarth UnAr ddydd Mawrth Ynyd bu disgyblion ycyfnod sylfaen yn dysgu am y Grawys a’rrhesymau dros gynnal diwrnod crempog.Cafodd pawb hwyl wrth goginio crempogaua mwy o hwyl fyth wrth eu bwyta.Dosbarth 2 Ysgol Pen-llwyn gyda Mari Turner o Arad Goch

24 Y TINCER CHWEFROR 2008Diolch i bawb fu’n lliwio’r lluno’r ferch yn sgïo – bu’r postmondruan yn brysur yn dod â’chgwaith i mi! Dyma pwy fu wrthi:Shaun Wyn Jones, Bronallt,Llandre; Rhiannon Tomkinson,13 Cae’r Odyn, Bow Street; Lukea Jade Hutton, Tñ Ni, Y Borth;Alison Keegan, Fferm MaesBangor, Capel Bangor; FfionPowell, 27 Maes Ceiro, BowStreet; James Albrighton, 28 MaesCeiro, Bow Street; Leah Beswick,68 Bryncastell, Bow Street; Tomosa Hannah Mair Watkin, BlaenWaun, Y Borth; Glesni a TeleriMorgan, Ger-y-nant, Dolau;Saran Dafydd, 13 Maes y Garn,Bow Street; Laura Jones-Williams,Miramar, Goginan. Ni ddaethyr un llun o Benrhyn-coch ymis hwn; dewch plant Penrhyn- gobeithio caf rai o’ch lluniau ytro nesaf!Yr enillydd y tro hwn ywAlison Keegan, Capel Bangor. Daiawn ti Alison. Hoffais y menyggwyrdd!A wyddoch chi maiPencampwriaeth y Chwe Gwladyw’r bencampwriaeth rygbihynaf yn y byd? Cynhaliwydy cyntaf ym 1882, pryd ychwaraeodd tîm rybgi Lloegryn erbyn Cymru yn Abertawe,a’n curo. Pedair gwlad oeddyn cystadlu yn erbyn ei gilyddyn y blynyddoedd cyntaf, sefLloegr, Cymru, Yr Alban a’rIwerddon, ond nid oedd fawro drefn ar y Bencampwriaeth.Byddai’r dorf yn aml ynrhuthro ar y cae, gan fygwthy dyfarnwr druan! YmunoddFfrainc â’r Bencampwriaeth yn1910, ond rhwystrwyd y tîmrhag chwarae yn y 1930au ami rywun ddarganfod eu bod yncario cyllyll! Lloegr enillodd yflwyddyn honno.Bu toriad yn yBencampwriaeth rhwng 1914 a1920 oherwydd y Rhyfel BydGobeithir caelllun Alison argyfer y rhifynnesafCyntaf, ac enillodd Lloegr nifero’r gêmau ar ôl hynny, gangynnwys pump Grand Slam. Y1970au oedd oes aur tîm Cymru,gan ennill tri Grand Slam ac unGoron Driphlyg. Enillodd YrAlban ei Grand Slam cyntaf am59 mlynedd ym 1984. Yr unigGrand Slam i Iwerddon ei ennilloedd yn 1948, ac enillodd Ffraincy Grand Slam ym 1968. Lloegrenillodd y wobr honno yn 1980,wedi bwlch o 23 mlynedd.Cyflwynwyd y cwpan sy’ndal i gael ei ddefnyddio, ym1993 – a wyddoch chi fod 200owns o arian pur yn y cwpanhwnnw? Ymunodd yr Eidalâ’r bencampwriaeth yn 2000,gan guro’r Alban. Mae’n siwrbod nifer ohonoch chi’n cofioCymru’n ennill y Grand Slamyn 2005, wedi bwlch o 27mlynedd! Lloegr sydd wediennill y rhan fwya o wobrauyn y Bencampwriaeth, gangynnwys 12 Grand Slam, ondmae Cymru yn dilyn yn agosefo 8. Y mis hwn, beth am liwiobaner Cymru? Bydd hon ynhedfan ym mhob stadiwm panfydd Cymru’n chwarae rygbi.Mae Dydd Gãyl Dewi bron âchyrraedd hefyd, ac rwy’n siwrbydd y faner i’w gweld yn eichysgolion ar y diwrnod hwnnw. Aydych yn cynnal eisteddfod neugyngerdd arbennig ar Fawrth y1af?Anfonwch eich gwaith ata’ierbyn dydd Gãyl Ddewi– Mawrth 1af i’r cyfeiriad arferol:Tasg y Tincer, 46 Bryncastell, BowStreet. Ceredigion, SY24 5DE. Tata tan toc!EnwCyfeiriadOedRhif ffônTAFARN TYNLLIDIARTTy Bwyta a BarPrydau neilltuol y dyddPrydau pysgod arbennigCinio Dydd SulBwydlen lawn hanner dyddneu yn yr hwyrCROESO(mantais i archebu o flaen llaw)CAPEL BANGOR01970 880 248R h i f 3 0 6 | C H W E F R O R 2 0 0 8

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!