Y TINCER MAWRTH 2008BOW STREETSuliau EbrillY Garn10 a 5www.capelygarn.org6 M. J. Morris13 Terry Edwards20 Bugail27 Tecwyn JonesNoddfa6 10.00 Gweinidog13 2.00 Y Parchg Ifan MasonDavies20 5.00 Gweinidog27 10.00 Arwyn Pierce CymundebCydymdeimladCydymdeimlwn â Mrs Ann Jones,Llys Maelgwn, a’r teulu yn eiphrofedigaeth o golli ei mam, MrsMargaret Williams, gynt o Ben-ywern.Cydymdeimlwn â’r ParchgRobert W. a Rhian Jones - gynto Maesafallen, ar farwolaeth tadRhian yn ddiweddar.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Elin ac AlunHowell, Caerdydd, ar enedigaethHeledd, chwaer i Gruffudd acwyres i Robert a Delyth Jenkins, 9Maes Ceiro.Gwynn Angell Jones fu’n annerchCymdeithas y GarnW.J. a Gwenda gyda Dosbarth Ysgol Sul y Tabernacl, Trelew - yr unig ddosbarth ysgol Sul i oedolion sydd bellach ar ôl yn yWladfa. Hefyd gwelir yn y llun Meri Griffiths, yr Wyddgrug (ond brodor o ardal Pontrhydfendigaid) oedd ar ymweliadCymdeithas yChwiorydd, Capel YGarnPnawn Mercher 5ed o Chwefrordaeth llond y festri o aelodaua ffrindiau ynghyd i glywedhanes taith WJ a GwendaEdwards i Batagonia. Treulioddy ddau dri mis yn Y Wladfayn gweinidogaethu, hel achaua mwynhau. Diddorol oeddclywed am yr holl gysylltiadaulleol a thu hwnt sydd yn dali fodoli gyda llawer o’r ardalyma sydd a theulu pell ymMhatagonia. Da oedd gweldfod peth amser wedi ei neilltuoi hamddena - yn gweld ymorfilod, yn y tñ te ac yngwledda! Diolch i Gwenda amofalu am y camera a alluogoddpawb i gael cip olwg ar ydaith. Diolchwyd i’r ddau gany Parchg Wyn Rhys Morrisa chafwyd gair gan y ParchgElwyn Pryse yn hel atgofion amei hen ysgolfeistr. Sut oeddechchi’n cofio’r holl benillion ynaMr Pryse?Meinir Lowry drefnodd y tea hithau hefyd oedd yn gyfrifolam y rhannau arweinniol aoedd mor amserol.I ddathlu Gãyl Ddewi arddechrau mis Mawrth cafwydcwmni rhai o ddisgyblion YsgolRhydypennau. Darparwydadloniant o safon uchel iawngan gynnwys parti cerdddant, parti unsain, unawd adeuawd lleisiol, dwy unawdofferynnol ac ensembl pres; pobun wedi cael llwyddiant yneisteddfod gylch yr Urdd eleni.Hefyd, darllenodd DafyddSiôn ei gerdd “Cymru” a fu’nfuddugol yng nghystadleuaethy gadair yn eisteddfod yrysgol. Mae’n amlwg o ymateby gynulleidfa niferus fod pawbwedi mwynhau’r talent syddyn cael ei feithrin yn yr ysgol.Diolchwyd i’r disgyblion a’ihathrawon gan Mrs BethanJones. Dymunodd yn ddaiddynt yn yr EisteddfodRhanbarth ac annogwyd hwyi gadw’n ffyddlon i arwyddairyr Urdd. Cafwyd cyfle igymdeithasu gyda’n gilyddwrth fwyta te blasus wedi eidrefnu gan Kathleen Lewis.Gwenda Edwards oedd yngngofal y defosiwn. Diolch ynfawr i bawb am brynhawnhyfryd.Dyddiadau sêl cist car NeuaddRhydypennauMawrth 22Ebrill 5 19Am le i gar ffoniwch 828032neu 828772Rhai o’r plant gymerodd ran yn Oedfa Gw^yl Ddewi Gofalaeth y Garn, 2 MawrthNoson Gawl a Chwis Cymdeithas Os Mêts gyfarfu yn festri’r Garn nos Fercher, 27Chwefror, Y cwisfeistr oedd Lyn Lewis Dafis.
Y TINCER MAWRTH 2008 GOGINANCydymdeimloCydymdeimlwn gyda teuluGlwysle, Malcolm, Wendy, Catrina Huw ar farwolaeth tad Malcolmsef Mr.John Davies (llais sioeauamaethyddol lleol) Capel Bangor felroedd y Tincer yn mynd i’r wasg.LlongyfarchiadauBraf oedd cael gwybod fod Mrs.Chevon O’Leary, Loveden House,wedi ei gwobrwyo gan ColegCeredigion ar ôl iddi fynychu cwrsmewn Technoleg Gwybodaeth ynllwyddiannus y llynedd.Maes ChwaraeHyfryd yw gweld y canmoliaethmae Gwion ap Dafydd yn ei gaelar y maes pêl-droed gyda ail dîmAberystwyth. Mae Gwion ynfachgen gyda amryw o dalentaugan ei fod hefyd yn olffiwr o fri.Pwyllgor Apêl EtholaethMelindwrEisteddfod Genedlaethol yr Urdd,Ceredigion 2010Mae yna bwyllgor wedi ei greu atapêl Yr Urdd 2010 ardal ertholaethMelindwr. Gan fod yr ardal ymayn un eang mae’r pwyllgor wedipenderfynu cynnal y pwyllgor ynfisol gan obeithio cael cefnogaethlleol. Mae’r cyfarfod nesaf arEbrill 9 yn ystafell fwyta Y Druidyn Goginan. Os oes gyda chisyniadau at godi pres ond yn methumynychu y pwyllgorau cysylltwchgyda’r ysgrifenydd Llinos ar (01970)880238Dr. GLENYS DAVIES&Dr. SARAH CHERIAN60 HEOL MAENGWYNMACHYNLLETH, POWYSSY20 8DYGWASANAETH DDEINTYDDOLBREIFAT NEU “DENPLAN,”A GOFAL HYLYNYDD AR GAEL.YN CYMRYD ENWAU NEWYDDAR HYN O BRYD01654 700022CYNGOR CYMUNED TIRYMYNACHCyfarfu’r Cyngor ar nosIau 28 Chwefror o danlywyddiaeth y Cyng. JohnEvans. Croesawodd yCadeirydd y ParchedigRichard Lewis i’w gyfarfodcyntaf fel Clerc CyngorTirymynach a dymunoddyn dda iddo yn y swydd.Derbyniwyd llythyr siarpoddi wrth Prif WeithredwraigCeredigion, Ms BronwenMorgan, yn hysbysu ei bodyn ddeddf ar bob CynghorwrCymuned i ddatgan eifuddiannau personol panoedd gofyn am hynny. MaeCyngor Tirymynach ynparchu’r ddeddf hon o’rdechrau. Penderfynwyd etholcynrychiolydd o’r Cyngor iweithredu ar Gynllun PACT yrHeddlu yn lleol pan fydd y tîmwedi ei sefydlu.Er nad oedd sicrwydd amleoliad terfynol y Mast ar yrheilffordd i’r de o Bow Street,mae’r gwaith o’i osod yncychwyn yn ystod y mis hwn(Mawrth). Ac eto mae nifero gwestiynau gan y trigolionlleol a effeithir gan y mast ynparhau i fod heb eu hateb.Adroddwyd, er gwybodaeth,bod cyfarfod cyhoeddus odrigolion Maesafallen parthedmabwysiadu rhan ogleddolo’r ystâd wedi ei gynnal ynddiweddar a bod nifer ogwestiynau perthnasol wedi euhanfon i Gyngor Ceredigion.Codwyd mater rhaigoleuadau yn yr ardal - neudiffyg golau. Rhaid caelcaniatâd tirfeddiannwr/wyrcyn medru dod a chyfarpari drwsio lamp sydd wedidiffodd ger Bryndolen,Blaenddol. Mae angen golaumewn smotyn tywyll wrthfynediad i Gartref Tregerddan,felly gofynnir am bris lamp a’igosod, yn ogystal ag un wrthystad Y Ddôl.Dywedodd y Cadeirydd a’rClerc eu bod wedi mynychuCyfarfod YmgynghorolCyngor Sir Ceredigion.Siomedig oedd ymateb rhaio’r Cynghorwyr ac Aelodauo’r Cabinet i gwestiynauparthed Tirymynach.Soniwyd am wario miliwno bunnoedd ar fforddClarach (rhywbryd), ond bodanhawster cael trafodaethgyda’r tirfeddianwyr. Bu rhaiddweud wrthynt am wneud eugwaith cartref yn fwy manwl,gan fod yna ffermwr wedicynnig darn o dir iddynt idorri ymaith un gornel ersblynyddoedd. Soniwyd ynystod y drafodaeth am y fforddo Rydypennau i ben lôn Dolau.Yn ddiweddar bu syrfëwr ynarolygu’r tir o flaen Bronceirolle mae’n fwriad ganddynt isythu’r tro. Gofynnwyd i’rsyrfëwr gan un o GynghorwyrTirymynach am amcangyfrif oba bryd y byddai’r gwaith yncael ei wneud, a’r ateb oedd“You and i will be long dead”.A dyn cymharol ieuanc oedd yswyddog!Gwnaed y sylwadau tristyn y drafodaeth a ddilynoddyr uchod bod y CynulliadCymreig yn gorffen yngNghaerfyrddin, a’r Briffordd(A487) yn terfynnu yn SynodInn.Yn y cyfamser mae’rCyngor am wasgu ar i Adrany Priffyrdd osod llinellaugwyn-dwbwl o dro Bronceiroi fynediad Dolau i arbedgoddiweddyd a chreu rhagoro ddamweiniau ar y darnperyglus hwn. Deallir bod yrynys arfaethedig wrth YsgolRhydypennau i’w hadeiladuyn ystod y mis hwn.Cynllunio. Mae’r ceisiadauym Mryncarnedd aMaesawelon wedi eu caniatáu.Ceisiadau newydd.Estyniad ac ail newyddu ynThe Willows, Bow Street.Ni ddaeth y cais cynllunio ilaw’r Cyngor yn y lle cyntaf,ond deallir bod y gwaithwedi cychwyn ers tro ac maimater i’r Adran Gynllunioyw datrys y broblem honno.Newid defnydd o ystafellfwyd yn Pendre (Cigydd Peny-garn)i baratoi bwydyddparod i’w cludo allan, dimgwrthwynebiad.Derbyniwyd nifer o lythyrongan gymdeithasau yn diolchac yn gwerthfawrogi’rcyfraniadau a’r cymorth yn yflwyddyn ariannol ddiwethaf.Daeth un cais hwyr oddiwrth Clwb Hoci Bow Streeta phenderfynwyd cyfrannu£100. Dyddiad y cyfarfodnesaf fydd 27 Mawrth.^Salon cwn^Torri cwn i fri safonolGoginanKath 01970 88098807974677458