12.07.2015 Views

Y Tincer 341 Medi 11 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 341 Medi 11 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 341 Medi 11 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS
• No tags were found...

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Y TINCERPRIS75cRhif 341Medi2011PAPUR BRO GENAU’R-GLYN, MELINDWR, TIRYMYNACH, TREFEURIG A’R BORTHAgoriad swyddogol Gorsaf Dân y BorthYr Arglwydd Elystan-Morgan agoroddGorsaf Dân y Borth yn swyddogol ar yr28ain o fis Gorffennaf eleni. Nododd maigorsaf dân y Borth oedd yr unig orsafwirfoddol yng Nghymru (ar wahân i orsafdân y mynachod ar yr Ynys Bñr /Caldy).Y mae llond dwrn i gael yng ngogleddynysoedd yr Alban. Gorsaf Dân DilwynEnillydd cyntafGwobr NewyddJenkin Owen yw enw’r Orsaf, a braf oeddgweld gweddw Dilwyn, Barbara, yn ôlyn y Borth yn cyfrannu at yr achlysur.Siaradodd Gareth Rowlands ynglñn â hanescasglu’r arian a diolchodd i nifer fawr obobl am eu hamryw gyfraniadau - ariannola gweithredol. Ar ddiwedd yr areithiaucafwyd archwiliad gan Cheryl Philpott o’rcriw uchod-pasiodd pawb yn wych! Hefydcyflwynwyd medalau arbennig i PeterDavies a Phillip Jones am 27 mlynedd owasanaeth i’r orsaf. Llongyfarchiadau iddynt!Gwirfoddolwyr yr orsaf dân-o’r chwith i’rdde: Lee Trubshaw, Peter Davies, Phillip Jones,Martyn Davies, Nigel Clifft, Simon Cashman,Aled Jenkins.Cyrraedd y brig yngNgogerddanAled Lly^r Thomas, Capel Madog, enillydd cyntaf Gwobr Goffa Brynle Williams yn cael eiwobr gan Mary Williams, gweddw Brynle Williams ac Alun Davies, y Dirprwy WeinidogAmaethyddiaeth.(Gweler mwy o fanylion ar t.11) Llun: Arvid Parry-JonesDydd Iau 1af Medi bu’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yndathlu cwblhau’r cam diweddaraf yn y gwaith o adeiladu canolfan ymchwil a dysgu£8.6m newydd IBERS (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) ar safleGogerddan. Yn ymuno â’r Athro McMahon roedd uwch swyddogion IBERS ac aelodauo Fwrdd Ymgynghorol Allanol IBERS, a chynrychiolwyr o’r cwmni adeiladu WillmottDixon, y cwmni rheoli prosiect Davies Langdon a’r penseiri Pascal & Watson. Nodwydyr achlysur drwy glymu brigyn o goeden Ywen i’r adeilad. Chwith i’r Dde: Paul Evans oWillmott Dixon, Yr Athro Wayne Powell Cyfarwyddwr IBERS, Yr Athro April McMahonIs-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, a Ryan Dixon o’r penseiri Pascal & Watson.

2 Y TINCER MEDI 2011Y TINCER- un o bapurau bro Ceredigion | Sefydlwyd Medi 1977CYDNABYDDIRCEFNOGAETHISSN 0963-925X | Rhif 341 | Medi 2011SWYDDOGIONGOLYGYDD - Ceris GruffuddRhos Helyg, 23 MaesyrefailPenrhyn-coch % 828017Rhoshelyg@btinternet.comTEIPYDD - Iona BaileyCYSODYDD - Dylunio GraffEG % 832980CADEIRYDD - Elin Hefin, Ynyswen, Stryd Fawr,Y Borth % 871334IS-GADEIRYDD - Bethan Bebb, Penpistyll,Cwmbrwyno. Goginan % 880228YSGRIFENNYDD - Anwen Pierce46 Bryncastell, Bow Street % 828337TRYSORYDD - Hedydd Cunningham, Tyddyn-Pen-y-Gaer, Llandre, Aberystwyth SY24 5NX% 820652 hedyddcunningham@live.co.ukHYSBYSEBION - Rhodri Morgan, Maes MieriLlandre, % 828 729 rhodrimoc@yahoo.co.ukLLUNIAU - Peter HenleyDôleglur, Bow Street % 828173TASG Y TINCER - Anwen PierceTREFNYDD GWERTHIANT A THREFNYDDCYFEILLION Y TINCER - Bryn Roberts4 Brynmeillion, Bow Street % 828136GOHEBYDDION LLEOLABER-FFRWD A CHWMRHEIDOLMrs Beti Daniel, Glyn Rheidol % 880 691Y BORTHElin Hefin, Ynyswen, Stryd Fawrelin.john@yahoo.co.ukBOW STREETMrs Mair Lewis, 40 Maes Ceiro % 828 102Lynn Phillips, 1 Cae’r Odyn % 820908Anwen Pierce, 46 Bryncastell % 828 337CAPEL BANGOR/PEN-LLWYNMrs Aeronwy Lewis, Rheidol BancBlaengeuffordd % 880 645CAPEL MADOG, CEFN-LLWYD A CAPEL DEWIEirian Hughes, Lluest Fach % 880 335; ElwynaDavies, Tyncwm % 880 275; Dai Evans, FfermFronfraith, Comins-coch % 623 660DÔL-Y-BONTMrs Llinos Evans, Dôlwerdd % 871 615DOLAUMrs Margaret Rees, Seintwar % 828 309GOGINANMrs Bethan Bebb, Penpistyll,Cwmbrwyno % 880 228LLANDREMrs Mair England, Pantyglyn, Llandre % 828693PENRHYN-COCHMairwen Jones, 7 Tan-y-berth % 820642TREFEURIGMrs Edwina Davies, Darren VillaPen-bont Rhydybeddau % 828 296DYDDIADUR Y TINCERY DYDDIAD OLAF Y BYDD GOHEBWYR LLEOL YN DERBYNDEUNYDD AR GYFER Y RHIFYN NESAF FYDD MEDI 29 a MEDI 30 I’RGOLYGYDD. DYDDIAD CYHOEDDI HYDREF 13MEDI 18 Bore Sul Ralitractorau; cwrdd yn IardYsgol Penrhyn-coch am 10.30.Elw at Ysgol Penrhyn-coch.Lluniaeth.MEDI 21 Nos FercherNoson yng nghwmniRussell Jones – nosonagoriadol Cymdeithas yPenrhyn am 7.30 yn festriHorebMEDI 23 Nos WenerBingo yn Neuadd EglwysPenrhyn-coch am 7.00MEDI 29 Nos Iau CwrddDiolchgarwch CapelLlwyn-y-groes yng ngofaly Parchg Judith Morris am7.00MEDI 30 Nos WenerCwmni Arad Goch yncyflwyno ‘Al ac Ant ynY Tincer trwy’r postPris 10 rhifyn - £14 (£25 i wlad y tu allan iEwrop).Cler hudol a’r bwydsymudol!’ yng Nghanolfan yCelfyddydau am 7.00HYDREF 5 Nos FercherCyfarfod diolchgarwchHoreb yng nghwmniy Parchedig NanPowell-Davies, Yr Wyddgrugam 7.00HYDREF 8 Pnawn SadwrnYr Arglwydd John Morrisyn hel atgofion am ei yrfafel cyfreithiwr ifanc yngNgheredigion yn y Drwm,LLGC am 2.00. Saesnegfydd iaith y digwyddiad.Mynediad drwy docyn £3.50Am ddim i Gyfeillion yLlyfrgellHYDREF 8 NosSadwrn Cyngerdd i’rGalon, gyda Chôr MeibionPontarddulais ac ArtistiaidCysylltwch â’r Trysorydd - Hedydd Cunningham,Tyddyn-Pen-y-Gaer, Llandre, Aberystwyth,SY24 5NX% 01970 820652 hedyddcunnigham@live.co.ukY Tincer ar dâp - Mae modd cael y Tincer argaset ar gyfer y rhai sydd â’r golwg yn pallu.Cysylltwch â Rhiain Lewis, Glynllifon,17 Heol Alun, Aberystwyth, SY23 3BB(% 612 984)Camera’r Tincer - Cofiwch am gamera digidoly Tincer – mae ar gael i unrhyw un yn yr ardalfydd am ei fenthyg i dynnu llun ar gyfer y papuro gyngerdd, cinio neu ddigwyddiad a gynheliro fewn ein dalgylch. Fe’i cedwir gan Mrs MairLewis, 40 Maes Ceiro, Bow Street (% 828102).Os byddwch am gael llun eich noson goffi yn YTincer defnyddiwch y camera.Lleol yng Nghanolfan yCelfyddydau Aberystwyth.Tocynnau ar werth ganJanice Petche (01970) 828861a Rowland Jones (01974)241328 neu drwy Canolfan yCelfyddydau (01970) 623232.Elw at Apêl Nyrs CalonCeredigion.HYDREF 18 Nos FawrthTheatr Na’Nog a TheatrMwldan yn cyflwynoSalsa! yng Nghanolfan yCelfyddydau Aberystwytham 7.30.TACHWEDD 2 Nos FercherPwyllgor blynyddol SioeCapel Bangor.Set o’r Tincer1977-2011Mae set gyflawn o’r Tincer ar gael igartref da! Os oes diddordeb gennychi gael set a rhoi cyfraniad i’r Tincercysylltwch â’r Golygydd.Cyhoeddir y Tincer yn fisol o Fedi i Mehefingan Bwyllgor y Tincer. Argreffir gan yLolfa, Tal-y-bont. Nid yw’r Pwyllgor oangenrheidrwydd yn cytuno ag unrhyw farn afynegir yn y papur hwn. Dylid cyfeirio unrhywnewyddion i’ch gohebydd lleol neu i’r Golygydd,ac unrhyw lythyr neu ddatganiad i’r wasg i’rGolygydd.Telerau hysbysebuTudalen lawn (35 x 22 cm) £100Hanner tudalen £60Chwarter tudalen £30neu hysbyseb bach ca. 5 x 8 cm £6 y rhifyn- £40 y flwyddyn (10 rhifyn - misol o Fedi iFehefin); mwy na 6 mis + £4 y mis , llai na 6 mis- £6 y mis. Cysyllter â Rhodri Morgan os amhysbysebu.

Y TINCER MEDI 2011 3CYFEILLION Y TINCERDyma fanylion enillwyr Cyfeillion Y Tincer mis Mehefin20 Mlynedd ’Nôl£25 (Rhif 155) Aeronwy Lewis, Rheidol Bank, Capel Bangor,£15 (Rhif260) Yr Athro Carter, Tyle Bach, Maes-y-Garn, Bow Street,£10 (Rhif139) Yr Athro Gruffydd Aled Williams, Bronafon, Dolau.Fe dynnwyd y rhifau buddugol gan EleriRoberts yn dilyn ymarferCôr Cantre’r Gwaelod nos Sul y 3ydd o Orffennaf.Cysylltwch â’r Trefnydd, Bryn Roberts, 4 Bryn Meillion, os am fodyn aelod. Am restr o Gyfeillion y Tincer 2010/11 gwelerhttp://www.trefeurig.org/uploads/cyfeilliontincer2009.pdfNewid aelwydYn ystod yr haf ffarweliwydâ Emrys a Gwyneth Williams,Maesteg - sydd wedi symud iAberystwyth.TREFEURIGCasgliadCyflwynwyd siec am £115 iGartref Tregerddan yn ddiweddarer cof am Miss Megan OlwenThomas, Tyngelli gynt, Trefeurig.Swyddogion a gweithwyr Cae Chwarae Penrhyn-coch – yn sefyllo’r chwith i’r dde; Richard Wyn Davies, Mervyn Hughes, GarethJones, Marion Baylis, Ieuan Jenkins, Phil Stone, Jenny Hardinggyda’r dystysgrif teilyngdod gawsant gan Gymdeithas GwasanaethauGwirfoddol Dyfed, Andy Brown, Daniel Huws, Irfon Rhys Williams, aDebbie Stone. Yn eistedd: Bernard Jones a Rebecca Stone.Llun: Hugh Jones (O Dincer Medi 1991)Penodi’n AthroLlongyfarchiadau i Gideon Koppel sydd yn dechrau y mis yma felAthro Ffilm yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu PrifysgolAberystwyth. Mae Gideon hefyd yn Gymrawd Cysylltiol yng NgholegGreen Templeton, Prifysgol Rhydychen.Brenhines Carnifal Penrhyn-coch ’91, Miss Emma Jones, Ger-y-llangyda’i morwynion a’r gweision Meganne John, Ellen Davies, NicolaChapman, Carys Evans, Reian Jones a Robert Glyn Hughes i gyd oBenrhyn-coch. Hefyd gwelir Miss Melanie Evans, Brenhines ’90 aLlywydd y Carnifal eleni, Mrs Ceinwen Jones, Llanddeiniol, Brenhines1975. Llun: Hugh Jones (O Dincer Medi 1991)Ennill ynWrecsamLlongyfarchiadau i Parti’rGreal a’u hyfforddwraigBethan Bryn ar ddod yngyntaf yng nghystadleuaethy Parti Cerdd Dant ynEisteddfod Wrecsam eleni.Daw pedair aelod o ardaly Tincer - Anwen Pierce,Meinir Edwards, GwennanWilliams ac AngharadFychan.Llongyfarchiadau hefydi Anwen Pierce ar ennillCadair Eisteddfod Tregaronnos Sadwrn 10 Medi - ahynny am yr ail flwyddynyn olynol.

4 Y TINCER MEDI 2011Y BORTHCarnifalCafwyd Carnifal llwydiannus aralleleni a chodwyd hyd yn oed ynfwy na’r £7,000 a godwyd llynedd!(Dyw’r cyfanswm terfynol ddimar gael eto). Cynhaliwyd nifer oddigwyddiadau codi arian, megisCors Fochno, Ocsiwn, NosonCasino, Cwis a.y.y.b. yn arwainat ddydd Gwener y Carnifallle roedd 15 fflôt a grãpiaucerdded yn ogystal ag unigolion.Rhoddwyd cefnogaeth ardderchoggan fusnesau lleol ac un elfennewydd eleni oedd fflôt BAMNuttall (a gyfranodd yn haeldros ben at gyhoeddi rhaglen yCarnifal). C.B.Y Clwb Pêl-droedAr ôl llwyddiant gwerthiant ycoed Helyg ar gyfer ymyl y caepêl-droed mae cyfle newydd ibrynu mwy! Maent ar werth am£75.00 oddi wrth Peter Fleming01970 871042.Merched AscottCafwyd diwrnod hwyliog a llwyddiannus eleni eto yn ‘Dannys Bar’ ar gyfer diwrnod y menwod ynAscot/Borth. Codwyd tua £185 a rhoddwyd y cyfanswm tuag at Garnifal y Borth sy’n golygu fodyr arian yn mynd yn ôl at ddibenion y pentre. Fel y gwelwn o’r llun, mae’n amlwg fod pawb wedimwynhau’r gwisgo a’r cymdeithasu!Ymddeoliad Hapusi Pat Richards (Cae Ffynnon), syddar fin dechrau ar ei hymddeoliadar ôl dysgu Saesneg yn ysgolPen-glais am un mlynedd arhugain. Mwynha Pat!Marwolaeth VeronicaBu farw Veronica Howells, TyrolHouse, ym mis Gorffennaf, priodMichael Howells (Treorci gynt).Estynnwn ein cydymdeimladiddo, ac i’w hefaill , Judith sydd yntreulio llawer o’i hamser yma yny Borth. Bu Veronica yn treulio’igwyliau yma ers yn ferch fach acyn y diwedd ymgartrefodd yma.Er nad oedd yn siarad Cymraeg,roedd yn dwli ar Gymru aChymreictod.Cafwyd gwasanaeth hyfryd yneglwys y Borth gyda’r ParchedigCecilia Charles yn gwasanaethu, atheyrnged gan John Hefin.Collodd y Borth gymeriad annwyla hwyliog iawn.Cofio Mrs. Pamela Gibbs,GorwelBu Mrs. Pamela Gibbs farw ynesmwyth yn ei chartref gyda’itheulu o’i hamgylch ar Fai 26ain2011 yn dilyn tostrwydd hir.Symudodd Mrs. Gibbs a’i gãr, Sqd.Ldr. John Gibbs, i’r Borth ym 1977i fod yn agos i’w merch SarahPugh, un o’u pedwar plentyn.Roedd yn brysur a gweithgariawn hyd at flwyddyn olaf eibywyd. Teithiodd i Calcutta atChwiorydd Sant Theresa ynei 80au hwyr i helpu gyda’ugwaith o edrych ar ôl plantamddifad. Bu hefyd yn gwâucannoedd o eitemau er llês yplant dros y blynyddoedd, ganfynychu gwasanaethau yn EglwysGatholig y Santes Gwenfrewi ynAberystwyth pob wythnos. Bu’nmynd i ddosbarthiadau Cymraegrhan fwyaf o’i bywyd yn y Borthond roedd braidd yn swil i siaradyr iaith mewn cwmni Cymreigond yn deall a darllen yr iaith ynhawdd. Roedd hefyd , hyd at rhywflwyddyn neu ddwy yn ôl ynmynychu dosbarthiadau Yoga bobnos Lun, a hithau yn ei nawdegau.Erbyn hyn roedd yn fam-gua hen fam-gu i ddwsenni acmae’r teulu oll yn teimlo gwacteranferth yn eu bywydau ar ôl collieu hannwyl “Jankey”R.W.Dirk LloydBu farw Dirk Lloyd, Frondirion, arFedi’r 3ydd- byddwn yn cynnwysteyrnged lawn iddo yn rhifynHydref.Agoriad AmgueddfaGorsaf y BorthAgorwyd Amgueddfa Gorsaf yBorth yn swyddogol ar y 9fedo Orffennaf-daeth tua cant ahanner o bobl ynghyd ar bnawnSadwrn braf ac roedd ynaawyrgylch o ddathlu a mwynhaui’w weld ac i’w deimlo ymhlith ydorf. Cafwyd amryw areithiau achyflwynwyd blodau i Jo Romary.Jo a George yn ogystal â JohnToler yw’r drindod sydd wedi rhoiegni ag amser ers blynyddoeddlawer erbyn hyn i greu y fathwyrth! Yn wir maent wedi ‘byw’yr orsaf ers blynyddoedd-ondyn enwedig eleni, lle maentwedi ymgyrchu, trefnu,llythyru,glanhau, casglu ,dethol a gosod ynddi baid. Mae ffrwyth eu llafuri’w weld yn yr amgueddfa fachhynod hon, sydd erbyn dechrauMedi wedi denu ymhell dros 2,000o ymwelwyr.Yn ogystal â rhoi hanes manwlrheilffordd y Borth,mae hefyd yncofnodi hanes y pentre a’r ardal.Gwelir model o’r orsaf fel ag yroedd yn ogystal â ffilm ddifyr, acailgread o stafell Gorsaf Feistr fel ybyddai wedi bod ers llawer dydd.Jo Romary yn derbyn tusw o flodau yn ystod agoriad swyddogol Amgueddfa Gorsafy Borth.

Y TINCER MEDI 2011 5Aelodau grãp CanolfanDeuluol y Borth yn caeleu croesawu gan Sali Maliar gyrraedd Llanerchaeron.Noddwyd y diwrnod ganRwydwaith CanolfannauTeuluol Ceredigion.Roeddtua 800 o bobl yno i gyd iddathlu Wythnos y Teulu2011.Cafwyd eitem ddifyr arWedi 3 gan Heather Gregoryddechrau Medi, a da oedd gweldAmgueddfa’r Borth yn cael sylwhaeddiannol!Mae’r Amgueddfa wedi bod aragor yn ddyddiol dros yr haf, byddyr amserau’n amrywio yn ystodyr Hydref a’r Gaeaf.Gwerthir nifer o eitemau hynodddeniadol e.e. magnedau rhewgell,pensiliau, beiros, amrywiolfathodynnau, a.y.y.b. – anrhegionNadolig?!Hogie Hafod HeliLlongyfarchiadau i CarwynTywyn, Hafod Heli gynt,ar ddod yn fuddugol ynEisteddfod Wrecsam a’r Fro yngnghystadleuaeth ysgrifennu Blogdros gyfnod o fis. Nododd ybeirniad, Lyn Lewis Dafis, mai“cofnodion byr a bywiog” oeddgan Carwyn yn y Blog “… ac maehynny’n gryfder yn ei waith”. Bu’rblynyddoedd o lunio adroddiadaumisol cryno i’r Tincer ar hynt ahelynt Tîm Pêl-droed y Borth ofudd felly!Wrth i’r Tincer fynd i’r wasg,roedd Carwyn wrthi’n paratoiar gyfer dathliad o fath arall, ahynny yng nghwmni ei frawdmawr, y Dr Alun Fowler. Yngnghwmni hen ffrind o’u dyddiauysgol yn Aberystwyth, sef GavinDrybrough, bwriad Alun fyddseiclo mewn pythefnos (Medi 3 –18) o Land’s End i John O’Groats.Bydd y daith yn fodd i Alun aGavin ddathlu eu pen-blwyddi yn40 oed a hefyd yn daith er buddYsbyty Great Ormond Street.Mynychwyd clinigau Thorasig yrysbyty gan Alun fel claf allanol amugain mlynedd. Diolch i’r drefnni chafodd y nam cynhwynol arei galon effaith andwyol arno efond mae bob amser yn awyddusi helpu plant llai ffodus, gan fodcost darparu gwasanaethau’rysbyty yn dibynnu ar gyfraniadauelusennol o £10 miliwn yflwyddyn.Bydd croeso i unrhyw gyfraniad,bach neu fawr, ar leinhttp://www.justgiving.com/lejog2011/neu drwy anfon Neges DestunAt: 70070Testun: LJOG71Yna swm y cyfraniad, £…Pen blwydd arbennigDathlodd Liz Thomas (TheCottage) ben blwydd arbennig(!)ganol Awst. Llongyfarchiadaugwresog iddi! Daeth ffrindiau obell ag agos i ddathlu gyda hi yny Railway, a hoffai Liz ddiolcham yr holl anrhegion a’r hollddymuniadau da a dderbyniodd.Y MorglawddMae’r gwaith o fewn tri mis i’worffen, ac os bydd y tywydd yngaredig, erbyn dydd Nadolig byddy traeth yn wag; dim rhagor oweld pum Jac Codi Baw melynyn marcho lan a lawr at y rîffnewydd; dim rhagor o lorïauanferth i gyd yn chwifio’r Ddraigneu faner Glyndãr, a dim rhagorchwaith o sãn a llwch!Braf bu eu cwmni a braf byddgweld y cyfan yn dod i ben. Yny wybodaeth y bydd y pentre ynddiogel……wel mor ddiogel a gallpentre glan môr fod os godithtymer Defi Jones.Cymdeithas Gymraeg YBorth a’r CylchBydd Cymdeithas Gymraeg YBorth a’r Cylch yn ail gychwyny tymor newydd nos Fercher, 12Hydref, 2011 am 7.30 o’r gloch.Bydd y Gymdeithas yn symudcartref, ac yn hytrach nag ynFestri’r Gerlan bydd y cyfarfodyddyn cael eu cynnal yn Neuaddy Borth. Noson yng ngofal einLlywydd, Mr. John M. Hughes,fydd y noson agoriadol. Croesocynnes i’r cyn-aelodau ac i aelodaunewydd.ytincer@googlemail.comUrddo i’r orseddLlongyfarchiadau i TamsinDavies, y Borth ar gael eihurddo i’r orsedd. Bu Tamsinyn fyfyrwraig ymchwil ynAdran Ddaearyddiaeth PrifysgolAbertawe ac roedd hi hefydyn gwneud cwrs Cymraeg.Gweithiodd yn galed iawn dros yblynyddoedd i loywi ei Chymraeg,ac mae bellach yn gweithiotrwy gyfrwng y Gymraeg ymMhrifysgol Aberystwyth.Daw Tamsin yn wreiddiol oFfwrnais a hi yw clerc CyngorCymuned Ysgubor y Coed.Symudodd i’r Borth ym misChwefror eleni.O’ch chi’n gwbod?Hanes enw ein pentref.Y BorthYr Harbwr; y Porth1565 borthe.1602 Y Borth.1738 Borth.1798 Porth.1837 Borth.Sail posib i’r enw yw PorthGwyddno 1=233., h.y. GwyddnoGaranhir, brenin Cantre’rGwaelod.DOLAULlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i LisaWyn, Pant yr Haul, ar eillwyddiant yn arholiadauTGAU.GWELY ABRECWAST MAIR9 Heol Llangrallo, Pen-y-Bontar Ogwr CF31 3ARCroeso cynnes Cymreig mewnlleoliad delfrydol i ganolfanausiopa gorau de Cymru, Canolfan yMileniwn, Stadiwm y Mileniwm aCae Pêl-droed Caerdydd.www.mairsbedandbreakfast.co.uke-bost : mairbandb@hotmail.com01656 65544207768 286303Cysylltwch â Huw a Sarah TudurGWASANAETHGARDDIOROBERTGRIFFITHSAm bob math o waithgarddio ffoniwch(01970) 820924

6 Y TINCER MEDI 2011R.J.EdwardsAdeiladau Fferm y CwrtCwrt Farm BuildingsPenrhyn-cochContractiwr, masnachwrgwair a gwelltArbenigwr ar ailhaduCyflenwi a gwasgaru calch,slag a FibrophosLori, turiwr a malwri’w llogiCyflenwi cerig mán01970 82014907980 687475Gwobrau diwedd tymorLlongyfarchiadau i SionSummers, Bodwylan, ardderbyn tlws chwaraewr mwyafaddawol y flwyddyn yngnghinio blynyddol Clwb RygbiAberystwyth.Ras am FywydDa iawn ferched lleol Llandrea gymerodd ran yn y Ras amFywyd ar ddydd Sul 15fed o Fai.Mae’r ras yn agored i ferched obob oed i godi arian at ymchwilcancr.GenedigaethLlongyfarchiadau i Sue a GarethJones, Aberceiro ar ddod ynfam-gu a thad-cu unwaith eto.Ganwyd mab i Edward a’i wraigyn Y Bala.EisteddfodGenedlaethol WrecsamLLANDREyn ddiweddar.Gwellhad buanDymunwn wellhad buan iMarjorie Hughes, Frongelli,Taigwynion ar ôl cyfnod yn yrysbyty. Hefyd i Tom Ricketts,Alderley, Lôn Glanfred syddwedi derbyn llawdriniaeth ynYsbyty Treforys.Pen blwydd arbennigPen blwydd hapus i JoseffJames, Tradiddan, ar ddathlu eiben blwydd yn 18 oed ar yr 2ilo Awst.CroesoCroeso i Rhiannon a CraigEdwards sydd wedi symudi Bugeildy, Lôn Glanfred.Gobeithio byddant yn hapusyn ein plith.Arholiadauy cyn-ysgrifennydd a LlinosDafis, y cyn gadeirydd, am eugwaith.Priodas ruddemLlongyfarchiadau i Wynne aLinda Melville Jones, y Berllan,a ddathlodd eu priodas ruddemar Awst 14egCydymdeimloCydymdeimlwn â Mrs AgnesGriffiths a’r teulu, 1 MaesHenllan ar farwolaeth ei gãrRonald Griffiths ar Awst 28ain.Cofiwch anfon eich newyddionneu gyfarchion i’r rhifyn nesaat Mair England, rhif ffôn:01970 828693; e-bost : mairllo@hotmail.co.uk .M THOMASPlymwr LleolPenrhyn-cochGosod gwres canologYstafelloedd ymolchiCawodyddPob math o waith plymioac hefyd gwaith nwyPrisiau rhesymol07968 72847001970 820375Cafodd Annette Williamson,Coedgruffydd, aelod newyddo’r grãp ‘A Llawer Mwy’brofiad da yn yr EisteddfodGenedlaethol yn Wrecsamyn ddiweddar. Daeth y grãp(Elsa Davies ffidil, Keith Floydffidil, Nigel Hardy ffliwt, CeriOwen-Jones telyn, Annettemelodeon) yn gyntaf yn ygystadleuaeth ‘Grãp offerynnol/offerynnol a lleisiol’ yn erbyn‘Band Panteg a ‘TelynorionCwm Derwent’. Chwaraeonnhw bedair alaw - MorfaRhuddlan, Ymdaith Syr Watkin,Pibddawns Ned Roberts aBreuddwyd y Wrach.Hefyd, hoffai Annette ddweuddiolch yn fawr i bawb ynLlandre sydd wedi’i helpu hiymarfer i basio ei harholiadCymraeg ‘canolradd’ ym misMehefin - diolch am eichamynedd!CydymdeimloEstynnwn ein cydymdeimladdwysaf i Marian Jenkins, Eryla’r teulu yn ei phrofedigaetho golli ei brawd, Dr DafyddHuws yn dilyn salwch hir. Bu’rangladd yng Nghapel y Garnddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf,dan arweiniad y Parchg R. AlunEvans.Hefyd cydymdeimlwn â MrsKay, Maeshenllan a’r teulu arfarwolaeth ei gãr Mr Jim KayLlongyfarchiadau i bobl ifancyr ardal sydd wedi derbyncanlyniadau arholiadau lefelA a TGAU. Dymunwn bobllwyddiant iddynt yn y dyfodol.YmddeolMae Elina Davies, Bronalltwedi penderfynu ymddeolfel dosbarthwr y Tincer ynLlandre. Mae Elina wedi bodyn dosbarthu’r Tincer ers ycychwyn cyntaf. Diolch i tiElina.Treftadaeth LlandreMedi 29 - Y teulu Williams oDy’n y bedw - Randall Enoch.Cynhelir cyfarfodydd ynYsgoldy Bethlehem, Llandre gangychwyn am 7.30 hy.Merched y WawrGenau’r-glynCyfunodd y gangen eiChyfarfod Blynyddol â’rtrip pentymor eleni, ac fe’icynhaliwyd yng ngwesty’rCross Foxes, ger Dolgellau. Yswyddogion am y flwyddynsydd i ddod yw Cadeirydd:Marian Jenkins, Is-ysgrifennydd:Gwenda James, Ysgrifennydd:Llinos Evans, Is-Ysgrifennydd:Linda Jones. CytunoddMair England i barhau yndrysorydd am y tro. DiolchoddMarian Jenkins i Nans MorganGWASANAETHTEIPIOCysylltwch âMrs Glenwen MorgansHeulwenGarthPenrhyn-cochFfôn: 01970 820385Ebost: glenwen.morgans@btopenworld.comytincer@googlemail.com

Y TINCER MEDI 2011 7CLARACHCafodd y merlyn mynyddCymreig yma ddiwrnodllwyddiannus iawn yn sioeTal-y-bont ar y 27ain o Awst.Perchennog y ceffyl, o’r enwClaremore Nero, yw DebbieAllen o Langorwen, Clarach.Cafodd y ceffyl ei fridio ganMr. D. G. Morgan, Blaen-plwyf,sef Bridfa Claremore. Enilloddnifer o wobrwyon yn cynnwyscyntaf yn y dosbarth i “GeffylAdran A” ac eto yn y dosbarth“Mynydd a Gweundir” gydagAnya Edwardes o Gapel Bangoryn ei farchogaeth.Cafodd Anna Allen Jones a’iffrind Anya hwyl yn gwisgo lanfel Pooh Bear a Tigger i ennill ywobr gyntaf yn y gystadleuaeth“Gwisg ffansi”. Roedd Nero wedibodloni cael ei wisgo lan felEeyore yr asyn, o’r llyfr Winniethe Pooh.Gwnaeth y merlyn ac Anyaeu gwaith yn berffaith yny dosbarth i “DdangosyddIfanc” ble roedd yn cael eiddangos mewn llaw, heb gaelei farchogaeth, ac fe ddaeth yngyntaf unwaith eto. Prynwydy merlyn pan oedd yn dairoed ac Anna yn 5 oed ac maentwedi cael llawer o hwyl yn tyfulan gyda’i gilydd.Yn y merlynbach yma gallwn weld esiamplarbennig o ferlyn mynyddCymreig ac mae’n dangos pamor amryddawn y gall ceffylaucynhenid Cymru fod.PEN-LLWYN A CAPEL BANGORYsbytyHyderwn fod Miss AnnVaughan, Gwarddol; Mr GeraldIngram, Sunnycroft a Mr NoelScott, Brynawel, yn well, neugobeithio yn iach erbyn hyn; arôl bod yn yr ysbyty yn ystodmisoedd yr haf.Hefyd cafodd Mrs Ann Edwards,Hyfrydle, Blaengeuffordd,driniaeth yn ysbyty Llanelliy mis diwethaf, ac yn gwellayn araf deg erbyn hyn. Pobdymuniad da Ann am lwyrwellhad.Pen blwydd ArbennigLlongyfarchiadau i Mrs EnidVaughan, Maesawel, ar gyrraeddy garreg filltir, 80 mlwydd oed, ary 7fed o Awst.Carai Mrs Vaughan ddiolch ogalon i bawb a ddanfonodd iddiddymuniadau gorau ar ei phenblwydd, yn gardiau, negeseuonffôn, ymweliadau a chyfraniadauyn lle anrhegion.Diolch yn fawr i berthnasaua chyfeillion oll, am eucyfraniadau tuag at Cronfay Gwahangleifion. Hyn oedddymuniad Enid Vaughan, aderbyniwyd swm anrhydeddusiawn i’r gronfa.Diolch i bob un eto ar ran MrsVaughan am gyfrannu i’r achosteilwng hwn.Capel Pen-llwynHyfryd oedd croesawu eincyn weinidog y Parchg MorrisP Morris o Ruthun, ar ddyddSul olaf mis Awst. Roedd eibregeth yr un mor rymus abendithiol ag erioed. DaethEsyllt a Llñr hefyd i gadwcwmni iddo, a da oedd gweldy plant wedi datblygu yn boblieuainc bellach. Danfonwydein cofion at Mrs GlendaMorris ac Elan, hwythau wedimethu a dod y tro hyn, ganfod Elan yn anffodus weditorri ei braich.Swydd NewyddDymuniadau gorau yrardal i Miss Delyth Davies,Maencrannog, sydd wedidechrau ei swydd newydd yn yLlyfrgell Genedlaethol. Hyderwny byddwch yn hapus iawn yno,Delyth.DiolchDymuna ChristineCharlton ddiolch o galonam y rhoddion, cardiau a’rdymuniadau da a dderbynioddar ôl ei hymddeoliad arddiwedd Ebrill. Carai ddiolchhefyd i holl ddisgyblion,staff, rhieni a llywodraethwyrYsgol Pen-llwyn am drefnua pharatoi ‘Parti Ffarwel’byth-gofiadwy ar ei chyferyn neuadd Capel Bangor.Dymuna’r gorau i Mr EmyrPugh- Evans, Mr Berian LewisPennaeth Cynorthwyol yrysgol, y staff a’r disgyblion oll.Ar y teleduHyfryd oedd gweld Neula Jones,Maes y Neuadd, ar y teledu ymmis Awst. Llongyfarchiadaumawr iti Neula ar ennill yrail wobr yn y Sioe CobiauRhyngwladol yn Llanelwedd ynddiweddar.Gwelwyd hefyd Lisa Saycell ynymddangos ar ei cheffyl yr unnoson. Go lew chi, sêr y sgrînfach!

8 Y TINCER MEDI 2011SIOE CAPEL BANGORBu Sioe Capel Bangor yn un llwyddiannusiawn eleni eto. Cafwyd cystadlu brwd ynadran y ceffylau, y defaid ac yn y babell.Enillwyd y cwpan am yr anifail gorau yny Sioe gan deulu Broehedydd Pennant anhw hefyd enillodd Cwpan Coffa JohnDavies Glasfryn am yr anifail ifanc gorau.Eleni am y tro cyntaf cyflwynwyd pedolarbennig i’r Ceffyl gwedd a oedd wedi eibedoli orau ym marn y beirniad. Pedolwedi ei gwneud gan y diweddar Clive yGof, Abermagwr ar gyfer Rheidol George- un o geffylau gwedd Fridfa RheidolAber-ffrwd yw hon ac fe’i cyflwynwydi’r Sioe gan Barry Matthews, Y Gamlyn,Dick a David Davies Troedrhiwceir aPeter Davies Cwmsymlog er cof am Clive.Yr enillwyr oedd Elfed a Louise Davies,Castellnewydd Emlyn a chyflwynwyd ybedol iddynt gan Rhian Davies, merchClive. Mae pwyllgor y Sioe yn ddiolchgariawn iddynt am y rhodd werthfawr yma,mae eu haelioni i’r Sioe yn arbennig iawn.Llywydd y Sioe eleni yw Eifion Thomas,Ty’ncwm, un sydd wedi bod ynghlwm â’rSioe ers y dechrau. Cafwyd araith arbennigganddo a hefyd rodd haelionus iawn igoffrau y Sioe. Bu yna gystadlu brwd iawnyn y babell gyda’r wobr am y gacen orauyn mynd i Richard Edwards, 2 Pen-llwyn,gydag Alun Jenkins, y Pandy, yn ennilly darian am y nifer uchaf o bwyntiau idrigolion lleol.Hoffai y pwyllgor ddiolch o galon i’rLlywydd am ei waith drwy’r dydd ac am eirodd haelionus, i bawb a fu yn stiwardio aci’r gymdogaeth am eu cefnogaeth eleni eto.Cynhelir pwyllgor blynyddol y Sioenos Fercher Tachwedd 2il; am fwy owybodaeth cofiwch am y wefanwww.capelbangorshow.co.ukABER-FFRWD A CHWMRHEIDOLCofionAnfonwn ein cofion cynhesaf at VivianMorgan, Is-y-Coed, Aber-ffrwd sydd yn YsbytyBron-glais ar hyn o bryd.CydymdeimladEstynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â HywelEllis, Hywelfan, ar farwolaeth modryb ynLlundain ddechrau ‘r haf.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i David Davies,Troedrhiwceir, ar gael ei ddewis yn chwaraewrgorau Clwb Rygbi Tregaron y tymor diwethaf.Mae David hefyd wedi cipio nifer o wobraumewn sioeau lleol gyda’i ebol gwedd oFridfa Rheidol; mae David yn dod yn enwadnabyddus iawn ym myd y ceffylau gwedd.Llongyfarchiadau hefyd i Dafydd a SianMorris, Neuadd Parc, ar eu llwyddiant yn ySioe Frenhinol a hefyd yn y Sioe Ryngwladola gynhaliwyd yn Llanelwedd ddechrau Awst.Aeth Neuadd Parc Welsh Anthem ymlaeni gipio y gul-wobr yn adran C y CobiauCymreig mewn dosbarth cryf iawn.DigwyddiadauCwrdd Diolchgarwch Capel Llwyn-y-groes nosIau Medi 29ain, am 7.00y.h yng ngofal y ParchgJudith Morris, Penrhyn-coch.STATKRAFTDydd Sul Awst18 cynhaliwyd diwrnod oddathlu ym Mhwerdy Cwmrheidol gan fodtrydan wedi ei gynhyrchu yma ers hanner canmlynedd. Gwahoddwyd holl weithwyr drosy cyfnod yn ôl yn y bore a chafwyd hanes ydechreuad gan Mair Stanleigh, Dolfawr. ‘Roeddhi a’i diweddar ãr newydd symud i Dolfawra gorfu iddynt werthu rhan o’u tir i adeiladuy Pwerdy. Clywyd am y sioc a gafodd pawbpan ddaeth y “Registered Letter” drwy’r post,doedd neb lawer wedi gweld y fath amlen o’rblaen!’Roedd nifer o aelodau staff Statkraftwedi dod draw o Norwy ar gyfer yr achlysur.Cynhaliwyd prynhawn o hwyl i’r plant ac ynafin nos daeth nifer dda o bobl y cwm ynghydi fwynhau Barbeciw wedi ei drefnu gan staffStatkraft. Gorffennwyd y noson gyda gêm orownderi o dan ofal Liam Lucas, Tynewydd.Cafwyd noson yn llawn hwyl gyda’r hen a’rifanc yn cael noson wrth eu bodd.DÔL-Y-BONTLlwyddiantLlongyfarchiadau mawr i ddau o fechgyny pentref ar eu llwyddiant yr haf yma.Jacob Billingsley, Dolwar wedi llwyddomor arbennig gyda’r TGAU yn YsgolGyfun Penweddig ac am fynd i’rchweched dosbarth yn ysgol Pen-glaisa Ben Williams, Y Tanery yn mynd iBrifysgol Lerpwl yn dilyn ei lwyddiantlefel A. Pob hwyl i’r ddau ohonochCyn aelodau o staff a Mair Stanleigh yn niwrnod hwyl StatkraftFFENESTRIIMEJFFENESTRI PVCu, HEULFANNAU,DRYSAU a.y.y.b. Am y GWASANETH, PRISa’r SAFON GORAU gan GWMNI LLEOLSefydledig dros 30 mlyneddEdrychwch am yTy^ Twt01970 880330Marilyn a Ifor JonesCofrestrwyd gydaTîm rownderi gyda’r hwyr

Y TINCER MEDI 2011 9BOW STREETSuliau MediCapel y Garn10 a 5Gweler http://www.capelygarn.org/Medi18 Bugail (Cymun)25 Adrian P WilliamsHydref2 Richard Lewis (yn Noddfa)Raymond Davies9 Oedfa’r Ofalaeth16 Bugail23 Maldwyn C John30 BugailDechrau Canu DechrauCanmolDarlledir y rhaglen gyntafDechrau Canu Dechrau Canmolo Gapel y Garn, nos Sul, Hydrefyr 2il.Llwyddiant EisteddfodolFe fu Elis Wyn Lewis oBow Street, sydd yn 12oed, yn chwarae mewncystadleuaeth golffarbennig ar ddechrauMehefin lan yn Gullanewrth ymyl Caeredin.Roedd Elis yn ymunogyda chwaraewyr onifer o wahanol wledyddar draws y byd yngNghystadleuaeth Ewrop,ac fe orffennodd yn safle19 allan o rhyw 65 yn eiadran. Roedd Elis, sydd ynaelod o glwb golff y Borth,wedi mwynhau yn fawriawn y profiad o chwaraegyda bechgyn o Loegr, yrAlban, Ffrainc, Denmarc,Colombia ac Awstralia. Yny llun gwelir Elis gyda cyd-chwaraewr, Jens ChristanTvergaard o Ddenmarc.Llongyfarchiadau i Geraint Davies,Casnewydd, mab Ken a JaneDavies, Maes Ceiro - ar ennill ywobr am gyfansoddiad ar gyferensemble pres mewn arddulljazz neu blues yn yr EisteddfodGenedlaethol yn Wrecsam.Cwrs offeiriadLlongyfarchiadau a phobdymuniad da i Rhun Gwyneddap Rhobert, Caerdydd ar gaelei ddewis fel darpar offeiriadgyda’r Eglwys yng Nghymru.Dymuniadau gorau iddo - byddyn dechrau cwrs hyfforddiddiwedd Medi.CydymdeimladCydymdeimlwn â Carole Davies,Neuadd ar farwolaeth sydynei mab Peter Thompson - fufarw wrth ei waith fel postmonym Mhenrhyn-coch ar 22G orffennaf.Taenwyd ton o dristwch drwy’rardal o glywed y newyddiontrist am farwolaeth Dr GwionRhys, Nefyn, trwy ddamwainddydd Mawrth, 12 Gorffennaf.Cydymdeimlir yn ddwys adiffuant iawn a’i rieni, Alun acEnid Jones, ac â Garmon, Lowria’r teulu yng Nghaerdydd yneu profedigaeth lem. Gweler ydeyrnged ar t.10.Estynnwn ein cydymdeimlad âNoel a Maureen Morgan, BrynMeillion, ar farwolaeth tad Noelddechrau’r haf.DiolchHoffai Gareth a Gaenor, Hafle,ddiolch yn fawr iawn am ycardiau a’r dymuniadau da adderbyniwyd ar achlysur dathlueu priodas ruddem ar ddiweddmis Gorffennaf.DiolchHoffai Enid ac Alun Jones,Gwyddfor Bow Street ddiolcham bob arwydd ogydymdeimlad yn dilynmarwolaeth Gwion Rhys ac ambob cyfraniad i’w gronfa goffa iAmbilwans Awyr Cymru syddwedi cyrraedd £7,000 erbyn hyn.Bu cydymdeimlad yr ardal ogymorth mawr i ni wrth geisiodygymod â’r golled.

Y TINCER MEDI 2011 11MADOG, DEWI A CEFN-LLWYDMadog2.0018 Bugail25 Adrian P WilliamsHydref2 Raymond Davies9 Oedfa’r Ofalaeth yn y Garn am 10.0016 Bugail23 Maldwyn C John30 BugailEisteddfodolLlongyfarchiadau i Gwen Sims-Williams,Gwarcwm, ar ennill gwobr yn yr EisteddfodGenedlaethol am gyfieithu Woyzzeck, Buchneri’r Gymraeg.Gwellhad buanDymunwn wellhad buan i AngharadRowlands, Talar Deg.CydymdeimladCydymdeimlwn â Dilwyn a CatherineThomas a’r teulu, Brynheulog, ar golli mamDilwyn – Mrs Mary Thomas, Llanllwni.Ar y 14 o Orffennaf bu farw Graham Edwards,Delfryn. Cydymdeimlwn gyda’i wraig Debbiea’r meibion Gareth a Philyp.SioeauBu yn dymor llwyddiannus i lawer o amgylchy sioeau; teuluoedd Deilyn a Felin Hen;Hywel Evans, Dai Evans, Huw Jones ac AledLlñr. Derbyniodd Aled hefyd wobr arbennigyn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd – gwelerisod.Enillydd cyntaf Gwobr newyddSefydlwyd y wobr flynyddol hon i gydnabodcyfraniad y diweddar Brynle Williams, cynAelod Cynulliad y Gogledd, i amaethyddiaethCymru fel AC ac fel ffermwr. Bydd hefyd yndathlu llwyddiant ffermwyr ifanc sydd wediderbyn cymorth fel rhan o Gynllun CymorthNewydd - ddyfodiaid Llywodraeth Cymru.Wrth gyhoeddi’r enillydd yn Sioe FrenhinolCymru gyda Mary Williams, gweddw’rdiweddar Brynle Williams, dywedodd yDirprwy Weinidog Amaethyddiaeth AlunDavies,“Rwy’n gwybod faint roedd Brynleyn mwynhau’r Sioe a’r fraint o gael caisi feirniadu Pencampwriaeth ‘Supreme InHand’ a Rhagbrofion ‘Cuddy Supreme’ yllynedd. Mae’n briodol felly ein bod ynnodi ymrwymiad Brynle heddiw drwygyhoeddi enillydd cyntaf Gwobr Goffa BrynleWilliams.“Roedd y ffermwyr yn y rowndderfynol i gyd yn rhan o Gynllun CymorthNewydd-ddyfodiaid Llywodraeth Cymru acroedd safon y ceisiadau yn uchel iawn.“Mae’r enillydd, Aled Llñr Thomas, eisoesyn gwneud ei farc yn y cylchoedd bridiodefaid, gyda’i stoc bridio yn ennill nifer owobrau mewn Sioeau Sir ar draws y wlad.Diolch i’r Cynllun Cymorth mae Aled wedigallu codi sied ddefaid newydd sy’n golygu ybydd lle i 100 yn fwy o famogiaid (o 75 i 175)dros y blynyddoedd nesaf.“Dyma’r math oentrepreneur ifanc rydyn ni eisiau’i weld ynffynnu ac yn llwyddo yn niwydiant ffermioCymru. Drwy gefnogi ffermwyr ifanc drwy’rCynllun Cymorth Newydd-ddyfodiaid,gallwn ni sicrhau dyfodol cryf i ffermio yngNghymru.“Rwy’n gobeithio y bydd y wobrhon yn ffordd deilwng o goffáu Brynle a’igariad at y Gymru wledig. Rwy’n gwybod ybyddai’n cytuno bod Aled yn enillydd teilwngiawn.AddysgiadolDymunwn yn dda i Megan Evans, Llain yFelin sydd yn dechrau yn Ysgol Penrhyn-coch.Llongyfarchiadau i’r canlynol yn arholiadaulefel A AS a TGAU – Mari Havard, MennaPugh Jones, Gerallt Hywel, Ifan Hywel, CeriGwin-Morgan, Rhys Wallace, Llñr Jones, ElinWallace, Gwilym Simms-Williams, HannaMeredydd;Hefyd i Siân Evans, Fronfraith ar ddechraucwrs astudiaethau plant ym MhrifysgolAberystwyth;I Mared Hughes, Gwarcwm Hên ymMhrifysgol Caerdydd;I Llñr Jones, Felin Hen yng Ngholeg AmaethGelli Aur ac i Rhys, Troedrhiw yn ei swyddcynorthwyydd dosbarth yn Ysgol Pen-glais.GraddioLlongyfarchiadau i Hanna Binks ar raddiomewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor;dymuniadau gorau ar y radd ymchwil ar gyferdoethur.Priodwyd Michael ac Ursula Reeves ynHarrow Weald. Mae Michael yn ãyr i’rdiweddar Mr a Mrs Elfyn Williams, YsguborNewydd.Gwefan newyddMae gwefan newydd wedi ei lansio gan RuthJên yn ddiweddar. Gwelerhttp://www.ruthjen.co.ukGwellhad buanDymunwn wellhad buan i Lyn Evans, Deilyn,ar ôl ei thriniaeth yn Ysbyty Singleton,Abertawe.

12 Y TINCER MEDI 2011PENRHYN-COCHSuliauHorebMedi18 2.30 Oedfa dan ofal Sion Meredith25 10.30 Oedfa bregethu GweinidogHydref2 2.30 Oedfa Gymun Gweinidog9 10.30 Oedfa deuluol Gweinidog16 2.30 Oedfa bregeth Gweinidog23 10.30 Oedfa bregeth Gweinidog30 10.30 Oedfa Bregeth Y Parchg Peter M.ThomasSalemMedi25 2pm Y Parchg Richard H LewisHydref9 10am Bethel, Tal-y-bont CyfarfodDiolchgarwch Undebol (plant)23 5pm Y Parchg Richard H Lewis –CymundebCydymdeimladCydymdeimlwn yn ddwys â’r ParchedigPeter Thomas a’r teulu ar golli mam Peteryn ystod mis Gorffennaf.Brysiwch wella!Dymuniadau gorau i Bethan Davies, GlanCeulan; Henry Thomas, Cwmfelin a’ngohebydd Mairwen Jones, Tan-y-berth syddwedi derbyn triniaeth mewn ysbytai.Croeso nolCroeso nol o Gapel Bangor i Benrhyn-cochi Melanie a Dan Hughes a Charlie.CydymdeimloCydymdeimlwn â Bethan, Steffan a TrystanThompson, Dôl Helyg ar farwolaeth sydynPeter Thompson a fu farw wrth ei waithfel postmon ddydd Gwener 22 Gorffennaf.Agorwyd cronfa i’r teulu ac mae blwch yn ysiop i dderbyn cyfraniadau hyd at ddiweddMedi.ColegLlongyfarchiadau i’r canlynol am eucanlyniadau lefel A a dymuniadau gorauiddynt yn eu gwahanol golegau - ElinFanning (Astudiaethau Busnes ymMhrifysgol Lerpwl); Carys Jones (Almaenega Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd);Heledd Jones (Diploma estyngedig mewncynhyrchiad cyfryngau creadigol yngNgholeg Ceredigion), Lowri Morgan(Cynllunio Graffeg ym Mhrifysgoly Drindod Dewi Sant, Rachel Davies(Keele), Jessica Davies (Morgannwg), JoeThomas (Morgannwg), a Louisa Scannell(Aberystwyth).CydymdeimladCydymdeimlwn â Tom ac Alwen FanningSeren Jenkins, Charlotte Richmond a Beca Jenkins,enillwyr cystadleuaeth Sioe Penrhyn-coch i’r Brownies– addurno masgiau.Iwan Bryn a Nerys Roberts, Garn Wen, a briodwyd ar16 Gorffennaf yng Nghapel Horeb. Dymuniadau gorauiddynt hwy ac i’r mab bach Iestyn Bryn.Dymuniadau gorau i Lowri Evans (Refail Fach) a TomGuy a briodwyd ar Fedi’r 1af yn Horeb, Penrhyn-cochac sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd.Llun: Keith Morrisa’r teulu, Ger-y-llan, ar farwolaeth chwaerTom yn ddiweddar ac â Mervyn a SueHughes a’r teulu ar farwolaeth GeraintRees-Jones, brawd Sue ym Mhorthmadogar Fedi 4yddEisteddfod Penrhyn-cochCyhoeddodd Mairwen Jones, YsgrifennyddEisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch - agynhelir ar nos Wener a dydd Sadwrn,Ebrill 20fed a 21ain 2012 yn Neuadd yPenrhyn mai’r beirniaid fyddGwener:Cerdd – Elin Mair, Derwen-gamLlefaru – Lowri Steffan, LlanilarSadwrn:Cerdd - Ann Atkinson, CorwenLlefaru a Llenyddiaeth: Dorothy Jones,Llan-gwmPe hoffech dderbyn copi o’r rhaglentrwy e-bost pan fyddai allan cysylltwchâ Rhoshelyg@btinternet.comFfordd ar gauBydd y ffordd o Bont Rhydyrysgaw,Glanceulan i Ben-cwm ar gau am 6wythnos ar gyfer gwaith ffordd o ddyddLlun 5 Medi ymlaenPen blwydd arbennigCyfarchion am ben blwydd hapus i MennaJenkins, Hafan y Waun, Waun-fawr addathlodd ei phen blwydd yn 90 oed arFedi 3ydd.DyweddiadLlongyfarchiadau a phob dymuniad da iCeri John, Ger-y-llan a Chaerdydd ar eiddyweddiad yn ddiweddar â Luned Jones,Llanrug, a Chaerdydd.Oedfa arbennigDdydd Sul 24 Gorffennaf 2011 cafwydoedfa arbennig yn Horeb yng nghwmniRhiannon Williams a’i gãr Huw(Dolau gynt), a oedd yn cyfeilio iddi.

Y TINCER MEDI 2011 13Mae Rhiannon yn paratoi traethawddoethuriaeth ym Mhrifysgol Morgannwgar y Capel, y Gymuned a Pherfformiad.Cafwyd perfformiad yn seiliedig ar eiphrofiadau yn ei chapel ym Mhontiets ganddwyn atgofion i bawb o brofiadau cyffelyb.Diolchwyd yn gynnes iddi gan y ParchgnJudith Morris a Peter Thomas. Edrychwnymlaen at gydweithio â hi yn yr hydref. Arhyn o bryd mae Rhiannon a Huw ar eumis mêl yn Ne America ac wedi ymweld âMachu Pichu ac â’r Wladfa ym Mhatagonialle rhoddodd Rhiannon bedwar perfformiadi gynulleidfaoedd.Golygydd Y CylchgrawnEfengylaiddMae golygydd newydd y CylchgrawnEfengylaidd yn byw ym Mhenrhyn-coch.Mae Steffan Jones - sydd yn olynu RobertRhys fel golygydd - yn frodor o Rydaman.Bu’n fyfyriwr hanes ym MhrifysgolCaerdydd cyn gweithio i Fudiad EfengylaiddCymru a yna UCCF (Cymdeithas GristnogolPrifysgolion a Cholegau). Erbyn hyn mae’ngweithio i Eglwys Efengylaidd Aberystwyth.Yn briod a Catherine, mae ganddynt unEnillwyr SioeLlongyfarchiadau i’r ddau frawd oPen-banc - John James, ar ddod yngyntaf am gi cyflymaf Sioe Tal-y-bontgyda Boost a Llñr James am ddod yngyntaf yn adran y gwartheg am dda biff.plentyn - Dewi - ac un arall ar y ffordd acyn byw yng Nger-y-llan.CydymdeimladCydymdeimlwn â John Urry, Ger-y-nant,a’r teulu ar farwolaeth ei wraig Vera arOrffennaf 1af.Symud ardalLlongyfarchiadau i Gareth Evans Rowlands,Pontypridd (Maesyrefail gynt) ar dderbynswydd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor,Dolgellau, lle mae yn gweithio ers dechrau’rmis gyda ieuenctid sydd â anghenionarbennig yn yr adranau garddwriaeth achymdeithaseg.Llwyddiant yn y Sioe FrenhinolLlongyfarchiadau i Glyn ac Eileen Rowlands,Frondeg, am ennill cymaint o wobrau areu hymdrech gyntaf ar gystadlu yn y SioeFrenhinol yn Llanelwedd.Hwrdd dyflwydd a drosodd 2il a 4yddHwrdd blwydd 6edOen fagwyd gan ddafad 2011 6edOen benyw 3yddGrãp gorau - hwrdd - dafad - oen 1afMaent yn ddiolchgar i’w bugail TomosHulme a’i gariad Zoe.Newid ardalDymuniadau gorau i Vera Dakin, 15Maesyrefail, sydd wedi symud i ardalLeicester ar ôl byw ym Mhenrhyn-cocham dros ugain mlynedd. Croeso i Nathan,Linsey a’r mab Oliver fydd yn symud oAberystwyth yn fuan i 15 Maesyrefail.Apêl Pen PalWrth deithio trwy wledydd India a SriLanka yn ddiweddar, fe gafodd LynneHughes (Ger-y-llan) ei syfrdanu nad oeddy plant bach ar y strydoedd yn gofyn amarian ond yn crefu am bensiliau a ‘beiros’ac felly fe benderfynodd Lynne lansio apêl“Pen Pal” sef casglu cymaint er mwyn eugyrru i’r plant.Os gallwch chi helpu Lynne trwy gyfrannupensil neu feiro, fe fydd Mervyn neu SueHughes, 47 Ger-y-Llan yn falch o’u derbyn.Diolch o galon.Graddio a swyddLlongyfarchiadau i Lydia Adams, Glynhelyga raddiodd mewn cerddoriaeth ym Mangoreleni; dymuniadau gorau iddi yn ei gwaithfel gweithiwr Relay hefo UCCF (UniversityColleges Christian Fellowship) ym Mangor yflwyddyn nesaf.Geni ãyrLlongyfarchiadau i’r Parchg John aPob dymuniad da i Rhian Dobson, Cae Mawr ac IwanGareth, Llan Ffestiniog, a briodwyd ar Orffennaf 2il ynHoreb. Maent yn byw yng Nghaernarfon.Llun: Geraint Thomas, Panorama, Caernarfon.Katherine Livingstone ar ddod yn dad-cu amam-gu. Ganwyd mab - Morgan Glanmor -i Thomas Livingstone a’i briod Laura ganolmis Gorffennaf.Clwb Cymunedol Penrhyn-cochBydd y Clwb yn cyfarfod yn Neuadd yrEglwys dyddiau Mercher 28 Medi, 12 a 26Hydref. Cysylltwch â Egryn Evans 828 987am fwy o fanylion neu i fwcio eich cinio.Sefydlu rheithorDydd Iau Medi 13eg sefydlwyd y ParchgJohn Bennett yn rheithor â gofal oblwyfi Aberteifi gyda Mwnt, Y Ferwig aLlangoedmor. Bu John a Barbara yn bywym Maesyrefail pan ddarlithiaid John yn yColeg Amaethyddol ynghanol yr 80au. Buam yr wyth mlynedd ddiwethaf yng ngofalLlanrhian a Llanhywel yn Sir Benfro.CydymdeimladCydymdeimlwn â Ken Evans,Coedgruffydd ar farwolaeth ei frawdGeraint yng Nghartref Tregerddan - gynto Llawrcwmbach, Cwm Eleri, Tal-y-bont.;hefyd â theulu Bod Organ a gollodd dairmodryb yn ddiweddar..ytincer@googlemail.com

14 Y TINCER MEDI 2011PriodasPriodwyd merch John a BarbaraClarke, Nant yr Arian, ynEglwys Capel Bangor ar yr ail oOrffennaf. Mae Jane a DannyBowden yn y fyddin ac ar hyno bryd mae Jane yn MeltonMowbray a Danny wedi ei leoliyn Poole, Dorset. Pob lwc i’r ddauyn y dyfodol.CroesoBraf yw cael croesawu David aPaula Wilcockson a’i plant Alicea Toby sydd wedi ymgartrefu ynErwdeg. Gobeithio y byddant ynhapus yn ein plith.CydymdeimloCydymdeimlwn a Maud a EifionEvans, Bronwydd ar farwolaethbrawd Maud dechrau’r haf ynLlanilar.Arddangos yn BeverlyHillsBu misoedd yr haf yn adeggynhyrfus i Heather Eastes,Swyddfa Post, Goginan. Midderbyniodd e-bost oddi wrthEdward Lucie-Smith, arlunyddenwog o America, yn ei gwahoddi ddanfon tri siampl o’i gwaither mwyn iddo eu harddangosyn y “Garboushian Gallery” ynBeverly Hills, Los Angeles a hefydun i arddangos yn y TorranceMuseum. Roedd Harry Holland aSiani Rhys James a gwaith yn caelei arddangos ar y pryd hefyd. Ondnid yn yr America yn unig fugwaith Heather ond hefyd mewnarddangosfa yn y Cynulliad yngNghaerdydd o Orffennaf 4 hyd at29 gyda dau o’i ffrindiau sef CeriThomas a Ken Elias.Dyma ddywedir yn y rhagairDaeth Eastes, Elias, a ThomasGOGINANynghyd ar eu Taith yn 2011.Unwyd hwy mewn cyfeillgarwch,nid yn unig fel aelodau o’r GrãpCymreig dros lawer blwyddyn,ond hefyd wrth iddynt gydnabodunigoliaeth eu gwaith a’u ffyrddo fyw. Mae gan y naill barch adiddordeb ynglñn â gwaith yllall sy’n ffynnu o’r difrifoldeba’r unigoliaeth a ddengys mewnffyrdd o greu celf sy’n hollol arwahân i duedd neu fasiwn.Mae eu gwaith ar raddfagymedrol fychan mewncymhariaeth a rhai o’u cyfoeswyr,ac yn aml mwynhânt ddefnyddiomynegiant personol. Trwy sylw,cof, cydfodaeth, dychymyg, abreuddwyd, cymerant agweddauo’u bywydau i greu delweddaumeddylgar a barddonol.Felly er bod eu gweledigaeth ynallanol, mae eu taith creadigolyn fewnol. Mae taith hudol ynaill a’r llall yn dechrau gydacherbydau delwedd sy’n rhithiola chyfeiriadol, er ydynt ffynnu tufewn diffiniad profiad a bywyd.Ar ôl clytiau niwlog byd hedegoga rhithlunol Eastes, fe welwnarwynebau a gofodau mud,anferth, cysegredig, anwys Elias,ac i ddilyn, problemau gogleisiola phrofoclyd Thomas sydd wedieu seilio ar bortreadau o’i hunanag eraill.Mae’r canlyniadau i’w gweld ynhollol wahanol. Ond wrth edrychymhellach efallai gytunwch bodEastes ,Elias, a Thomas ynghydyn cynhyrchu enghreifftiau owirioneb hudol Cymreig, a hwntrwy eu cais oesol, ddychmygoli ddarganfod, yn lleol yngNghymru ac yn pob unigolyn, ycyffredinoldeb sy’n perthyn i nigyd.Llun o waith Heather Eastes a fumewn arddangosfa yn AmericaCOLOFN MRS JONESA dyma flwyddyn arall yncychwyn yn hanes y Tincerwrth iddo ailgychwyn ar ôl eiwyliau haf. A phethau rhyfeddyw’r rheini. Roeddwn ynebostio cyfnither i mi y dyddo’r blaen ac yn rhyw hannercwyno nad oeddwn wedimedru cymryd fy ngwyliaublynyddol eto. Daeth eihateb gyda’r troad yn datganyn eglur ddigon na wyddwn fyngeni. Roedd hi wedi treulio’rhaf yn magu ei hwyres ac er eibod wedi mwynhau’r profiad,roedd wedi treulio yr haf ynchwarae sioffyr yn gyrru’rfechan yma a thraw o wersimarchogaeth i wersi drama achanu ac wedi llywyddu sawl‘sleepover’. ‘Mi rydw i’, meddai,‘wedi blino gormod i fynd arfy ngwyliau hyd yn oed petaigennyf rai ar y gweill!’Digon teg ond mewn rhywddeuddydd neu ddau, dymaebost gan ei brawd, hwnnwwedi bod ar ei wyliau, i’r unionran o Sbaen yr ydw i yn myndiddo ym mis Hydref. A nidoedd dim wedi ei blesio. Roeddy gwlau yn galed a’r bwyd ynffiaidd os nad oedd rhywunyn hoffi octopws a malwod, a’rtywydd yn boeth a’r ciniawaunos yn afresymol o hwyr. Niallai ef gychwyn deall pahamna gysgent lai yn y prynhawni fynd i’w gwlau yn gynnarfel y medrent fwyta eu swperar awr resymol. Nid oedd hydyn oed y sieri wedi ei blesio.Aeth mor bell a’m gorchymyni wario fy arian ar fynd i rywlearall. Fodd bynnag, glynu atfy nghynlluniau gwreiddiola wnaf. Mater bach yw osgoioctopws a llyffaint a malwod acyr wyf yn eithaf hoff o siestasar wyliau - ac o wlau caled petaiyn dod i hynny.Mae pawb ohonom, wrthgwrs, wedi cael gwyliauhunllefus ryw bryd neuei gilydd a mae’n bosibl euhosgoi. Un ffordd yw gwneudeich gwaith cartref cyncychwyn. Fe wn i, yn eisteddyn fan yma yn teipio hwn,na waeth i mi heb a meddwlam dripiau i wledydd oer neudripiau yn golygu llongaubach, felly nid oes unrhywsiawns y gwelwch chi fi ynmynd i astudio pengwinsmewn unrhyw le heblaw sw.Peidio dewis lle sydd yn groesi’ch galluoedd corfforol a’chsgiliau chi ydi un wers bwysigwrth ddewis gwyliau, dewislle sydd yn gydnaws â chi ydi’rllall. Mae fy nghefnder ynenwog am fod yn gynnar i’wwely ac yn gynnar ohono, fellyroedd hi yn gyfangwbl amlwgnad oedd gwlad ffordd arallrownd yn mynd i’w siwtio ynenwedig os oedd atyniadauyn cau am y prynhawn. Nidyw, ychwaith, yn credu mewnmentro gyda ei fwyd, a feddylai fod wedi meddwl hynnydrosto ei hun.Bwyd ar wyliau yw’r maentramgwydd mwyaf. I mi,rhan o’r hwyl yw trïo pethaunewydd,fe wn nad wyf ynhoffi’r pethau a restrais uchodam fy mod wedi eu profi ac yngwybod nad ydynt at fy nant.Yn wir, yr wyf yn rhyfeddueu bod at ddant unrhyw unond mae’n amlwg eu bod. At eigilydd, fe rof gynnig unwaithar y rhan fwyaf o bethau er fewrthodwn yn blwmp ac ynblaen fwyta ymenydd na china cheffyl. Ni archebais i erioedstec yn Ffrainc, rhag ofn, nabwyta salami yno ychwaith.Ond rhagfarn yw hyn, mi wn.Y mae digon o Ffrancwyr aFfilipinos a daerai mewn llysbarn beth mor flasus yw cãna cheffylau ac y mae digon obobl ym Mhrydain sydd ynmwynhau brens. Roedd fymam yn eu mwynhau, wedi euffrio yn ysgafn gydag ychydigfenyn a garlleg neu wedi eupoetsio mewn gwin gwyn ondedrych arni yn eu bwyta mewnarswyd a wnai’r gweddill o’rteulu. Cymaint arswyd yn wir,fel y rhoddodd fy mam yr arferheibio.Ac wrth inni waredu atymarferion bwyta tramor,mae’n rhaid i ni gofio fodgennym ni, ym Mhrydainambell i fwyd go ych a fi. Cocos,er enghraifft, fyddai waeth ichifwyta india rwber yn fy nhybi. A bara lawr, gwymon yw,medden nhw, ond fe welais iddigonedd o beth digon tebygmewn ambell i gae gwarthegyn y gwanwyn a’r borfa ynffres. A mae yna reswm dapaham nad yw siot a llymrua brwes pig tegell yn dal ynboblogaidd.Rhyw deithio mewn gobaithy mae rhywun, yn gobeithio ybydd yn mwynhau ei hun acyn dweud iddo gael gwerth eibres a chyfle da i ymlacio. Maeteithio yn ehangu gorweliony meddwl - a bwrw fod ynafeddwl i’w ehangu,wrth gwrs.

Y TINCER MEDI 2011 15ADOLYGIADAUAppy: Bont, Busnes a Byd y Bêl. HunangofiantMeirion Appleton, gyda Lyn EbenezerY Lolfa 140t. £9.95Wn i ddim pryd y darllenais i lyfr morafaelgar, hynod ac amrywiol â hwn.Mae’n agor gyda disgrifiaddwys-delynegol o’r awdur yn blentynsaith oed ym mhriodas ei fam â’i lystadWilliam John, ac yn ein tywys wedyni hanes dod o hyd i’w dad biolegol, gãry bu’n cwmnïa ag ef droeon heb i’r uno’r ddau grybwyll eu bod yn dad a mab.At y mater yna y mae’r awdur yn dychwelyd ar ydiwedd gyda’r ‘un cwestiwn a fydd yn aros heb eiateb am byth: pam na ddywedodd Mam?’Fel pob hunangofiant gwerth ei ddarllen, mae’rgyfrol yn gronicl o gyfnod ac o gymdeithas yngymaint ag o hanes bywyd unigolyn, ac mae’rdarlun a gawn ni yma o hwyl a helynt bywydgogledd Ceredigion, yn gefn gwlad a thref, oddiwedd yr Ail Ryfel Byd ymlaen, yn fywiog ac ynllachar. Drwy gyfrwng storïau, portreadau bachogo gymeriadau, a disgrifiadau o lefydd a sefyllfaoedd,mae’r awdur yn mynd â ni reit mewn i wead ycymunedau a’r cylchoedd y cafodd e gymaint o flasar fyw ynddyn nhw. Rydyn ni fel petaen ni yna’nhunain. Nid bach o ddawn lenyddol sy’n gwneudpeth felly’n bosiblOnd mae’n barod i ddinoethi’i enaid ei hunanyn ogystal. Wrth olrhain ei yrfa ryfeddol ym mydbusnes, o ddim i’r entrychion ac wedyn i fethdaliad,mae’r naratif weithiau’n garlamus, weithiau’nafiaethus, ac ar dro – mae’n cyfaddefiddo ystyried hunan-laddiad ar unadeg – yn ingol. Wrth droi wedynat ei anturiaethau, ei lwyddiannau a’isiomedigaethau ym myd pêl droed(a fu, meddai ‘yn grefydd imi’) maeei sylwadau ar ymddygiad bradwrusambell un a ystyriodd yn gyfaill iddoyn dangos parodrwydd iachus o ddiofni ddweud pethau fel y maen nhw. Osyw e ar adegau yn ymffrostio, mae’ngwneud hynny mewn ffordd hynodo hoffus – diniwed bron. Ac mae’nfwy na pharod hefyd i gwympo danei fai, megis wrth ddisgrifio’i ymddygiad ei hunanyn dilyn ei sacio fel rheolydd Clwb Pêl DroedAberystwyth. ‘Mae surni,’ meddai, ‘yn eich bwytachi o’r tu fewn.’Dyma lyfr difyr, darllenadwy, lliwgar, yn cyfuno’rdigrif a’r dwys mewn modd trawiadol iawn. Miaethen i ymhellach. Yn rhinwedd y darlunio craffsydd ynddo o agweddau a esgeuluswyd ar fywydCymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, mae hwnyn llyfr pwysig.Wrth saernio’r gyfrol a dod o hyd i arddull gartrefolond gwreichiog i roi hanes Meirion Appleton ar ddua gwyn, fe gadd Lyn Ebenezer hwyl ryfeddol ar eidasg. Yr unig fai a welais i yw ei duedd gyson i arfery gystrawen anhyfryd ‘fe wnes i fynd’, ‘fe wnaethonni ennill’ ac ati, yn lle’r ‘fe es i’, ‘fe enillon ni’ naturiola llafar. Ond ysywaeth mae Lyn ymhell o fod ar eiben ei hunan yn y diffyg ffasiynol yma.Cynog DafisGOLCHDYLLANBADARNCYTUNDEB GOLCHIGWASANAETH GOLCHIDUFET MAWRCITS CHWARAEONFFÔN: 01970 612 459MOB: 07967 235 687GERAINT JAMESCadw’r Byd i Droi: Hanes CledwynEvans golygwyd gan Lyn EbeneserCyhoeddwyr: Gwasg CarregGwalch (Cyfres Syniad Da) 94t £5Ymhlith y miliynau o gerbydaunewydd sydd ar y ffordd fawrym Mhrydain, gallwch fod ynsiãr fod tuag un o bob pedwaryn rhedeg ar deiers a werthwydgan gwmni o Aberystwyth, sefCledwyn Tyres. Sefydlwyd yfenter gan Cledwyn Evans yn1971. Erbyn heddiw mae’r trosiantyn ddegau o filiynau o bunnoeddy flwyddyn a’r busnes yn nwylo’iddau fab a’i wyres.Aeth deugainmlynedd heibio ersi Cledwyn Evansddechrau gwerthuteiers a setiau radioceir. Yn ogystal agadrodd hanes yfenter mae’r gyfrolyn codi’r llen arofynion byd busnes,y gystadleuaeth,yr angen i alludarparu nwyddauangenrheidiol ar yr adegbriodol ac ymatebi newidiadau, ac ynbennaf oll efallai yrangen am gyfalafdigonol a safle addas.Mae’r llyfr yn gasgliado hanesion difyr amCledwyn a’i gyfoedionyn eu hieuenctid yngwibio ar hyd hewlyddy sir a thu hwnt areu moto-beics, ac owybodaeth berthnasoli bobl sy’n meddwl amfentro i fyd busnes.RHODRI JONESBrici a chontractiwradeiladu07815 121 238Gwaith cerrigAdeiladu o’r newyddEstyniadau PatiosWaliau garddLlandre Bow StreetRichard E Huws The Footballers of Borthand Ynys-las, 1873 – 1950Cyhoeddwyd gan yr awdur. 24t £5Pêldroedwyr y Borth ac Ynys-lassydd dan chwyddwydr RichardHuws y tro hwn. 1897 yw dyddiad yllun cyntaf o dîm y Borth, a thiîmBorth United 1948-49 yw testun yrolaf. Rhwng y ddau lun mae toretho wybodaeth am dim y Borth a’rYnys-las Gunners (1937 a 1939),ynghyd â rhestr faith o’r rhai a fu’nchwarae i’r ddau dîm. Yn atodiad ihanes y timau ceir tablau CynghrairAberystwyth a’r Ardal. Diddorol!

16 Y TINCER MEDI 2011Tair Rheol Annhrefn yw teitl y nofel fuddugolyng nghystadleuaeth Daniel Owen eleni.Dr Daniel Davies, Maesmeurig yw’r awdur.Ym maes crisialau hylifol yr enillodd eiddoethuriaeth; roedd e’n un o fyfyrwyr olafAdran Cemeg Prifysgol Aberystwyth.Cafodd ei fagu yn Llanarth, yn fab iblismon y pentref. Roedd hynny’n debyg i fodyn fab i weinidog, meddai, - braidd ar gyrion ygymdeithas a disgwyliadau uchel o ymddygiadgweddus!Ym Methlehem ger Llandeilo y magwydei dad ar aelwyd ddi-Gymraeg. O’r dediwydiannol yr hanai ei dad-cu; yn yr OldKent Road yn Llundain roedd gwreiddiau eifam-gu. Mae gwreiddiau ei fam yn nwfn ynardal Undodaidd Cwmsychpant. Mae ei fambellach yn un o wirfoddolwyr Siop y SmotynDu yn Llanbed. Tra’n gwasanaethu gyda’rheddlu yn ardal Ceinewydd y meistrolodd eidad y Gymraeg. Bu farw yn 1990, cyn i’w fabgwblhau ei ddoethuriaeth.Atgofion hapus sydd gan Daniel am eiblentydod a’i addysg yn ysgolion Llanarth acAberaeron – lle bu’n gapten tím criced yrysgol. Bu hefyd yn chwarae i dím Ceredigion athím y Gwerinwyr.Pobl a’r rhwydweithiau rhyngddyn nhwyw ei ddiddordeb – y bobl hynny sydddan wyneb cymdeithas, byth yn dod i’rDANIEL DAVIESnewyddion. Mae’n olrhainhyn i’w brofiadau cynnar yncyfarfod á phobl o wahanolhaenau cymdeithasol ynSwyddfa’r Heddlu ac yngnghwmni ei dad wrth ei waith.Bu ei brofiadau amrywiolym myd gwaith yn fodd igynyddu ei adnabyddiaeth obobl o’r fath. Bu’n gweithiogydag adeiladydd, yn atebymholiadau BT ar linell192, yn ohebydd DyffrynDyfi i’r Cambrian News, ynnewyddiadurwr ar leino’r Canolbarth i’r BBC, yngweithio i’r Cynulliad yn Swyddfa CyllidEwrop yng Nghymru, ac yn gynhyrchyddWhere I Live i’r BBC ar y we. Ar hyn o brydmae’n newyddiadurwr ar lein i’r BBC yngweithio o Aberystwyth.Bwrodd ei brentisiaeth lenyddol yn ysgrifennustorïau byrion. Ei lwyddiant cyntaf oedd dodyn ail yng nghystadleuaeth stori fer Taliesinar gyfer pobl dan 30ain. Mae’n werthfawrogoliawn o gefnogaeth John Rowlands, golygyddTaliesin ar y pryd.Yn 2001 yr ymddangosodd ei nofel gyntaf,Pele. Yn 2003 galluogodd grant gan yr Academief i fod yn rhydd o hualau cyflogaeth am chwemis i ysgrifennu ei ail nofel,Gerson a’r Angel. O’r pum nofel ymae wedi eu cyhoeddi cyn hynei ffefryn yw Gwylliaid Glyndwr.Mae Dickens, Daniel Owen,Fielding, Jane Austen, Balzac,Dostoevsky, Waugh, Wodehouse,Heller, Vonnegut, Roth, JacobDafis, Eurwyn Pontsián acEigra Lewis Roberts ymhlith yrawduron y mae wedi cael buddo’u darllen.Ei hoffterau? - fish fingers,cwrw, Schubert a Wagner,gwrando criced ar y radio,a cherdded. Fydd e byth ynmynd ar daith gerdded, pa mor bell bynnag,heb ei radio, i gael clywed y criced. Petai’ncael dewis noson allan, noson yn y Llew Duyn Aberystwyth fyddai hi. Mae hefyd yngobeithio, yn wir yn bwriadu, ymweld á’rWeriniaeth Tsiec ryw ddiwrnod.Y pethau gorau sydd wedi digwydd iddo arwahán i ennill gwobr Daniel Owen? Cael eifagu gan ei rieni, a chwrdd á Linda, ei gymar.Y peth mae e fwyaf balch o fod wedi eigyflawni? Sgori 7 rhediad am 2 wiced i dîmcriced y Gwerinwyr yn erbyn tîm Llanarth!Llinos DafisAr 22ain o Orffennafcynhaliwyd barbeciw i aelodaua chyfeillion gan Horeb. Diolch ibawb a gyfrannodd i lwyddianty noson ac yn arbennig iSandra a Mansel am baratoi’rbwyd blasus ac i Sian am gaeldefnyddio’r stablau. Gwnaedelw o £200 i gartref Tregerddan.Gan ei bod yn 80 mlynedd ersadeiladu festri Horeb cafwydBarbeciw Horebcystadleuaeth dynnu lluniau i’rplant – Joio yn y festri – wediei drefnu gan Ceri Williams.Bu Derfel Reynolds a CerysHumphreys yn beirniadua’r buddugol oedd MarthaRowlands (iau) a Beca Jenkins(hñn). Daeth y noson ddifyr iben gyda Mairwen Jones ynhel atgofion am y Festri trwyadrodd nifer o benillion.Agorwyd Festri Horeb trannoeth Gãyl Banc Awst 1931 gan MissAgnes Morgan, Llanbadarn a saif cydrhwng y Parchedigion O. E.Williams a D ap Morgan, Goginan. Eraill yn y darlun uchod ywJ LewisEvans, pensaer, y Parchg Walter G. Thomas, B.D., Mrs R. M.Davies, Llandre a’i chwaer Mrs Isaac Davies a Mrs O.E. Williams. Ybachgen sy’n eistedd ar y fainc a’i gefn at y camera yw Mr IrfonRhys Williams, Cae Mawr.Poster sy’n dangos un agwedd ar ygweithgarwch ar ran aelodau CapelHoreb, yn eu hymdrech i godi festri wrthymyl y capel. Codwyd hi dair blynedd arôl y Sale of Work a hysbysebir yma aca gynhaliwyd yn hen ysgol y pentref. Yposter trwy garedigrwydd Mrs MairwenJones. Tincer 40 (Meh - Gorff 1981)Erbyn diwedd y Rhyfel BydCyntaf disgynnodd yr aelodaethrhywle rhwng 100-110 a theimlwydyr angen am adeilad llai o faintat amryfal ofynion yr aelodaeth.Breuddwyd y gweindog, y ParchO.J. Williams oedd sicrhau festrii’r capel. Ystyriwyd neilltuo rhano’r capel ond barnwyd na fedridhynny yn hawdd felly aed ati idrefnu cronfa aelodau ac er mwynhybu’r bwriad aeth y chwioryddati i drefnu cyfres o arwerthiannauo’ i gwaith llaw eu hunain gandroir mans yn weithdy o dan ofalgwraig y gweinidog. Cymeroddsaith mlynedd o ymroi diwyda dygn cyn casglu’r £639.18s adalwyd am adeiladu a dodrefnu’rfestri. Fe’i cynlluniwyd gan JohnLewis Evans, Aberystwyth a’ichodi gan L. J. Evans. Tregaron(taid y sylwebydd mabolgampau aglywir ar Radio a theledu Cymru).(o erthygl gan Dr David Jenkinsyn y Tincer )

Y TINCER MEDI 2011 17YSGOL PEN-LLWYNMabolgampauAr brynhawn hyfryd o haf feaeth y plant a tyrfa o rieni affrindiau i fyny i faes Statkraftyng Nghwmrheidol ar gyfermabolgampau’r ysgol. Fe gafwydrhaglen amrywiol o gystadlu. Erfod nifer o’r rasus yn glos doedddim angen troi am gymorth yffotograff o gwbl! Yr ydym ynddiolchgar i gwmni Statkraft amgynnig llecyn mor hyfryd i’rysgol unwaith eto ac am werthuhufen ia mor flasus.Ffair Ysgol a’r TaithGerddedFe drefnodd Cymdeithas RhieniAthrawon ffair a thaith noddedigar Ddydd Sadwrn Mehefin 18. Fegerddodd criw dda o rieni, planta staff o Goginan i’r ysgol lleroedd yna farbeciw yn disgwyl.Roedd plant dosbarth 2 wedibod yn brysur yn cynlluniorhai stondinau a doedd dimamheuaeth fod dyfodol posib ymmyd busnes o’u blaen. Mi oeddsôn o’r trysorydd fod hyd yn oedy banc wedi synnu fod cyfanswmo £1,233 wedi ei godi.Trip YsgolFe brofodd y plant y pleser odeithio ar fws, tren a chwch ary trip ysgol a gynhaliwyd arFehefin 18fed. Fe gawsom dripo Dywyn ar dren Tal-y-llyn acyna mewn cwch i grombil yddaear yn Labrinth Arthur yngNghorris. Yn anffodus ni fuomyn llwyddiannus wrth edrycham siop sglodion ar agor ymMachynlleth ond roedd pawb ynhapus i gael hufen ia yn y Borthcyn dychwelyd adref erbyn swper.Gofal DanneddA ddylid golchi’r dannedd o fewnawr o yfed diod melys? Mi oeddy rhan fwyaf o’r plant o’r farnmae golchi fyddai orau. Hynnyyw, hyd nes i’r nyrs ein perswadiona ddylid gwneud hyn gan ygallai gwneud drwg i’r dannedd.Roedd yn ymweliad diddoroliawn a wnaeth argraff ar y plant.Gobeithio bydd y neges bwysigyma yn cael dylanwad yn y tymorhir.Gwasanaeth gadaelBlwyddyn 6Trist oedd dweud ffarwel iddisgyblion flwyddyn 6 yn ystodwythnos diwethaf y tymor. Feddaeth nifer o rieni ynghydi’r gwasanaeth. Fel rhan o’rprynhawn fe ddangoswyd fideoyn cynnwys rhai o atgofion yplant o’u hamser yn yr ysgol. Fedarrodd araith Mrs Charlton,a ddychwelodd yn arbennig,nodyn pwrpasol wrth edrych i’rgorffennol ac ymlaen i’r dyfodolhefyd.Bags for SchoolsDiolch i bawb a gyfrannodd henddillad yn ddiweddar. Yr ydym ynedrych ymlaen i glywed faint oarian a godwyd i gronfa’r ysgol .Sioe Capel BangorFe weithiodd nifer o rieni yngaled i baratoi stondin yr ysgol ynSioe Capel Bangor. Roedd y sŵni’w glywed o bell wrth i bawb gaelhwyl yn taflu peli at hen ddarnauo lestri. Braf oedd gweld nifer o’rplant yn cydweithio i gwblhau’rgêm bwyta’n iach hefyd. Rhaiddiolch yn arbennig i CathrynMorgan am weithio mor galed ibaratoi y stondin o flaen llaw acam frwdfrydedd yr holl rieni afu mor barod i helpu.Gwella’r adeiladBraf oedd dychwelyd wedi’rgwyliau i ddarganfod yr ysgol arei newydd wedd. Mwy o fanylioni ddilyn.TwitterOs am glywed ‘tweets’ o’r ysgoldilynwch @ysgolpenllwyn.Plant yn mwynhau ar stondin yr ysgol yn y SioeTomos Evans yn cyflwyno’r dillad a gasglwyd ar gyfer Bags for Schools i’r gyrrwrPlant dosbarth 1 yn dysgu am ofal danneddRhai o’r plant ynbreuddwydio am yrrutren go iawn yn ydyfodol.Llyr, Alaw a Haf yn dathlu yn y sioe

18 Y TINCER MEDI 2011YSGOL CRAIG YR WYLFACroesoTymor newydd yn Ysgol GynraddCraig yr Wylfa. Cyfnod cyffrousyn ein hanes. Hoffwn groesawustaff newydd - sef Mr. PeterLeggett fel Pennaeth Cynorthwyolfydd yn cyd-weithio efo Mr. HefinJones, sef y Pennaeth â Gofal.Dymunwn yn dda i Mrs. CarolDavies a diolchwn yn fawr iawniddi am ei chyfraniad i fywyd agwaith Ysgol Craig yr Wylfa.Pob Lwc!Yn y llun efo plant Ysgol Craigyr Wylfa gwelir Rheolwr SafleBam Nuttall, Ray Jones, yncyflwyno gwobrau cystadleuaethllunio poster ‘Diogelwch’.Derbyniodd yr enillwyr £20.00yr un, a derbyniodd yr ysgolrodd ariannol o £50.00 Dymuna’rysgol ddiolch yn fawr i Ray Jonesa chwmni Bam Nuttall am euhaelioni. Yn y llun o’r chwith i’rdde: Jonah Williamson-Evans,Lily Price, Eliza Williams, AnnaWilliams, George Evans a RayJones.Dymuniadau gorau i blantblwyddyn 6 llynedd sydd bellachwedi symud i’r ysgol uwchradd.Mawr obeithiwn eu bod nhwi gyd wedi ymgartrefu yn euhysgolion newydd ac yn dilyngyrfaoedd llwyddiannus a hapus.Mae plant dosbarth Mr.Leggett wedi bod yn brysur yncydweithio er mwyn marchnataa gwerthu ‘Smoothies’ MasnachDeg. Bwriad y prosiect oedddatblygu sgiliau cyfathrebu achydweithio’r disgyblion. Feltîm, roedd rhaid i’r plant wneuda chytuno ar benderfyniadaupwysig er mwyn ceisio gwerthumwy o smoothies na’r grwpiaueraill. Cafodd y plant llawer ohwyl gyda’r dasg a chodwyd tipyno arian hefyd! Diolch yn fawri’r rhieni ac i’r ymwelwyr am eucefnogaeth, ac yn arbennig i’rplant am eu holl waith caled.Plant Cyfnod Allweddol 2 Ysgol Craig yr Wylfa yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth debyg i’r ‘Apprentice’!Cafwyd diwrnod i’rbrenin ar ein taithysgol eleni i’r ParcDinosoriaid, Dinbychy Pysgod. Roedd ytywydd yn hyfryd abu’r plant yn prysurredeg o un atyniad i’rllall. Roedd y daith bwsadref yn o dawel!!Pawb yn mwynhau y ‘Picnic Tedi Bêr’ yn Ysgol Craig yr WylfaDisgyblionBlwyddyn 6yn mwynhaucacen ar eudiwrnod olaf!Braf iawn oedd cael dadorchuddio ymosaic newydd sbon yn ddiweddar wrthfynedfa’r ysgol.Bu’r plant yn gweithio gyda’r arlunyddcymunedol Pod Clare er mwyn cynllunioa chreu mosaic croesawgar wrth glwydi’rysgol. Penderfynodd y plant gynlluniorhywbeth fyddai’n cynrychioli’rgweithgareddau sy’n digwydd yn yr ysgola’r pethau oedd yn bwysig iddyn nhw.Cyfrannodd pob un plentyn at y prosiect.Talwyd am y gwaith allan o gronfa’rdiweddar Peter Glover, Y Borth.

Y TINCER MEDI 2011 19YSGOL RHYDYPENNAUPrysurdebAr ddechrau blwyddynacademaidd arall, mae prysurdebyr ysgol yn parhau. Yn barod,rydym yn y broses o ethol, trwybleidlais, y Cyngor Ysgol. Felpob blwyddyn arall mi fydd,aelodau’r cyngor yn cwrdd ynrheolaidd er mwyn gwneudpenderfyniadau pwysig a sicrhaullais swyddogol i weddill ydisgyblion. Yn ychwanegol i hyn,ac ar ôl cwblhau ffurflenni caisa chyfweliadau gyda’r prifathro,mae blwyddyn 6 yn ran o GriwCãl yr ysgol. Maent yn gyfrifolam nifer o ddyletswyddau pwysigyn ystod y flwyddyn.FfarwelioHoffai’r ysgol ddymuno pobhwyl i blant blwyddyn 6 yllynedd wrth iddynt ddechraubywyd addysgol newydd yn yrysgolion uwchradd. Derbynioddpob un ohonynt rodd wrthymadael â’r ysgol am y tro olaf.Hoffai’r ysgol ddiolch hefyd iMrs Linda Gay. Bu Linda yngaffaeliad mawr i’r ysgol am chwemlynedd. Ymddeoliad Hapus!Garddwest yr ysgolAr y 24ain o Fehefin cynhaliwydGarddwest yr ysgol. Eleni eto,penderfynwyd ei chynnal ar nosWener ac fe agorwyd yr arddwestyn swyddogol gan Mr a MrsTudor Gethin. Cafwyd nifer oweithgareddau difyr ac amrywo stondinau pwrpasol er mwyncodi arian i’r ysgol. Hoffai’r ysgolddiolch o galon i GymdeithasRhieni ac Athrawon yr ysgolam drefnu’r noson ac i rieni achyfeillion yr ysgol a fu’n barodiawn i gynnig cymorth hefyd.Diolch i’n prif noddwr, AnthonyMotors; ac i noddwyr y gwobrau,Gerwyn Evans y Saer, Y RailwayInn, y Borth; a’r Garddwr, RobertGriffiths am eu cyfraniadau haelhwy. Mi fydd yr arian a godwydyn ystod y noson yn gymorthsylweddol i brynu adnoddaupwysig iawn er mwyn hyrwyddoaddysg pob plentyn yn yr ysgol.Dal lan â’r digwyddiadauMabolgampauCynhaliwyd ein mabolgampaueleni ar y 4ydd o Orffennaf.Y tîm buddugol eleni oeddYstwyth gyda Rheidolyn ail ac Eleri yn drydydd,Llongyfarchiadau i’r canlynol amennill y nifer fwyaf o bwyntiaui’w tai; Catrin Manley- MerchedBlwyddyn 3 a 4; CorbenPemberton-Bechgyn 3 a 4. MeganJackson- Merched Blwyddyn5 a 6 a Siôn Manley- BechgynBlwyddyn 5 a 6.Gala NofioEnillwyr Gala Nofio’r ysgol elenioedd Rheidol. Cyflwynwyd ytlws i’r ddau gapten, Alys Powella Rhys Hughes. Megan Masonoedd y ferch â’r nifer fwyaf obwyntiau a Lewis Drakeley alwyddodd yng nhystadleuaeth ybechgyn.YmweliadauOs fuoch chi’n gwylio‘Springwatch’ ar BBC 2 ynddiweddar mi fyddwch ynymwybodol mai o WarchodfaNatur Ynys-hir y darlledwyd yrhaglen. Mi fuodd Blwyddyn 2yn ffodus ofnadwy cael mynddraw i Ynys-hir tra bo’r criwffilmio’n cynhyrchu’r rhaglen.Yn ystod yr ymweliad cafoddy plant gyfle i bwll drochi acastudio creaduriaid bach aphlanhigion arbennig.Cyngor DaGalwodd Tomi Turner i’ngweld ar ddiwedd y tymor ermwyn cyflwyno gwybodaetham Sefydliad CenedlaetholBrenhinol y Badau Achub(RNLI). Yn ystod y drafodaethbu Tomi’n codi ymwybyddiaethy plant o ddiogelwch ar y traethac yn y dãr.Diwrnod Hwyl yr UrddCynhaliwyd diwrnod Hwyl yrUrdd eleni ar y 12ed o Orffennaf.Mwynhaodd hanner cant oblant o flynyddoed 4, 5 a 6amrywiaeth o weithgareddauyn cynnwys criced, athletau,pêl-rwyd, pêl-doj, golff, tennis,pêl-droed, rygbi, a dawnsiozumba.Clwb CantDyma ganlyniad fis Medi1af - £25 Alwen Fanning,Penrhyn-coch.2il - £15 Efa Edwards, Llandre.3ydd - £10 Lyndsey Pope,Tal-y-bontAm fwy o wybodaeth a llwyth oluniau cliciwch arwww.rhydypennau.ceredigion.sch.ukMr a Mrs Tudor Gethin yn agor yr Arddwest yn swyddogol.“Dewch i brynu!”- stondin yn yr arddwest. Cyflwyniad Tomi Turner.Dawnsio Zumba-Diwrnod Hwyl yr Urdd.Ras agos yn y mabolgampau.

20 Y TINCER MEDI 2011TASG Y TINCERGobeithio i chi fwynhaueich gwyliau haf. Mae’nsiãr bod rhai ohonochwedi bod yn y Sioe ynLlanelwedd ac yn yrEisteddfod yn Wrecsam,a rhai eraill ohonochwedi bod tramorgyda’ch teuluoedd. Byddnifer fawr ohonochwedi newid dosbarth ynyr wythnosau diwethaf, arhai wedi mynd i ysgolionnewydd hyd yn oed – poblwc i chi gyd!Diolch i bawb fu’n lliwio’rllun o’r ddau yn chwaraepêl-droed. Roedd eichdewis o liwiau i’r crysau yngrêt. Dyma pwy anfonoddluniau: Nia Jones, Brynolwg,Bont-goch; Gethin aCarwyn Davies, Cynon Fawr,Llanfihangel-y-creuddyn;Elen Morgan, Llys Alaw,Bow Street; Oliver ac ElizaWilliams, Sandymount, YBorth; Ela Glain a GaranEbenenzer Thomas, Llandaf,Caerdydd; Morgan Iwan aGruffudd Iwan EbenezerEllis, Gwaelod-y-garth. Roeddeich lluniau’n hyfryd, ondCarwyn sy’n ennill y trohwn. Hoffais y sanau orenoedd gan y bechgyn! Daiawn, bawb.Un peth pwysig sy’ndigwydd dros yr wythnosaunesaf yw Cwpan Rygbi’r Byd.Mae’n anodd credu bod ’nabedair blynedd ers y gêmaudiwethaf. Ydech chi’n cofio paCarwyn Daviesdîm enillodd yn 2007 tybed?Ie, dyna chi, De Affrica. Mae’na enw ar y cwpan bydd ytîm buddugol yn ei ennill,sef cwpan Webb Ellis. Dynoedd Webb Ellis a oedd ynbyw dros ganrif a hanner ynôl. Un o Salford yng ngogleddLloegr oedd Ellis yn wreiddiol,ond symudodd i dref Rugbypan oedd yn fachgen, ac yn ôly sôn, fe waeth ddyfeisio’r gêmtra oedd yn byw yn y drefhonno.Yn Seland Newydd mae’rbencampwriaeth rygbi y trohwn, ac mae sôn bod dros70,000 o bobl o bob rhan o’rbyd yn bwriadu mynd ynoi wylio’r timau! Beth fyddhanes tîm Cymru, tybed? Ymis hwn, beth am liwio fflagSeland Newydd? Gallwchddefnyddio’r lliwiau cywir,neu beth am ddyfeisio fflagnewydd o liwiau llachar?Anfonwch eich gwaith at ycyfeiriad arferol, Tasg y Tincer,46 Bryncastell, Bow Street,Ceredigion SY24 5DE erbyn 1Hydref. Ta ta tan toc!EnwCyfeiriadYsgolOedRhif ffônAmrywiaeth eang olyfrau, cardiau,cerddoriaethac anrhegion Cymraeg.Croesawir archebion gan unigolionac ysgolion13 Stryd y BontAberystwyth01970 626200Rhif 341 | MEDI 2011

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!